: Y Pentref Celtaidd

Bywyd newydd i'r tŷ crwn

Chris Owen, 30 Gorffennaf 2010

Pwy sy'n gwenu heddiw ar y t? crwn newydd? Mae Dafydd a'r tim adeiladu yn mwynhau ffrwyth eu llafur wedi misoedd o waith caled. Wrth ddathlu agoriad Moel y Gaer mae pawb wedi bod yn eu llongyfarch am eu gwaith. Diolch i bawb a ddaeth i ddathlu gyda ni ar yr achlysur arbennig hwn. Rwyf wedi mwynhau'n fawr trafod y gwaith gyda chi i gyd.

Agoriad Swyddogol Tŷ Crwn

Ian Daniel, 27 Gorffennaf 2010

Mae'r gwaith bron ar ben a'r dathlu ar fin dechrau! Fel y gallwch weld mae'r to wedi ei gwblhau ac rydym wedi arbrofi trwy greu twll bach ar gyfer y mwg. Gobeithio y bydd yr arbrawf yn llwyddiannus - amser a ddengys! Rwyf angen gwneud rhywfaint o wyngalchu ar y waliau mewnol ac yna fe fydd wedi ei gwblhau. Byddwn yn dathlu trwy gynnal agoriad swyddogol ar ddydd Sadwrn os ydych o gwmpas dewch draw am 3 o'r gloch i ymuno gyda ni yn y 'Pentref Celtaidd'. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a'u diddordeb dros y misoedd diwethaf ac yn arbennig i'r gwirfoddolwyr Dylan Hammond a Lauren Parfitt.

Adeiladu tŷ crwn - y to

Ian Daniel, 11 Mehefin 2010

Yn ystod y pythefnos diwethaf rydym wedi bod wrthi'n adeiladu'r to gwellt. Rydym wedi defnyddio saith mwdwl o gyrs ar gyfer y to, mae pob mwdwl yn cynnwys rhwng 80-100 o fwndeli. Fel y gallwch weld rydym wedi defnyddio tipyn o gyrs!

Cymrwch olwg ar y ffotograffau. Gallwch weld y bwndeli'n cael eu gosod rhwng y trawslathau gwiail o goed cyll cyn bod Dafydd yn mynd ati i dacluso'r to gwellt.

 

Adeiladu tŷ crwn - mae'r gwaith yn parhau

Ian Daniel, 27 Mai 2010

Rydym ni wedi bod wrthi'n gosod y trawslathau yr wythnos hon. Dyma fydd yn cynnal y to gwellt. Mae diddordeb mawr gen i yn y broses hon. Roedd Dafydd, Tim ac Andy yn ddigon caredig i adael i mi helpu! Byddaf yn y Pentref rhwng dydd Llun a dydd Iau yn ystod hanner tymor. Dewch draw i weld y gwaith.

Adeiladu tŷ crwn - creu to

Ian Daniel, 13 Mai 2010

Rwy'n dechrau teimlo'n gyffrous nawr a'r adeilad yn magu to. Gallwch chi ddychmygu sut siap fydd arno pan fydd Dafydd a'r criw wedi gorffen y gwaith.

Roedd digon i Dafydd feddwl amdano. Aeth y chwech traws cyntaf i fyny yn eithaf di ffwdan ond wedyn roedd yn rhaid ystyried y lle gorau i osod y trawstiau cadwynog. Penderfynodd Dafydd eu gosod y tu allan i'r prif drawstiau. I wybod pam darllenwch ei ddyddiadur

Aeth y llwyth nesaf o drawstiau i fyny'n eithaf cyflym. Roedden nhw wedi cael eu rhicio fel bod modd iddynt fachu'r gadwyn. Llinyn wedi ei dario sy'n eu rhwymo ynghyd. Gosododd Dafydd ail gyfers o drawstiau cadwynog tua gwaelod y to. Cyn hir fe fyddwn yn gosod y to gwellt.

Darllenwch ddyddiadur Dafydd http://www.theroundhouse.org/dafsdiary.htm