Jâd Tsieina yn Amgueddfa Cymru Penelope Hines (Curadur Celf Gymhwysol dros dro), 14 Medi 2015 Deunydd gwydn, lled dryloyw yw jâd a gall gael ei droi yn addurniadau, arfau seremonïol a gwrthrychau defodol. Am saith milenia a mwy mae jâd wedi bod yn bwysig yn niwylliant Tsieina a dros y canrifoedd mae crefftwyr wedi troi eu dawn a’u dylunio arloesol at greu amrywiaeth o wrthrychau, gydag amrywiaeth o jâd gwahanol. Y Deunydd Yr enw Tsieinëeg am jâd yw ‘Yu’, a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw garreg brydferth neu werthfawr – fel agat neu lasfaen – sy’n dangos y pum nodwedd canlynol: Llyfn Caled Strwythur dwys Lled dryloyw Arlliwiau gwahanol Ond pan fyddwn ni’n trafod ‘jâd’ (yn enwedig mewn amgueddfa yn y Gorllewin) rydyn ni’n cyfeirio’n benodol at ddau fwyn gwahanol – neffrit ac arenfaen (jadeite). Dyfodiad cymharol ddiweddar i Tsieina yw arenfaen (tua diwedd y 18fed ganrif) felly neffrit yw’r rhan fwyaf o jâd Tseina. Jâd Amgueddfa Cymru Roedd pob anifail a gerfiwyd yn ystod llinachau Ming a Qing yn llawn ystyron ffafriol a dymuniadau da i’r gwyliwr. Dyma yw’r rhan fwyaf o wrthrychau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Hwyaden (NMW A 50761) Mae’r hwyaden hon fel pe bai’n nofio. Ar ei chefn ac yn ei phig mae blodau lotws fydd yn dod â lwc dda i’r perchennog. Roedd cyfuno ffurfiau syml a manyldeb cain yn nodweddiadol o ddiwedd cyfnod Ming. Byffalo (NMW A 50764) Defnyddiwyd y byffalo mewn tai i gadw ysbrydion drwg draw, ond gan fod yr anifail hefyd yn tynnu’r aradr mae wedi tyfu’n symbol o amaethyddiaeth a’r gwanwyn. Gall byffalo yn gorwedd gyda’i ben wedi troi ddynodi bod y byd mewn heddwch. Alarch / Ŵydd (NMW A 50767) Mae’n aneglur os taw alarch neu ŵydd sydd yma. Yn niwylliant Tsieina hynafol roedd yr alarch yn fersiwn ddwyfol o’r ŵydd, ond mae’r ddau aderyn yn sanctaidd. Llew (NMW A 50787) Does dim llewod yn byw yn Tsieina ond daethant yn adnabyddus gyda thwf Bwdhaeth. Mewn porslen ar ei orffwys y caiff y teigr ei bortreadu’n draddodiadol, ond mewn jâd byddant fel arfer yn cael eu darlunio yn yr un modd â chŵn. Mae hon yn esiampl dda o ddefnyddio jâd i ddangos cyfoeth. Diferwr Dŵr (NMW A 50777) Defnyddiwyd y diferwr dŵr i gynnal trysorau’r stiwdio, fel y brws, inc, papur a’r garreg inc. Defnyddiwyd y darnau yma mor gynnar â’r 13eg ganrif ond daethant yn offer cyfarwydd yn ystod llinachau Ming a Qing. Prin oedd y rhai fyddai’n casglu jâd Tsieina yn Ewrop cyn y 19eg ganrif ac mae’n debyg i’r diddordeb dyfu wedi dangos gwaith yn un o arddangosfeydd mawreddog y Crystal Palace. Daw’r eitemau cyntaf yn ein casgliad o gasgliad Tŷ Turner mewn gwirionedd, wedi’u caffael yn y 1800au mwy na thebyg gan noddwr cyntaf yr orielau, John Pike Thomas. Daw’r mwyafrif, fodd bynnag, o gymynrodd David Bertram Levinson ym 1967. Prin yw’r wybodaeth am darddiad y jâd ond mae’n debyg eu bod i gyd yn dyddio o’r 1800au a’r 1900au. Erthygl yn dilyn sgwrs am Jâd Tsieina, 15 Mai 2015. Llyfryddiaeth Llyfrau Lin, J C S. The Immortal Stone: Chinese Jades from the Neolithic Period to the Twentieth Century. The Fitzwilliam Museum, (Scala Publishers, 2009). Wilson, M. Chinese Jades, (V&A Publications, 2004). Erthyglau / Penodau Nichol, D. 2010. Chinese Jade from the National Museum of Wales Collection. National Museum of Wales Geological Series No 2x, 000pp. Gwefannau Casgliad Celf Ar-lein Amgueddfa Cymru
Shirley Jones a Gwasg Red Hen John R. Kenyon, 18 Ebrill 2013 Shirley Jones, Nocturne for Wales (1987). Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda. (c) Shirley Jones Shirley Jones, Llym Awel (1993). Cigfran yn pesgi ar y meirw wedi brwydr. (c) Shirley Jones Shirley Jones, A Thonnau Gwyllt y Môr / And the Wild Waves of the Sea(2011). Worm's Head, Penrhyn Gŵyr. (c) Shirley Jones Caiff 'llyfr artist' ei greu neu ei lunio gan artist unigol, a gwaith Shirley Jones yw rhai o'r esiamplau cyfoes gorau o Gymru. Fe'i ganwyd yng Ngwm Rhondda, ac wedi astudio llenyddiaeth Saesneg yng Nghaerdydd, dilynodd Shirley Jones gyrsiau creu printiau yn y 1970au cynnar cyn astudio printio ymhellach yng Ngholeg Celf Croydon ym 1975-76. Sefydlodd stiwdio ei hun a dechrau cynhyrchu llyfrau ym 1977, ac ym 1983 lansiodd yr argraffnod Gwasg Red Hen. Ym 1994 symudodd yn ôl i Gymru a sefydlu stiwdio yn Llanhamlach, Ger Aberhonddu. Ei gwaith ei hun bron yn gyfangwbl yw'r llyfrau y bydd Shirley Jones yn eu cynhyrchu. Mae'r testun yn aml yn cynnwys cerddi ac atgofion personol neu gyfieithiadau o Gymraeg a Hen Saesneg hyd yn oed, a'r cyfan wedi'i brintio ar bapur wedi'i wneud â llaw neu fowld. Mae'r llyfrau wedi'u rhwymo, a rhai wedi'u cadw mewn bocsys unigryw, pob un wedi'i greu gan rwymwyr profiadol. Bychan mewn nifer oedd ei hargraffiadau cyntaf. Er enghraifft, roedd ei gwaith cyntaf fel myfyrwraig, Words and Prints (1975), yn argraffiad chwe chopi yn unig. Cynhyrchodd ddeuddeg copi o'i hail lyfr, Windows (1977), a phum copi ar hugain o'i thrydydd llyfr, The Same Sun (1978). Cynhyrchodd ddeugain copi o Greek Dance (1980), ac mae'r rhan fwyaf o'i gweithiau diweddar wedi ymddangos mewn niferoedd rhwng pump ar hugain a hanner cant. Prif atyniad ei llyfrau yw ei darluniau, boed yn acwatint, ysgythriadau neu mezzotint. Mae galw mawr wedi bod erioed am lyfrau Gwasg Red Hen yn Unol Daleithiau'r America, gyda dros drigain o sefydliadau yno yn meddu ar gopïau o'i gwaith a thri ar ddeg yn meddu ar ddeg neu fwy o gopïau. Yn y Deyrnas Unedig mae unarddeg o sefydliadau yn casglu ei gwaith, gan gynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog, ac mae deg neu fwy o deitlau ym meddiant y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Gwelir copïau hefyd mewn llyfrgelloedd a phrifysgolion yn Awstralia, Canada, yr Almaen, Iwerddon, yr Iseldiroedd a De Affrica. Daeth Gwasg Red Hen i sylw Llyfrgell Amgueddfa Cymru ym 1999, pan y prynwyd Nocturne for Wales (1987), Llym Awel (1993), Falls the Shadow (1995) ac Etched in Autumn (1997). Mae'r llyfrgell wedi caffael pob un o'i gweithiau a gyhoeddwyd er hynny yn ogystal â dau o'i llyfrau cynharach: Five Flowers for my Father (1990) a Two Moons (1991). Enw'r gwaith diweddaraf ganddi yw A Thonnau Gwyllt y Môr / And the Wild Waves of the Sea (2011), a chynhyrchwyd deg ar hugain o gopïau. Cyfrol o gerddi yw hi, gyda thraethawd rhagarweiniol a thri acwatint a dau mezzotint o arfordir ac ynysoedd Cymru yn ategu'r farddoniaeth. Ymhlith y teitlau eraill mae Etched Out (2003), sy'n adrodd hanes trigolion mynydd Epynt a gafodd eu symud o'u cartrefi yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er mwyn i'r fyddin ddefnyddio'r tir. Ar ddalen ymestynnol mae gwaith mezzotint yn cofnodi enwau hanner cant o ffermydd, ynghyd â rhai ffigurau sydd wedi'u seilio ar ddelweddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Gwnaed rhai o'r dalennau yn arbennig ar gyfer y llyfr gan ddefnyddio pridd coch Epynt. Gwelir un o ddelweddau mwyaf trawiadol Shirley Jones yn y gyfrol Two Moons, a dyma'r mezzotint gaiff ei defnyddio, fel un o naw, ar glawr y llyfr a gyhoeddir i ddathlu pen-blwydd Gwasg Red Hen yn ddeg ar hugain: Shirley Jones and the Red Hen Press: a Bibliography, casglwyd gan Ronald D. Patkus, Vassar College, University of Vermont (2013).
William Goscombe John (1860-1952) Oliver Fairclough, 10 Rhagfyr 2011 Morpheus William Goscombe John (1860 - 1952) Icarus Sir Alfred Gilbert (1854 - 1934) Roedd Cymru yn yr oes Edwardaidd yn gyforiog o gyfoeth y diwydiannau glo, haearn a dur, ac yn llawn cyfleon i gerflunydd. Mae cofebion cyhoeddus William Goscombe John i'w gweld ledled Cymru ond yn enwedig yn ei dref enedigol, Caerdydd. Ef hefyd a ddyluniodd medalau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw. Torri cwys Ganwyd William John yng Nghaerdydd ym Mawrth 1860. Mabwysiadodd yr enw Goscombe o bentref yn Swydd Gaerloyw ger hen gartref ei fam. Roedd ei dad, Thomas John, yn gerfiwr coed yn y gweithdai a sefydlodd yr Arglwydd Bute i ailwampio Castell Caerdydd. Ymunodd William â'i dad pan yn 14, gan astudio yn Ysgol Gelf Caerdydd ar yr un pryd. Ym 1881 symudodd i Lundain fel disgybl gynorthwy-ydd i Thomas Nicholls, y cerflunydd oedd yn gyfrifol am Wal Anifeiliaid y Castell. Parhaodd â'i astudiaethau yn Ysgol Gelf Kensington, ac yn Ysgolion yr Academi Frenhinol o 1884, lle y dysgodd fodelu naturiaethol mewn clai yn y dull Ffrengig, dull a gyflwynwyd i Lundain yn y 1870au gan Jules Dalou. Roedd yn fyfyriwr athrylithgar, ac fe deithiodd ymhell. Treuliodd flwyddyn ym Mharis, yn cynnwys cyfnod yn stiwdio Rodin. Ym 1890 dychwelodd i Lundain ac ymsefydlu yn St John's Wood. Mae ei gerflun Morpheus, a ddangoswyd yn Salon Paris ym 1892, yn dangos yn amlwg ddylanwad Rodin. Y 'Gerflunwaith Newydd' Nod cerflunwyr yng nghenhedlaeth John oedd ceisio creu cerfluniau mwy dynamig drwy bortreadu'r corff dynol mewn modd hynod naturiaethol. Dyma benllanw traddodiad cerfluniol oedd â'i wreiddiau yng nghyfnod y Dadeni, a dyma Rodin a'i gymdeithion yn aildanio'r traddodiad yn Ffrainc yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dilynwyd llwyddiant Morpheus gan gerflun o Ioan Fedyddiwr ar gyfer yr Arglwydd Bute, a grŵp o noethluniau maint llawn yn cynnwys Bachgen yn Chwarae a Coblyn. Mae'r rhain yn dangos ei feistrolaeth wrth lunio'r ffurf ddynol. Erbyn diwedd y 1890au roedd Goscombe John wedi gwneud enw i'w hun, ac wedi arddangos ei waith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Daeth sawl comisiwn cyhoeddus mawr i'w law ac roedd yn brysur iawn yn y blynyddoedd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cymru a'r Ymerodraeth Er ei fod yn byw yn Llundain, roedd John yn ystyried ei hun yn gerflunydd cenedlaethol Cymru. Ym 1916 cyfrannodd ganolbwynt marmor Bendith Dewi Sant i'r Bobl i grŵp o ddeg ffigwr a wnaed ar gyfer Neuadd y Ddinas Caerdydd. Derbyniodd sawl comisiwn hefyd gan Gymry blaenllaw'r oes. Adeiladodd John ei yrfa drwy ffyddlondeb i noddwyr lleol, ond derbyniai waith o bob cwr o'r Ymerodraeth, megis Beddrod y Prif Weinidog Ceidwadol, yr Arglwydd Salisbury, yn Abaty Westminster, a'i gerflun marchogol o'r Brenin Edward VII yn Capetown. Ei gerflun cyhoeddus mawr cyntaf oedd cofeb Catrawd y Brenin (1905) yng nghanol Lerpwl; gwaith oedd yn ymgorffori milwyr o hanes y gatrawd, yn cynnwys y Drymiwr Bach anferth, ei waith enwocaf. Cyfunwyd y Cymreig a'r Ymerodrol mewn comisiwn ar gyfer regalia arwisgo'r Tywysog Edward (Edward VIII yn ddiweddarach) yng Nghastell Caernarfon ym 1911. Dyluniodd John goron, modrwy, teyrnwialen a chleddyf oedd yn ymgorffori eiconau 'Cymreig' o ddreigiau, cennin Pedr a chlymau Celtaidd. Doedd gan John fawr i'w ddweud am gerflunwaith modern a elwai yn gerflunwaith 'Ynys y Pasg', gyda'i bwyslais ar gerfio'n uniongyrchol i'r garreg. Roedd tuedd beirniadol yn datblygu hebddo erbyn 1914, ond daeth trasiedi'r Rhyfel Byd Cyntaf â sawl comisiwn newydd am gofebion, nifer ohonynt yng Nghymru. Goscombe John a'r Amgueddfa Genedlaethol Roedd Goscombe John yn un o sylfaenwyr Amgueddfa Cymru a bu'n aelod o'r Cyngor am dros deugain mlynedd gan chwarae rôl flaenllaw wrth bennu tuedd y casgliad celf i'r dyfodol. Yn ogystal â chasgliad cynhwysfawr o'i weithiau ei hun, mae ei roddion i'r Amgueddfa yn cynnwys gwaith nifer o'i gyfoedion yn y mudiad Cerflunwaith Newydd, yn cynnwys Icarus, gan Alfred Gilbert a gweithiau gan nifer o artistiaid a edmygai.
Yfed pwnsh yn y ddeunawfed ganrif Rachel Conroy, 28 Ionawr 2011 Ffigwr 2: Powlen bwnsh gilt arian wedi'i dylunio gan Robert Adam a'i gwneud gan Thomas Heming, Llundain, 1771-2. Yn y 1650au y cafodd pwnsh ei yfed gyntaf ym Mhrydain, tua'r un amser ag y dechreuwyd yfed te, coffi a siocled poeth. Erbyn troad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd yn ddiod hynod boblogaidd. Gwneud pwnsh Cai pwnsh ei wneud drwy ddefnyddio cymysgedd o gynhwysion drud wedi'u mewnforio. Rym neu frandi fyddai'r alcohol gyda siwgr, ffrwythau sitrws, sbeis — siafins nytmeg fel arfer — a dŵr wedi'u hychwanegu. Y Fowlen Bwnsh Cai pwnsh ei weini, gan ddefnyddio lletwad cywrain, o bowlenni mawr i wydrau unigol (Ffigwr 1). Un o'r powlenni pwnsh pwysicaf yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yw'r un a ddyluniwyd gan Robert Adam ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn (Ffigwr 2). Cafodd ei chomisiynu i ddathlu llwyddiant Fop, ceffyl Syr Watkin, yn Rasys Caer a byddai wedi cael ei arddangos mewn lle amlwg ar ddresel ei gartref ffasiynol yn Llundain. Yfwyd pwnsh yn aml yng nghyfarfodydd clybiau a chymdeithasau a gynhaliwyd mewn tafarndai, tai coffi neu dai pwnsh arbennig fel arfer (Ffigwr 3). Dynion yn unig bron fyddai'n mynychu'r rhain. Mae'n debyg bod yfed pwnsh yn arfer hynod gymdeithasol fyddai'n atgyfnerthu perthynas gymdeithasol. Mae llythyr a gyhoeddwyd ym 1736 yn disgrifio hyn yn huawdl: "...gobeithiwn na fydd dim erioed yn rhwystro Dyn rhag yfed Powlen o Bwnsh gyda Chyfaill, dyna un o'r pleserau mwyaf y byddwn yn ei fwynhau yn y Wlad, yn ail i'n llafur. Ffigwr 3: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, tua 1800-1810. Arysgrifiad yn dweud 'B, HAWKINS, SHIP SWAN, LONDON', sy'n awgrymu iddi gael ei defnyddio mewn tafarn neu dy pwnsh. Ffigwr 4: Powlen bwnsh o grochenwaith Delft ag arysgrifiad 'Edward Jones Scoole Master 1751', Lerpwl mae'n debyg, 1751. Ffigwr 5: Ffiol crochenwaith caled mawr gyda gwydro halen, gan Mortlake o bosib, c. 1794-5. Cai powlenni pwnsh eu gwneud i goffau digwyddiadau arbennig; byddent yn cael eu haddurno ag enwau gildiau neu gymdeithasau, neu symbolau gwrywaidd fel llongau. Mae enghraifft ddiddorol yng nghasgliad Amgueddfa Cymru sydd ag arysgrifiad arni yn dweud 'Edward Jones Scoole Master 1751' (Ffigwr 4) a phaentiad o athro yn darllen gyda'i ddisgyblion. Mae'n hawdd meddwl am Edward Jones yn comisiynu gwrthrych mor bersonol neu yn ei dderbyn fel rhodd. Partïon gwyllt ac anwar Yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, roedd poeni mawr am beryglon alcoholiaeth, yn bennaf oherwydd y cyflenwad helaeth a rhad o gin cartref oedd ar gael. Roedd camymddwyn yn cael ei feio'n aml ar yfed pwnsh yn ormodol. Roedd yfed yn ormodol yn gyffredinol yn cael ei gysylltu â dirywiad moesol, a cai partïon pwnsh eu dychanu fel nosweithiau gwyllt ac anwar gan artistiaid y cyfnod. Mae'n debyg daw'r darlun enwocaf o barti pwnsh yw Sgwrs Fodern am Hanner Nos gan William Hogarth, a gyhoeddwyd ym 1732/33. Roedd yn hynod boblogaidd a cyn hir roedd yn cael ei gopïo ar bowlenni pwnsh a llestri eraill a ddefnyddid i yfed a gweini alcohol. (Ffigwr 5). Yfed yn ormodol Mae cofnodion yr Old Bailey yn aml yn cefnogi'r cysylltiad rhwng yfed pwnsh yn ormodol ag ymddygiad anghymdeithasol a throseddol hyd yn oed. Mae hyn yn cynnwys dwyn powlenni pwnsh drud o dafarndai a chartrefi a rhannu powlen o bwnsh gyda dioddefwr cyn eu twyllo. O tua'r 1750au ymlaen, dechreuwyd gweini pwnsh o lestri pwnsh porslen a phriddwaith. Mae ffurf ac addurn y rhain yn debyg iawn i debotau yn aml, ond eu bod yn llawer mwy (Ffigwr 6). Yn wahanol i bowlenni pwnsh agored, roedd llestri pwnsh yn galluogi un gweinydd i reoli'r dogni — fel gyda the. Efallai y byddai pobl wedi ystyried y gweini rheoledig yma yn fwy gwâr a chwaethus na phowlenni pwnsh agored, lle gallai pobl weini eu hunain ac yfed yn ormodol yn hawdd iawn. Roedd poblogrwydd yfed pwnsh ar ei anterth yn nghanol y ddeunawfed ganrif, ond roedd pobl yn dal i'w fwynhau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gwnaed powlen bwnsh briddwaith gain ar gyfer John Richardson gan Grochendy Cambrian ym 1845. Ef oedd maer Abertawe'r flwyddyn honno (Ffigwr 7). Mae'n ddiddorol taw comisiynu'r fowlen fel rhodd i'w wŷr newydd-anedig a wnaeth ac mae arfbais Richardson yn addurno'r fowlen. Mae rhan o'r arysgrifiad arni yn tystio i'r mwynhad a gaiff pobl wrth yfed o'r fowlen; 'GAILY STILL OUR MOMENTS ROLL, WHILST WE QUAFF THE FLOWING BOWL'. Ffigwr 6: Llestr pwnsh porslen past meddal, Derby, 1760-2. Ffigwr 7: Powlen bwnsh priddwaith gan Grochendy Cambrian, Abertawe, 1845. Llyfryddiaeth: Harvey, Karen. 'Barbarity in a tea-cup? Punch, domesticity and gender in the eighteenth century', Journal of Design History, 21 (3) (2008), tud. 205-21. (anhysbys) 1736 A collection of all the pamphlets that were written pro and con on the British distillery, whilst the act for laying a duty upon the retailers of spirituous liquors, and for licensing the retailers thereof, was depending in Parliament. London. Eighteenth Century Collections Online. Gwefan. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO http://www.oldbaileyonline.org
Pan oedd yfed te yn arfer ffasiynol, drud Rachel Conroy, 25 Mehefin 2010 Ffigur 1: Tebot porslen Tsieineaidd, tua 1700-20. Ffigur 2: Powlen de a soser Dsieineaidd, tua 1760-70. Ffigur 3: Tebot llestri hufen, Crochendy Leeds, tua 1775. Ffigur 4: Powlen drochion, Swydd Stafford, 1740au. Ffigur 5: Manylyn o William Hogarth, 'Industry and Idleness: The Industrious 'Prentice Married', 1747 Ffigur 6: Jwg hufen, porslen Tsieineaidd, tua 1771. Rhan o set o lestri te a wnaed ar gyfer Penry Williams (1714-1781) o Benpont, Aberhonddu. Ffigur 7: Powlen de a soser borslen, Worcester, 1755-8 Ffigur 8: Tegell, stand a lamp sy'n llosgi gwirod gan Robert Watts, 1711-12. Yn y ddeunawfed ganrif, roedd yfed te yn weithgarwch hynod ffasiynol ymhlith byddigions cefnog. Cafodd te ei fewnforio am y tro cyntaf i Brydain o Tsieina yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg gan yr East India Company. Ar y cychwyn, ei newydd-deb oedd yn apelio a chafodd ei hyrwyddo am ei nodweddion iachusol. Te gwyrdd Y te mwyaf cyffredin oedd bohea, math o de du, ond roedd te gwyrdd yn boblogaidd hefyd. Ar y cychwyn, yfwyd y te yn wan heb laeth, gan ddilyn traddodiad Tsieina. Yn ddiweddarach, ychwanegwyd llaeth neu hufen a siwgr. Tebotau a chistiau te (dan glo) Dim ond y bobl fwyaf cyfoethog oedd yn gallu fforddio te. Roedd yn cael ei gadw mewn cistiau te dan glo a oedd yn cael eu rheoli gan foneddiges y tŷ. Roedd morwynion domestig yn derbyn lwfans te fel rhan o'u cyflog. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, bu cynnydd aruthrol mewn nwyddau'n ymwneud â the, ac mae sawl enghraifft dda yn y casgliad celfyddyd gymhwysol yn Amgueddfa Cymru. Ar y cychwyn, gwnaed y nwyddau hyn o ddeunyddiau drud iawn, yn enwedig arian a phorslen wedi'i fewnforio o Tsieina (ffigurau 1 a 2). Yn ddiweddarach, wrth i cerameg a phlât arian rhatach gael eu cynhyrchu, dechreuodd y dosbarth canol efelychu arferion y bobl gefnog (ffigur 3). Daeth yfed te yn fwy cyffredin tua diwedd y ddeunawfed ganrif. Yn dilyn dileu dyletswyddau mewnforio ym 1784, daeth te yn rhan bwysig o ddeiet pobl dlawd. Te prynhawn Roedd difyrru ffrindiau trwy gynnig te prynhawn yn rhan bwysig o fywydau menywod. Roedd dewis gwrthrychau ar gyfer y bwrdd te yn hollbwysig. Wrth ymweld â Lloegr ym 1784, nododd y Duc de Rochefoucauld fod yfed te yn rhoi cyfle i bobl gyfoethog ddangos eu gwychder trwy debotau, cwpanau ac ati (dyfynnir yn Clifford 1999: 161). Disgwyliwyd i westeion fod yn foesgar ac ymddwyn mewn ffordd arbennig, gan gynnwys siarad am bynciau boneddigaidd fel y celfyddydau, theatr a cherddoriaeth. Powlenni te Am y rhan fwyaf o'r ddeunawfed ganrif, yfwyd te yn y dull Tsieineaidd, o bowlen heb ddolen. Galwyd y powlenni hyn yn "ddysglau te" neu "basons". Mae'r bowlen drochion fendigedig hon, a ddefnyddiwyd wrth y bwrdd i rinsio gwaddodion o bowlenni te, yn dangos tair menyw yn mwynhau te gyda'i gilydd (ffigur 4). Fel arfer, dangosir y powlenni hyn yn cael eu dal gyda'r bysedd ar yr ymyl a'r bawd o dan y gwaelod (ffigur 5). Allforion o Tsieina Roedd powlenni a thebotau porslen yn cael eu hallforio gyda'r te. Roedd eu tryleuedd a'u harwynebau gwynion yn apelio'n arw at bobl, ac roeddent yn cael eu casglu'n frwd. Dechreuodd cynhyrchwyr porslen Tsieina wneud gwrthrychau'n arbennig ar gyfer y farchnad Ewropeaidd, megis standiau tebotau, jygiau llaeth, basnau siwgr, hambyrddau llwyau a phowlenni trochion (ffigur 6). Ar ôl iddyn nhw ddeall y gyfrinach o gynhyrchu porslen, dechreuodd ffatrïoedd yn Lloegr ac ar y Cyfandir gynhyrchu llestri te Tsieineaidd (ffigur 7). Tegellau ac yrnau Roedd tebotau'n cael eu llenwi gan degellau dŵr poeth ar standiau crand neu fersiynau llai ar fyrddau, gyda llosgwyr i gadw'r dŵr yn boeth (ffigur 8). Tua'r 1760au, cafodd y tegellau eu disodli gan yrnau te a oedd yn cael eu twymo gan losgwyr golosg ac, o'r 1770au ymlaen, barrau haearn a oedd yn cael eu gosod mewn "llawes" yn yr wrn (ffigur 9). Roedd y "ceginau te" neu'r "ffynhonnau te" hyn yn galluogi pobl i helpu eu hunain i'r te ar achlysuron llai ffurfiol fel brecwast. Roedd gan yr enghreifftiau mwyaf coeth yrnau ychwanegol ar gyfer coffi a dŵr poeth. Dirywiad moesol a chorfforol Roedd agweddau tuag at yfed te yn y ddeunawfed ganrif yn gymysg iawn. Cafodd yr obsesiwn o gasglu llestri te ei feirniadu gan sylwebwyr cymdeithasol, gyda menywod yn cael eu targedu amlaf. Yn ogystal, honwyd yn aml nad oedd te prynhawn yn ddim mwy na chyfle i fenywod hel clecs neu ymffrostio. Cyhoeddwyd cerdd ddychanol, The Tea-Table, gan 'Moses Oldfashion' yn Mist's Weekly Journal ym 1722: M"...Chief Seat of Slander! Ever there we see Thick scandal circulate with right Bohea. There, source of black'ning Falshoods! Mint of Lies! Each Dame th'Improvements of her Talent tries, And at each Sip a Lady's Honour dies". Er y credwyd ar y cychwyn bod te yn llesol i iechyd mewn sawl ffordd, dechreuodd rhai sylwebwyr cymdeithasol boeni y gallai ei boblogrwydd arwain at ddirywiad corfforol. Ym 1753, aeth Mr Andree ati i ddisgrifio peryglon yfed gormod o de, gan nodi ei fod yn niweidiol iawn, yn gwaethygu epilepsi ac yn achosi pyliau gorffwyll. Aeth ymlaen i adrodd stori merch a oedd wedi bod yn bwyta te am rai wythnosau, gan achosi parlys ar ei hwyneb a chonfylsiynau (ffigur 10). Yn ffodus, ni effeithiodd y gwrthwynebiadau hyn ar chwant pobl Prydain am de, ac mae wedi parhau'n rhan bwysig o'n bywydau bob dydd hyd heddiw. Er nad yw yfed te yn arfer mor ffurfiol heddiw ag ydoedd yn y ddeunawfed ganrif, mae'n parhau i gael ei fwynhau a'i rannu gan filiynau o bobl bob dydd. Awdur yr erthygl: Rachel Conroy: Cynorthwy-ydd Curadurol - Celfyddyd Gymhwysol Cyfeiriadau Andree, John. Cases of the epilepsy, Hysteric Fits, and St. Vitus's Dance, with the process of cure: interspersed with practical observations. To which are added, cases of the bite of a mad dog, and a method that has been found successful. The second edition, with emendations and additions in the introduction, and some new cases and Inspections of Dead Bodies (1753). Llundain: argraffwyd ar gyfer W. Meadows a J. Clarke, yn Cornhill. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO Clifford, Helen. 'A commerce with things: the value of precious metalwork in early modern England', yn M. Berg a H. Clifford (gol.) (1999) Consumers and Luxury: Consumer Culture in Europe 1650-1850, tt. 147-169. Manceinion: Manchester University Press. Oldfashion, Moses. 'The Tea-Table', yn (awdur anhysbys) A collection of miscellany letters, selected out of Mist's Weekly Journal (1722): 224-227. Llundain: argraffwyd ar gyfer N. Mist, yn Great Carter-Lane. Eighteenth Century Collections Online. Gwe. 12 Ion 2010. http://galenet.galegroup.com/servlet/ECCO Ffigur 9: Wrn te gan Paul Storr, 1805-6. Ffigur 10: Jar neu dun te, Abertawe, 1783.