Rhwng 1943 a 1950 aeth John Piper ar siwrnai artistig ddwys drwy fynyddoedd gogledd Cymru, gan gyfleu angerdd a gweledigaeth nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae afiaith a disgleirdeb yn y donyddiaeth a'r arlliwiau a drama pur ym mhob un o'r gweithiau.
John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw. Aeth diddordeb Piper mewn tirluniau a phensaernïaeth ag ef i bob cwr o Brydain ond cafodd ei gysylltiad arwyddocaol cyntaf â gogledd Cymru tra'n gweithio fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Chwarel Manod Mawr: storfa trysorau'r genedl yn ystod y Blitz
Ym 1943, derbyniodd Piper gomisiwn gan y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel i gofnodi crombil chwarel Manod Mawr. Roedd ar y pryd yn storfa i gasgliadau Oriel Genedlaethol Llundain a'r Casgliadau Brenhinol i'w gwarchod rhag dinistr bomio'r Blitz.
Roedd hi'n amhosibl tynnu lluniau na pheintio yng nghrombil yr ogof dywyll a rhoddwyd y gorau i'r comisiwn yn fuan wedyn. Er hynny, bachodd Piper ar y cyfle i grwydro'r Gogledd ymhellach. Bu hyn yn sbardun i gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru.
Ysbrydoliaeth Turner a Wilson
Gan ddefnyddio copi o lyfr A.C. Ramsay Old Glaciers of Switzerland and North Wales (1860) fel canllaw, teithiodd Piper drwy'r ardal yn cofnodi'r mynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod yng ngogledd Cymru, byddai'n aml yn defnyddio cyfeirlyfrau neu lyfrau daearegol o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edmygai'r darluniau wedi'u hengrafu ynddynt, ac roeddent hefyd yn linyn cyswllt rhyngddo â'i hoff artistiaid o'r cyfnod, Richard Wilson (1714-1782) a J.M.W. Turner (1775-1851).
Nid yn Eryri na'r Gogledd y dechreuodd teithiau peintio Piper i Gymru fodd bynnag, ond yn Sir Benfro a Sir Geredigion ym 1936. Y Flwyddyn ganlynol cynhyrchodd Pum Capel, 1937, cyfrwng cymysg ar bapur (casgliad AC-NMW).
Pensaernïaeth eglwysi o orllewin Cymru
Portreadir pum capel: Emmaus, Llanon, Rhos-goch, Rhydygwyn a Tyrhos. Cynhyrchwyd y pum collage yma drwy ddarlunio ar bapur wedi'i dorri a'i rwygo cyn ei ailadeiladu. Mae'n dangos ei ddiddordeb cynnar mewn pensaernïaeth eglwysi yn enwedig pensaernïaeth syml ond neo-glasurol capeli annibynnol Cymru.
Piper yng ngogledd Cymru
Yn ystod comisiwn aflwyddiannus Manod Mawr, dechreuodd Piper archwilio gogledd Cymru a darganfod lleoliadau fel Cader Idris a baentiwyd gan Wilson a Turner. Daeth y daith hon ag ef yn agos hefyd at Aran Fawddwy, testun ei waith olew trawiadol, Tarddle'r Ddyfi, 1943-44. Mae teitl y paentiad hwn yn cyfeirio at Greiglyn Dyfi, y llyn yn y blaendir a tharddle Afon Dyfi.
Peintiodd Turner olygfa ychydig yn wahanol o Aran Fawddwy mewn llun dyfrlliw yn dwyn y teitl A bridge over the Dyfi near Dinas Mawddwy, with Aran Fawddwy beyond (casgliad yr Amgueddfa Brydeinig). Mae'r arddull haniaethol bron, y naws dywyll fygythiol a'r arlliwiau aur, melyn, glas a choch llachar yn y gwaith hwn yn debyg iawn i arddull Turner. Taenwyd haen o geso ar y gynfas a pheintio drosto ag olew. Mae hyn yn rhoi gwead garw iawn i'r gwaith, sy'n ein hatgoffa o erwinder y creigiau a'r tywydd.
Ym 1945 dyma Piper a'i deulu yn llogi bwthyn o'r enw Pentre ac mae golygfa o'r tŷ o'r ffordd i'w weld mewn paentiad yn dwyn yr enw Nant Ffrancon Farm, 1950. Tŷ yng nghwm Nant Ffrancon ydyw, gyda bryn serth yn codi y tu ôl iddo a bu'r Pipers yn ei logi am £35 y flwyddyn. Dim ond llwybr mwdlyd oedd yn arwain at y tŷ bryd hynny, yn hytrach na'r ffordd goncrid a welir heddiw, a byddai bron yn amhosibl ei gyrraedd mewn tywydd gaeafol garw. Yn goron ar y cyfan, gan fod y tŷ wrth droed rhiw serth byddai glaw trwm yn achosi llifogydd.
I felt then that I was seeing the mountains for the first time and seeing them as nobody had seen them before.
John Piper quoted in Richard Ingrams and John Piper, Piper's Places, London, 1986
John Piper The Rise of the Dovey
Copyright John Piper Estate
Stormydd a gaeafau Eryri
Bu trafferthion a chaledi byw yno, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn sbardun i'r teulu Piper symud i dy rhent arall o'r enw Bodesi tua 1947. Mae Bodesi wedi'i leoli ar draws y ffordd i Tryfan yn wynebu'r mynydd a Llyn Ogwen. Hwn oedd hafod, neu dŷ haf y perchennog, felly gallai'r teulu Piper ei ddefnyddio weddill y flwyddyn. Dyma pam fod y rhan fwyaf o baentiadau Piper o Eryri yn stormus a gaeafol.
Roedd Bodesi yn leoliad da a cynhyrchwyd llu o baentiadau a darluniau o Tryfan. Mae Creigiau Garw dan fynydd Tryfan, 1949-50, yn esiampl wych o fanylder Piper yn dewis ffurfiau creigiau penodol ar Tryfan ac yn y cyffiniau. Tryfan Bach a welir yma, sydd wrth droed y mynydd ac i'r gorllewin ac mae ei ffurf ddanheddog yn debyg i'r Tryfan mwy. Mwy na thebyg taw patrymau wedi'u gadael ar y cerrig gan gen sydd wedi hen ddiflannu yw'r ffurfiau cylchog gwyn mewn gouache. Gwelir fflachiadau coch a melyn yn y blaendir ar waelod y paentiad. Weithiau maent yn pwysleisio ffurfiau'r creigiau ac weithiau yn dynodi'r cen 'melyn crôm ac oren crôm' fel y disgrifiodd Piper hwy yn ei nodiadau.
Bu dylanwad y llyfrau canllaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sbardun i Piper ysgrifennu ei ganllaw ei hun i'r ardal, ond yn anffodus wnaeth y syniad fyth adael ei lyfr nodiadau, a gellir ei weld bellach yn archifau Tate Britain.
Er na lwyddodd Piper i wireddu'i freuddwyd o gyhoeddi canllaw i Eryri, mae'n deg dweud iddo adael canllaw hudolus i ni yn ei baentiadau a'i ddarluniau. Caiff y gyfres hon ei hystyried ymysg goreuon ei holl waith. Yn y 1960au prynodd y teulu Piper dŷ o'r enw Garn Fawr yn Sir Benfro, ac mae ei waith Cymreig wedi hynny yn canolbwyntio ar Sir Benfro a de Cymru. Ni chafodd gyfnod mor ddwys o weithio yng ngogledd Cymru wedi hyn.
Dathlwch y Nadolig hwn drwy archwilio ryseitiau sydd wedi dod â chenedlaethau o deuluoedd a chymunedau ynghyd. Bydd ein dewis yn llenwi'ch tymor â chynhesrwydd traddodiad, un rysáit ar y tro.
Yr Ŵydd
Cadw gwyddau ar ffarm ger y Bont-faen
Bu'r ŵydd yn ganolog i'r wledd Nadolig yng Nghymru tan yn ddiweddar iawn. Ers yr Oesoedd Canol 'roedd gan y ffermwyr mawr ŵydd ar y bwrdd i Ginio Nadolig. 'Roedd gwyddau yn hawdd i'w magu a chawsent bori a lloffa ar y caeau ŷd ar ôl y cynhaeaf. Bu'n arfer gan y ffermwyr i roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel, ond gofalent am gadw nifer dda i'w tewhau ar gyfer y farchnad Nadolig. Yn gyffredinol, ni welwyd y twrci ar fwrdd Nadolig y Cymro tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Cacen Waed Gwyddau
Yng nghanolbarth Cymru, roedd hi'n arfer i wneud cacen waed gwyddau pan fyddai'r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer Nadolig. Mae cof am ei gwneud yn ardal Trefeglwys a'r cylch, ac yn ardaloedd Staylittle, Llanbryn-Mair a Llangurig. Fe'i cyfrifid yn foethyn a gysylltid â'r Nadolig yn unig. Byddent yn tywallt gwaed tua tair o wyddau mewn basin pridd, a'i roi mewn sosbennaid o ddŵr a'i ferwi. Yna byddent yn gadael i'r gwaed oeri a chaledu cyn ei falu'n fân â llaw. Yna byddent yn rhoi'r 'gwaed' mewn dysgl bridd ac yn ei gymysgu â chyrens, blawd gwyn, siwet mâl, halen, sbeis a thriogl melyn. Cymysgu'r cyfan yn dda â llwy bren. Byddai'r cymysgedd yn cael ei grasu rhwng dwy haen o grwst brau ar blât yn y popty. Cyfuniad rhyfedd, meddech chi, ond cofiwch fod y mincemeat a geir mewn mins peis yn cynnwys cig yn wreiddiol!
Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn
Y mae'r pwdin berwi, yn llawn ffrwythau a sbeis, wedi ei gysylltu â'r Nadolig ers y ddeunawfed ganrif. Yr hen drefn oedd berwi'r cymysgedd yn un lwmp mawr mewn cŵd lliain - yr arfer a roddodd iddo'r enwau pwdin lwmp, pwdin clwt neu pwdin cŵd. Byddid yn rhwymo gwddf y cŵd a llinyn a'i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan fel bod y pwdin yn hongian i mewn yn y dŵr berw. Ar ddydd Nadolig byddid yn gwneud 'menyn melys' i dywallt drosto.
Byddai pob aelod o'r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu'r pwdin ac yn gwneud dymuniad 'cudd' ar yr un pryd. Yr oedd hi'n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin - yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog - a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.
Noson Gyflaith
Rhoi siwgr ar y darnau cyflaith i'w rhwystro rhag glynu wrth ei gilydd
‘Roedd cynnal ‘Noson Gyflaith’ gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd. Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i’w cartrefi fin nos. Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gŵydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai’r cwmni’n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith. Ar ôl berwi’r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi’i hiro ag ymenyn. Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a’i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau. Yna byddai pob aelod o’r cwmni yn iro’i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o’r cyflaith i’w dynnu tra byddai’n gynnes. ‘Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu’r cyflaith hyd nes y deuai’n rhaffau melyngoch. Byddai’r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond ‘roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb. ‘Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yno, ond ‘roedd yn arfer gan wragedd i’w werthu o’u cartrefi neu yn y farchnad leol. ‘Roedd ‘dant’ a ‘ffani’ ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw’r gwneuthurwr arno, er enghraifft, ‘losin Magws’ neu ‘losin Ansin bach’. Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.
Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru
Gwneid teisen dorth yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair teisen ar y tro ac yn eu cario i'r bacws lleol i'w crasu.
'Roedd hi'n arfer i'r cymdogion 'brofi' teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau'r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai'n siŵr o ennill gŵr cyn y Nadolig canlynol!
Yn aml, chwaraeid pumoedd — math o sboncen gyntefig — yn erbyn muriau'r eglwys.
Delweddau o The Cambrian Popular Antiquities, Peter Roberts (1815).
Gwylmabsant oedd un o wyliau mwyaf poblogaidd calendr y Cymry. Ymgysegriad gweddïgar i goff'u sant y plwyf lleol oedd y dathliad blynyddol hwn yn wreiddiol, ond datblygodd i fod yn ŵyl â chanddi raglen o weithgareddau hamdden i bawb eu mwynhau.
Roedd gwyliau mabsant, a gofnodwyd am y tro cyntaf ym 1470, yn gyffredin ledled Cymru hyd ail hanner y 19g. Ym 1803, disgfrifiodd yr awdur Benjamin Malkin firi plwyfi Sir Faesyfed fel "rendered a kind of circus for every sport and exercise", a mynnai un o bersoniaid Dyffryn Clwyd, a ddyfynnwyd gan Elias Owen ym 1886, fod gwylmabsantau yn rhoi "an individuality to parochial life and fostered parish patriotism".
Ymhlith y gemau a chwaraeid yn gyson roedd gwahanol fathau o fabolgampau, gan gynnwys rhedeg rasys, cystadlaethau crechwenu ar gyfer hen wragedd, a gyrru berfâu â mwgwd am y llygaid. Yn y mabolgampau a gynhelid dros gyfnod o dri diwrnod yn Llangyfelach ger Abertawe ym 1780, roedd y cystadlaethau a'r gwobrau yn cynnwys ras i ferched a oedd yn ymgiprys am smoc a betgwn, bwyta pwdin poeth am lwy bwrdd arian, a baetio tarw, gornest y dyfarnwyd llo tarw i berchennog y ci gorau. Roedd chwaraeon yn ymwneud ag anifeiliaid yn dra chyffredin, yn enwedig ymladd ceiliogod lle byddai pobl yn betio arian mawr ar yr ymrysonau. Câi'r ceiliogod eu hyfforddi ar gyfer yr ymryson, ac roedd perchennog ceiliog talwrn buddugol yn cael parch mawr.
Câi math ar bêl-droed ei chwarae dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac adeg Gŵyl y Gyffes. Deuai torfeydd mawr ynghyd i wylio'r gemau, ac oherwydd nad oedd unrhyw reolau pendant yn perthyn iddynt, roedden nhw'n tueddu i droi'n ymrysonau ymladdgar lle câi chwaraewyr eu hanafu.
Bando oedd un o'r hoff gemau eraill ar gyfer timoedd ac roedd yn cael ei chwarae mewn rhai ardaloedd hyd ddiwedd y 19g. Yn boblogaidd iawn ym Morgannwg, roedd bando yn debyg i hoci heddiw a defnyddiai timoedd ffyn i daro'r bêl tua'r gôl. Roedd y gêm yn cynnwys elfennau oedd yn rhan hanfodol o chwaraeon ar hyd y canrifoedd ac a oedd yn rhagflas o gemau trefnedig. Roedd y rhain yn cynnwys nifer benodedig o chwaraewyr, maes chwarae penodedig, timau mewn gwisgoedd o liw gwahanol (megis y rhai coch a gwyn a ddewiswyd gan dîm Margam, gorllewin Morgannwg), gamblo ar ganlyniadau, a gemau a gâi eu noddi'n hael gan fragwyr.
Betio, gwledda a diota
Roedd ymladd ceiliogod yn nodwedd amlwg o'r calendr gwledig, ac roedd yn boblogaidd ymhlith y Cymry yn gyffredinol hyd flynyddoedd cynnar y 19g.
O ystyried y cyfuniad o fetio, gwledda a diota, nid oedd yn syndod fod gwyliau plwyfi yn ennill enw drwg am eu twrw. Chwaraeai tafarnwyr ran flaenllaw yn y gwaith o drefnu a hyrwyddo mabolgampau yn aml, a threfnwyd nifer o ymladdfeydd ceiliogod, rasys a chystadlaethau o'r fath dros ddiod. Yn amlach na pheidio, roedd y gemau a chwaraeid yn ddigwyddiadau eithaf brwd ac yn aml câi rheolau anysgrifenedig eu llunio cyn dechrau unrhyw gêm. Oherwydd fod nifer o chwaraeon yn ddigwyddiadau lleol, amrywiai'r rheolau o le i le, gan arwain at anghytundebau rhwng plwyfi.
O ddiwedd y 18g. ymlaen, mynegodd mwy a mwy o bobl, ac yn enwedig arweinwyr crefyddol, eu consyrn am y rhialtwch didrwydded a'r goryfed a ddigwyddai'n gyson adeg y gwyliau, yn ogystal â'u pryder am fendithion amheus y gemau eu hunain.
Ymosododd y Diwygiad Methodistaidd a diwygiadau eraill a ysgubodd ar draws Cymru rhwng canol y 18g. a blynyddoedd cynnar yr 20g., ar chwaraeon o bob math yn ddiwahân gan hawlio eu bod yn ddiwerth ac yn bechadurus. Mynnai rhai fod gweithgareddau hamdden yn fygythiad mawr i foesau'r boblogaeth, a cheisiai arweinwyr crefyddol adnabyddus fel Thomas Charles a Griffith Jones atal cynnal ffeiriau a gwyliau annuwiol. Ym 1799 honnai Griffith Jones fod Cymru yn "sunk in superstition and vice". O ganlyniad, troai plwyfolion fwyfwy tua'r eglwysi a'r capeli am ollyngdod a achubiaeth, a chan fod cyfarfodydd gweddi yn cael eu trefnu'n fwriadol weithiau i gyd-daro â mabolgampau, daeth crefydd yn rym yn nirywiad a thranc gweithgareddau o'r fath.
"Gŵyl Mabsant" gan T.Llew Jones. Yn Llafar Gwlad tt.10-11 (Gaeaf, 1997), tt.8-9 (Gwanwyn, 1998).
"Festivals and social structure in early modern Wales" gan Richard Suggett. Yn Past and Present, cyf. 152, tt. 79-112 (Awst, 1996).