Pwy oedd y Celtiaid? 5 Mehefin 2021 Llun o ryfelwyr yn ymladd. Mae’r llun hwn yn nodweddiadol o’r darlun clasurol o Geltiaid fel ymladdwyr ffyrnig.Ychydig iawn oedd y Celtiaid cynnar yn ysgrifennu am eu hunain. I’r Groegiaid, y Keltoi, Keltai neu’r Galatai oeddent. Roedd y Rhufeiniaid yn eu galw yn Celti, Celtae a Galli.Y Groegiaid oedd y cyntaf i sôn am y Celtiaid, rhwng 540 CC a 424 CC. Ond tystiolaeth y Rhufeiniaid sydd fwyaf defnyddiol. Wrth i’r Rhufeiniaid ymestyn eu tiriogaeth, daethant ar draws y Celtiaid yn y gogledd. Fodd bynnag, mae’r testunau clasurol yn anghyflawn gan eu bod wedi cael eu copïo ymhell ar ôl y cyfnod. Felly darlun pytiog sydd gennym o’r Celtiaid.Mae haneswyr yn credu bod y Celtiaid yn gasgliad o lwythau o ganolbarth Ewrop yn wreiddiol. Er eu bod yn perthyn i wahanol lwythau, roedd ganddynt rywfaint yn gyffredin o ran diwylliant, traddodiadau, credoau ac iaith.Beth oedd y Celtiaid yn galw eu hunain?Dydyn ni ddim yn gwybod beth oedd y Celtiaid yn galw eu hunain. Rydyn ni’n defnyddio’r enw ‘Celtiaid’ heddiw i ddisgrifio nifer o lwythau oedd yn byw yn ystod Oes yr Haearn. Nid yw’r testunau Clasurol yn cyfeirio at bobl Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid. Casgliad o lwythau oedd y Celtiaid, ac roeddent yn tueddu i gael eu nabod yn ôl enw’r llwyth penodol yn hytrach na fel un genedl neu ymerodraeth fawr.O ble oedd y Celtiaid yn dod? Un o geiniogau Gweriniaeth Rhufain yn dangos pen Galiad gyda gwallt gwyngalchog. Mae’r hanesydd Rhufeinig Diodorus Siculus yn disgrifio’r traddodiad hwn. Mae ffynonellau o’r fath yn cynnig cipolwg camarweiniol o’r Celtiaid.Mae ffynonellau cynnar yn dweud bod y Celtiaid yn byw yng ngorllewin Ewrop a hefyd yn y canolbarth, o gwmpas tarddle’r afon Donaw (Danube). Roedd eu tiriogaeth yn ymestyn ar draws canol a dwyrain Ffrainc, de’r Almaen a’r Weriniaeth Tsiec.Yn 279 CC, gwyddom fod y Celtiaid wedi ysbeilio Delphi, un o lefydd sanctaidd y Groegiaid. Cofnododd Strabo (daearyddwr Groegaidd) gyfarfod rhwng y Celtiaid ac Alecsander Fawr yn y Balcanau yn 335 CC. Yn ôl testunau Clasurol, symudodd llawer o’r Celtiaid o ganol Ewrop i ogledd yr Eidal a dwyrain Ewrop ar ôl 400 CC.Y Celtiaid ym MhrydainMae’n debyg bod y Celtiaid wedi cyrraedd Prydain tua 1,000 CC, ac wedi byw yma yn ystod Oes yr Haearn, Oes y Rhufeiniaid a’r cyfnod ar ôl y Rhufeiniaid. Mae dylanwad y Celtiaid yn dal yn gryf heddiw, ac i’w weld yn ein iaith, diwylliant a thraddodiadau.Celtiaid CymruRydyn ni’n ystyried Cymru yn wlad Geltaidd heddiw, ac mae bod yn Geltiaid yn rhan o hunaniaeth fodern Cymru. Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, fodd bynnag, llwythau ac arweinwyr penodol oedd yn bwysig. Erbyn i’r Rhufeiniaid oresgyn Prydain, roedd pedwar llwyth yn byw yn nhiroedd Cymru:Ordoficiaid (gogledd-orllewin)Deceangli (gogledd-ddwyrain)Demetae (de-orllewin)Silwriaid (de-ddwyrain)I ddeall sut y cafodd y Celtiaid eu cysylltu â Chymru, rhaid i ni edrych ar ddatblygiad yr ieithoedd Celtaidd.Pa ieithoedd oedd y Celtiaid yn eu siarad? Archaeologia Britannica Edward Lhuyd (1707). Astudiaeth arloesol a arweiniodd at gydnabod dau deulu o ieithoedd Celtaidd.Mae olrhain dechreuadau ieithoedd Celtaidd yn anodd. Mae’r rhan fwyaf yn cytuno eu bod yn deillio o iaith gynharach o’r enw ‘proto-Indo-Ewropeg’. Mae’n debyg i’r iaith hon gyrraedd gorllewin Ewrop rhwng 6000 CC a 2000 CC, wrth i bobl symud o ganol Asia. Ond ni wyddom yn iawn pryd yn union y digwyddodd hyn, a phryd a sut y datblygodd yr ieithoedd Celtaidd.Rydyn ni’n credu fod yr ieithoedd Celtaidd wedi datblygu ryw bryd yn y cyfnod 6000 CC i 600 CC. Cafodd yr arysgrif cynharaf mewn iaith Geltaidd ei ddarganfod yng ngogledd yr Eidal, ac mae’n dyddio i’r 6ed ganrif CC.Awgrymodd George Buchanon, ysgolhaig o’r 16eg ganrif, bod pobl cyfandir Ewrop ar un adeg yn siarad casgliad o ieithoedd Galaidd cysylltiedig. Gan fod Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban yn debyg i’r ieithoedd hynafol hyn, y ddadl oedd bod pobl Prydain wedi dod o Ffrainc a Sbaen yn wreiddiol.Datgelodd gwaith ymchwil arloesol Edward Lhuyd ym 1707 fod dau deulu o ieithoedd Celtaidd: Celteg P neu Frythoneg (Cymraeg, Llydaweg, Cernyweg); a Chelteg Q neu Goideleg (Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Manaweg). Tybiwyd fod yr ieithoedd Brythoneg yn dod o Gâl (Ffrainc), a’r ieithoedd Goedeleg o Iberia (Sbaen a Phortiwgal).Yn ystod y 18fed ganrif, câi siaradwyr ieithoedd Celtaidd eu hystyried yn Geltiaid. Felly daeth pobl Cymru i gael eu nabod fel Celtiaid.Ieithoedd CeltaiddMae’r Gymraeg – iaith frodorol Cymru – yn cael ei siarad gan tua 20% o boblogaeth Cymru, a gan filoedd o bobl eraill ar hyd a lled y byd. Bu farw siaradwyr brodorol olaf y Gernyweg yn y 19eg ganrif, ond cafwyd adfywiad yn y 20eg ganrif ac erbyn hyn mae ychydig gannoedd yn ei siarad. Mae miloedd yn siarad Llydaweg, ond mae’r iaith dan fygythiad mawr.Mae Gaeleg yr Alban yn dal i gael ei siarad hefyd, ond mae ganddi lawer llai o siaradwyr na’r Gymraeg. Mae gan Gaeleg yr Alban sianel deledu, sef BBC Alba, a sefydlwyd yn 2008.Sut oedd y Celtiaid yn edrych? Yn ôl y Rhufeiniaid, roedd y Celtiaid yn gwisgo dillad llachar, ac roedd rhai yn defnyddio lliw y planhigyn glaslys i baentio patrymau ar eu cyrff.Beth oedd y Celtiaid yn wisgo?Mae’r Celtiaid yn adnabyddus am wisgo dillad gwlân lliwgar, a phatrymau sydd yn dal i’w gweld yn nillad Tartan yr Alban. I’r Celtiaid roedd dillad yn arwydd o statws a phwysigrwydd o fewn y llwyth. Byddai gwisg arferol yn cynnwys tiwnig a belt, yn ogystal â chlogyn hir a throwsus gâi eu clymu gyda ‘ffibwla’ – math o fwcl. Yn wir, yn ôl haneswyr, roedd y Celtiaid ymysg y bobl gyntaf yn Ewrop i wisgo trowsusau.Beth oedd y Celtiaid yn ei fwyta?Doedd dim siopau yn oes y Celtiaid – byddent yn tyfu planhigion, ac yn ffermio a hela anifeiliaid i’w bwyta.Byddent yn bwyta bwydydd gwyllt fel madarch, aeron, danadl poethion, garlleg gwyllt ac afalau, yn ogystal â sbigoglys, cennin, moron, pannas, mwyar duon, eirin Mair a llus. Roedd cnau cyll a chnau Ffrengig yn rhan o’u diet, yn ogystal â grawn i wneud bara ac uwd.Byddent yn hela carw, llwynog, afanc, baedd gwyllt ac arth; yn ffermio ieir, geifr, defaid, moch a gwartheg; ac yn pysgota eog, brithyll a macrell. Roedd yr ieir yn dodwy wyau, a byddent hefyd yn bwyta wyau adar gwyllt, ynghyd â thrychfilod a mêl gan wenyn.Mae mwy o wybodaeth am fwyd y Celtiaid yn ystod Oes yr Haearn yn ein hadnodd addysg Bywyd Bob Dydd y Celtiaid.Celf ac Archaeoleg y Celtiaid Manylyn trisgell, tua 11cm (4.3 modfedd) ar draws, ar blac o Lyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Mae’r enghraifft drawiadol hon o gelf La Tène yn cael ei hystyried yn dystiolaeth o draddodiad celfyddydol y Celtiaid.Datblygodd arddull newydd o gelf yn ystod y 5ed ganrif CC, ac ymledodd ar draws Ewrop. Mae llawer o archaeolegwyr wedi dehongli hyn fel tystiolaeth o ddiwylliant neu hunaniaeth Geltaidd unedig.Cafodd celf Geltaidd ei chydnabod a’i henwi gan ysgolheigion Prydeinig tua chanol y 19eg ganrif. Ym 1910-14, cafodd y gwrthrychau cynharaf i gael eu haddurno yn yr arddull hon eu holrhain i un ardal ddiwylliannol yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc, de’r Almaen a Gweriniaeth Tsiec.Cafodd ei enwi yn ddiwylliant La Tène, ar ôl casgliad pwysig o waith metel addurnedig gafodd ei ddarganfod ar lan Llyn Neuchâtel yn y Swistir. Am gyfnod hir, câi lledaeniad celf La Tène ar draws Ewrop, gan gynnwys Prydain ac Iwerddon, ei ddehongli fel goresgyniad gan bobl Geltaidd.Yn fwy diweddar, mae archaeolegwyr Prydeinig wedi bod yn cwestiynu’r syniad o Geltiaid yn goresgyn Prydain, ac o ‘gymdeithas Geltaidd’ oedd yn rhannu iaith, celf, credoau a hunaniaeth. Ychydig o dystiolaeth archaeolegol gadarn sydd i ddangos fod pobl wedi cyrraedd ar raddfa eang o’r cyfandir.Mae archaeoleg Oes yr Haearn ym Mhrydain yn awgrymu clytwaith o gymdeithasau rhanbarthol, bob un â’i hunaniaeth unigryw. Mae hyn yn gwbl groes i’r syniad o un diwylliant Celtaidd.Mae archaeolegwyr erbyn hyn yn cwestiynu mwy ar eu tybiaethau eu hunain wrth ddehongli safleoedd Oes yr Haearn. Nid yw celf La Tène yng Nghymru o reidrwydd yn dystiolaeth o Geltiaid yn goresgyn. Gallai hefyd ddangos lledaeniad ffasiwn ar draws cymdeithasau, neu gallai fod yn awgrym o gysylltiadau a chyfnewid rhwng llefydd pell. Rydyn ni hefyd yn gwybod fod arddull benodol Brydeinig i lawer o gelf La Tène ddiweddarach, a’i bod yn absennol o gyfandir Ewrop.CrynodebMae’r Celtiaid wedi bod yn bwnc dadleuol ers i ysgolheigion ddechrau ei astudio, ac mae’r dadlau’n parhau.Mae’n bosibl y gall astudiaethau genetig o DNA pobl hynafol a modern wella ein dealltwriaeth o’r pwnc. Ond mae astudiaethau hyd yma wedi tueddu i ddefnyddio samplau hynod fach o bobl a hen dybiaethau ynghylch iaith ac archaeoleg, gan arwain at gasgliadau annhebygol.Darllen pellachExploring the World of the Celts gan S. James. Thames & Hudson (1993).The Celts: Origins, Myths and Inventions gan J. Collis. Tempus Publishing Ltd (2003).The Ancient Celts gan B. Cunliffe. Oxford University Press (1997).
Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Diwylliant Yfed Hynafol: Tancard Langstone 1 Ebrill 2010 Tancard Langstone Cadwraethwr yr Amgueddfa, Mary Davis a'r archeolegydd amgylcheddol Nigel Nayling (Prifysgol Llambed) yn cymryd samplau pren o'r tancard. Dengys dadansoddiad microsgop fod y tancard wedi'i wneud o bren ywen, rhywogaeth o goeden sy'n tyfu'n araf iawn, ac a ddewiswyd yn arbennig. Y darganfyddwr, Craig Mills, ac archeolegydd yr Amgueddfa, Mark Lewis (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion), yn archwilio safle darganfod y tancard Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i dancard pren cyflawn wrth chwilio am fetel mewn cae ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r llestr prin, tua 2000 oed, sydd wedi goroesi'n arbennig o dda, gan ddangos sut mae cadwraeth ac ymchwil yr Amgueddfa yn cynorthwyo i ddatgelu ei stori... Y tancard Pan yn llawn, byddai'r tancard wedi dal bron i bedwar peint o gwrw neu seidr. Byddai'n cael ei ddal â dwy law a'i basio o amgylch grŵp, fwy na thebyg, fel llestr yfed cymunedol. Gwnaed y llestr o chwe astell bren, wedi'u gosod o amgylch gwaelod crwn. O amgylch yr wyneb allanol mae dau fand o efydd. Mae gan y llestr ddolen aloi copr cast, gyda dau bâr o rybedion yn ei chysylltu gyda'r tancard. Yn dyddio i ddiwedd yr Oes Haearn neu ddechrau'r cyfnod Rhufeinig, yr unig reswm y goroesodd y tancard oedd gan iddo gael ei gladdu mewn pridd dyfrlawn, heb gysylltiad o gwbl gyda'r aer. Cyn gynted ag iddo gael ei godi o'r tir, cychwynnodd sychu gyda pherygl gwirioneddol y gallai grebachu, cracio ac anffurfio tu hwnt i adnabyddiaeth. Treuliodd y cadwraethwyr lawer o amser a gofal wrth ei fonitro, cyn medru ei gadw. Cyflawnwyd hyn drwy ei osod mewn alcohol (unwaith eto!) er mwyn disodli'r dŵr o'r celloedd yn y pren. Yna disodlwyd yr alcohol gydag ether (sylwedd anweddol), a anweddodd yn hawdd o arwyneb y pren i adael y gwrthrych yn 'sych'. Yn olaf, cafodd y ffitiadau eu glanhau a'u sefydlogi'n ofalus. Arwyddocâd y darganfyddiad Roedd tancardiau yn llestri yfed poblogaidd ledled gorllewin a de Prydain ar ddiwedd yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Dyma un o'r chwe thancard cyflawn sydd wedi goroesi ym Mhrydain ac Iwerddon. Yr enghraifft arall o Gymru yw tancard Trawsfynydd (Gwynedd), sydd wedi'i addurno'n helaeth, a ganfuwyd tua 1850 ac a oedd hefyd wedi'i gadw mewn mawn dyfrlawn. Mae darganfyddiadau o ddolenni efydd tancardiau yn fwy cyffredin. Mae'n anodd dyddio tancard Langstone yn gywir. Mae'r ddolen a oroesodd yn debyg iawn i ddolen tancard a ganfuwyd yn y gaer Rufeinig yn Llwchwr (Abertawe). Roedd wedi'i chladdu mewn ffynnon, a lenwyd yn ystod yr ail ganrif OC. Fodd bynnag, awgryma archwiliad manwl o dancard Langstone fod y ddolen hon, nad oedd wedi'i ffitio'n dda, wedi'i gosod yn ddiweddarach yn lle'r un gwreiddiol, sydd bellach ar goll. Y darn blaenfain ar yr ymyl a'r pinnau efydd cain sydd ar ôl yn wal ganol y tancard yw'r dystiolaeth sydd wedi goroesi o'r ddolen gynnar hon. Awgryma hyn fod y tancard wedi'i wneud yn y ganrif gyntaf neu ddechrau'r ail ganrif OC (1-150 OC). Ychydig fetrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y tancard, daeth Craig Mills o hyd i ddwy ddysgl efydd a hidlen win tua'r un pryd. Gwnaed y llestri hyn, sydd bron yn gyflawn, yn ystod diwedd yr Oes Haearn, ac fe'u haddurnwyd yn arddull Celf Geltaidd. Cawsant eu claddu mewn haenen fawnog dyfrlawn debyg, fwy na thebyg yn ystod canol y ganrif gyntaf OC. Mae'r defnydd tebyg hwn, ar gyfer hidlo a dal hylif, megis gwin neu foddion, yn awgrymu fod y lleoliad hwn yn arbennig o arwyddocaol i'r perchnogion, a ddewisodd gladdu eu hoffer yfed yma. Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling
Dysglau yn y Gors: Datgelu Trysor Langstone 23 Mawrth 2010 Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin. Cyflawnwyd fel rhan o achos o drysor gan staff Cynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i ddwy ddysgl efydd a hidlydd efydd o ddiwedd yr Oes Haearn, wedi'u haddurno mewn arddull Celfyddyd Geltaidd. Gwnaed y darganfyddiadau wrth chwilio am fetel mewn cae isel ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r canfyddiadau prin ac yn dangos sut mae gwaith maes ac ymchwil yr amgueddfa yn cynorthwyo i adrodd eu stori..... Y llestri efydd Roedd y celc hwn o ddysglau a 'hidlydd gwin' ar un adeg yn set yfed, ar gyfer ardywallt a hidlo hylifau. Efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer paratoi ac yfed y gwin Canoldirol ffasiynol newydd. Neu efallai bod iddynt ddefnydd meddygol neu grefyddol. Mae gan y dysglau waelod crwn, ac ymylon wedi'u ffurfio'n ofalus. Er bod un ychydig yn fwy na'r llall, mae'r hidlydd yn eistedd yn gysurus yn y ddau. Mae gan y dysglau ddarnau addurnedig o dan yr ymyl, lle'r oedd modrwyau yn cael eu gosod ar gyfer eu hongian a'u storio. Mae gan yr hidlydd ymyl llydan a chorff crwn, gyda modrwy i'w hongian. Addurnwyd y gwaelod â phatrwm hidlo wedi'i gynllunio'n ofalus, wedi'i gyflawni drwy dorri tyllau bychain crwn yn ofalus. Mae'r patrwm tyllau yn ffurfio tri siâp trymped, o amgylch patrwm trisgell tair coes. Gwelir y cynllun trisgell yn aml mewn Celfyddyd Geltaidd ar waith metel Oes Haearn yng Nghymru. Arwyddocâd y darganfyddiad Gwnaed y ddwy ddysgl efydd o Langstone yn ystod diwedd yr Oes Haearn (50 CC-60 OC). Daethpwyd o hyd i enghreifftiau blaenorol ledled de orllewin a de ddwyrain Lloegr, weithiau mewn mannau dyfrol ac weithiau mewn beddau. Mae'r rhain, ac adroddiadau am ddarn o ddysgl debyg yn ddiweddar o Llandeilo Gresynni (Sir Fynwy), yn dangos eu bod yn cael eu defnyddio ledled de Cymru. Mae darganfyddiadau Langstone yn darparu cyfle prin i astudio darganfyddiad diweddar gan ddefnyddio technegau archeolegol modern. Yn y gorffennol, ystyriwyd hidlwyr gwin o'r math hwn fel rhai o'r cyfnod Rhufeinig cynnar (75-150 OC), gydag enghreifftiau hysbys o Maenorbŷr (Sir Benfro) a Coygan (Sir Gaerfyrddin). Fodd bynnag, mae'r enghraifft hon, a ganfuwyd gyda set o ddysglau o ddiwedd yr Oes Haearn, yn awgrymu eu bod wedi cychwyn cael eu gwneud a'u defnyddio ychydig yn gynharach, rhwng 40-70 OC yn ôl pob tebyg. Pam fod llestri gwerthfawr a chyflawn yn cael eu claddu mewn cors? Rhai metrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y celc, daethpwyd o hyd i dancard pren cyflawn o oedran tebyg ar yr un pryd. Awgryma hyn fod arwyddocâd arbennig i'r lle, yn gysylltiedig gydag yfed a chladdu llestri yfed. Cloddiwyd dau bwll prawf bychan, a datgelwyd union leoliad y canfyddiadau hyn, o fewn yr un haenen fawnog. Roedd y llestri wedi cael eu gosod yn ofalus ar ymyl y gors isel neu lyn bas. Gerllaw, yng nghanol y gors, ar ynys fechan o raean, mae safle fila Rufeinig hysbys. Fodd bynnag, mae'r ynys anghysbell hon yn safle anarferol ar gyfer aneddiad. Efallai iddo gael ei ddewis yn y lle cyntaf fel man o bwysigrwydd crefyddol, cyn dod yn drigfan o bwysigrwydd yn y cyfnod Rhufeinig. Rhoddion i'r duwiau Roedd claddu gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yn arfer cyffredin ledled gogledd orllewin Ewrop yn ystod yr Oes Haearn. Dewiswyd y mannau hyn ar gyfer seremonïau i roi eitemau gwerthfawr i'r duwiau a oedd yn trigo yno. Efallai mai'r rhesymeg dros y weithred hon oedd y straen a brofwyd gan y gymuned Oes Haearn lleol. Yn ystod canol y ganrif gyntaf OC, roedd llwyth Silures de Cymru ynghanol gwrthdaro chwerw a pharhaus gyda byddin Rufeinig. Efallai bod rhoddion o'r fath yn arwydd o fesur brys, galwad ar rym y duwiau Celtaidd i gynorthwyo yn erbyn y llu ymosodol. Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling
Peiriau Llan-maes 4 Mai 2007 Cloddiadau yn Llan-maes yn 2004. Dolennau a strapiau peiriau a phowlenni a ffeindiwyd yn Llan-maes. Roedd peiriau yn llestri mawr efydd a ddefnyddid yn ystod gwleddoedd. Darganfyddiadau o Lan-maes, 2004: darnau o fwyeill a pheiriau, pinnau gwddf alarch, troellennau cogeiliau a phwysau gwydd. Un o'r ddau bair cyflawn o gelc Llyn Fawr, Rhondda Cynon Taf. Mae darganfyddiad anheddiad tair mil o flynyddoedd oed yn bwrw goleuni newydd ar fywyd y cyfnod cynhanesyddol ym Morgannwg. Yn Chwefror 2003, derbyniodd y Cynllun Hynafiaethau Cludadwy yng Nghymru wybodaeth am gasgliad anghyffredin o waith metel cynhanesyddol gan y ddau ddatguddiwr metel, Steve McGrory ac Anton Jones. Ymhlith eu darganfyddiadau roedd nifer o wahanol bwyeill efydd, rhai mewn dull oedd yn nodweddiadol o ogledd-orllewin Ffrainc, a rhannau o harneisiau a darnau o bowlenni a pheiriau. Roedd rhai o'r powlenni o fath nad oedd yn hysbys o'r blaen. Yn sgil y darganfyddiadau hyn penderfynodd archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a'r Cynllun Henebion Cludadwy gloddio safle'r darganfyddiadau yn Llan-maes ym Mro Morgannwg. Mae dau dymor o waith ar y safle lle cafodd Steve ac Anton hyd i'w darganfyddiadau wedi datgelu anheddiad cynhanesyddol nad oedd yn hysbys o'r blaen. Roedd yr anheddiad yn cynnwys tŷ crwn, a oroesodd ar ffurf cyfres o dyllau pyst lle safai ategbyst mur ar un adeg. Ar waelod un o'r tyllau hyn roedd darn o ddolen pair. Mae'r darganfyddiad hwn yn awgrymu y câi'r gwaith metel ei ddefnyddio gan breswylwyr yr anheddiad ac na chafodd ei gladdu yno rywbryd cyn neu wedi dyddiad yr anheddiad. Bywyd y cyfnod cynhanesyddol Darganfuwyd hefyd ddau bydew hirgrwn gerllaw'r tŷ crwn, ac yn un ohonynt gorweddai darnau mawr o bedwar neu bump o botiau toredig y gwyddom, ar sail eu dull, y cawsant eu defnyddio rhwng 1150 a 700CC. Roedd pwy bynnag fu'n gyfrifol am lenwi'r pydew wedi gosod corn carw coch ar ei ben - o bosibl yn ystod defod grefyddol, neu efallai i ddynodi safleoedd gwreiddiol y pydewau. Tomen o sbwriel domestig Uwchlaw'r tŷ crwn a'r pydewau roedd tomen o sbwriel domestig oedd wedi pydru gan ffurfio pridd tywyll. Ynddo roedd nifer o ddarnau o lestri metel dalennog, bwyeill wedi'u torri a chrochenwaith toredig yn debyg i'r hyn a ffeindiwyd yn y pydewau. Awgryma hyn oll mai dim ond egwyl fer fu rhwng preswyliad yr anheddiad a chyfnod creu'r domen, ond roedd y domen hefyd yn cynnwys crochenwaith o'r cyfnod Rhufeinig a wawriodd gannoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'r cymysgedd hynod hwn o ddarganfyddiadau cynhanesyddol a Rhufeinig yn ei gwneud hi'n anodd deall yn iawn y berthynas rhwng yr anheddiad a'r domen ac mae'r broblem yn dal i gael sylw. Heblaw am y gwaith metel a'r crochenwaith, roedd y domen hefyd yn cynnwys dros 10,000 o ddarnau o esgyrn anifeiliaid, mwy nag 80% ohonynt yn esgyrn gên ac aelodau moch. Mae hwn yn ddarganfyddiad anghyffredin iawn ym Mhrydain, lle roedd defaid a gwartheg yn dueddol o fod yn fwy cyffredin. Efallai mai safle gwledda oedd Llan-maes - roedd cig mochyn yn gig o statws uchel ar y pryd. Yn fwy rhyfeddol fyth, darganfuwyd esgyrn dynol yn y domen hefyd, er na chafwyd unrhyw sgerbydau cyflawn. Hyd yn hyn, mae'r safle wedi ildio darnau o naw o wahanol bowlenni a pheiriau ac iddynt ddolennau cylch a 31 o ddarnau o fwyeill efydd. Cafwyd hyd hefyd i bump o binnau gwddf alarch, caewyr gwisgoedd syml ond cain, ynghyd â throellennau cogeiliau a phwysau gwŷdd a ddefnyddid i wneud dillad gwlân. Yn ogystal, casglwyd ynghyd dros 1,500 o ddarnau o grochenwaith cynhanesyddol, y casgliad mwyaf o'r oedran hwn yn ne Cymru. Darganfyddiadau cyffrous Awgryma hyn oll y cafodd y safle ei feddiannu, yn ôl pob tebyg, rhwng 800 a 500CC, gyda'r posibilrwydd y sefydlwyd yr anheddiad cyntaf mor gynnar â 1300CC. Yn ddiweddarach, mae'n bosibl y bu fferm a Rufeineiddiwyd gerllaw, er na chafwyd hyd i'w hunion leoliad eto. Mae'r darganfyddiadau cyffrous hyn yn helpu archaeolegwyr i ddeall bywyd diwedd yr Oes Efydd pan oedd y grefft o drin haearn newydd gael ei chyflwyno i Brydain. Yn ogystal, maen nhw'n ein dysgu mwy am sut y câi peiriau - llestri gwledda efydd mawr - eu gwneud a'u defnyddio.