Gweithio Dramor - Ymfudo o Gymru 9 Chwefror 2010 Dylanwad yr ymfudwyr CymreigYn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, symudodd miliynau o bobl o bob cwr o'r byd i wledydd eraill i chwilio am waith. Roedden nhw am newid eu bywydau, blasu arferion gwaith newydd neu gael antur mewn gwlad wahanol.Aeth llawer ohonyn nhw o Cymru â'n sgiliau diwydiannol traddodiadol gyda nhw. Helpodd rhai i greu llwyddiant economaidd parhaol yn eu gwledydd newydd. Aeth eraill ati i addasu eu sgiliau neu i ddysgu sgiliau newydd. Llwyddodd rhai i ennill arian a bri mawr. Cafodd eraill fywydau llwyddiannus mwy di-nod, gan ymgartrefu a magu teuluoedd. Daeth rhai nôl adref wedyn, ond ni welodd eraill eu mamwlad byth eto.Yma byddwn yn dangos y gwahanol ddiwydiannau o Gymru a allforiodd weithwyr ac arbenigedd i bedwar ban y byd. Beth oedd y diwydiannau a'r sgiliau hyn? I le aeth y gweithwyr? Pam oedd pobl yn gadael, a sut? Pa werthoedd a thraddodiadau aeth gyda nhw? Pa effaith gafodd eu hymadawiad ar Gymru? Glofa Cymreig, Kentucky Glo"Roedd ein diwydiant glo'n llewyrchus dros ben tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y byd cyfan yn troi aton ni am arbenigedd a chyngor."[gweld mwy] Mwynglawdd copr Burra Burra, 1874. Copr"Cymru oedd yn arwain y diwydiant mwyndoddi copr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y gweithfeydd yn ardaloedd Abertawe a Threffynnon yn cynhyrchu mwy na hanner copr y byd i gyd."[gweld mwy] John Davies o Dalsarnau, Gwynedd, gyda'i frawd a'i gyfaill. Reoddynt yn chwilio am aur yn Queensland, Awstralia yn y 188au Aur"Mae pobl wedi bod yn mwyngloddio aur yng Nghymru'n ysbeidiol ers miloedd o fynyddoedd, ond ni chyfogodd y diwydiant lawer o weithwyr erioed. Serch hynny, ymunodd llawer o Gymry â'r 'Rhuthrau am Aur' enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[gweld mwy] Gweithwyr Cymreig yn y gweithfeydd haearn yn Hughesovka. John Hughes yw'r ail o'r dde yn y rhes flaen Haearn"Cymru oedd yn arwain y ffordd yn y gwaith o ddatblygu'r diwydiant haearn ym Mhrydain ac nid yw'n syndod felly mai ymfudwyr o Gymru oedd llawer o arweinwyr y diwydiant rhyngwladol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."[gweld mwy] Bangor, Pennsylvania Llechi"Defnyddiwyd llechi fel deunydd toi yn Ewrop. Allforiwyd llechi o Gymru i bob cwr o'r byd ar gyfer projectau adeiladu pwysig. Roedd y ffaith i lechi gael eu darganfod mewn llawer o wledydd gwahanol yn un o nifer o ffactorau economaidd a barodd i weithwyr o Gymru symud i'r ardaloedd hynny."[gweld mwy] Gwaith Dur Lithgow, New South Wales, Awstralia, 1920s Dur"Addaswyd llawer o'r canolfannau haearn i greu dur, sy'n ddeunydd cryfach, mwy amlbwrpas. Nid yw'n syndod i'r Cymry wneud cyfraniad pwysig at y newid hwn."[gweld mwy] Metropolis a adeiladwyd ar gyfer William Thomas ym 1885. Llongau"Mae gan Gymru 1,200km (750 milltir) o arfordir a hanes morwrol hir. Teithiodd morwyr o Gymru dros y byd i gyd yn allforio nwyddau o Gymru ac yn mewnforio deunyddiau crai ar gyfer diwydiant. Roedd llongau Cymreig ymysg y mwyaf adnabyddus ym maes masnach forwrol ac roedd perchnogion y cwmnïau ymysg y bobl fwyaf cefnog."[gweld mwy] Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin Mwyngloddio Metel"Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr."[gweld mwy] John Williams Tunplat"Cymru hefyd oedd un o brif gyfenwyr y byd ym maes cynhyrchu tunplat. Ar ddechrau'r 1890au cynhyrchwyd dros 80% o dunplat y byd yn ne Cymru."[gweld mwy] Morgan C. Jones, (ar y dde), nai Morgan Jones oedd yn gweithio dros yr un cwmni Diwydiannau Eraill"Nid pawb yng Nghymru oedd yn gweithio yn y diwydiannau trwm 'traddodiadol' wrth gwrs. Roedd llawer yn gweithio mewn diwydiannau eraill ac aethant ati i drosglwyddo'r sgiliau roedden nhw wedi eu dysgu mewn pyllau, ffowndrïau a gweithfeydd i weithleoedd eraill."[gweld mwy] Cartŵn o'r Western Mail, 1928 Patrymau Ymfudo"Nid pawb a adawodd Gymru am fywyd newydd dramor ffarweliodd â'u mamwlad am byth. Daeth llawer o bobl adref am bob math o resymau. Yr enw am hyn yw mudo yn ôl."[gweld mwy] Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America. Radicaliaeth"Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg."[gweld mwy] Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856 Diwylliant Cymraeg"Fel llawer o ymfudwyr eraill, aeth y Cymry â'u diwylliant i'r gwledydd newydd gyda nhw. Mewn lle dieithr a newydd, roedd cadw caneuon, straeon, ieithoedd a thraddodiadau cyfarwydd yn helpu ymfudwyr i ymdopi â'r anghyfarwydd."[gweld mwy] Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946. Menywod"Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol."[gweld mwy] California, UDA Enwau llefydd"Roedd hi'n gyffredin i ymfudwyr o bob gwlad enwi eu haneddiadau newydd ar ôl llefydd yn eu mamwlad. Roedd hyn yn ffordd o ddathlu eu hunaniaeth a chadw cysylltiad â'u mamwlad."[gweld mwy]
Bando - Gêm y ffon gam 8 Chwefror 2010 Gêm y ffon gam Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69daae515cce5" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu bando yn gêm tîm boblogaidd trwy Gymru, ac yn arbennig felly yn Sir Forgannwg. Yn wir ym 1797 fe nododd un teithiwr rhwng y Bont-faen a’r Pîl mor brin oedd coed ynn a choed llwyfen yno, a hynny oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i wneud ffyn bando. Roedd John Elias (1774-1841), un o bregethwyr enwog y Methodistiaid Calfinaidd o Bwllheli, Sir Gaernarfon, a’r gwleidydd David Lloyd George (1863-1945), a fagwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, ill dau yn chwaraewyr brwd yn wŷr ifainc. Roedd bando yn debyg i ryw ffurf gynnar ar hoci, gan mai nod y gêm oedd taro pêl gyda ffon grom o’r enw ‘bando’ ar draws maes y chwarae cyn ceisio ei gyrru i gôl y gwrthwynebwyr. Daw’r term ‘bando’ o’r gair Ffrangeg bande, sy’n golygu ‘ffon gam’. Gwnaed y ffyn yma o wahanol fathau o bren caled lleol, a byddai’r bêl, a oedd yn debyg o ran ei maint i bêl hoci heddiw, yn aml yn cael ei naddu o bren celyn neu focs. Medd-dod, trais a thranc y gêm Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69daae515cce5" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Yn draddodiadol byddai’r gornestau hyn yn cael eu cynnal rhwng gwahanol blwyfi. Byddai’r chwaraewyr yn cymryd y rhain gymaint o ddifrif nes eu bod, weithiau, hyd yn oed yn hyfforddi o flaen llaw. Er mai dynion a fyddai’n chwarae bando fel arfer, byddai merched yn gwylio’r gêm yn frwd. Yn wir, ceir tystiolaeth am un ornest fando a chwaraewyd ym Mro Morgannwg lle cuddiodd gwraig un o’r chwaraewyr y bêl o dan ei phais nes i’w gŵr ddod heibio i’w nôl. Bydda’r gemau’n amrywio yn ôl yr ardal, oherwydd nid oedd unrhyw reolau safonol, dim cyfnod penodol i’r chwarae na chyfyngiadau ar y nifer oedd i gymryd rhan. Roedd trais yn gyffredin, a hyd yn oed os oedd dyfarnwr yn bresennol nid oedd y chwaraewyr yn brin o daro eu gwrthwynebwyr gyda’u ffyn. Yn aml byddai’r gwylwyr yn gosod betiau ar y sgôr derfynol, a byddai’r tafarnwyr lleol yn sicrhau’n ddi-os bod digon o ddiod feddwol ar gael. Y cyfuniad peryglus hwn o gamblo, y ddiod ac ymddygiad aflywodraethus ar y cae ac oddi arno fu’n gyfrifol yn y pen draw am dranc y gêm. Bois Bando Margam Ffurfiwyd The First Glamorgan Rifle Volunteers ym Margam, Port Talbot yn 1859. Mabwysiadwyd y bathodyn hwn, sy'n dangos dwy ffon bando, ganddynt yn 1875. Yn ôl Edward Matthews (1813-92) o Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd y gêm mor boblogaidd ym Margam, gorllewin Morgannwg fel na fyddai neb dros ei flwydd oed yn fodlon cael ei weld heb ffon fando, ac ar adegau byddai cymaint â 3,000 o wylwyr yn mynychu’r gemau. Yn wir, erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bando’n bennaf gysylltiedig â Sir Forgannwg ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ysbrydolodd amlygrwydd y gêm ym Margam faled o’r enw ‘The Margam Bando Boys’ a ddathlai fedrusrwydd y tîm hyglod hwn. Yn ôl y faled, roedd gemau tîm eraill yn ddim o’u cymharu â bando: Due praises I'll bestow And all the world shall know That Margam valour shall keep its colour When Kenfig's waters flow Our master, straight and tall Is foremost with the ball; He is, we know it, and must allow it, The fastest man of all Let cricket players blame, And seek to slight our fame, Their bat and wicket can never lick it, This ancient manly game Our fame shall always stand Throughout Britannia's land; What men can beat us? Who dare meet us? Upon old Kenfig's sand? Should Frenchmen raise a voice To crush our peaceful joys, They'll get by storming a precious warming From Margam bando boys Like lions we'll advance To charge the sons of France; The Straits of Dover we'll ferry over And make the traitors dance Napoleon shall repent, If war is his intent; He'll sadly rue it if he'll pursue it; Proud Paris shall lament Bold Britons rule the main, And every hill and plain, From every nation throughout creation Our rights we will maintain Chwaraewyd bando yn ardal Aberafan hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1876 bu farw Theodore Talbot, capten y Margam Bando Boys a’r etifedd i ystâd Margam, tua’r un adeg ag y sefydlwyd gweithiau tun Mansel, Avon Vale, a Thai-bach. Disodlwyd bando mewn byr o dro, wrth i’r gweithwyr tun droi at y gêm newydd honno, rygbi. Datblygodd y syniad o faes chwarae penodol yn ystod y 1870au, ac wrth i glybiau pwrpasol gael eu sefydlu crewyd caeau chwarae ar gyfer y timau a’u cefnogwyr. Roedd sefydlu cyrff i reoli gwahanol chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Football Association of Wales) ym 1876 ac Undeb Rygbi Cymru (Welsh Rugby Union) ym 1881, yn arwydd o oes newydd lle'r oedd chwaraeon o dan reolaeth ganolog, ac felly fe gollwyd unrhyw amrywiadau rhanbarthol.
Beth yw'r ots os yw ieithoedd yn marw? 8 Chwefror 2010 Beth yw'r ots os yw ieithoedd yn marw? Ateb yr Athro David Crystal, awdur The Cambridge Encyclopedia of Languages: Sut bydd ieithoedd yn marw? Sut bydd ieithoedd yn marw? Dim ond pan fydd y person olaf i siarad iaith yn marw mae iaith ei hun yn marw. Ond, wyddoch chi, mae rhai yn dweud ei bod hi'n marw pan fo'r person olaf ond un yn marw. Oherwydd wedyn does gyda'r person olaf neb i siarad ag e. Wel, wrth gwrs, mae ieithoedd wedi mynd a dod trwy hanes wrth i gymunedau fynd a dod. Ond mae'r hyn sy'n digwydd nawr yn gwbl eithriadol. Sawl iaith sy'n marw? Sawl iaith sy'n marw? Mae yna ryw 6000 o ieithoedd yn y byd, fwy neu lai. Does neb yn gwybod yr union nifer. Ac o blith y rhain, mae pobl yn meddwl bod rhyw hanner mewn cymaint o berygl nes eu bod yn debygol o farw allan yn ystod y ganrif bresennol. Wel, can mlynedd yw hyd y ganrif bresennol, mae hanner yn golygu 3000 o ieithoedd, felly mae un iaith yn marw allan yn rhywle yn y byd bob pythefnos, ar gyfartaledd. Pam maen nhw'n marw? Pam mae hyn yn digwydd? Mae ieithoedd yn marw am bob math o resymau. Un yw'r rhesymau naturiol pan fo pobl yn cael eu heffeithio gan newyn a haint a daeargrynfeydd. Mae hil-laddiad yn reswm arall, pan fo rhai gwledydd yn ceisio lladd iaith fechan yn gwbl fwriadol. Y prif reswm yw globaleiddio. Hynny yw, mae yna rai ieithoedd enfawr yn y byd, fel Saesneg a Sbaeneg, ac Arabeg a Ffrangeg, ac mae'r rhain fel rholeri stêm sy'n malu'r ieithoedd llai sydd yn eu ffordd. Oes modd gwneud rhywbeth? Oes modd gwneud rhywbeth? Mae modd gwneud cryn dipyn i ddiogelu iaith sydd dan fygythiad. Y peth cyntaf yw bod angen i'r bobl eu hunain deimlo eu bod nhw am gadw'r iaith. Mae hynny'n bwysig iawn. Yr ail beth yw bod angen i'r awdurdodau deimlo eu bod nhw am gadw'r iaith. Mae'n rhaid bod ganddyn nhw barch tuag ar yr ieithoedd lleiafrifol sydd dan eu gofal. A'r trydydd peth sydd ei angen, wrth gwrs, yw arian. Mae'n costio dipyn go lew i ddiogelu iaith sydd dan fygythiad. Meddyliwch am y peth — mae angen hyfforddi'r athrawon, mae angen ysgrifennu llyfrau ar gyfer y plant, a'r math yna o beth. Dyw hi ddim yn costio llwythi o arian, ond mae hi yn costio dipyn. Felly heb arian, does gan ieithoedd sydd dan fygythiad ddim dyfodol disglair. Pam ddylem ni boeni? Pam ddylem ni boeni? Fe ddylem ni boeni am yr un rheswm rydym ni'n poeni am fioamrywiaeth y Ddaear — diogelu gwahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Mae ieithoedd yn union debyg, ond mai y nhw yw amrywiaeth ddeallusol y Ddaear. Mae rhyw 6000 gwahanol fydolwg yn cael eu mynegi gan y 6000 o ieithoedd sy'n bodoli. Mae hanner y rheiny ar fin diflannu, Diflannu go iawn. Oherwydd dyma sy'n digwydd: pan fo iaith sydd erioed wedi cael ei rhoi ar ddu a gwyn yn marw, mae hi fel pe bai'r iaith honno erioed wedi bod.
Cyfenwau Cymraeg: Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru? 8 Chwefror 2010 Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru? Os ydych wedi treulio amser yn hel achau, yna mae'r nifer gyfyngedig o gyfenwau sydd gan y Cymry wedi creu rhwystredigaeth ichi. Pam mae cyn lleied? Dyma ateb yr Athro Prys Morgan... Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry? Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry? Fe ddechreuodd y Cymry gael cyfenwau parhaol tua phum can mlynedd yn ôl. Cyn hynny, 'doedd y Cymry ddim yn defnyddio cyfenwau parhaol. Beth on nhw'n defnyddio fel enwau? Wel beth on nhw'n defnyddio fel enwau oedd eu henw bedyddiol eu hunain, dwedwch fel Siôn neu rywbeth fel yna. Ac os oedd pobl yn gofyn 'Wel, ie, pa Siôn ych chi, achos mae 'na nifer o bobl â'r enw Siôn?', fydden nhw'n dweud, 'Wel fi yw Siôn ap Gruffydd ap Llywelyn ap Meilyr,' ac odd yr ap yma yn golygu mab rhywun. Ac och chi'n dweud Siôn ap Gruffydd ap Meilyr ap Gruffydd ap Rhys, ac och chi'n mynd yn ôl gyda'r ap yma, yn ôl tua naw cenhedlaeth. A'r rheswm am hynny oedd nad och chi ddim yn meddwl am eich hunan fel unigolyn o gwbl yng Nghymru. Yn ôl cyfraith Hywel Dda, a dyna oedd cyfraith y rhan fwya o bobol yn byw yng Nghymru hyd at bum can mlynedd yn ôl, 'doedd yr unigolyn ddim yn cyfrif fel unigolyn. Beth oedd yn bwysig oedd bod chi'n rhan o dylwyth. Pryd newidiodd y drefn? Pryd newidiodd hynny? Fe newidiodd y system gyda'r Ddeddf Uno. Tua phum can mlynedd yn ôl, fe ddaeth y Saeson i Gymru a mynnu bod y Cymry yn derbyn y cyfenwau parhaol, yr un fath â'r Saeson. Felly pan ofynnwyd i'r Cymry dderbyn rhywbeth oedd yn mynd i ddangos beth oedden nhw, ffordd oen nhw'n wahanol i bobl eraill, fe ddwedodd y Cymry, 'Wel, beth sy'n bwysig amdanon ni yw enwau'n tadau ni. Felly dw i yn Siôn, a mae 'nhad yn Siôn. A mae 'nhaid yn Gruffydd.' O wel, byddai'r clerc yn dweud, 'Gewch chi fod yn John son of John, a'r ffordd symlaf o'i ysgrifennu fe lawr yn Saesneg yw John Jones. Ond pam cymaint o Jonesiaid? Yn yr un cyfnod ag y gorfodwyd y Cymry i gael enwau parhaol — a dyma'r peth mwya' pwysig i gofio — yr oedd 'na broses o symleiddio yr enwau bedydd, enwau cyntaf plant. Yn lle bo' chi'n cael amrywiaeth aruthrol o enwau hyfryd fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Llywarch a Gwalchmai, yn dod o gyfnod cynnar iawn neu o gyfnod Catholig, roedd rhain yn cael eu hystyried yn enwau peryglus. On nhw'n enwau o bosibl yn baganaidd, ac odd lot ohonyn nhw yn enwau Catholig, fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Gwasteilo, Gwasdewi. On nhw'n enwau Catholig, felly on nhw'n hollol waharddedig. Felly odd yr eglwys yn dweud bod rhaid i bawb cael enwau o gatalog syml iawn. Enwau saff iawn, fel John a David a Tomos ac ambell i enw brenin saff fel William ac Edward a Henry, ac yn y blaen. Dyna'r unig enwau saff. Ac felly, yn lle cael amrywiaeth o ryw gant a hanner o enwau oedd yn gyffredin trwy Gymru, fe symleiddiwyd rhain yn yr un cyfnod i ryw wyth neu naw neu ddeg o enwau! Felly Tomos, Davies, Jones ac yn arbennig felly Jones. Yn arbennig yn y gogledd, rych chi'n cael cannoedd ar gannoedd o bobl yn cael yr enw Jones yn cael ei orfodi arnyn nhw.
Ieithoedd eraill Cymru 1 Chwefror 2010 Lleisiau eraill Cymru Y Wal Ieithoedd yn Oriel 1, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Bu sawl llais gan Gymru erioed. Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol Cymru, ond mae nifer o ieithoedd eraill yn cael eu siarad yma hefyd. Fel dwy ran o dair o boblogaeth y byd, mae llawer o bobl yng Nghymru yn siarad mwy nag un iaith. Mae'n anodd cael hyd i ystadegau am ieithoedd ar wahân i Gymraeg a Saesneg, gan nad oes cwestiwn amdanynt yn y cyfrifiad. Dangosodd arolwg gan CILT Cymru fod o leiaf 98 o ieithoedd yn cael eu siarad gan blant ysgol yn y wlad hon. Yn 2006, fe gasglodd Amgueddfa Cymru enwau 78 o ieithoedd gan bobl oedd yn siarad yr ieithoedd hynny ac yn byw yng Nghymru, a'u harddangos ar wal mewn oriel. Gwrandewch ar rai o'r ieithoedd hyn Yma ar wefan Casgliad y Bobl, gallwch wrando ar rai o'r ieithoedd hyn a chlywed profiadau a barn y bobl sydd yn eu siarad. Gallwch hefyd ein helpu ni i ddarganfod mwy am leisiau Cymru. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, ac yn methu gweld eich cymuned iaith chi yma, rhowch wybod i bawb amdani trwy gyfrannu at Gasgliad y Bobl. Bengali Mae tua 400,000 o siaradwyr Bengaleg yn y Deyrnas Unedig, a chyfanswm o 230 miliwn trwy'r byd i gyd. Fe'i siaredir gan 100 miliwn o bobl ym Mangladesh a thros 70 miliwn o bobl India. Yng Nghymru, cofnodwyd bod disgyblion Bengaleg eu hiaith mewn ysgolion yng Nghaerdydd, sir Gaerfyrddin, ardal Conwy a sir Ddinbych, Merthyr Tudful, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Torfaen, Bro Morgannwg, a Wrecsam. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sydyn yn nifer y boblogaeth Bangladeshi yng Nghaerdydd. Maent bellach yn cynrychioli dros gwarter o Asiaid y ddinas. Pan ffurfiwyd Pacistan ym 1947, datganwyd mai Urdu fyddai'r unig iaith swyddogol, er gwaethaf y ffaith mai Bengaleg oedd yr iaith fwyaf cyffredin ei defnydd yn nwyrain y wlad. Wedi i Ddwyrain Pacistan gael annibyniaeth ym 1971, newidiwyd yr enw i Bangladesh a mabwysiadwyd Bengali fel iaith swyddogol y wlad. Yn Sylhet, ardal yng ngogledd-orllewin Bangladesh, mai gwreiddiau'r rhan fwyaf o Bangladeshis ym Mhrydain. Maent yn siarad tafodiaith Sylheti y Fengaleg sy'n wahanol iawn i'r iaith safonol. Mae gan ardal Sylhet gysylltiadau hanesyddol hir gyda Phrydain oherwydd y fasnach mewn jiwt a the. Mae'r gymuned Fengaleg ym Mhrydain yn dyddio'n ôl i'r 1870, ond bu'r mewnfudo trymaf rhwng y 1960au a'r 1970au. Sirajul Islam: Bengaleg Sylhet Sirajul Islam yn cyflwyno'i hun yn Gymraeg. Sirajul Islam yn cyflwyno'i hun yn Gymraeg. Sirajul Islam yn siarad am ei gefndir ieithyddol a pham y penderfynodd ddysgu Cymraeg. Sirajul Islam yn siarad am ei gefndir ieithyddol a pham y penderfynodd ddysgu Cymraeg. "Rwy'n hanu o Fangladesh yn wreiddiol. Des i yma fel mewnfudwr economaidd ym 1963 i chwilio am fywyd newydd, helpu fy nheulu yn yr hen wlad rhag tlodi, caledi, dioddefaint. Yn gartre, ni'n siarad Sylheti Bengali, dim Bengali pur. Achos ein ardal ni oedd yn perthyn i Assam — o ble mae te yn dod — so oedd e'n hollol wahanol na Bengali pur. So ron ni'n siarad Sylheti gartre, yn yr ysgol Bengali pur. Ond beth ddigwyddodd ar ôl annibynniaeth 1947, daeth Pacistanaid fel Vikings yn ein ardal ni, gyda'u diwylliant a'u hiaith Wrdw hefyd. Roedd rhaid inni ddysgu Wrdw yn syth. Roedd yn dipyn bach fel iaith swyddogol — Wrdw a Saesneg. So pan on i'n gweithio fel gwas sifil yn y swyddfa, don i ddim yn gallu defnyddio fy mamiaith Bengali o gwbwl. Wrdw neu Saesneg. So dyna'r rheswm rwy'n gallu siarad — doedd dim dewis 'da fi ond dysgu'r iaith Wrdw, i blesio llywodraeth Pacistanaidd. Digwyddodd yr un peth ganrif yn ôl yn cefen gwlad Cymru hefyd ontefe — Welsh Not. Rwy'n ddiolchgar iawn iawn i Gymru a'i phobol, ac rwy wedi cyflawni lot o betha yma. Fe ges i gyfle i neud pethe, cyflawni fy mreuddwydion, bydden ni ddim yn gallu neud unrywle arall. Penderfynais i ddysgu Cymraeg i ddweud 'Diolch yn fawr Cymru am popeth.' A yn ei hiaith ei hunan. A dyna bwysig. Dyna bwysig i fi. Japaneg Mae rhyw 125 miliwn o bobl yn siarad Japaneg, a 99% ohonynt yn dal i fyw yn Japan. Serch hynny mae'r nifer o siaradwyr Japaneg sy'n byw dramor wedi cynyddu wrth i economi Japan ehangu, gyda phobl yn mynd i weithio i gwmnïau Japaneaidd neu'r llywodraeth. Mae yna ryw 50,000 o siaradwyr Japaneg yn y DU, gyda rhyw 2000 o'r rhain yn byw yng Nghymru. Cymru yw'r ganolfan fwyaf yn Ewrop i gwmnïau o Japan sy'n cynhyrchu nwyddau electronig Japaneaidd. Daeth y cwmni gweithgynhyrchu Japaneaidd cyntaf i Gymru ym 1973, ac yn ystod y 30 mlynedd diwethaf mae'r nifer wedi cynyddu i ryw 60 cwmni, sy'n cyflogi miloedd o bobl Cymru. Gwyddom am ddisgyblion sy'n siarad Japaneg mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir y Fflint, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, Bro Morgannwg a Wrecsam. Midori Matsui: Japaneg Midori Matsui yn cyflwyno'i hun yn Siapaneg. Midori Matsui yn cyflwyno'i hun yn Siapaneg. Midori Matsui - o Siapan i dde Cymru. Midori Matsui - o Siapan i dde Cymru. "Rwy'n dod o Siapan. Athrawes Saesneg oeddwn i yn Siapan. Roeddwn i am weld Lloegr, Prydain Fawr, yn gyntaf, cyn dod i Gymru. Felly fe ddes i i Loegr ym 1972. Wedi treulio blwyddyn yma, gofynnwyd i mi ddod draw i Gymru i weithio i gwmni o Siapan. Felly y flwyddyn wedi hynny, '73, fe ddes i i Gymru ac rwy' wedi byw yma fyth ers hynny. Mae llawer o bobl wedi dweud wrtha' i'n barod bod acen Gymreig gyda fi. Ond dydw i fy hun ddim yn gallu dweud. Mae gen i stori ddoniol am yr acen Gymreig. Un diwrnod roeddwn i ym maes awyr Heathrow yn chwilio am fath arbennig o chwisgi. Daeth y rheolwr draw ata' i a dechrau egluro ynglŷn â'r chwisgi. Roedd e'n credu mai ymwelydd o'n i, ac mae pawb yn gwybod bod pobl o Siapan yn gwerthfawrogi chwisgi. Y cyfan ddywedais i oedd, 'Rwy'n iawn diolch yn fawr, rwy'n gwybod am beth rwy'n chwilio.' Ond pan ddywedais i hynny fe ddywedodd e, 'Ble ar wyneb y ddaear gawsoch chi'r acen Gymreig yna?' Sylweddolodd e wedyn 'mod i'n byw yn y wlad hon, nad ymwelydd oeddwn i, nid dim ond ymwelydd." Iaith Arwyddion Prydain Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language neu BSL) yw'r iaith a ddefnyddir gan gymuned Fyddar Prydain. Mae hon yn iaith yn ei hawl ei hun, yn hytrach na ffordd o siarad Cymraeg neu Saesneg trwy gyfrwng arwyddion. Amcangyfrifir bod rhyw 70,000 o bobl yn defnyddio BSL fel eu hiaith gyntaf, a bod hyd at 250,000 o bobl yn defnyddio peth BSL. Mae ieithoedd arwyddion yn amrywio o wlad i wlad; mae iaith arwyddion Prydain yn wahanol i Iaith Arwyddion Ffrainc neu America, er enghraifft. Mae yna wahanol amrywiadau rhanbarthol neu dafodieithoedd, fel sydd mewn ieithoedd eraill. Mae gan BSL hanes a diwylliant hir, ond yn ystod rhan helaethaf yr 20fed ganrif cafodd ei gwahardd mewn ysgolion i blant Byddar. Gorfodwyd y disgyblion i siarad a darllen gwefusau yn lle hynny. Er gwaethaf hyn, goroesodd BSL ac er 2003 cafodd ei chydnabod yn swyddogol gan y Llywodraeth fel iaith annibynnol. Jeff Brattan-Wilson: Iaith Arwyddion Prydain Jeff Brattan-Wilson yn cyflwyno'i hun yn Iaith Arwyddion Prydain. Jeff Brattan-Wilson yn cyflwyno'i hun yn Iaith Arwyddion Prydain. Jeff Brattan-Wilson yn siarad am Iaith Arwyddion Prydain Jeff Brattan-Wilson yn siarad am Iaith Arwyddion Prydain. "Fe ddysgais i BSL oherwydd bod fy rhieni yn fyddar, mae fy nheulu yn fyddar. Cefais fy ngeni i fyd byddar ac wrth dyfu i fyny arwyddo roeddwn i. Roedd y gymuned o'm cwmpas yn defnyddio Saesneg, ac roedd pawb o'm cwmpas i yn clywed, ond mae fy nheulu yn fyddar. Iaith go iawn yw BSL. Mae ganddi ei gramadeg ei hun, ei chystrawen ei hun, ei chyd-destun ieithyddol ei hun. Mae gan Gymru a Lloegr, gwahanol wledydd, eu hiaith lafar eu hunain. Mae BSL yn debyg. Mae ganddi ei strwythur ei hun. Dewch i ni gael trafod acenion. Mae gan iaith arwyddion wahanol amrywiadau rhanbarthol. Mae yna wahanol amrywiadau rhanbarthol rhwng gogledd Cymru a de Cymru. Yr un peth gyda gorllewin Cymru a dwyrain Cymru. Mae'n ddigon tebyg i'r iaith lafar. Mae yna amrywiadau rhanbarthol yn iaith lafar gorllewin a dwyrain, gogledd a de Cymru. Mae BSL yr un peth. Hefyd, mae iaith arwyddion Cymru dipyn yn wahanol i iaith arwyddion Lloegr, er mai Iaith Arwyddion Prydain yw'r ddwy. Mae 'na rai arwyddion gwahanol iawn i'w gilydd, oes. Mae un arwydd yn wahanol iawn. Yr arwydd am lythyr. Dyma'r arwydd Cymraeg ar gyfer llythyr, a dyma'r arwydd Saesneg wedyn. Fel y gwelwch chi maen nhw'n wahanol iawn. " Somalieg Bu pobl Somali yn byw yng Nghaerdydd ers y 1870au. Mae gan ein prifddinas un o'r cymunedau Somali mwyaf hirsefydlog yn y Deyrnas Unedig. Morwyr oedd y rhai cyntaf i ymsefydlu yma. Daethant yma'n fuan wedi agor Camlas Sŵes ym 1869, pan oedd Caerdydd yn datblygu'n borthladd rhyngwladol o bwys. Yn ystod y 1980au cyrhaeddodd ton arall o fewnfudwyr o Somalia, ar ffo rhag y rhyfel cartref ym Mhenrhyn Somalia. Amcangyfrifir bod dros 8000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe a'r ardaloedd cyfagos ar hyn o bryd. Dyma'r gymuned ethnig leiafrifol fwyaf yng Nghymru felly. Mae rhyw 10-15 miliwn yn siarad Somalieg trwy'r byd i gyd. Mae hon yn iaith ag iddi draddodiad hir a chyfoethog o farddoniaeth a llenyddiaeth. Serch hynny, dim ond ers 1972 y daeth Somalieg yn iaith swyddogol Somalia, a disodli'r ieithoedd trefedigaethol, Saesneg ac Eidaleg, ym maes llywodraeth ac addysg. Faisal Mohamed Hashi: Somalieg Faisal Mohamed Hashi yn cyflwyno'i hun yn Somalieg. Faisal Mohamed Hashi yn cyflwyno'i hun yn Somalieg. Faisal Mohamed Hashi yn siarad am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd. Faisal Mohamed Hashi yn siarad am ei gefndir Somalieg ei iaith yng Nghasnewydd. "Ces i fy ngeni yng Nghasnewydd yn y Pil, y rhan newydd o Gasnewydd o'r enw Pilgwenlly, yn ardal y dociau. Masnachlongwr oedd fy nhad, dyna pam ro'n i yma. Fe ddaeth e i'r Deyrnas Unedig gyda'r Llynges Fasnachol, Llynges Fasnachol Prydain. Fe gartrefodd e yma gyda'i deulu a fi oedd ei gynnyrch cyntaf yn y wlad hon. Ond roedd hi'n beth digon od cael fy ngeni yng Nghymru — Cymro oeddwn i ar yr ystyr yna, oherwydd i fi gael fy ngeni yno. Ond yr iaith gyntaf ddysges i oedd Somalieg oherwydd yn y cartref roedd hi fel petaem ni yn Somalia, ond bod Somalia wedi symud i Gymru, wrth gwrs. Felly yn yr ystyr yna, Somaliad o'n i gyntaf. Ond wedyn wrth gwrs pan es i mas i'r stryd, fe ddeallais i 'mod i'n Gymro ac mae fy ngwreiddiau Cymraeg wedi tyfu ers hynny. Mae iaith yn bwysig iawn, iawn yn fy niwylliant i. Wrth gwrs iaith eich rhieni yw'r iaith gyntaf y byddwch chi'n ei dysgu. Iaith gyntaf fy mam oedd Somalieg, felly roedd hi'n gwneud yn siŵr ei bod hi'n siarad Somalieg gyda ni. Felly fe ddysgais i Somalieg gyntaf, ac yna Saesneg. Mae'n amlwg bod yna gam yn ôl o fyw yn y wlad hon. Felly yn yr ystyr yna, mae 'na lawer o falchder yn perthyn i ddeall yr iaith a llawer o falchder o allu siarad yn eich iaith eich hun a'ch bod chi'n deall eich diwylliant eich hun. Mae'n wir bod gyda fi acen Gymreig — acen Gymreig-Seisnig — pan fydda i'n siarad Somalieg. Pe bawn i'n siarad y tu ôl i'r wal yna ac yn gael sgwrs gyda rhywun o Somalia, fe fydden nhw yn bendant yn gallu dweud 'mod i heb gael fy ngeni a'm magu yn Somalia. Ond mae 'da fi eirfa eang a fyddai'n gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith ynglŷn â beth yn union oedd fy ngwreiddiau i. Ond o ran acen, yna yn bendant, mae 'da fi acen Gymreig-Seisnig pan fydda' i'n siarad Somalieg. Yn y bôn, ie, Cymro ydw i. Cymro Somali. Yn yr ystyr yna, mae'r acen Gymreig yn dod i'r wyneb wrth i fi siarad Saesneg a Somalieg." Panjabi Siaredir Pwnjabeg gan tus 93 miliwn o siaradwyr. Yn wreiddiol, roedd siaradwyr Pwnjabeg yn dod o ardal y Pwnjab, a rannwyd rhwng India a Phacistan wedi gwahanu'r ddwy wlad ym 1947. Mae tua 70 y cant o siaradwyr Pwnjabeg yn byw ym Mhacistan, a 30 y cant yn India. Mae'r rhai sy'n byw ym Mhacistan yn Fwslemiaid yn bennaf a defnyddiant yr iaith Wrdw ar gyfer crefydd a diwylliant dyrchafedig. Mae Hwndwiaid sy'n siarad Pwnjabeg yn defnyddio'r iaith Hindi ar gyfer eu crefydd. Ond i'r Sikhiaid, Pwnjabeg yw prif iaith ei llyfr sanctaidd, y Guru Granth Sahib. Daeth Pwnjabiaid i'r Deyrnas Unedig yn cyfnod rhwng diwedd y 1950au a dechrau'r 1970au. Roeddent wedi setlo'n bennaf yn ardal Llundain, Canolbarth Lloegr a threfi tecstilau gogledd Lloegr. Ond nid oedd y siaradwyr Pwnjabeg yn dod o India a Phacistan yn unig. Yn eu plith roedd gwyr busnes a phobl broffesiynol o Ddwyrain Affrica, lle symudodd masnachwyr o'r Pwnjab yn gynharach yn yr 20fed ganrif. Yng Nghymru, gwyddom fod disgyblion Pwnjabeg eu hiaith mewn ysgolion yn sir Gaerfyrddin, sir Ddinbych, Caerdydd, sir y Fflint, Merthyr Tudful, Abertawe/Castell-nedd,/Port Talbot a Thorfaen. Swinder Chadha: Pwnjabeg Swinder Chadha yn cyflwyno'i hun yn Pwnjabeg. Swinder Chadha yn cyflwyno'i hun yn Pwnjabeg. Swinder Chadha yn siarad am ei chefndir ieithyddol. Swinder Chadha yn siarad am ei chefndir ieithyddol. Rwy'n siarad Pwnjabeg. Dyna'r famiaith rwy' wedi ei hetifeddu gan fy nheulu. Ond pan roeddem ni'n byw yn Delhi, Hindi ac Wrdw oedd yr ieithoedd, ac yn blentyn roeddwn i'n gallu eu dysgu nhw'n rhwydd. Felly ro'n i'n gallu siarad tair iaith yn fy mhlentyndod — Hindi, Wrdw a Pwnjabeg. Fe ddysges i Saesneg pan es i i'r ysgol a'r coleg. Dim ond Pwnjabeg y byddaf yn siarad gyda fy mhlant a'm gŵr gartref. Rwy' hefyd yn siarad Pwnjabeg pan af i i addoli yn ein Gurdhwara lleol bob dydd Sul. Fel arall Saesneg yw hi i gyd. Mae pobl o wahanol rannau o'r byd yn y Gurdhwara lle byddaf i'n mynd. Siciaid ydym ni i gyd, rydym ni i gyd yn siarad yr un fath o Pwnjabeg, ond mae gennym ni wahanol acenion. Daeth rhai i Gymru trwy wledydd yn Nwyrain Affrica, neu o Byrma neu Singapore, ac mae yna bobl o Iran, pobl yn syth o'r Pwnjab hefyd. Felly mae gennym i gyd wahanol acen, ond rydym ni oll yn deall yr iaith. Hyfforddi staff i ddeall amrywiaeth ddiwylliannol y byddaf i. Felly mae hynny yn mynd â fi at wahanol gyrff ac eto byddaf yn siarad gyda gwahanol bobl broffesiynol ynglŷn â sut i ddeall eu gweithwyr sydd wedi dod o wahanol rannau o'r byd, a pha fath o ymdriniaeth fyddai fwyaf derbyniol i'r rhan fwyaf, a sut i fynd o'i chwmpas hi. Dyma'r — ac wedyn bum yn dysgu hanes India i bobl hefyd. Mae hynny'n gwneud i mi ddeall bod holl bobloedd y byd yr un fath. Maen nhw'n edrych yn wahanol, mae'r lliwiau yn wahanol, mae'r ieithoedd yn wahanol, ac mae ganddyn nhw wahanol enwau ar gyfer duw, ond yn y pen draw bodau dynol ydym ni i gyd. Ffrangeg Mae tua 128 miliwn o bobl ledled y byd sy'n siarad Ffrangeg. Nid yn unig yn Ffrainc y mae hi'n iaith swyddogol, ond hefyd mewn 24 o wledydd eraill, er enghraifft y Swisdir, Canada a rhai gwledydd yn Affrica. Fe'i siaredir yn Ynysoedd y Sianel, a cheir cymunedau sylweddol o bobl Ffrangeg eu hiaith yn Llundain. Hi yw'r iaith fwyaf cyffredin a ddysgir mewn ysgolion eilradd yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, cofnodwyd siaradwyr Ffrangeg iaith gyntaf mewn ysgolion yng Nghaerdydd.sir Gaerfyrddin, Conwy/sir Ddinbych, sir y Fflint, Casnewydd, Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot, a Wrecsam. Sylvie Hoffman: Ffrangeg Sylvie Butterbach yn cyflwyno'i hun yn Ffrangeg. Sylvie Butterbach yn cyflwyno'i hun yn Ffrangeg. Sylvie Butterbach yn siarad am ddewisiadau iaith oddi mewn i deulu Sylvie Butterbach yn siarad am ddewisiadau iaith oddi mewn i deulu. Dysgais Ffrangeg — hi yw fy mamiaith. Cefais fy ngeni yn Ffrainc a Ffrangeg roeddem ni'n siarad gartref. Ond roedd fy nain a'm taid yn siarad Plattdeutsch, oherwydd rydym ni ar y ffin rhwng yr Almaen a Ffrainc , a chawsom ni ein goresgyn gymaint o weithiau fel bod fy rhieni wedi cael eu gwahardd rhag siarad Ffrangeg yn yr ysgol, a'm neiniau a theidiau hefyd. Roedd fy hen nain a'm hen daid yn siarad Ffrangeg, ond doeddwn i ddim yn eu nabod nhw. Bod yng Nghymru — weithiau, pan fydda' i yn Ffrainc, mi fydda' i'n gweld traha pobl sydd ddim yn poeni i siarad yr iaith. Sydd ddim hyd yn oed yn eich cyfarch chi yn yr iaith honno. Hynny gan Almaenwyr, ac rwy' wedi cwrdd â Saeson felly hefyd. Felly fe ddywedais i wrthyf i fy hun, na, dyw hyn ddim am ddigwydd. Bydd fy mhlant i yn ymwybodol, yn gwybod mai yng Nghymru yr ydym ni, bod pobl yn siarad Cymraeg, a phob dim. Felly fe anfonais i nhw i'r ysgol Gymraeg ac roedd fy merch wrth ei bodd ac wedi dysgu'n rhwydd. Cymru yn erbyn Lloegr gyda'r rygbi, dros Gymru rydych chi'n gweiddi wrth gwrs. Ond Cymru yn erbyn Ffrainc? Ro'n i'n gweddi ar i Ffrainc ennill! Ac o 'mlaen i roedd yna ferch ddeng mlwydd oed yn gweiddi dros Gymru. O 'mlaen i! Yn fy meddwl i dyna oedd y brad eithaf. Ges i afael ynddi fel hyn a gofynnais iddi, 'Qu'est-ce-que tu fait? Beth wyt ti'n meddwl wyt ti'n gwneud?' Ac fe ddywedodd hi, 'Mam, Cymraes ydw i. Rwy' wedi penderfynu bod yn Gymraes.' A dywedais i, 'Mais, pourquoi? Ond pam?' Ac fe ddywedodd hi, 'Pan fydda' i'n siarad Ffrangeg gyda ti, dwi'n teimlo 'mod i'n gwneud cam â Dad, oherwydd dyw e ddim yn deall Ffrangeg a - wel mae'n deall ond dyw e ddim yn siarad Ffrangeg . A pan fydda' i'n siarad Saesneg gyda fy nhad — dyw e ddim yn siarad Cymraeg — rwy'n teimlo 'mod i'n gwneud cam â ti, felly rwy' wedi penderfynu bod yn Gymraes. Fel hynny fydd arna' i ddim byd i neb.' Felly fe benderfynodd hi fod yn Gymraes, ac o hynny allan, Cymraes oedd hi. A dyna ni. Ac fe wnaeth ei chwaer hi yr un peth. Gwjarati Mae Gwjarati yn un o bymtheg iaith swyddogol India ac yn iaith swyddogol talaith Gwjarat yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Amcangyfrifir bod 47 miliwn o bobl ledled y byd yn siarad yr iaith. Hon oedd iaith gyntaf Mahatma Gandhi ac mae iddi draddodiad llenyddol sy'n dyddio'n ôl i'r ddegfed ganrif. Mae yna lawer o siaradwyr Gwjarati yn y Deyrnas Unedig, gyda'r prif gymunedau yng Nghanolbarth Lloegr, trefi diwydiant defnydd gogledd Lloegr a Llundain Fwyaf. Daeth rhai yn syth o India yn y 1950au a'r 1960au, ond daeth llawer i'r Deyrnas Unedig trwy Ddwyrain Affrica, yn arbennig wedi i'r aelodau hynny o'r boblogaeth oedd yn hanu o Ddeheubarth Asia gael eu gyrru o Wganda ym 1972. Gwyddom am ddisgyblion sy'n siarad Gwjarati mewn ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin, Merthyr, Abertawe/Castell-nedd Port Talbot, Torfaen a Bro Morgannwg. Dinesh Patel: Gwjarati Dinesh Patel yn cyflwyno'i hun yn Gujurati Dinesh Patel yn cyflwyno'i hun yn Gujurati. Dinesh Patel yn siarad am symud o Cenia i Gaernarfon. Dinesh Patel yn siarad am symud o Cenia i Gaernarfon. Fy ngeni yn Kenya, a dwy'n dod o cefndir Indian. A dwy'n byw yn Kenya, a dwy'n siarad iaith Gwjarati, mewn tŷ. A siarad Saesneg mewn ysgol, a siarad iaith arall fel Gwjarati, Hindi, Swahili ar y stryd efo plant arall. A dwy'n — dwy'n mynd i India a dysgu Hindi, sut ma siarad a sut ma sgwennu. A dwy'n cyrradd i Lloegr yn 1973, a wedyn gorffan coleg fanna a 'dyn dod i C'narfon, efo gwaith. A dwi'n gweithio efo'r cyngor, a pawb yn C'narfon yn siarad Cymraeg. A dwi'n pigio tipyn bach o Gymraeg ar y stryd yn gynta, wedyn dwi'n mynd i'r coleg a dysgu tipyn mwy, ia. A dwi'n cyfarfod hefo hogan Cymru, a priodi hi, a dwi'n cal dau o blant, a pawb yn tŷ ni yn siarad Cymraeg, bob tro. Pobol yn byw yn C'narfon, maen nhw'n siarad Cymraeg, Cymraeg efo — Cymraeg, Cofi Cymraeg. A dwi'n pigio lot o Cofi Cymraeg yn C'narfon, a mynd i tafarn efo ffrindia fi, chwara criced efo'n gilydd, a siarad Cymraeg efo pawb. A bob tro, trio defnyddio Cymraeg efo pawb. A dwi'n setlo mewn yn iawn, efo'r gymuned i gyd. Maleieg Iaith a siaredir gan bobl sy'n byw ar benrhyn Maleia, deheubarth Gwlad Tai, Ynysoedd y Philipinos, Singapôr, canolbarth dwyrain Swmatra a rhannau o arfordir Borneo yw'r Faleieg (Bahasa Melayu). Mae'n iaith swyddogol ym Maleisia, Brwnei a Singapôr. Mae rhyw 18 miliwn yn siarad Maleieg Safonol, ond mae yna hefyd tua 170 miliwn o bobl sy'n siarad Indoneseg, sy'n ffurf ar y Faleieg. Gwyddom am siaradwyr Maleieg mewn ysgolion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Juliet Revell: Maleieg Juliet Revell yn cyflwyno'i hun yn Maleieg. Juliet Revell yn cyflwyno'i hun yn Maleieg. Juliet Revell yn siarad am ddysgu Cymraeg. Juliet Revell yn siarad am ddysgu Cymraeg. Wi'n hoff iawn o ddysgu ieithoedd newydd. Mae Cymraeg yn ddiddorol iawn, ac yn wahanol i fy mamiaith. A hefyd mae'n her fawr i fi 'i dysgu. Wi'n meddwl, ne wi'n credu bod yn bwysig i mi i allu siarad Cymraeg er mwyn cymdeithasu gyda'r bobol leol. Achos wi'n byw yn Cymru nawr, Cymru yw fy nghartre. Wi'n siarad Cymraeg gyda cymdogion, ffrindiau, ne tiwtor Cymraeg, weithiau'n mynd i gyfarfod CYD i ymarfer fy Nghymraeg. Ond mae stori ddiddorol iawn. Dwedodd un o'r cymdogion, y ffermiwr, mae'n anodd siarad â fi mewn Cymraeg, achos mae fy Nghymraeg o safon gweinidog. O, wi wrth fy modd, i glywed hynny! Llydaweg Iaith Geltaidd yw'r Llydaweg ac mae'n perthyn yn agos i'r Gernyweg a'r Gymraeg, er na fyddai siaradwr Cymraeg yn gallu deall siaradwr Llydaweg. Mae rhyw 365,000 o siaradwyr Llydaweg, gyda'r rhan fwyaf o'r rhain yn byw yn Llydaw, ar arfordir gogledd-orllewinol Ffrainc. Nid oes statws swyddogol i'r iaith. Rhwng 1880 a 1951 gwaherddid yr iaith yn yr ysgolion ac roedd plant yn cael eu cosbi am siarad Llydaweg. Er 1951, mae'r gyfraith wedi caniatáu dysgu iaith a diwylliant Llydaw am ychydig oriau'r wythnos. Mae yna hefyd ambell i ddarllediad radio yn y Llydaweg ac awr o raglen deledu yr wythnos. Pascal Lafargue: Llydaweg Pascal Lafargue yn cyflwyno'i hun yn Llydaweg. Pascal Lafargue yn cyflwyno'i hun yn Llydaweg. Pascal Lafargue yn egluro pam y dysgodd Lydaweg a Chymraeg. Pascal Lafargue yn egluro pam y dysgodd Lydaweg a Chymraeg. Gesh i fy ngeni yn Rennes, prifddinas Llydaw, ond yn anffodus ers tipyn rwan does 'na neb sy'n siarad Llydaweg yn Rennes. Felly nesh i ddysgu fy hun efo llyfra, a wedyn nesh i roi fy enw yn y brifysgol yn Rennes lle'r on i'n gallu mynd ymlaen efo'r Llydaweg. Ar hyn o bryd rwy'n siarad Ffrangeg efo fy nghariad, ond rwy'n siarad Cymraeg i fy mab i. Ac efo ffrindia, achos ma gen i ffrindia yng Nghymru o Llydaw, felly dwi'n cal cyfle i siarad Llydaweg efo nhw. Mae 'na lot o bobol sy'n arfer gofyn i mi, 'Pam 'dach chi wedi dysgu Cymraeg?' Mae'n anodd i ateb math o gwestiwn fel yma, ond fel arfer dwi'n ateb, 'I be yfad gwydyr o win? I be mynd am dro yn y cefn gwlad?' Dwi'n jest dysgu ieithoedd i fod yn ddiddordeb hefo'r bobol, ac i rannu pethau efo nhw. Dyna pam dwi 'di dysgu Cymraeg. A hefyd mae mor agos i'r Llydaweg, felly mae'n ddiddorol iawn, dwy'n meddwl. Swahili Mae'r iaith Swahili wedi lledaenu y tu hwnt i'w chrud ar arfordir dwyrain Affrica trwy gyfrwng rhwydweithiau masnachu. Iaith Fantu yw hi, ond trwy gyswllt â masnachwyr o Arabia mae wedi mabwysiadu llawer o eiriau Arabaidd. Yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif defnyddid hi yn iaith weinyddol gan y Prydeinwyr a wladychodd y rhan honno o Affrica. Daeth Swahili yn iaith genedlaethol Tansanïa a Chenia pan enillodd y ddwy wlad eu hannibyniaeth yn y 1960au. Serch hynny, siaredir Swahili hefyd mewn rhannau o Somalia, Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Rwanda a Bwrwndi. Mae'n famiaith i ryw 5 miliwn o siaradwyr, ond mae o ddeutu 50 miliwn o siaradwyr ail-iaith yn ei defnyddio fel iaith gyffredin. Dangosodd arolwg o awdurdodau addysg lleol yng Nghymru bod yna blant sy'n siarad Swahili yn rhai o ysgolion Conwy/Sir Ddinbych ac Abertawe/Port Talbot.. Dim ond un o blith sawl iaith Affricanaidd a siaredir gan bobl sy'n byw yng Nghymru yw hi. Aime Kongolo: Swahili Mae Aime Kongolo yn hanu o Katanga yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ardal a oedd ar un adeg yn cael ei rheoli gan Wlad Belg. Daw o gymdeithas lle mae siarad llawer o wahanol ieithoedd yn beth cwbl arferol. " Mae Swahili fel iaith frodorol, fel mamiaith, i fi. Fe alla' i ddweud hynny oherwydd yn fy ninas i yn Katanga, mae pawb yn siarad Swahili. Mae 'na dafodieithoedd eraill yn cael eu siarad yna, ond mae pawb sy'n siarad y tafodieithoedd yn deall Swahili. Felly fe dyfais i lan gyda'r iaith Swahili. Ar yr un adeg, oherwydd taw athro oedd fy nhad, yn ein tŷ ni roeddwn i'n siarad dwy iaith: Ffrangeg gyda fy nhad a Swahili gyda fy mam. Felly fe dyfais i lan gyda'r ddwy iaith yna. Ond o'r ysgol gynradd ymlaen, o'r ysgol feithrin i'r ysgol gynradd, trwy'r ysgol uwchradd ac yna i'r chweched dosbarth — dim ond Ffrangeg sydd. Fe ddysgais i Lingala pan symudais i i'r brifddinas, Kinshasa. Mae 'na gymaint o wahanol bobl yn y brifddinas. Maen nhw'n siarad holl wahanol ieithoedd y Congo. Ond Lingala yw'r brif iaith maen nhw i gyd yn ei siarad. Maen nhw'n deall ei gilydd. A Ffrangeg hefyd. Ond mae Lingala fwy ar gyfer mynd allan a chymdeithasu. Dyna pryd byddech chi'n siarad Lingala. Os ydych chi'n gwneud rhywbeth proffesiynol, yna Ffrangeg a dim byd arall. Neu os byddech chi am fod yn posh, falle, byddech chi'n siarad Ffrangeg drwy'r amser. Felly mae hi i fyny i chi. Pan ddes i i Loegr, fe ddechreuais i ddysgu Saesneg, ac yna fe symudais i i Loegr, i Gymru, lle ddysgais i ragor o Saesneg. Erbyn hyn falle bod rhyw damaid bach o acen Gymreig ar fy iaith er mwyn i bobl fy neall i. Yn y dyfodol mae'n fwy na thebyg y bydda' i'n dechrau dysgu Cymraeg."