: Datguddio Cyfrinachau

Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri

Richard Bevins, 21 Chwefror 2012

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri?

Côr y Cewri

Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina.

Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri.

Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir.

Y Cerrig Gleision

Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir.

Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn.

Cynllun o Gôr y Cewri

Cynllun o Gôr y Cewri

Plan of Stonehenge showing archaeological detail

Cynllun o Gôr y Cewri

 Tirlyn Gôr y Cewri

Tirlyn Gôr y Cewri

Canfyddiadau diweddar

Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg.

Anweddu'r Cerrig Gleision

I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol.

Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol.

Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science.

Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw.

Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011.

Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis gan Francsesco Guardi

Anne Pritchard, 6 Medi 2011

Delwedd wedi'i hadfer yn rhannol o <em>Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis</em>

Delwedd wedi'i hadfer yn rhannol o Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis

Mae golau uwch-fioled yn dangos gwaith adfer blaenorol

Mae golau uwch-fioled yn dangos gwaith adfer blaenorol

Mae'r paentiad bychan hwn gan Francesco Guardi yn dangos llysgenhadaeth yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn Fenis mewn manyldeb rhagorol.

Saif yr adeilad yng nghanol prysurdeb bywyd bob dydd y Gamlas Fawr. Mae dillad yn sychu ar falconïau, cychod gondolïwyr yn pasio wrth eu gwaith a diplomyddion yn eu gwisgoedd drudfawr yn syllu o'u ffenestri neu'n cerdded ar y cei.

Yng nghanol y môr o ffigyrau gwelwn fonheddwr mewn gwisg las — y llysgennad ei hun mwy na thebyg — yn sefyll ger mynedfa'r palazzo yn dal teyrnwialen aur. Uwch ei ben, gwelwn arfbais y gyfundrefn bwerus fu'n rheoli rhannau helaeth o ganolbarth Ewrop am ganrifoedd.

Mae Guardi yn enwog fel un o beintwyr tirluniau Fenisaidd mwyaf y ddeunawfed ganrif; fe'u gelwid yn beintwyr veduta. Roedd ei weithiau yn hynod boblogaidd a cawsant ddylanwad ar artistiaid a chasglwyr Prydeinig a ymwelodd â Fenis yn ystod y Daith Fawr.

Mae'r gwaith hwn yn esiampl dda o'i dechneg aeddfed ac yn cyfuno'r manyldeb cywrain a feistrolodd dan ddylanwad Canaletto â gwaith brws cynyddol fynegiannol, atmosffer a golau.

Datgelodd gwaith glanhau gan gadwraethwyr yr Amgueddfa lewych syfrdanol yr effeithiau gwreiddiol yma.

Pan ddaeth y paentiad hwn i feddiant yr Amgueddfa'n wreiddiol, doedd effaith y dechneg ryfeddol ddim yn gyflawn. Roedd yr haen uchaf o farnais a orchuddiai'r paentiad wedi afliwio'n ddrwg, gan droi'n frown dros amser. Drwy edrych ar y llun dan olau uwch-fioled, gwelwyd hefyd bod gwaith adfer gormodol wedi cael ei wneud ar yr awyr.

Glanhaodd cadwraethwr yr Amgueddfa arwyneb y paent gan dynnu'r hen farnais a gwaith adfer blaenorol. Gwelwyd taw darnau bychan o bigment oedd y gronynnau du pitw yn y paent, yn hytrach na baw fel y tybid cyn hyn. Byddai'r artist wedi cymysgu ei baent ei hun a gellir gweld gronynnau tebyg mewn gweithiau eraill gan Guardi.

Gyda llewych gwreiddiol gwaith Guardi bellach yn amlwg, cafodd y paentiad ei ail-farneisio a'i arddangos.

Cyn ac wedi glanhau

Mae cadwraethwyr yr Amgueddfa wedi bod wrthi'n brysur yn glanhau'r gwaith, dyma lun o'r gwaith cyn ac ar ôl cael ei adfer:

Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [cyn glanhau]

Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [cyn glanhau]

Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [wedi glanhau]

Golygfa o'r Palazzo Loredan dell'Ambasciatore ar y Gamlas Fawr yn Fenis [wedi glanhau]

Gwared ni rhag drwg: Dillad cuddiedig

Elen Phillips, 9 Awst 2011

O dan y lloriau

Esgid chwith oedolyn, a ddefnyddiwyd fel swyn

Esgid chwith oedolyn. Mae naw twll botwm ar hyd yr ochr. Fe'i claddwyd dan loriau Hen Wernyfed, Felindre, Aberhonddu er mwyn dod â lwc i'r tŷ.

Wrthi'n adnewyddu hen dŷ? Byddwch yn wyliadwrus! Pwy a ŵyr beth sydd o dan y lloriau neu'r tu ôl i'r waliau? Efallai dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio'n fwriadol gan gyn-drigolion y tŷ er mwyn dod â lwc a ffrwythlondeb i'r cartref. 'Caches' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r cuddiadau bwriadol hyn, enw a ddaw o'r gair Ffrangeg am guddio. Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi casglu nifer ohonynt dros y blynyddoedd. Mae pob darganfyddiad newydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar y traddodiad gwerin diddorol hwn.

Esgidiau cuddiedig

Esgidiau sy'n cael eu darganfod amlaf. Ceir hyd iddynt fel arfer yn agos i simneiau neu lefydd tân, ond anaml y'u darganfyddir fesul pâr. Esgidiau plant ydynt fel arfer. Cafwyd hyd i'r esgid ledr uchod o'r 19eg ganrif y tu ôl i le tân tŷ yn Llanfachreth ym 1994. Fe ddaeth y perchnogion ar draws pedair esgid arall yn yr un man, pob un ohonynt wedi mewn cyflwr treuliedig. Mwy na thebyg roeddent yn perthyn i uned deuluol o ddau riant a thri o blant.

Roedd simneiau a llefydd tân yn fannau poblogaidd i guddio pethau oherwydd mai'r aelwyd oedd canolbwynt y cartref. Dyma oedd ffynhonnell gwres a chysur y cartref a lle i'r teulu ymgynnull. Weithiau byddai esgidiau yn cael eu cuddio o dan y lloriau, o gwmpas drysau ac o dan y grisiau. Credai rhai mai'r llefydd hyn oedd y mannau gwannaf mewn adeilad, ac felly gallai ysbrydion drwg neu wrachod gael mynedfa trwyddynt. Gosodid esgidiau yn y llefydd hyn er mwyn dal neu gornelu unrhyw ddrwg.

Staes y tu ôl i'r wal!

Nid esgidiau yw'r unig bethau sy'n cael eu darganfod. Cafwyd hyd i hetiau, siacedi a chlos penglin hefyd. Daeth y darn yma o staes o dŷ to gwellt yn Heol Cae Cerrig, Pontarddulais, o'r tu ôl i wal drwchus ar un ochr i'r aelwyd. Mae'n dyddio o ganol y 18fed ganrif ac wedi ei wneud o dair haen o ddefnydd: haen allanol o wlân, stribedi o esgyrn morfil a leinin o liain. Mae olion pwythau sidan mewn mannau. Y darn hwn fyddai panel blaen y staes yn wreiddiol, yn gorchuddio'r frest a'r stumog.

Beth os dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio? Os yn bosibl, ceisiwch osgoi ei drafod yn ormodol a chysylltwch â'ch amgueddfa leol am gyngor pellach. Cofiwch gymryd digon o luniau o'r dilledyn yn ei safle gwreiddiol cyn ei symud. Yn anad dim, cadwch eich llygaid ar agor; efallai mai darn o hanes yr adeilad yw'r hen recsyn yna dan y cerrig!

Cyfrinachau'r amonitau

Cindy Howells, 26 Chwefror 2010

Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain

Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain

Amonitau sy'n rhan o'r casgliadau

Amonitau sy'n rhan o'r casgliadau

Section through an ammonite showing the chambers

Darn o'r amonit sy'n dangos y siambrau

Ochr isaf sbesimen parod

Ochr isaf sbesimen parod

Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain

Sbesimen parod yn dangos y pigynau cywrain

Mae gwyddonwyr wedi llwyddo i hydoddi'r graig a oedd yn amgylchynu ffosil amonit 150 miliwn o flynyddoedd oed, gan ddatgelu'r patrymau cymhleth o bigynau am y tro cyntaf erioed.

Pan welwch chi ffosil ar draeth, fel rheol bydd wedi torri neu erydu. Efallai y byddwch yn ei daflu i ffwrdd oherwydd ei fod mewn cyflwr gwael. Ond mae'r rhan fwyaf o ffosilau yn cael eu darganfod wedi'u cuddio'n rhannol mewn craig, ac mae'r rhain yn gallu bod yn llawn o gyfrinachau cudd.

Rhoddwyd un ffosil amonit o'r fath o'r golwg mewn drôr yn Adran Ddaeareg yr Amgueddfa am hanner canrif. Mae'n rhan o gasgliad o bron i 6,000 o ffosilau a gyfranwyd gan James Frederick Jackson i'r Amgueddfa ym 1960.

James Frederick Jackson

Roedd Jackson yn byw mewn bwthyn bach yn Charmouth ger Lyme Regis, ac yn treulio'i amser hamdden yn casglu creigiau a ffosilau ar hyd arfordir Dorset yn ne-orllewin Lloegr. Bu'n gweithio yn yr Amgueddfa rhwng 1914 a 1919, a chyfrannodd bron i 21,000 o sbesimenau yn ystod ei oes.

Mae palaeontolegwyr yn astudio casgliad Jackson yn rheolaidd oherwydd ei fod yn cynnwys cofnod cyflawn a gwerthfawr o ffosilau Jwrasig Dorset. Ychydig flynyddoedd yn ôl, sylwodd un ymchwilydd ar amonit anarferol. Fodd bynnag, roedd darn helaeth o'r ffosil ynghudd yn y graig, ac roedd angen ei dynnu'n ofalus iawn o'r graig i ddatgelu'r ffosil.

Blwyddyn o baratoi

Ar ôl blwyddyn o waith caled, o'r diwedd cafodd y sbesimen ei ddychwelyd i'r Amgueddfa i'w arddangos gyda'r casgliadau. Defnyddiwyd asid gwan i gael gwared ar y gwaddodion calchfaen, gan ddatgelu pigynau cywrain y sidelli mewnol am y tro cyntaf erioed. Byddai rhan allanol yr amonit wedi cynnwys pigynau tebyg hefyd, ond roedd rheiny wedi cael eu herydu'n gyfan gwbl.

Mae'r sbesimen hwn wedi ymddangos yn ddiweddar ym monograff y Palaeontographical Society, mewn cyfres arbennig sy'n cynnwys disgrifiadau gwyddonol a lluniau o ffosilau Prydeinig, dan yr enw gwyddonol ffurfiol Eoderoceras obesum (Spath).

Amonitau

Anifeiliaid y môr oedd amonitau a oedd yn perthyn i'r Nawtilws (neu gragen Bedr), ac roedden nhw'n byw yn y Cyfnod Mesosöig (251-65.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Roedden nhw'n nofio yn y môr, gan hela a bwyta anifeiliaid llai'r môr. Roedd ganddynt gragen droellog fel arfer, rhwng 5mm a 2m ar draws. Gallai'r cregyn fod yn llyfn, rhychiog, cnapiog neu hyd yn oed bigog. Roedden nhw'n byw yn sidell allanol eu cragen, tra'r oedd y rhan fewnol yn llawn siambrau nwy er mwyn eu galluogi i nofio'n dda. Gallwch weld patrwm cymhleth ar wyneb cregyn amonitau, sy'n dangos y rhaniad rhwng pob siambr. Mae palaeontolegwyr yn defnyddio'r holl nodweddion hyn i adnabod rhywogaethau gwahanol o amonitau.

Mae gan yr Amgueddfa gasgliadau sylweddol a phwysig o amonitau, y rhan fwyaf o dde-orllewin Prydain. Maent yn ddefnyddiol iawn er mwyn helpu gwyddonwyr i ddeall daeareg a phalaeontoleg gwledydd Prydain.

Seiniau'r Neanderthaliaid

Elizabeth Walker, 14 Mai 2009

Adluniad ar ffurf paentiad o un o'r trigolion Neanderthalaidd cynnar.

Adluniad ar ffurf paentiad o un o'r trigolion Neanderthalaidd cynnar.

Perfformiad byw cyntaf <em>Neanderthal</em>

Perfformiad byw cyntaf Neanderthal yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Chwefror 2009

Darganfuwyd olion Neanderthalaidd sy'n dyddio'n ôl 230,000 o flynyddoedd yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych. Mae'r dannedd hyn a'r offer cerrig sy'n gysylltiedig wedi ysbrydoli'r cyfansoddwr Simon Thorne i greu'r seinwedd Neanderthal i'w chwarae yn yr oriel yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Er nad oedd gan y Neanderthaliaid unrhyw ddyfodol o ran esblygiad, rhyw 600,000 o flynyddoedd yn ôl roeddynt yn rhannu hynafiaid cyffredin gyda phobl fodern fel ni. Mae'r un strwythur i'w clust fewnol a'u llais ag sydd i'n rhai ni. Felly roedd gan y Neanderthaliaid y gallu corfforol i greu a chlywed seiniau. Serch hynny mae rhai o'r farn fod yr ymennydd Neanderthalaidd yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol iawn i'n rhai ni. Mae'n bosibl nad oedd y cysylltiadau rhwng gwahanol ardaloedd yr ymennydd mor llithrig ag y maent yn ein hymenyddiau ni. Mae hefyd yn bosibl na allent ffurfio iaith fel modd cyfathrebu.

Mae'n bosibl bod gan y Neanderthaliaid allu mwy na ni i gyfathrebu a mynegi eu hunain drwy gyfrwng cân. Seilir seinwedd Simon ar y llais ac ar seiniau naturiol a recordiwyd yn ystod ymweliad ag Ogof Pontnewydd. Mae'r rhain yn cynnwys diferiadau o nenfwd yr ogof a'r afon sy'n llifo yng ngwaelod y dyffryn. Byddai seiniau cyfarwydd i Neanderthaliaid yn cynnwys rhuo a chyfathrebu anifeiliaid a chân adar. Byddai Neanderthaliaid hefyd wedi cynhyrchu seiniau. Byddai'r rhain yn cynnwys sŵn naddu offer cerrig. Wrth daro nodwl fflint bydd un heb nam arno'n gwneud sŵn clir a bydd y tarwr yn gwybod bod y fflint yn addas i gynhyrchu'r naddion sydd eu hangen i greu casgliad o offer cerrig. Gallai Neanderthaliaid ddefnyddio eu lleisiau ac efallai iddynt ganu eu ffordd drwy'r tir a defnyddio sain i gyfathrebu â'i gilydd wrth hela.

Dychymyg pur yw Neanderthal. Ond mae'n seiliedig ar wyddoniaeth ac mewn ffyrdd newydd, cyffrous mae'n fodd rhoi llais i arddangosfa fud.

Gan: Elizabeth Walker, Curadur Archeoleg Paleolithig a Mesolithig

Seinwedd Neanderthal

Seinwedd Neanderthal

Lawrlwytho
  • [1mb, MP3]

Seinwedd Neanderthal

Lawrlwytho
  • [64kb, MP3]