Pentan haearn Capel Garmon 4 Mai 2007 Pentan haearn Capel Garmon (Conwy). Offeryn addurniadol yw pentan haearn a ddefnyddid i gadw coed yn eu lle ar dân agored. Prif nodwedd yr enghraifft wych hon yw'r pennau a'r myngau a luniwyd fel eu bod yn ymdebygu, ar ryw olwg, i geffyl a tharw. Manylyn yn dangos un o'r pennau ar y pentan haearn. Efallai bod y pen yn cynrychioli creadur chwedlonol y ceid sôn amdano yn hanesion y rhyfelwyr, neu mae'n bosibl mai arwyddlun ydoedd o lwyth neu gymuned ei berchnogion. Llun pelydr-X o un o bennau pentan haearn Capel Garmon. Dengys y llun pelydr-X natur gymhleth gwneuthuriad y pentan haearn. (Cafodd yr ategion llorweddol a fertigol modern eu hychwanegu i sefydlogi'r pen.) Mae gwaith arbrofol wedi dangos faint o amser a'r medr yr oedd ei angen ar grefftwr i gynhyrchu pentan haearn Capel Garmon. Gwaith pen-grefftwr o'r Oes Haearn Geltaidd yw'r pentan haearn hwn o Gapel Garmon sydd wedi'i addurno â phen dau anifail corniog sy'n edrych yn groes i'w gilydd. Darganfuwyd y pentan haearn yn 1852, gan ŵr oedd yn cloddio ffos drwy fawn ar dir fferm Carreg Goedog, Capel Garmon (Conwy). Gorweddai'r pentan ar ei ochr yn ddwfn yn y mawn, rhwng dwy garreg fawr a osodwyd y naill ben iddo. Mae ei gyflwr da a'r ffaith y cafodd ei osod yn ofalus yn y ddaear yn awgrymu mai offrwm oedd i un o dduwiau'r byd Celtaidd paganaidd. Mae hyn yn gydnaws â'r arfer hirsefydlog o osod gwaith metel mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yng Nghymru yn ystod yr Oes Efydd a'r Oes Haearn. Yn un o bâr yn wreiddiol, byddai'r pentan haearn wedi cael ei osod ar bwys aelwyd yng nghanol tŷ crwn o goed neu gerrig. Byddai'r aelwyd yn ganolbwynt naturiol ar gyfer bwyta, gwledda a thrafod a byddai'r pentan wedi bod yn amlwg i bawb ac yn destun eu hedmygedd. Mae lluniau pelydr-X diweddar o'r pentan haearn hwn, ynghyd ag ymdrech gof i greu copi ohono, wedi dangos bod ei wneuthurwr yn grefftwr o fri, a feddai ar y gallu i drin a llunio haearn. Yn ôl un amcangyfrif, mae'n bosibl y byddai wedi cymryd o leiaf dair blynedd a hanner i un person wneud pentan haearn Capel Garmon, gwaith a olygai gasglu'r deunydd crai, mwyndoddi'r mwyn haearn a llunio'r gwrthrych ei hun. Yn ôl pob tebyg, câi'r gwaith o droi mwyn haearn yn fetel ei ystyried yn broses ddewinol gan y Celtiaid, a byddai gofaint wedi ennyn parch mawr am eu galluoedd goruwchnaturiol. Mae dyddio pentan haearn Capel Garmon yn anodd oherwydd ni chafodd y darganfyddiad na manylion y cloddiad eu cofnodi gan archaeolegwyr. Fodd bynnag, ers i bentan haearn Capel Garmon ddod i'r golwg, darganfuwyd enghreifftiau tebyg yn ne-ddwyrain Lloegr, ym meddrodau penaethiaid yr Oes Haearn. Yn ogystal â'r pentanau haearn, yn y claddfeydd hyn cafwyd nwyddau claddu eraill megis amfforâu a fewnforiwyd o ardal Môr y Canoldir, crochenwaith a gynhyrchwyd ar droell crochenydd, a nwyddau personol eraill, ac mae pob un o'r gwrthrychau hyn yn dyddio o'r cyfnod rhwng 50CC ac OC75 - yr Oes Haearn diweddar. Felly, mae'n debyg y cafodd pentan haearn Capel Garmon ei gladdu yn ystod y cyfnod hwn hefyd. Defnyddid haearn am y tro cyntaf yng Nghymru tua 750CC. O 300CC ymlaen daeth offer, arfau a thlysau haearn yn fwyfwy cyffredin ar safleodd bryngaerau ac aneddiadau, ac mewn celciau. Fodd bynnag, mae maint ac ansawdd pentan haearn Capel Garmon yn ei osod mewn dosbarth ar wahân i'r gwrthrychau hyn. Er gwaethaf holl ddarganfyddiadau'r 150 o flynyddoedd diwethaf, dyma un o'r enghreifftiau pwysicaf o waith haearn addurnol cynnar i ddod i'r golwg ym Mhrydain. Darllen Cefndir Celtic art, reading the messages gan M. Green. Cyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicholson (1996). 'Firedogs in Iron Age Britain and beyond' gan S. Piggott. Yn The European community in later prehistory: studies in honour of C. F. C. Hawkes gan J. Boardman, M. A. Brown a T. G. E. Powell, tt245-70. Cyhoeddwyd gan Routledge & Kegan Paul (1971). 'The Capel Garmon Firedog' gan C. Fox. Yn The Antiquaries Journal, cyf. 19, tt446-8 (1939).
Celfyddyd Geltaidd yng Nghymru'r Oes Haearn 3 Mai 2007 Darn arian Celtaidd, Sir Fynwy. Plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach, Ynys Môn. Plac o Dal-y-Llyn, Gwynedd, sy'n dyddio o'r ganrif 1af OC yn ôl pob tebyg. Mownt bwced Pen Ych a gafwyd yn Nant y Gamar, Conwy. Celfyddyd Geltaidd Mae celfyddyd Geltaidd yn adlewyrchu sut roedd pobl yr Oes Haearn yn dehongli eu byd. Mae'r dyluniadau roedden nhw'n eu defnyddio yn ein helpu ni i ddeall sut roedden nhw'n eu gweld eu hunain, eu hamgylchfyd a'u duwiau. Mae'r gelfyddyd Geltaidd a gafwyd yng Nghymru yn rhan o draddodiad ehangach o lawer ym Mhrydain ac Ewrop. Datblygodd yn ystod yr Oes Haearn o tua 500CC ymlaen ac fe'i gelwir yn aml yn gelfyddyd La Tène. Yr enghraifft gynharaf o Gymru yw bowlen Cerrig-y-Drudion a ddarganfuwyd ym 1924 mewn beddrod cerrig yn sir Conwy. Dyma un o'r ychydig arteffactau o'r 4ydd ganrif CC addurnedig a ddarganfuwyd ym Mhrydain ac mae'n debygol iddi gael ei gwneud gan grefftwyr Brythonaidd o dan ddylanwad traddodiadau Cyfandirol. Gwyddom am lawer iawn mwy o wrthrychau addurnedig o tua 200CC, ac erbyn hynny roedd y Brythoniaid wedi datblygu eu harddull unigryw eu hunain. Roedd crefftwyr ym Mhrydain yn dal i gynhyrchu cleddyfau, dagrau, gwaywffyn, tlysau ac offer ar gyfer ceffylau, ond roeddent hefyd yn ychwanegu pethau fel tancardiau, drychau a llwyau at eu stoc. Nodwedd o'r arddull yw cyflwyno motiffau a'u hailadrodd yn aml i bwysleisio eu hystyr. Mae archaeolegwyr yn dehongli'r rhain fel pethau symbolaidd a phwerus â chanddynt arwyddocâd crefyddol. Er enghraifft gallai cymeriad triphlyg y trisgel (patrwm â thri choes yn codi o darddiad canolog) gynrychioli'r berthynas rhwng y byw, y meirwon a'r duwiau neu gylch oesol geni, byw a marw. Lyn Cerrig Bach Gweler y plac cilgantaidd o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Addurnwyd y plac hwn â thrisgel cymhleth, ac ar ben pob coes mae utgorn a chylch sy'n awgrymu pen aderyn arddulliol. Daw portreadau arddulliol o bobl ac anifeiliaid yn fwy cyffredin ar ôl 100CC gyda'r wynebau'n aml yn cael eu cuddio o fewn patrymau dyrys. Gellir gweld pennau dynol mewn dyluniadau llifeirol tebyg i blanhigion ar blaciau celc Tal-y-Llyn tra bod amrywiaeth o wartheg, ceffylau, baeddod ac adar yn addurno amrywiaeth eang o arteffactau eraill. Cafwyd hyd i fowntiau bwced siâp pen ych yng Nghymru (gweld y llun - roedd y celc Nant y Gamar (Conwy) hefyd yn cynnwys dau dlws utgorn Rhufeinig, gan ddangos bod yr arddull Geltaidd yn dal i gael ei defnyddio ar ôl y goncwest Rufeinig), sy'n dangos nodweddion arddulliol a'r llinellau llifeiriol oedd yn perthyn i arddulliau artistig Prydeinig. Ceir ambell i awgrym am fwystfilod chwedlonol hefyd, er enghraifft y pennau ceffyl-gwartheg sy'n addurno brigwn Capel Garmon. Ni ddiflannodd dyluniadau Celtaidd gyda'r goncwest Rufeinig. Cafodd trulleus (sosban) o Wersyll Coygan yn sir Gaerfyrddin ei drwsio rhywbryd yn ystod y 3ydd ganrif OC. Ni chafodd ei addurno â dyluniad Rhufeinig nodweddiadol, ond â motiff trisgel, sy'n dangos bod celfyddyd Geltaidd yn dal i gael ei gwerthfawrogi. Darllen Cefndir Early Celtic art in Britain and Ireland gan Ruth a Vincent Megaw. Cyhoeddwyd gan Shire Archaeology (1986)
Ar drywydd y derwyddon 3 Mai 2007 'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith. Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723) Dyfaliad, a baratowyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif a bymtheg, o sut olwg fyddai ar seremoni dderwyddol yng Nghôr y Cewri. Gwyddom bellach, y cafodd Côr y Cewri ei godi tua 1,500 o flynyddoedd cyn ymddangosiad y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y derwyddon. Llyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Cafwyd hyd i lawer iawn o waith metel o'r Oes Haearn yn y llyn ym 1943.[Llun © Philip Macdonald]. Detholiad o waith metel y cafwyd hyd iddo yn Llyn Cerrig Bach, gan gynnwys cadwynau caethweision, cleddyfau wedi'u plygu, arfau ac offer cerbyd. Ers tro byd mae derwyddon, offeiriaid Prydain ac Iwerddon 'slawer dydd, wedi ennyn diddordeb a thanio dychymyg nifer fawr o bobl gyffredin. Mae'r ddelwedd ystrydebol o'r dyn doeth yn ei wisg wen, yn cario cryman aur, a thusw o uchelwydd neu ffon yn ei law, yn un sydd wedi'i serio ar ein cof hyd heddiw. Mae'n greadigaeth ganrifoedd lawer o bendroni a dychymyg byw. Ond pa dystiolaeth sydd gennym am y cymeriadau pwerus ond annelwig hyn? Ceir y cyfeiriadau cyntaf at y Derwyddon yng ngwaith yr awduron Clasurol, yn enwedig Posidonius, Strabo a Julius Caesar, oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf CC. Mae'r rhain yn crybwyll y druidae yng Ngâl (Ffrainc) a Phrydain, oedd yn ddynion doeth, yn arsylwyr digwyddiadau naturiol ac yn athronwyr moesol. Roedd eu swyddogaethau'n bwysig yn y cymunedau Celtaidd hyn, gan mai hwy a ganiatâi ryfela, hwy oedd ceidwaid gwybodaeth, a hwy oedd yn gweinyddu cyfiawnder ac yn goruchwylio aberthau a seremonïau crefyddol. Mewn cysylltiad agos â hwy oedd y cms:link:collections search="bards">beirdd (bardoi), y cantorion a'r prydyddion, a'r dewiniaid (vates), oedd yn dehongli aberthau er mwyn rhagfynegi'r dyfodol. Yn ôl Caesar, tarddle Derwyddiaeth oedd Prydain, a chredir i Timaeus, hanesydd o Roeg, eu crybwyll am y tro cyntaf mor gynnar â diwedd y bedwaredd ganrif CC. Roedd derwyddon a beirdd hefyd yn gymeriadau amlwg mewn testunau Cymraeg a Gwyddeleg o'r Oesoedd Canol, ac yn ôl pob tebyg cofnodai'r rhain draddodiad llafar cynharach a drosglwyddwyd o'r naill genhedlaeth i'r llall. Mae'r testunau Gwyddeleg yn cynnwys Chwedl Wlster, Llyfr y Fuwch Frech a'r Chwedl Ffeniaidd. Yng Nghymru, rhestrwyd swyddogaethau a breintiau'r beirdd mewn dogfennau yn ymwneud â'r cyfreithiau a luniwyd gan Hywel Dda yn y ddegfed ganrif OC. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, ystyriwyd y derwyddion fel hynafiaid y beirdd, y beirdd oedd yn canu mawl, cerddorion ac achyddion, oedd yn ffynnu yn y gymdeithas Gymraeg ganoloesol. Mae'n anodd bwrw goleuni ar bryd a gwedd y derwyddon, nac ar eu gwisgoedd a'u heiddo. Prin iawn yw'r darluniau neu arysgrifau sy'n dyddio o'r cyfnod, a phur anaml mae'r dystiolaeth archaeolegol yn cynnig atebion pendant. Mae llawer wedi dibynnu ar ddisgrifiad o seremoni dderwyddol a gofnodwyd gan yr awdur Pliny, yn ei Natural History. Yn yr adroddiad hwn, mae derwydd yn ei wisg wen yn dringo derwen er mwyn torri tusw o uchelwydd â chryman aur. Dechreuwyd ailymddiddori yn y derwyddon yng nghyfnod y Dadeni (y bedwaredd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ar bymtheg), pan roedd mynd mawr ar y testunau Groeg a Lladin Clasurol. Mae nifer o ffynonellau yn disgrifio derwyddon, a addolai mewn llennyrch anghysbell a gerllaw pyllau a llynnoedd cysygredig, yn aberthu pobl. Er enghraifft, mae'r hanesydd Tacitus, a oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf OC, yn crybwyll cellïoedd derwyddol Mona (Môn), gan sôn hefyd fod gwaed carcharorion yn cael ei daenu ar eu hallorau. Ar gorn y fath adroddiadau, ym 1659 awgrymodd John Aubrey, prif hynafiaethydd ei gyfnod, fod cylchoedd cerrig Avebury a Chôr y Cewri wedi bod yn demlau derwyddol. Yn yr un modd, ym 1723, roedd y Parchedig Henry Rowlands o'r farn fod nifer o gofadeiliau megalithig Môn yn demlau ac yn allorau aberthol derwyddon. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth 'neo dderwyddiaeth', dan arweiniad pobl megis y Parchedig William Stukely, yn symudiad diwylliannol o bwys ym Mhrydain. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd mewn dealltwriaeth archaeolegol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn amlwg y cafodd y cofadeiliau hyn eu codi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ymhell cyn ymddangosiad y derwyddon. Eto i gyd, mae derwyddon a beirdd yn dal i ymgynnull y tu mewn i gylchoedd cerrig heddiw. Hyd yn oed os yw archaeoleg yn ei chael hi'n anodd adnabod derwyddon, y mae'n darparu tystiolaeth gadarn am arferion crefyddol pobl yr Oes Haearn Geltaidd. Yng Nghymru, cafwyd hyd i dystiolaeth o'r traddodiad o gynnig gwaith metel o fri i'r duwiau ar safle Llyn Cerrig Bach ym Môn. Yma, rhwng 300 CC a CC 100, cafodd cerbydau, arfau, offer ac eitemau o waith metel addurnedig eu taflu o sarn neu ynys i mewn i lyn bach. Trwy gyd-ddigwyddiad, ceir adroddiad gan yr awdur Rhufeinig Tacitus sy'n dwyn i gof mewn modd trawiadol iawn orchfygiad cadarnle derwyddol ym Môn gan y fyddin Rufeinig, digwyddiad a berodd i rai pobl gredu bod Llyn Cerrig Bach yn safle derwyddol. Cafwyd hyd i enghreifftiau eraill o ddefodau'r Oes Haearn Geltaidd hefyd. Er enghraifft, cafodd corff gŵr a aberthwyd, yn ôl pob tebyg, oedd wedi'i gadw mewn haenau o fawn, ei ddarganfod yn Lindow Moss, Sir Gaer (Lloegr). Yn ne a dwyrain Lloegr, cloddiwyd temlau o'r Oes Haearn oedd yn cynnwys offrymau o ddarnau arian, bwyd ac arfau. Yn ddiweddar, cafodd powlen enwog Cerrigydrudion , sydd wedi'i haddurno'n gywrain yn null celfyddyd Geltaidd La Tène , ei dehongli'n argyhoeddiadol fel coron seremonïol. Mae'n bosibl fod hon a nifer o goronau a theyrndlysau eraill, a ddarganfuwyd mewn claddfeydd neu demlau ym Mhrydain, yn dynodi swyddogaeth offeiriadol. Yn y byd cynhanesyddol hwn, teimlid grym y duwiau Celtaidd paganaidd yn fyw iawn, grym oedd yn fythol bresennol ac yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Darllen Cefndir Druids gan A. Ross. Tempus Publishing (1999). Exploring the World of the Druids gan M. J. Green. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1997). Shrines & Sacrifice gan A. Woodward. Cyhoeddwyd gan Batsford (1992). Tacitus: the annals gan J. Jackson. Cyhoeddwyd gan William Heinemann (1951). The Bog Man and the Archaeology of People gan D. Brothwell. British Museum Publications (1986). The Druids gan S. Piggott. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1968).
Ar drywydd y derwyddon 3 Mai 2007 'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith. Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723) Dyfaliad, a baratowyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif a bymtheg, o sut olwg fyddai ar seremoni dderwyddol yng Nghôr y Cewri. Gwyddom bellach, y cafodd Côr y Cewri ei godi tua 1,500 o flynyddoedd cyn ymddangosiad y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y derwyddon. Llyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Cafwyd hyd i lawer iawn o waith metel o'r Oes Haearn yn y llyn ym 1943.[Llun © Philip Macdonald]. Detholiad o waith metel y cafwyd hyd iddo yn Llyn Cerrig Bach, gan gynnwys cadwynau caethweision, cleddyfau wedi'u plygu, arfau ac offer cerbyd. Ers tro byd mae derwyddon, offeiriaid Prydain ac Iwerddon 'slawer dydd, wedi ennyn diddordeb a thanio dychymyg nifer fawr o bobl gyffredin. Mae'r ddelwedd ystrydebol o'r dyn doeth yn ei wisg wen, yn cario cryman aur, a thusw o uchelwydd neu ffon yn ei law, yn un sydd wedi'i serio ar ein cof hyd heddiw. Mae'n greadigaeth ganrifoedd lawer o bendroni a dychymyg byw. Ond pa dystiolaeth sydd gennym am y cymeriadau pwerus ond annelwig hyn? Ceir y cyfeiriadau cyntaf at y Derwyddon yng ngwaith yr awduron Clasurol, yn enwedig Posidonius, Strabo a Julius Caesar, oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf CC. Mae'r rhain yn crybwyll y druidae yng Ngâl (Ffrainc) a Phrydain, oedd yn ddynion doeth, yn arsylwyr digwyddiadau naturiol ac yn athronwyr moesol. Roedd eu swyddogaethau'n bwysig yn y cymunedau Celtaidd hyn, gan mai hwy a ganiatâi ryfela, hwy oedd ceidwaid gwybodaeth, a hwy oedd yn gweinyddu cyfiawnder ac yn goruchwylio aberthau a seremonïau crefyddol. Mewn cysylltiad agos â hwy oedd y beirdd (bardoi), y cantorion a'r prydyddion, a'r dewiniaid (vates), oedd yn dehongli aberthau er mwyn rhagfynegi'r dyfodol. Yn ôl Caesar, tarddle Derwyddiaeth oedd Prydain, a chredir i Timaeus, hanesydd o Roeg, eu crybwyll am y tro cyntaf mor gynnar â diwedd y bedwaredd ganrif CC. Roedd derwyddon a beirdd hefyd yn gymeriadau amlwg mewn testunau Cymraeg a Gwyddeleg o'r Oesoedd Canol, ac yn ôl pob tebyg cofnodai'r rhain draddodiad llafar cynharach a drosglwyddwyd o'r naill genhedlaeth i'r llall. Mae'r testunau Gwyddeleg yn cynnwys Chwedl Wlster, Llyfr y Fuwch Frech a'r Chwedl Ffeniaidd. Yng Nghymru, rhestrwyd swyddogaethau a breintiau'r beirdd mewn dogfennau yn ymwneud â'r cyfreithiau a luniwyd gan Hywel Dda yn y ddegfed ganrif OC. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, ystyriwyd y derwyddion fel hynafiaid y beirdd, y beirdd oedd yn canu mawl, cerddorion ac achyddion, oedd yn ffynnu yn y gymdeithas Gymraeg ganoloesol. Mae'n anodd bwrw goleuni ar bryd a gwedd y derwyddon, nac ar eu gwisgoedd a'u heiddo. Prin iawn yw'r darluniau neu arysgrifau sy'n dyddio o'r cyfnod, a phur anaml mae'r dystiolaeth archaeolegol yn cynnig atebion pendant. Mae llawer wedi dibynnu ar ddisgrifiad o seremoni dderwyddol a gofnodwyd gan yr awdur Pliny, yn ei Natural History. Yn yr adroddiad hwn, mae derwydd yn ei wisg wen yn dringo derwen er mwyn torri tusw o uchelwydd â chryman aur. Dechreuwyd ailymddiddori yn y derwyddon yng nghyfnod y Dadeni (y bedwaredd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ar bymtheg), pan roedd mynd mawr ar y testunau Groeg a Lladin Clasurol. Mae nifer o ffynonellau yn disgrifio derwyddon, a addolai mewn llennyrch anghysbell a gerllaw pyllau a llynnoedd cysygredig, yn aberthu pobl. Er enghraifft, mae'r hanesydd Tacitus, a oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf OC, yn crybwyll cellïoedd derwyddol Mona (Môn), gan sôn hefyd fod gwaed carcharorion yn cael ei daenu ar eu hallorau. Ar gorn y fath adroddiadau, ym 1659 awgrymodd John Aubrey, prif hynafiaethydd ei gyfnod, fod cylchoedd cerrig Avebury a Chôr y Cewri wedi bod yn demlau derwyddol. Yn yr un modd, ym 1723, roedd y Parchedig Henry Rowlands o'r farn fod nifer o gofadeiliau megalithig Môn yn demlau ac yn allorau aberthol derwyddon. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth 'neo dderwyddiaeth', dan arweiniad pobl megis y Parchedig William Stukely, yn symudiad diwylliannol o bwys ym Mhrydain. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd mewn dealltwriaeth archaeolegol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn amlwg y cafodd y cofadeiliau hyn eu codi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ymhell cyn ymddangosiad y derwyddon. Eto i gyd, mae derwyddon a beirdd yn dal i ymgynnull y tu mewn i gylchoedd cerrig heddiw. Hyd yn oed os yw archaeoleg yn ei chael hi'n anodd adnabod derwyddon, y mae'n darparu tystiolaeth gadarn am arferion crefyddol pobl yr Oes Haearn Geltaidd. Yng Nghymru, cafwyd hyd i dystiolaeth o'r traddodiad o gynnig gwaith metel o fri i'r duwiau ar safle Llyn Cerrig Bach ym Môn. Yma, rhwng 300 CC a CC 100, cafodd cerbydau, arfau, offer ac eitemau o waith metel addurnedig eu taflu o sarn neu ynys i mewn i lyn bach. Trwy gyd-ddigwyddiad, ceir adroddiad gan yr awdur Rhufeinig Tacitus sy'n dwyn i gof mewn modd trawiadol iawn orchfygiad cadarnle derwyddol ym Môn gan y fyddin Rufeinig, digwyddiad a berodd i rai pobl gredu bod Llyn Cerrig Bach yn safle derwyddol. Cafwyd hyd i enghreifftiau eraill o ddefodau'r Oes Haearn Geltaidd hefyd. Er enghraifft, cafodd corff gŵr a aberthwyd, yn ôl pob tebyg, oedd wedi'i gadw mewn haenau o fawn, ei ddarganfod yn Lindow Moss, Sir Gaer (Lloegr). Yn ne a dwyrain Lloegr, cloddiwyd temlau o'r Oes Haearn oedd yn cynnwys offrymau o ddarnau arian, bwyd ac arfau. Yn ddiweddar, cafodd powlen enwog Cerrigydrudion, sydd wedi'i haddurno'n gywrain yn null celfyddyd Geltaidd La Tène, ei dehongli'n argyhoeddiadol fel coron seremonïol. Mae'n bosibl fod hon a nifer o goronau a theyrndlysau eraill, a ddarganfuwyd mewn claddfeydd neu demlau ym Mhrydain, yn dynodi swyddogaeth offeiriadol. Yn y byd cynhanesyddol hwn, teimlid grym y duwiau Celtaidd paganaidd yn fyw iawn, grym oedd yn fythol bresennol ac yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Darllen Cefndir Druids gan A. Ross. Tempus Publishing (1999). Exploring the World of the Druids gan M. J. Green. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1997). Shrines & Sacrifice gan A. Woodward. Cyhoeddwyd gan Batsford (1992). Tacitus: the annals gan J. Jackson. Cyhoeddwyd gan William Heinemann (1951). The Bog Man and the Archaeology of People gan D. Brothwell. British Museum Publications (1986). The Druids gan S. Piggott. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1968).