: Eglwys Sant Teilo

Mapio Hendre'r Ywydd

Sara Huws, 22 Rhagfyr 2011

Gair bach clou i sôn am y map dwi wedi ei greu, i geisio mapio tirlun Llangynhafal a thu hwnt, yn y 1500au.

Fe welwch arno adeiladau sy'n debygol o fod wedi bod yn sefyll yn y cyfnod hwnnw. Anghyflawn yw'r map ond mi fydd yn esblygu, gobeithio. I'w greu, dwi wedi cyfuno data cyhoeddus Coflein, Ordnance Survey, Archif Sain Ffagan, google a Phrosiect Dendrocronoleg Gogledd Cymru*.

Dwi'n gobeithio ychwanegu mwy o wybodaeth am ddyddiadau'r adeiladau, lluniau ohonynt ac ati, fel mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen. Gallwch ddefnyddio'r zoom i deithio ymhellach o filltir sgwar y tŷ:


View Llangynhafal 1510 in a larger map

* Dendrocronoleg=term ffansi am ddyddio boncyff.

Chwilio am Gartref Hendre'r Ywydd

Sara Huws, 20 Rhagfyr 2011

Dwi’n teimlo’n gartrefol, braidd, yn Hendre’r Ywydd Uchaf erbyn hyn. Mae na hogle tân coed yn y swyddfeydd a mae’n gwneud i mi deimlo’n anidding, yn edrych ymlaen at y Gwanwyn, pan gâi dreulio mwy o amser yno. Efallai eich bod wedi ymweld â Sain Ffagan droeon, ond heb dreulio llawer o amser yn yr adeilad dan sylw. Mae’n aelwyd weddol wag, yn bennaf am fod dodrefn o’r cyfnod addas yn rhy fregus i’w harddangos yn yr awyr agored. Fe ddowch o hyd i’r rheiny yn yr oriel. Yn ogystal â hyn, does dim simne ar y tŷ, sy’n ei wneud yn le anodd i weithio ynddo, ac i ymweld ag e, hyd yn oed, os nad yw’r tân yn bihafio.

Adeilad ffram-bren yw Hendre’r Ywydd, a symudwyd i'r amgueddfa yn y 1960au. Er i rywun fyw ynddo tan 1954, dwi’n gobeithio dysgu mwy am yr adeilad, a sut y defnyddiwyd ef, yn oes y Tuduriaid, gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau a sgiliau. Fe fues i’n cael modd i fyw yn coginio a dehongli yno dros yr haf and dwi’n edrych ymlaen at gael torchi llewys a phrofi sut le yw e i weithio ynddo o ddydd-i-ddydd.

Mi fydde ymroi i’r hen ffordd Duduraidd o fyw, ar yr adeg hon o’r flwyddyn o leia, yn beth annoeth i’w wneud, felly dwi am dreulio’r misoedd llwm yn archwilio cyd-destun a hanes yr adeilad.

A mae llwyth ohono. Mae ysgolheigion a haneswyr lleol wedi sgrifennu torreithiau o erthyglau am deuluoedd, adeiladau, diwydiannau a digwyddiadau Sir Ddinbych yn y cyfnod Modern Cynnar. Mae pentwr o erthyglau yn gwegian ar fy nesg, yn aros imi eu marcio â stribedi pinc a melyn. Ond rhaid dechre yn rywle. Fe benderfynais i ddod o hyd i safle gwreiddiol yr adeilad yn gyntaf oll.

Adeiladwyd Hendre’r Ywydd ym mhlwyf Llangynhafal, ger Rhuthun. Dwi’n weddol gyfarwydd â’r ardal, ond dwi erioed di gallu dweud yn sicr o ble daeth y tŷ. Dwi’n cofio gwrychoedd uchel a ffyrdd cul Dyffryn Clwyd, yn hytrach na’r hyn oedd ar yr ochr arall iddyn nhw. Yn lwcus, pan fydd yr amgueddfa’n symud adeilad, fe fyddwn ni’n creu archif am ei leoliad gwreiddiol, llawn mesuriadau, ffynonellau a mapiau. Fel arfer, maent yn gasgliadau arbennig:

Yn anffodus, yn achos Hendre’r Ywydd, gallwn weld bod mwy o ddiddordeb gan y curadur ar y pryd yn hanes a ffurf yr adeilad, yn hytrach na’r ardal a’r bobl fuodd yn byw ynddo. Roedd y ffeil yn llawn ffotograffau manwl o fframiau pren, cytiau lloi a drysau. Dim ond dau gliw oedd yno allai fy helpu’r tro hwn: copi o gopi o gopi o fap o 1830, a dargopi o fap heb allwedd arno. Nodwedd gyffredin rhwng y ddau fap oedd y stribed o dir oedd yn culhau tua un pen. Dyma ble, ym 1508, yr adeiladwyd Hendre’r Ywydd.

Yn reddfol, mi deipiais y manylion i mewn i google maps, i chwilio am stribed debyg yn ardal Llangynhafal. Roedd hynny’n gam gwag, fel y gwelwch chi:

Fe benderfynais i ailymweld â google ar ôl i mi wneud chydig mwy o waith ymchwil. Roedd yn demtasiwn i ddibynnu ar wybodaeth y wefan honno – ond mae’n tirwedd ni wedi newid cyn gymaint ers y 1500au, ac yn ogystal enwau ein tai, ffyrdd a thafarndai, ei bod yn ffynhonnell annibynadwy yn yr achos yma. Mi es yn ôl at y dargopi, a chanobwyntio ar y siapiau – lleoliadau nentydd a thraciau, a nodweddion anarferol yn y tirwedd.

Yng nghanol haniaeth hyn i gyd, daeth Coflein i’r adwy. Rwyf wedi bod yn defnyddio’r gronfa ddata i edrych ar hanes tai eraill o ardal Llangynhafal, yn y gobaith y gallaf greu pictiwr ehangach o gyd-destun bywyd y 1500au yn Nyffryn Clwyd. Mae’r gronfa ddata, sy’n cael ei rheoli gan y Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn cyflenwi cyfeirnod GPS ac Ordnance Survey ar gyfer pob heneb a hen adeilad sydd wedi’i gofrestru ganddynt. Gallwch weld cofnod coflein am Hendre’r Ywydd yma.

Mae casgliad o fapiau Ordnance Survey mawr yma yn llyfrgell Sain Ffagan, felly es ati i groesgyfeirio’r wybodaeth oedd yn fy meddiant. Mae manylder mapiau OS yn wefreiddiol, ac ar ôl chwilio'n fanwl (a chael help gan Guradur Adeiladau Hanesyddol Sain Ffagan) fe ddaethom ni o hyd i rywbeth oedd yn canu cloch. Croesffordd gam; nant gyfarwydd...

Wrth i ni edrych eto, sylwais bod rhywun wedi bod yno o'n blaen, ac yn groes i eticet archifol, wedi marcio'r map ag inc coch yn agos at leoliad y tŷ (mater o bwys dirfawr i nerd fatha fi). Ar ôl deffro o fy llewyg, dychwelais at awyrluniau google a chyn pen dim, roeddwn i wedi gosod pin yn y map. Gallwn weld yn glir bod y stribed o dir yn dal i fodoli, mwy neu lai, fel y gwelwn hi ar fap 1830. Mae'r heol gyfagos yn cordeddu fel honno ar y dargopi:

Roedd yn naturiol fy mod yn ysu i ymweld â'r lle. A diolch i google, dwi nawr yn gwybod bod safle'r tŷ yn gae o gorn melys. Er fod hynna'n swnio bach yn rhy debyg i un o ganeuon Arfon Wyn, dwi'n hapus iawn i ddechrau fy nhaith i oes Harri Tudur yn fan hyn:

Rho glic isod i ymweld dy hun:


View Llangynhafal 1510 in a larger map

Amser Medi

Sara Huws, 14 Hydref 2011

Am dymor braf. Dwi wrthi'n edrych 'nôl ar weithgareddau'r Haf. Am fod arddangosfa Creu Hanes yn archwilio cyfnod y Tuduriaid a'r Stiwartiaid, mi ges i gyfle i weithio gyda byddin fechan o haneswyr byw, gwirfoddolwyr a un, wel, byddin fechan!

Ein gwirfoddolwyr! Dimond jocan, dyma filwyr o'r Gymdeithas Ryfel Cartre o Loegr...

Fel groesawom ni bob math o bobl i'r safle: pibwyr, crwynydd, llawfeddyg, nyrsus, gwrachod hysbys, mwsgedwyr, arbenigwraig ar golur Tuduraidd, boneddiges oes Elizabeth a'i morwyn, seiri catapwlt, saethyddiaethwyr, pregethwyr, rebels, a phlant oedd yn diodde o'r Pla! Dyma'r tro cynta' i lawer ohonynt ymweld â ni - gobeithio y gwelwn ni nhw eto. Dwi wedi blino'n shwps, ond yn falch iawn ini gael gymaint o hwyl yn dysgu a gweithio gyda'n gilydd eleni.

Y Teiliwr Tuduraidd wrth ei gwaith

Mi fwynheuais i un sesiwn uwch y lleill i gyd - y Gegin Duduraidd. Gweithiais gyda Sally Pointer a Suzanne Churchill, haneswyr cymdeithasol, i ail-greu ryseitiau Tuduraidd ger y tân yn Hendre'r Ywydd Uchaf. Mi ges i fy mwydo'n dda iawn ond rhaid i fi gyfadde mod i'n falch ini beidio â thrio'r pwdin meipen y tro hwn.

Ma Sain Ffagan y siort o le ble y galli di weld prydferthwch yn y pethe rhyfedda, hyd yn oed yr hen bledren...

Sesiwn arall oedd yn uchafbwynt i'r tymor oedd y cyfle gefais i archwilio chwaraeon Tuduraidd gyda phobl ifanc o'r Almaen, Ffrainc, Gwlad Pwyl a Chymru. Roedd y sesiwn yn cael ei gyfieithu ar y pryd i dair iaith. Beth amser yn ôl, bues yn fyfyrwraig ieithoedd modern, felly roedd yn wych cael ymarfer yr rhan honno o'r ymennydd! Fe ges i sioc o weld cymaint yr oeddem ni'n gallu rhannu, er gwaetha'r bedair iaith oedd yn cael eu siarad yr un pryd! Yn anffodus, dyw fy sgiliau ymaflyd codwm ddim digon da i'w dangos yn y gwaith, ond yn lwcus, roedd y bêl pledren mochyn yn ddigon o bwnc llosg ymysg y bobl ifanc.

Ma Sain Ffagan y siort o le ble y galli di weld prydferthwch yn y pethe rhyfedda, hyd yn oed yr hen bledren...

Mae cymaint o sesiynau eraill yr hoffwn i sôn amdanynt - ond does dim llawer o amser i hel meddyliau. Heddiw, rydym ni'n dechrau'r broses eto, yn egino syniadau i lenwi ein dyddiaduron a'n penwythnosau trwy 2012 a 2013. Dwi wedi cael cwpwl o syniadau - mi gewn ni weld os fyddan nhw'n pasio'r prawf ac yn troi'n weithgareddau ar eich cyfer!

Brwydr Sain Ffagan

Sara Huws, 18 Awst 2011

Fe ymunodd y Cymdeithas Rhyfel Cartref Lloegr â ni y penwythnos diwethaf, i archwilio hanes Brwydr Sain Ffagan, ble yr ymladdod milwyr Cromwell a'r Brenin ym 1648. Fe ddaethon nhw â llond y lle o arfau, yn ôl y disgwyl - yn ogystal â nifer helaeth o sgiliau a gwrthrychau i'w harddangos. Byddai rhestr yn rhy ddiflas, felly dyma luniau o rai ohonyn nhw wrth eu gwaith! Diolch i Alcwyn Evans am dynnu'r lluniau.

 

Paratoi ar gyfer diwrnod o nyddu wrth ffermdy Cilewent

Gosod gwersyll y Seneddwyr ger ffermdy Abernodwydd

Taniwch!

Teulu o ail-grewyr. Roedd aelodau iau y grŵp yn hwyl i weithio hefo nhw!

Dynion a merched âd'u gwaywffyn, yn aros i fynd ar flaen y gâd

Uchelwr yng Nghastell Sain Ffagan, mewn gwisg o'r 1640au

Digwyddiad Arbennig Yfory: Y Deddfau Uno

Sara Huws, 21 Gorffennaf 2011

Hoffwn i eich gwahodd i ddigwyddiad arbennig yfory, sy'n cynnig mynediad arbennig a thrafodaeth fywiog am un o ddogfennau cyfreithiol pwysicaf Cymru: y Deddfau Uno.

Mae rhan helaeth o'r ddogfen wedi dod atom yma yn Sain Ffagan, i'w harddangos yn arddangosfa 'Creu Hanes 1500-1700'. Dyma'r tro cyntaf i'r ddogfen adael Llundain ers 1536, a bydd raid iddi ddychwelyd yn go fuan. Rydym ni am gynnal ein fersiwn ni o 'drafodaeth frys', cyn i'r ddogfen ddiflannu'n ôl i'r archifau seneddol yn Llundain!

Bydd ffigyrau o fywyd cyfredol Cymru yn cwrdd i arwain y daith/drafodaeth, gan gynnwys:

  • Suzy Davies

- AC Ceidwadol De-Orllewin Cymru, Gweinidog Gwrthblaid dros Iaith a Diwylliant Cymru

  • Mark Drakeford

- AC Llafur, Gorllewin Caerdydd ac Athro mewn Polisi Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

  • Dafydd Ellis Thomas

- AS Plaid Cymru, Dwyfor-Meirionydd, a Chadeirydd Comisiwn y Cynulliad

  • Vaughan Hughes

- Broadcaster and Commentator

  • Nia Powell

- Darlithydd mewn Hanes Cymru, Prifysgol Bangor

  • Baroness Jenny Randerson

- Aelod o Dŷ'r Arglwyddi dros Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru

  • Eirug Salisbury

- Bardd a Sylwebydd

  • Rev John Walters

- Ficer Eglwys Teilo Sant, Pontarddulais

 

Y bwriad yw i ymchwilio rôl y deddfau yn Nghymru heddiw, yn ogystal â'r dadleuon sy'n codi yn eu sgil. Mae croeso i chi fynychu'r diwrnod, fydd yn ymwlybro trwy rai o leoliadau mwyaf adnabyddus Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Eglwys Teilo Sant, yma yn Sain Ffagan.

Bydd cerddoriaeth o'r cyfnod, lluniaeth ysgafn, mynediad arbennig, cyfieithu ar y pryd, a chyfle i ymchwilio'r ddogfen ei hun yn rhan o'r profiad, ac i gyd yn rhad ac am ddim

Dewch i gwrdd â ni ym mhrif fynedfa Amgueddfa Cymru, Caerdydd, yfory am 1.50pm. Bydd y drafodaeth agoriadol yn Theatr Reardon Smith am 2pm.

Yna, bydd cyfle i weld y Deddfau yn Sain Ffagan, yn ogystal â gwrthrychau unigryw o'r cyfnod yn ein arddangosfa 'Creu Hanes 1500-1700'. Bydd trafodaeth yn cael ei harwain yn Eglwys Teilo Sant, fydd yn edrych ar gyd-destun Ewropeaidd bywyd yng Nghymru dan deyrn Harri VIII.

I archebu lle, galwch Heledd Fychan ar (029) 20 57 3268.

Bydd yn rhaid i unigolion ddarparu trafnidiaeth eu hunain rhwng Caerdydd a Sain Ffagan. Mae bysiau 32 a 322 yn dod â chi at ein stepen ddrws, ac yn gadael o Stand D2 yng nghanol y ddinas.