Canmlwyddiant Ysbyty'r Groes Goch Sain Ffagan
22 Mawrth 2016
,Ganrif union yn ôl, ar 22 Mawrth 1916, agorodd ysbyty yng ngerddi Castell Sain Ffagan - un o gannoedd o ysbytai ategol o dan adain y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cyn y rhyfel yr oedd y Groes Goch ag Urdd Sant Ioan wedi ymuno i greu’r Fintai Gymorth Wirfoddol, neu VAD (Voluntary Aid Detachment). Pwrpas y cynllun oedd hyfforddi gwirfoddolwyr, yn ddynion a menywod, i gynorthwyo’r ysbytai milwrol mewn adeg o ryfel. Yma, yn Sain Ffagan ym 1909 y sefydlwyd y fintai gyntaf o’i fath yng Nghymru ac yn fuan wedi hynny y dilynodd eraill.
Iarlles Plymouth o Gastell Sain Ffagan oedd Llywydd y Groes Goch ym Morgannwg ac roedd ei chyfraniad yn allweddol at weithgarwch y mudiad yn y sir. Cynigiodd hi a’i gŵr, yr Iarll Plymouth, diroedd a gerddi’r Castell ar gyfer digwyddiadau recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr. Arwydd pellach o’u hewyllys da oedd addasu’r Neuadd Wledda yng ngerddi’r Castell yn ysbyty i filwyr. Adeiladwyd y Neuadd yn wreiddiol gan Iarll Plymouth ar gyfer cynnal dathliadau cyhoeddus a theuluol ond roedd yr adeilad mawr yng nghanol y gerddi yn addas iawn ar gyfer ysbyty.
Y Plymouth’s fu’n gyfrifol am ariannu’r rhan helaeth o’r newidiadau angenrheidiol. Agorodd yr ysbyty gyda 30 gwely ac o fewn wythnosau ychwanegwyd 10 gwely arall. Blwyddyn yn ddiweddarach, yn 1917, yr oedd lle i hyd at 70 o gleifion yn yr ysbyty a bu raid adeiladu estyniad a chyfleusterau ymolchi newydd ar eu cyfer.
Gwirfoddolwyr oedd y rhan fwyaf o’r nyrsys yn yr ysbytai ategol, yn aelodau o Fintai Gymorth Wirfoddol y Groes Goch. Roedd staff cyflogedig yn yr ysbytai hefyd, yn cynnwys Pennaeth, Swyddog Cyflenwi a Prif Nyrs. Yn Ysbyty Sain Ffagan, yr oedd y rhan fwyaf o’r staff a’r gwirfoddolwyr yn fenywod lleol, a rhai yn forynion i deulu Plymouth yn y Castell.
Nid oedd gan yr ysbytai ategol y cyfleusterau i drin milwyr gydag anafiadau corfforol difrifol. Trosglwyddwyd rhai o’r cleifion i Sain Ffagan o’r ysbyty milwrol yng nghanol Caerdydd, y 3rd General Western Hospital ac eraill yn syth o’r ffosydd. Ni allwn ddychmygu'r erchyllterau a brofodd y milwyr cyn dod yma i Sain Ffagan. Ganrif yn ddiweddarach, mae’n gysur meddwl am yr ysbyty fel hafan i lawer wrth iddynt ddechrau dygymod â chreithiau corfforol a meddyliol y rhyfel.
Trydar: #Hospital100 #Ysbyty100
sylw - (1)
Regards
Anthony
https://spark.adobe.com/page/bMIP5rLNwAOfu/