Locomotif stêm Richard Trevithick 15 Rhagfyr 2008 Yr atgynhyrchiad o'r locomotif yn ei gartref presennol, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Loco PenydarrenAr 21 Chwefror 1804, rhedodd y daith rheilffordd gyntaf am 9 milltir o weithfeydd haearn Penydarren i Gamlas Merthyr–Caerdydd, gan gyrraedd cyflymder o bron pum milltir yr awr. Aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn bod trenau stêm yn dod yn fasnachol ymarferol, ond does dim amheuaeth nad Trevithick yn hytrach na George Stephenson oedd gwir dad y rheilffyrdd.Ym 1803, aeth Richard Trevithick i weithio gyda Samuel Homfray, perchennog gwaith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Roedd Homfray'n ymddiddori’n fawr yn yr injans gwasgedd uchel yr oedd y dyn o Gernyw wedi eu datblygu a’u defnyddio yn ei injans ffordd.Anogodd Homfray Trevithick i ymchwilio i’r posibilrwydd o osod injan o’r fath mewn locomotif ar y rheilffordd newydd rhwng Penydarren a glanfa’r gamlas yn Abercynon.Richard CrawshayMae’n debyg bod Trevithick wedi dechrau gweithio ar y locomotif yn hydref 1803, ac erbyn Chwefror 1804 roedd wedi ei gwblhau. Yn ôl bob sôn, roedd Richard Crawshay, perchennog y gwaith haearn cyfagos yng Nghyfarthfa, yn amheus iawn o’r injan newydd. Betiodd ef a Homfray 500 gini’r un gyda Richard Hill, o waith haearn Plymouth, p’un a allai’r injan dynnu deg tunnell o haearn i Abercynon a thynnu’r wagenni gwag yn ôl wedyn.Aeth yr injan ar ei thaith gyntaf ar 21 Chwefror, a disgrifiodd Trevithick y daith yn fanwl:‘... ddoe aethom ar ein taith gyntaf gyda’r injan, gan dynnu deg tunnell o haearn mewn pum wagen, a saith deg o ddynion yn teithio arnynt ar hyd y ffordd ... tra ’roedd yr injan yn gweithio, teithiodd bron i bum milltir yr awr; ni roddwyd dŵr yn y boeler o’r cychwyn hyd ddiwedd y daith ... defnyddiwyd dau ganpwys o lo’.Yn anffodus, torrodd bolltyn ar y daith ’nôl a barodd i’r boeler golli dŵr, felly bu’n rhaid gwneud y tân yn llai ac ni chyrhaeddodd yr injan Benydarren tan y diwrnod canlynol. Rhoddodd hyn reswm i Crawshay honni na chyflawnwyd y daith fel y cytunwyd — ond ni wyddom a fu pen ar y mwdwl!Y gwir oedd fod yr injan yn rhy drwm i’r cledrau, ac fe’i defnyddiwyd yn ddiweddarach fel injan sefydlog i yrru morthwyl gefail yng ngwaith haearn Penydarren.Locomotif replicaAdeiladwyd y locomotif replica yn yr Amgueddfa gan ddilyn cynlluniau a dogfennau gwreiddiol Trevithick (sydd bellach yn Amgueddfa Genedlaethol Gwyddoniaeth a Diwydiant). Cafodd ei chwblhau ym 1981, ac yn union fel yr injan wreiddiol, fe dorrodd ar ei rheiliau!Allwn ni ddim orbwysleisio pwysigrwydd locomotif Trevithick. Ym 1800, ar garlam wrth farchogaeth oedd y cyflymaf y gallai dyn deithio dros dir. Ganrif yn ddiweddarach roedd rhwydwaith reilffordd yn cyrraedd cyfran helaeth o'r byd gyda threnau’n teithio’n gyson ar gyflymder o chwe deg milltir yr awr. Yn ne Cymru yn Chwefror 1804 gwelwyd cymal cyntaf y daith honno a weddnewidiodd y byd. The Penydarren locomotive - Steaming DaysFfilm fer yn dogfennu blynyddoedd cynnar y replica o locomotif Richard Trevithick yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Copr 19 Medi 2008 Adfeilion y gweithfeydd copr yn Burra Burra, New South Wales, Awstralia
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Aur 19 Medi 2008 John Davies o Dalsarnau, Gwynedd, gyda'i frawd a'i gyfaill. Reoddynt yn chwilio am aur yn Queensland, Awstralia yn y 188au
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Haearn 19 Medi 2008 Gweithwyr Cymreig yn y gweithfeydd haearn yn Hughesovka. John Hughes yw'r ail o'r dde yn y rhes flaen