: Hanes

Dogni Dodrefn yn ystod yr Ail Ryfel Byd

Sioned Williams, 5 Mai 2020

Tudalen o gatalog dodrefn utility, 1947

Tudalen o gatalog dodrefn utility, 1947

Byddai troi llaw at drwsio, pwytho neu ailgylchu pethau wedi bod yn ail-natur i’r rheini fu’n byw yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Gan fod deunyddiau crai fel pren yn brin, doedd prynu o’r newydd ddim yn opsiwn i’r rhan fwyaf. Roedd yr ychydig ddodrefn newydd a gynhyrchwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhan o gynllun dogni’r llywodraeth.

Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility. Ym 1942, cyhoeddodd Cadeirydd y Bwrdd Masnach, Syr Hugh Dalton, eu nod:

To secure the production of furniture of sound construction, in simple but agreeable designs and at reasonable prices.

Cyhoeddwyd y catalog cyntaf o ddodrefn utility ym 1943 gyda chasgliad o tua thrideg darn gwahanol. Dyluniwyd y dodrefn gan aelodau o'r pwyllgor ymgynghorol o dan arweiniad y dylunydd dodrefn adnabyddus, Gordon Russell. Roedd y darnau yn syml ac yn fodern, gydag ôl dylanwad y mudiad celfyddyd a chrefft (arts and crafts). Ni chynhyrchwyd dodrefn nad oedd yn cydymffurfio â safonau utility a rhoddwyd y bathodyn utility, ‘CC41’ (Controlled Commodity 1941), ar bob darn fel arwydd o safon.

Gellid archebu’r dodrefn o’r catalog neu eu prynu o siopau lleol a thalwyd amdanynt gyda thalebau. Byddai gan bob dodrefnyn ei werth mewn unedau, er enghraifft byddai’r gadair bentan yn werth 6 uned a’r seidbord yn werth 8 uned. Nid pawb oedd yn gymwys am y talebau dodrefn - roedd angen sicrhau trwydded cyn derbyn y talebau gwerth 30 uned. Rhoddwyd blaenoriaeth i’r rheini a oedd wedi colli eu cartrefi adeg y rhyfel o ganlyniad i'r bomiau ac i gyplau priod ifanc yn symud i gartrefi newydd, fel y prefabs.

Mae sawl darn utility wedi eu harddangos yn y Prefab yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Adeiladwyd y prefabs i ateb y gofyn am gartrefi newydd wedi’r rhyfel, pan roedd nwyddau yn parhau i gael eu dogni. Cynlluniwyd y tai yn ofalus i gynnwys digon o gypyrddau storio ym mhob ystafell fel na fyddai angen prynu llawer o ddodrefn. Ym 1945, ni ddaeth diwedd i ddogni gyda diwedd y rhyfel a pharhaodd y cynllun trwy’r blynyddoedd o gynildeb hyd nes 1952.

Diwrnod VE: Medalau Dewrder, Gwasanaeth ac Aberth

Alastair Willis, 5 Mai 2020

Mae Diwrnod VE yn coffáu buddugoliaeth y Cynghreiriaid dros yr Almaen Natsïaidd. Mae’r Cenhedloedd Unedig hefyd yn cadw Mai 8-9 fel ‘cyfnod o gymodi, a chofio’r rhai a gollodd eu bwydau yn yr Ail Ryfel Byd’.

Ar 8 Mai 1945, death y rhyfel yn Ewrop i ben. Wedi bron i chwe mlynedd o ymladd gwaedlyd, roedd y Natsïaid wedi’u trechu. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd – oedd i bara am bedwar mis arall yn y Cefnfor Tawel – roedd dros 60 miliwn o filwyr a phobl gyffredin wedi colli eu bywydau, a dros 15,000 o’r rhain yn Gymry. Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945. Yn y erthygl hwn byddwn ni’n cyflwyno hanesion rhai medalau o’r rhyfel a’r bobl wnaeth eu hennill.

Gallai milwyr Prydain ennill wyth seren ymgyrch (ychwanegwyd nawfed yn 2012) a dwy fedal wasanaeth. Dyfarnwyd medalau dewrder hefyd am weithredoedd a gwasanaeth rhagorol gan aelodau’r lluoedd neu’r cyhoedd.

Is-Swyddog William John James (Royal Navy), Caerdydd

Gwasanaethodd yr Is-Swyddog William John James ar yr HMS Galatea, criwser ysgafn oedd yn gwasanaethu’r Llynges Frenhinol yng Nghefnfor yr Iwerydd a Môr y Canoldir nes cael ei tharo gan dorpedo a’i suddo gan long danfor yr Almaen yn Rhagfyr 1941. Lladdwyd William a dros 460 o’r criw, gyda prin 100 yn goroesi. Dyfarnwyd ei fedalau wedi iddo farw a’u cyflwyno i’r teulu ynghyd â llythr cydymdeimlad gan y Morlys.

Medalau W.J. James (o’r chwith i’r dde): Medal Gwasanaeth Cyffredinol y Llynges gyda clasb Palesteina 1936-1939, Seren 1939-1945, Seren yr Iwerydd, Seren Affrica, a’r Fedal Ryfel

Medalau W.J. James (o’r chwith i’r dde): Medal Gwasanaeth Cyffredinol y Llynges gyda clasb Palesteina 1936-1939, Seren 1939-1945, Seren yr Iwerydd, Seren Affrica, a’r Fedal Ryfel.

Llythr cydymdeimlad medalau W.J. James

Llythr cydymdeimlad medalau W.J. James.

Y Parchedig Ivor Lloyd Phillips (y Fyddin), Kilgetty

Dyfarnwyd y medalau yma i’r Parchedig Ivor Lloyd Phillips, caplan yn y fyddin a wasanaethodd gyda Chatrawd Maes 102 (Iwmyn Penfro) y Magnelwyr Brenhinol yn Tiwnisia a’r Eidal.

Medalau’r Parch. I.Ll. Phillips (o’r chwith i’r dde): y Groes Filwrol, Seren 1939-1945, Seren Affrica gyda chlasb y Fyddin 1af, Seren yr Eidal, y Fedal Amddiffyn a’r Fedal Ryfel gyda deilen dderw efydd yn dynodi i Ivor gael ei ‘Enwi mewn Adroddiadau’

Medalau’r Parch. I.Ll. Phillips (o’r chwith i’r dde): y Groes Filwrol, Seren 1939-1945, Seren Affrica gyda chlasb y Fyddin 1af, Seren yr Eidal, y Fedal Amddiffyn a’r Fedal Ryfel gyda deilen dderw efydd yn dynodi i Ivor gael ei ‘Enwi mewn Adroddiadau’.

Dyfarnwyd y Groes Filwrol i Ivor Phillips, y fedal ail uchaf o dan Groes Fictoria ar y pryd. Mae’r gymeradwyaeth gyda’r fedal yn datgan iddo ‘Gyflawni ei ddyletswyddau mewn modd cwbl anhunanol a diwyd... mae ei waith wedi bod yn ddiarbed ac mae meddwl mawr ohono gan ddynion o bob rheng… Heb adael i daflegrau’r gelyn darfu ar ei waith, mae’n dangos difaterwch am ei ddiogelwch personol yn wastad. Bydd yn prysuro at y clwyfedig bob amser ac mae ei bresenoldeb a’i waith gyda nhw... wedi bod beunydd yn ysbrydoliaeth fawr i eraill’.

Daeth yn Archddeacon Casnewydd yn ddiweddarach.

Y Parch. Phillips.

Y Parch. Phillips.

Bathodyn Caplan y Fyddin y Parch. Phillips

Bathodyn Caplan y Fyddin y Parch. Phillips.

Rhoddodd y Parch. Phillips ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 1991.

Sarjant Glyn Griffiths (yr Awyrlu Brenhinol), Llandudno

Glyn Griffiths (dde) ac aelodau eraill ei sgwadron ar awyren Hurricane.

Glyn Griffiths (dde) ac aelodau eraill ei sgwadron ar awyren Hurricane.

Ganwyd Glyn Griffiths yn Llandudno ym 1918, a daeth yn Sarjant ac yn beilot awyren Hawker Hurricane fel aelod o Sgwadron 17 yn ystod y Battle of Britain rhwng Gorffennaf a Hydref 1940. Lloriodd o leiaf chwech awyren Almaenig ac o bosib hyd at 15. Dyfarnwyd y Fedal Hedfan Neilltuol iddo am ei weithredoedd. Wedi’r Battle of Britain aeth yn hyfforddwr gan hedfan yn ddiweddarach gyda Sgwadron 4. Wrth ddychwelyd o gyrch dros Ffrainc bu mewn damwain ag awyren arall uwchlaw’r maes awyr a gorfod neidio o’r awyren. Dioddefodd losgiadau gwael gan roi terfyn ar ei wasanaeth yn y rhyfel.

Medalau Sarjant Griffiths (o’r chwith i’r dde): y Fedal Hedfan Neilltuol, Seren 1939-1945 gyda chlasb Battle of Britain, Seren yr Iwerydd, y Fedal Amddiffyn, y Fedal Ryfel, Croix de Guerre (Gwlad Belg), Urdd Leopold II (Gwlad Belg)

Medalau Sarjant Griffiths (o’r chwith i’r dde): y Fedal Hedfan Neilltuol, Seren 1939-1945 gyda chlasb Battle of Britain, Seren yr Iwerydd, y Fedal Amddiffyn, y Fedal Ryfel, Croix de Guerre (Gwlad Belg), Urdd Leopold II (Gwlad Belg).

Sarjant William Herbert Evans (yr Awyrlu Brenhinol), Caerdydd

Roedd Sarjant Evans yn llywiwr bomwyr Halifax yn Sgwadron 78. Cafodd ei ladd ar 31 Awst 1943 pan saethwyd ei awyren yn ystod cyrch gan 600 o awyrennau ar ddinasoedd Mönchengladbach a Rheydt yn yr Almaen. Dyfarnwyd ei fedalau wedi ei farw.

Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945

Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945.

Rhoddwyd medalau Sarjant Evans i Amgueddfa Cymru gan ei deulu.

Benjamin Lewis Aylott (Heddlu), Pontarddulais

Ganwyd Benjamin Aylott yn Llundain, a gwasanaethoedd gyda’r Llynges Brydeinig yn y Rhyfel Byd Cyntaf cyn symud i Bontarddulais. Pan dorrodd yr Ail Ryfel Byd fe ymunodd â Heddlu Morgannwg fel Cwnstabl Rhyfel Wrth-Gefn. Dyfarnwyd Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin iddo am arestio enciliwr arfog o’r fyddin ar 27 Rhagfyr 1943.

Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin B.L. Aylott

Medal Dewrder Gwasanaethau Heddlu a Thân y Brenin B.L. Aylott.

B.L. Aylott a’i deulu wedi derbyn ei fedal gan y Brenin Siôr VI ym Mhalas Buckingham.

B.L. Aylott a’i deulu wedi derbyn ei fedal gan y Brenin Siôr VI ym Mhalas Buckingham.

Rhoddwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru gan ei fab Terry Aylott yn 2011.

Thomas William Keenan (aelod o’r cyhoedd), Caerdydd

Ar noson 2-3 Ionawr 1941 ymosododd dros 100 o awyrennau’r Almaen ar Gaerdydd. Roedd Thomas Keenan yn wyliwr mewn storfa danwydd a ddefnyddiodd ei het i symud bom llosgi oedd wedi glanio ar danc yn dal 300,000 galwyn o betrol. Llosgodd ei ddwylo’n wael, ond fe arbedodd y tanc petrol. Dyfarnwyd Medal Siôr iddo am ei ddewrder. Yn y casgliad hefyd mae dwy fedal a dderbyniodd wedi gwasanaethau gyda’r Corfflu Gynnau Peiriant yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Medalau T.W. Keenan (o’r chwith i’r dde): Medal Siôr, Medalau Rhyfel a Buddugoliaeth Prydain (WW1), y Fedal Amddiffyn, 1939-1945

Medalau T.W. Keenan (o’r chwith i’r dde): Medal Siôr, Medalau Rhyfel a Buddugoliaeth Prydain (WW1), y Fedal Amddiffyn, 1939-1945.

Medalau T.W. Keenan (cefn).

Medalau T.W. Keenan (cefn).

Gordon Love Bastian (y Llynges Fasnach), Y Barri

Eynon Hawkins (y Llynges Frenhinol), Llanharan

Dyfarnwyd y Medalau Albert yma i G.L. Bastian ac E. Hawkins am achub bywydau ar y môr.

Ganwyd Gordon Bastian yn y Barri, ac roedd yn Ail Swyddog Peiriannyddol ar yr S.S. Empire Bowman, gafodd ei tharo gan dorpedo ar 31 Mawrth 1943. Derbyniodd Fedal Albert am ‘ddewrder, cryfder a phwyll aruthrol’ wrth arbed dau ddyn rhag boddi yn howld danio’r llong.

Roedd Eynon Hawkins, Morwr Abl gyda’r Llynges Frenhinol yn gwasanaethu fel gyniwr ar long fasnach arfog gafodd ei tharo gan dorpedo a’i llosgi ar 10 Ionawr 1943. Yn ôl y London Gazette (29 Mehefin 1943) ‘...llwyddodd Hawkins gyda phwyll a dewrder o’r mwyaf i drefnu criw a ddihangodd yn y dŵr nes iddynt gael eu hachub gan un o longau Ei Fawrhydi. Ddwy waith fe nofiodd i helpu eraill oedd mewn trafferthion, gan losgi ei wyneb ei hun wrth eu tynnu i ddiogelwch.’

Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins

Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins.

Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins

Medalau Albert G.L. Bastian ac E. Hawkins.

Rhoddwyd y ddwy fedal i Amgueddfa Cymru gan y ddau dderbyniwr.

Elizabeth Harriet Edwards (aelod o’r cyhoedd), Caerdydd

Dyfarnodd Cymdeithas y Groes Goch Brydeinig y fedal isod i Hettie Edwards am hyfedredd Cymorth Cyntaf. Hettie Edwards oedd Llyfrgellydd Amgueddfa Cymru rhwng 1931 a 1970. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn gwirfoddoli fel nyrs gyda Chymdeithas y Groes Coch Brydeinig.

Darllenwch mwy am Hetty Edwards:

Rhan Un

Rhan Dau

Rhan Tri

Medal Hyfedredd Cymorth Cyntaf y Groes Goch E.H. Edwards.

Medal Hyfedredd Cymorth Cyntaf y Groes Goch E.H. Edwards.

Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

5 Mai 2020

Mae Diwrnod VE yn coffáu y Cynghreiriaid yn derbyn ildiad yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd ym 1945.

Mae 8-9 Mai hefyd yn cael ei nodi gan y Cenhedloedd Unedig fel Cyfnod o Gofio a Chymodi i’r Rhai a Gollodd eu Bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi’r rhyfel sefydlwyd y Cenhedloedd Unedig gyda’r nod o gynnal a diogelu heddwch byd-eang ac i amddiffyn iawnderau dynol.

Yma gallwch ddysgu mwy am Gymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd drwy wrthrychau o’r casgliad. Darllenwch am y straeon tu ôl i fedalau unigolion yn y gwasanaethau milwrol a’r rheiny a wasanaethodd adref ac am yr aberth ar y Ffrynt Gartref o ganlyniad i ddogni a barhaodd flynyddoedd wedi Diwrnod VE.

Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945

Medalau Sarjant Evans (o’r chwith i’r dde): y Fedal Ryfel, Seren Criw Awyr Ewrop, Seren 1939-1945.

Mae casgliad Amgueddfa Cymru o fedalau’r Ail Ryfel Byd yn dyst i ddewrder ac aberth rhyfeddol milwyr a phobl gyffredin Cymru rhwng 1939 a 1945.

Darllen Mwy

 

Yn dilyn cyflwyno dogni ar fwyd ym 1940, daeth dogni dillad i rym ym Mehefin 1941. Y prif nod oedd lleihau’r galw am ddeunyddiau crai ac ailgyfeirio llafur at waith rhyfel.

Darllen Mwy

 
Cadeiriau utility yn ystafell fyw y Prefab, Amgueddfa Werin Cymru

Cadeiriau utility yn ystafell fyw y Prefab, Amgueddfa Werin Cymru

Ym 1941, aeth y Bwrdd Masnach ati i gynllunio casgliad o ddodrefn o wneuthuriad syml a rhad sef dodrefn utility.

Darllen Mwy

 

Dinistriwyd miloedd o gartrefi Prydeinig gan fomiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd modd eu hailgodi oherwydd prinder adeiladwyr a deunyddiau.

Darllen Mwy

 

Mae rhai wedi cymharu’r sefyllfa rydym ynddi ar hyn o bryd gyda cyfnod yr Ail Ryfel Byd – ciwio i fynd i fewn i siopa, y silffoedd gweigion a’r dogni yn ein harchfarchnadoedd.

Darllen Mwy

 

Meddyginiaethau Traddodiadol

Lowri Jenkins, 28 Ebrill 2020

Mae’n anodd dychmygu amser, yn enwedig ar hyn o bryd, pan nad oedd modd troi at y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol pan yn dioddef o anhwylder. Cyn sefydlu'r GIG ym 1948, roedd cael gafael ar ofal meddygol yn dasg llawer mwy cymhleth ac ansicr. Rhaid oedd talu am ofal doctor preifat, gyda’r mwyafrif yn ceisio osgoi ymweliad ag ysbytai’r cyfnod. Roedd insiwrans iechyd ar gael, ond nid oedd honno yn system gynhwysfawr o bell ffordd. O dan yr amodau anodd hyn, byddai trigolion Cymru yn troi at natur; at blanhigion a blodau a defnyddiau eraill i greu moddion, elïau, powltisiau a meddyginiaethau o bob math. Roedd rhain yn gynhwysion a fyddai ar gael yn hawdd ac fe’u defnyddid i drin amrywiaeth eang o anhwylderau ac anafiadau a fyddai’n poenydio pobl ac anifeiliaid.

Yn ystod yr 1970au a’r 1980au, aeth Amgueddfa Werin Cymru ati i gasglu tystiolaeth lafar gan gannoedd o siaradwyr er mwyn creu casgliad o wybodaeth ac atgofion am feddyginiaethau traddodiadol trigolion Cymru. Yr arbenigwraig yn y maes hwn ar staff yr Amgueddfa ar y pryd oedd ymchwilwraig ifanc a dawnus o’r enw Anne Elizabeth Williams. I ddathlu Wythnos Genedlaethol Garddio dyma gip ar atgofion siaradwyr yr Archif Sain am rai o’r planhigion, y blodau, y coed a’r llysiau a fyddai’n cael eu defnyddio.

Blodau a Phlanhigion

Dant y Llew o gasgliad Amgueddfa Cymru

Roedd Edward Davies, Croes-goch, yn cofio defnyddio Dant y Llew (neu “ddant y ci” neu “ddail clais”) i gael gwared o ddafaden trwy rhwbio’r hylif gwyn o’r coesyn arno. Roedd eraill yn gwneud diod o flodau dant y llew ar gyfer gwella gwynegon. Yn Nhrawsfynydd a Llanuwchllyn, byddai rhai yn yfed trwyth o ddail dant y llew i buro’r gwaed. Yng Nghwm Main byddai trwyth dail dant y llew yn foddion ar gyfer trywinod.

Blodyn parhaol o deulu’r Aster yw’r Tansi (Tanacetum Vulgare) yn frodorol o Ewrop ac Asia. Ceir sôn amdano yng nghyfrol Complete Herbal Nicholas Culpeper. Byddai’r planhigyn hwn yn cael ei ddefnyddio yn sir Feirionnydd i drin llyngyr rhuban (tapeworm) tra yn Sir Benfro, byddai rhai yn ei ferwi mewn llaeth i drin rhyddni. Yn Llangybi, cofiai Mai Jones y defnyddiwyd y tansi weithiau i drin anhwylderau merched hefyd.

Ffa Corsydd (Bogbean). Yn Nhrawsfynydd, Llangybi a Llandysul byddai ffa corsydd yn cael ei ddefnyddio i drin problemau gyda’r dŵr ac yng Nghwm Main, byddai’n cael ei ddefnyddio i drin gwynegon a chrydcymalau. Yn Nhrawsfynydd, roedd Laura Morris yn cofio’r arfer o wneud trwyth o lin y mynydd a ffa corsydd i drin dolur cefn ac yn Llanuwchllyn, cofiai Catherine Jones rai yn cymryd trwyth ffa corsydd i buro’r gwaed.

Byddai Llysiau’r Dryw (Agrimony) hefyd yn cael eu defnyddio i drin problemau gyda’r dŵr yng Nghwm Main yn ogystal â Gelaets (Yellow Flag) a Chwerwlys yr Eithin (Wood Sage) mewn ardaloedd eraill. Roedd Ceinwen Richards yn cofio y byddai llysiau’r dryw hefyd yn cael eu defnyddio i wneud te i wella llosg cylla yng Nghroes-goch.

Arferid defnyddio sudd Llysiau Pen Tai (house-leek) i drin dafaden a chyrn ar y traed. Roedd y ddeilen gron a dail eiddew hefyd yn dda at gyrn. Yn ardal Llansannan, credai rhai hefyd bod llysiau pen tai yn fodd i gael gwared ar y ddrywinen (ringworm) a chofiai David Jones, Bronnant, eu berwi a'u “stwmpio” i wneud eli i iro'r llygaid.

Roedd llawer yn credu bod Ysgol Fair (Common Centaury) ac Ysgallen Fraith (Milk Thistle) yn dda at drin heintiau ar yr arennau neu’r bledren. Yn ardal Niwbwrch, roedd Margaret Roberts yn cofio defnyddio Ysgol Fair at stumog anhwylus ac yn Nhregroes, cofiai Elizabeth Lloyd ddefnyddio ysgol fair i wneud diod at ddolur cefn.

Coed

Cafwyd sôn gan Feddygon Myddfai am bwerau iachaol nifer o goed yn Llyfr Coch Hergest a ysgrifennwyd tua diwedd y 14g (Llyfr Coch Hergest, yn y Bodleian Libraries, MS 111). Mae casgliad eang o dystiolaeth lafar wedi ei gasglu am y defnydd o goed mewn meddyginiaethau traddodiadol yn Ngymru.

Roedd gwraig o Landecwyn, sir Feirionnydd yn cofio creu diod o risgl y Griafolen (Mountain Ash) i drin problemau gyda’r nerfau.

Credai gŵr o Faenclochog y byddai arllwys dŵr ar risgl Y Ddraenen Ddu (Hawthorn) ac yna yfed y dŵr hwnnw yn lliniaru poenau yn y stumog.

Roedd llawer o’r farn bod gan yr Ysgawen (Elder) lawer rhinwedd llesol. Byddid yn sychu’r dail i greu trwyth ar gyfer amryw o anhwylderau a defnyddid yr aeron i wneud gwin – y trwyth a’r gwin yn feddyginiaeth boblogaidd at annwyd. Gellid gwneud eli hefyd trwy gymysgu’r dail neu’r canghennau gyda braster mochyn neu hen fenyn (“menyn gwyrdd”).

Ffrwythau a Choed Ffrwythau

Roedd diod wedi ei wneud o ddail mwyar duon yn boblogaidd iawn i drin rhyddni a stumog wael a defnyddiwyd y blodau mewn diod i drin clwy’r marchogion (haemorrhoids). Roedd Catherine Jones o Lanuwchlyn y cofio rhoi ychydig o jam mwyar duon mewn dŵr poeth i wella annwyd a Kate Davies, Maesymeillion yn cofio creu moddion o finegr gwin gwyn, mwyar duon a siwgr at annwyd hefyd.

Defnyddiwyd riwbob i gael gwared o rwymedd gyda dail y riwbob yn cael eu defnyddio i drin gwynegon y cymalau. Roedd Henry Owen o Langynnog yn cofio y byddai rhai yn rhoi ychydig o riwbob a sunsur i’r gwartheg unwaith y dydd i’w hamddiffyn rhag yr oerfel.

Llysiau

Byddai garlleg yn cael ei ddefnyddo mewn amryw feddyginiaeth. Yn Llanfallteg ger Caerfyrddin, byddai llawer yn rhoi darn o arlleg mewn hosan a gwisgo’r hosan honno dros nos. Credid y byddai arogl y garlleg yn amddiffyn rhag annwyd a rhag peswch. Roedd dwy wraig o Landysul yn cofio cael eu gorfodi i wisgo garlleg o gwmpas eu gyddfau pan yn blant gan y byddai hyn, yn ôl pob sôn, yn eu gwarchod rhag llyngyr. Byddai rhai hefyd yn defnyddio garlleg i drin brathiad neidr.

Roedd gan datws eu defnydd iachaol hefyd – byddai rhai yn rhoi sleisen o daten ar y cymalau i liniaru poen ac eraill yn gwneud powltis i’r gwddf i drin cwinsi. Roedd Margaret Williams, Tregaron, yn cofio rhai yn rhoi taten y tu fewn i’w hosan i leddfu crydcymalau.

Roedd Olive Evans o’r Rhos, ger Hwlffordd yn cofio defnyddio Winwnsyn (neu nionyn) ar gyfer pigyn clust. Byddid yn rhoi’r winwnsyn yn y ffwrn i’w gynhesu yna tynnu’r galon (canol) allan a’i roi yn y glust. Roedd hi hefyd yn arfer rhoi winwnsyn poeth mewn cadach a gosod y cadach wedyn ar y glust. Byddai rhai yn rhwbio hanner winwnsyn ar losg eira er mwyn lliniaru’r boen ac eraill yn bwyta winwnsyn wedi ei falu’n fân mewn griwel i wella rhwymedd. Mae hyd yn oed sôn yn yr Archif o rwbio’r pen gyda winwnsyn i atal moelni.

Rhywbeth Braidd yn Wahanol..

Ond beth yw’r feddyginiaeth fwyaf anghyffredin yn yr Archif? Mae llawer un braidd yn ddiddorol ac anarferol â dweud y lleiaf.

Gan adael byd y planhigion am funud, mae un arfer o ardal Abertawe yn haeddu peth sylw yma. Mae’n debyg yr arferid defnyddio llysnafedd malwoden i drin llefrithen (stye) ar y llygad.

Casgliad Materia Medica, Amgueddfa Cymru

Casgliad Materia Medica, Amgueddfa Cymru

 

Y Dychweliad / The Return

8 Ebrill 2020

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd pwyllgorau cymunedol ledled Cymru i godi arian i groesawu dynion lleol yn ôl o faes y gad. Daeth neuaddau pentref a sefydliadu gweithwyr yn ganolbwynt i ddathliadau’r cadoediad a heddwch. Cynhaliwyd dawns fuddugoliaeth i ddathlu diwedd y rhyfel yn Stiwt Oakdale ym 1919.

I nodi canmlwyddiant y ddawns, ac yn benllanw i raglen o ddigwyddiadau Amgueddfa Cymru i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf, bu’r Amgueddfa weithio mewn partneriaeth gyda Re-Live, elusen uchel ei pharch sy’n creu rhaglen ddeinamig o theatr stori byw gyda chyn-filwyr, i ailddychmygu’r ddawns.

Roedd Y Dychweliad – The Return yn berfformiad bythgofiadwy gan gyn-filwyr, eu teuluoedd, aelodau o’r gymuned ac actorion proffesiynol. Roedd y cynhyrchiad yn cydblethu golygfeydd dychmygol o’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r ddawns fuddugoliaeth gyda phrofiadau personol ac emosiynol cyn-filwyr cyfoes o ddychwelyd i’w cymuned ar ôl bod mewn rhyfel.

"Fe arbedodd y project hwn fi drwy roi rhywbeth i fi edrych ymlaen ato. Mae wedi rhoi pwrpas i fi eto. Mae'n helpu i reoli fy ngorbryder hefyd. Dyma'r un lle dwi'n gwybod alla i ddod iddo heb gael fy marnu."

Cyn-filwr ac aelod o'r cast, 2019

 

"Profiad gorau'r project oedd yr holl gysylltiadau wnaethon ni – yr emosiwn a'r siwrnai therapiwtig, yn bersonol ac yn yr ystyr ehangach hefyd. Y ffaith i ni gyd rannu ein straeon fel cyn-filwyr, ond hefyd fel aelodau o'r gymuned a'r cyswllt rhwng y ddau. Does dim byd arall yn union fel hyn."

Cyn-filwr ac aelod o'r cast, 2019​

 

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog.