Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth 2009 yn Big Pit 2 Tachwedd 2009 Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth ym mis Hydref 2009 roedd bardd preswyl Big Pit, Mike Jenkins, yn annog ymwelwyr i gyfrannu at Gerdd Big Pit. Thema Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth oedd arwyr ac arwresau. Ysgrifennodd y cyfranwyr am y bobl arwrol a fu'n gweithio'n galed yn y pyllau glo.Cyfrannodd tair ysgol: Ysgol Gynradd Goetre ym Merthyr Tudful, Ysgol Gynradd Heol y Frenhines yn Abertyleri ac Ysgol Uwchradd Oldbury Wells yn Swydd Amwythig. Rhoddodd Mike gopi llofnodedig o'i lyfr o gerddi i blant Poems for Underage Thinkers i'r dosbarthiadau iau am eu hymdrechion gwiw.Dyma'r oedolion a fu'n barddoni:Mike Tanner o Flaenafon, Justin Hamilton o Kilbirnie, Derek Edmondson o Woodford, Mr a Mrs Gilbert o Little Witcombe a staff Big Pit.Am fwy o wybodaeth am farddoniaeth a rhyddiaith arobryn Mike ewch i www.mikejenkins.net.BIG BIG PIT POEM A communal poem created at Big Pit on National Poetry Day 2009 Underground what will we see? Underground is dangerous Ponies hauled dram after dram Thrusters and hurriers pushing tram after tram Pickers hitting as hard as they can Children crying and crying. The canary was a warning. Lots of water on the ground It was leaking into the pit Getting deeper and deeper. It was dark like night when the lights went out, It was scary. Slippery like water. The cage went fast then slow. Down the pit there were tracks. Struggling by the light of lamps. The axes and sledgehammers were dirty as muddy water. Some were very old. The men were heroes because they worked twelve hard hours. The fireman who risked himself to save his workmate’s face, After a fall, threw himself down to protect his friend. The horses were heroes because they saved people. Masks protected the ponies’ faces, some of the ponies died. Seventy two worked down the mine. Many of them became blind. The miner had to pull the drams. The girls were heroines because they helped. Dad and son worked side by side Deprived of sunlight from day to day. Some men died. Some men cried. Coughing up black dust Working like navvies from dawn till dusk. Mothers sad when there was an explosion. A message home when there’s no hope left Scratched into a bottle. Day and night death always occurred. But everyone pulled together Washing away the day’s toil. A hot bath, joke and a laugh. To the hole in the wall, have a fag Desperate for that first drag. Figures hunched against the driving rain Thirsting for the hoppy nectar To soothe away the pain.
Cert Celf Calan Gaeaf Sian Lile-Pastore, 23 Hydref 2009 Mae'r Cert Celf yn dechrae dydd Sadwrn 24 Hydref ac yn gorffen ar dydd Gwener 30 Hydref o 11 tan 1 a 2 tan 4. Dewch draw i neud lluniau brawychus!
Syr William Reardon Smith (1856-1935) David Jenkins, 15 Hydref 2009 Gall y rhan fwyaf o amgueddfeydd ddiolch un cymwynaswr yn arbennig am newid eu byd; Syr William Reardon Smith oedd y gŵr hwnnw yn achos Amgueddfa Cymru.Fel trysorydd (1925-28) a llywydd (1928-32) yr Amgueddfa, Syr William Reardon Smith fu'n gyfrifol am wyrdroi cyflwr echrydus coffrau'r Amgueddfa, a goruchwylio'r gwaith o gwblhau adain ddwyreiniol fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n rhan annatod o ganolfan ddinesig unigryw Caerdydd.Nid Cymro oedd Reardon Smith; cafodd ei eni i deulu morwrol ym mhentref glan môr Appledore ar arfordir gogledd Dyfnaint ar 7 Awst 1856.Gwas llongPan oedd Syr William yn 3 oed, bu farw ei dad pan suddodd ei sgwner mewn storm ar y môr ger Porth Tywyn. Er gwaethaf hyn, daeth Reardon Smith yn was caban pan oedd yn dal i fod yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd trwy weithio ar longau lleol oedd yn ymwneud â busnesau arfordirol ardal Môr Hafren. Aeth ymlaen wedyn i wasanaethu ar y llongau hwylio oedd yn cludo deunydd i adeiladu rheilffyrdd i UDA a mwyn copr i Chile.Y Capten Reardon SmithAg yntau ond yn 22 oed, daeth yn gapten ar nifer o longau hwylio ac agerlongau, y mwyafrif ohonynt yn eiddo i'r cwmni llongau enwog o'r Alban, Hugh Hogarth of Glasgow. Symudodd i Gaerdydd gyda'i wraig a'i deulu ym 1900.Ym 1905, sefydlodd gwmni i brynu a gweithredu agerlong newydd, y City of Cardiff. Dyma oedd ei wir alwedigaeth. Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol, ac erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ganddo naw agerlong cargo, oll yn allforio glo o'r de.Er iddo golli sawl llong wrth law'r llongau tanfor yn ystod y Rhyfel, daliodd ati i ehangu ei lynges. Erbyn 1930, roedd Reardon Smith yn gyfrifol am dros 35 o longau.Syr WilliamGwnaed Syr William yn farwnig ym 1920, a throdd ei sylw mwyfwy at weithgareddau dyngarol. Sefydlodd Ysgol Forwrol Reardon Smith ym 1921. Pedair blynedd yn ddiweddarach, prynodd fad hwylio mawr, y Margherita, i'w ddefnyddio fel cwch hyfforddi ac fel bad hamdden i'w deulu.Cyfrannodd yn hael at Ysbyty Brenhinol Caerdydd a hefyd at gost adeiladu ysbyty newydd yn Bideford. Gwaddolodd gadair athro yn adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caer-wysg, sy'n dwyn ei enw hyd heddiw.Ond Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd prif ffocws ei haelioni. Rhwng 1915 a 1935, cyfrannodd ef a'i wraig, y Fonesig Ellen, rhyw £150,000 at goffrau'r Amgueddfa.Yn ogystal â'r rhoddion personol yma, gweithiodd yn ddiflino i godi arian o ffynonellau eraill. Er mwyn cydnabod ei gyfraniad, enwyd y ddarlithfa newydd a agorwyd yn adain ddwyreiniol yr Amgueddfa ym 1932 yn Ddarlithfa Reardon Smith.Bu farw Syr William ar 23 Rhagfyr 1935 yn dilyn salwch byr. Mae'r byd yn cofio amdano nid yn unig am ei lwyddiant fel perchennog llongau ond hefyd am ei haelioni neilltuol. Dewisodd wario ei ffortiwn ar newid byd pobl eraill, ac am hynny, mae trigolion de Cymru a gorllewin Lloegr yn ddyledus iddo hyd heddiw.Erthygl gan: David Jenkins.
Helpu Cymru yn ystod y dirwasgiad Michael Houlihan, 13 Hydref 2009 Bore yma, ynghyd a’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mi fyddaf yn lawnsio papur trafod diweddaraf Amgueddfa Cymru – Cyfraniad cadarnhaol i fywyd y genedl yng nghanol dirwasgiad. Mae’r papur wedi datblygu o dros flwyddyn o ymchwil, ac mae’n esbonio sut mae Amgueddfa Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn cefnogi economi Cymru ynghyd a chyrraedd craidd cymdeithas sydd yn gwerthfawrogi ein bod yn amddiffyn ei hunaniaeth unigryw.Y neges glir yr ydym eisiau i bobl Cymru fod yn ymwybodol ohoni ydi ein bod yn fwy na dim ond casgliad o adeliadau ac eitemau. Mae’n gwaith yn digwydd ym mhob cornel o Cymru, drwy ein casgliad allestyn, ein hymchwil a’n gwaith gyda patneriaethau. Rydym hefyd yn cynnig cyfleodd i bobl Cymru fod yn rhan o’n gwaith. Mae nifer o gyfloedd i wirfoddoli, o brofiad gwaith i leoliadau gwaith i wirfoddoli a prentisiaethau sydd yn creu cyfleodd gwerthfawr pam mae drysau eraill yn cau."Rydym hefyd eisiau atgoffa pawb fod mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd cenedlaethol"Rydym hefyd eisiau atgoffa pawb fod mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd cenedlaethol. Ar adeg pan all prisiau mynediad wahaniaethu yn erbyn pobl sydd wedi’u heffeithio waethaf gan y cyni ariannol, rydym ni’n cynnig profiadau fforddiadwy, sy’n codi’r ysbryd y gall pobl eu mwynhau ar eu liwt eu hinain neu gyda ffrindiau a pherthnasau. Cliciwch yma i ddarllen copi o’r papur trafod. Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynnau neu syniadau, fe fyddem wrth ein bodd clywed gennych fel plis gadewch sylw ar y blog. Cofiwch alw nol yma i glywed sut aeth y lawnsiad, ac i glywed sut ymateb gafwyd i’r papur trafod.