Hanes

Y Gymraeg heddiw

15 Ionawr 2010

Stori lwyddiannus?

Cymraeg

Y Gymraeg oedd un o’r ieithoedd cyntaf i gael ei bygwth gan ledaeniad Saesneg ar draws y byd. Mae'n wyrth ei bod hi wedi goroesi o gwbwl. Dim ond un o bob pump o boblogaeth Cymru sy'n siarad yr iaith. Ar wahân i ambell i blentyn ifanc iawn, gall pawb sy'n siarad Cymraeg siarad Saesneg hefyd.

Ac eto, o safbwynt ieithoedd dan fygythiad, llwyddiant yw'r Gymraeg. Dangosodd cyfrifiad 2001 fod nifer a chanran y Cymry Cymraeg yn cynyddu am y tro cyntaf ers dros ganrif. Ym 1991 roedd 508,000 o bobl, neu 18.7% o'r boblogaeth, yn medru Cymraeg. Erbyn 2001 roedd y nifer wedi cynyddu i 582,000, sef 20.8% o'r boblogaeth.

Paradocsau

Map yn dangos dosbarthiad Cymry Cymraeg, cyfrifiad 2001

Map yn dangos dosbarthiad Cymry Cymraeg, cyfrifiad 2001

Mae cyferbyniadau diddorol yn y data: nid yr ardaloedd sydd â'r canrannau uchaf o Gymry Cymraeg yw'r ardaloedd lle mae'r niferoedd uchaf yn byw. Mae mwy o Gymraeg i'w chlywed yn y gorllewin nag yn nwyrain Cymru. Yng Ngwynedd, mae cymaint â 69% o'r boblogaeth yn medru Cymraeg, ond 11% yn unig sy'n medru'r iaith yng Nghaerdydd. Ac eto mae mwy o Gymry Cymraeg yn byw yn y trefi a'r dinasoedd nag sydd yng nghefn gwlad, a mwy o siaradwyr Cymraeg yn y de nag sydd yn y gogledd. Tua 78,000 o Gymry Cymraeg sy'n byw yng Ngwynedd, er enghraifft, sy'n llai na'r nifer yn sir Gaerfyrddin lle mae 50% o'r boblogaeth yn unig yn medru Cymraeg. Tra bu cynnydd calonogol yng nghanran siaradwyr yr iaith mewn ardaloedd Seisnigedig fel Caerdydd, gostwng wnaeth nifer yr ardaloedd lle mae dros 80% o'r trigolion yn medru Cymraeg.

Y ffactorau mwyaf allweddol o safbwynt cynyddu'r nifer sy'n medru'r Gymraeg yw llwyddiant ysgolion Cymraeg a'r cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n dysgu'r iaith. Dyma'r trydydd cyfrifiad i ddangos cynnydd yn y nifer o bobl ifainc sy'n medru'r iaith. Roedd 26% o'r boblogaeth dan 35 oed yn medru Cymraeg - 9% yn fwy nag oedd ym 1991.

Nid yng Nghymru yn unig mae pobl yn siarad Cymraeg. Yn ôl arolygon a gomisiynwyd gan S4C, mae dros 200,000 o bobl yn medru'r Gymraeg yn Lloegr. Yn y Wladfa yn ardal Chubut ym Mhatagonia mae tua mil neu ragor o ddisgynyddion ymfudwyr o Gymru yn dal i fedru'r Gymraeg yn ogystal â Sbaeneg.

Enghraifft: siaradwr o Gaernarfon

Gwil Pritchard yn cyflwyno'i hun yn Gymraeg.

Dyma glip fideo o Gwil Pritchard o Gaernarfon yn siarad yn ei dafodiaith leol — ‘iaith y Cofi’. Yn y bennod nesaf, cewch glywed Gwil yn sôn am ei gefndir ieithyddol a'r gwahaniaethau rhwng iaith Caernarfon a iaith Bangor. Mae iaith y Cofi yn enghraifft brin o dafodiaith drefol Gymraeg.

Iaith y Cofi – tafodiaith drefol

Gwil Pritchard yn siarad am iaith y Cofi.

Fe gesh i ‘magu yn C’narfon, a iaith y cartre oedd Cymraeg. Ac odd hynna’n wir am yr ardal o gwmpas C’narfon hefyd — pobol oddan ni’n nabod, ffrindia, y teulu i gyd yn siarad Cymraeg yn yr ardal yna. Yr un peth yn wir hefyd yn yr ysgolion — ysgolion cynradd, uwchradd, pob dim yn y iaith Gymraeg.

Byw yn G’narfon, ‘dach chi yn gal y teimlad bod o yn, mewn ffordd, iaith ei hun, mewn ffordd. Ma jest yr acen a’r geirie ‘dach chi’n ddefnyddio yn wahanol i lefydd erill. A ma pobol erill yn sylwi ar hynny hefyd, pan ‘dach chi’n siarad efo nhw.

I ddechra, y gwahaniath rhwng Bangor a G’narfon. Wel ‘sach chi’n meddwl bod ‘na ddim — naw milltir sydd rhwng y ddau le, ond ma Bangor, man nhw yn famous, os liciwch chi, i gal ‘u Bangor ais', achos man nhw’n deud 'ai' ar ôl bob dim. Ond yn G’narfon mae’n 'ia' ar ôl pob dim. A pan dwy’n deud ar ôl pob dim, mae ar ôl pob dim, de. ‘Wbath ma rhywun yn deud — “Ti’n mynd allan heno?” — yn lle jest deud 'ia', bysa rhaid nhw fynd “Ia, ia.”

Syr William Reardon Smith (1856-1935)

David Jenkins, 15 Hydref 2009

Gall y rhan fwyaf o amgueddfeydd ddiolch un cymwynaswr yn arbennig am newid eu byd; Syr William Reardon Smith oedd y gŵr hwnnw yn achos Amgueddfa Cymru.

Fel trysorydd (1925-28) a llywydd (1928-32) yr Amgueddfa, Syr William Reardon Smith fu'n gyfrifol am wyrdroi cyflwr echrydus coffrau'r Amgueddfa, a goruchwylio'r gwaith o gwblhau adain ddwyreiniol fawreddog Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sy'n rhan annatod o ganolfan ddinesig unigryw Caerdydd.

Nid Cymro oedd Reardon Smith; cafodd ei eni i deulu morwrol ym mhentref glan môr Appledore ar arfordir gogledd Dyfnaint ar 7 Awst 1856.

Gwas llong

Pan oedd Syr William yn 3 oed, bu farw ei dad pan suddodd ei sgwner mewn storm ar y môr ger Porth Tywyn. Er gwaethaf hyn, daeth Reardon Smith yn was caban pan oedd yn dal i fod yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd trwy weithio ar longau lleol oedd yn ymwneud â busnesau arfordirol ardal Môr Hafren. Aeth ymlaen wedyn i wasanaethu ar y llongau hwylio oedd yn cludo deunydd i adeiladu rheilffyrdd i UDA a mwyn copr i Chile.

Y Capten Reardon Smith

Ag yntau ond yn 22 oed, daeth yn gapten ar nifer o longau hwylio ac agerlongau, y mwyafrif ohonynt yn eiddo i'r cwmni llongau enwog o'r Alban, Hugh Hogarth of Glasgow. Symudodd i Gaerdydd gyda'i wraig a'i deulu ym 1900.

Ym 1905, sefydlodd gwmni i brynu a gweithredu agerlong newydd, y City of Cardiff. Dyma oedd ei wir alwedigaeth. Bu'r fenter yn llwyddiant ysgubol, ac erbyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ganddo naw agerlong cargo, oll yn allforio glo o'r de.

Er iddo golli sawl llong wrth law'r llongau tanfor yn ystod y Rhyfel, daliodd ati i ehangu ei lynges. Erbyn 1930, roedd Reardon Smith yn gyfrifol am dros 35 o longau.

Syr William

Gwnaed Syr William yn farwnig ym 1920, a throdd ei sylw mwyfwy at weithgareddau dyngarol. Sefydlodd Ysgol Forwrol Reardon Smith ym 1921. Pedair blynedd yn ddiweddarach, prynodd fad hwylio mawr, y Margherita, i'w ddefnyddio fel cwch hyfforddi ac fel bad hamdden i'w deulu.

Cyfrannodd yn hael at Ysbyty Brenhinol Caerdydd a hefyd at gost adeiladu ysbyty newydd yn Bideford. Gwaddolodd gadair athro yn adran ddaearyddiaeth Prifysgol Caer-wysg, sy'n dwyn ei enw hyd heddiw.

Ond Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd prif ffocws ei haelioni. Rhwng 1915 a 1935, cyfrannodd ef a'i wraig, y Fonesig Ellen, rhyw £150,000 at goffrau'r Amgueddfa.

Yn ogystal â'r rhoddion personol yma, gweithiodd yn ddiflino i godi arian o ffynonellau eraill. Er mwyn cydnabod ei gyfraniad, enwyd y ddarlithfa newydd a agorwyd yn adain ddwyreiniol yr Amgueddfa ym 1932 yn Ddarlithfa Reardon Smith.

Bu farw Syr William ar 23 Rhagfyr 1935 yn dilyn salwch byr. Mae'r byd yn cofio amdano nid yn unig am ei lwyddiant fel perchennog llongau ond hefyd am ei haelioni neilltuol. Dewisodd wario ei ffortiwn ar newid byd pobl eraill, ac am hynny, mae trigolion de Cymru a gorllewin Lloegr yn ddyledus iddo hyd heddiw.

Erthygl gan: David Jenkins.

Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar y Ffrynt y Gorllewin

Edward Besly, 1 Hydref 2009

Medelau Captain Arthur Edwards

Medelau Captain Arthur Edwards

Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf

Y Capten Arthur Edwards o Flaenafon oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym Mawrth 1915.

Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir.

Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd a ffrwydron cyn eu tanio.

Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn.

Ymladd y rhyfel o dan y ddaear

Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, gychwynnodd y cyfan. Yn Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, dan reolaeth Edwards.

Ym Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau'r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn.

Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli'r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i'r cyfeiriad arall, gan arwain at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear.

Bathodyn Anrhydedd

Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu'n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918.

Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 2006. 

Erthygl gan: Edward Besly, Niwmismatydd, Archeoleg a Niwmismateg. Amgueddfa Cymru

Streic y Glowyr - 1984-85

23 Medi 2009

Gwelwyd newidiadau mawr yn y diwydiant glo wedi’r gwladoli ym 1947. Buddsoddodd y llywodraeth swm sylweddol o arian yn y diwydiant a alluogodd iddo gyflwyno offer a thechnegau cloddio newydd. Arhosodd y lefelau cynhyrchu a chyflogaeth yn sefydlog tan ganol y 1950au ond, gyda’r gostyngiad yn y galw am lo a’r her o olew’r Dwyrain Canol, caewyd 50 o byllau glo yn ne Cymru rhwng 1957 a 1964.

Yn ystod y 1970au, gwelodd y diwydiant ddwy streic fawr. Ym 1972, ildiodd y Prif Weinidog Ceidwadol, Edward Heath, i’r glowyr a aeth ar streic am fwy o gyflog. Pan ddechreuodd streic arall ym 1974, galwodd Mr Heath am etholiad cyffredinol yn syth gan obeithio cael cefnogaeth y cyhoedd yn erbyn y glowyr. Ond pleidleisiodd y cyhoedd yn ei erbyn gan roi buddugoliaeth i’r Blaid Lafur.

Erbyn y 1980au, roedd diwydiant glo Prydain ymhlith y mwyaf diogel ac effeithlon yn y byd. Fodd bynnag, pan ddaeth y llywodraeth Geidwadol newydd i rym dan arweiniad Margaret Thatcher, roedd am wneud y diwydiant yn fwy effeithlon trwy leihau’r hyn yr oedd yn eu hystyried fel diwydiannau amhroffidiol. O dan ei harweiniad trosglwyddwyd nifer o'r diwydiannau a oedd gynt yn cael eu rhedeg gan y wladwriaeth megis nwy, dŵr a'r rheilffyrdd i berchnogaeth y sector breifat, mewn geiriau eraill cawsant eu preifateiddio. Telecom Prydain oedd y darparwr gwasanaeth cyntaf i gael ei ddadwladoli ym 1984 gyda sawl un arall yn dilyn dros y blynyddoedd canlynol. Ar yr un pryd, roedd am wanhau grym yr undebau llafur a oedd, yn ei thyb hi, wedi dod yn rhy bwerus. Arweiniodd yr agenda hwn at wrthdaro rhwng y llywodraeth Geidwadol ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM). Trodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Glo Prydain ym 1987 yn barod i'w breifateiddio, a digwyddodd hynny ym 1994.

strike-cy.pdf

Picedi, Plismon, a Gleidyddiaeth - Streic y Glowyr 1984-1985

Lawrlwythwch y PDF yma [3.3MB]