Crochenwaith o Loegr yn Amgueddfa Cymru Andrew Renton, 6 Ionawr 2010 1: Jwg gynhaeaf o briddwaith wedi'i endorri. Cafodd ei gwneud yn Gestingthorpe, Suffolk, ym 1680. Prynwyd ym 1904. Mae gan Amgueddfa Cymru gasgliad rhagorol o grochenwaith o Loegr a ddechreuwyd adeg sefydlu'r Amgueddfa. Mae'n parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. Dechreuodd hen Amgueddfa Drefol Caerdydd gasglu gwaith cerameg ym 1882, gyda'r nod o ddatblygu'r casgliad gorau posibl o grochenwaith a phorslen o Gymru. Erbyn 1895 credai'r Amgueddfa ei bod yn meddu ar y casgliadau gorau a mwyaf cynrychiadol o'u math yn y byd, a dechreuodd gyfeirio'i sylw at feysydd newydd, gan gynnwys cerameg o Loegr a'r cyfandir. Ym 1896 gwnaed Robert Drane yn guradur anrhydeddus. Roedd yn gasglwr brwd ar borslen Caerwrangon, ac ef hefyd a oedd wedi dewis yr eitemau porslen Cymreig cyntaf i'r Amgueddfa eu prynu. 2: Tebot hufenwaith gydag addurn wedi'i argraffu a'i enamlo ar thema sêr-ddewiniaeth. Cafodd ei wneud gan William Greatbatch, Swydd Stafford, tua 1778. Prynwyd ym 1902. 3: Dysgl crochenwaith slip yn dangos eryr â dau ben. Cafodd ei gwneud gan Ralph Toft, Swydd Stafford, tua 1663-88. Prynwyd ym 1903. 4: Mwg crochenwaith caled â gosodiad arian, wedi'i enamlo ag arfbais Farmer, Fulham, 1706. Prynwyd ym 1903. 9: Jwg berlwaith wedi'i henamlo a wnaed yng Nghrochendy Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1800. Cymynrodd gan Ernest Morton Nance, 1953 10: Fâs o grochenwaith caled basalt â darlun llosgliw. Cafodd ei gwneud gan Wedgwood a Bentley, tua 1775-85. Rhodd gan Mr a Mrs F. E. Andrews, 1934 11: Ffigwr priddwaith o Alexandra, Tywysoges Cymru (1844-1925), a wnaed yn Swydd Stafford tua 1862. Cymynrodd gan Mrs H. de C. Hastings, 1995 12: Tebot hufenwaith wedi'i baentio dan y gwydredd mewn glas a manganîs. Cafodd ei wneud gan Enoch Booth, Swydd Stafford, tua 1743. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 Sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru Ar yr adeg hon roedd Amgueddfa Drefol Caerdydd hefyd yn ymgyrchu dros sefydlu amgueddfa genedlaethol i Gymru, a'i huchelgais oedd datblygu i fod y sefydliad newydd hwnnw. Ym 1902 cyfeiriodd at y ffaith fod ei chasgliadau yn tyfu'n fwyfwy cenedlaethol eu natur, ac felly dechreuodd ddatblygu ei chasgliad o grochenwaith o Loegr. O'r Canoloesol i'r diwydiannol Câi pob rhan o'r traddodiad crochenwaith yn Lloegr ei chynrychioli, o grochenwaith diwedd y canol oesoedd, i grochenwaith caled, slip a Delft yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif, i ddarnau wedi'u cynhyrchu trwy'r dulliau diwydiannol a gyflwynwyd yn Swydd Stafford o ganol y ddeunawfed ganrif. [lluniau 1-2] Dyma rai o'r eitemau eithriadol: dysgl crochenwaith slip prin a godidog o'r ail ganrif ar bymtheg gan Ralph Toft o Swydd Stafford [llun 3] mwg pwysig o grochenwaith caled wedi'i enamlo ag arfbais Farmer â'r dyddiad 1706 arno [llun 4] dysgl hynod, o grochenwaith Delft. Cafodd ei gwneud yn Brislington ym 1680, ac mae'n dangos dau sgweier o Wlad yr Haf a oedd wedi herwgipio efeilliaid cyswllt i'w harddangos, er mwyn codi arian. [llun 5] Roedd balchder yr Amgueddfa yn yr hyn yr oedd wedi'i gyflawni yn amlwg. Mewn adroddiad a ysgrifennwyd ym 1905 ar y ddysgl crochenwaith Delft o Brislington, mae'n nodi mai ychydig iawn o'r dysglau hyn a oedd yn bodoli, ac mai'r enghraifft hon yng Nghaerdydd, o bosibl, oedd y gorau ohonynt. 5: Dysgl o grochenwaith Delft a wnaed yn Brislington ger Bryste, tua 1680. Prynwyd ym 1904 6: Tebot crochenwaith caled rosso antico a wnaed gan Wedgwood, Swydd Stafford, tua 1810-20. Rhodd gan Wilfred de Winton, 1903. 7: Jwg gwrw o berlwaith, gydag arysgrif i John Hughes o Lansamlet ger Abertawe. Mae'n debyg iddi gael ei gwneud gan Ralph Wedgwood yn Burslem, Swydd Stafford, neu Ferrybridge, Swydd Efrog, tua 1790-1800. Rhodd gan W S de Winton ym 1904 8: The New Marriage Act, mewn perlwaith. Er mai'r gred, pan y'i prynwyd, oedd iddo gael ei wneud yn Abertawe, cafodd ei wneud mewn gwirionedd yn Swydd Stafford tua 1825. Prynwyd ym 1941 Wilfred de Winton Roedd y banciwr Wilfred de Winton yn cefnogi'r ymgyrch dros gael amgueddfa genedlaethol, a rhoddodd ei gasgliad enfawr o borslen iddi yn ddiweddarach. Roedd ei roddion o grochenwaith o Loegr yn cynnwys jwg gwrw ddoniol o berlwaith, wedi'i mowldio ag wynebau yn dangos gwahanol gamau meddwdod. Mae'r handlen ar ffurf morfab yn edrych i mewn i'r jwg. [ill. 6-7] Y gred ar y pryd oedd i'r jwg hon gael ei gwneud yng nghrochendy lleol Cambrian, ond mewn gwirionedd mae'n un o'r nifer o ddarnau o Gymru yn y casgliad y canfuwyd yn ddiweddarach eu bod o Loegr. [llun 8] Ernest Morton Nance Ym 1953 rhoddodd Ernest Morton Nance ei gasgliad o waith cerameg Cymreig i'r Amgueddfa yn ei ewyllys. Roedd Nance yn arbennig o falch o'i jwg 'Crochenwaith Cambrian'. Credai mai golygfeydd o grochendy yn Abertawe a baentiwyd arni, ond mewn gwirionedd mae'n debygol mai yng nghrochendy Ralph Wedgwood yn Ferrybridge y gwnaed hon hefyd, tua'r flwyddyn 1800. [llun 9] 13: Powlen gwaddodion/slops o grochenwaith caled wedi'i fowldio o slip a'i wydro â halen. Cafodd ei gwneud yn Swydd Stafford tua 1740. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 14: Tebot crochenwaith caled coch ag addurn chinoiserie wedi'i fowldio. Cafodd ei wneud yn Swydd Stafford tua 1760-65. Rhodd gan W. J. Grant-Davidson, 1994 15: Dysgl briddwaith wedi'i phaentio mewn lystar coch ac aur gan William de Morgan, tua 1881. Prynwyd ym 1994 16: Fâs briddwaith wedi'i phaentio â llaw. Cafodd ei dylunio gan Frank Brangwyn ar gyfer Royal Doulton, tua 1930-35. Prynwyd ym 1972 Y casgliad yn parhau i ehangu Mae'r casgliad o grochenwaith o Loegr yn parhau i ffynnu, diolch i genedlaethau o gymwynaswyr. [llun 10] Trwy gymynroddion, derbyniwyd casgliadau helaeth o grochenwaith lystar (yr Arglwydd Boston, 1942), cloriau potiau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Miss E. A. Nicholl, 1981) a ffigyrau o Swydd Stafford o gyfnod y Frenhines Victoria (Mrs H. Hastings, 1995). [llun 11] Ym 1994 roedd rhodd W. J. Grant-Davidson, a oedd yn ysgolhaig ym maes crochenwaith Cymru, yn cynnwys darnau diddorol o Swydd Stafford. Y mwyaf diddorol oedd enghraifft gynnar a phwysig o debot hufenwaith a wnaed gan Enoch Booth tua'r flwyddyn 1743. [lluniau 12-14] Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn casglu crochenwaith modern, ac mae wedi prynu enghreifftiau fel dysgl lystar gan William de Morgan a fâs Royal Doulton a ddyluniwyd gan Frank Brangwyn. [lluniau 15-16] Cafwyd darnau modern eraill o Gasgliad Allestyn yr Amgueddfa, er enghraifft dyluniadau o'r 1930au gan y pensaer Keith Murray ar gyfer Wedgwood ac, yn arbennig, rhodd hael gan Mick Richards, sef casgliad ardderchog o waith cerameg Susie Cooper. [llun 17] Mae'r casgliad yn parhau i ehangu, a phrynwyd eitemau fel tebot hufenwaith o tua 1765, sy'n coffáu'r gwleidydd radical John Wilkes. [llun 18] 17: Fâs briddwaith wedi'i chreu ar droell a'i hendorri. Cafodd ei gwneud gan Grochendy Susie Cooper, tua 1932. Rhodd gan Mick Richards, 2003 18: Tebot hufenwaith yn dathlu John Wilkes. Mae'n debyg y cafodd ei wneud a'i enamlo yn Swydd Stafford tua 1763-68. Prynwyd yn 2009 Awdur: Andrew Renton, Pennaeth Celfyddyd Gymhwysol
Cofnodion hanesyddol o gyfnod angof 23 Hydref 2007 Dysgl porslen Nantgarw gyda darlun Pen-y-Rhos, 1821-3 Cwpan tsieni asgwrn gyda darlun gwaith haearn Pentwyn, tua 1835 Defnyddiwyd golygfeydd o dirluniau i addurno cwpanau, soseri, platiau, bowlenni a jygiau ers blynyddoedd. Roedd rhai yn olygfeydd o ddychymyg yr arlunydd; eraill yn olygfeydd o lefydd go iawn. Mae enghreifftiau a arddangosir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys golygfeydd o Ddolgellau a Glyn Nedd ar borslen Nantgarw a pheintiad o Castel Gandolfo yn Rhufain ar ddysgl o ddechrau'r 19eg ganrif a wnaed yn y Ffatri Borslen Imperialaidd yn St. Petersburg, Rwsia. Gweithiai'r peintiwr porslen o ysgythriad fel rheol, ond roedd modd iddynt hefyd weithio o'u cof neu ddilyn delwedd nad yw wedi goroesi, gan wneud y darn addurnedig ei hun yn gofnod gwerthfawr a manwl o le a fyddai, fel arall, yn angof. Buarth Pen-Y-Rhos, Nantgarw Un darn pwysig o'r fath yw dysgl fawr o borslen yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Ar flaen y ddysgl, mewn ffrâm siâp hirgrwn mae delwedd o dŷ ac ysguboriau yng nghysgod coed, o flaen bryn. Arno mae'r arysgrif 'Pen-y-Rhos'. Ar gefn y ddysgl mae delwedd o fuarth gyda gwartheg ac ieir yn y blaen. Er nad oes nodau ar y ddysgl, mae'r past, y crochenwaith trwm a'r addurniadau i gyd yn nodweddiadol o waith Nantgarw. Mae darnau eraill o dystiolaeth yn cynnwys darn o ddysgl union yr un fath a ddarganfuwyd ar safle ffatri Nantgarw. Mae'n debyg mai Thomas Pardoe oedd y peintiwr, a weithiodd yn Nantgarw o 1821 hyd at ei farwolaeth ym 1823. Mae fferm Pen-y-Rhos un filltir o Nantgarw, ar gyrion Caerffili. Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd yn gartref i Edward Edmunds. Ym 1814 tanosododd safle'r ffatri, bwthyn a thir ger Camlas Sir Forgannwg i William Billingsley a Samuel Walker. Ym 1820 cafodd ei danosod eto, y tro hwn i William Weston Young. Credir i dair set gyflawn o ddysglau gael eu gwneud yn y ffatri ar gyfer Edmunds a'i deulu. Nid oes un o'r setiau hyn wedi goroesi yn gyfan ond credir eu bod yn dyddio o berchnogaeth Billingsley o'r crochendy ym 1817-19. Nid oedd dysgl Pen-y-Rhos yn rhan o'r setiau hyn, ond roedd yn dod o ddyddiad diweddarach. Efallai ei fod yn rhodd gan Young neu Pardoe i Edmunds. Felly yn ogystal â bod yn ddarn dogfennol allweddol o borslen Nantgarw, mae'r ddysgl yn dangos golygfa brin o ffermdy ym Morgannwg yn y 1820au. Gweithfeydd Haearn Pentwyn, y cymoedd Os yw dysgl Pen-y-Rhos yn datgelu golygfa amaethyddol angof, yna mae'r ddysgl neu gwpan tsieni asgwrn Swydd Stafford, gyda dwy ddolen, yn datgelu tirwedd ddiwydiannol angof. Yn dyddio o tua 1835, mae'r darn hwn wedi ei addurno ar y blaen gyda golygfa o Weithiau Haearn Pentwyn o fewn ffrâm oreurog. Ar y cefn mae'r enw I Hunt Esq. (roedd 'Esq.', neu 'Esquire', yn cael ei ddefnyddio weithiau yn lle 'Mr'). Roedd Gweithfeydd Haearn Pentwyn ar ochr orllewinol Abersychan, tair milltir o Bont-y-pŵl yng nghymoedd de Cymru. Sefydlwyd y gweithfeydd haearn ym 1825 ac roedd yn cynnwys y tair ffwrnais chwythu a adeiladwyd gan deulu Hunt. Erbyn 1839 roedd y gweithfeydd yn eiddo i Gwmni Pentwyn, ond nid yw'n hysbys a oedd teulu Hunt yn parhau i fod yn gysylltiedig. Cyn 1848 pasiwyd Cwmni Pentwyn i gwmni Williams & Co. ac fe ddymchwelwyd yr holl adeiladau. Y ddelwedd ar y darn hwn, y mae'n rhaid ei fod wedi ei gomisiynu ar gyfer neu gan aelod o deulu Hunt, yw'r unig olygfa hysbys o'r safle diwydiannol hon yn y cyfnod hwnnw.
Crochenwaith unigryw o Abertawe yn hwb i gasgliad yr Amgueddfa 5 Gorffennaf 2007 Ym 1994, rhoddwyd deugain darn o grochenwaith a phorslen i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhodd gan W. J. Grant-Davidson, arbenigwr yn hanes crochendai Cymru. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o eitemau unigryw a phwysig a wnaed yn Abertawe tua dechrau'r 19eg ganrif. Tancard priddwaith o Abertawe gan William Weston Young. Rhoddion hael Un o'r darnau mwyaf diddorol yw tancard mawr priddwaith. Fe'i gwnaed yng Nghrochendy Cambrian, Abertawe, ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Fe'i haddurnwyd â phen ac ysgwyddau derwydd. Dywed yr arysgrif iddo gael ei baentio gan William Weston Young (1776-1847). Mae'r addurn yn unigryw, er bod Weston Young wedi paentio llun derwydd yn torri uchelwydd ar blac hefyd (mae hwnnw yn Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain erbyn hyn). William Weston Young Bu William Weston Young yn gweithio yn y crochendy rhwng 1803 a 1806 fel paentiwr a chynorthwyydd i'r perchennog, Lewis Weston Dillwyn. Syrfëwr tir oedd Weston Young wrth ei broffesiwn ac, yn ddiweddarach, bu'n bartner yn y 'Nantgarw China Works'. Pos ar ffurf llun Ymhlith yr eitemau eraill sydd yn y casgliad, mae sosban laeth, cwpanau wy a jwg ac arni'r arysgrif 'John Jinken 1793'. Ceir powlen bwnsh ac arni lun alarch a phenhwyad (sef 'pike' yn Saesneg). Efallai bod hon wedi'i gwneud yn arbennig ar gyfer y teulu Pike o Abertawe. Crochenydd arloesol Roedd gan Mr Grant-Davidson ddiddordeb mewn crochenwaith Lloegr hefyd. Ceir deg enghraifft o ganol y 18fed ganrif yn y casgliad a roddodd i'r amgueddfa. Yn ogystal â thri thebot braf o grochenwaith caled Swydd Stafford, ceir dau ddarn dogfennol o hufenwaith Josiah Wedgwood. Mae'r casgliad yn cynnwys un o'r pedwar darn y gwyddom amdanynt o hufenwaith wedi'u haddurno, a wnaed gan y crochenydd Enoch Booth. Gwnaed y darnau hyn yn hanner cyntaf y 1740au ac mae'n bosib mai dyma'r enghreifftiau cynharaf o gorff o briddwaith sy'n un o brif gyfraniadau Prydain at hanes crochenwaith. Hanesydd a chasglwr Roedd W.J. Grant-Davidson yn arbenigwr ar hanes crochendai Cymru. Casglai grochenwaith Prydeinig o'r cyfnod rhwng diwedd y Canoloesoedd i ddechrau'r 20fed ganrif. Ei gyhoeddiad mwyaf adnabyddus yw 'Early Swansea Pottery, 1764 - 1810', ac mae sawl darn o'i gasgliad ef i'w gweld yn y llyfr.
Casgliad mwyaf y byd o borslen de Cymru yn mynd i ocsiwn 16 Mai 2007 Mae ocsiynau fel arfer yn ddigwyddiadau cymharol dawel, yn cael eu mynychu gan lond dwrn o bobl. Nid dyma'r achos yng ngwerthiant casgliad y diweddar Syr Leslie Joseph o grochenwaith a phorslen Cymreig a gynhaliwyd gan Sotheby's ym 1992. Gwerthwyd dros 2,000 o wrthrychau mewn 900 lot am dros £1.1 miliwn. Nid oedd llwyddiant yr arwerthiant yn syndod, gan mai dyma'r casgliad mwyaf a chyfoethocaf o borslen Abertawe a Nantgarw yn y byd. Plat porslen Abertawe o'r set Garden Scenery, dysgl fawr porslen Nantgarw o set Vernon, a phot inc porslen Nantgarw, a beintiwyd ar gyfer Caroline Goodrich o Gaerffili, a phlat patrwm set porslen Abertawe, bob un tua. 1816-25, ac wedi'u cyflwyno gan Gyfeillion Amgueddfa Cymru. Syr Leslie Joseph Ganwyd Syr Leslie Joseph yn Abertawe ac fe gafodd yrfa fusnes hir, a arweiniodd at fod yn is-gadeirydd y grŵp Trusthouse Forte. Prynodd ei ddarn cyntaf o borslen Cymreig cyn yr Ail Ryfel Byd. Yn y 1950au dechreuodd lunio casgliad a fyddai yn y pen draw yn llenwi'r cypyrddau ymddangos a oedd yn leinio pum ystafell atig ei dŷ ger Porthcawl. Serameg Nantgarw ac Abertawe Ei nod oedd sicrhau esiamplau o bob siâp a phatrwm a wnaed yng nghrochendai Abertawe a Nantgarw. Yn wahanol i nifer o gasglwyr, roedd yn barod i brynu darnau wedi'u difrodi pe byddent o gymorth iddo ddysgu mwy am yr amrywiaeth o borslen a gynhyrchwyd yn y ddwy ffatri. Dros y blynyddoedd adeiladodd wybodaeth helaeth o serameg Cymreig, ac yn arbennig y marciau sgript a ddefnyddiwyd ar borslen Abertawe. Ym 1988 cyhoeddodd y llyfr Swansea Porcelain: Shapes and Decoration gyda A.E. Jones, sy'n gofnod gwerthfawr o lwyddiannau'r ffatri honno. Roedd Syr Leslie, a wasanaethodd ar Bwyllgor Celf Amgueddfa Cymru am nifer o flynyddoedd, yn hael iawn, ac fe ganiataodd i nifer o gasglwyr ac ysgolheigion fanteisio ar y casgliad a'i wybodaeth helaeth. Roedd gwerthiant casgliad Joseph yn her ac yn gyfle i Amgueddfa Cymru. Gan yr Amgueddfa mae'r casgliad cyhoeddus mwyaf yn y byd o grochenwaith a phorslen Cymreig, sy'n cynnwys dros 3,000 o ddarnau. Dros y blynyddoedd diweddar mae'r Amgueddfa wedi ceisio gwneud y casgliad serameg mor gynhwysfawr ag sy'n bosib. Roedd nifer o wrthrychau yng nghasgliad Joseph a oedd o ddiddordeb, ond golygai'r gyllideb bod yn rhaid gwneud penderfyniadau am ba rhai oedd bwysicaf i'r casgliad. Roedd prisiau yn yr arwerthiant yn uchel iawn. Derbyniodd Amgueddfa Cymru 33 lot, ar gost o £98,000. Talwyd bron i drydedd rhan y costau gan grantiau allanol, a'r tri darn unigol drytaf gan brynwyr eraill ar ran yr Amgueddfa. Prynwyd nifer fechan o wrthrychau prin a hardd ar gost uchel. Roedd un yn lestr hufen iâ o set Gosford Castle. Roedd hon yn set melysfwyd Abertawe adnabyddus a addurnwyd yn Llundain â sbesimenau botanegol. Hefyd prynodd yr Amgueddfa blât Nantgarw, wedi'i beintio'n gywrain gyda cholomennod ar ymyl basin o ddŵr, hefyd wedi'u haddurno yn Llundain. Enwyd yr Oriel Serameg Cymreig, sydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn Oriel Joseph, er cof am Syr Leslie Joseph, un o brif gymwynaswyr Amgueddfa Cymru.
Crefft y Seremoni De Japaneaidd 22 Chwefror 2007 Ym 1915 fe dderbyniodd yr Amgueddfa nifer o gratiau a oedd yn cynnwys tecstilau, lacer, printiau bloc pren a llestri ar gyfer y seremoni de Japaneaidd (chanoyu). Anfonwyd hwy o Siapan gan Bernard Leach, crochenydd y dylanwadwyd arno'n gryf drwy gydol ei yrfa gan ei brofiadau Japaneaidd. Gan na chofnodwyd yr eitemau ar y pryd fe aeth y rheswm dros eu prynu'n angof. Serch hynny, mae wedi bod yn bosib eu hadnabod yn ddiweddar. '...rhywbeth unigryw' Chaire (pot te), llestri caled Shigaraki, o ddiwedd yr 16eg ganrif mae'n debyg Pan aeth Bernard Leach i Japan am y tro cyntaf, roedd yn artist ifanc a oedd newydd ddarganfod crochenwaith Japaneaidd. Fodd bynnag, sefydlodd ei hun, mewn amser byr iawn, fel prif grochenydd Prydeinig yr 20fed ganrif. Nid oedd yn amau gwerth y casgliad a ddisgrifiwyd ganddo fel 'rhywbeth unigryw'. Dilynodd gyngor y meistri te Japaneaidd, a chasglodd eitemau o'r math oedd yn cael eu trysori fwyaf yn y traddodiad Japaneaidd chanoyu, yn seiliedig ar egwyddorion a sefydlwyd yn y 16eg ganrif. Yn ôl yr egwyddorion hyn fe ddylai'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio fod yn syml ac yn ddiymhongar, gan gyfrannu at yr ymdeimlad o fyfyrdod tawel a ysbrydolir gan y seremoni. Mae'r chaire (pot te) a anfonwyd gan Leach yn arddangos y nodweddion hyn yn berffaith. Mae'n esiampl o wneuthuriad garw crochenwaith caled Shigaraki, a werthfawrogir gan arbenigwyr te ers y 15fed ganrif. Yn draddodiadol byddai gwestai yn archwilio ac yn clodfori gwrthrych o'r fath ar ôl i'r gwesteiwr orffen gweini'r te. Ail-greu chanoyu Mae Chanoyu yn gelfyddyd ac yn ffordd o fyw, ac mae'n weithred o letygarwch a chanddi nifer o ddefodau. Mae gwrthrychau'n cael eu dewis, eu gosod a'u trin yn ofalus iawn, nes bod y cyfuniad o'r gwrthrychau a'r bobl, a'r amser a'r lle'n golygu bod pob seremoni yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei ailadrodd. Mynnodd Leach y dylid dangos yr un parch pan ddangoswyd y casgliad yn yr Amgueddfa ym 1924. Traddodiadau Japaneaidd Gwrthrychau Chanoyu a gasglwyd gan Bernard Leach Pan oedd Leach yn Japan, roedd treftadaeth y wlad mewn perygl o gael ei cholli oherwydd twf cyflym diwydiant ac effaith y gorllewin. Roedd rhai yn gweld y seremoni de fel metaffor o'r Japan draddodiadol, a gobaith Leach oedd y byddai'r caffaeliad yn medru helpu i wella'r ddealltwriaeth rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin. Yn ei henaint, defnyddiodd Leach ei brofiad i weithredu fel cyfryngwr rhwng byd diwylliannol Gorllewin Ewrop a Dwyrain Asia. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bellach bod y cylchoedd Japaneaidd yr oedd yn troi ynddynt wedi cael eu dylanwadu'n helaeth gan athroniaeth y Gorllewin, ac y dylid amau ei honiad iddo ddeall traddodiad dilys Japan. Serch hynny, mae Leach yn ffigwr nodedig yn hanes y rhyngweithio parhaol rhwng Ewrop a Dwyrain Asia. Mae'n addas felly bod yr eitemau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu prydferthwch a'u hynafiaeth, ond hefyd y cyswllt rhyngddynt â Leach ei hun. Darllen CefndirEdmund de Waal, Bernard Leach (London: Tate, 1999); Emmanuel Cooper, Bernard Leach: Life and Work (New Haven & London: Yale University Press, 2003); Kakuzo Okakura, The Book of Tea (New York: Dover, 1964); Paul Varley and Kumakura Isao (eds), Tea in Japan: Essays on the History of Chanoyu, (Honolulu: University of Hawaii Press, 1989)