Wedi sicrhau bod arddangosfa Dazu yn dod i Gymru - y tro cyntaf erioed iddi fentro i’r Gorllewin – anfonodd yr Amgueddfa fi i Tsieina fel hwylusydd, wyneb cyfeillgar i gyfarfod â’r bobl ac adrodd ar y gofynion logistaidd llawn o gludo’r gwrthrychau sanctaidd yma yr holl ffordd i Gaerdydd.
Dyma ddyddiadur o atgofion y trip:
Po bellaf y teithiwch, y lleiaf y gwyddoch. Mae’r llinell honno o ddysgeidiaeth Tao yn fy atgoffa i anghofio unrhyw ragdybiaethau.
Rwy’n cyrraedd Dazu yn hwyr min nos ac wedi diwrnod cyfan o deithio mewn amrywiol seddi bychan anghyfforddus, rwy’n ddiolchgar i orffen fy nhaith o’r diwedd. Mae fy ngwesteiwyr wedi cyffroi fy mod wedi cyrraedd ac wedi paratoi swper croeso yn garedig iawn. Platiau mawr egsotig a lliwgar yw’r bwyd, prydau crefftus â garnais arbennig.
Platiau di-ri i Susan ddiog, cylch hud o aroglau a blasau anghyffredin sy’n gwneud i mi ddyheu am ollyngdod llwyr. Rwy’n cael fy helpu drwy bob cwrs gyda disgrifiadau manwl. Pryfed sidan, deintgig moch a chynffon rhywbeth! Mwynheais yn barchus fod yn destun digrifwch y noson, gwestai anrhydeddus y wledd gywrain.
Drannoeth dyma fi’n sefyll wrth droed y mynydd â’m gwadnau lledr ar risiau hynafol sydd wedi gweld sawl gwadn dros y canrifoedd. Mae llystyfiant trwchus yn gorchuddio’r copa sy’n gudd mewn mantell o niwl chwareus.
Yn Beishan mae pinacl cerfiadau carreg Tseineiadd, ac mae’r delweddau cyfarwydd o lyfrau bellach yn ddelweddau real artistig ac ysbrydol. Mae mawredd y cerfluniau rhagorol yma a’u hawdurdod cain yn neidio o’r waliau sy’n 10 metr o uchder, gyda phob cilfach yn gartref i olygfeydd gosgeiddig sy’n wych yn eu tywodfaen rhudd. Diwrnod i’w gofio heb os!
Mae’n bryd cwrdd â’r cyfryngau lleol y bore wedyn. Mae arogl gwniadur o wirod gwyn yn dweud cyfrolau am ei flas. Rwy’n gwybod bod yn rhaid i mi ei yfed ar ei ben. Fi yw’r atyniad pennaf heddiw ac mae pawb am gael gair â mi.
Ffilmio ar gyfer teledu Chongqing yw’r dasg gyntaf ac mae erthygl ar dudalen flaen papur lleol Dazu hefyd. Mae’n anodd cofio’r cyfweliadau, profiad swrreal braidd o ryddiaith Saesneg fratiog, drosgynnol wedi’i ddatgan gyda chyffro a syndod. Mae’n rhaid ei bod hi wedi mynd yn iawn a mod i wedi meithrin cyfeillgarwch wrth i giw trefnus ffurfio i rannu gwydryn arall o’r tân gwyn!
Heno yw fy noson olaf yn Tsieina yn anffodus. Rwy’n syllu drwy’r niwl parhaol ar nenlin tyrrau Chongqing sy’n taflu enfys neon dros afon Yangzi. Rwy’n gadael prysurdeb y strydoedd ac arogl huddygl a tofu’n ffrio, ac yn gweld y ddinas yn ei gogoniant o gwch pleser gorlawn.
Mae’r newidiadau creadigol a masnachol anferth sydd ar droed yn Tsieina yn adrodd hanes y newid o wleidyddiaeth rymus i economeg ymarferol. Gall Tsieina a gweddill y byd ddysgu llawer o ddidwylledd China. Rwy’n gadael â lle yn fy nghalon i’r wlad a’i phobl.
Lee Jones, Uwch Dechnegydd, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parcha’r byd fel dy hun
Gall y byd fod yn hafan it
Car y byd fel dy hun
Gall y byd fod yn ymddiriedaeth it.
Gwelwch mwy o luniau Dazu ar Flickr, cewch y newyddion diweddaraf am Dazu ar Facebook a dilynwch @museum_cardiff ar Twitter #dazucymru