: Sgrinwyna

bridiau prin yn Sain Ffagan

Bernice Parker, 17 Chwefror 2015

Mae gennym 3 brid o ddefaid yn Sain Ffagan ac maen nhw i gyd ar y Rhestr o Fridiau Prin:


Brid prin:
enw: brid prin
Grwp (o anifeiliaid, planhigion, &c.) o un rhywogaeth a chanddynt nodweddion arbennig (yn enwedig rhai wedi eu datblygu’n ddethol gan ddyn).


Ffynhonnell: Geiriadur Prifysgol Cymru

Chewch chi ddim arian da – na chyflym – gan fridiau traddodiadol, yn wahanol i fridiau masnachol modern, ond yn aml mae ganddynt nodweddion sydd wedi addasu i amgylchiadau penodol, fel gwytnwch, gwrthsefyll afiechydon neu barodrwydd i weithio’n galetach i ddod o hyd i fwyd! Efallai na fydd pob brid yn cynnig popeth i’r ffermwr modern, ond maen nhw’n rhan o’r catalog o ddeunydd genetig sy'n angenrheidiol i ddiogelu a sicrhau dyfodol cynaliadwy i ffermio Cymreig.


Felly os ydych chi eisiau dysgu mwy am y defaid hyn, dyma’r lle i chi!
Barod am gêm o Bingo’r Bridiau Prin?


Defaid Mynydd Maesyfed (brid ‘dan fygythiad’)

Dafad Hill Radnor - un o'n bridiau prin yn Sain Ffagan


Mae’r defaid hyn wedi eu datblygu dros flynyddoedd i fyw ar fryniau Maesyfed ac maent yn nodweddiadol o’r hen ddefaid Cymreig wyneb melyn oedd arfer crwydro’r bryniau. Mae cyfeiriad at y brid cyn bell yn ôl ag 1911 a chafodd Cymdeithas Frid ei sefydlu ym 1949. Mae’r rhan fwyaf o'r brid yn dal i fod yn ardal Maesyfed a Brycheiniog, ac ychydig iawn o breiddiau sydd yng ngweddill y DU.
Prif nodweddion:
Maint: Canolig, dafad 50-55kg, hwrdd 70-80kg
Edrychiad: Brid mynydd ond yn fwy na Dafad Fynydd Gymreig. Gwlân gwyn, trwchus ac wyneb tywyll nodweddiadol a thrwyn eryraidd. Defaid yn foel, cyrn gan yr hyrddod.
Gwytnwch: Gwydn, wedi addasu i fyw ar fryniau. Gallu goroesi ar borfa wael.

Defaid Llanwenog (brid ‘lleiafrifol’)

Dafad Llanwenog - un o'n bridiau prin yn Sain Ffagan


Dafad yn tarddu o groesiad rhwng dafad Swydd Amwythig a bridiau amrywiol wyneb-ddu o ddyffryn Teifi ar ddiwedd y 19eg ganrif. Cafodd Cymdeithas Frid Llanwenog ei sefydlu ym 1957. Mae’r brid yn dal wedi’i leoli yng ngorllewin Cymru ond maen nhw wedi lledaenu dros y DU. Maent yn werthfawr iawn am eu gallu i oroesi mewn ardaloedd mynyddig, llwm yn ogystal â gwneud y gorau o borfa fras y tiroedd is.
Prif nodweddion:
Maint: Canolig, dafad 55-60kg, hwrdd 80-90kg
Edrychiad: Dafad â chydbwysedd da gyda gwlân gwyn trwchus a chudyn nodweddiadol uwch y pen. Mae’r pen a’r clustiau’n ddu.
Gwytnwch: Mae peth gwytnwch mewn defaid Llanwenog diolch i’w disgynyddion ond maent yn well ar borfa is.


Defaid Mynydd Duon Cymreig (dafad sy’n ffynnu – hwre!)

Dafad Mynydd Duon Cymreig - un o'n bridiau prin yn Sain Ffagan


Amrywiad trawiadol ar y Ddafad Fynydd Gymreig, oedd yn digwydd o bryd i’w gilydd mewn preiddiau o Ddefaid Mynydd Cymreig gwyn. Ym 1920 cafodd Cymdeithas y Defaid Mynydd Duon Cymreig ei sefydlu i gofrestru’r brid fel un ar wahân i’r Defaid Mynydd Cymreig Gwyn. Y Ddafad Fynydd Ddu Gymreig yw’r unig frîd cwbl ddu yn y DU.
Prif nodweddion:
Maint: Bach, dafad 45kg, hwrdd 60-65kg
Edrychiad: I gydymffurfio â meini prawf y brid, rhaid i’r ddafad fod yn gwbl ddu. Dafad fach, weddol denau er ddim cyn deneued â brid cyntefig. Defaid yn foel, cyrn gan yr hyrddod.
Gwytnwch:  Gallu goroesi ar dir uchel lle byddai bridiau eraill yn cael trafferth ac, yn debyg i ddefaid mynydd Cymreig eraill, bydd y brid yn ffynnu ar borfa fras y tiroedd is.


(Diolch i’r Rare Breeds Survival Trust am ddarparu’r wybodaeth).

merched y sied

Bernice Parker, 23 Ionawr 2015

Mae’r defaid beichiog yn dod mewn o’r caeau'n syth ar ôl y Nadolig er mwyn cael lloches, bwyd a gofal ychwanegol – sy’n bwysig ar gyfer datblygiad yr wyn. Wnaethon nhw gael eu sganio yn y flwyddyn newydd er mwyn eu gwahanu i ddau grwp: y rhai sydd yn disgwyl oen sengl, a’r lleill sydd yn disgwyl gefeilliad neu dripledi. Mae’r marciau glas ar eu cefnau nhw yn dangos i’r ffermwyr pwy sy’n mynd i gael beth.


Ar hyn o bryd mae gennym tua 100 o ddefaid magu felly dyn ni’n disgwyl 150+ o wyn. Mae ein defaid 2 blwydd oed yn wyna am y tro cyntaf. Mae dafad yn feichiog am 5 mis - mae’n dod i’w thymor ym mis Medi, wedyn mae’r hyrddod yn mynd mewn gyda'r merched ar y cyntaf o Hydref. Felly bydd wyna yn cychwyn dechrau mis Mawrth. Ni sy’n dewis y drefn yma er mwyn cael wyn i'w gweld yng nghaeau'r Amgueddfa dros y Pasg. Dros yr wythnosau nesaf mi fydden nhw’n cicio eu sodlau yn y sied, yn bwyta ac yn cysgu…

Yn torheulo ac yn cael eu maldodi.

Rhywle yn eu phlith nhw mae Poopsie, oen llywaeth o ddwy flynedd yn ol. Mi gafodd yr enw ar ol iddi wneud pw-pw drostai wrth i mi fwydo hi!

Weithiau mae wyn llywaeth yn aros yn ddof ond mae Poopsie wedi ail ymuno a’r ddiadell erbyn hyn. Ond jyst weithiau mae na rhyw edrychiad sy’n dal fy sylw a dwi’n tybio ‘A ti di Poopsie…..?

cyfri defaid

Bernice Parker, 15 Ionawr 2015


Rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd ddaeth ein genod ni mewn o’r caeau er mwyn cael eu sganio

Diadell Sain Ffagan


A dyma’r canlyniadau…

canlyniadau scanio ar gyfer defaid Sain Ffagan


Mae gennym 3 frid o ddefaid yn Sain Ffagan ac maen nhw i gyd ar y rhestr o fridiau prin

Dafad Hill Radnor

Hill Radnor

Hwrdd Llanwenog

Llanwenog

defaid yn Sain Ffagan


a Mynydd Duon Cymreig.


Bydd ein babis yn dechrau cyrraedd Mis Mawrth,
felly cadwch lygaid ar y wefan am fwy o fanylion yn agosach at yr amser.