Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies 29 Gorffennaf 2007 David Davies (1818-1890) Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies) Hafn Talerddig, y dyfnaf yn y byd ar y pryd. Doc Rhif 1 ym 1913, pan oedd dociau'r Barri'n allforio 11 miliwn tunnell o lo. Mae'r ardal ym mlaen y llun ar y dde'n edrych fel arwynebedd solet a gwastad, ond dŵr y doc yw hwn mewn gwirionedd, wedi'i orchuddio â throchion a llwch glo. David Davies, Llandinam Trawsnewidiodd rhoddion a chymynroddion Gwendoline a Margaret Davies amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr. Y chwiorydd Davies oedd cyfranwyr mwyaf yr Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dechreuodd David Davies ei oes fel ffermwr tenant a llifiwr. Gwnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu rhan helaeth o system reilffyrdd y canolbarth wrth i Gymru Oes Victoria ddiwydiannu, bu'n arloeswr y diwydiant glo yng nghwm Rhondda, ac ef oedd y grym y tu ôl i'r gwaith o adeiladu dociau'r Barri. Rheilffyrdd Dechreuodd ei yrfa ym myd y rheilffyrdd wrth iddo adeiladu Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes ym 1859, a bu'n allweddol wrth adeiladu nifer o reilffyrdd y canolbarth, Dyffryn Clwyd a Sir Benfro. Ei gamp fwyaf fel peiriannydd y rheilffyrdd oedd hafn fawr Talerddig ar Reilffordd y Drenewydd a Machynlleth - hon oedd hafn ddyfnaf y byd pan gwblhaodd y gwaith ym 1862. Ond ni lwyddodd pob un o fentrau Davies — ni chyrhaeddodd y rheilffordd â'r enw crand Rheilffordd Manceinion a Milffwrdd fyth y naill le na'r llall! Glo — 'Davies yr Ocean' Bu 1864 yn drobwynt yng ngyrfa David Davies pan gymerodd les fwynau arloesol yng nghymoedd y de. Fe gymerodd ddwy flynedd i'r pyllau cyntaf ddechrau cynhyrchu ar raddfa fawr ac roedd wedi agor pum glofa ychwanegol erbyn 1886. Y flwyddyn ganlynol daeth y pyllau dan enw cwmni cyfyngedig cyhoeddus newydd, yr Ocean Coal Co. Ltd. Pan fu farw Davies ym 1890, hwn oedd cwmni glo mwyaf a mwyaf proffidiol y de. O'r pwll i'r porthladd Penllanw gyrfa David Davies oedd adeiladu'r doc yn y Barri. Cyfunodd Davies a nifer o berchnogion glofeydd eraill cwm Rhondda eu hymdrechion i ddatrys problem prysurdeb Rheilffordd Cwm Taf a dociau Bute yng Nghaerdydd. Aethant ati i adeiladu rheilffordd o'r maes glo i'r dociau newydd yn y Barri, oedd yn bentrefan bach bryd hynny. Er gwaetha'r gwrthwynebiad ffyrnig o garfan Bute, agorodd y doc ym 1889. Cyfoeth ar waith Roedd David Davies yn Fethodist Calfinaidd selog. Ffydd anghydffurfiol lem oedd hon, oedd yn unigryw yng Nghymru ac yn wahanol i Fethodistiaeth Wesleaidd. Fel holl aelodau teulu Gwendoline a Margaret, bu'n Sabathydd ac yn llwyrymwrthodwr gydol ei oes. Fe wnaeth hyn feithrin ynddo ymdeimlad dwfn o ddyngarwch a gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yn gyfrannwr hael iawn at achosion crefyddol ac addysgol. Gan iddo dderbyn addysg elfennol iawn ei hun, roedd darparu addysg prifysgol yng Nghymru yn agos at galon David Davies. Roedd yn gefnogwr brwd o'r coleg cyntaf a agorwyd yn Aberystwyth ym 1872. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Ceredigion rhwng 1874-86, a chafodd ei ethol i Gyngor cyntaf Sir Drefaldwyn adeg ei sefydlu ym 1889. Ar ôl David Davies Bu farw David Davies ym 1890 ac fe'i olynwyd gan ei fab Edward. Bu straen rhedeg y busnes yn ormod iddo, a bu farw gwta wyth mlynedd ar ôl ei dad. Olynwyd yntau yn ei dro gan David, brawd Gwendoline a Margaret, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf. Ef fu'n gorfod dygymod â dirwasgiad hir y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel. Yn dilyn y rhyfel gwladolwyd y diwydiant glo, y dociau, a'r rheilffyrdd, ac fe gollodd y teulu eu gafael ar eu busnesau helaeth. Heddiw mae holl lofeydd Ocean a'r rhan fwyaf o'r system rheilffordd a greodd David Davies wedi cau, ac mae dociau'r Barri'n gymharol segur.
Gwasg Gregynog 29 Gorffennaf 2007 Chwiorydd Davies Gregynog Wynebddalen The stealing of the mare (1930), gan Robert Maynard. Un o agweddau pwysicaf cysylltiad y chwiorydd Davies â'r celfyddydau oedd sefydlu Gwasg Gregynog. Y Wasg oedd yr unig elfen o'r cynllun celf a chrefft a gynlluniwyd ar gyfer Gregynog i gael ei weithredu, gan ddechrau cynhyrchu tua diwedd 1922. Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf, Poems by George Herbert, flwyddyn yn ddiweddarach, a'r llyfr olaf ym 1940. Roedd Gwasg Gregynog, fel gweisg preifat eraill y cyfnod, yn cynhyrchu llyfrau o safon uchel mewn niferoedd cyfyngedig. Argraffwyd llyfrau o'r fath ar bapur wedi'u wneud â llaw fel arfer, gan ddefnyddio gweisg llaw neu beiriannau llythrenwasg bach. Comisiynwyd nifer o brif ysgythrwyr pren yr ugeinfed ganrif i gynhyrchu darluniau ar gyfer y llyfrau. Roedd gan y chwiorydd eisoes lyfrau o rai o weisg preifat gorau diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, fel y rhai o weisg Kelmscott ac Ashendene. Staff Un o'r copïau o'r rhwymiad arbenig o'r Anerchiad a gyflwynwyd i'r Brenin Siôr V ar achlysur agoriad ffurfiol Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar 21 Ebrill 1927. Pan oedd y Wasg yn ei anterth, cyflogwyd dau ar bymtheg aelod o staff. Roedd y rhan helaeth o'r gweithlu cyffredinol yn yr ystafelloedd cysodi a rhwymo yn Gymry lleol. Daeth y staff artistig o Loegr a'r Alban yn bennaf. Ceisiodd Bwrdd Gwasg Gregynog gyflawni tri nod wrth gyhoeddi llyfrau cain, sef: argraffu llyfrau yn Gymraeg; cyhoeddi rhai o'r enghreifftiau gorau o lenyddiaeth Eingl-Gymreig; a chyhoeddi cyfieithiadau o weithiau Cymreig. O'r 1930au ymlaen, roedd y testunau'n fwy amrywiol. O'r pedwar deg dau llyfr, roedd wyth ohonynt yn Gymraeg, ac roedd gan unarddeg arall gysylltiadau Cymreig. Yr ystyriaeth hon o ddeunydd Cymreig oedd un o nodweddion arbennig y Wasg. Argraffiad o Anerchiad y Brenin The fables of Esope (1932). Daeth ysgythriadau pren Agnes Miller Parker ar gyfer y llyfr hwn, a XXI Welsh gypsy folk-tales (1933), â hi i sylw'r cyhoedd fel un o ysgythrwyr pren gorau'r ugeinfed ganrif. Cynhyrchwyd un o'r cyhoeddiadau prydferthaf ar gyfer Amgueddfa Cymru, a hynny ar fyr rybudd. Argraffiad o Anerchiad y Brenin oedd hwn, a ddarllenwyd pan agorodd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary yr Amgueddfa yn swyddogol ar 21 Ebrill 1927. Rhwymwyd nifer o gopïau mewn 'levant Moroco glas', ag ymylon aur. Argraffu Tudalen lliw Salm XC o Psalmau Dafydd (1929) Argraffwyd y llyfr 'gwasg' cyntaf, Poems by George Herbert, gyda gwasg llaw Albion. Yn fuan wedi hynny gosodwyd gwasg blaten Victoria a bwerwyd gan ei wneud yn llai llafurus. Y Victoria oedd prif wasg Gregynog, er mai defnyddio'r Albion wnaeth William McCance, ail oruchwyliwr y Wasg, pan argraffodd ei lyfr cyntaf, sef Comus John Milton ym 1931. Cyfyngwyd y pedwar llyfr cyntaf i un ffurfdeip (Kennerley), ond yn fuan iawn daeth yn bosibl defnyddio amrywiaeth o deipiau. Cynhyrchodd Gregynog ei theip eu hun hefyd, a ddefnyddiwyd ar gyfer un llyfr yn unig (Eros and Psyche, 1935). Roedd Gwasg Gregynog yn defnyddio papur wedi'i wneud â llaw. O 1927 ymlaen defnyddiwyd papur llaith i hwyluso'r broses argraffu — techneg a fu'n gyffredin am flynyddoedd cyn sefydlu'r Wasg. Herbert Hodgson, yr argraffydd o 1927 tan 1936, oedd yn bennaf gyfrifol am safon ragorol argraffiadau cynnar y llythrenwasg a'r ysgythriadau pren. Ysgythriadau Pren Un o dudalennau The story of the red-deer (1935/6), llyfr i blant, yr unig lyfr a gynhyrchwyd yng Ngregynog â'r darluniau wedi'u hargraffu mewn lliw. Argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain ag ysgythriadau pren addurnol rhwng y ddau ryfel byd. Chwaraeodd y Wasg ran fawr yn y cyfnod hwn. Y 1930au oedd un o gyfnodau hynotaf Gwasg Gregynog yng nghyd-destun darlunio llyfrau ym Mhrydain, gydag ysgythriadau synhwyrus Blair Hughes-Stanton a rhai cymhleth Agnes Miller Parker. Comisiynwyd nifer o artistiaid allanol i baratoi ysgythriadau, ac un o'r mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd David Jones; argraffwyd ei ddau ysgythriad yn Llyfr y Pregeth-wr. Rhwymiadau Llun o The stealing of the mare (1930) Roedd Gwasg Gregynog yn unigryw ymysg gweisg preifat, gan ei bod yn ystyried bod rhwymiad llyfr yr un mor bwysig â'i argraffiad. Hyd at 1935 rhwymwyd pob llyfr mewn defnydd bwcram neu bapur brith, ac un ohonynt mewn felwm, ond rhwymwyd nifer bach o argraffiadau arbennig mewn lledr, o liwiau a chynlluniau gwahanol. Fisher fu'n gyfrifol am rwymo bron pob un o'r llyfrau arbennig, ac ystyrir ei fod ymhlith rhwymwyr llyfrau gorau'r ugeinfed ganrif. Yr enghreifftiau gorau o'i ddawn oedd ei waith wrth gyflawni cynlluniau McCance a Hughes-Stanton, yn arbennig The Fables of Esope, The Revelation of Saint John the Divine a The Lamentations of Jeremiah. Cynlluniodd y staff artistig yn cynnwys Maynard a Hughes-Stanton gyfrolau arbennig eraill. Lluniau: Gwasg Gregynog/Gregynog Press
Y Chwiorydd Davies a’r Rhyfel Mawr 29 Gorffennaf 2007 Ymwelloedd Gwendoline â'r ddinas Ffrainc Verdun oedd wedi'i difrodi a bron yn wag ar 9 a 10 Mawrth 1917, ac fe gafodd y cerdyn post hwn i gofio ei hymweliad. Casgliad preifat (Lord Davies) Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar fywydau Gwendoline a Margaret Davies. Y ddwy chwaer o'r canolbarth a drawsnewidiodd amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru gyda'u rhoddion a'u cymynroddion. Lladdwyd rhai o'u perthnasau agos a bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, gan weld dinistr trychinebus yno gyda'u llygaid eu hunain. Roeddynt yn ymwybodol iawn o ddioddefaint milwyr Prydain a Ffrainc, a chawsant eu synnu gan ddioddefaint y ffoaduriaid sifil. Ymroddodd eu brawd David yn llwyr i ymgyrchu dros heddwch rhyngwladol, ond gobaith y chwiorydd oedd gwella bywydau'r cyn-filwyr oedd yn dioddef trawma yn sgil y rhyfel, drwy eu haddysgu yn y crefftau a thrwy gerddoriaeth. Allan o hyn datblygodd y syniad o sefydlu Gregynog fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, ac i drafod problemau cymdeithasol. Rhoi Lloches i Artistiaid yng Nghymru Ar 4 Awst 1914, ymosododd yr Almaen ar wlad Belg, gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu'n rhaid i dros filiwn o drigolion gwlad Belg ffoi o'u cartrefi. Penderfynodd y teulu Davies y dylid dod ag artistiaid o wlad Belg i Gymru, lle gallent weithio'n ddiogel, ac ysbrydoli myfyrwyr celf y wlad. Teithiodd yr Uwchgapten Burdon-Evans, eu hasiant, a'u cyfaill Thomas Jones i wlad Belg lle sefydlwyd grŵp o nawdeg un o ffoaduriaid, oedd yn cynnwys y cerflunydd George Minne, yr arlunwyr Valerius de Saedeleer a Gustave van de Woestyne a'u teuluoedd. Treuliodd y tri artist weddill y rhyfel fel ffoaduriaid, gan ddibynnu'n helaeth ar gymorth y teulu Davies. Er mai effaith gyfyngedig gawsant ar y celfyddydau yng Nghymru, effeithiodd eu halltudiaeth yng Nghymru ar waith y tri. Y Chwiorydd yn Ffrainc, 1916–18 Ar y cychwyn, bu'r chwiorydd yn gwneud gwaith elusennol oedd yn gysylltiedig â'r rhyfel gartref. Roeddent yn awyddus i wneud 'mwy i helpu', ond ni lwyddodd llawer o fenywod fynd i Ffrainc. Un ffordd o wneud hyn oedd gwirfoddoli trwy Bwyllgor y Groes Goch Ffrengig yn Llundain. Ychydig iawn o ddarpariaeth oedd yn y fyddin Ffrengig ar gyfer lles y milwr cyffredin, ac anfonodd y Pwyllgor fenywod i weithredu cabanau bwyd, ysbytai a gwersylloedd tramwy. Ym mis Gorffennaf 1916 anfonwyd Gwendoline i wersyll tramwy ger Troyes. Ymunodd Margaret â'r caban bwyd yno ym Mehefin 1917, ac mae eu dyddiaduron yn rhoi cofnod o'r cyfnod hwn yn eu bywydau. Cafodd stoiciaeth y milwyr Ffrengig cyffredin, a dioddefaint y ffoaduriaid lluddedig, sâl a llwglyd effaith ddofn ar y chwiorydd. Casglu yn ystod y Rhyfel Llwyddodd y chwiorydd i ychwanegu at eu casgliad celf yn achlysurol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod teithio yn Ffrainc adeg y rhyfel yn anodd, cafodd Gwendoline gyfleoedd i ymweld ag oriel Bernheim-Jeune yn sgil teithiau i Baris ar ran y Groes Goch. Prynodd luniau o waith Daumier a Carrière yno yn Ebrill 1917, a pheintiadau gan Renoir, Manet a Monet yn Rhagfyr. Yn Chwefror 1918 prynodd y tirluniau enwog gan Cézanne, Argae François Zola a Thirwedd ym Mhrofens, sydd ymysg y pwysicaf a'r mwyaf ysbrydoledig o'i phryniadau. Yn Chwefror 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun gan Augustus John. Aeth Margaret a hithau ati i gasglu mwy, ac ni chasglwyd gwaith unrhyw artist arall ar yr un raddfa ganddynt. Roedd hi'n benderfynol y dylid arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac yn ddiweddarach rhoddodd nifer o'i weithiau ar fenthyg i'r Amgueddfa. Nodiadau ar y Lluniau Paul Cézanne (1839–1906), Tirlun ym Mhrofens, olew ar gynfas, tua 1887–8 Prynodd Gwendoline y llun yma'r un pryd â Argae François Zola o waith yr artist ym 1918, ond am hanner pris y gwaith arall, £1,250. Fe'i peintiwyd yn fwy na thebyg o gartref y teulu ger Aix-en-Provence. Mae'n tywynnu â lliwiau De Ffrainc lle'r oedd y chwiorydd wedi treulio'u gwyliau ym 1913-14. Roedd hi'n fyd hollol wahanol i amodau gaeafol Paris dan lach y rhyfel. Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2438. Paul Cézanne (1839–1906), Argae François Zola, olew ar gynfas, tua 1879 Dyma un o'r lluniau pwysicaf a brynodd Gwendoline. Fe'i prynodd ym Mharis yn Chwefror 1918 am £2,500. Roedd caban bwyd Troyes ar gau ar y pryd yn ystod gwaith trwsio. Treuliodd y cyfnod yn y ddinas, wedyn ar fusnes y Groes Goch yn sgil bomio ysbeidiol yr Almaenwyr. Mae'n bosibl iddi weld y gwaith ar ymweliad cynharach am fod Margaret wedi cyfieithu stori'r masnachwr Ambroise Vollard am hanes bywyd Cézanne o'r Ffrangeg ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Ynghyd â Thirlun ym Mhrofens a brynodd yr un pryd, dyma un o'r lluniau cyntaf o waith Cézanne i ddod i gasgliad ym Mhrydain. Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2439. Camille Pissarro (1831–1903), Porthladd Rouen, olew ar gynfas, 1898 Prynodd Margaret sawl darn o waith Pissarro yn Orielau Leicester, Llundain, ym Mehefin 1920. Hwn oedd y drutaf a thalodd £550 amdano. Y flwyddyn flaenorol roedd hi wedi gweithio yn un o gabanau bwyd Pwyllgor Cabanau Eglwysi'r Alban yn Rouen. Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Margaret Davies, 1963) NMW A 2492.
Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Canwyllbren gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. 1734. Syr Watkin Williams Wynn (1693-1749) - 1740, olew ar ganfas. 76.2 x 63.2 cm Williams-Wynn o Wynnstay Daeth teulu Williams-Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru tua dechrau'r 18fed ganrif a pharhau felly am dros ddwy ganrif. Roedd gan sawl aelod o'r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau a daeth Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), 4ydd barwnig, yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, mae rhan fawr o'i gasgliad yn Amgueddfa Cymru. 'Cyfoeth Syr Watkin' Syr Watkin Williams-Wynn (1693-1749), 3ydd barwnig, oedd tirfeddiannwr mwyaf Cymru yn ystod y 1730au a'r 1740au, ac roedd yn un o arweinwyr cenedlaethol y blaid Dorïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn ŵyr i'r gwleidydd Syr William Williams (1633/4-1700) a ddaeth yn berchen ar stadau yn Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, nid gan ei dad yr etifeddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth mawr ond gan nifer o berthnasau benywaidd. Ym 1719, etifeddodd stad Wynnstay yn Sir Ddinbych a thiroedd eraill yng Nghaernarfon a Meirionnydd gan gefnder ei fam, Syr John Wynn. Ym 1715, priodwyd Wynn â merch ieuaf Edward Vaughan, Llwydiarth ac, erbyn 1725, roedd rhieni ei wraig a'i chwaer hŷn wedi marw ac felly etifeddodd ragor o stadau ym Maldwyn, Sir Ddinbych a Meirionnydd. Erbyn hyn, roedd yn berchen ar dros 100,000 o erwau, gwerth rhwng £15,000 ac £20,000 y flwyddyn, a rhoddodd hyn ddylanwad mawr iddo mewn etholiadau seneddol. Ar ôl marw ei wraig Ann Vaughan ym mis Mai 1748, priodwyd Wynn â'i ferch fedydd, Frances Shakerley (1717-1803). Ganed eu mab, yntau hefyd yn Syr Watkin Williams-Wynn, y 4ydd barwnig, ym mis Ebrill 1749. Lladdwyd Syr Watkin, a alwyd weithiau'n 'Dywysog Cymru', mewn damwain wrth hela ym mis Medi 1749. Ceir dau bortread ohono yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Gwaith Thomas Hudson, portreadwr ffasiynol o Lundain a dynnai luniau ffurfiol caboledig, oedd un o'r rhain. Llun pastel gan William Hoare o Gaerfaddon yw'r llall. Mae'n un o grŵp o luniau a gomisiynwyd gan gydymaith Wynn, yr Arglwydd Lichfield. Soffistigeiddrwydd diwylliannol a gyfoeth Mae dau ddarn o waith arian yn arwydd o gyfoeth a soffistigeiddrwydd diwylliannol Wynnstay, sef pâr o ganwyllbrennau mawr a stand teircoes enfawr ar gyfer tegell. Gwnaed y canwyllbrennau yn Llundain ym 1734 gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin, ac maent wedi'u boglynnu a'u castio â blodau, cregyn a sgroliau — yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. Roeddent yn rhan o set o bedwar a chawsant eu cynnwys mewn rhestr o waith arian Syr Watkin a luniwyd ar ôl iddo farw. Mae ychydig o waith arian a brynwyd gan y teulu ym 1720 wedi goroesi. Mae hyn yn beth eithriadol o brin oherwydd dim ond llond llaw o'r darnau hyn na chafodd eu toddi i'w hailddefnyddio.
Un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru 26 Gorffennaf 2007 Williams-Wynn o Wynnstay Syr Watkin Williams Wynn (1693-1749) - 1740, olew ar ganfas. 76.2 x 63.2 cm Daeth teulu Williams-Wynn, Wynnstay, Sir Ddinbych yn un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru tua dechrau'r 18fed ganrif a pharhau felly am dros ddwy ganrif. Roedd gan sawl aelod o'r teulu ddiddordeb yn y celfyddydau a daeth Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789), 4ydd barwnig, yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau gweledol a cherddoriaeth yng Nghymru. Erbyn hyn, mae rhan fawr o'i gasgliad yn Amgueddfa Cymru. 'Cyfoeth Syr Watkin' Syr Watkin Williams-Wynn (1693-1749), 3ydd barwnig, oedd tirfeddiannwr mwyaf Cymru yn ystod y 1730au a'r 1740au, ac roedd yn un o arweinwyr cenedlaethol y blaid Dorïaidd yn Nhŷ'r Cyffredin. Roedd yn ŵyr i'r gwleidydd Syr William Williams (1633/4-1700) a ddaeth yn berchen ar stadau yn Sir Ddinbych a Swydd Amwythig. Fodd bynnag, nid gan ei dad yr etifeddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth mawr ond gan nifer o berthnasau benywaidd. Ym 1719, etifeddodd stad Wynnstay yn Sir Ddinbych a thiroedd eraill yng Nghaernarfon a Meirionnydd gan gefnder ei fam, Syr John Wynn. Ym 1715, priodwyd Wynn â merch ieuaf Edward Vaughan, Llwydiarth ac, erbyn 1725, roedd rhieni ei wraig a'i chwaer hŷn wedi marw ac felly etifeddodd ragor o stadau ym Maldwyn, Sir Ddinbych a Meirionnydd. Erbyn hyn, roedd yn berchen ar dros 100,000 o erwau, gwerth rhwng £15,000 ac £20,000 y flwyddyn, a rhoddodd hyn ddylanwad mawr iddo mewn etholiadau seneddol. Ar ôl marw ei wraig Ann Vaughan ym mis Mai 1748, priodwyd Wynn â'i ferch fedydd, Frances Shakerley (1717-1803). Ganed eu mab, yntau hefyd yn Syr Watkin Williams-Wynn, y 4ydd barwnig, ym mis Ebrill 1749. Lladdwyd Syr Watkin, a alwyd weithiau'n 'Dywysog Cymru', mewn damwain wrth hela ym mis Medi 1749. Ceir dau bortread ohono yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Gwaith Thomas Hudson, portreadwr ffasiynol o Lundain a dynnai luniau ffurfiol caboledig, oedd un o'r rhain. Llun pastel gan William Hoare o Gaerfaddon yw'r llall. Mae'n un o grŵp o luniau a gomisiynwyd gan gydymaith Wynn, yr Arglwydd Lichfield. Soffistigeiddrwydd diwylliannol a gyfoeth Canwyllbren gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. 1734. Mae dau ddarn o waith arian yn arwydd o gyfoeth a soffistigeiddrwydd diwylliannol Wynnstay, sef pâr o ganwyllbrennau mawr a stand teircoes enfawr ar gyfer tegell. Gwnaed y canwyllbrennau yn Llundain ym 1734 gan of arian Protestannaidd o Ffrainc, Lewis Pantin, ac maent wedi'u boglynnu a'u castio â blodau, cregyn a sgroliau — yn yr arddull rococo ffasiwn newydd. Roeddent yn rhan o set o bedwar a chawsant eu cynnwys mewn rhestr o waith arian Syr Watkin a luniwyd ar ôl iddo farw. Mae ychydig o waith arian a brynwyd gan y teulu ym 1720 wedi goroesi. Mae hyn yn beth eithriadol o brin oherwydd dim ond llond llaw o'r darnau hyn na chafodd eu toddi i'w hailddefnyddio.