Yfed pwnsh yn y ddeunawfed ganrif Rachel Conroy, 28 Ionawr 2011 Ffigwr 2: Powlen bwnsh gilt arian wedi'i dylunio gan Robert Adam a'i gwneud gan Thomas Heming, Llundain, 1771-2. Yn y 1650au y cafodd pwnsh ei yfed gyntaf ym Mhrydain, tua'r un amser ag y dechreuwyd yfed te, coffi a siocled poeth. Erbyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ddiod hynod boblogaidd. Gwneud pwnsh Cai pwnsh ei wneud drwy ddefnyddio cymysgedd o gynhwysion drud wedi'u mewnforio. Rym neu frandi fyddai'r alcohol gyda siwgr, ffrwythau sitrws, sbeis — siafins nytmeg fel arfer — a dŵr wedi'u hychwanegu. Y Fowlen Bwnsh Cai pwnsh ei weini, gan ddefnyddio lletwad cywrain, o bowlenni mawr i wydrau unigol (Ffigwr 1). Un o'r powlenni pwnsh pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw'r un a ddyluniwyd gan Robert Adam ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn (Ffigwr 2). Cafodd ei chomisiynu i ddathlu llwyddiant Fop, ceffyl Syr Watkin, yn Rasys Caer a byddai wedi cael ei arddangos mewn lle amlwg ar ddresel ei gartref ffasiynol yn Llundain. Yfwyd pwnsh yn aml yng nghyfarfodydd clybiau a chymdeithasau a gynhaliwyd mewn tafarndai, tai coffi neu dai pwnsh arbennig fel arfer (Ffigwr 3). Dynion yn unig bron fyddai'n mynychu'r rhain. Mae'n debyg bod yfed pwnsh yn arfer hynod gymdeithasol fyddai'n atgyfnerthu perthynas gymdeithasol. Mae llythyr a gyhoeddwyd ym 1736 yn disgrifio hyn yn huawdl: "...gobeithiwn na fydd dim erioed yn rhwystro Dyn rhag yfed Powlen o Bwnsh gyda Chyfaill, dyna un o'r pleserau mwyaf y byddwn yn ei fwynhau yn y Wlad, yn ail i'n llafur. Ffigwr 3: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810. Arysgrifiad yn dweud 'B, HAWKINS, SHIP SWAN, LONDON', sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn tafarn neu dy pwnsh. Ffigwr 4: Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751', Lerpwl mae'n debyg, 1751. Ffigwr 5: Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen, gan Mortlake o bosib, c. 1794-5. Cai powlenni pwnsh eu gwneud i goffau digwyddiadau arbennig; byddent yn cael eu haddurno ag enwau gildiau neu gymdeithasau, neu symbolau gwrywaidd fel llongau. Mae enghraifft ddiddorol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sydd ag arysgrifiad arni yn dweud 'Edward Jones Scoole Master 1751' (Ffigwr 4) a phaentiad o athro yn darllen gyda'i ddisgyblion. Mae'n hawdd meddwl am Edward Jones yn comisiynu gwrthrych mor bersonol neu yn ei dderbyn fel rhodd. Partïon gwyllt ac anwar Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd poeni mawr am beryglon alcoholiaeth, yn bennaf oherwydd y cyflenwad helaeth a rhad o gin cartref oedd ar gael. Roedd camymddwyn yn cael ei feio'n aml ar yfed pwnsh yn ormodol. Roedd yfed yn ormodol yn gyffredinol yn cael ei gysylltu â dirywiad moesol, a cai partïon pwnsh eu dychanu fel nosweithiau gwyllt ac anwar gan artistiaid y cyfnod. Mae'n debyg daw'r darlun enwocaf o barti pwnsh yw Sgwrs Fodern am Hanner Nos gan William Hogarth, a gyhoeddwyd ym 1732/33. Roedd yn hynod boblogaidd a cyn hir roedd yn cael ei gopïo ar bowlenni pwnsh a llestri eraill a ddefnyddid i yfed a gweini alcohol. (Ffigwr 5). Yfed yn ormodol Mae cofnodion yr Old Bailey yn aml yn cefnogi'r cysylltiad rhwng yfed pwnsh yn ormodol ag ymddygiad anghymdeithasol a throseddol hyd yn oed. Mae hyn yn cynnwys dwyn powlenni pwnsh drud o dafarndai a chartrefi a rhannu powlen o bwnsh gyda dioddefwr cyn eu twyllo. O tua'r 1750au ymlaen, dechreuwyd gweini pwnsh o lestri pwnsh porslen a phriddwaith. Mae ffurf ac addurn y rhain yn debyg iawn i debotau yn aml, ond eu bod yn llawer mwy (Ffigwr 6). Yn wahanol i bowlenni pwnsh agored, roedd llestri pwnsh yn galluogi un gweinydd i reoli'r dogni — fel gyda the. Efallai y byddai pobl wedi ystyried y gweini rheoledig yma yn fwy gwâr a chwaethus na phowlenni pwnsh agored, lle gallai pobl weini eu hunain ac yfed yn ormodol yn hawdd iawn. Roedd poblogrwydd yfed pwnsh ar ei anterth yn nghanol y ddeunawfed ganrif, ond roedd pobl yn dal i'w fwynhau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed powlen bwnsh briddwaith gain ar gyfer John Richardson gan Grochendy Cambrian ym 1845. Ef oedd maer Abertawe'r flwyddyn honno (Ffigwr 7). Mae'n ddiddorol taw comisiynu'r fowlen fel rhodd i'w wŷr newydd-anedig a wnaeth ac mae arfbais Richardson yn addurno'r fowlen. Mae rhan o'r arysgrifiad arni yn tystio i'r mwynhad a gaiff pobl wrth yfed o'r fowlen; 'GAILY STILL OUR MOMENTS ROLL, WHILST WE QUAFF THE FLOWING BOWL'. Ffigwr 6: Llestr pwnsh porslen past meddal, Derby, 1760-2. Ffigwr 7: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, 1845. Llyfryddiaeth: Harvey, Karen. 'Barbarity in a tea-cup? Punch, domesticity and gender in the eighteenth century', Journal of Design History, 21 (3) (2008), tud. 205-21. (anhysbys) 1736 A collection of all the pamphlets that were written pro and con on the British distillery, whilst the act for laying a duty upon the retailers of spirituous liquors, and for licensing the retailers thereof, was depending in Parliament. London. Eighteenth Century Collections Online. Gwefan. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO http://www.oldbaileyonline.org
Dod yn artist yn y ddeunawfed ganrif 8 Hydref 2010 Joshua Reynolds (1723 - 1792), Charlotte (Grenville), Y Foneddiges Williams-Wynn (1754-1830) a'i Phlant. Olew ar gynfas, prynwyd 1998 gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd / Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. NMW A 12964 William Hogarth (1697 - 1764), Llun Sgwrs y Teulu Jones, 1730. Olew ar gynfas. Prynwyd 1996 Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 3978 Richard Wilson (1714 - 1782), Castell Dolbadarn. Olew ar banel, prynwyd 1937. NMW A 72 Yn draddodiadol, bu statws cymdeithasol artistiaid yn isel. I ennill parch darpar gleientiaid, roedd ar artist angen addysg gyffredinol dda, yn cynnwys peth gwybodaeth ynglŷn â geometreg, hanes clasurol a llenyddiaeth. Roedd nifer ohonynt felly'n feibion i bobl broffesiynol neu fasnachwyr dosbarth-canol. I raddau helaeth roedd hyfforddiant artist yn dal i fod yn seiliedig ar y system prentisiaeth draddodiadol. Âi'n ddisgybl i artist profiadol, gan dalu ffi iddo. Yn gyfnewid am hyn dysgwyd sgiliau technegol paratoi paent a chynfasau iddo, a dysgai drwy esiampl a thrwy gyflawni tasgau cyffredin. Sylweddolwyd bod angen hyfforddiant mwy ffurfiol a strwythuredig hefyd, ac roedd nifer o ysgolion darlunio yn Llundain. Mynychodd yr arlunydd Cymreig Thomas Jones ddwy o'r rhain am ddeunaw mis cyn treulio dwy flynedd yn astudio dan adain Richard Wilson. Wedi iddo ennill sgiliau o safon dderbyniol, gallai artist ganfod gwaith fel cynorthwy-ydd cyflogedig, ond byddai'n rhaid iddo sefydlu ei stiwdio ei hun yn y pen draw. Pe bai'n gallu fforddio hynny, roedd cyfnod o astudiaeth dramor yn gam hanfodol yn natblygiad ei yrfa. Aeth bron i ddau gant o artistiaid o Brydain ac Iwerddon i deithio yn yr Eidal yn ystod y ddeunawfed ganrif. Arbenigo Roedd yn rhaid i artistiaid Prydeinig o'r ddeunawfed ganrif ddatblygu sgil arbennig i ddenu cwsmeriaid drwy arbenigo mewn un o blith nifer o 'ganghennau' peintio. Ystyriai damcaniaethwyr mai lluniau hanes, gweithiau â negeseuon moesol, yn aml yn seiliedig ar hen hanes, oedd ffurf 'uchaf' celfyddyd. Mewn gwirionedd bodlonwyd y galw am luniau hanes gan yr Hen Feistri Ewropeaidd a gasglwyd gan gyfoethogion. Portreadwyr oedd y mwyafrif o'r arlunwyr Prydeinig, gan fod bron pawb a fedrai fforddio hynny'n comisiynu portread — mewn miniatur neu mewn sialc neu bensil, os oedd peintiad olew yn rhy ddrud. Yn gyfrwys, sebonai Reynolds ei gleientiaid cyfoethog â chyffyrddiadau yn arddull yr Hen Feistri yn ei bortreadau mawr ohonynt. Datblygodd rhai artistiaid, Hogarth yn arbennig, y darlun ymddiddan o ffigyrau'n rhyngweithio mewn lleoliad domestig neu beintiadau 'ffansi' neu genre o fywyd modern. Enillodd eraill eu lle drwy beintio anifeiliaid, llongau neu flodau. Tyfodd poblogrwydd peintio tirluniau wrth i agweddau pobl at natur newid. O fod yn ddelweddau o lefydd, daeth yn ffordd o fynegi delfrydau ac emosiynau. Roedd Richard Wilson yn arbenigo mewn tirluniau oedd yn cyfleu tawelwch y byd clasurol. Ceisiodd eraill gyfleu prydferthwch a mawredd byd natur. Geni proffesiwn I ennill statws ac arian, bu'n rhaid i artistiaid gefnu ar eu gwreiddiau fel crefftwyr a sefydlu gyrfa broffesiynol. Gwnaethant hyn drwy ddod yn fwy medrus, ond yn arbennig drwy sefydlu clybiau a chymdeithasau. Roedd y rhain yn hyrwyddo buddiannau'r aelodau, yn enwedig trwy arddangosiadau, gan gau allan y rhai nad oedd yn ddigon da. Ym 1768 sefydlwyd yr Academi Gelf Frenhinol gan nifer o artistiaid blaenllaw oedd yn anfodlon â'r Gymdeithas Artistiaid oedd yn fwy o lawer. Roedd aelodaeth yn gyfyngedig a thrwy etholiad yn unig. Eu Llywydd cyntaf oedd Syr Joshua Reynolds (1723-1792), peintiwr portreadau a damcaniaethwr, a gymdeithasai'n rhwydd ag elît y cyfnod. Roedd yr Academi'n hyrwyddo statws proffesiynol artistiaid ac yn darparu hyfforddiant. Gallai llwyddiant yn ei harddangosfa flynyddol sicrhau enw da artist. Cynhaliwyd arddangosfeydd yr Academi Frenhinol yn 'Ystafell Fawr' Somerset House o 1780 ymlaen. Câi'r lluniau eu hongian o'r llawr i'r nenfwd, a'r artistiaid yn cynllwynio i gael eu gwaith 'ar y llinell' - sef lefel llygaid y darpar-brynwyr. Roedd ar artist angen adeilad addas mewn ardal ffasiynol hefyd, er mwyn derbyn cleientiaid ac arddangos ei waith. Roedd y rhain yn ddrud ac yn codi prisiau artist llwyddiannus. Yn ei anterth gallai Reynolds godi £200 am bortread maint llawn, swm oedd bryd hynny'n gyflog blynyddol i berson dosbarth-canol.
Celf yn yr Eidal 1500-1700: Y Dadeni 28 Medi 2010 Cima da Conegliano (1459 - 1517), Y Forwyn a'r Plentyn, olew ar fwrdd, tua 1500, prynwyd, 1977, NMW A 240 Gweithdy Alessandro Botticelli (1447 - 1510), Y Forwyn yn addoli'r Plentyn gyda'r Sant Ioan Ifanc, olew ar fwrdd, cymynrodd gan Gwendoline Davies, 1952. NMW A 241 Amico Aspertini (c.1474 - 1552), Y Forwyn a'r Plentyn rhwng y Santes Helena a Sant Ffransis, olew ar banel, prynwyd 1986, NMW A 239 Nicolas Poussin (1594 - 1665), Darganfod Moses, 1651, olew ar gynfas, prynwyd, 1988 ar y cyd â'r Oriel Genedlaethol, Llundain, gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol / Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 1 Claude Gellée, Le Lorrain (1600 - 1682), Tirlun gyda Sant Philip yn bedyddio'r Eunuch 1678, olew ar gynfas, prynwyd 1982 gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd. NMW A 4 O'r bedwaredd ganrif ar ddeg i'r unfed ganrif ar bymtheg, datblygodd ysgolheigion ac artistiaid yr Eidal ddiddordeb newydd yn niwylliannau hynafol Gwlad Groeg a Rhufain. Aeth penseiri ac artistiaid ati i ail-greu a gwella'r hen fyd drwy ddefnyddio arddull glasurol ar gyfer adeiladau, addurniadau, darluniau a cherfluniau. 'Y Dadeni' yw ein henw ni ar y cyfnod hwn. Fflorens oedd canolbwynt y Dadeni yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif. Hi oedd canolfan ariannol Ewrop a dinas fwyaf llewyrchus yr Eidal. Gyda chefnogaeth y Medici a theuluoedd blaenllaw eraill, ffynnodd y celfyddydau. O dipyn i beth, lledaenodd y Dadeni i daleithiau dinesig eraill yr Eidal, i ddinasoedd mawr fel Fenis a Milan yn y gogledd, a dinasoedd llai fel Mantua ac Urbino. O ddiwedd y bymthegfed ganrif ymlaen, bu artistiaid Fflorentaidd fel Leonardo, Michelangelo a Raphael yn gweithio i gyfres o Babau yn y Fatican yn Rhufain. O ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, dechreuodd syniadau'r Dadeni ledaenu i weddill Ewrop, yn arbennig Ffrainc, yr Iseldiroedd a'r Almaen, ac yn ddiweddarach i Brydain. Byddai artistiaid yn teithio dramor i chwilio am waith a rhannu syniadau, a chynorthwyodd y dechnoleg argraffu newydd i ledaenu arddulliau'n gyflym. Arddull a Symbolaeth Celfyddyd Gwlad Groeg a Rhufain glasurol oedd prif ysbrydoliaeth artistiaid y Dadeni. Roeddent hefyd yn ceisio gwella arni, er enghraifft drwy berffeithio'r system newydd ar gyfer persbectif llinol. Mae portreadau peintiedig ac allorluniau, delwau wedi'u cerfio a'u castio, oll yn dangos modd yr artistiaid o astudio cerfluniau, gemau, darnau arian a medalau'r hen fyd. Defnyddiai'r penseiri nodweddion o hen adeiladau Rhufeinig — colofnau, bwâu, cromenni — mewn ffyrdd newydd ac anturus. Cynhyrchwyd amrywiaeth eang o wrthrychau bob dydd, o gadwynau i wydrau gwin, er mwyn creu naws glasurol ym mywydau'r cyfoethogion. A châi'r rhain eu haddurno â motiffau o ffynonellau hynafol. Byddai elît addysgedig y Dadeni'n prynu gweithiau celf fel symbol o'r rhinweddau cymdeithasol a diwylliannol yr oeddent wedi eu hetifeddu o'r hen fyd. Byddent yn arddangos crefftwaith modern — crochenwaith maiolica, gwydr, darluniau, medalau a ffurfiau efydd — ochr yn ochr â hen bethau clasurol. Rhoddwyd gwerth mawr ar gyfeiriadau clasurol mewn testunau ac mewn addurniadau, yn ogystal â defnydd medrus o ddeunyddiau. Yn ddiweddarach yn yr unfed ganrif ar bymtheg, datblygodd arddull o orliwio a elwir yn Ddarddulliaeth. O tua 1600 ymlaen, daeth arddull mwy dramatig ac emosiynol y Baróc i'r amlwg — oedd yn addas iawn i hyrwyddo themâu crefyddol y Gwrthddiwygiad Catholig. Tirlunwyr y Gogledd yn Rhufain Sbardunodd y Dadeni werthfawrogiad a diddordeb cynyddol ym myd natur. Defnyddiwyd tirluniau'n aml fel cefndir i beintiadau crefyddol. Yn raddol fe ddaeth peintio tirluniau yn fwy derbyniol fel celfyddyd yn ei rhinwedd ei hun yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, daeth tirluniau'n fwyfwy poblogaidd, er bod straeon clasurol neu Feiblaidd yn dal i fod yn y blaendir yn aml. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, heidiodd arlunwyr i Rufain o bob rhan o Ewrop. Cawsant eu denu yno gan brydferthwch ei chefn gwlad a'i hadfeilion clasurol. Yr arlunwyr hyn a ddatblygodd yr arddull a elwid yn dirluniaeth glasurol. Byddai'r arlunwyr Ffrengig, Claude Lorraine a Nicolas Poussin, yn darlunio natur yn llonydd a rhamantus, gan osod pob coeden a chraig yn ofalus i greu cyfanwaith delfrydol a chytbwys. Sut ddaeth y gweithiau celf hyn i Gymru? Gwyddom fod ambell i beintiad Ewropeaidd i'w gael yng nghartrefi Cymru yn hanner olaf yr ail ganrif ar bymtheg. Erbyn y 1770au roedd casglu gweithiau celf wedi ennill ei blwyf fel un o ddifyrion y bonedd. Byddai tirfeddianwyr o Gymru, fel Syr Watkin Williams-Wynn , yn prynu peintiadau Eidalaidd, Ffrengig ac Iseldiraidd o'r ail ganrif ar bymtheg. Byddent hefyd yn prynu hynafiaethau clasurol, ac yn comisiynu gwaith gan artistiaid tramor. Yn sgil diwydiannu yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, crëwyd cyfoeth a chasglwyr celf newydd, gan gynnwys Gwendoline a Margaret Davies , sydd efallai'n fwy adnabyddus am eu casgliad o beintiadau Argraffiadol. Dechreuodd pobl ail-ymddiddori yn hen gelfyddyd y Dadeni. Bydd rhai o'r peintiadau gan yr Hen Feistri yn Amgueddfa Cymru, yn hongian mewn plastai gwledig yng Nghymru ar un adeg. Casglwyr o Gymru gyflwynodd rhai eraill o'r gweithiau i'r Amgueddfa. Maent yn adrodd hanes difyr am y modd y mae cenedlaethau o bobl wedi gwerthfawrogi celf yng Nghymru.
Pan oedd yfed te yn arfer ffasiynol, drud Rachel Conroy, 25 Mehefin 2010 Ffigur 1: Tebot porslen Tsieineaidd, tua 1700-20. Ffigur 2: Powlen de a soser Dsieineaidd, tua 1760-70. Ffigur 3: Tebot llestri hufen, Crochendy Leeds, tua 1775. Ffigur 4: Powlen drochion, Swydd Stafford, 1740au. Ffigur 5: Manylyn o William Hogarth, 'Industry and Idleness: The Industrious 'Prentice Married', 1747 Ffigur 6: Jwg hufen, porslen Tsieineaidd, tua 1771. Rhan o set o lestri te a wnaed ar gyfer Penry Williams (1714-1781) o Benpont, Aberhonddu. Ffigur 7: Powlen de a soser borslen, Worcester, 1755-8 Ffigur 8: Tegell, stand a lamp sy'n llosgi gwirod gan Robert Watts, 1711-12. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd yfed te yn weithgarwch hynod ffasiynol ymhlith byddigions cefnog. Cafodd te ei fewnforio am y tro cyntaf i Brydain o Tsieina yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg gan yr East India Company. Ar y cychwyn, ei newydd-deb oedd yn apelio a chafodd ei hyrwyddo am ei nodweddion iachusol. Te gwyrdd Y te mwyaf cyffredin oedd bohea, math o de du, ond roedd te gwyrdd yn boblogaidd hefyd. Ar y cychwyn, yfwyd y te yn wan heb laeth, gan ddilyn traddodiad Tsieina. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llaeth neu hufen a siwgr. Tebotau a chistiau te (dan glo) Dim ond y bobl fwyaf cyfoethog oedd yn gallu fforddio te. Roedd yn cael ei gadw mewn cistiau te dan glo a oedd yn cael eu rheoli gan foneddiges y tŷ. Roedd morwynion domestig yn derbyn lwfans te fel rhan o'u cyflog. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, bu cynnydd aruthrol mewn nwyddau'n ymwneud â the, ac mae sawl enghraifft dda yn y casgliad celfyddyd gymhwysol yn Amgueddfa Cymru. Ar y cychwyn, gwnaed y nwyddau hyn o ddeunyddiau drud iawn, yn enwedig arian a phorslen wedi'i fewnforio o Tsieina (ffigurau 1 a 2). Yn ddiweddarach, wrth i cerameg a phlât arian rhatach gael eu cynhyrchu, dechreuodd y dosbarth canol efelychu arferion y bobl gefnog (ffigur 3). Daeth yfed te yn fwy cyffredin tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn dilyn dileu dyletswyddau mewnforio ym 1784, daeth te yn rhan bwysig o ddeiet pobl dlawd. Te prynhawn Roedd difyrru ffrindiau trwy gynnig te prynhawn yn rhan bwysig o fywydau menywod. Roedd dewis gwrthrychau ar gyfer y bwrdd te yn hollbwysig. Wrth ymweld â Lloegr ym 1784, nododd y Duc de Rochefoucauld fod yfed te yn rhoi cyfle i bobl gyfoethog ddangos eu gwychder trwy debotau, cwpanau ac ati (dyfynnir yn Clifford 1999: 161). Disgwyliwyd i westeion fod yn foesgar ac ymddwyn mewn ffordd arbennig, gan gynnwys siarad am bynciau boneddigaidd fel y celfyddydau, theatr a cherddoriaeth. Powlenni te Am y rhan fwyaf o'r ddeunawfed ganrif, yfwyd te yn y dull Tsieineaidd, o bowlen heb ddolen. Galwyd y powlenni hyn yn "ddysglau te" neu "basons". Mae'r bowlen drochion fendigedig hon, a ddefnyddiwyd wrth y bwrdd i rinsio gwaddodion o bowlenni te, yn dangos tair menyw yn mwynhau te gyda'i gilydd (ffigur 4). Fel arfer, dangosir y powlenni hyn yn cael eu dal gyda'r bysedd ar yr ymyl a'r bawd o dan y gwaelod (ffigur 5). Allforion o Tsieina Roedd powlenni a thebotau porslen yn cael eu hallforio gyda'r te. Roedd eu tryleuedd a'u harwynebau gwynion yn apelio'n arw at bobl, ac roeddent yn cael eu casglu'n frwd. Dechreuodd cynhyrchwyr porslen Tsieina wneud gwrthrychau'n arbennig ar gyfer y farchnad Ewropeaidd, megis standiau tebotau, jygiau llaeth, basnau siwgr, hambyrddau llwyau a phowlenni trochion (ffigur 6). Ar ôl iddyn nhw ddeall y gyfrinach o gynhyrchu porslen, dechreuodd ffatrïoedd yn Lloegr ac ar y Cyfandir gynhyrchu llestri te Tsieineaidd (ffigur 7). Tegellau ac yrnau Roedd tebotau'n cael eu llenwi gan degellau dŵr poeth ar standiau crand neu fersiynau llai ar fyrddau, gyda llosgwyr i gadw'r dŵr yn boeth (ffigur 8). Tua'r 1760au, cafodd y tegellau eu disodli gan yrnau te a oedd yn cael eu twymo gan losgwyr golosg ac, o'r 1770au ymlaen, barrau haearn a oedd yn cael eu gosod mewn "llawes" yn yr wrn (ffigur 9). Roedd y "ceginau te" neu'r "ffynhonnau te" hyn yn galluogi pobl i helpu eu hunain i'r te ar achlysuron llai ffurfiol fel brecwast. Roedd gan yr enghreifftiau mwyaf coeth yrnau ychwanegol ar gyfer coffi a dŵr poeth. Dirywiad moesol a chorfforol Roedd agweddau tuag at yfed te yn y ddeunawfed ganrif yn gymysg iawn. Cafodd yr obsesiwn o gasglu llestri te ei feirniadu gan sylwebwyr cymdeithasol, gyda menywod yn cael eu targedu amlaf. Yn ogystal, honwyd yn aml nad oedd te prynhawn yn ddim mwy na chyfle i fenywod hel clecs neu ymffrostio. Cyhoeddwyd cerdd ddychanol, The Tea-Table, gan 'Moses Oldfashion' yn Mist's Weekly Journal ym 1722: M"...Chief Seat of Slander! Ever there we see Thick scandal circulate with right Bohea. There, source of black'ning Falshoods! Mint of Lies! Each Dame th'Improvements of her Talent tries, And at each Sip a Lady's Honour dies". Er y credwyd ar y cychwyn bod te yn llesol i iechyd mewn sawl ffordd, dechreuodd rhai sylwebwyr cymdeithasol boeni y gallai ei boblogrwydd arwain at ddirywiad corfforol. Ym 1753, aeth Mr Andree ati i ddisgrifio peryglon yfed gormod o de, gan nodi ei fod yn niweidiol iawn, yn gwaethygu epilepsi ac yn achosi pyliau gorffwyll. Aeth ymlaen i adrodd stori merch a oedd wedi bod yn bwyta te am rai wythnosau, gan achosi parlys ar ei hwyneb a chonfylsiynau (ffigur 10). Yn ffodus, ni effeithiodd y gwrthwynebiadau hyn ar chwant pobl Prydain am de, ac mae wedi parhau'n rhan bwysig o'n bywydau bob dydd hyd heddiw. Er nad yw yfed te yn arfer mor ffurfiol heddiw ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, mae'n parhau i gael ei fwynhau a'i rannu gan filiynau o bobl bob dydd. Awdur yr erthygl: Rachel Conroy: Cynorthwy-ydd Curadurol - Celfyddyd Gymhwysol Cyfeiriadau Andree, John. Cases of the epilepsy, Hysteric Fits, and St. Vitus's Dance, with the process of cure: interspersed with practical observations. To which are added, cases of the bite of a mad dog, and a method that has been found successful. The second edition, with emendations and additions in the introduction, and some new cases and Inspections of Dead Bodies (1753). Llundain: argraffwyd ar gyfer W. Meadows a J. Clarke, yn Cornhill. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO Clifford, Helen. 'A commerce with things: the value of precious metalwork in early modern England', yn M. Berg a H. Clifford (gol.) (1999) Consumers and Luxury: Consumer Culture in Europe 1650-1850, tt. 147-169. Manceinion: Manchester University Press. Oldfashion, Moses. 'The Tea-Table', yn (awdur anhysbys) A collection of miscellany letters, selected out of Mist's Weekly Journal (1722): 224-227. Llundain: argraffwyd ar gyfer N. Mist, yn Great Carter-Lane. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO Ffigur 9: Wrn te gan Paul Storr, 1805-6. Ffigur 10: Jar neu dun te, Abertawe, 1783.
Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru Andrew Renton, 6 Ionawr 2010 1: Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri. Cafodd ei gwneud yn Gestingthorpe, Suffolk, ym 1680. Prynwyd ym 1904. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad rhagorol o grochenwaith o Loegr a ddechreuwyd adeg sefydlu'r Amgueddfa. Mae'n parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. Dechreuodd hen Amgueddfa Drefol Caerdydd gasglu gwaith cerameg ym 1882, gyda'r nod o ddatblygu'r casgliad gorau posibl o grochenwaith a phorslen o Gymru. Erbyn 1895 credai'r Amgueddfa ei bod yn meddu ar y casgliadau gorau a mwyaf cynrychiadol o'u math yn y byd, a dechreuodd gyfeirio'i sylw at feysydd newydd, gan gynnwys cerameg o Loegr a'r cyfandir. Ym 1896 gwnaed Robert Drane yn guradur anrhydeddus. Roedd yn gasglwr brwd ar borslen Caerwrangon, ac ef hefyd a oedd wedi dewis yr eitemau porslen Cymreig cyntaf i'r Amgueddfa eu prynu. 2: Tebot hufenwaith gydag addurn wedi'i argraffu a'i enamlo ar thema sêr-ddewiniaeth. Cafodd ei wneud gan William Greatbatch, Swydd Stafford, tua 1778. Prynwyd ym 1902. 3: Dysgl crochenwaith slip yn dangos eryr â dau ben. Cafodd ei gwneud gan Ralph Toft, Swydd Stafford, tua 1663-88. Prynwyd ym 1903. 4: Mwg crochenwaith caled â gosodiad arian, wedi'i enamlo ag arfbais Farmer, Fulham, 1706. Prynwyd ym 1903. 9: Jwg berlwaith wedi'i henamlo a wnaed yng Nghrochendy Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1800. Cymynrodd gan Ernest Morton Nance, 1953 10: Fâs o grochenwaith caled basalt â darlun llosgliw. Cafodd ei gwneud gan Wedgwood a Bentley, tua 1775-85. Rhodd gan Mr a Mrs F. E. Andrews, 1934 11: Ffigwr priddwaith o Alexandra, Tywysoges Cymru (1844-1925), a wnaed yn Swydd Stafford tua 1862. Cymynrodd gan Mrs H. de C. Hastings, 1995 12: Tebot hufenwaith wedi'i baentio dan y gwydredd mewn glas a manganîs. Cafodd ei wneud gan Enoch Booth, Swydd Stafford, tua 1743. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 Sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru Ar yr adeg hon roedd Amgueddfa Drefol Caerdydd hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu amgueddfa genedlaethol i Gymru, a'i huchelgais oedd datblygu i fod y sefydliad newydd hwnnw. Ym 1902 cyfeiriodd at y ffaith fod ei chasgliadau yn tyfu'n fwyfwy cenedlaethol eu natur, ac felly dechreuodd ddatblygu ei chasgliad o grochenwaith o Loegr. O'r Canoloesol i'r diwydiannol Câi pob rhan o'r traddodiad crochenwaith yn Lloegr ei chynrychioli, o grochenwaith diwedd y canol oesoedd, i grochenwaith caled, slip a Delft yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, i ddarnau wedi'u cynhyrchu trwy'r dulliau diwydiannol a gyflwynwyd yn Swydd Stafford o ganol y ddeunawfed ganrif. [lluniau 1-2] Dyma rai o'r eitemau eithriadol: dysgl crochenwaith slip prin a godidog o'r ail ganrif ar bymtheg gan Ralph Toft o Swydd Stafford [llun 3] mwg pwysig o grochenwaith caled wedi'i enamlo ag arfbais Farmer â'r dyddiad 1706 arno [llun 4] dysgl hynod, o grochenwaith Delft. Cafodd ei gwneud yn Brislington ym 1680, ac mae'n dangos dau sgweier o Wlad yr Haf a oedd wedi herwgipio efeilliaid cyswllt i'w harddangos, er mwyn codi arian. [llun 5] Roedd balchder yr Amgueddfa yn yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn amlwg. Mewn adroddiad a ysgrifennwyd ym 1905 ar y ddysgl crochenwaith Delft o Brislington, mae'n nodi mai ychydig iawn o'r dysglau hyn a oedd yn bodoli, ac mai'r enghraifft hon yng Nghaerdydd, o bosibl, oedd y gorau ohonynt. 5: Dysgl o grochenwaith Delft a wnaed yn Brislington ger Bryste, tua 1680. Prynwyd ym 1904 6: Tebot crochenwaith caled rosso antico a wnaed gan Wedgwood, Swydd Stafford, tua 1810-20. Rhodd gan Wilfred de Winton, 1903. 7: Jwg gwrw o berlwaith, gydag arysgrif i John Hughes o Lansamlet ger Abertawe. Mae'n debyg iddi gael ei gwneud gan Ralph Wedgwood yn Burslem, Swydd Stafford, neu Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1790-1800. Rhodd gan W S de Winton ym 1904 8: The New Marriage Act, mewn perlwaith. Er mai'r gred, pan y'i prynwyd, oedd iddo gael ei wneud yn Abertawe, cafodd ei wneud mewn gwirionedd yn Swydd Stafford tua 1825. Prynwyd ym 1941 Wilfred de Winton Roedd y banciwr Wilfred de Winton yn cefnogi'r ymgyrch dros gael amgueddfa genedlaethol, a rhoddodd ei gasgliad enfawr o borslen iddi yn ddiweddarach. Roedd ei roddion o grochenwaith o Loegr yn cynnwys jwg gwrw ddoniol o berlwaith, wedi'i mowldio ag wynebau yn dangos gwahanol gamau meddwdod. Mae'r handlen ar ffurf morfab yn edrych i mewn i'r jwg. [ill. 6-7] Y gred ar y pryd oedd i'r jwg hon gael ei gwneud yng nghrochendy lleol Cambrian, ond mewn gwirionedd mae'n un o'r nifer o ddarnau o Gymru yn y casgliad y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod o Loegr. [llun 8] Ernest Morton Nance Ym 1953 rhoddodd Ernest Morton Nance ei gasgliad o waith cerameg Cymreig i'r Amgueddfa yn ei ewyllys. Roedd Nance yn arbennig o falch o'i jwg 'Crochenwaith Cambrian'. Credai mai golygfeydd o grochendy yn Abertawe a baentiwyd arni, ond mewn gwirionedd mae'n debygol mai yng nghrochendy Ralph Wedgwood yn Ferrybridge y gwnaed hon hefyd, tua'r flwyddyn 1800. [llun 9] 13: Powlen gwaddodion/slops o grochenwaith caled wedi'i fowldio o slip a'i wydro â halen. Cafodd ei gwneud yn Swydd Stafford tua 1740. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 14: Tebot crochenwaith caled coch ag addurn chinoiserie wedi'i fowldio. Cafodd ei wneud yn Swydd Stafford tua 1760-65. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 15: Dysgl briddwaith wedi'i phaentio mewn lystar coch ac aur gan William de Morgan, tua 1881. Prynwyd ym 1994 16: Fâs briddwaith wedi'i phaentio â llaw. Cafodd ei dylunio gan Frank Brangwyn ar gyfer Royal Doulton, tua 1930-35. Prynwyd ym 1972 Y casgliad yn parhau i ehangu Mae'r casgliad o grochenwaith o Loegr yn parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. [llun 10] Trwy gymynroddion, derbyniwyd casgliadau helaeth o grochenwaith lystar (yr Arglwydd Boston, 1942), cloriau potiau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Miss E. A. Nicholl, 1981) a ffigyrau o Swydd Stafford o gyfnod y Frenhines Victoria (Mrs H. Hastings, 1995). [llun 11] Ym 1994 roedd rhodd W. J. Grant-Davidson, a oedd yn ysgolhaig ym maes crochenwaith Cymru, yn cynnwys darnau diddorol o Swydd Stafford. Y mwyaf diddorol oedd enghraifft gynnar a phwysig o debot hufenwaith a wnaed gan Enoch Booth tua'r flwyddyn 1743. [lluniau 12-14] Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn casglu crochenwaith modern, ac mae wedi prynu enghreifftiau fel dysgl lystar gan William de Morgan a fâs Royal Doulton a ddyluniwyd gan Frank Brangwyn. [lluniau 15-16] Cafwyd darnau modern eraill o Gasgliad Allestyn yr Amgueddfa, er enghraifft dyluniadau o'r 1930au gan y pensaer Keith Murray ar gyfer Wedgwood ac, yn arbennig, rhodd hael gan Mick Richards, sef casgliad ardderchog o waith cerameg Susie Cooper. [llun 17] Mae'r casgliad yn parhau i ehangu, a phrynwyd eitemau fel tebot hufenwaith o tua 1765, sy'n coffáu'r gwleidydd radical John Wilkes. [llun 18] 17: Fâs briddwaith wedi'i chreu ar droell a'i hendorri. Cafodd ei gwneud gan Grochendy Susie Cooper, tua 1932. Rhodd gan Mick Richards, 2003 18: Tebot hufenwaith yn dathlu John Wilkes. Mae'n debyg y cafodd ei wneud a'i enamlo yn Swydd Stafford tua 1763-68. Prynwyd yn 2009 Awdur: Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol