Data Tywydd ar gyfer Chwefror Megan Naish, 11 Mawrth 2026 Helo Cyfeillion y Gwanwyn!Gobeithio eich bod wedi cael mis Chwefror hyfryd ac wedi mwynhau parhau â'ch gwaith caled yn casglu eich data tywydd! Mae rhai ysgolion hyd yn oed wedi dechrau cofnodi eu data blodeuo, sy'n wych i'w weld.Roedd mis Chwefror yn fis eithaf gwlyb i lawer o ardaloedd ledled y DU gyda rhai ardaloedd yn gweld mwy na chyfartaledd glawiad y mis cyfan o fewn 14 diwrnod cyntaf y mis, fel yr adroddwyd gan y Met Office. Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau rhanbarthol, gyda'r Alban ac yn enwedig gorllewin yr Alban yn nodi glawiad is na'r cyfartaledd. Roedd y tymheredd hefyd yn amrywiol, gyda'r tywydd yn oerach ar ddechrau'r mis ac yn fwynach tua'r diwedd.Efallai bod rhai ardaloedd wedi profi ychydig o ddiwrnodau o heulwen, sy'n cael ei adlewyrchu yn rhai o'ch sylwadau, a rhai delweddau rydw i wedi'u tynnu o amgylch Sain Ffagan yn ystod y mis! Tybed a welwn ni fwy o heulwen nawr wrth i ni fynd i mewn i fis Mawrth.Beth am i ni edrych ar eich arsylwadau ar gyfer y mis diwethaf, yn ogystal â rhai o'ch diweddariadau blodeuo!Arsylwadau Tywydd:Henllys Church in Wales SchoolIt has been very rainy this weekLammack Primary School Extremely windy and very coldHenllys Church in Wales School It has not been as cold as it has beenIrvinestown Primary School We really loved all the sunny weather we had this weekAthro’r Ardd:Diolch i chi gyd am barhau i ychwanegu'r manylion hyn yn eich sylwadau. Gallwn weld yn bendant y duedd i'r tywydd fynd yn fwynach wrth i ni ddarllen drwy linell amser y sylwadau, sy'n golygu bod ein data yn cyd-fynd ag adroddiadau tywydd eraill! Rwy'n cytuno ag Irvinestown Primary ynglŷn â mwynhau'r ychydig bach o heulwen rydyn ni wedi llwyddo i'w chael!I bob ysgol nad oeddent yn gallu cymryd darlleniadau tywydd oherwydd hanner tymor, peidiwch â phoeni! – ond diolch i chi am wneud sylwadau ar hyn o dan eich uwchlwythiadau 'Dim Cofnod'.Diweddariadau Blodeuo:Llanmartin Primary SchoolOur daffodils in pots are blooming (up against the wall) and those planted in the bed and alongside the pathway in the ground are only just beginning to bloom.Pinehurst Primary SchoolOur lovely daffodils opened today. They look so pretty and really brighten up our school.We have a lovely Crocus. We love the purple colour on it.Lammack Primary SchoolOne of the mystery bulbs flowered on Wednesday. It is a snowdrop.Another mystery bulb is almost flowering. It looks to be deep purple.Leslie Primary School We are so Excited. Out first Crocus has floweredWe were all so excited to see the purple.St Chrysostom's C of E Primary SchoolMany plants daffodils have flowered in the pots Only two have not flowered yet. Daffodils in the ground planter box have also flowered.Mountain Lane SchoolA lovely week in Buckley. It was warm and sunny. We all went to check on the flowers on Friday afternoon. None of the daffodils have flowered yet but several looked ready to pop St Francis' Primary - Aghaderg The pots in the sunnier location of the school grew taller and have opened firstSt Mary's CE Primary - ManchesterOne daffodil has bloomed; the rest are slowly growing still.Athro’r Ardd:Mae'n wych clywed eich bod wedi dechrau gweld eich Cennin Pedr, Crocws a Bylbiau Dirgel yn blodeuo! Mae mor gyffrous gweld eich gwaith caled yn gweithio wrth i chi wylio'ch planhigion yn tyfu o fylbiau bach i flodau bywiog.Mae'n hyfryd gwybod eich bod chi'n teimlo eu bod nhw'n bywiogi ardal eich ysgol, Pinehurst Primary.Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel yn gofalu am eich blodau, Gyfeillion y Gwanwyn.-Y mis hwn (Mawrth) yw ein mis olaf o gasglu data am y flwyddyn hon, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn uwchlwytho popeth rydych chi wedi'i gasglu i'n gwefan erbyn y 27ain. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hyd yn hyn.Athro’r Ardd
Ar daith gyda Cranogwen Norena Shopland, 6 Mawrth 2026 Wrth geisio creu darlun o fywydau pobl, yn enwedig rhai o’r gorffennol, y pethau bach sy’n aml yn dod â nhw'n fyw – broets neu docyn darlith efallai – ac mae dwy eitem yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn sicr yn gwneud hynny. Mae'r ddwy yn perthyn i Cranogwen – enw barddol Sarah Jane Rees (1839–1916), capten llong, bardd, llenor, golygydd ac ymgyrchydd dirwest wnaeth fyw rhan fwyaf o'i hoes yn nhref fechan Llangrannog, Sir Aberteifi. Yno y cafodd hi’i geni, ac oddi yno fe deithiodd hi drwy gydol ei hoes nes dod erbyn troad yr 20fed ganrif yn un o ferched mwyaf adnabyddus Cymru. Dyma hefyd lle roedd hi’n byw gyda’i phartneriaid – Fanny Rees “Phania” (1853-1874) fu farw yn 21 oed, a Jane Thomas (1850-?) sy’n cael ei disgrfio yn y rhan fwyaf o’i datganiadau cyfrifiad fel ‘gweithiwr domestig’, ‘morwyn’ neu ‘glanhawraig’. Byddai Cranogwen yn aml oddi cartref, yn cyfrannu at fyrdd o brojectau ac yn darlithio, ond aeth ar ei thaith gyntaf ym 1866. Roedd hyn flwyddyn ar ôl ennill gwobr farddoniaeth yr Eisteddfod – oedd yn ddadleuol pan ddatgelwyd bod menyw wedi curo’r dynion. Felly, pan ddechreuodd ar ei theithiau roedd hi eisoes yn adnabyddus, fel y nododd un o newyddiadurwyr Y Gwladgarwr:“Fe gofia y darllenydd mai y ferch ieuanc hon a gymerodd y wobr yn Eisteddfod Aberystwyth am y gan i'r Fodrwy Briodasol. Wedi clywed hynny, a deall hefyd bod ein beirdd blaenllaw, megys Islwyn a Ceiriog yn cystadlu, braidd nad oeddwn yn hanner credu fod rhyw 'faw yn y caws' yn rhywle.” [i]Canolbwynt taith Cranogwen oedd ei darlith Ieuenctyd a Diwylliant eu Meddyliau, ond dyma hi’n ddiweddarach yn cynnwys dwy ddarlith arall, Anhebgorion Cymeriad da ac Elfennau Dedwyddwch – pob un yn trafod gwella cymeriad pobl. Gan ei bod hi'n darlithio yn Gymraeg, cafodd y darlithiau sylw yn y wasg Gymraeg a braidd dim sylw yn y wasg Saesneg. Dechreuodd Cranogwen ei thaith yn ardal Aberystwyth, felly gobeithio bod Jane wedi gallu mynd gyda hi i gynnig rhywfaint o gefnogaeth. Ond wrth i’w darlithoedd ddod yn fwy poblogaidd roedd Cranogwen yn teithio ymhellach oddi cartref, ac o fewn deufis daeth bron i fil o bobl i wrando arni yng Nghapel Brynhyfryd Abertawe – tipyn o her i unrhyw un felly gobeithio bod Jane yno i i’w chefnogi.Lledodd y sôn amdani’n gyflym, ac fel y nododd un o newyddiadurwyr Baner ac Amserau Cymru: ‘Nid oes angen yn y byd myned i drafferthu rhoddi canmoliaeth i'r ddarlithyddes hon, o herwydd mae ei henw wedi myned eisoes yn eithaf adnabyddus bron trwy Gymru.[ii]Roedd yn cael ei chanmol ym mhobman gan wneud i un newyddiadurwr feddwl i ddechrau na fedrai fod cystal ag yr oedd pobl yn ei ddweud: ‘a chan ein bod wedi clywed y fath ganmoliaeth iddi, yr oeddym yn dysgwyl ei bod yn dda. Ond ni ddaeth erioed un ddychymyg i galon neb o honom ei bod mor gampus ag y mae, ac mor feistrolgar ar ei gwaith.’ [iii]Dro ar ôl tro cafodd adolygiadau gwych a tyfodd ei darlith awr yn ddwy awr a mwy wrth i bwysigion lleol ymddangos ar y llwyfan ochr yn ochr â hi, gan fynnu siarad hefyd. Heidiai beirdd lleol ati, gan ysgrifennu englynion iddi, a llawer o'r rheini'n cael eu cyhoeddi yn y papurau. Roedd merched hefyd yn dilyn ôl ei throed ac yn camu i’r llwyfan. Roedd hyn yn achosi pryder. Ddylai merched, yn enwedig ‘merched ifanc’ (roedd hi’n 27 ar y pryd) ddim darlithio, meddai’r dynion oedd yn cwyno bod merched yn siarad yn gyhoeddus ynamhriodol. ‘The inhabitants of South Wales,’ meddai'r Cardiff Times, ‘are running wild with the young ladies who are lecturing about the country [and] in the opinion of many eminent men this is going too far. At the recent meeting of the Association of the Calvinistic Methodists held at Caernarvon, the Rev. Henry Rees, and eminent minister, whose name is known through the Principality, spoke against female preachers, and stated that it would be far more becoming in those who are fond of preaching to attend to those duties which belong to their sex. We are glad that a gentleman of Mr Rees’s standing has set his face against this new mania.[iv]‘Ai nid gartref mae lle y merched hyn?’ gofynnodd Seren Cymru 'a ydym yn barod i weled ein heglwysi yn cael eu britho, os nad yn gorlifo â merched yn darlithio.’[v]Anwybyddodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y cwyno, a pharhau i ganmol Cranogwen. Roedd y sgyrsiau fel arfer yn cychwyn am 7pm gyda thocynnau yn 6d (tua £2 heddiw). Roedd y cynulleidfaoedd yn enfawr a nifer yn nodi sut y byddai gwrandawyr yn aml yn eistedd wedi'u cyfareddu am ddwy awr yn nodio mewn cytundeb, cyn rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddi. Nodwyd bod elw bron pob un o'i sgyrsiau yn mynd i dalu dyledion capeli. Parhaodd Cranogwen i deithio drwy gydol 1867 ac mae dyddiad 2 Ionawr ar y tocyn sydd yn Amgueddfa Cymru. Does dim adroddiad papur newydd ar y ddarlith ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, ond gyda cymaint o ddarlithoedd a’r daith erbyn hyn yn flwydd oed, fyddai pob noson ddim yn cael yr sylw. Ym 1869–1870 aeth Cranogwen ar daith i’r Unol Daleithiau gan draddodi'r un math o ddarlithoedd – byddai angen i ni archwilio’r cofnodion mewnfudo i weld a aeth Jane gyda hi. Parhaodd Cranogwen â’i gwaith da ar ôl dychwelyd i Gymru, ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif dechreuodd ymwneud â'r mudiad dirwest, fel llawer o wragedd amlwg eraill. Roedd meddwdod, yn enwedig ymhlith merched, yn endemig wrth iddyn nhw geisio dianc rhag eu bywydau caled, a sefydlwyd nifer o undebau i geisio mynd i’r afael â hyn gan gynnwys Undeb Merched y Rhondda, a sefydlwyd ym mis Ebrill 1901. Roedd y mudiad mor llwyddiannus fe benderfynwyd ei ehangu, a Cranogwen, fel yr Ysgrifenyddes Defnyddol gyda’i chyfeiriad yn Llangrannog, yn allweddol yn newid yr enw i Undeb Dirwestol Merched y De (UDMD). Unwaith eto, roedd Cranogwen yn teithio'n helaeth gyda'r Undeb. Wrth gyrraedd pob tref byddai aelodau’r Undeb yn gorymdeithio drwy’r strydoedd gan gario baneri, cyn aros mewn capel i weddïo, canu emynau a darllen o'r Beibl cyn gwrando ar areithiau gan aelodau blaenllaw. Byddai siaradwyr gwadd hefyd gan gynnwys menywod adnabyddus o Gymru fyddai’n denu'r cynulleidfaoedd yn eu cannoedd. Ar ôl y digwyddiad byddai te a theisen a chyfle i gymdeithasu, arian yn cael ei gasglu, a byddai pamffledi a bathodynnau ar gael i'w prynu. Yn dechnegol, broets yw’r enghraifft yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ac nid yw’n glir ai’r broetsys hyn oedd y bathodynnau fyddai Cranogwen yn eu gwerthu. Erbyn Rhagfyr 1901, roedd canghennau newydd o UDMD yn ymddangos ledled de Cymru ac erbyn i Cranogwen farw ym 1916 roedd 140 o ganghennau ar draws y De.Roedd Cranogwen yn ddiflino, ac allwn ni ond rhyfeddu at ei hegni. Yn ogystal â’i holl weithredoedd da, roedd hi’n esiampl i gymaint o ferched ifanc i fod yn llenorion ac areithwyr, dim ots beth ddwedai’r dynion. Bu farw Cranogwen yn 1916 yn nhŷ ei nith yn Wood Street Cilfynydd, Rhondda Cynon Taf. ‘No other woman enjoyed popularity in so many public spheres'[vi] nododd y Cambrian Daily Leader. Yn anffodus, wyddon ni ddim pryd fu Jane farw, ond gobeithio y bydd y cofiant sydd i ddod gan Jane Aaron yn datgelu mwy. Prin bum mlynedd ynghynt roedd y ddwy yn dal i fyw gyda’i gilydd yn Llangrannog a thŷ yn y dref honno oedd y cyfeiriad a ddefnyddiodd Cranogwen am y rhan fwyaf o’i hoes. Waeth pa mor bell y byddai’n teithio, byddai bob amser yn mynd adref at Jane. Cofeb i Sarah Jane Rees, Llangrannog (WikiCommons) [i]Y Gwladgarwr, 5 Mai, 1866 [ii]Baner ac Amserau Cymru, 14 Ebrill 1866[iii]Cardiff Times, 5 Hydref 1866[iv]Seren Cymru, 4 Ionawr 1867[v]Y Tyst Dirwestol Cyf. XIII rhif. 154 - Hydref 1910[vi]Cambrian Daily Leader, 28 Mehefin 1916
Dathlu Merched sy’n Arwain: Helen Goddard, Cyfarwyddwr Project Ailddatblygu Amgueddfa Lechi Cymru. 6 Mawrth 2026 Dathlu Merched sy’n Arwain: Dyma Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect yn Amgueddfa Lechi Cymru. Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched, rydym yn rhoi’r llwyfan i rai o’r merched anhygoel sy’n siapio dyfodol Amgueddfa Lechi Cymru. Heddiw, rydym yn falch o gyflwyno Helen Goddard, Cyfarwyddwr Prosiect ar gyfer ein rhaglen ailddatblygu. Arwain gyda Phwrpas Fel Cyfarwyddwr Prosiect, mae Helen yn goruchwylio pob agwedd ar ailddatblygiad uchelgeisiol yr Amgueddfa Lechi. Ei rôl yw sicrhau bod y prosiect yn cyflawni ei botensial yn llawn- yn greadigol, yn ddiwylliannol ac o fudd i gymunedau ledled Cymru ac ehangach. “Dwi’n gyfrifol am y prosiect yn ei gyfanrwydd,” meddai Helen, “a sicrhau ei fod yn cyflawni ei uchelgais.” Taith drwy Dreftadaeth Cyn ymuno â’r amgueddfa, bu Helen yn gweithio fel archeolegydd ac archeolegydd cymunedol. Treuliodd lawer o’i gyrfa gynnar yn Ynysoedd hardd y Gogledd a’r Gorllewin yn yr Alban, gan weithio’n agos ag ynyswyr ar brosiectau treftadaeth a chymunedol. Symudodd Helen i Gymru yn 2011 - gyda’r nod o ddysgu Cymraeg - a chafodd ei chymhwyso’n weithwyr amgueddfeydd wrth weithio i Gyngor Sir Conwy. Merched sy’n Arwain y Ffordd Mae Helen yn angerddol dros weld mwy o ferched yn camu i mewn i sectorau sydd yn hanesyddol yn cael eu harwain gan ddynion. Er bod cynrychiolaeth dda o ferched ym maes treftadaeth, mae’r sector adeiladu angen dal i fyny. Ond yma yn yr Amgueddfa Lechi, mae’r darlun yn newid. “Mae gennym nifer o ferched mewn rolau arweinyddiaeth yma,” meddai. “Ein Pennaeth Safle, Elen; y Rheolwr Datblygu Arddangosfeydd, Ulli; ein Curadur, Cadi; a’n Penaethiaid Prosiectau Cyfalaf, Julie a Diane. Maent i gyd yn ferched eithriadol.” Ei chyngor i ferched sy’n dymuno dilyn llwybrau tebyg? “Arwain o’r galon. Ti ddim angen ymddwyn mewn ffordd wrywaidd i arwain. Mae’n iawn i ddangos emosiwn, i gydweithio, ac ymddiried yn dy dîm”. Bywyd y Tu Allan i’r Amgueddfa Tu hwnt i’r Amgueddfa Lechi, mae gan Helen nifer o straeon annisgwyl - gan gynnwys un bennod gofiadwy yn ei bywyd: “Nes i weithio ar gwch pysgota yn Ynysoedd Heibridiau unwaith!” Ysbrydoliaeth gan Ddynes Gryf Mae Helen yn nodi ei mam fel un o’i dylanwadau mwyaf: “Daeth fy mam o deulu o 10 o blant yn byw mewn tlodi gwledig, ond gwnaeth hi greu ei llwybr ei hun. Nath hi fyth roi’r gorau i’r freuddwyd o helpu pobl, ac aeth ymlaen i ddod yn Nyrs Ymarferydd tuag at ddiwedd ei gyrfa.” Diolch am rannu, Helen, mi wyt yn ysbrydoliaeth ac yn arweinydd bendigedig!
Bywyd gwyllt cudd yng ngardd yr amgueddfa 🐝🌿 Josh David-Read, 3 Mawrth 2026 Cyn 2017 roedd gardd ganolog Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ardal dywyll, heb unrhywbeth i ddenu bywyd gwyllt. Yna daeth Gradd GRAFT i droi’r pridd a chreu hafan i fywyd gwyllt mewn ardal goncrid yma yn Abertawe.Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi gweld nifer o rywogaethau o bryfed ac adar yn ymweld â’r Ardd, ac mae rhai wedi ymgartrefi yma yn yr Ardd yn gartref iddynt.Yn Graft nid ydym yn defnyddio unrhyw blaladdwyr, ac rydym yn ceisio datrys problemau gydag atebion naturiol ac organigAr gyfer Diwrnod Bywyd Gwyllt y Byd rwy’n tynnu sylw at rai o’r pryfed a’r adar mwyaf diddorol – a hefyd rhai annifyr – sy’n ymweld â’r Ardd, a sut maent yn effeithio ar y gofod.Brenhiniaeth y compost! 👑🌱 Rydym yn cynhyrchu ein compost ein hunain ar y safle. Dyma’r lle gorau i weld “brenhiniaeth” y domen gompost, a’r pryfed gorau wrth eu gwaith o dorri deunydd organig i lawr yn bridd cyfoethog ar gyfer ein gwelyau tyfu.Mae gennym y mwydyn pridd gostyngedig, sy’n helpu i awyru’r pridd ac yn torri deunydd organig i lawr yn bridd defnyddiol. Mae gennym gannoedd os nad miloedd ohonynt! A oeddech chi’n gwybod bod dros 16 o rywogaethau gwahanol? 🪱Peillwyr 🐝🌼Dyma’r pryfed rydyn ni’n eu caru fwyaf – y peillwyr. Mae’r rhain yn gasgliad o bryfed (ac weithiau adar, ond nid yn ein hachos ni) sy’n cefnogi ein hecosystem.Wrth gwrs mae gennym ein gwenyn mêl, sy’n cael eu rheoli gan Alyson a grŵp o fyfyrwyr o Ysgol Dylan Thomas. Ar eu hanterth mae gennym dros 100,000 o wenyn yn ein cychod gwenyn!Mae gwenyn yn chwarae rhan enfawr mewn bioamrywiaeth fyd-eang a chynhyrchu bwyd, ac rydym yn ffodus iawn o’u cael yma ar y safle. Cadwch lygad ar ein rhaglen ddigwyddiadau am gyfle i’w gweld!Plâu 🐛Bydd pob garddwr yn cael brwydr gyda phryfed – boed gwyfyn y bresych neu wlithod yn bwyta ein cnydau!Ond rwy’n mynd i dynnu sylw at bla gardd llai adnabyddus o’r enw llysiau’r dail (aphids). Pryfed du bach yw’r rhain sy’n casglu mewn miloedd ar blanhigion. Mae aphids yn hoff iawn o’n ffa llydain a’n brocoli.Gallant achosi clefydau mewn planhigion felly mae’n bwysig eu rheoli. Rydym yn defnyddio plannu cydymaith a hefyd cymysgedd o ddŵr a hylif golchi llestri i helpu ein planhigion.Mae gennym hefyd arwr bach ar ffurf y fuwch goch gota, sy’n bwyta aphids ac yn helpu i greu cydbwysedd. A oeddech chi’n gwybod y gallwch brynu buchod coch gota drwy’r post? Doeddwn i ddim! 🐞Adar 🐦Nid wyf yn wyliwr adar, ond pan fyddaf yn gweithio yn yr ardd ac yn gweld adar yn fy nilyn o gwmpas mae’n rhoi tipyn bach o lawenydd i mi.Daethom o hyd i dystiolaeth o nyth yn ein gwinwydden y llynedd. Nid wyf yn siŵr pa rywogaeth oedd hi, ond mae gennym hefyd robin goch preswyl sy’n galw’r ardd yn gartref ac yn ei “thiriogaeth”.Mae robin goch yn hynod diriogaethol ac anaml y byddwch yn gweld mwy nag un ar y tro. Nid ydym wedi rhoi enw ar yr un yma eto – ond efallai y dylem ei galw’n Charles Watkins, ar ôl crëwr awyren Y Robin Goch… 😄Felly tro nesaf byddwch yn ymweld a’r amgueddfa, ewch allan am dro o amgylch ar ardd i weld pa fywyd gwyllt gallwch chi weld.
Casgliad Stiwdio Gwen John yn Amgueddfa Cymru Helena Anderson, 3 Mawrth 2026 Cyflwyniad: Taith Casgliad Stiwdio Gwen JohnYn 1976, gan mlynedd ar ôl geni Gwen John, fe brynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru bron i 1,000 o weithiau'r artist gan ei nai, Edwin. Yn y casgliad roedd llond llaw o baentiadau olew a channoedd o weithiau ar bapur o stiwdio Gwen.Beth yw Casgliad Stiwdio?Casgliad stiwdio yw'r gweithiau sydd ar ôl yn stiwdio'r artist ar ôl iddyn nhw farw.Bu farw Gwen John yn sydyn ym mis Medi 1939, a gadael ei heiddo a'i gweithiau celf i gyd i'w nai. Roedd Ewrop newydd fynd i ryfel a brysiodd Edwin i Baris i ddod â cymaint â phosib o'r gwaith yn ôl i ddiogelwch y DU, cyn dychwelyd am y gweddill ar ôl y Rhyfel. Mae mwyafrif y gweithiau o'r stiwdio nawr yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ond cafodd nifer o weithiau eu gwerthu yn oriel Matthiesen ar Bond Street yn Llundain yn 1946, ac mewn arddangosfeydd diweddarach yn y 50au a'r 60au.Sut Ddaeth y Casgliad i Amgueddfa Cymru?Ar ôl prynu gweddill y gweithiau, daeth Amgueddfa Cymru'n gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o waith Gwen John – casgliad sy'n cynnwys dros 900 darlun, chwe phaentiad olew a nifer o lyfrau braslunio. Cyn hynny, dim ond tri darlun a phedwar o baentiadau Gwen John oedd yn yr Amgueddfa.Paentiadau Anorffenedig yn Datgelu ei ThechnegMae casgliad stiwdio Gwen John yn taflu goleuni ar y gwahanol destunau y gwnaeth hi eu paentio, a'r amrywiaeth o arddulliau y byddai hi'n arbrofi â nhw. Mae Gwen yn bennaf adnabyddus am ei phaentiadau olew cynnil o ferched a menywod yn eistedd, ac oherwydd bod yr esiamplau yn ei chasgliad stiwdio yn anorffenedig, mae'n nhw'n datgelu mwy am ei thechneg. Er enghraifft, mae Proffil Merch (NMW A 148) yn dangos sut fyddai Gwen yn crafu arwyneb y paent lle'r oedd y ferch yn wreiddiol yn gwisgo rhuban. Rhaid ei bod hi wedi'i siomi â'r ymdrech gyntaf, ac wedi ei grafu ymaith er mwyn dechrau eto. Mae Astudiaeth o Ferch Noeth yn Eistedd (NMW A 4928) yn anghyffredin am ei fod yn dangos bod Gwen wedi gweithio o'r ymylon tuag at ganol y gwaith, gan baentio’r wyneb olaf. Gwelwn yn y ddau baentiad hyn hefyd y grwnd anarferol o galchog (yr haen waelod y byddai'r artist yn ei ddefnyddio i orchuddio'r gynfas cyn ychwanegu paent olew). Byddai Gwen yn cymysgu'r grwnd hwn ei hun, a dydyn ni ddim yn gwybod yr union gynhwysion hyd heddiw.Cyfoeth o Frasluniau a Gweithiau ar BapurNodwedd amlycaf y casgliad, fodd bynnag, yw'r cyfoeth o ddarluniau a dyfrlluniau. Tra bod testunau a thechneg llawer mwy bwriadus yn ei phaentiadau, mae gweithiau Gwen ar bapur yn llawn amrywiaeth. Yn eu plith mae tirluniau a golygfeydd stryd, astudiaethau o flodau a choed, brasluniau o gathod a cheffylau, a chopïau o bortreadau ffotograffig. Mae nifer o'r gweithiau yn gyfresi sy'n ailadrodd yr un testun. Gall y rhain fod bron yn unfath (NMW A 15751, NMW A 15752, NMW A 15753), neu'n llawn amrywiaeth lliw a chyfrwng (NMW A 15303, NMW A 15304, NMW A 15305). Testunau Mwyaf Cyffredin: Eglwysi, Ffigurau a Bywyd Bob DyddFfigurau yn yr eglwys yw ei thestunau mwyaf cyffredin ar bapur (NMW A 3811). Byddai hi'n aml yn darlunio'r gynulleidfa yn eglwys y plwyf ym Meudon, gan eu copïo’n ddiweddarach yn y stiwdio gan ychwanegu dyfrlliw a phigment gwyn (NMW A 3611). Y ddelwedd fwyaf cyffredin o lawer yw'r portread o Santes Thérèse o Lisieux a'i Chwaer, Céline, yn blant (NMW A 3536, NMW A 15563, NMW A 15565). Ysbrydolwyd y portread gan ffotograff oedd yn eiddo i Gwen. Ym mhob fersiwn wahanol byddai Gwen yn addasu'r cyfansoddiad, gan ychwanegu a thynnu'r llenni, y papur wal a'r teganau yn y cefndir, arbrofi â graddfa, a newid lliw a phatrwm pob arwyneb yn ei dro. Byddai hi hefyd yn defnyddio lliwiau llawer mwy llachar ar bapur nag y gwnaeth hi erioed yn ei phaentiadau olew.Beth mae'r Casgliad yn Datgelu am Gwen JohnMae casgliad stiwdio Gwen John yn rhoi cipolwg i ni ar grefft un o hoff artistiaid Cymru, ac mae'r cyfuniad o baentiadau anorffenedig, brasluniau a gweithiau ar bapur yn datgelu proses artistig hynod drefnus ac arbrofol. Mae hefyd yn codi'r llen ar ei byd: ei chartref, ei ffrindiau a'i chymdogion, ei chathod hoff, ei diddordeb mewn natur a chrefydd, a'i haddysg gelfyddydol. Dyma adnodd amhrisiadwy sy'n dyst i grefft un o artistiaid enwocaf Cymru yr ugeinfed ganrif.