Traddodiadau'r Nadolig: Bwyd 10 Mai 2010 Dathlwch y Nadolig hwn drwy archwilio ryseitiau sydd wedi dod â chenedlaethau o deuluoedd a chymunedau ynghyd. Bydd ein dewis yn llenwi'ch tymor â chynhesrwydd traddodiad, un rysáit ar y tro.Yr Ŵydd Cadw gwyddau ar ffarm ger y Bont-faen Bu'r ŵydd yn ganolog i'r wledd Nadolig yng Nghymru tan yn ddiweddar iawn. Ers yr Oesoedd Canol 'roedd gan y ffermwyr mawr ŵydd ar y bwrdd i Ginio Nadolig. 'Roedd gwyddau yn hawdd i'w magu a chawsent bori a lloffa ar y caeau ŷd ar ôl y cynhaeaf. Bu'n arfer gan y ffermwyr i roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel, ond gofalent am gadw nifer dda i'w tewhau ar gyfer y farchnad Nadolig. Yn gyffredinol, ni welwyd y twrci ar fwrdd Nadolig y Cymro tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.Cacen Waed GwyddauYng nghanolbarth Cymru, roedd hi'n arfer i wneud cacen waed gwyddau pan fyddai'r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer Nadolig. Mae cof am ei gwneud yn ardal Trefeglwys a'r cylch, ac yn ardaloedd Staylittle, Llanbryn-Mair a Llangurig. Fe'i cyfrifid yn foethyn a gysylltid â'r Nadolig yn unig. Byddent yn tywallt gwaed tua tair o wyddau mewn basin pridd, a'i roi mewn sosbennaid o ddŵr a'i ferwi. Yna byddent yn gadael i'r gwaed oeri a chaledu cyn ei falu'n fân â llaw. Yna byddent yn rhoi'r 'gwaed' mewn dysgl bridd ac yn ei gymysgu â chyrens, blawd gwyn, siwet mâl, halen, sbeis a thriogl melyn. Cymysgu'r cyfan yn dda â llwy bren. Byddai'r cymysgedd yn cael ei grasu rhwng dwy haen o grwst brau ar blât yn y popty. Cyfuniad rhyfedd, meddech chi, ond cofiwch fod y mincemeat a geir mewn mins peis yn cynnwys cig yn wreiddiol! Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn Y Rysáit Pwdin Berwi Y mae'r pwdin berwi, yn llawn ffrwythau a sbeis, wedi ei gysylltu â'r Nadolig ers y ddeunawfed ganrif. Yr hen drefn oedd berwi'r cymysgedd yn un lwmp mawr mewn cŵd lliain - yr arfer a roddodd iddo'r enwau pwdin lwmp, pwdin clwt neu pwdin cŵd. Byddid yn rhwymo gwddf y cŵd a llinyn a'i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan fel bod y pwdin yn hongian i mewn yn y dŵr berw. Ar ddydd Nadolig byddid yn gwneud 'menyn melys' i dywallt drosto.Byddai pob aelod o'r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu'r pwdin ac yn gwneud dymuniad 'cudd' ar yr un pryd. Yr oedd hi'n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin - yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog - a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.Noson Gyflaith Rhoi siwgr ar y darnau cyflaith i'w rhwystro rhag glynu wrth ei gilydd ‘Roedd cynnal ‘Noson Gyflaith’ gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd. Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i’w cartrefi fin nos. Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gŵydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai’r cwmni’n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith. Ar ôl berwi’r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi’i hiro ag ymenyn. Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a’i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau. Yna byddai pob aelod o’r cwmni yn iro’i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o’r cyflaith i’w dynnu tra byddai’n gynnes. ‘Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu’r cyflaith hyd nes y deuai’n rhaffau melyngoch. Byddai’r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond ‘roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb. ‘Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yno, ond ‘roedd yn arfer gan wragedd i’w werthu o’u cartrefi neu yn y farchnad leol. ‘Roedd ‘dant’ a ‘ffani’ ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw’r gwneuthurwr arno, er enghraifft, ‘losin Magws’ neu ‘losin Ansin bach’. Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.Y Rysáit Teisen Dorth Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru Gwneid teisen dorth yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair teisen ar y tro ac yn eu cario i'r bacws lleol i'w crasu.'Roedd hi'n arfer i'r cymdogion 'brofi' teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau'r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai'n siŵr o ennill gŵr cyn y Nadolig canlynol!Y Rysáit Cerdyn Nadolig o'r casgliad
Lleisiau o'r Oesoedd Canol (OC 1070au–1500au) 16 Mawrth 2010 Rhagarweiniad Darn o Lyfr Gwyn Rhydderch, canol y 14eg ganrif Clywyd nifer o leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach. Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007 ar gyfer oriel archeoleg newydd yn Amgueddfa Cymru Caerdydd. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma. Eingl-Normaneg Câi Eingl-Normaneg ei ysgrifennu a'i siarad gan elît bychan yn dilyn y gwladychiad Normanaidd. Wedi i Edward I orchfygu Cymru, cyflwynwyd Eingl-Normaneg fel iaith y dosbarth rheoli a ddaeth i Gymru. Mae'n goroesi mewn nifer fach o destunau llenyddol ac mewn dogfennau gweinyddol a chyfreithiol. Cafodd Eingl-Normaneg beth dylanwad ar yr iaith Gymraeg hefyd. Daw'r enghraifft hon o lythyr John Peckham, Archesgob Caergaint (tua 1230-92) at y Brenin Edward I, yn disgrifio marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd ym 1282. Troswyd y darn i'r Saesneg gan Charles Trice Martin; mae'r darlleniad Eingl-Normaneg gan David Trotter Trawsysgrif o'r clip sain Sire, sachez ke cues [ceus?] ke furent a la mort Lewelin truverent au plus privé lu de sun cors menue choses ke nus avoms veues; entre les autres choses il i out une lettre deguisé par faus nuns de traysun. E pur co ke vus seyez garni, nus enveyum le transcript de la lettre a le eveske de Ba, e la lettre meymes tient Eadmund de Mortemer, e le privé seel Lewelin, e ces choses vus purrez aver a vostre pleysir, e ço vus maundum pur vus garner, e nun pas pur ce ke nul en seyt grevé, e vus priums ke nul ne sente mort ne mahayn pur nostre maundement, e ke (s) ce ke nus vus maundums seyt secré. Cyfieithad i'r Gymraeg Arglwydd, bydded i chi wybod bod y rhai a fu'n bresennol pan fu farw Llywelyn wedi canfod ynghudd ar ei gorff rhai pethau bychain. Ymysg pethau eraill roedd llythyr bradwrus wedi'i gelu â ffugenwau. Er mwyn eich rhybuddio, anfonwyd gopi o'r llythyr at esgob Caerfaddon. Mae'r gwreiddiol, ag arno selnod cyfrin Llywelyn, ym meddiant Edmund Mortimer, ac fe gewch chi'r pethau hyn os dymunwch. Anfonwn hwn i'ch rhybuddio, ac nid i achosi trafferth i neb. Gobeithiwn na fydd neb yn dioddef marwolaeth neu anaf o ganlyniad i'n gwybodaeth, ac y caiff yr hyn a anfonwn atoch ei gadw'n gyfrinachol. Cymraeg Canol Datblygodd Hen Gymraeg yn Gymraeg Canol tua 1100. Roedd Cymraeg llafar yn cynnwys amrywiaeth o dafodieithoedd, megis Gwyndodeg (tafodiaith Gwynedd) a Gwenhwyseg (tafodiaith Gwent). Defnyddiwyd yr iaith ysgrifennedig ar gyfer llenyddiaeth grefyddol, testunau cyfreithiol, gweithiau meddygol, herodraeth a ffermio yn ogystal â chwedlau rhyddiaith a rhamantau. Parhaodd Cymraeg i fod yn brif iaith Cymru'r Canoloesoedd. Daw'r enghraifft hon o Gymraeg Canol o un o dri chywydd gan y bardd proffesiynol Iolo Goch (tua 1320-98) sy'n canmol Owain Glyn Dŵr. Mae'r un yma'n canmol ei lys yn Sycharth. Mae noddwyr Iolo'n cynnwys gwŷr eglwysig uchel-radd yn ogystal â theuluoedd bonheddig Eingl-Gymreig a Chymreig. Mae'r darlleniad Cymraeg Canol gan Peter Wynn Thomas Trawsgysgrif o'r clip sain Llys Owain Glyn Dŵr Naw neuadd gyfladd gyflun, A naw gwardrob ar bob un, Siopau glân glwys cynnwys cain, Siop lawndeg fal Siêp Lundain; Croes eglwys gylchlwys galchliw, Capelau â gwydrau gwiw; Popty llawn poptu i'r llys, Perllan, gwinllan ger gwenllys; Melin deg ar ddifreg ddŵr, A'i glomendy gloyw maendwr, Pysgodlyn, cudduglyn cau, A fo rhaid i fwrw rhwydau; Amlaf lle, nid er ymliw, Penhwyaid a gwyniaid gwiw, A'i dir bwrdd a'i adar byw, Peunod, crehyrod hoywryw; Dolydd glân gwyran a gwair, Ydau mewn caeau cywair, Parc cwning ein pôr cenedl, Erydr a meirch hydr, mawr chwedl; Gerllaw'r llys, gorlliwio'r llall, Y pawr ceirw mewn parc arall; Saesneg Canol Dinistriodd y Goncwest Normanaidd ddiwylliant uchel llenyddol y Loegr Eingl-Sacsonaidd. Roedd y Saesneg Canol a ddefnyddiwyd yn gynyddol eang unwaith eto ar ôl tua 1200 yn wahanol iawn o ran gramadeg i Hen Saesneg, ac roedd wedi benthyg nifer o eiriau Norsaidd ac Eingl-Normanaidd. Saesneg oedd iaith arferol y mwyafrif o drefi a sefydlwyd gan reolwyr Normanaidd a Seisnig yng Nghymru. Treiddiodd nifer fawr o eiriau Saesneg Canol i'r Gymraeg. Daw'r enghraifft hon o Saesneg Canol o'r rhamant ganoloesol Sir Cleges,, hanes marchog gwastrafflyd sy'n cael ei yrru i dlodi cyn dod yn llewyrchus unwaith eto, â dathliadau'r Nadolig yn gefndir i'r stori. Fe'i cyfansoddwyd yn y 1300au/1400au cynnar, yn ôl pob tebyg yng ngogledd-orllewin canolbarth Lloegr. Mae'r darlleniad Saesneg Canol gan yr Athro John Hines. Trawsgrifiad o'r clip sain Sir Cleges and his son gent The right waye to Cardiffe went Uppon Cristemas Daye. To the castell he cam full right As they were to mete dy?t, At noun, the soth to saye. In Sir Cleges thow?t to goo, But in pore clothyng was he tho And in sympull araye. The portere seyd full hastyly: "Thou chorle, withdrawe þe smertly, I rede the, without delaye — 'Ellys, be God and Seint Mari, I schall breke thyne hede on hig?t! Go stond in beggeres row?t. Yf þou com more inward, It schall þe rewe afterward, So I schall þe clow?t.' 'Good sir,' seyd Sir Cleges tho, 'I pray you lat me in goo Nowe, without dow?t. The kynge I have a present brow?tt From hym þat made all thynge of now?t; Behold all abow?t!' Cyfieithad i'r Gymraeg Cymerodd Syr Cleges a'i fab y ffordd yn syth i Gaerdydd ar ddydd Nadolig. Aeth ar ei union i'r castell, wrth iddynt eistedd i fwyta, am ganol dydd i ddweud y gwir. Bwriadai Syr Cleges fynd i mewn, ond roedd golwg dlawd ar ei ddillad syml. Dywedodd y porthor yn gyflym iawn 'Ewch o'r lle yma ar unwaith, heb oedi, neu yn enw Duw a'r Forwyn Fair mi dorraf eich corun. Ewch i sefyll ynghanol y dorf o gardotwyr. Os dewch gam ymhellach, byddwch yn dyfaru. Fe'ch trawaf chi mor galed'. 'Gyfaill', meddai Syr Cleges, 'Rwy'n erfyn arnoch i'm gadael i mewn yr eiliad hon, heb amau. Rwyf wedi dod ag anrheg i'r brenin oddi wrtho ef a wnaeth bopeth o ddim. Edrychwch o'ch cwmpas.' Ffynhonnell: D. Speed (gol) 1987, '4. Sir Cleges', Medieval English Romances Part One (Department of English, University of Sydney), 169-92. Fflemineg (Iseldireg Canol) Daeth Ffleminiaid i Loegr gyda byddin Gwilym Goncwerwr, ac yn ystod y 1100au fel masnachwyr a threfedigion yn y trefi newydd. Y grŵp enwocaf o drefedigion yw'r Ffleminiaid o dde-orllewin Cymru (Sir Benfro a Cheredigion). Llwyddodd y Ffleminiaid i gadw'u hunaniaeth fel grŵp a'u hiaith am nifer o genedlaethau tan y 1200au cynnar. Erbyn hynny roeddynt wedi gweddnewid cymeriad rhai ardaloedd o Ddyfed. Daw'r darn hon o'r 'Roman van Walewein', stori Arthuraidd a dyfais Ffleminaidd mae'n debyg, â Gwalchmai (Gawain) fel prif gymeriad. Thema ganolog y stori yw'r cwest am fwrdd gwyddbwyll hedegog a ymddangosodd yn llys Arthur (gan ddiflannu drachefn). Trawsysgrif o'r clip sain Die koninck Arthur zat t'enen male Te Carlioen in zine zale Ende hild hof na konink zede Alzo hi menigwerven dede Met een deel zire man Die ik niet wel genomen kan: Ywein ende Percevaal, Lanceloot ende Duvengaal Entie hoofse Walewein; Zijn gezelle was daar negein. Ook was daar Keye, die drussate. Daar die heren aldus zaten Na den etene ende hadden gedwegen Alzo hoge liede plegen, Hebben zi wonder groot vernomen; Een schaak ten veinstren inkomen Ende breedde hem neder uptie aarde. (...) Cyfieithad i'r Gymraeg Eisteddai'r Brenin Arthur un tro Yn ei neuadd yng Nghaerllion A chynhaliodd lys, fel y gwna brenhinoedd Ac fel y gwnai yntau'n aml Gyda nifer o'i ddynion Na fedraf eu henwi i gyd. Owain a Perceval, Lawnslot a Duvengal A'r bonheddig Gwalchmai; A oedd heb ei debyg yno. Roedd Kay, y stiward, yno hefyd. Pan eisteddodd yr arglwyddi hyn yno Ar ôl pryd o fwyd, ac wedi iddynt olchi (eu dwylo) Fel y gwna gwŷr bonheddig, Gwelsant ryfeddod mawr: Daeth bwrdd gwyddbwyll i mewn drwy'r ffenest a glaniodd ar y llawr. (...) Cyfieithiad Saesneg gwreiddiol gan D. F. Johnson a G. H. M. Claassens; darlleniad Fflemineg gan Lauran Toorians Cyfrannwyd y stori gan Mark Redknap ar y cyd â Peter Wynn Thomas, Diarmait Mac Giolla Chríost, John Hines, David Trotter, Lauran Toorians.
Lleisiau o'r Oesoedd Canol Cynnar (OC 400au - 1070au) 15 Mawrth 2010 Rhagarweiniad Arysgrif Ladin ar gofeb o'r 9fed ganrif o Eglwys Sant Illtud, Morgannwg. Codwyd y groes gan Houelt (Hywel) ar gyfer ei dad Res (Rhys). Clywyd nifer o leisiau gwahanol yng Nghymru yn ystod y canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Fe ymosododd pobl o wledydd eraill, daeth rhai yma i weithio a chafwyd cysylltiadau estynedig ag eraill drwy fasnach. Recordiwyd y clipiau sain hyn yn 2007. Mae'r atgynhyrchiadau hyn o leisiau coll yr oesoedd canol yn dangos faint o ryngweithio ieithyddol oedd yng Nghymru yn y cyfnodau cynnar hyn, ac hefyd yn rhoi cipolwg inni ar feddyliau a gweithredoedd y bobl oedd yn byw yma. Hen Gymraeg: Cymru yw'r unig ran o Ynysoedd Prydain lle mae fersiwn o iaith Frythonaidd wedi cael ei siarad yn ddi-dor hyd heddiw. Y Frythoneg oedd mamiaith y Gymraeg, y Gernyweg a'r Llydaweg, Fe ddatblygodd i fod yn Hen Gymraeg yn ystod y 500au a'r 600au. Daw'r enghraifft o Hen Gymraeg a glywir yma o gyfres o englynion tair llinell a gofnodwyd yn ysgrifenedig yn yr 800au. Fe'u hadnabyddir fel cerddi'r Juvencus. Galarnad milwr unig a geir yn y darn yma. Unig gwmni'r milwr yw hurfilwr o Ewrop. Er eu bod wedi ymladd ochr yn ochr, mae'r cyfathrebu rhyngddynt yn gyfyngedig. Credai'r Athro Ifor Williams fod y gair franc yn golygu 'milwr estron cyflogedig', gan ei gymharu â'r Wyddeleg francamais oedd yn dwyn yr un ystyr. Os oedd y gair yn cyfeirio at rywun oedd yn wreiddiol o ymerodraeth Siarlymaen, buasai'n siarad rhyw fath o iaith Gaelo-Romawns (neu os oedd yn hanu o ardaloedd dwyreiniol, iaith Ellmynig). Trawsgrifiad o'r clip sain: Niguorcosam nemheuaur henoid Mitelu nit gurmaur Mi am [franc] dam ancalaur. Nicanãniguardam nicusam henoid Cet iben med nouel Mi amfranc dam anpatel. Namercit mi nep henoid Is discirr micoueidid Dou nam riceus unguetid. Cyfieithiad i Gymraeg Fodern 1. Ni siaradaf hyd yn oed am awr heno, Nid yw fy ngosgordd yn fawr, Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein crochan. 2. Ni fyddaf yn canu, chwerthin, na mwynhau heno Er i ni yfed medd clir, Myfi a fy Ffranc, o amgylch ein bowlen. 3. Na foed i neb ofyn imi am ddifyrrwch heno, Cwmni crintachlyd wyf fi, Gall dau arglwydd ymgomio: ond un sy'n siarad. Mae'r darlleniad o Hen Gymraeg gan Peter Wynn Thomas Lladin Roedd y rhan fwyaf o bobl Brythonig-Rufeinig addysgedig yn ddwyieithog. Lladin oedd iaith y gyfraith, y llywodraeth, busnes a llenyddiaeth yn y Gymru Rufeinig. Cadwodd Lladin ei lle fel yr iaith ryngwladol o'r statws uchaf drwy'r canol oesoedd cynnar a'r canol oesoedd. Lladin oedd iaith testunau, litwrgi ac addysg Gristnogol. Yn y clip sain clywir darlleniad o fersiwn y Fwlgat o Weddi'r Arglwydd gan Beatrice Fannon. Trawsgrifiad o'r clip sain PATER noster, qui es in caelis, Sanctificetur nomen tuum. Adveniat regnum tuum. Fiat voluntas tua, sicut in caelo et in terra. Panem nostrum quotidianum da nobis hodie, Et dimitte nobis debita nostra sicut et nos dimittimus debitoribus nostris. Et ne nos inducas in tentationem, sed libera nos a malo. Amen. Cyfieithad i'r Gymraeg Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw, Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys, Megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd; Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol, A maddau i ni ein dyledion, Fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr; Ac nac arwain ni i brofedigaeth, Eithr gwared ni rhag drwg. Amen. Hen Wyddeleg Mae'n debyg mai ymfudwyr o'r Iwerddon ddaeth â'r Wyddeleg i Gymru tra bod Prydain yn dal i fod yn dalaith Rufeinig. Roedd y Gwyddelod yn arbennig o niferus trwy orllewin Cymru. Diflannodd Gwyddeleg llafar o Gymru yn ystod y 600au mae'n debyg, ond mae'r iaith wedi gadael ei hôl ar nifer o enwau lleoedd Cymru ac ar yr iaith Gymraeg. Daw'r enghraifft hon o Hen Wyddeleg o'r gerdd Yr Ysgolhaig a'i Gath, a ysgrifennwyd ar lawysgrif yn Awstria yn yr 800au cynnar. Mae'r ysgolhaig yn myfyrio am ei fywyd; Pangur yw enw ei gath. Troswyd y gerdd i'r Saesneg gan D. Greene ac F. O'Connor. Mae'r darlleniad o'r Hen Wyddeleg gan Diarmait Mac Giolla Chriost. Trawsysgrif o'r clip sain: Meisse ocus Pangur Bán, Cechtar nathar fria shaindán; Bíth a menma-sam fri seilgg Mo menma céin im shaincheird. Caraim-se foss, ferr cach cló, Oc mo lebrán léir ingnu; Ní foirmtech frimm Pangur Bán, Caraid cesin a maccdán. Ó ro biam, scél cen scís, I n-ar tegdais ar n-oendís, Táithiunn díchríchide clius Ní fris tarddam ar n-áithius. Cyfieithad i'r Gymraeg: Rwyf innau a Pangur Gwyn wrth ein gwaith; ef a'i feddwl ar hela, fy meddwl innau ar fy nhasg. Gwell nag unrhyw glod i mi yw ennyd dawel gyda'm llyfr, ar drywydd gwybodaeth; nid yw Pangur Gwyn yn eiddigeddus ohonof – mae'n caru ei grefft blentynnaidd ei hun. Nid oes diflastod pan fyddwn adref ar ein pennau'n hunain – cawn firi di-ben draw – a chyfle i ni'n dau ymarfer ein medrau. Hen Norseg Norseg oedd iaith Scandinafaidd y Llychlynwyr. Roedd yn dra thebyg i Saesneg y cyfnod, ac fe gymhathodd y ddwy iaith yn ardaloedd Llychlynnaidd gogledd a dwyrain Lloegr. Ceir nifer o enwau lleoedd o darddiad Llychlynnaidd o amgylch arfordiroedd Cymru. Ym 1081 trechwyd y Normaniaid gan fyddin gyfunol Gymreig a Norwyaidd ym mrwydr afon Menai. Yn y gerdd hon, mae'r bardd llys Llychlynnaidd Þorkell hamarskáld yn dathlu'r fuddugoliaeth, yn enwedig cyfraniad y brenin Norwyaidd Magnós berfœttr (Magnus Goesnoeth). Cyfansoddwyd y gerdd i'w datgan ar lafar tua OC 1100. Darllenir y gerdd gan yr Athro John Hines, Prifysgol Caerdydd. Trawsysgrif o'r clip sain Dunði broddr á brynju. Bragningr skaut af magni. Sveigði allvaldr Egða Alm. Stọkk blód á hjalma. Strengs fló hagl í hringa, Hné ferð, en lét verða Họrða gramr í harðri Hjarlsókn banat jarli. Cyfieithad i'r Gymraeg Saeth yn taro cot-mael. A'r pennaeth yn saethu'n galed. Plygodd arweinydd grymus Agder ei fwa. Taenwyd gwaed dros yr helmedau. Hyrddiodd saethau'r bwâu i mewn i'r mael, syrthiodd y fintai, a lladdwyd yr iarll gan dywysog Hordaland mewn brwydr ffyrnig dros dir. Hen Saesneg Roedd yr Eingl-Sacsoniaid a ymgartrefodd yn Lloegr ar ôl diwedd rheolaeth y Rhufeiniaid yn siarad yr iaith Germanaidd, a wahanodd yn raddol oddi wrth ei berthnasau Ewropeaidd. Yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd gwelwyd cyrchoedd milwrol cyson o Loegr i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Ond ffurfiwyd perthnasau mwy adeiladol, a rhannwyd diddordebau cyffredin ar hyd ffin hir Clawdd Offa. Daw'r enghraifft hon o Hen Saesneg o Groniclau'r Eingl-Sacsoniaid (Llawysgrif Caerwrangon. Llyfrgell Brydeinig MS Cotton Tiberius Biv, ff. 3-86). Cofnod clerigwr ydyw o effaith cyrch Llychlynnaidd ar Gymru yn 915. Mae'r darlleniad o'r Hen Saesneg gan yr Athro John Hines Trawsysgrif o'r clip sain Her on þissum geare wæs Wæringwic getimbrod; ond com mycel sciphere hider ofer suðan of Lioðwicum; ond twegen eorlas mid, Ohtor ond Hroald; ond foron þa west abuton þæt hi gedydon innan Sæfan muðan; ond hergodon on Norð Wealas aeghwær be þam staðum þær hi þonne onhagode; ond gefengon Cameleac bisceop on Iercingafelda; ond læddon hine mid him to scipe; ond þa alysde Eadweard cyning hine eft mid feowertigum pundum. Cyfieithad i'r Gymraeg Yma, yn y flwyddyn hon, adeiladwyd Warwick, a daeth byddin ysbeiliol draw ar long o'r de o Lydaw, a dau bennaeth, Ohtor a Hroald gyda nhw. Aethant o amgylch y gorllewin nes cyrraedd aber Hafren, gan ysbeilio ar hyd glannau Cymru, gan gipio Cameleac, esgob Ergyng, a mynd ag ef ar y llong gyda nhw; talodd y Brenin Edward pedwar deg punt i'w ryddhau. Ffynhonnell: Michael Swanton 1996, The Anglo-Saxon Chronicle (London: Dent, J. M.).
Gwerthu Losin Du: bwyd fel incwm 2 Mawrth 2010 Cyflwyniad Stondin cynnyrch y ffermdy ym marchnad Caerfyrddin yng ngofal Mrs E. Evans, Pencader. Hen fenyw fach Cydweli Yn gwerthu losin du... Mae'r hen rigwm cyfarwydd yn tynnu sylw at brysurdeb un wraig arbennig yn gwerthu nwyddau o'i chartre'. Dychmygol yw'r rhigwm, o bosibl, and y mae'n gofnod hanesyddol pwysig o'r math o weithgarwch a âi ymlaen ar hyd a lled Cymru yn y dyddiau gynt cyn sefydlu'r wladwriaeth les a'i nawdd cymdeithasol. Ddiwedd y 19eg ganrif ac ymlaen i'r 1920au a'r 1930au 'roedd gwerthu bwydydd, naill ai o'r cartre' neu ar y farchnad leol, yn arfer pur cyffredin yn y pentrefi a'r trefi diwydiannol yng Nghymru. Mewn cyfnod o gynni oherwydd salwch neu farwolaeth y penteulu neu golli cyflog oherwydd anghydfod diwydiannol, byddai'r gwragedd yn cynorthwyo i gynnal eu teuluoedd drwy baratoi a gwerthu bwydydd cartre'. Byddai'r bwydydd hynny yn eu tro, yn cael eu cyfrif yn ddanteithion gan aelodau o'r gymdeithas leol. Ffagots Ymhell cyn dyddiau'r siopau pysgod-a-sglodion ym mhentrefi glofaol de Cymru, byddai'r bobl leol yn cyrchu i dai arbennig i brynu 'ffagots a pys'. Er mwyn cael y ddau ben llinyn ynghyd, roedd hi'n arfer gan wragedd neu weddwon y glöwyr baratoi llond tun mawr o ffagots a sosbenaid fawr o bys i'w gwerthu o'u cartrefi ar nosweithiau penodol bob wythnos — nos Fawrth a nos Wener, fel rheol. Tyrai'r cwsmeriaid lleol yno gan gario'u bowlenni ar gyfer rhyw amser penodedig. Gwyddys bod yr arfer hwn wedi parhau mewn rhai ardaloedd tan bumdegau'r ugeinfed ganrif. 'Roedd gwerthu rhyw gant o ffagots am ddwy geiniog yr un bob nos Wener yn galluogi'r gwragedd i brynu, ymhlith pethau eraill, darn a gig ffres i'w rostio ar gyfer y Sul. Pennog picl Pennog picl oedd un o'r bwydydd cyffelyb a nodweddai'r ardaloedd diwydiannol yng ngogledd Cymru. 'Roedd pysgota penwaig, yn ôl y tymor, yn ddiwydiant pwysig yn y trefi a'r pentrefi ar yr arfordir, ond lledai'r arfer o baratoi a gwerthu pennog picl i ardaloedd y chwareli llechi. Cofnodwyd yr hanes am wragedd yn croesawu cwsmeriaid i'w cartrefi ar ryw un noswaith yr wythnos. Byddai'r gweision ffermydd a'r chwarelwyr yn ymgynnull yno i gael sgwrs a chwmnïaeth ddifyr tra'n bwyta'r pennog picl a'r bara ceirch cartre'; cawsent bryd da o fwyd am tua chwe cheiniog yr un. Ai'r gwragedd ati i goginio nifer fawr o bennog mewn dysglau pridd yn y popty a'u blasu nionod, finegr a sbeisys. Fyddai'r gweithwyr yn cael pryd o fwyd sylweddol am ychydig geiniogau ond 'roeddent yn geiniogau gwerthfawr i'r teuluoedd anghenus na allent droi at unrhyw wladwriaeth les am gymorth ariannol. Bara ceirch, pwdin bara a diod fain Mrs. Cathrin Evans yn rhoi'r torthau ar ei gilydd i galedu. Bwydydd eraill a baratoid ar gyfer eu gwerthu yn y de diwydiannol oedd pice cwrens a phwdin bara, tra 'roedd galw mawr am fara ceirch yn siroedd y gogledd. Danteithion oedd yn gyffredin i siroedd y gogledd a'r de fel ei gilydd oedd taffi (neu losin dant) a chyflaith (neu india roc). Yn y lle cyntaf fe'u paratoid ar raddfa fach gan y gwragedd i'w gwerthu o'u cartrefi neu ar y farchnad leol. Gwyddys am deuluoedd a ddatblygodd y fasnach i'r graddau iddynt fedru sefydlu cwmnïau masnachol pur lwyddiannus. Yn yr un modd y datblygwyd y fasnach ddiodydd meddal. 'Roedd y ddiod fain neu'r ddiod ddail (small beer, herb beer) yn dderbyniol iawn gan y chwarelwr a'r glöwr i dorri syched ar ôl diwrnod caled o waith. Y gwragedd a welodd eu cyfle i fasnachu'r ddiod y gwyddent fod galw mawr amdano. Aent allan i'r priffyrdd a'r caeau i gasglu dali danadl poethion a dail dant y llew, yn eu tymor, a'u golchi a'u sychu'n ofalus. Fe'u berwid ynghyd â dail cyrens duon, iorwg a sunsur; yna hidlid y trwyth hwnnw a'i felysu â siwgr. Ar ôl iddo glaearu rhoid burum ynddo a'i adael i eplesu dros nos. Drannoeth, hidlid y ddiod drachefn a'i arllwys i botel. Gwyddys am un wraig a werthai, ar gyfartaledd, ryw ddeugain potelaid o ddiod fain bob wythnos o'i chartre yn ystod degawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Gwnai elw o saith swllt yr wythnos, swm a oedd yn rhan hanfodol o incwm prin y teulu.
Gosod sylfeini: Sefydliadau Gweithwyr 10 Chwefror 2010 Sefydliadau Gweithwyr Institiwt y Gweithwyr, Blaenafon, ar ddechrau'r 20fed ganrif Rhwng y 1880au a'r 1930au, codwyd nifer o Sefydliadau Gweithwyr yn nhrefi a phentrefi diwydiannol de a gogledd-ddwyrain Cymru. Eu diben oedd cynnig cyfleusterau addysgiadol a hamdden i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Fel arfer byddent yn cynnwys llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, lle byddai modd mwynhau'r papurau dyddiol. Gallent hefyd gynnwys ystafelloedd gemau (roedd snwcer, biliards a dominos yn arbennig o boblogaidd) yn ogystal â theatrau a sinemâu. Cynhelid darlithoedd cyhoeddus, ralïau gwleidyddol, cyngherddau, dawnsfeydd ac eisteddfodau yno. Roeddent hefyd yn fannau cyfleus i grwpiau a chymdeithasau i gyfarfod ac i fandiau lleol i ymarfer a pherfformio. Roedd rhai o'r adeiladau hyn gymaint â phedwar neu bum llawr o ran uchder ac roedd ganddynt byllau nofio, hyd yn oed! Oakdale Ystafell Ddarllen Institiwt Oakdale, tua 1946 Roedd Sefydliad y Gweithwyr yn Oakdale yn gwasanaethu'r gymuned o amgylch Glofa Oakdale yn Sir Fynwy. Suddwyd y siafft gyntaf yn y rhan hon o Gwm Sirhywi — a fu hyd hynny’n gymharol ddilychwyn — ym 1906, a suddwyd ail siafft — y Waterloo — bedair blynedd yn ddiweddarach. Gwelwyd bod y gwythiennau glo yn ardderchog o ran safon y glo yn ogystal â thrwch y gwythiennau. Darparwyd llety i'r gweithwyr a'u teuluoedd mewn 'pentref model' pwrpasol o'r enw Oakdale. Gosod sylfeini Canolbwynt y pentref oedd Sefydliad y Gweithwyr. Dechreuwyd adeiladu hwn ym 1917, ac ar 3 Gorffennaf cynhaliwyd seremoni i osod dwy garreg sylfaen. Cyflwynwyd tryweli engrafiedig i'r ddau ŵr blaenllaw, sef Harry Blount, ar ran y gweithwyr, ac Alfred S. Tallis, Rheolwr-gyfarwyddwr Cwmni Haearn a Glo Tredegar a oedd yn berchen ar bwll Oakdale. Cwblhawyd yr adeilad y flwyddyn ganlynol ac mae'n debyg y byddid wedi cynnal seremoni bryd hynny, hefyd, gan osod carreg gopa i nodi bod y gwaith adeiladu wedi dod i ben. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 10 Medi 1917, a chyflwynwyd allwedd arbennig i A. S. Tallis yn arwydd o werthfawrogiad y pwyllgor adeiladu am gael benthyg £10,000 gan y cwmni at gost codi'r adeilad. Bywyd newydd yn Sain Ffagan Rhoddwyd Sefydliad Gweithwyr Oakdale i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1987 a chafodd ei ddatgymalu ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ailgodwyd ef a'i adfer i'w gyflwr ar ddiwedd y 1930au a'i agor i'r cyhoedd ym 1995. Cyflwynwyd y ddau drywel a ddefnyddiwyd yn y seremoni i osod y garreg sylfaen i'r Amgueddfa yn y misoedd cyn yr agoriad gan berthnasau'r derbynwyr gwreiddiol. Roedd un trywel wedi teithio cyn belled ag Ynys Wyth, a'r llall yn Abertawe. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan y Gwir Anrhydeddus Neil Kinnock. (Ar y pryd roedd yn Gomisiynydd Trafnidiaeth yr Undeb Ewropeaidd, ond cyn hynny ef oedd arweinydd y Blaid Lafur a'r AS dros etholaeth Bedwellte, yr oedd Oakdale yn rhan ohoni.) Rai dyddiau cyn yr agoriad cyflwynwyd yr allwedd engrafiedig a roddwyd i Gwmni Haearn a Glo Tredegar i'r Amgueddfa hefyd. The 'Stute Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan. Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.