Adeiladu tŷ crwn - y gwaith yn parhau Ian Daniel, 5 Mai 2010 Dechreuodd y gwaith ar y trawstiau ddoe. Mae 36 o rai onnen gennym ni i'w gosod. Byddwn yn dechrau creu trawstiau cadwynog ac yn defnyddio gwiail cyll ar gyfer y tulathau. Dewch draw i'n gweld ni wrthi.Diolch i bawb ohonoch alwodd heibio ar y penwythnos - ges i dipyn o hwyl!
Adeiladu tŷ crwn Ian Daniel, 29 Ebrill 2010 Ers rhai wythnosau rydym wedi bod wrthi'n adeiladu t? crwn yma. Dewch i ymuno gyda ni dros yr wythnosau nesaf i weld y gwaith yn mynd rhagddo. Dafydd Wiliam sydd wrthi’n adeiladu ac fe fyddaf fi o gwmpas i esbonio’r hyn sy’n digwydd i chi. Gallwch ddilyn yr hanes yn ddyddiol ar http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htmAr ddydd Sadwrn a dydd Llun (1af a'r 3ydd o Fai) dewch draw i brofi technegau cynnau tân a choginio. Tybed sut fyddai pobl yn ystod yr Oes Haearn wedi gwneud y pethau hyn?