Tŷ Masnachwr Tuduraidd

Daw’r tŷ bychan hwn o ddiwedd yr oesoedd canol o Hwlffordd, Sir Benfro. Mae ei leoliad gwreiddiol ger yr hen gei ar Afon Cleddau yn awgrymu efallai mai cartref masnachwr ydoedd. Mae’r bensaernïaeth gadarn, gyda’r seler fwaog, yn debyg i dechnegau adeiladu cestyll fyddai’n cael eu defnyddio’n aml yn nhai preifat Sir Benfro yn y cyfnod.

Mae’n debyg mai prynu a gwerthu nwyddau a ddeuai drwy harbwr prysur Hwlffordd fyddai’r perchennog. Byddai’r teulu’n byw i fyny’r grisiau lle'r oedd ystafell sengl gyda lle tân agored ar un pen. Roedd tŷ bach ger y tân oedd yn gwacau i gwter y tu allan i’r adeilad. Storfa fyddai’r seler fwaog lle câi nwyddau fel rhaff, pysgod, caws a chasgenni gwin eu cadw cyn eu gwerthu.

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad Gwreiddiol: Stryd Quay, Hwlffordd, Sir Benfro
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 16eg ganrif
  • Symudwyd i Sain Ffagan: 1983
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 2010
  • Visiting information