Bro Morgannwg a bwrlwm diwydiant 31 Gorffennaf 2012 Adeiladwyd dociau newydd ym Mhorth-cawl yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llun o Grochendy Ewenni o ddechrau'r ugeinfed ganrif. Chwarel galchfaen ger Aberddawan yn 1950au. Dociau'r Barri, tua 1910, gyda llongau wedi'u hangori wrth y bwiau'n aros i lwytho glo. Bro Morgannwg a bwrlwm diwydiant Er mai amaeth fu diwydiant y Fro yn bennaf, mae nifer o ddiwydiannau eraill wedi chwarae rhan bwysig yn hanes yr ardal, ac mae rhai ohonynt yn dal ar waith heddiw. Datblygodd rhai o'r diwydiannau hynny oherwydd daeareg galchfaen yr ardal, ac eraill oherwydd yr arfordir maith neu'r dirwedd gymharol wastad. Crochenwaith Bu crochendy yn Ewenni ers dechrau'r bymthegfed ganrif. Y teulu Jenkins fu wrth y llyw ers 1610, ac mae'n parhau'n fusnes llwyddiannus heddiw. Chwarela Bu cryn dipyn o gloddio am galchfaen yn yr ardal hon. Cafodd ei ddefnyddio yn y diwydiant adeiladu, a'i losgi er mwyn cynhyrchu gwrtaith a sment. Roedd yn cael ei gludo hefyd ar draws Môr Hafren i Wlad yr Haf a gogledd Dyfnaint. Mwyngloddio Yn y cymoedd i'r gogledd o'r Fro, roedd cronfeydd helaeth o lo ager o ansawdd uchel. Er gwaethaf maint enfawr a phrysurdeb dociau Caerdydd, roeddent yn rhy fach i ateb y galw byd-eang am y tanwydd gwerthfawr. Felly, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, adeiladwyd cyfleusterau newydd ym Mhorth-cawl, Penarth a'r Barri. Yn wir, pan oedd y diwydiant ar ei anterth ym 1913, allforiwyd dros 11 miliwn o dunelli o'r Barri. Mae dociau'r Barri'n dal mewn defnydd heddiw.
'Bywydau Glowyr yn werth 5½c yr un': Ymgynghoriad y Llywodraeth i drychineb Senghennydd 1913 6 Gorffennaf 2012 Mam ifanc a'i phlentyn yn aros am newyddion
Cyflawni'r dasg Ceri Thompson, 19 Mehefin 2012 Yr tîm o achubwyr Cerdyn post yn cofnodi trychineb The Flooded Colliery at Troedyrhiw Y pump glöwr hachub Ym mis Awst 2010 caewyd 33 o weithwyr 700 metr o dan wyneb y ddaear yn dilyn cwymp ym mwynglawdd copr/aur San Jose yn Chile. Wedi 69 diwrnod o dan y ddaear ac ymgyrch achub anferth, gan gynnwys cyfraniadau gan NASA a dros ddwsin o gwmnïau rhyngwladol, achubwyd pob un o'r 33 dyn dros gyfnod o 24 awr. Ar ôl codi'r gweithiwr olaf i'r wyneb, daliodd y gweithwyr achub arwydd tuag at y camerâu ag arno'r geiriau Mision cumplida Chile — Cyflawnwyd y dasg Chile. Amcangyfrifir bod dros biliwn o bobl wedi gweld y geiriau yma ar y teledu.Trychineb TynewyddDyma'r gwaith achub yn Chile yn dwyn i gof ddigwyddiad tebyg yng Nghwm Rhondda dros 130 o flynyddoedd ynghynt. Ar 11 Ebrill 1877, boddwyd Glofa Tynewydd yn y Porth gan ddŵr o hen weithfeydd gwag Hen Lofa Cymmer gerllaw. Ar y pryd, roedd pedwar glöwr ar ddeg o dan ddaear, ac aed ati i geisio eu hachub.Cafwyd hyd i bump o'r gweithwyr ar ôl clywed sŵn curo, a bu'n rhaid i'r tîm achub dorri drwy 12 llath o lo i gyrraedd atyn nhw. Yn anffodus, dyma un o'r dynion yn cael ei ladd gan rym yr aer yn dianc drwy'r twll achub. Roedd naw dyn bellach ar goll.Ymdrechu taerClywyd mwy o sŵn cnocio o lefydd gwaith o dan linell y dŵr a dyma'r tîm achub yn cymryd bod y dynion wedi goroesi mewn poced aer. Ceisiodd dau ddeifiwr o Lundain eu cyrraedd ond roedd yn dasg amhosibl gan fod cymaint o rwbel yn y twneli. Penderfynwyd taw'r unig beth amdani oedd torri twnnel achub drwy 38 llathen o lo.Yn ystod y deg diwrnod o gloddio i gyrraedd y gweithwyr caeth, daeth y gwaith achub i glyw'r wasg ryngwladol ac anfonwyd telegram gan y Frenhines Fictoria hyd yn oed, gan ei bod yn poeni am ffawd y dynion. Cyrhaeddwyd y glowyr ar ddydd Gwener 20 Ebrill; doedd ganddyn nhw ddim bwyd ac roedden nhw wedi byw ar ddŵr brwnt y pwll am ddeg diwrnod. Gan fod y boced aer wedi datgywasgu mor gyflym wrth eu hachub, roedd y pum glöwr yn dioddef o barlys y môr (the bends) ond dyma nhw'n gwella'n llwyr wedi treulio noson yn yr ysbyty. Boddodd y pedwar glöwr arall.Dewrder ac arwriaethEr taw bychan oedd y nifer a gollodd eu bywydau o gymharu â thrychinebau eraill yr oes (lladdwyd 114 o ddynion a bechgyn mewn ffrwydrad yng Nglofa Cymmer ym 1856), denodd dyfalbarhad y timau achub gryn sylw gan y wasg a'r cyhoedd. Dyfarnwyd pedair ar hugain o Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth a nifer o wobrwyon eraill i'r timau mewn seremoni a gynhaliwyd ar y Maen Siglo uwchlaw Pontypridd. Gwneir amcangyfrif i hyd at bedwar deg mil o bobl fynychu'r digwyddiad.Achubwyr Tynewydd oedd y cyntaf i dderbyn Medalau Albert am ddewrder ar dir. Mae pump o'r medalau yma bellach i'w gweld yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ynghyd ag esiamplau o lestri arian ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.Erthygl gan:Ceri Thompson, Curadur