Portread mawreddog ar gyfer priodas ym 1777 25 Gorffennaf 2007 Mae gan Amgueddfa Cymru grŵp nodedig o bortreadau hyd llawn o'r 1770au. Yn eu plith mae darn a helpodd i ddod â bri i'r arlunydd George Romney ar ôl dychwelyd o ymweliad i geisio gwneud enw iddo'i hun yn yr Eidal. Bu'r darn hwn o gymorth iddo gystadlu â Reynolds a Gainsborough. George Romney (1734-1802), Elizabeth Harriet Warren (Is-iarlles Bulkeley) fel Hebe, tua 1776 Olew ar ganfas, 238.5 cm x 148 cm Symudodd Romney i Lundain o Kendal ym 1762 i geisio llwyddiant ac enwogrwydd. Un o'r lluniau a ddechreuodd wneud enw iddo oedd portread mawr o'r teulu Warren o Poyton, Swydd Gaer, a orffennwyd ym 1769. Rhwng 1773 a 1775, bu Romney'n teithio yn yr Eidal, i weld darnau celfyddyd clasurol a rhai o gyfnod y dadeni drosto'i hunan ac i feithrin hygrededd ymhlith noddwyr. Pan ddychwelodd i Lundain, cafodd bod bron bawb wedi anghofio amdano. Fodd bynnag, cymerodd brydles ar dŷ mawr yn Sgwar Cavendish, a daeth rhai o'i hen gefnogwyr ato â chomisiynau newydd. Syr George Warren oedd un o'r rhai cyntaf. Archebodd bortread o'i ferch Elizabeth, i ddathlu ei phriodas ym mis Ebrill 1777, â Thomas, 7fed Is-iarll Bulkeley o Fiwmares (1752-1822). Ef oedd prif dirfeddiannwr Ynys Môn ac roedd ganddo gysylltiad â Syr Watkin Williams-Wynn. Bu'n Aelod Seneddol dros y sir rhwng 1774 a 1784 pan wnaed ef yn Arglwydd. Bu Elizabeth yn eistedd ar gyfer Romney bum gwaith ym mis Mai 1776. Yna aeth yr arlunydd yn sâl, a bu'r eisteddiad olaf ym mis Rhagfyr. Aeth llawer o feddwl i'r darlun ac mae brasluniau ar ei gyfer mewn sawl casgliad. Ers amser, bu Romney'n awyddus i ennill ei blwyf fel darlunydd gweithiau ac iddynt neges lenyddol a moesol ac fe ddarlunir Elizabeth fel Hebe, cludwraig cwpanau'r duwiau a duwies harddwch ieuenctid. Fel rheol, mewn lluniau o Hebe byddai ganddi gwpan neu stên a byddai eryr yn y llun i gynrychioli ei thad Sews. Roedd yn bersona alegorïaidd poblogaidd ar gyfer portreadau o ferched ifanc yn y 18fed ganrif. Mae'r gwaith hwn yn enghraifft o'r "aruchel a'r arswydus" yn arddull Romney. Mae lliwiau'r rhaeadr fynyddig yn llym, bron fel monocrom. Bwriad yr arlunydd oedd atgoffa'r gwyliwr o gerflun clasurol. Roedd yn un o nifer o ddarnau neo-glasurol a ddaeth â bri iddo ym 1776 gan arwain at ugain mlynedd fel paentiwr portreadau prusuraf a mwyaf ffasiynol Llundain. Ni chafodd Elizabeth a Thomas Bulkeley blant ac, yn y pen draw, hanner brawd Thomas a etifeddodd y portread a fu'n hongian ym mharlwr eu cartref, Baron Hill, ar Ynys Môn. Pasiwyd ef ymlaen yn nheulu Williams-Bulkeley tan iddo gael ei brynu gan yr Amgueddfa (lle bu ar fenthyg ers 1948) gyda chymorth y Gronfa Glef yn 2000. Cyhoeddiadau cysylltiedigï: Fritz Saxl & Rudolph Wittkower, British Art and the Mediterranean, Oxford 1948, repr.63(4); John Steegman, A Survey of Portraits in Welsh Houses, vol. 1, Houses in North Wales, National Museum of Wales, Cardiff 1957, p.25; David Irwin, English Neoclassical Art, London 1966, p.152
Cwpan arian godidog ar gyfer perchennog gwaith copr 25 Gorffennaf 2007 Gwpan arian mawr Cwpan arian a'i glawr, Paul Crespin, 1733 Roedd bod yn berchen ar gwpan arian mawr a'i glawr yn arwydd o gyfoeth a statws ym Mhrydain am rai canrifoedd. Erbyn 1700, nid oedd y cwpanau hyn yn cael eu defnyddio fel llestri yfed. Cwpanau addurnol oeddent ac arwydd o ddoniau'r sawl oedd yn eu cynllunio a'u gwneud. William Lewis Hughes Portread gan Syr Thomas Lawrence (1769 - 1830) o Thomas Williams (1737-1802) olew ar gynfas; 127.5 x 102.1 cm. Yn Amgueddfa Cymru, ceir cwpan gwych iawn a wnaed ym 1733. Ganrif yn ddiweddarach, roedd yn eiddo i un o ddynion cyfoethocaf Cymru, William Lewis Hughes (1767-1835), o Kinmel Park, Sir Ddinbych, ac mae hynny'n dangos bod casglu hen greiriau'n dechrau dod yn ffasiynol ar y pryd. Ar y cwpan, gwelir nod Paul Crespin, a nodau Llundain ar gyfer 1733-4. Ganed Crespin ym 1694 i deulu o Brotestaniaid Ffrengig. Cychwynnodd fusnes yn Llundain ym 1720 ac, er bod gennym gofnod ei fod yn fethdalwr ym 1747, ymddengys ei fod wedi parhau i weithio yno tan 1759. Roedd Crespin ymhlith crefftwyr mwyaf cosmopolitanaidd a soffistigedig ei ddydd. Mor gynnar â 1724, gwnaeth "curious silver vessel for bathing, which weighed about 6030 ounces" ar gyfer Brenin Portiwgal (ond mae ar goll erbyn hyn). Roedd ganddo nifer o gleientiaid pwysig ac efallai mai ei gampwaith yw'r darn enwog "Neptune" a wnaeth ym 1741 ar gyfer y Casgliad Brenhinol. Darn rococo cywrain i'w roi ar ganol bwrdd yw hwn ac fe'i gwnaeth ar gyfer Frederick, Tywysog Cymru. Cwpan eithriadol o fawr Yn rhannol oherwydd y cyfoeth a gafwyd o fwynglawdd copr Parys ac yn rhannol oherwydd personoliaeth Edward Hughes, daeth y teulu'n eithriadol o gyfoethog. Mae'r cwpan yn eithriadol o fawr, yn 14 modfedd o uchder ac yn pwyso dros 150 owns aur. Mewn cymhariaeth, dim ond 94 owns oedd cwpan a chlawr a wnaed ym 1731 gan Abraham Buteaux a oedd yn gydweithiwr i Crespin ac a ddisgrifiwyd ym 1749 fel un "mawr". Mae wedi'i addurno yn y dull rococo a oedd newydd ddod i'r ffasiwn a byddai'n ymddangos yn eithaf arloesol ar y pryd. Mae'r patrwm dail a gwinwydden i'w weld hefyd ar bâr o oeryddion gwin a wnaed gan Crespin ar gyfer Dug Marlborough yn yr un flwyddyn, ac mae'r dolenni sgrôl dwbl yn ymddangos ychydig yn nes ymlaen ar gwpanau gan George Wickes, Paul de Lamerie, John Le Sage a John White. Cwpan wedi cael ei 'wella' Arfbais William Lewis Hughes o Kinmel. Mae'r gwaith addurnol a ysgythrwyd ar y cwpan o safon uchel iawn. Mae'n dal yn ffres ac ychydig o ôl traul sydd ar yr wyneb. Dilˆwyd arfbais y perchennog gwreiddiol, efallai am fod y cwpan wedi dod ar y farchnad tua dechrau'r 19eg ganrif. Mae'n bosib mai arian gwyn oedd wyneb y cwpan yn wreiddiol, yn hytrach na goreurad. Mae'r goreurad presennol, sy'n edrych braidd yn goegeuraidd yn perthyn i'r un cyfnod â'r arfbeisiau diweddarach, sef tua 1830. Mae'n ddiddorol bod y cwpan wedi cael ei 'wella' a'i ailwerthu fel hyn. Perchennog newydd y cwpan oedd William Lewis Hughes o Kinmel. Credir iddo gael y cwpan cyn iddo ddod yn Arglwydd Dinorben ym 1831, gan ei bod yn ymddangos fod coronig Barwn wedi'i hychwanegu at yr arfbais, a ysgythrwyd ar y naill ochr a'r llall i'r cwpan, ond nad ychwanegwyd y cynheiliaid herodrol a ddefnyddiai ar ôl ei ddyrchafu'n Arglwydd Mynydd Parys Darlun o'r ffin rhwng Mwyngloddiau Copr Mona a Pharys ym 1790. Roedd mam Hughes yn nith i William Lewis, Llysdulas, Ynys Môn. Hi a'i gŵr, y Parch Edward Hughes, a etifeddodd stad Llysdulas a oedd yn cynnwys un ochr i Fynydd Parys. Yn rhannol oherwydd y cyfoeth a gafwyd o fwynglawdd copr Parys ac yn rhannol oherwydd personoliaeth egnïol Edward Hughes, daeth y teulu'n eithriadol o gyfoethog. Y Brenin Copr Mae'r gwaith addurnol a ysgythrwyd ar y cwpan o safon uchel iawn. Mae'n dal yn ffres ac ychydig o ôl traul sydd ar yr wyneb. Roedd William Lewis Hughes, Arglwydd cyntaf Dinorben, yn gyrnol Milisia Môn a bu'n Aelod Seneddol Wallingford rhwng 1802 a 1831. O 1819 ymlaen, ei gartref yn Llundain oedd Bute House, South Audley Street. Roedd Edward a William Hughes yn bartneriaid busnes i Thomas Williams, y "Brenin Copr". Mae portread o hwnnw gan Lawrence hefyd yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Yn nes ymlaen, daeth y cwpan yn eiddo i'r ariannwr a'r dyngarwr Edwardaidd, Syr Ernest Cassel (1852-1921), ac fe'i prynwyd gan yr Amgueddfa yn 2005 gyda chymorth Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a'r Art Fund.
Beddrodau Oes y Cerrig yn ne-ddwyrain Cymru 14 Mai 2007 Blaengwrt a siambr Castell Carreg (Bro Morgannwg). Gellir ymweld â siambr y gofeb drawiadol hon a adeiladwyd yn null Cotswold-Severn heddiw. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell. Plan o feddrod Gwernvale (Powys). Mae'r plan hwn o'r beddrod yn nodweddiadol o'r math Cotswold-Severn, ond yn yr achos hwn, nid oes modd cyrraedd y siambrau drwy'r blaengwrt, ond yn hytrach o ochrau'r beddrod. Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod. Mae beddrodau'r Oes Cerrig yn gymharol gyffredin yng Nghymru. Mae'r henebion 6,000 oed hyn yn cynnwys un siambr neu fwy wedi eu hadeiladu o gerrig anferth (megalithau). Byddai'r rhain o dan orchudd o bridd neu gerrig yn wreiddiol, ond anaml iawn mae hyn yn goroesi. Gwnaed llawer o'r beddrodau hyn yn ôl dyluniad cyffredin, ac yn ne-ddwyrain Cymru mae hyn yn aml ar ffurf twmpath trapesoid, gyda'r pen lletaf yn pwyntio tua'r dwyrain ac yn agor i flaengwrt. Mae llwybrau byrion yn arwain at y siambrau mewnol o'r blaengwrt neu ochrau'r twmpath. Mae'r dyluniad hwn i'w weld ledled ardal y Cotswolds (Lloegr), ac ar lanau afon Hafren, a hyn sy'n gyfrifol am yr enw archaeolegol y beddrodau sef Cotswold-Severn. Mae gwaith cloddio ar y beddrodau hyn fel yr un yn Gwernvale (Powys) wedi dangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hadeiladu dros ben setliadau cynharach, gan awgrymu y bu'n bwysig claddu'r meirw ar dir a fu ym meddiant y byw yn ystod y cyfnod hwn. Yn Pipton a'r Tŷ-Isaf (y ddau ym Mhowys), mae archaeolegwyr wedi darganfod bod rhai beddrodau wedi cael eu hadeiladu fesul tipyn, gan ymgorffori cofeb lai i un mwy o faint yn aml iawn. Mae rhai o'r cofebion lle digwyddodd hyn yn anferth — er enghraifft, mae Penywyrlod, Talgarth (Powys), yn mesur 60m x 25m x 3m (65 x 27 x 3.2 llathen) i fyny — ac mae'n debygol mai bwriad y tai mawr hyn i'r meirwon oedd hawlio tir, gan bwysleisio i bobl oedd yn pasio bod y tir wedi'i feddiannu. Ar ôl eu hadeiladu, byddai'r beddrodau Cotswold-Severn yn cael eu defnyddio am genedlaethau. Er enghraifft, cafodd cyrff eu claddu ym Mharc le Breos Cwm (Gŵyr) am dros bum can mlynedd. Mae'r safle yn rhoi cip i ni ar ddefodau claddu'r beddrodau hyn, ac mae'n debyg i rai cyrff gael eu cadw y tu allan i'r beddrod nes eu bod wedi pydru rhywfaint — arfer digon erchyll i ni heddiw, ond mae'n debyg iddi fod yn ran cyffredin o'r ddefod gladdu ar y pryd. Adeg eu gadael, roedd y beddrodau Cotswold-Severn yn aml yn dal gweddillion nifer fawr o bobl. Ym Mharc le Breos Cwm, ffeindiodd archaeolegwyr dros 40 o gyrff, ac yn Nhŷ-Isaf a Castell Carreg (Bro Morgannwg) ffeindiwyd dros 30 a 50 yn ôl eu trefn. Mae natur ddarniog y cyrff hyn yn awgrymu nad y gladdedigaeth unigol oedd yn bwysig i adeiladwyr y beddrodau, ond creu pentwr esgyrn teuluol. Prin iawn yw'r nwyddau claddu a geir yn y beddrodau hyn — ychydig o botiau drylliedig a llond dwrn o offer fflint ar y mwyaf. Mae'n debygol y byddai'r seremoni i anrhydeddu'r meirwon yn digwydd y tu allan i'r siambrau eu hunain. Mewn cyfuniad, y nwyddau claddu prin hyn, yr esgyrn a'r beddrodau eu hunain yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth am fywyd a marwolaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod anghysbell hwn. Darllen Cefndir The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. The megalithic chambered tombs of the Cotswold-Severn region by T. C. Darvill. Vorda Publications (1982).
Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Oes y Cerrig O ran ei gyflwr, Bryn Celli Ddu (Ynys Môn) yw un o'r beddau cyntedd gorau yng Nghymru. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron). 5,500 o flynyddoedd yn ôl lledaenodd diwylliant cyffredin ar hyd a lled arfordir gorllewin Ewrop gan gydgysylltu Llydaw, Cernyw, Cymru, de'r Alban ac Iwerddon. Heddiw, mae'r dystiolaeth am y diwylliant hwn wedi goroesi ar ffurf beddau cyntedd - tomenni claddu crwn ac ynddynt dramwyfeydd wedi'u leinio â cherrig sy'n arwain i siambrau canolog. Adeiladwyd y beddau hyn gan gymunedau amaethyddol cynnar i gadw gweddillion amlosgedig y meirw, ac fe'u defnyddid am genedlaethau. Mae'n rhaid eu bod yn dirnodau pwysig a gysylltai'r byw â'u cyndadau. Yng Nghymru, Ynys Môn yw'r lle gorau i weld beddau cyntedd ac mae Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, dwy enghraifft bwysig, mewn cyflwr mor dda fel bod modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd. Barclodiad y Gawres Cynllun Bryn Celli Ddu yn dangos y dramwyfa sy'n arwain i ganol y twmpath crwn. Pan adeiladwyd Barclodiad y Gawres crëwyd un brif siambr ac, o boptu iddi, dair siambr ystlys y câi'r meirw eu gosod ynddynt. Yng nghanol y brif siambr roedd aelwyd a byddai'r tân a gyneuid yma yn goleuo'r bedd yn ystod defodau. Er mawr syndod i'r archaeolegwyr a fu'n cloddio'r bedd, cafwyd hyd i 'gymysgedd anghynnes' o esgyrn ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid ar safle'r aelwyd hon. Er na chawn ni fyth wybod y rheswm am y fath gymysgedd, ceir cipolwg pwysig ar un agwedd ar ddiwylliant adeiladwyr Barclodiad y Gawres drwy astudio'r celfwaith anghyffredin sydd wedi'i naddu ar y meini sy'n leinio'r dramwyfa a'r siambr. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys troellau a phatrymau igam-ogam dolennog anghyffredin. O ystyried y safle hwn yn unig, gellid diystyru'r patrymau a'u priodoli i ffansi'r adeladwyr, ond ceir cerfiadau o'r math yma mewn beddau cyntedd mor bell i ffwrdd ag Iwerddon a Llydaw. Mae rhai wedi awgrymu bod y cerfiadau, o bosibl, yn cynrychioli'r patrymau chwyrlïol a gysylltir â pherlewygon. Bryn Celli Ddu Maen cerfiedig y tu mewn i siambr Barclodiad y Gawres (Ynys Môn). Mae'r dull o gerfio a welir yn y bedd cyntedd hwn i'w ganfod mewn nifer o feddau yn Iwerddon. Cafwyd hyd i faen patrymog tebyg ym Mryn Celli Ddu (Ynys Môn). Fodd bynnag, yn yr achos hwn cafwyd hyd i'r maen yn gorwedd ar ei wyneb mewn twll o dan siambr y bedd, lle mae'n rhaid y cafodd ei gladdu cyn y dechreuwyd codi'r bedd. A gafodd ei gladdu er mwyn sancteiddio'r safle, neu a gladdwyd y maen er mwyn ei guddio? - dyma ddirgelwch arall sydd heb ei ddatrys. Nid beddau cyntedd Môn yw'r unig rai yng Nghymru. Ceir enghreifftiau eraill yng Ngwynedd a Sir Benfro, er nad yw'r rhain mewn cyflwr mor dda. Am y beddau cyntedd mwyaf a mwyaf cymhleth, y mae'n rhaid teithio i Iwerddon. Yma, dengys safleoedd megis Newgrange a Knowth pa mor uchelgeisiol y gallai cynlluniau adeiladwyr y beddau fod. Iwerddon Maen addurnedig y cafwyd hyd iddo o dan Fryn Celli Ddu (Ynys Môn). 1.5m (4.9 troedfedd) o uchder. Mae'r patrymau chwyrlïol ar y garreg hon yn nodweddiadol o gelfwaith beddau cyntedd. Yn Knowth, gerllaw'r bedd canolog, ceir mynwent ac ynddi o leiaf 18 o enghreifftiau llai, ac yn Newgrange aliniwyd y dramwyfa yn union ar linell codiad yr haul ganol gaeaf (Alban Arthur) gan y peirianwyr medrus a'i cododd. Yn y mannau hynny lle ceir beddau cyntedd, maent i gyd ychydig yn wahanol o ran eu cynllun. Eto i gyd, maent i gyd yn ddigon tebyg i'w gilydd i ddangos bod Môr Iwerddon yn dramwyfa brysur ar ddiwedd Oes y Cerrig, gyda chymunedau o Lydaw hyd yr Alban yn rhannu syniadau a dulliau o barchu'r meirw. Darllen Cefndir Newgrange, Co. Meath (Iwerddon), a chylch pydew yn y blaendir. Mae bedd cyntedd adluniedig Newgrange yn un o blith nifer o feddau enfawr yn Nyffryn Boyne.[Llun © Steve Burrow]. The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. Barclodiad y Gawres: the excavation of a megalithic chamber tomb in Anglesey, 1952-1953 gan T. G. E. Powell a G. E. Daniel. Gwasg Prifysgol Lerpwl (1956). Irish Passage Graves: Neolithic tomb builders in Ireland and Britain 2500 BC gan M. Herity. Gwasg Prifysgol Dulyn (1974). 'The chambered cairn of Bryn Celli Ddu' gan W. J. Hemp. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 86, tt216-58 (1931).
Beddrodau megalithig Oes y Cerrig yng Nghymru 14 Mai 2007 Beddrodau megalithig Pentre Ifan (Sir Benfro), un o'r beddrodau megalithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn wreiddiol, roedd ynghladd dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yng Nghymru ceir un o'r casgliadau gorau o feddrodau megalithig yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â bod yn weledol ddramatig, mae'r henebion hyn yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am fywyd a marwolaeth 5,500 o flynyddoedd yn ôl. Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o henebion. Fil o flynyddoedd yn ôl, cestyll oedd y nodweddion mwyaf trawiadol; fil o flynyddoedd cyn hynny caerau Rhufeinig oedd amlycaf, a chyn hynny, bryngaerau'r Oes Haearn. Ond yr henebion cynharaf i oroesi hyd heddiw yw beddrodau megalithig - siambrau claddu cerrig sy'n dal i greu ymdeimlad o'r gorffennol pell. Cafodd beddrodau megalithig eu hadeiladu bron 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ar adeg pan oedd trigolion Cymru yn byw mewn cymunedau bach, yn defnyddio offer cerrig ac yn rhoi prawf ar ddulliau hollol newydd o ffermio'r tir a chadw da byw. Heddiw, mae'r fath fywyd yn swnio'n syml ac yn ansoffistigedig o'i gymharu â'n ffordd ni o fyw. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth y beddrodau megalithig nad oedd bywyd pawb yn syml yn ystod y cyfnod hwn. At ei gilydd, mae beddrodau megalithig Cymru ar ffurf siambrau cerrig sy'n cynnwys maen capan mawr yn gorwedd ar ben nifer o feini unionsyth. Yn wreiddiol, byddai'r rhain wedi'u gorchuddio dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yn fynych, roedd i bob siambr flaengwrt lle arferid cynnal seremonïau. Maint y megalithau yw eu nodwedd amlycaf. I greu siambr Maen Ceti ym Mro Gŵyr bu'n rhaid codi un maen dros 4m (14tr) o hyd a 2m (7ft) o drwch. Mae maen capan enfawr Tinkinswood (Bro Morgannwg) yn pwyso 36 tunnell fetrig. Gartref i gyndadau'r gymuned Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl, yn seiliedig ar gloddiadau ar safle Clegyr Boia (Sir Benfro). Canolbwyntiai arferion dyddiol y rhan fwyaf o'r bobl ar dyfu cnydau, hel planhigion gwyllt a bugeilio defaid a gwartheg. Mae'r ffaith yr aeth pobl Oes y Cerrig i'r fath drafferth i adeiladu eu beddrodau yn arwydd o'u pwysigrwydd i gymunedau'r cyfnod hwn. Yn orffenedig, gweithredai'r beddrod fel crypt yr oes hon a châi'r siambr ei lenwi'n raddol â chyrff y meirw gyda threiglad y blynyddoedd. Mewn gwirionedd, roedd y siambr yn gartref i gyndadau'r gymuned. Ambell un heb ei ddarganfod? Darlun o Ddyffryn Ardudwy (Gwynedd), gan David Gunning. Adeiladwyd y cofadail hwn fesul cam; y rhan gyntaf a godwyd oedd y siambr ar y chwith. Ceir beddrodau tebyg i'r rhain mewn sawl rhan o Gymru. Yn ne-ddwyrain y wlad mae grŵp pwysig ohonynt i'w gael yng nghyffiniau'r Mynyddoedd Duon yn ogystal ag enghreifftiau eraill ym Mro Morgannwg. Yn ne-orllewin Cymru ceir clystyrau ohonynt yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ond ceir y beddrodau mwyaf trawiadol ym Môn, ardal sy'n nodedig am eu niferoedd a'u hamrywiaeth. Y beddrodau hyn yw'r ychydig sydd wedi goroesi'r gwaith o glirio'r tir i ateb gofynion byd amaeth, a'r ysbeilio a fu er sicrhau cyflenwadau o gerrig adeiladu - yn ddiau, roedd mwy o lawer yng Nghymru ar un adeg ac mae'n bosibl fod ambell un heb ei ddarganfod. Darllen Cefndir Maen Ceti, ar Benrhyn Gŵyr. Roedd gosod maen capan enfawr y siambr hon ar ben nifer o feini unionsyth llai yn un o gampau peirianyddol mawr Oes y Cerrig. The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006. Megalithic tombs and long barrows in Britain gan F. Lynch. Shire Publications (1997).