Ar drywydd y derwyddon 3 Mai 2007 'An Archdruid in his Judicial Habit' o Costume of the Original Inhabitants of the British Isles (1815) gan Samuel Rush Meyrick a Charles Hamilton Smith. Teml Dderwyddol dybiedig Tre'r Dryw (Môn) - paratowyd gan y Parchedig Henry Rowlands (1723) Dyfaliad, a baratowyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif a bymtheg, o sut olwg fyddai ar seremoni dderwyddol yng Nghôr y Cewri. Gwyddom bellach, y cafodd Côr y Cewri ei godi tua 1,500 o flynyddoedd cyn ymddangosiad y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at y derwyddon. Llyn Cerrig Bach (Ynys Môn). Cafwyd hyd i lawer iawn o waith metel o'r Oes Haearn yn y llyn ym 1943.[Llun © Philip Macdonald]. Detholiad o waith metel y cafwyd hyd iddo yn Llyn Cerrig Bach, gan gynnwys cadwynau caethweision, cleddyfau wedi'u plygu, arfau ac offer cerbyd. Ers tro byd mae derwyddon, offeiriaid Prydain ac Iwerddon 'slawer dydd, wedi ennyn diddordeb a thanio dychymyg nifer fawr o bobl gyffredin. Mae'r ddelwedd ystrydebol o'r dyn doeth yn ei wisg wen, yn cario cryman aur, a thusw o uchelwydd neu ffon yn ei law, yn un sydd wedi'i serio ar ein cof hyd heddiw. Mae'n greadigaeth ganrifoedd lawer o bendroni a dychymyg byw. Ond pa dystiolaeth sydd gennym am y cymeriadau pwerus ond annelwig hyn? Ceir y cyfeiriadau cyntaf at y Derwyddon yng ngwaith yr awduron Clasurol, yn enwedig Posidonius, Strabo a Julius Caesar, oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf CC. Mae'r rhain yn crybwyll y druidae yng Ngâl (Ffrainc) a Phrydain, oedd yn ddynion doeth, yn arsylwyr digwyddiadau naturiol ac yn athronwyr moesol. Roedd eu swyddogaethau'n bwysig yn y cymunedau Celtaidd hyn, gan mai hwy a ganiatâi ryfela, hwy oedd ceidwaid gwybodaeth, a hwy oedd yn gweinyddu cyfiawnder ac yn goruchwylio aberthau a seremonïau crefyddol. Mewn cysylltiad agos â hwy oedd y cms:link:collections search="bards">beirdd (bardoi), y cantorion a'r prydyddion, a'r dewiniaid (vates), oedd yn dehongli aberthau er mwyn rhagfynegi'r dyfodol. Yn ôl Caesar, tarddle Derwyddiaeth oedd Prydain, a chredir i Timaeus, hanesydd o Roeg, eu crybwyll am y tro cyntaf mor gynnar â diwedd y bedwaredd ganrif CC. Roedd derwyddon a beirdd hefyd yn gymeriadau amlwg mewn testunau Cymraeg a Gwyddeleg o'r Oesoedd Canol, ac yn ôl pob tebyg cofnodai'r rhain draddodiad llafar cynharach a drosglwyddwyd o'r naill genhedlaeth i'r llall. Mae'r testunau Gwyddeleg yn cynnwys Chwedl Wlster, Llyfr y Fuwch Frech a'r Chwedl Ffeniaidd. Yng Nghymru, rhestrwyd swyddogaethau a breintiau'r beirdd mewn dogfennau yn ymwneud â'r cyfreithiau a luniwyd gan Hywel Dda yn y ddegfed ganrif OC. Yn ystod y ddeunawfed ganrif, ystyriwyd y derwyddion fel hynafiaid y beirdd, y beirdd oedd yn canu mawl, cerddorion ac achyddion, oedd yn ffynnu yn y gymdeithas Gymraeg ganoloesol. Mae'n anodd bwrw goleuni ar bryd a gwedd y derwyddon, nac ar eu gwisgoedd a'u heiddo. Prin iawn yw'r darluniau neu arysgrifau sy'n dyddio o'r cyfnod, a phur anaml mae'r dystiolaeth archaeolegol yn cynnig atebion pendant. Mae llawer wedi dibynnu ar ddisgrifiad o seremoni dderwyddol a gofnodwyd gan yr awdur Pliny, yn ei Natural History. Yn yr adroddiad hwn, mae derwydd yn ei wisg wen yn dringo derwen er mwyn torri tusw o uchelwydd â chryman aur. Dechreuwyd ailymddiddori yn y derwyddon yng nghyfnod y Dadeni (y bedwaredd ganrif ar ddeg hyd yr unfed ar bymtheg), pan roedd mynd mawr ar y testunau Groeg a Lladin Clasurol. Mae nifer o ffynonellau yn disgrifio derwyddon, a addolai mewn llennyrch anghysbell a gerllaw pyllau a llynnoedd cysygredig, yn aberthu pobl. Er enghraifft, mae'r hanesydd Tacitus, a oedd yn ysgrifennu yn ystod y ganrif gyntaf OC, yn crybwyll cellïoedd derwyddol Mona (Môn), gan sôn hefyd fod gwaed carcharorion yn cael ei daenu ar eu hallorau. Ar gorn y fath adroddiadau, ym 1659 awgrymodd John Aubrey, prif hynafiaethydd ei gyfnod, fod cylchoedd cerrig Avebury a Chôr y Cewri wedi bod yn demlau derwyddol. Yn yr un modd, ym 1723, roedd y Parchedig Henry Rowlands o'r farn fod nifer o gofadeiliau megalithig Môn yn demlau ac yn allorau aberthol derwyddon. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, daeth 'neo dderwyddiaeth', dan arweiniad pobl megis y Parchedig William Stukely, yn symudiad diwylliannol o bwys ym Mhrydain. Fodd bynnag, gyda'r cynnydd mewn dealltwriaeth archaeolegol yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth yn amlwg y cafodd y cofadeiliau hyn eu codi dros 4,000 o flynyddoedd yn ôl, ymhell cyn ymddangosiad y derwyddon. Eto i gyd, mae derwyddon a beirdd yn dal i ymgynnull y tu mewn i gylchoedd cerrig heddiw. Hyd yn oed os yw archaeoleg yn ei chael hi'n anodd adnabod derwyddon, y mae'n darparu tystiolaeth gadarn am arferion crefyddol pobl yr Oes Haearn Geltaidd. Yng Nghymru, cafwyd hyd i dystiolaeth o'r traddodiad o gynnig gwaith metel o fri i'r duwiau ar safle Llyn Cerrig Bach ym Môn. Yma, rhwng 300 CC a CC 100, cafodd cerbydau, arfau, offer ac eitemau o waith metel addurnedig eu taflu o sarn neu ynys i mewn i lyn bach. Trwy gyd-ddigwyddiad, ceir adroddiad gan yr awdur Rhufeinig Tacitus sy'n dwyn i gof mewn modd trawiadol iawn orchfygiad cadarnle derwyddol ym Môn gan y fyddin Rufeinig, digwyddiad a berodd i rai pobl gredu bod Llyn Cerrig Bach yn safle derwyddol. Cafwyd hyd i enghreifftiau eraill o ddefodau'r Oes Haearn Geltaidd hefyd. Er enghraifft, cafodd corff gŵr a aberthwyd, yn ôl pob tebyg, oedd wedi'i gadw mewn haenau o fawn, ei ddarganfod yn Lindow Moss, Sir Gaer (Lloegr). Yn ne a dwyrain Lloegr, cloddiwyd temlau o'r Oes Haearn oedd yn cynnwys offrymau o ddarnau arian, bwyd ac arfau. Yn ddiweddar, cafodd powlen enwog Cerrigydrudion , sydd wedi'i haddurno'n gywrain yn null celfyddyd Geltaidd La Tène , ei dehongli'n argyhoeddiadol fel coron seremonïol. Mae'n bosibl fod hon a nifer o goronau a theyrndlysau eraill, a ddarganfuwyd mewn claddfeydd neu demlau ym Mhrydain, yn dynodi swyddogaeth offeiriadol. Yn y byd cynhanesyddol hwn, teimlid grym y duwiau Celtaidd paganaidd yn fyw iawn, grym oedd yn fythol bresennol ac yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Darllen Cefndir Druids gan A. Ross. Tempus Publishing (1999). Exploring the World of the Druids gan M. J. Green. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1997). Shrines & Sacrifice gan A. Woodward. Cyhoeddwyd gan Batsford (1992). Tacitus: the annals gan J. Jackson. Cyhoeddwyd gan William Heinemann (1951). The Bog Man and the Archaeology of People gan D. Brothwell. British Museum Publications (1986). The Druids gan S. Piggott. Cyhoeddwyd gan Thames & Hudson (1968).
Gweolyn Llan-gors: campwaith canoloesol cynnar 3 Mai 2007 Y cloddiad ar safle Llyn Syfaddan yn 1991. Darganfuwyd y gweolyn yn y gwaddodion siltiog y tu hwnt i'r palisâd derw sydd i'w weld yn y ffos. Lwmp o weolyn wedi'i ruddo y cafwyd hyd iddo'n gorwedd ar ddarn o bren. Rhan o'r addurn sydd wedi'i gadw ar wyneb y gweolyn, yn dangos grŵp o adar o fewn ffrâm o winwydd. Yn anffodus, nid oes dim o liw gwreiddiol y gweolyn wedi goroesi, sy'n golygu ei bod hi'n anodd iawn gweld y cynllun heb gymorth. Fe'i nodir yma gan y llinellau gwyng. Arwynebedd y darn yw tua 9cm o uchder wrth 7cm o led (3.5 x 2.8 modfedd). Efelychiad digidol o liw ar ffotograff o'r gweolyn gwreiddiol. Ym 1990 ffeindiodd archaeolegwyr oedd yn gweithio ar safle Llyn Syfaddan, ger Aberhonddu, ddarganfyddiad annisgwyl - gweddillion gweolyn, wedi'i addurno'n wych, oedd dros fil o flynyddoedd oed. Ger glan ogleddol Llyn Syfaddan ceir crannog (ynys o wneuthuriad dyn) a fu'n safle brenhinol a adeiladwyd ar gyfer tywysog Brycheiniog yn y 890au - cyfnod cythryblus yn hanes y dywysogaeth. Ar y pryd, roedd nifer o dywysogaethau cyfagos yn bygwth Brycheiniog, ac roedd Llan-gors, yn ôl pob golwg, yn noddfa ddiogel. Fodd bynnag, mae cloddiadau a drefnwyd gan Brifysgol Caerdydd ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru rhwng 1989 a 1993 wedi dangos mai byrhoedlog fu'r noddfa hon oherwydd fe'i dinistriwyd gan dân yn gynnar yn y ddegfed ganrif. Roedd y gwaith ger Llan-gors yn canolbwyntio, i raddau helaeth, ar y gwaddodion siltiog dwrlawn sy'n amgylchynu'r crannog. Yn y fan yma y cafwyd hyd i'r gweolyn, wedi'i ruddo'n wael ac yn frau iawn. O ganlyniad i driniaeth gadwraeth fanwl bu modd gwahanu a glanhau ei haenau niferus, gwaith a ddangosodd bod y lwmp anhrawiadol hwn ymhlith yr enghreifftiau pwysicaf o weolion canoloesol cynnar i'w ddarganfod ym Mhrydain hyd yn hyn. Y defnydd sy'n sylfaen i'r gweolyn yw lliain mân iawn o wehyddiad plaen. Defnyddiwyd edefion sidan a lliain i addurno rhyw ddwy ran o dair o darn o'r gweolyn sydd ar ôl ag adar a chreaduriaid eraill o fewn fframwaith o winwydd, ac mae'r borderi yn cynnwys patrymau ailadroddus neu lewod. Mae safon crefftwaith y gweolyn yn dal i fod yn destun rhyfeddod. Mae i'r lliain 23 edau i'r centimetr - cyflawniad gwych o ystyried yr offer oedd ar gael yn ystod y nawfed a'r ddegfed ganrif OC. Ymddengys fod y gweolyn yn rhan o wisg neu diwnig neu ffrog efallai - mae ganddo hem a dolen ar gyfer gwregys - ond, gwaetha'r modd, nid oes digon wedi goroesi i ddangos ffurf fanwl y dilledyn. Awgryma'r rhannau sydd wedi treulio nad oedd y dilledyn yn newydd pan gafodd ei golli, a gallwn fod yn sicr fod ei berchennog yn wraig neu'n ŵr o gryn statws oherwydd cafodd y sidan a ddefnyddiwyd i'w addurno ei fewnforio i Brydain, ac mae safon y gwniadwaith yn awgrymu y cafodd ei gynhyrchu mewn gweithdy arbenigol. Felly, sut collwyd y gweolyn gwych hwn? Ceir cliw yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd ar gyfer OC916, sy'n cofnodi bod byddin Fersiaidd o Loegr wedi dinistrio safle dan yr enw Brecenanmere (Brecknock-mere = Llyn Syfaddan) yn y flwyddyn honno a chipio gwraig y brenin a 33 o bobl eraill. Ai dyma'r digwyddiad a arweiniodd at losgi Llan-gors a cholli'r gweolyn? Mae'n demtasiwn i gredu hynny. Darllen Cefndir 'A fine quality insular embroidery from Llangors Crannog, near Brecon' gan H. Granger-Taylor a F. Pritchard. Yn Pattern and purpose in insular art gan M. Redknap, S. Youngs, A. Lane a J. Knight, tt91-99. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2001). 'Worn by a Welsh Queen?' gan L. Mumford a M. Redknap. Yn Amgueddfa, cyf. 2, tt52-4 (1999). 'The Llangorse textile; approaches to understanding an early medieval masterpiece' gan L. Mumford, H. Prosser a J. Taylor, mewn C. Gillis and M.-L. B. Nosch (eds), Ancient Textiles: Production, Craft and Society, 158-62. Cyhoeddwyd gan Oxbow Books (2007).
Gwregys Llandoche 2 Mai 2007 Gwaith cloddio ar waith yn 1994 mewn rhan o fynwent mynachlog Dochdwy Sant. Claddiad 631, a ddarganfuwyd. Manylyn o'r gwregysau haearn oedd am ganol y gŵr yng nghladdiad 631. Y gwregysau haearn yn ystod y gwaith cadwraeth y bu tîm o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol amdano. Ym 1994 aeth archaeolegwyr ati i ddatgladdu'r casgliad mwyaf o gladdiadau canoloesol cynnar i'w ddarganfod yng Nghymru hyd yma, yn ogystal â chofnodi tystiolaeth am arfer claddu anghyffredin. Roedd Ideal Homes Cymru Cyf. wedi rhoi contract i archaeolegwyr Cotswold Archaeology i gloddio tir a glustnodwyd ar gyfer codi tai newydd yn Llandoche (Bro Morgannwg). Gorweddai'r safle ar gyrion mynwent yr eglwys blwyf bresennol, a safai, yn ôl y sôn, ar safle mynachlog ganoloesol gynnar Dochdwy Sant. Yma, datgladdwyd dros 800 o gladdiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif hyd yr unfed ganrif ar ddeg. Mae astudiaeth fanwl o'r sgerbydau gan Louise Loe (Prifysgol Bournemouth) wedi bwrw goleuni newydd ar boblogaeth Cymru yn ystod y cyfnod o dan sylw, ond roedd un bedd yn arbennig yn anarferol iawn. Gorweddai claddiad 631 yng nghanol y fynwent. Sgerbwd gŵr ifanc ydoedd, rhwng 25 a 35 oed, a rhyw 1.75m o daldra (5.75 troedfedd). Awgryma'r arbrofion dyddio radiocarbon, yn seiliedig ar ddarn o'i asgwrn, y bu farw'r gŵr rhwng OC340 a 660. Fodd bynnag, nid ei hynafiaeth oedd yn destun syndod ond yn hytrach y ddau wregys haearn a wisgai am ei ganol. Roedd deupen y ddau wregys yn sownd wrth ei gilydd y tu ôl i'w gefn. Wedi i'r pennau tapr gael eu gwthio drwy glustennau, cawsant eu morthwylio gan rywun arall, a'i gwnâi'n amhosibl i'r wisgwr eu tynnu oddi amdano heb gymorth. Mae'n amlwg nad ategolyn ffasiynol yn unig mo'r gwregys, ond pa ddiben arall oedd iddo? Yn ôl un awgrym, mae'n bosibl y câi'r gwregysau eu gwisgo fel gweithred o edifeirwch - diben nid amhriodol yng nghyd-destun cymuned fynachaidd. Gwyddys am achosion tebyg yn ystod yr Oesoedd Canol. Er enghraifft, arferai Begga, gweledydd o fynach ym mynachlog Much Wenlock (Sir Amwythig) yn gynnar yn yr wythfed ganrif, wisgo 'an iron girdle about his loins for the love of God'. Ceir tystiolaeth o blaid esboniad arall - fod y gwregysau haearn yn fath ar wregys torllengig - ar y cyfandir lle cafodd y defnydd o wregysau torllengig eu cofnodi gyntaf mewn testunau Rhufeinig. Cafwyd hyd i enghreifftiau hefyd mewn claddiadau yn dyddio o'r chweched a'r seithfed ganrif yn Ffrainc, yr Almaen, Swistir a Sbaen. Felly, pa un o'r ddau ddehongliad sy'n gywir - gwregys edifahŷwr neu wasgrwym dorllengig? Ychydig o'r ddau yw'r ateb, mae'n debyg. Yn ystod yr Oesoedd Canol cynnar arferid credu bod y gallu i oddef dioddefaint yn cynnig llwybr tua'r nefoedd. Felly, roedd goddef poen torllengig ynddo'i hunan yn rhan, o bosibl, o weithred edfeiriol y gobeithiai gwisgwr y ddau wregys hyn elwa arno yn y byd a ddaw. Darllen Cefndir 'Llandough' gan A. Thomas a N. Holbrook. Yn Current Archaeology, cyf. 146, tt73-7 (1996). 'An early-medieval girdle from burial 631', gan M. Redknap. Yn N. Holbrook a A Thomas 'An early-medieval monastic cemetary at Llandough, Glamorgan: excavations in 1994', Medieval Archaeology 49 (2005), 53-64.
Datrys dirgelwch llofruddiaeth 1,000 oed 1 Mai 2007 Cloddio'r ffos amgâu a'r sgerbydau yn Llanbedr-goch (Ynys Môn). Ar ochr chwith y llun mae cyrsiau is mur amddiffynnol yr anheddiad. Gellir gweld dau o'r sgerbydau yn gorwedd ar lefelau uwch y ffos oedd y tu allan i'r mur. Penglog claddedigaeth 5. Roedd y benglog mewn darnau pan cafwyd hyd iddi a gwnaed gwaith i'w hailadeiladu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Wyneb claddedigaeth 5 ar ôl ei ail-greu. Llun gan Ysgol Celf a Meddygaeth Prifysgol Manceinion. Pedwar o'r pum wyneb o Lanbedr-goch wedi eu castio mewn pres. Ym 1998-9, gwnaed darganfyddiad annisgwyl ac anodd i'w ddehongli yn anheddiad canoloesol cynnar Llanbedr-goch. Darganfuwyd pum sgerbwd dynol ar lefel uchaf ffos oedd wedi cael ei llenwi, yn union y tu allan i'r mur oedd yn amddiffyn yr anheddiad. Pam fod hyn yn Ddirgelwch? Claddwyd yn ddiseremoni mewn beddi bas. Yn groes i'r arfer Gristnogol, roedd yr holl sgerbydau wedi eu gosod â'u pennau naill ai tua'r gogledd neu'r de yn hytrach na'r dwyrain Taflwyd corff un dyn (tua 25-35 oed) ar ben corff plentyn (tua 10 — 15 oed). Mae'n bosib bod breichiau'r dyn wedi cael eu clymu y tu ôl i'w gefn, ac iddo gael ei daro yn ei lygad chwith â rhywbeth miniog Roedd blociau calchfaen a rwbel llai ar dri o'r cyrff, sy'n awgrymu cwymp y wal Ymosodiad Llychlynnaidd Mae'r gwaith a wnaed i ddyddio'r sgerbydau yn awgrymu eu bod yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif - cyfnod pan roedd Llychlynwyr Ynys Manaw yn rheoli Gwynedd i bob pwrpas - ac mae'n bosibl y bu canolfannau Llychlynaidd ar Ynys Môn hefyd. Mae amgylchiadau'r claddu, a'r ffaith na chyfeiriwyd y cyrff yn y ffordd Gristnogol yn awgrymu hwyrach i'r unigolion hyn farw mewn cyrch ar y pentref. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod sut yn union y bu farw'r pump, ond mae'n bosibl eu bod wedi cael eu lladd wrth i'r Llychlynwyr chwilio am gyfoeth, ar ffurf gwystlon neu gaethweision yn yr ardal. Perthynas Genetig Mae penglogau Llanbedr-goch i gyd yn dangos nifer o nodweddion tebyg: holltau llygaid llorweddol safnau sgwâr clustiau adlynol (heb labedau) Mae rhai o'r nodweddion hyn yn awgrymu perthynas genetig rhwng yr unigolion (naill ai'n perthyn i'r un teulu neu'n dod o gronfa enynnol gyfyng). Mae'r gwaith yn parhau i astudio'r data a gasglwyd yn ystod y gwaith cloddio, wrth i ni geisio ail-greu'r anheddiad yr oedd perchnogion y sgerbydau hyn yn gyfarwydd ag ef. Yn ogystal â chyfoeth o dystiolaeth am drefn yr anheddiad gan gynnwys adeiladau, arteffactau a safonau byw safle uchel ei statws - mae e wedi darparu gweddillion y bobl oedd gynt yn byw ac yn bod yno. Darllen Cefndir Y Llychlynwyr yng Nghymru: ymchwil archaeolegol gan Mark Redknap. Cyhoeddwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (2000).
Darganfyddiadau o dan eglwys ganoloesol 1 Mai 2007 Glanhau wal ddeheuol yr eglwys ganoloesol Gwaith cofnodi a glanhau yn mynd yn ei flaen (y corff a'r porth yn y blaendir) Ar ôl datgymalu eglwys Sant Teilo ym Mhontarddulais, gorllewin Morgannwg, a'i symud i Sain Ffagan, fe ddadorchuddiodd cloddiadau yn seiliau'r eglwys gliwiau pellach ynglŷn â hanes yr eglwys ganoloesol hon. Drwy ddatgymalu ac ail-godi'r eglwys yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru roedd modd archwilio seiliau'r eglwys mewn ffordd a fyddai wedi bod yn amhosib heblaw am hynny. Mae dealltwriaeth fanwl o'r adeilad yn hanfodol ar gyfer unrhyw ymchwiliad o ddatblygiad eglwys. Pan fydd eglwys yn dal i gael ei defnyddio, dim ond ambell gyfle sy'n codi i archwilio deunydd cuddiedig yr adeilad. Wrth ddatgymalu Eglwys Sant Teilo, roedd modd cynhyrchu cynllun manwl, fesul carreg. Cyn dechrau cloddio, cwblhawyd arolwg geoffisegol o'r ardal gan ddefnyddio radar treiddio daear, a ddatgelodd dystiolaeth o gladdedigaethau niferus, a chofnodwyd nifer o rannau oddi fewn i'r eglwys a allai fod yn gysylltiedig â gweithgarwch strwythurol. Ar ôl cwblhau'r cloddio a'r arolygu, datgelwyd manylion am yr adeiladwaith o'r 12fed neu'r 13eg ganrif ymlaen. Mae'n debyg bod yr eglwys bresennol yn dyddio o'r 15fed ganrif. Cyn cloddio, y farn oedd mai'r capel bach ar ochr ogleddol y gangell oedd yr ychwanegiad olaf. Y rhan gynharaf o'r adeilad y gellid ei hadnabod yw'r corff bach petryalog a'r gangell. Ychwanegwyd ale groes y gogledd ac ale groes y de at hyn, yn ystod y 14eg neu ar ddechrau'r 15fed ganrif mae'n debyg (ond nid o reidrwydd ar yr un pryd). Yn aml, byddai gan eglwysi pwysig Cymru'r Oesoedd Canol gynllun croesffurf. Ychwanegwyd ystlys ddeheuol yn y 15fed ganrif, i wneud lle i gynulleidfa fwy, mae'n debyg. Yn olaf, ychwanegwyd y porth at ochr ddeheuol yr ystlys. Ar fan cyfarfod y gangell ac ale groes y gogledd darganfuwyd carreg bedd gladdedig Mary Bevans o Gilâ, a fu farw ym 1717 yn 64 oed. Mae'n bosibl mai'r ardal o rwbel ar ochr ddeheuol yr eglwys, a oedd yn segur erbyn cyfnod adeiladu'r porth yn ôl pob tebyg, oedd y sail ar gyfer croes y fynwent. Mae'r cloddiad wedi newid ein dealltwriaeth o ddatblygiad yr eglwys yn sylweddol. Bu cynnydd aruthrol mewn adeiladu eglwysi yn y 12fed ganrif, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n weddill o flynyddoedd cynnar eglwys Sant Teilo yn dyddio o'r cyfnod hwn. Er bod modd cysylltu'r eglwys gyda 'Lan Teliav Talypont', un o bedwar lle ym Morgannwg a enwyd ar ôl Sant Teilo yn y Liber Landavensis (Llyfr Llandaf) o'r 12fed ganrif, nid ydym wedi dod o hyd i gerrig cerfiedig na thystiolaeth o adeilad pren cynharach.