Llychlynwyr ar Ynys Môn 1 Mai 2007 Mae Llanbedrgoch ar Ynys Môn yn gartref i un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod mewnlifiad y Llychlynwyr i Gymru. Mae ymchwil Amgueddfa Cymru ar y safle wedi bod yn gymorth wrth ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, fu'n ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau. Cloddfa ar ei hanner ar adeilad 1 ym 1997 Darganfuwyd y safle ym 1994, wedi i nifer o ddarganfyddiadau gael eu cludo i'r Amgueddfa i gael eu hadnabod. Roeddent yn cynnwys ceiniog Eingl-Sacsonaidd o gyfnod Gynethryth (787-792 AD), ceiniog gan Wulfred o Gaergaint (tua 810), a thri phwysyn plwm Llychlynnaidd. O Neolithig i Rufeinig Yn dilyn cloddfa ac ymchwil manwl, dechreuwyd datrys hanes cymhleth y safle. Ymddengys bod y safle wedi bod yn ganolfan llawn gweithgarwch mor gynnar â 3300 CC, sef cyfnod adeiladu'r mwyafrif o siambrau claddu ar Ynys Môn. Mae nifer o eitemau o grochenwaith, wedi'u dyddio drwy radio carbon i gyfnod rhwng 240 a 450 OC, yn dangos y bu gweithgarwch ar y safle yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid. Y Safle Gellir rhannu'r gweithgarwch ar y safle hwn yn sawl cyfnod. Daethpwyd o hyd i ffos, a fesurai 2m o led a 1m o ddyfnder. Wedi cloddio pellach, dadorchuddiwyd ceudyllau wedi'u torri i mewn i'r creigwely, a arferai fod yn blatfform tŷ, mae'n debyg. Mae'r gwrthrychau a ganfuwyd yn awgrymu bod y ffos o gyfnod cyn-Lychlynnaidd. Mae'n debyg mai o'r cyfnod hwn y daw'r neuadd fawr bren, a gynrychiolir gan dyllau pyst mawr. Disodlwyd yr adeilad pren hwn ar ddiwedd y 9fed neu ddechrau'r 10fed ganrif gan ddwy neuadd o leiaf, a ddefnyddiwyd am y tro olaf rhwng tua 890 a 970. Safai neuadd fawr neu ysgubor i'r dwyrain, a fesurai tua 8m wrth 12m, yn dyddio o tua 855-1000 OC. Tua'r gorllewin, mae'r fynedfa i drydydd adeilad, sydd ychydig yn llai, wedi'i marcio gan ddarn bach o balmant cerrig. Dinistriwyd unrhyw dystiolaeth glir o'r waliau gan y broses o aredig, ond canfuwyd bwcl efydd cain a llafn cyllell haearn â chefn onglog o'r 10fed ganrif. Roedd rhai arteffactau mewn tomen sbwriel yng nghornel de-orllewin y safle, yn cynnwys styca (ceiniog), o Northumbria, o Archesgob Wigmund (tua 848 - 58), ac offer haearn socedog ar gyfer lledrwaith, mowntiau a rhwymiadau bwcedi. Ymddengys bod yr ardal wedi dychwelyd at amaethyddiaeth wedi hyn, a diddymwyd holl olion yr anheddiad blaenorol dros amser. Fel safleoedd eraill, dewiswyd y lleoliad yn ofalus - man cysgodol, tua 1000m o'r môr. Mae'r gwrthrychau a ddarganfuwyd ar y safle'n ffurfio un o'r casgliadau mwyaf o'i fath yng Nghymru, ac maent wedi goroesi mewn cyflwr arbennig o dda. Mae ceiniogau a thystiolaeth arall yn awgrymu bod diwedd yr 8fed ganrif yn gyfnod o gynnydd economaidd yn Llanbedrgoch. Mae'n ymddangos bod yr anheddiad yn ei hanterth yn y 10fed ganrif, a oedd yn gyfnod o gynhaeafu cnydau, o gadw anifeiliaid, ac o grefftwyr, gyda chysylltiadau â masnachwyr Llychlynnaidd a gyrhaeddai mewn llongau. Y cae yn Llanbedrgoch yw'r allwedd i ddatgloi cyfrinachau pellach yr anheddiad Llychlynnaidd, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.
Pwy oedd y Brenin Arthur? 26 Ebrill 2007 Bu enw'r Brenin Arthur yn gysylltiedig â Chymru ers amser maith, ond beth a wyddom am y dyn a'i amseroedd? Mae'r enw Arthur yn dwyn i gof gysylltiadau lu. Fel gŵr gwychryw, daeth yn destun chwedlau. Yn llenyddiaeth ddychymyg Ewrop mae chwedlau a rhamantau yn dathlu'r brenin a'i lys, ac mae'r syniadau mwy diweddar hyn am Arthur yr un mor ddiddorol â'i gilydd. Dyma ambell gwestiwn cyffredin a ofynnir: Ai gŵr o gig a gwaed oedd Arthur? Sut un oedd ef? I ddarganfod yr atebion mae'n rhaid edrych yn feirniadol ar ddwy ffynhonnell bwysig o wybodaeth: testunau hanesyddol ac archaeoleg. Pryd oedd y Brenin Arthur byw? Mae'n debyg y ceir y cyfeiriad cyntaf at Arthur mewn llinell yng ngerdd Aneirin, 'Y Gododdin', y llenyddiaeth Gymraeg gynharaf y gwyddom amdani: 'Gochorai brain du ar fur caer / Cyn ni bai ef Arthur' 'Bwydai [Gwawrddur] frain du ar ragfur caer / Er nad oedd yn Arthur'. Mae'r gerdd yn dyddio o'r chweched ganrif, pan oedd y rhan fwyaf o drigolion gorllewin Prydain (Cymru, gogledd Lloegr a de'r Alban) yn siarad Cymraeg; mae ffurf ysgrifenedig gynharaf y gerdd yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae'n bosibl nad yw'r cyfeiriad at Arthur yn y ffynhonnell hon yn gynharach na'r nawfed ganrif ond mae'n tystio i enwogrwydd Arthur ymhlith y Cymry yn ystod y cyfnod hwn. Y pwysicaf o'r testunau hanesyddol yw Historia Brittonum, 'Hanes y Brytaniaid', sy'n cynnwys y cyfeiriad ysgrifenedig cynharaf at Arthur 'a frwydrodd yn eu herbyn [y Sacsoniaid] yn y dyddiau hynny gyda brenhinoedd y Brytaniaid ond ef ei hun oedd arweinydd y Brwydrau', gan ennill deuddeg buddugoliaeth. Lluniwyd fersiwn cynharaf yr hanes hwn tua OC829-830. Yn Annales Cambriae, cronicl a ysgrifennwyd yng nghanol y ddegfed ganrif yn ôl pob tebyg, cofnodir dyddiad brwydr Baddon ar gyfer y flwyddyn OC518, a marwolaeth Arthur ym mrwydr Camlan yn OC537-9. Felly, os oedd Arthur yn ŵr hanesyddol o gig a gwaed, roedd ar dir y byw, yn ôl pob tebyg, yn ystod y chweched ganrif. Tudalen o gopi o Lyfr Aneirin yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae Llyfr Aneirin yn cofnodi ymosodiad y Brythoniaid ar y Sacsoniaid yng Nghatraeth (Swydd Efrog). Er y cafodd y gerdd ei chyfansoddi yn y chweched ganrif, mae'n bosibl y cafodd y cyfeiriad at Arthur a geir ynddi ei ychwanegu'n ddiweddarach. [Image © Cardiff Library] Ble mae'r Brenin Arthur wedi ei gladdu? Mae'r Myrddin sy'n ymddangos yn Vita Merlini, y gerdd am fywyd Myrddin a ysgrifennwyd gan Sieffre o Fynwy yn y ddeuddegfed ganrif, fel pe bai'n gyfuniad o ddau draddodiad gwahanol, hwnnw am Ambrosius yn Historia Brittonum a oedd, yn ôl y sôn, yn arweinydd yn ystod y 460au and 470au, a hwnnw am y 'gŵr gwyllt a drigai yn y coed'. Erbyn y cyfnod pan oedd Sieffre o Fynwy yn ysgrifennu 'Hanes Brenhinoedd Prydain' roedd chwedlau a gysylltai Arthur â Chernyw eisoes yn datblygu. Mae llenyddiaeth Gymraeg gynnar yn llawn chwedlau rhyfeddol sy'n ffurfio rhan bwysig o'r traddodiad Arthuraidd. Mewn llawysgrifau yn dyddio o'r drydedd a'r bedwaredd ganrif ar ddeg ceir portreadau gwahanol o Arthur mewn barddoniaeth Gymraeg gan feirdd anhysbys. Yn 'Englynion y Beddau', un o'r cerddi a geir yn Llyfr Du Caerfyrddin, disgrifir bedd Arthur fel rhyfeddod mawr, gan na ŵyr neb lle y mae'n gorwedd. Yr wychaf o'r chwedlau rhyddiaith Arthuraidd yw 'Culhwch ac Olwen', y ceir fersiynau ohoni yn llawysgrifau Llyfr Gwyn Rhydderch (a ysgrifennwyd tua 1350) a Llyfr Coch Hergest (a ysgrifennwyd tua 1400). Paratowyd a chyhoeddwyd y cyfieithiad Saesneg cyntaf o'r chwedl hon, un o un chwedl ar ddeg y Mabinogion, gan y Foneddiges Charlotte Guest yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae pedair o chwedlau eraill y Mabinogion hefyd yn canolbwyntio ar Arthur, sef y tair rhamant, 'Iarlles y Ffynnon', 'Hanes Peredur Fab Efrog' a 'Geraint Fab Erbin', ynghyd â 'Breuddwyd Rhonabwy' sy'n cyflwyno golwg ddychanol o Arthur a'i fyd. Map yn dangos lleoliad enwau lleoedd a grybwyllir yn yr erthygl hon Archaeoleg Yr ail ffynhonnell allweddol bwysig o wybodaeth am Arthur yw archaeoleg. Mae'r dystiolaeth archaeolegol am y cysylltiad rhwng Cymru, Cernyw a'r byd Sacsonaidd yn amrywiol ei natur - o waith metel gwneuthuredig mewn dull Eingl-Sacsonaidd a ddarganfuwyd yn ne-ddwyrain Cymru, i ddosbarthiad crochenwaith y cyfnod canoloesol cynnar a fewnforiwyd o'r cyfandir a glannau Môr y Canoldir. Mae cloddiadau ar safle Dinas Powys, bryngaer dywysogaidd ger Caerdydd y trigai pobl o fewn ei muriau rhwng y bumed a'r saithfed ganrif, wedi dweud llawer wrthym ynglŷn â natur safle o statws uchel yn ne Cymru yn ystod y cyfnod hwn. Mae'r safle hwn o'r un oed ag eraill megis South Cadbury yng Ngwlad yr Haf a Tintagel yng Nghernyw (y naill a'r llall â'u traddodiadau Arthuraidd). Cribau asgwrn o Ddinas Powys (Bro Morgannwg), caer y trigai pobl ynddi rhwng y bumed a'r wythfed ganrif. Amffitheatr Rufeining yng Nghaerllion Byth oddi ar y 12fed ganrif mae'r amffitheatr Rufeining yng Nghaerllion wedi cael ei chydnabod fel safle llys y Brenin Arthur. Yn OC1405, ar ôl glanio yn Aberdaugleddau i gefnogi gwrthryfel Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr, cyrhaeddodd byddin ymgyrchol Ffrengig Gaerllion. Yma, ymwelodd y milwyr â 'Bord Gron y Brenin Arthur'. Yn ôl un ffynhonnell Ffrangeg (Chronique Religieux de St Denys), ymlwybrodd y Ffrancwyr heibio i'r 'Ford Gron', yn ogystal ag 'Abaty Urddasol' (Llantarnam yn ôl pob tebyg) y chwedl Arthuraidd. Mewn gwirionedd, amffitheatr Rufeinig lleng-gaer Isca oedd y Ford Gron. Mae'r camadnabyddiad hwn yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Yn ôl Gerallt Gymro, awdur Itinerarium Kambriae ('Hanes y daith drwy Gymru') a ysgrifennwyd yn OC1190: 'I'r fan yma y deuai dirprwy lywodraethwyr Rhufain i geisio gwrandawiad yn llys enwog Arthur fawr'. Dylanwadwyd yn fawr ar Gerallt ac awduron diweddarach gan Sieffre o Fynwy, a oedd wedi cyfeirio at Gaerllion, 'Dinas y Llengoedd', fel llys y Brenin Arthur yn ei epic ffuglennol, 'Hanes Brenhinoedd Prydain' (Historia Regum Britanniae, y credir iddo gael ei gwblhau tua OC1136). Cafodd y cofnod hwn, a gyfeiriai at fan a oedd yn agos i fro ei febyd, ei ddisgrifio fel 'ffrwyth dychymyg hanesyddol byw yn seiliedig ar weddillion gweledol dinas Rufeinig drawiadol'. Roedd rhywfaint o Isca'r Rhufeiniad yn dal i sefyll yn ystod y 13eg ganrif. Yn ôl Triawd 85 yn Trioedd Ynys Prydein, y ceir y casgliad sylfaenol mewn llawysgrifau o'r 13eg a'r 14eg ganrif, roedd Tri Phrif Lys Arthur yn: '... Caerllion ar Wysg yng Nghymru, A Chelliwig yng Nghernyw, A Phenrhyn Rhionydd yn y Gogledd.' Ymhen dim o dro, clensiwyd y datganiad hwn gan gyfeiriadau at Gaerllion fel lleoliad Llys Arthur mewn rhamantau Cymreig a Ffrengig poblogaidd gan Dafydd ap Gwilym, Chrétien de Troyes ac eraill. Amffitheatr Rufeinig Caerllion. [Image © Steve Burrow] Carreg Arthur Mae tua hanner dwsin o fegalithau Neolithig Cymru yn dwyn yr enw Arthur, megis Coetan Arthur a Charreg Coetan Arthur, ac mae ei enw hefyd ynghlwm wrth fryngaer o'r Oes Haearn ar Fryniau Clwyd, sef Moel Arthur ger Dinbych. Yn ôl un traddodiad, mae'r Brenin Arthur a'i farchogion yn gorwedd ynghwsg mewn ogof yng nghrombil Craig y Dinas, Pontneddfechan, ym mhen uchaf Cwm Nedd yn ne Cymru. Maen Ceti, ym Mro Gŵyr. Yn Saesneg, 'carreg Arthur' yw enw maen capan enfawr y siambr gladdu gynhanesyddol hon. Yn ôl y sôn, mae ysbryd y brenin yn ymddangos o'r siambr o dan y maen o bryd i'w gilydd. Darllen Cefndir Arthur in Medieval Welsh Literature gan Oliver James Padel. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (2001). Arthur's Britain. History and Archaeology AD367-634 gan Leslie Alcock. Cyhoeddwyd gan Harmondsworth (1971). The Arthur of the Welsh. The Arthurian Legend in Medieval Welsh Literature gan Rachel Bromwich, A. O. H. Jarman a Brynley F. Roberts. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (1991). The Gododdin, a olygwyd gan A. O. H. Jarman. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer (1995). Y Mabinogion, diweddariad gan Dafydd a Rhiannon Ifans. Cyhoeddwyd gan Wasg Gomer (2001).
Aur 3,000 o flynyddoedd oed o Wrecsam 26 Ebrill 2007 Y celc o arteffactau'r Oes Efydd a ddarganfuwyd gan ddatguddwyr metel ger Wrecsam. Y gyllell efydd, a ddarganfuwyd mewn dau ddarn. Roedd rhiciau niferus ar hyd y llafn sy'n awgrymu, efallai, y cawsai ei defnyddio am beth amser cyn cael ei chladdu. Y fwyell efydd yr oedd ei soced yn cynnwys darnau o ddwy neu ragor o freichledau aur. Darnau o'r breichledau a wnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Mae'r arteffactau a ddarganfuwyd yn cynnwys cyllell efydd doredig, pen bwyell, a phedwar darn o freichledau aur. Cafodd y gwrthrychau i gyd eu llunio rhwng 1000 a 800CC. Mae'r gyllell o'r math a ddefnyddiwyd ledled de Lloegr ac Iwerddon, ac mae ei ffurf yn efelychu cleddyfau mwy o lawer a gâi eu defnyddio bryd hynny. Fodd bynnag, dyma'r gyllell gyntaf o'i math i gael ei darganfod yng Nghymru. Mae gan y pen bwyell efydd soced ar un pen iddo ac ynddo y gosodwyd coes bren, a thrwy'r ddolen sy'n rhan annatod o'r pen y gwthiwyd lledr neu gordyn er mwyn clymu'r pen yn dynn wrth y goes. Fodd bynnag, mae'n debyg y cafodd y pen bwyell ei gladdu heb y goes am y cafwyd hyd i bedwar darn o freichledau aur yn y soced. Mae'r darganfyddiadau gwerthfawr hyn yn cynnwys dwy derfynell (darnau pen) o fath a gâi ei ddefnyddio'n gyffredin yn Iwerddon, ac fe'u gwnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Mae'n debyg bod yr arteffactau hyn yn eiddo i rywun uchel iawn ei barch oherwydd ychydig iawn o bobl yr adeg hon a fyddai wedi gallu cael gafael ar aur Iwerddon ac arfau mor gywrain. Ni chawn wybod i sicrwydd pam y penderfynodd eu perchennog gael gwared arnynt, ond mae'n debyg y cawsant eu claddu fel offrwm i'r duwiau. Mae'r celc yn ychwanegu manylion gwerthfawr at ein gwybodaeth am fywyd yng Nghymru 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar yr adeg hon, roedd arweinwyr yn gwisgo i greu argraff, drwy wisgo breichledau aur ac addurniadau gwallt ac roedd eu hoffer a'u arfau, pryd a gwedd eu ceffyl, a safon unrhyw wleddoedd yr oeddent yn eu trefnu'n adlewyrchu eu statws yn y gymuned. Er bod y rhan fwyaf o drigolion Cymru'n ffermwyr sefydlog neu'n fugeiliaid yn ystod y cyfnod hwn, mae darganfyddiadau fel y celc o Wrecsam yn dangos bod y cymunedau bychain hyn yn rhan o'r rhwydweithiau masnachoedd yn cysylltu Cymru ag Iwerddon, ac yn dynodi bod ein cyndeidiau'n hel meddyliau am fwy na dim ond bwyd, ffermio a byw. Mae'r eitemau hyn yn ffurfio rhan o gasgliadau Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gleindorch Pen-y-bonc 26 Ebrill 2007 Gleindorch Pen-y-bonc (Ynys Môn). Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Sero-radiograff o leindorch Pen-y-bonc. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (yr Alban). Llun: Helen Jackson ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban. Lwnwla aur o Swydd Kerry, Iwerddon. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Fel y gwyddom, roedd gan y Frenhines Fictoria gryn ddiddordeb mewn gemwaith muchudd (jet), ond mae hanes y defnydd a wnaed o'r garreg led-werthfawr hon yn hwy o lawer, fel y tystia gleindorch 4,000 o flynyddoedd oed o Ynys Môn. Yn 1828 cafwyd hyd i fedd naddedig mewn craig ym Mhen-y-bonc, 3km (1.8 milltir) i'r gorllewin o Gaergybi, ym Môn. Gwaetha'r modd, anghyflawn yw cofnodion y darganfyddiad hwn ond roedd y bedd, yn ôl pob tebyg, tua 4,000 o flynyddoedd oed ac mae ymhlith y cyfoethocaf i ddod i'r amlwg hyd yma ym Môn. Awgryma'r ffaith fod y torwyr beddau wedi mynd i'r drafferth o dorri'r bedd yn y graig mai person pwysig oedd yr ymadawedig. Ar ben hynny, yn ôl y sôn, cafwyd hyd i ddau freichdlws metel a chasgliad o leiniau du, gleiniau gwahanu a botymau yn y bedd. Mae'r Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (dangoswyd yn y llun) yn dangos yr enghraifft hon siâp gleindorch glain gwahanu cyflawn, ac mae'n dangos sut yr addurnwyd rhai o'r enghreifftiau gorau. Gwaetha'r modd, collwyd y breichdlysau a rhai o'r gleiniau, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi'r darganfyddiad ond mae'r darnau sydd wedi goroesi wedi'u cadw bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r darnau hyn yn perthyn i leindorch o leiniau a gleiniau gwahanu ar ffurf cilgant. Fel rheol, ceir hyd i wrthrychau fel y rhain yn gysylltiedig â chladdfeydd merched. Gwnaed y rhan fwyaf o leiniau a gleiniau gwahanu gleindorch Pen-y-bonc o lo cannwyl neu lignit (dau ddeunydd tebyg i lo sydd i'w canfod ledled Cymru). Fodd bynnag, gwnaed un glain ac un o'r botymau sydd wedi goroesi o fuchudd, deunydd sydd i'w gael yn Whitby (gogledd Swydd Efrog), 300km (186 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fôn. Pren ffosiledig ysgafn a meddal yw muchudd a ymffurfiodd o goed a dyfai 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig. Fe'i ceir mewn rhai rhannau o Ewrop yn unig a ddioddefodd amodau daearegol arbennig. Y modd yr ymffurfiodd sy'n ei wneud yn wahanol i ddeunyddiau tebyg, fel lignit. Dim ond rhannau o'r leindorch sydd wedi goroesi. Mae'n bosibl mai'r darnau yma yn unig a gladdwyd gan fod y gleindorchau muchudd a ddarganfyddir o'r Oes Efydd yn aml yn anghyflawn. Ar y llaw arall, efallai y gwnaed rhannau o'r leindorch o ddefnyddiau sydd wedi pydru ers hynny, neu y collwyd rhai darnau pan gafodd y gwrthrych ei gloddio. Roedd cynhyrchu gleindorchau muchudd yn waith medrus. Câi edefynnau niferus y leindorch eu crogi drwy ddefnyddio gleiniau gwahanu y gwthiwyd y llinynnau trwy'r tyllau a duriwyd ynddynt. Mae'n debyg y gwnaed y gwaith manwl hyn drwy ddefnyddio dril bwa a darn o weiar efydd. Yn achos gleindorch Pen-y-bonc, cafodd rhai o'r tyllau eu turio ar eu hyd drwy'r gleiniau gwahanu. Ond er mwyn cynyddu nifer yr edefynnau ar un ochr i'r glain gwahanu, turiwyd tyllau drwy un pen er mwyn ei gwneud hi'n bosibl clymu llinynnau newydd i mewn. Yn wahanol i nifer o emau, mae'n gynnes o'i gyffwrdd ac yn gymharol rwydd i'w weithio; yn ogystal, mae modd caboli muchudd yn loyw lân. Heddiw, mae'n ymdebygu i blastig sgleiniog ond yn ystod yr Oes Efydd mae'n siŵr y byddai arno olwg dieithr ac anarferol. Ar ben hynny, mae gan fuchudd briodoleddau electrostatig anarferol (pan gaiff ei rwbio mae'n atynnu gwallt a deunyddiau ysgafn eraill) a fyddai'n cael ei ystyried yn hudol, o bosibl, yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ym Mhrydain. Roedd y darnau o fuchudd yng ngleindorch Pen-y-bonc wedi'u treulio'n arw sy'n awgrymu eu bod yn eitemau a drysorwyd ac a gadwyd am flynyddoedd lawer. Ond roedd llai o ôl traul ar y rhannau hynny o'r leindorch a wnaed o ddeunyddiau lleol, sy'n awgrymu eu bod yn amnewidion mwy diweddar a gafodd eu gosod yn y leindorch er mwyn estyn oes trysor teuluol. Roedd gwrthrychau a wnaed o fuchudd yn boblogaidd ledled Prydain yn ystod yr Oes Efydd Cynnar (2300-1500CC), ond wedi'r cyfnod hwn dirywiodd y defnydd ohono. Mae'n eironig meddwl, tua'r adeg y darganfuwyd gleindorch fuchudd Pen-y-bonc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant muchudd Whitby ar drothwy adfywiad, diolch i raddau helaeth i obsesiwn y Frenhines Fictoria â galarwisgoedd du yn dilyn marwolaeth y Tywysog Albert. Lwnwla Aur Mae lwnwlâu aur hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd Cynnar ac yn aml caent eu harddurno mewn modd tebyg i leindorchau muchudd. Fodd bynnag, fel rheol ceir hyd i leindorchau muchudd mewn claddfeydd ond ni cheir hyd i lwnwlâu gyda'r meirw. Efallai fod muchudd yn awgrymu marwolaeth a bod aur yn cynrychioli bywyd ym meddyliau pobl 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Darllen Cefndir 'The Welsh 'jet set' in prehistory' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Prehistoric ritual and religion gan Alex Gibson a Derek Simpson, tt148-62. Sutton Publishing (1998). 'Investigating jet and jet-like artefacts from prehistoric Scotland: the National Museums of Scotland project' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Antiquity (2002), cyf. 26, tt812-25.
Y pobl bicer de Cymru 26 Ebrill 2007 Bicer Gwinllan Naboth, Llanhari (Rhondda Cynon Taf). Darganfod y bedd Bicer ger Llanhari ym 1929 (mae'r bedd ger y polyn streipiog). Bicer arall, y tro hwn o gistfaen, a oedd yn cynnwys sgerbwd merch, a ddarganfuwyd ym 1991 yn Llandaf (Caerdydd). Yn y gladdfa hon hefyd cafwyd hyd i fynawyd efydd, gwrthrych y deuir ar ei draws yn aml gyda Biceri. 4,000 o flynyddoedd yn ôl ymddangosodd math newydd o grochenwaith ym Mhrydain - ai goresgynwyr fu'n gyfrifol amdano neu a oedd y dull yn fynegiant o ffasiwn leol? Gwnaed y pot addurnedig cywrain hwn, a elwir yn bicer, tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl gan gymuned gynnar oedd yn byw yn ne Cymru ac yn defnyddio haearn. Roedd potiau'n cael eu gwneud â llaw a'u tanio mewn coelcerthi yn ystod y cyfnod hwn. Darganfuwyd y pot hwn ym Medi 1929 gan weithwyr oedd yn paratoi ffordd newydd rhwng Llanharan a Llanhari. Cafodd y bicer ei osod mewn cistfaen carreg o dan dwmpath crwn o bridd, sef crug. Roedd y bedd hefyd yn cynnwys sgerbwd dyn ar ei gwrcwd oedd tua 1.7m o daldra (5.75 troedfedd) a dan 35 oed. Ar sail y dystiolaeth hon, a nifer o ddarganfyddiadau eraill o'r math yma, daethpwyd i'r casgliad mae potiau arbennig oedd y biceri, a gynhyrchwyd yn aml fel nwyddau claddu. Mae eu ffurf yn awgrymu mai diodlestri oeddynt, o bosibl yn cynnwys offrymau o alcohol yr âi'r ymadawedig â hwy i'r byd nesaf. Yn wir, pan gafodd bicer hwn ei ddarganfod, roedd yn cynnwys "stwff seimllyd" - gweddillion pydredig offrwm angladdol efallai? Gwaetha'r modd, cafodd ei olchi'n lân cyn y gallai archaeolegwyr gael gafael arno a'i ddadansoddi. Gwnaed y bicer hwn drwy rolio clai yn stribedi hir a chysylltu eu pennau i greu cylchoedd a lyfnhawyd er mwyn rhoi ffurf i'r llestr. Wedi i'r clai sychu rhyw ychydig, cafodd y llestr ei gaboli (ei lathru) ag offeryn di-awch, asgwrn o bosibl. Ychwanegwyd addurniadau gyda chymorth offeryn danheddog, gan greu patrwm arbennig oedd yn debyg i ddefnydd gweol neu ledr wedi'i drin. Yna, cafodd y bicer ei danio, gan roi iddo ei liw orenfrown, brith, cyfoethog. Daeth potiau Bicer a chladdfeydd Bicer yn bethau cyffredin ar draws rhan helaeth o Ewrop rhwng 2800 a 2000CC. Yn aml, ceir hyd iddynt ynghyd â dagrau, pennau saeth fflint, gorchuddion arddyrnau saethwyr, wedi'u llunio o gerrig, a thlysau personol o aur, ambr, muchudd ac asgwrn. Adwaenid y casgliad hwn o wrthrychau fel "pecyn" Bicer. Yn y gorffennol, roedd yna gred bod Biceri yn eiddo i bobl ddyfeisgar a elwid yn "Bobl y Biceri", neu "Bobl y Diodlestri", oedd wedi mudo gwmpas Ewrop a goresgyn Prydain, gan ddod â'u pecyn o arteffactau gyda hwy. Yn ddiweddar, mae damcaniaeth arall wedi dod yn boblogaidd. Yn ôl hon, syniadau a ffasiynau Bicer a ymledodd ar draws Ewrop, yn hytrach na phobl. Yn ôl y safbwynt hwn, mabwysiadwyd y pecyn Bicer gan frodorion Prydain wrth iddynt gysylltu a masnachu â chymunedau ar gyfandir Ewrop, datblygiad a gafodd hwb o bosibl gan fewnfudiad nifer fach o bobl oedd yn hyrwyddo'r ffasiynau newydd. Yng Nghymru, ychydig iawn o gladdfeydd Bicer cynnar sy'n hysbys ac mae'r rheini sydd wedi'u dyddio, drwy ddefnyddio'r dull radiocarbon, yn perthyn i'r cyfnod rhwng 2300 a1800CC. Prin iawn hefyd yw aneddiadau Bicer, ac mae'r rheini a ddarganfuwyd yn awgrymu bod y preswylwyr, o ran eu ffordd o fyw, yn ffermwyr symudol oedd yn magu da byw. Darllen Cefndir "A Beaker-burial from Llanharry, Glamorgan" gan V. E. Nash-Williams. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 85, tt402-5 (1930). Guide catalogue of the Bronze Age collections gan H. N. Savory. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1980). Prehistoric Wales gan F. Lynch, S. Aldhouse-Green a J. L. Davies. Sutton Publishing (2000).