Popty Georgetown

Yn ogystal â chodi rhesi tai fel rhes Rhyd-y-car, trefnodd y meistr haearn Richard Crawshay i godi tri phopty cymunedol ar gyfer y tenantiaid. Gwaetha'r modd, dymchwelwyd y tri ymhen amser ond mae'r enghraifft hon o Poplar Place, Georgetown, yn union yr un peth. Fe'i gwnaed o rwbel tywodfaen gyda tho o deils cerrig fel y rhai a geir ar bedwar o dai . Byddai drws o slabyn carreg yn cael ei selio â chlai neu ddom da er mwyn cadw'r gwres i mewn.

Ni ddaeth y becws masnachol yn gyffredin yn nhrefi a phentrefi Cymru tan ddechrau'r 20fed ganrif. Felly, roedd disgwyl i wragedd tŷ bobi bara, ar gyfer teuluoedd mawr yn aml, mewn poptai bychain, annigonol. Mewn rhai llefydd, roedd poptai brics cymunedol, mwy o faint, yn cael eu codi mewn mannau cyfleus ar gyfer nifer o dai fel y gallai pawb bobi eu bara eu hunain. Fel rheol, byddai pob teulu'n cael diwrnod pryd y câi ddefnyddio'r popty ond weithiau roedd rhywun yn cael ei benodi i ofalu amdano am dâl e.e. ceiniog am bob torth.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Poplar Place, Georgetown, Merthyr Tudful, Morgannwg
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1800
  • Ail-godwyd yn Sain Ffagan: 1980
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1987
  • Gwybodaeth ymweld