: Hanes

Arwyr cyffredin mewn cyfnod anghyffredin

Sioned Williams, 3 Ebrill 2020

Yn sgil yr argyfwng iechyd presennol mae galw am wirfoddolwyr i gefnogi’r GIG ac mae cynlluniau ar droed i addasu canolfannau yn ysbytai maes.

Dros ganrif yn ôl, gwelwyd yr un math o weithgaredd ar hyd a lled Prydain wrth baratoi at ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1909 unodd Cymdeithas Brydeinig y Groes Goch gydag Urdd Sant Ioan i greu cynllun y Voluntary Aid Detachment. Prif amcan y VAD oedd i wasanaethu a chefnogi’r ysbytai milwrol. Cawsant eu trefnu fesul siroedd ac roedd yr aelodau yn cynnwys dynion a menywod a fyddai’n cyflawni pob math o weithgarwch gwirfoddol.

Sefydlwyd yr uned, neu’r VAD, cyntaf yng Nghymru yn Sain Ffagan, Caerdydd ym mis Tachwedd 1909. Llywydd Cymdeithas y Groes Goch yn sir Forgannwg ar y pryd oedd y Fonesig Plymouth o Gastell Sain Ffagan. Yn fuan wedyn sefydlwyd unedau eraill ar draws Cymru, gyda chyfanswm o 32 VAD erbyn mis Medi 1910. O hynny ymlaen dechreuodd y gwaith o ddifrif yn recriwtio ac hyfforddi aelodau ac yn addasu adeiladau yn ysbytai.

Ar 24 Medi 1910, ymgasglodd dros 200 o ddynion a menywod o’r VADs newydd ar draws sir Forgannwg i ddigwyddiad yng ngerddi Castell Sain Ffagan. Prif bwrpas y diwrnod oedd i recriwtio mwy o wirfoddolwyr, menywod yn arbennig. Roedd hefyd yn gyfle i ddysgu am y gwaith; sut i drin cleifion yn y maes drwy ddefnyddio cymorth cyntaf gydag offer sylfaenol. Cynhaliwyd digwyddiadau o’r fath yn rheolaidd yng Nghastell Sain Ffagan dros y blynyddoedd yn arwain at y rhyfel.

Byddai’r unedau VAD yn cyfarfod o leiaf unwaith y mis a byddai’r aelodau (a elwid yn VADs hefyd) yn ennyn profiad drwy wirfoddoli mewn ysbytai. Roedd y menywod yn derbyn hyfforddiant mewn cymorth cyntaf, nyrsio cartref, glanweithdra a choginio tra roedd y dynion yn dysgu am gymorth cyntaf yn y maes a sut i gludo cleifion ar gludwely. Roedd yn ofynnol iddynt basio arholiadau er mwyn derbyn tystysgrif cymorth cyntaf a nyrsio cartref.

Anfonwyd rhai o’r VADs i ysbytai ar draws Prydain ond byddai’r mwyafrif yn aros i wirfoddoli yn eu cymunedau, megis Sain Ffagan. Yn sgil y prinder ysbytai, cynigiwyd pob math o adeiladau i ddeunydd y Groes Goch, o neuaddau pentref i blastai moethus. Addaswyd yr adeiladau hyn yn ysbytai atodol gyda tua 30 o welyau a fyddai’n cefnogi ysbyty filwrol gyfagos. Ym 1916 cynigiodd Iarll a’r Fonesig Plymouth y Neuadd Giniawa yng ngerddi Castell Sain Ffagan ar gyfer ei newid yn ysbyty atodol.

Erbyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf ym mis Awst 1914 roedd gwaith y gwirfoddolwyr wedi sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer derbyn y cleifion cyntaf o’r rhyfel. Wedi hynny, cafodd llawer mwy eu recriwtio a’u hyfforddi. Bu gymaint â 90,000 o wirfoddolwyr yn gweithio adref a thramor yn ystod y rhyfel, gan chwarae rhan annatod yn gofalu am filwyr sâl a chlwyfedig.

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn rhoi mwy o hanes rhai o’r gwirfoddolwyr bu’n gweithio yn Ysbyty VAD y Groes Goch yn Sain Ffagan.

Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52

Elen Phillips, 2 Mawrth 2020

Cwilt Teiliwr Wrecsam, 1842–52

Casgliadau Arlein: Gorchudd gwely clytwaith

Mae Amgueddfa Cymru yn gartref i dros 200 o gwiltiau a chlytwaith. Mae’r casgliad amrywiol a phwysig hwn yn cynnwys trawstoriad o gynlluniau a thechnegau, ac yn cynrychioli bron i 300 mlynedd o’r grefft yng Nghymru.

Un o uchafbwyntiau’r casgliad yw Cwilt y Teiliwr – gorchudd gwely clytwaith a wnaed gan James Williams, prif deiliwr milwrol o Wrecsam. Mae cynllun y cwilt yn brawf o ddawn greadigol y teiliwr, yn ogystal â’i werthfawrogiad o orchestion peirianegol ei ddydd. Yn y gornel uchaf ar y chwith, mae Pont Menai a gwblhawyd gan Thomas Telford ym 1826. Mae traphont Cefn ger Wrecsam yng nghanol y darn, a phagoda Tsieineaidd yn y gornel uchaf. Mae'r golygfeydd eraill y cynnwys themâu Beiblaidd – arch Noa, Jona a’r morfil, Cain yn lladd Abel, a'r ddelwedd ganolog o Adda yn enwi'r anifeiliaid.

Gwneir cwiltiau clytwaith yn aml drwy wnïo defnydd sydd dros ben, er enghraifft hen grysau neu siwtiau. Gwnaeth James Williams ei gwilt drwy ailgylchu sborion gwlân – defnydd lifrau milwrol mae’n debyg. Yn syfrdanol, mae'r cwilt cyfan yn cynnwys 4,525 o ddarnau mân, oll wedi'u gwnïo at ei gilydd o’r cefn gyda thrawsbwythau. Gelwir y math hwn o waith yn glytwaith mewnosod. Mae’n dechneg sy’n gofyn am fedr arbennig â’r nodwydd a brethyn sy’n ddigon trwchus i ddygymod â’r trawsbwythau. O ganlyniad, mae’r engreifftiau sydd i’w canfod mewn casgliadau amgueddfeydd yn dueddol o fod yn gysylltiedig â theilwriaid proffesiynol.

Yn ôl hanes teuluol, bu James Williams wrthi am ddegawd, rhwng 1842 a 1852, yn pwytho’r cwilt yn ystod ei oriau hamdden. Ymhen dim, daeth galw i’w arddangos yn gyhoeddus. Ym 1876 dangoswyd y cwilt mewn arddangosfa fawr o ‘drysorau celfyddyd’ (Art Treasures Exhibition) a gynhaliwyd yn Wrecsam i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Yn ddiweddarach, ym 1925 bu’r cwilt ar arddangos yn Wembley, ac yn Wrecsam unwaith eto pan ddaeth yr Eisteddfod yn ôl i’r dref ym 1933.

Mae tystiolaeth o gyfrifiadau ardal Wrecsam yn dangos mai brodor o’r dref oedd James Williams. Fe’i ganed ym 1818 ac erbyn y 1850au roedd ganddo weithdy teilwra yn ei gartref yn College Street, ger Eglwys y Plwyf. Bu farw ym 1895 ac fe etifeddwyd y busnes gan ei fab. Ym 1935, daeth y cwilt i feddiant yr Amgueddfa drwy ei ŵyr, Richard Williams, a oedd hefyd yn deiliwr fel ei dad a’i daid. Meddai ar y pryd: “it has always been my wish that the quilt should be sent to [the] National Museum of Wales so as my fellow countrymen should have the opportunity to admire a work of art that today could not be done if you were to pay the most skilful craftsman £1 a minute to do”.

Dre-fach Felindre a’r Diwydiant Gwlân

20 Chwefror 2020

Ffordd Newydd o Fyw

Roedd y ffatrïoedd melinau gwlân yn cynhyrchu crysau, dillad isaf a blancedi. Roedd y rhain yn hynod boblogaidd ymysg gweithwyr meysydd glo De Cymru. Erbyn y 1890au roedd dros 250 o ffatrïoedd gwlân yng Ngorllewin Cymru gyda 23 yn Nre-fach Felindre a’r ardal gyfagos. Arweiniodd twf y melinau a’r ffatrïoedd gwlân at ffordd newydd o fyw.

Y melinau gwlân oedd y cyflogwr mwyaf yn yr ardal tan y 1980au.

“Gan fod trigolion pentref Dre-fach Felindre yn dibynnu’n llwyr ar ddiwydiant yn hytrach nag ar amaethyddiaeth, roedd eu meddylfryd yn debycach i feddylfryd trigolion dyffrynnoedd diwydiannol de Cymru – pobl yr oedd ganddynt gysylltiad masnachol agos â hwy – nac i’w cymdogion o amaethwyr.”

J. Geraint Jenkins, Cyfres y Grefft: Dre-fach Felindre a’r Diwydiant Gwlân (2005)

Edrych i lawr tuag at Dŷ-Cornel, Felindre, tua 1920

Edrych i lawr tuag at Dŷ-Cornel, Felindre, tua 1920

Pentref Felindre

Pentref Felindre

Gwlad y gân

Daeth bandiau a chorau yn rhan bwysig o fywyd yn Nre-fach Felindre.

Wrth i’r melinau ffynnu, tyfodd y boblogaeth leol. Ffurfiodd y gweithwyr gorau a bandiau. Enillodd rhai, megis y Band Arian enwog dan arweiniad Albert Evans, lawer o gystadlaethau. Roedd sawl un yn cystadlu mewn Eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn flynyddol. Cafodd Cymdeithas Gorawl Gymysg Bargoed Teifi gryn lwyddiant, gan gipio’r wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1911. Cafodd y côr groeso tywysogaidd ar ôl dychwelyd i Dre-fach Felindre.

Roedd eisteddfodau lleol yn cael eu cynnal mewn sawl pentref ar hyd a lled Cymru. Nid digwyddiad bach oedd Eisteddfod Dre-fach Felindre. Yn 1897 roedd y gystadleuaeth i’r corau, er enghraifft, ar gyfer corau heb fod yn llai na 100 o leisiau!

Band Dirwest Dyffryn Bargod, 1909

Band Dirwest Dyffryn Bargod, 1909 

Côr Bargod Teifi, 1922

Côr Bargod Teifi, 1922

Wedi’i seilio ar ffydd

Roedd eglwysi a chapeli yn ganolbwynt pwysig i’r gymuned. Cafodd sawl capel newydd ei adeiladu yn ardaloedd diwydiannol Cymru ar gyfer poblogaeth oedd yn tyfu’n gyflym. Cafodd Capel Bethel yn Nre-fach ei ehangu yn 1840 i ddiwallu anghenion y boblogaeth a oedd yn fythol gynyddu.

Roedd Teulu Lewis, perchnogion Melinau Cambrian, yn ddiaconiaid yng Nghapel Bethel. Injan nwy Melinau Cambrian oedd yn darparu’r trydan ar gyfer y Capel! Yn aml roedd perchnogion melinau cyfoethog yn buddsoddi arian yn eu haddoldy. Roedd rhai yn ystyried crefydd fel modd o gynnal gweithlu disgybledig. Ac roedd bri cymdeithasol yn chwarae’i ran hefyd; roedd dewis a maint rhai o’r cerrig beddi yn adlewyrchu statws ac incwm unigolyn. Gellir gweld hyn yn glir ym mynwent Sant Barnabas.

Eglwys Pen-boyr

Eglwys Pen-boyr

Adloniant

Roedd patrymau sifft yn golygu bod cyfleoedd i rannu amser hamdden. Yn aml roedd gweithwyr y melinau yn ffurfio timau chwaraeon. Yn Nre-fach Felindre roedd y rhain yn cynnwys tîm pêl-droed Bargoed Rangers a thîm pêl-droed menywod.

Yn 1922 cafodd Neuadd y Ddraig Goch ei hadeiladu yn Nre-fach Felindre. Yn debyg i Sefydliadau’r Gweithwyr yng Nghymoedd De Cymru, roedd yn ganolbwynt i fywyd cymdeithasol y pentref. Roedd y neuadd yn cael ei defnyddio ar gyfer dawnsfeydd, dramâu, cyngherddau, biliards a gemau cardiau. Rhoddodd Johnny Lewis o Felinau Cambrian £8,000 tuag at adeiladu Neuadd y Ddraig Goch newydd yn 1964.

Hefyd rhoddodd Johnny Lewis y tir lle mae’r parc lleol, Parc Puw, wedi’i leoli i bobl Dre-fach Felindre.

Bargoed Rangers - Pencampwyr Cyntaf y Gynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd

Bargoed Rangers - Pencampwyr Cyntaf y Gynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd

Tîm hoci Dre-fach Felindre, 1930-31

Tîm hoci Dre-fach Felindre, 1930-31

Brenhines y Carnifal, tua’r 1950au

Brenhines y Carnifal, tua’r 1950au

Siopau a busnes lleol

Daeth Dre-fach Felindre yn bentref prysur ag amrywiaeth o siopau i ddiwallu anghenion poblogaeth a oedd yn tyfu. Ar un adeg roedd tair tafarn, siop sgidiau, busnes gwneud menyn, gof, siop teiliwr a siop-bob-dim yn y pentref.

Mewn sawl ffordd roedd y busnesau hyn yn ddibynnol ar lwyddiant y diwydiant gwlân. O ganlyniad i ddirywiad y melinau gwlân ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf roedd llawer yn ddi-waith a chafodd rhai teuluoedd eu gorfodi i adael yr ardal i chwilio am waith.

John Jones, Saer Dodrefn, Gwalia House, Felindre, 1916

John Jones, Saer Dodrefn, Gwalia House, Felindre, 1916

William Hindes, Felindre, 1920

William Hindes, Felindre, 1920

Streiciau ac aflonyddwch cymdeithasol

Yn y 1880au bu twf mewn undebau llafur a galw am wella amodau gwaith.

Trefnodd gweithwyr ffatri yn Nre-fach Felindre streic yn 1889 oherwydd cyflogau gwael. Parhaodd y streic am ddwy wythnos ar bymtheg. Ar ôl y streic awgrymodd y papur lleol, y Carmarthen Journal, ffyrdd o ddatblygu gwell perthynas waith rhwng y perchennog a’r gweithwyr. Anogodd y Journal berchnogion y felin i fuddsoddi yn addysg eu gweithwyr a chefnogi adeiladu ystafell ddarllen. Yn 1890 cafodd yr Ystafell Ddarllen ei chwblhau.

Ffurfiodd 520 o wehyddion gwrywaidd a benywaidd o blwyfi Llangeler a Phen-boyr Undeb Llafur yn 1900.

Staff Melin Wlân Dyffryn, tua 1890

Staff Melin Wlân Dyffryn, tua 1890

Gwŷdd llaw a nyddu, tua 1870

Gwŷdd llaw a nyddu, tua 1870

Gwrthdaro

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd lifrai’r milwyr wedi’u gwneud o wlanen. Roedd melinau’r ffatri yn Nre-fach Felindre yn gweithio bedair awr ar hugain y dydd er mwyn diwallu’r archebion am wlanen gan y Swyddfa Ryfel. Dechreuodd yr ardal ffynnu unwaith eto o ganlyniad i’r galw newydd hwn.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd milwyr Americanaidd eu lletya yn Nre-fach Felindre. Cafodd rhai ffatrïoedd segur eu defnyddio fel barics. Mae gan y gymuned atgofion melys am y GIs Americanaidd a’r siocled a roddwyd yn anrheg i’r plant lleol.

Cafodd gwersyll i garcharorion rhyfel ei sefydlu gerllaw yn Henllan ar gyfer carcharorion o’r Eidal. Fe’u hanfonwyd i weithio yn y gymuned leol. Gweddnewidiodd y carcharorion un o gytiau’r gwersyll yn gapel gan ddefnyddio llifynnau o’r melinau gwlân i baentio ffresgos ar y muriau.

Milwyr Rhyfel Byd Cyntaf y plwyf

Milwyr Rhyfel Byd Cyntaf y plwyf

Gwarchodlu Cartref, Felindre, 1940-45

Gwarchodlu Cartref, Felindre, 1940-45

Mrs Nesta Morgan, 1912- 2003

Gweithiodd Nesta Morgan ym Melinau Cambrian rhwng 1927 ac 1965. Mr John Davies, rheolwr cyntaf Melinau Cambrian, oedd tad Nesta. Roedden nhw’n byw drws nesaf i’r felin yng Nghlungwyn. Gweithiodd John Davies ym Melinau Cambrian am 58 o flynyddoedd. Ar ôl ei ymddeoliad roedd yn dal i roi help llaw yn y felin nes iddo farw ychydig cyn ei ben-blwydd yn 100 oed.

Pan losgwyd Melinau Cambrian yn ulw yn 1919, roedd Nesta ar wyliau â’i rhieni yn Llanwrtyd. Roedd yn digwydd bod yn ben-blwydd arni yn 7 oed. Mae’n cofio ei rhieni yn derbyn telegram a’r ffaith eu bod wedi cynhyrfu o glywed y newyddion. Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i Dre-fach Felindre roedd yr afalau ar y goeden afalau yn yr ardd wedi coginio yng ngwres y tân.

Pan oedd Nesta’n gweithio yn y felin roedd oddeutu 80 o bobl yn gweithio yno. Roedd hi’n gweithio yn yr ystafell wnïo ac yn gwneud gwaith gosod gan amlaf. Erbyn iddi droi’n 18 mlwydd oed roedd yn gwnïo ffedogau a gwregysau ac yna treuliodd 10 mlynedd yn yr ystafell dorri a hi oedd yn gyfrifol am yr ystafell wnïo.

Mae Nesta’n cofio teithiau dydd blynyddol i weithwyr Melinau Cambrian. Roedden nhw’n teithio ar fws i leoedd megis Llanfair-ym-Muallt, Llandrindod a Chastell-nedd. Roedden nhw’n cael cinio ac roedd y rhain yn ddyddiau da.

Nesta Morgan a staff ystafell wnïo Melinau Cambrian

Nesta Morgan a staff ystafell wnïo Melinau Cambrian

Carthenni Caernarfon

Mark Lucas, 17 Ionawr 2020

Cyflwyniad i Garthenni Caernarfon

Mae carthenni Caernarfon yn wahanol i unrhyw decstilau Cymreig eraill, ac mae gan Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ambell i enghraifft yn ei chasgliadau.

Beth sy'n neud Carthenni Caernarfon yn unigryw?

Mae’r carthenni hyn wedi’u gwneud o dri darn. Y darn canol yw’r un mwyaf amlwg. Ar y darn hwn mae’r geiriau ‘Cymru Fydd’ o dan lun o Goleg Prifysgol Aberystwyth, a’r geiriau ‘Cymru Fu’ dan lun o Gastell Caernarfon. Uwchben ac o dan y lluniau hyn mae dwy ddraig a thair cenhinen, ac mae gweddill y garthen wedi’i gorchuddio â chennin a chennin Pedr.

Cefndir Hanesyddol

Mae’r dyluniad gwreiddiol yn destun dadlau ymhlith ysgolheigion. Mae Ann Sutton, un o’r prif arbenigwyr ar decstilau Cymreig, yn credu mai’r gwehydd John Roberts o Gaernarfon wnaeth y garthen wreiddiol, ar gyfer Tywysog Cymru (Edward VII yn ddiweddarach) pan oedd yn ymweld â Chaernarfon i agor y gweithfeydd dŵr ym 1876. Ond yn ôl yr hanesydd D. G. Lloyd Hughes, agorwyd gweithfeydd dŵr Caernarfon ym 1868, nid 1876, ac mae’r carthenni yn dangos Coleg Aberystwyth gydag estyniad na chafodd ei gwblhau tan 1872. Wnaeth Tywysog Cymru ddim ymweld â Chaernarfon eto tan 1894; mae Hughes o’r farn mai Melin Wlân Pwllheli a greodd y dyluniad ym mis Chwefror 1895. Mae yna lun o staff Melin Wlân Pwllheli yn dal un o’r carthenni yn y 1890au. Mae ambell un arall allai fod wedi dylunio’r garthen – yn benodol Edward Davies-Bryan. Mae ei or-wyres ef yn dweud iddo gomisiynu Melin Wlân Pwllheli i gynhyrchu carthen i goffáu Coleg Aberystwyth yn y 1890au cynnar, gan ei fod yn gyn-fyfyriwr ac yn un o gymwynaswyr mawr y coleg.

Dadleuon ynghylch y Dyluniad

Cafodd y garthen Caernarfon olaf ei chynhyrchu ym Melin Wlân Trefriw ym 1969, i goffáu arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghastell Caernarfon. Mae’n bosibl fod rhodd ddiweddar i Amgueddfa Wlân Cymru wedi ateb y cwestiwn unwaith ac am byth – carthen wedi’i gwehyddu â llaw, un debyg i’r carthenni eraill ond gyda dau lun o Gastell Caernarfon a dim llun o Goleg Aberystwyth. Yn ôl y rhoddwr, roedd y garthen yn berchen i’w hen nain a thaid o Ddinbych, a fu farw yn y 1890au. Tybed os mai carthen fel honno gafodd ei chyflwyno i Dywysog Cymru ym 1868?

Beibl Tanddaearol

Ceri Thompson, 30 Hydref 2019

Tua thair milltir i'r gogledd-orllewin o Abertawe safai Glofa Mynydd Newydd. Dechreuwyd cloddio yno ym 1843, gyda'r gwaith yn wreiddiol yn nwylo'r Swansea Coal Company. Ym 1844 bu ffrwydrad anferth a laddodd bum gweithiwr ac anafu nifer.

Wedi'r ffrwydrad daeth y gweithwyr ynghyd i drafod sut i ochel rhag rhagor o farwolaethau. Dyma benderfynu cynnal cwrdd gweddi danddaear cyn dechrau ar eu gwaith. Roedd y rheolwyr yn frwd dros y syniad, a cafodd y glowyr ganiatâd i adeiladu capel tanddaearol.

Wedi adeiladu'r capel yn yr Haen Bum Troedfedd, dyma nhw'n prynu eu Beibl cyntaf a'i ddefnyddio yn y cwrdd cyntaf am hanner awr wedi chwech ar fore 18 Awst 1845. Cynhaliwyd cyfarfod bob bore Llun o hynny ymlaen.

Erbyn 1859 roedd y Beibl gwreiddiol yn cwympo'n ddarnau oherwydd lleithder y pwll. Prynwyd Beibl newydd, a'i gadw mewn blwch yn ystafell yr injan ger y capel i'w gadw mewn gwell cyflwr. Ond un tro, gyda'r 'pregethwr' yn mynd i hwyl, tarodd ei ddwrn ar glawr y Beibl nes torri'r beindin a gwasgaru'r tudalennau dros lawr y capel. Ym 1899 cyflwynwyd Beibl newydd gan Dr McRichie, oedd ar ymweliad o'r Alban. Yr un flwyddyn, disgrifiwyd y capel tanddaearol gan newyddiadurwr o gylchgrawn Sunday:

"Cloddiwyd y glo o'r wythïen ar ochr chwith y ffordd gan greu siambr oddeutu 16 troedfedd o hyd a 6 throedfedd o led. Ffurfiwyd y waliau yn rhannol o foncyffion pinwydd bychan, garw gyda'r wythïen lo drwchus, gyfoethog yn ymwthio i'r golwg rhyngddynt yma ac acw. Mae'r to'n fygythiol o isel uwch ein pennau, ond o garreg galed, lefn wedi'i gwyngalchu nes edrych fel nenfwd artiffisial. Wrth gamu i'r Capel rydych yn sylwi bod cynhalbyst y pwll ar y naill ochr, ac estyll pren garw yn gyson rhyngddynt fel seddi."

Roedd lle i gynulleidfa o gant gyda desg bren uchel yn bulpud, a gan nad oedd nwy yn y lofa cai'r capel ei oleuo gan ganhwyllau.

Yn 2019, rhoddwyd y Beibl olaf i gael ei ddefnyddio yn y capel tanddaearol i Big Pit. Prynwyd y Beibl hwnnw ym 1904 ac ynddo mae'r geiriau:

‘At wasanaeth cyfarfod Gweddi gynhelir yn y 5 troedfedd (Haen) yn Nglofa y Mynydd Newydd ar bob boreu Llun pan fydd y gwaith yn gweithioo. Dechraeuodd y waith hon Tachwedd 28 fed yn y flwyddyn 1904. Dyddiedig Awst 9 fed 1915.’

Ym 1924, wedi i'r lofa newid dwylo a chau am gyfnod byr, cynhaliwyd Cymanfa. Argraffwyd rhaglen ar gyfer y diwrnod gyda'r teitl:

‘Rhestr yr Emynau at Wasanaeth Gymanfa Bregetan Glofa Mynydd Newydd Awst 4ydd 1924 Er Dathlu Fedwar ugain Mlwyddiant y ‘Cwrdd Gweddi’ tanddaerol’

Byddai'n ddiddorol gwybod os yw'r rhaglenni yma yn dal ar glawr.

Ym 1929 cyhoeddwyd erthygl yn y Radio Times ar y capel tanddaearol, a darlledwyd gwasanaeth oddi yno gan y BBC ar ddydd Sul 13 Hydref.

Caeodd Glofa Mynydd Newydd dros dro ym 1932, cyn ailagor fel y Mynydd Newydd Colliery Company ym 1935 gan gyflogi 76 o ddynion. Caewyd drysau'r lofa am y tro olaf gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1955.

Roedd tad-cu'r rhoddwr yn gweithio yn y lofa yn y dyddiau olaf, ac fe aeth i'r capel i chwilio am y Beibl. Roedd yna lyfr emynau hefyd, ond dim ond y Beibl oedd yn dal yno i'w achub o'r pwll. Ei fab, John Moelwyn Thomas, oedd yn gweithio yng Nglofa Garn Goch, etifeddodd y Beibl a byddai'n mynd ag ef i sawl Gala Glowyr a digwyddiadau eraill.

Rhoddwyd y cofnod pwysig hwn o hanes cymdeithasol a diwydiannol Cymru i Big Pit gan y teulu Thomas yn 2019. Beibl 1904 yw hwn, yr olaf i gael ei ddefnyddio yng Nglofa Mynydd Newydd. Yn rhyfedd iawn, llun o Feibl gwahanol oedd yng nghyhoeddiad Amgueddfa Cymru 'Welsh Coal Mines' (bellach allan o brint) wedi'i ddisgrifio fel y Beibl tanddaearol. Nid hwnnw yw'r Beibl sydd yn awr ym meddiant yr Amgueddfa, ac efallai taw un o'r Beiblau cynharach oedd hwnnw. Os felly, mae'n rhaid bod un arall o Feiblau Mynydd Newydd mewn dwylo preifat.