: Cyfoeth a Chyflog

199 o Geiniogau Arian - Celc y Fenni

Edward Besly, 6 Ionawr 2017

Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd.

Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd.

Yn Ebrill 2002 ffeindiodd tri chwilotwr metal (John L Jones, Richard Johns a Fred Edwards) ddarganfyddiad heb ei ail mewn cae ger y Fenni, Sir Fynwy: celc gwasgaredig o 199 o geiniogau arian.

Roedd y celc yn cynnwys darnau arian y brenin Eingl-Sacsonaidd Edward Gyffeswr (1042-66) a Gwilym Goncwerwr, sef y Norman, Wiliam I (1066-87). Cafodd y rhan o Gymru lle y darganfuwyd y darnau arian ei chyfeddiannu yn fuan wedi i'r Normaniaid orchfygu Lloegr. Codwyd cestyll cynnar yng Nghaerllion a Chas-gwent ac mae'r celc yn dyddio o'r cyfnod cyn sefydlu tref gyfagos y Fenni yn y 1080au.

Pan gafodd ei ddarganfod roedd y celc wedi'i orchuddio â chrawen drwchus o waddodion haearn. Yn y gwaddodion hyn cafwyd hyd i olion defnydd oedd yn awgrymu bod y darnau arian mewn cwdyn brethyn yn wreiddiol. Ni wyddys p'un ai a oedd yr arian wedi'i guddio'n fwriadol, neu wedi'i golli, ond yr un peth sy'n sicr yw bod ei berchennog yn dlotach o lawer: byddai un swllt ar bymtheg a saith geiniog (16s 7c, neu £0.83c) gyfwerth â chyflog sawl mis yn hanes y rhan fwyaf o bobl.

Bathu Arian

Mae darnau arian Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd yn ffynonellau hanesyddol unigryw: ar bob un datgelir enw'r lle y cafodd ei fathu a'r bathwr arian fu'n gyfrifol am y gwaith. Roedd y boblogaeth o fewn cyrraedd rhwydwaith o fathdai ar hyd a lled Lloegr (nid oedd bathdy yng Nghymru) a bob hyn a hyn câi'r arian a ddefnyddid ei gasglu ynghyd a'i ailfathu gan ddefnyddio cynllun newydd. Wrth reswm, roedd y brenin yn hawlio ei gyfran bob tro.

Mae celc y Fenni'n cynnwys cynnyrch 36 o fathdai hysbys, ynghyd â rhai cyhoeddiadau afreolaidd na ellir mo'u lleoli ar hyn o bryd. Darnau arian o fathdai'r ardal, megis Henffordd (34 darn) a Bryste (24), yw'r rhai mwyaf cyffredin; yn fwy niferus na'r rhai o fathdai mawr fel Llundain (19) a Chaer-wynt (20). Ar y llaw arall, ceir darnau arian unigol o fathdai bach fel Bridport (Dorset), neu rai pell i ffwrdd fel Thetford (Norfolk) a Derby. Mae celciau o orllewin Prydain yn brin iawn ac felly mae celc y Fenni wedi dwyn i'r amlwg nifer o gyfuniadau na chawsant eu cofnodi o'r blaen o ran bathdai, bathwyr arian a chyhoeddiadau.

Yn ôl pob tebyg, ni chawn wybod sut cyrhaeddodd y darnau arian hyn gornel cae yn Sir Fynwy ond, yn ogystal ag ychwanegu at ein gwybodaeth am arian bath, maent yn bwrw goleuni ar faterion ariannol yn yr ardal wedi'r goncwest Normanaidd.

Cafodd y celc, sydd ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ei ddatgan yn drysor o dan y ddeddfwriaeth gyfoes, ac mae'r darganfyddwyr wedi cael eu gwobrwyo.

Darllen Cefndir

Conquest, Coexistence, and Change. Wales 1063-1415 gan R. R. Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1987).

The Norman Conquest and the English Coinage gan Michael Dolley. Cyhoeddwyd gan Spink and Son (1966).

Bant â’i ben e!
Hanes Darnau Arian y Werinlywodraeth

Rhianydd Biebrach, 16 Rhagfyr 2016

 Portread o’r Brenin Siarl I

Portread o’r Brenin Siarl I

Ar fore rhewllyd 30 Ionawr 1649, yn dilyn rhyfel cartref hir a gwaedlyd rhwng y Goron a’r Senedd, cafodd Brenin Siarl I ei ddienyddio yn Llundain a chafodd y frenhiniaeth ei dileu. Dair blynedd yn gynharach, ym 1646, roedd y Senedd wedi cael gwared ar esgobion Eglwys Lloegr, a phan gafodd Tŷ’r Arglwyddi ei ddileu hefyd ym mis Mawrth 1649, roedd hi’n ymddangos bod cyfundrefn lywodraeth canrifoedd oed Prydain wedi diflannu am byth. Does ryfedd fod pobl ar y pryd yn dweud bod y byd wedi’i droi ar ben i waered.

Yn y pen draw, cwta un mlynedd ar ddeg y parodd cyfnod y Werinlywodraeth ansicr hon a chafodd y frenhiniaeth ei hadfer ym 1660. Ond, o bryd i’w gilydd, mae’r darnau arian unigryw a gafodd eu bathu yn ystod y cyfnod byr hwn yn dod i’r fei yng Nghymru wrth iddynt gael eu darganfod gan ddatgelyddion metel a’u nodi drwy’r

Cynllun Henebion Cludadwy . Maen nhw wedi cael eu darganfod mewn niferoedd bach ledled Cymru, o Faenorbŷr yn Sir Benfro i Cwm yn Sir y Fflint, ac mae eu cyflwr wedi amrywio, yn cynnwys un neu ddau a oedd wedi cael eu hailddefnyddio at ddibenion eraill maes o law. Felly beth sy’n eu gwneud nhw mor arbennig? Darnau arian ar gyfer y Werinlywodraeth

Nid yw’n syndod bod y dull cwbl newydd o lywodraethu a gyflwynwyd mewn ffordd mor waedlyd ar ôl dileu’r frenhiniaeth ym 1649 wedi esgor ar newid enfawr yn un o agweddau pwysicaf hunaniaeth y genedl - yr arian. Cyn hyn, roedd pob darn arian yn cael ei gyhoeddi yn enw’r brenin neu frenhines ac yn dangos delwedd ohono neu ohoni. Hyd yn oed yn ystod y Rhyfel Cartref (1642-48), roedd y Senedd – a oedd â Llundain, ac felly Bathdy’r Tŵr, o dan ei rheolaeth – wedi parhau i guro darnau arian yn y dull traddodiadol tra bod canlyniad y rhyfel yn ansicr. Ond â Phrydain bellach yn weriniaeth, roedd hi’n amlwg nad oedd diwyg canrifoedd oed darnau arian, gyda phen y brenin neu frenhines ac ysgrifen Lladin, yn briodol mwyach. Roedd angen diwyg newydd a fyddai’n pwysleisio dilysrwydd y drefn weriniaethol.

Pam maen nhw’n edrych yn wahanol?

Hanner grôt (dwy geiniog) y Werinlywodraeth a gafodd ei ganfod gan R. W. Bevans ym Maenorbŷr, Sir Benfro, 2009. Nid oedd llythrennau na dyddiad ar y darnau isaf eu gwerth.

Hanner grôt (dwy geiniog) y Werinlywodraeth a gafodd ei ganfod gan R. W. Bevans ym Maenorbŷr, Sir Benfro, 2009. Nid oedd llythrennau na dyddiad ar y darnau isaf eu gwerth.

Does dim angen i chi fod yn arbenigwr darnau arian i weld y gwahaniaeth amlwg rhwng y darnau newydd a’r rhai sy’n fwy cyfarwydd i ni i gyd – does dim pen brenin! Wrth reswm, ar ôl torri pen y brenin go iawn i ffwrdd, felly hefyd roedd rhaid tynnu’r ddelwedd ohono oddi ar y darnau arian. Gyda’r brenin wedi mynd, honnodd Tŷ’r Cyffredin mai nhw oedd yn arfer pŵer sofran ar ran y bobl, a bod Duw wedi rhoi sêl ei fendith i’r drefn newydd drwy alluogi’r Senedd i drechu’r brenin mewn brwydr. Cafodd yr honiad eofn hwn ei ategu gan y delweddau a’r llythrennau a ddefnyddiwyd ar y darnau arian newydd.

Ar du blaen y darn arian (pen), yn lle’r ddelwedd draddodiadol o ben y brenin/brenhines yn gwisgo coron, roedd tarian â chroes San Siôr arni, yn cynrychioli Lloegr. O’i hamgylch roedd torch o lawryf a phalmwydd, symbol o fuddugoliaeth y Senedd a’r heddwch honedig a ddeuai yn sgil hynny. Ar y tu chwith (cynffon), roedd tariannau Lloegr ac Iwerddon yn unedig, gydag Iwerddon yn cael ei chynrychioli gan delyn Wyddelig, ynghyd â’r dyddiad cyhoeddi a gwerth y darn. Nid oedd yr Alban, a oedd yn wlad annibynnol ar y pryd ac â’i darnau arian ei hun, yn cael ei chynrychioli, nac ychwaith Cymru, a oedd yn cael ei hystyried yn rhan o deyrnas Lloegr ac felly’n cael ei chynrychioli gan groes San Siôr – mae hyn yn wir ar Jac yr Undeb hyd heddiw.

Gwnaed newidiadau hefyd i’r llythrennau a oedd yn ymddangos o amgylch ymyl y darnau arian. Yn draddodiadol, byddai’r rhain wedi bod yn Lladin, gan roi enw’r brenin neu frenhines a rhestr gryno o’i deitlau neu ei theitlau (yn cynnwys hawl i Ffrainc!) yn ogystal ag arwyddair Lladin. Ond cafodd hyn ei ddisodli gan ‘THE COMMONWEALTH OF ENGLAND’ ar yr ochr flaen a ‘GOD WITH US’ ar yr ochr arall. Nid yn unig roedd y datganiadau syml hyn yn cael gwared ar bob cyfeiriad at bŵer brenhinol, ond roeddent hefyd yn disodli Lladin â’i gysylltiadau Catholig gyda Saesneg Protestannaidd da, ac yn honni hawl i nawdd a chefnogaeth Duw yng ngwir arddull y Piwritaniaid.

Ymateb y Brenhinwyr

Torlun pren o’r ail ganrif ar bymtheg yn dangos dau ddyn mewn tafarn, yn gwisgo clos pen-glin a oedd yn debyg i’r ddwy darian unedig ar ddarnau arian y Werinlywodraeth.

Torlun pren o’r ail ganrif ar bymtheg yn dangos dau ddyn mewn tafarn, yn gwisgo clos pen-glin a oedd yn debyg i’r ddwy darian unedig ar ddarnau arian y Werinlywodraeth. (Ffynhonnell: )

Er i Siarl gael ei drechu a’r frenhiniaeth ei dileu, roedd llawer o bobl wedi gwrthwynebu ei ddienyddio ac yn beirniadu’n hallt y drefn weriniaethol newydd a gafodd ei harwain gan Senedd y Gweddill hyd nes 1653. Roedd hyd yn oed y darnau arian yn destun gwawd, gyda brenhinwyr yn canfod ffyrdd o dynnu blew o drwyn y llywodraeth drwy wneud sbort am ben y dyluniadau newydd. Er enghraifft, yn ôl brenhinwyr, roedd y geiriau ar naill ochr y darnau yn awgrymu bod ‘Duw’ a’r ‘Werinlywodraeth’ yn groes i’w gilydd. Roedd tariannau Lloegr ac Iwerddon yn ymddangos yn unedig yn destun cryn ddifyrrwch hefyd am eu bod yn edrych fel clos pen-glin, ac roeddent yn cael eu hadnabod yng nghylchoedd y brenhinwyr fel ‘breeches for the rump’, gyda ‘rump’ nid yn unig yn cyfeirio at enw’r senedd (Rump Parliament yw’r enw Saesneg ar Senedd y Gweddill) ond hefyd yn air cyffredin am y pen-ôl.

Yn ddiddorol ddigon, ym 1658 fe wnaeth y llywodraeth ymgais i ddychwelyd at ddyluniad mwy cyfarwydd o’r cyfnod brenhinol. Roedd yn cynnwys proffil pennaeth newydd y wladwriaeth, yr Amddiffynnydd Oliver Cromwell, yn gwisgo coron lawryf ar yr ochr flaen, ac arfbais gyda – credwch neu beidio – coron ar ei ben ar y tu chwith. Roedd Cromwell wedi cael cynnig y goron ond roedd wedi ei gwrthod, felly a oedd ei chynnwys yn y dyluniad newydd yn ymgais gan y llywodraeth simsan i gyfleu delwedd o sefydlogrwydd gan ddefnyddio symbolau mwy cyfarwydd yr oes a fu? Bu farw Cromwell yn fuan wedi hyn ac ni chafodd y darnau arian eu cyhoeddi byth, felly nid yw pobl yn debygol o ddod o hyd iddynt gyda’u datgelyddion metel.

Yr Adferiad a thu hwnt

Hanner grôt y Werinlywodraeth wedi treulio a gafodd ei ailddefnyddio fel arwydd o gariad, a ganfuwyd gan Gwyn Rees ger Gwenfô, De Morgannwg, yn 2012.

Hanner grôt y Werinlywodraeth wedi treulio a gafodd ei ailddefnyddio fel arwydd o gariad, a ganfuwyd gan Gwyn Rees ger Gwenfô, De Morgannwg, yn 2012.

Hanner grôt y Werinlywodraeth a ganfuwyd gan Gwyn Rees ger Gwenfô yn 2015. Mae’n bosibl bod y twll wedi’i wneud i sicrhau na ellid ei ddefnyddio.

Hanner grôt y Werinlywodraeth a ganfuwyd gan Gwyn Rees ger Gwenfô yn 2015. Mae’n bosibl bod y twll wedi’i wneud i sicrhau na ellid ei ddefnyddio.

Methiant fu arbrawf y gweriniaethwyr yn y pen draw a chafodd y frenhiniaeth ei hadfer o dan deyrnasiad Siarl II ym 1660. Cafodd y rhai a lofnododd warant ddienyddio ei dad, y teyrnleiddiaid, eu crynhoi a’u dienyddio; cafodd corff Oliver Cromwell ei ddatgladdu a’i grogi mewn cadwynau hyd yn oed. Cafodd darnau arian y Werinlywodraeth eu trin yr un mor ddidrugaredd. Rhoddwyd y gorau i’w defnyddio a chawsant eu casglu er mwyn eu hailfathu rhwng 1661 a 1663. Amcangyfrifir bod dau o bob tri o’r darnau arian a fathwyd ers 1649 wedi cael eu casglu. Ond beth ddigwyddodd i’r gweddill?

Bydd y rhan fwyaf wedi cael eu cymryd dramor a bydd rhywfaint wedi cael eu celcio, ond mae’r darnau sydd wedi cael eu canfod gan ddatgelyddion metel yng Nghymru, pob un ohonynt yn geiniog neu’n hanner grôt, sef y darnau gwerth isaf, yn awgrymu bod rhai wedi cael eu colli’n ddamweiniol. Mae’r ôl traul ar y rhan fwyaf o’r darnau sydd wedi’u darganfod yn deillio o’r defnydd ohonynt neu ddifrod tra’u bod yn y ddaear, ond mae’n ymddangos bod un darn a gafodd ei ganfod gan Gwyn Rees ger Gwenfô yn Ne Morgannwg, yn 2012, wedi cael ei blygu a thwll wedi’i wneud yn y rhan uchaf ohono, er mwyn ei ddefnyddio fel arwydd o gariad a’i grogi o gadwyn neu ruban o bosibl. A gafodd y darn hwn ei golli’n ddamweiniol, neu ai tystiolaeth o dor-perthynas ydyw? Mae gan ddarn hanner grôt arall y Werinlywodraeth, a gafodd ei ganfod ger Gwenfô hefyd gan Mr Rees yn 2015, dwll yn ei ganol – mae’n siŵr mai diben hynny oedd ei ddirymu a sicrhau na ellid ei ddefnyddio ar ddechrau’r 1660au. Mae’n bosibl na wnaeth llywodraeth yr Adferiad adalw’r darnau gwerth isaf, felly hwyrach eu bod nhw wedi parhau i gael eu defnyddio y tu hwnt i’r 1660au cynnar.

Arwyddocâd hanesyddol

Hanner coron Gwerinlywodraeth Lloegr (2s 6d),

Hanner coron Gwerinlywodraeth Lloegr (2s 6d),

Er nad ydynt yn ennyn llawer o ddiddordeb ymhlith casglwyr oherwydd y dyluniad plaen a’r ffaith fod y darnau o werthoedd gwahanol yn edrych yr un fath, mae darnau arian y Werinlywodraeth yn ddifyr o safbwynt hanesyddol ac archaeolegol. A hwythau wedi cael eu defnyddio am gyn lleied o amser, maen nhw wedi goroesi cyfnod cythryblus yn hanes Prydain, gyda rhyfel gwaedlyd a chynhennus yn cael ei ddilyn yn gyntaf gan ddienyddiad brawychus y brenin ac yna gan flynyddoedd o newid gwleidyddol a chrefyddol wrth i’r wlad geisio canfod trefn dderbyniol i gymryd lle teyrnasiad brenhinol. Wrth i’r cyfundrefnau gwleidyddol fethu bob yn un, byrhoedlog hefyd oedd diwyg newydd y darnau arian – gyda Siarl II yn dychwelyd at y diwyg canrifoedd oed cyfarwydd yn dangos pen y brenin/brenhines, a dyna sydd wedi para hyd heddiw. Mae’r newidiadau enfawr yn y dyluniad yn dangos sut wnaeth y llywodraeth weriniaethol newydd geisio gwella clwyfau’r Rhyfeloedd Cartref a rhoi hwb i’w dilysrwydd yn absenoldeb y brenin. Ydy hi’n well eu gweld fel arwydd o fywyd yn dilyn yr un drefn fwy neu lai ag arfer, neu fel symbol o fyd a’i ben i waered?

Hanner coron patrwm Oliver Cromwell, 1658

Hanner coron patrwm Oliver Cromwell, 1658

Cofio ych gwyn Nannau

Oliver Fairclough, 15 Medi 2009

Peintiad o ych Nannau gyda Sion Dafydd, cowman y teulu, gan Daniel Clowes o Gaer.

Peintiad o ych Nannau gyda Sion Dafydd, cowman y teulu, gan Daniel Clowes o Gaer. Roedd yr ych yn un o'r olaf o yrr hynafol o wartheg gwynion yn Nannau.

Syr Robert Williames Vaughan (1768-1843)

Syr Robert Williames Vaughan (1768-1843). By permission of Llyfrgell Genedlaethol Cymru / National Library of Wales

Y ganhwyllbren a waned o gyrn ych Nannau, wedi'i mowntio ar ddau o'i garnau.

Y ganhwyllbren a waned o gyrn ych Nannau, wedi'i mowntio ar ddau o'i garnau. Gellir datgysylltu'r cyrn i'w defnyddio fel dau gwpan yfed.

cwpan derw ac arian

Mae'r cwpan derw ac arian hwn yn rhan o set o chwe chwpan siâp mes a wnaed o bren Ceubren yr Ellyll ar gyfer dathliadau pen-blwydd 1824 yn Nannau.

Ych gwyn Nannau

Ar 25 Mehefin 1824 cynhaliwyd gwledd i ddathlu pen-blwydd mab prif dirfeddiannwr Meirionnydd yn un ar hugain oed, ar stad Nannau, Dolgellau. Roedd y dathliadau gyda'r mwyaf crand a welwyd yng Nghymru, ac eisteddodd 200 o westeion i fwynhau gwledd oedd yn cynnwys golwyth anferth o gig yr ych gwyn o Nannau. Bellach mae nifer o'r pethau a gynhyrchwyd ar gyfer y digwyddiad, gan gynnwys canhwyllbren a wnaed o gyrn a charnau'r ych, yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Etifeddion stadau tiriog

Am ganrifoedd roedd yn gyffredin i gymunedau ddathlu pen-blwydd etifedd stad diriog wrth ddod i oed. Ymddengys bod hyn yn arbennig o wir yn y gogledd. Hyd at ddiwygiadau Seneddol 1832, roedd yr ardal yn geidwadol ei chymdeithas, a'i diwylliant traddodiadol Gymreig yn parhau'n gryf.

Y dathliadau enwocaf yw rhai Robert Williames Vaughan o Nannau.

Un o hoelion wyth y gymdeithas

Tad y bachgen ifanc, Syr Robert Williames Vaughan (1768-1843), 2il farwnig, oedd prif dirfeddiannwr preswyl Meirionnydd a'i hunig gynrychiolydd yn y Senedd am dros ddeugain 'mlynedd. Fel un o hoelion wyth y gymdeithas ymfalchïau mewn cadw hen arferion Cymreig yn fyw ac estyn croeso i'r gymdogaeth i'r tŷ agored yn Nannau, lle deuai'r trigolion i fwynhau ciniawau dyddiol.

Cig eidion i'r tlodion, cwrw i'r cyfoethogion

Nid ei deulu yn unig ddathlodd pen-blwydd dod i oed Robert Williames Vaughan. Ymunodd trigolion y trefi cyfagos yn y dathliadau hefyd, a oedd yn cynnwys goleuadau, sioeau tân gwyllt, hedfan balwnau a saethu magnelau. Roedd digonedd o fwyta ac yfed hefyd, yn enwedig cig eidion — bwyd na fyddai'r tlodion yn gallu ei fwyta fel arfer — a chwrw — diod y byddai'r cyfoethogion yn ei osgoi gan fod yn well ganddynt yfed gwin. Rhostiwyd ychen ar gyfer tlodion Corwen, Abermaw a'r Bala a chynhaliwyd ciniawau yng Nghonwy, Dolgellau a Chaer.

Byrddau'n plygu o dan bwysau danteithion

Y prif ddigwyddiad oedd y dathliad yn Nannau ei hun ar 25 Mehefin 1824. Codwyd pabell o bren, cynfas a gwellt o flaen y plasty a godwyd tua diwedd y 18fed ganrif. Yna eisteddodd 200 o westeion i fwynhau 'gwledd foethus a helaeth' i gyfeiliant yr alaw The Roast Beef of Old England.

Ar ôl y cwrs pysgod, cludwyd golwyth anferth o gig eidion, a oedd yn pwyso 166 pwys, i'r ystafell gan Sion Dafydd, cowman y teulu. Plygodd y byrddau dan bwysau'r danteithion. Yn ogystal â gwin, gosodwyd ystenau anferth o gwrw da ar y byrddau.

Roedd gan y Fychaniaid draddodiad hir o noddi diwylliant ac mae llwncdestun Syr Robert i'w fab yn dal ysbryd y digwyddiad: 'Boed iddo ofni Duw ac Anrhydeddu'r Brenin; dangos parch tuag at ei well a pharch tuag at y rhai oddi tano. Heddwch, Dedwyddwch a Chymydogaeth dda'.

Owain Glyndwr a derwen ceubren yr ellyll

Coffawyd yr ych gwyn mewn peintiad gan Daniel Clowes o Gaer, a gwnaed canhwyllbren o'r cyrn a'r carnau. Hefyd trefnodd Syr Robert bod chwe chwpan llwncdestun yn cael eu creu yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Fe'u gwnaed o bren Derwen Ceubren yr Ellyll, coeden hynafol o Nannau sydd â chysylltiad ag Owain Glyndwr. Fe'u trysorwyd gan y Fychaniaid ac maent bellach yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Dathliad 1824 oedd cyfnod penllanw dylanwad y teulu. Pan ddathlodd yr ardal briodas Robert Williams Vaughan un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach ym 1835, dywedid bod yr ymdeimlad yn y gymdogaeth yn parhau i fod yn 'deilwng o'r hen ddyddiau pan roedd y geiriau Radical a Diwygio yn anhysbys', ond ni fwynhaodd fyth yr un bri a'i dad, a bu farw'n ddi-blant ym 1859.

Erthygl gan: Oliver Fairclough, Adran Celf, Amgueddfa Cymru.

Diwydiant, diwylliant – cyfraniad chwiorydd Gregynog i Gymru

1 Ionawr 2009

Gwendoline Davies (1882 - 1951)

Gwendoline Davies (1882-1951)
Gwen, y chwaer hynaf, a'r mwyaf penderfynol a meddylgar, a oedd hefyd yn gerddor medrus.

Margaret Davies (1884 - 1963)

Margaret Davies (1884-1963)
Daisy, y chwaer iau, mwy ymarferol, a oedd hefyd yn arlunydd ac yn ysgythrwr rhagorol.

Neuadd Gregynog

Neuadd Gregynog

David Davies (1818-1890)

David Davies (1818-1890)
Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies)

'The Loan Exhibition of Paintings' 1913

'The Loan Exhibition of Paintings' a gynhaliwyd yn yr amgueddfa genedlaethol dros dro yn Neuadd Dinas Caerdydd yn 1913.

Roedd dwy chwaer o'r canolbarth, o'r enw Gwendoline (1882-1951) a Margaret Davies (1884-1963), ymhlith y cyntaf ym Mhrydain i gasglu darluniau'r Argraffiadwyr a'r Ôl-Argraffiadwyr Ffrengig. Gadawodd y ddwy eu casgliadau celf rhagorol i Amgueddfa Cymru, gan drawsnewid amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr.

Y chwiorydd Davies oedd y cyfranwyr mwyaf at gasgliadau'r Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Cafodd eu delfrydiaeth a'u haelioni effaith hynod ar fywyd diwylliannol a deallusol Cymru, ac rydyn ni'n dal i weld effeithiau hyn heddiw.

Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies

Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladodd ran helaeth o system reilffyrdd y canolbarth, ac roedd yn un o arloeswyr mawr diwydiant glo'r de.

Creodd David Davies ffortiwn anferth. Bu farw ym 1890, ac fe'i holynwyd gan ei fab, Edward. Yn eu tro, etifeddodd Gwendoline, Margaret a'u brawd, David, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf, y stad.

Magwraeth a phlentyndod

Ganed Gwendoline a Margaret ym 1882 a 1884, a llywiwyd eu plentyndod gan gredoau llym Methodistiaeth Galfinaidd. Cawsant eu dysgu bod dyletswydd arnynt fel Cristnogion i ddefnyddio'r cyfoeth mawr y byddent yn ei etifeddu er daioni.

Ar ôl cael addysg flaengar dda, datblygodd y ddwy gariad ddofn at gelf a cherddoriaeth. Gan fod hanes celf yn ei fabandod ym Mhrydain, astudiodd y chwiorydd yn yr Almaen a'r Eidal, cyn mynd ati i ddechrau casglu gweithiau celf.

Roeddent yn anghyffredin o wybodus ynglŷn â'r celfyddydau, yn enwedig o ystyried mai merched bonedd oeddent.

Dechrau casglu celf

Dechreuodd y chwiorydd gasglu celf o ddifrif ym 1908. Ymhlith y gweithiau cyntaf a brynwyd ganddynt roedd tirluniau o waith Corot, golygfeydd gwerinol o waith Millet a'r Storm a'r Bore wedi'r Storm o waith Turner.

Casglodd y ddwy bron i gant o ddarluniau a cherfluniau yn ystod eu chwe blynedd cyntaf o gasglu. Roedd eu chwaeth yn ddigon traddodiadol i gychwyn, ond ym 1912, trodd y ddwy at brynu gweithiau'r Argraffiadwyr.

Argraffiadaeth

Ar y cyfan, roedd y gweithiau Argraffiadol yn rhatach na'r gweithiau roedden nhw wedi bod yn eu prynu gan artistiaid fel Turner a Corot.

Prynodd Gwendoline ei pheintiad pwysicaf, La Parisienne, am £5,000 ym 1913.

Effaith y Rhyfel Mawr

Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith sylweddol ar fywydau Gwendoline a Margaret. Bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, ond llwyddodd y ddwy i ychwanegu at eu casgliad yn ystod y blynyddoedd hyn gan brynu gweithiau gan Daumier, Carrière, Renoir, Manet a Monet. Ym 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun o waith Augustus John

Ym 1918, prynodd Gwendoline ddau dirlun enwog o waith Cézanne, Argae François Zola a Thirlun ym Mhrofens,rhai o'i gweithiau pwysicaf a mwyaf craff.

Casglu ar ôl y Rhyfel Mawr

Ym 1920, prynodd Gwendoline rhai o'i gweithiau ceinaf efallai, sef Bywyd Llonydd â Thebot gan Cézanne am £2,000 a Glaw — Auvers gan Van Gogh am £2,020.

Talodd y chwiorydd symiau mawr am weithiau'r Hen Feistri hefyd, gan gynnwys Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad o waith Botticelli.

Gwelwyd lleihad sydyn yn eu gwaith casglu ar ôl hynny. Ym 1921, ysgrifennodd Gwendoline pam nad oedd modd iddynt barhau i brynu gymaint 'oherwydd yr angen dychrynllyd sydd ym mhob man'.

Er hynny, fe wariodd y chwiorydd dros £2,000 ar Goleufa o waith Turner ym 1922 a £6,000 ar Ddadwisgo Crist o weithdy El Greco ym 1923. Ym 1926 rhoddodd Gwendoline y gorau i gasglu'n llwyr.

Gregynog: canolfan i'r celfyddydau, cerddoriaeth a chrefftau

Cefnogodd y ddwy lawer o fentrau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au.

Ym 1920 prynodd y chwiorydd Neuadd Gregynog i'w sefydlu fel canolfan i'r celfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru. Ym 1922, sefydlwyd Gwasg Gregynog yno lle argraffwyd rhai o lyfrau ceinaf Prydain rhwng y ddau ryfel. Roedd Gregynog yn cydategu'r Amgueddfa Gelf a Chrefft yr oedd y chwiorydd eisoes wedi helpu i'w chreu yn Aberystwyth.

Cynhaliwyd Gwyliau Cerdd a Barddoniaeth poblogaidd yng Ngregynog tan ddechrau'r rhyfel ym 1939, pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel unwaith eto.

Gregynog — diwedd cyfnod

Pan fu farw Gwendoline ym 1951, daliodd Margaret ati â'r gweithgareddau y gallai barhau â nhw yn ystod ei blynyddoedd olaf. Ond heb Gwendoline, y 'prif grëwr ac ysbrydolwr', ni ddaeth oes aur Gregynog fyth yn ôl. Y flwyddyn cyn ei marwolaeth, cyflwynodd Margaret y tŷ a'r gerddi i Brifysgol Cymru i'w defnyddio fel canolfan gynadledda breswyl.

Troi casgliad personol yn un preifat

Ym mis Hydref 1951, cyhoeddodd yr Amgueddfa Genedlaethol ei bod wedi derbyn cymynrodd 'y diweddar Miss Gwendoline Davies'. Dyma un o'r rhoddion mwyaf gwerthfawr i gasgliad cyhoeddus ym Mhrydain mewn blynyddoedd diweddar.

Daliodd Margaret Davies ati i gasglu gweithiau celf tan ychydig cyn ei marwolaeth ym 1963, gan ganolbwyntio'n bennaf ar waith gan artistiaid Prydeinig modern, a llawer ohonynt yn Gymry. Gadawodd ei gweithiau hithau hefyd i'r Amgueddfa, a phrynodd nifer o'r gweithiau diweddarach gyda'r Amgueddfa mewn golwg.

Ym 1963, ymunodd cymynrodd Margaret o 152 o weithiau â chymynrodd ei chwaer. Gyda'i gilydd, trawsnewidiodd gweithiau'r chwiorydd ein casgliad celf cenedlaethol yn llwyr.

Nodiadau ar y lluniau

Jean-Baptiste Camille Corot (1796-1875), Castel Gandolfo, Bugeiliaid o'r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, olew ar gynfas, 1855-60
Jean-Baptiste Camille Corot

(1796–1875), Castel Gandolfo, Bugeiliaid o’r Tyrol yn dawnsio ger Llyn Albano, olew ar gynfas, 1855–60

Disgrifiwyd y gwaith hwn fel un o gampweithiau Corot ar y pryd. Talodd Gwendoline £6,350 amdano ym 1909. Roedd Margaret wedi cofnodi gweld 'sawl darn hyfryd o waith Corot' yn y Louvre yn gynharach yn yr un flwyddyn.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2443.

Jean-François Millet (1814-1875), Merch y Gwyddau yn Gruchy, olew ar gynfas, 1854-6.
Jean-François Millet

(1814–1875), Merch y Gwyddau yn Gruchy, olew ar gynfas, 1854–6

Prynodd Gwendoline a Margaret nifer o weithiau gan artistiaid Ysgol Barbizon yn ystod blynyddoedd cyntaf eu gwaith casglu. Millet oedd un o ffefrynnau'r chwiorydd.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2479.

JMW Turner, Y Bore Wedi'r Storm, olew ar gynfas, tua 1840-45
J.M.W. Turner

(1775–1851), Y Bore Wedi’r Storm, olew ar gynfas, tua 1840–5

Prynodd Gwendoline y llun yma am £8,085 ym mis Tachwedd 1908, a phrynodd Margaret Y Storm oedd yn cyd-fynd ag ef. Mae'n debyg i storm fawr 21 Tachwedd 1840 ysbrydoli'r ddau lun.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1952) NMW A 434.

Claude Monet (1840-1926), San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, olew ar gynfas, 1908
Claude Monet

(1840–1926), San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, olew ar gynfas, 1908

Teithiodd y chwiorydd i Fenis ym 1908 a 1909. Mae'r llun yn dangos eglwys San Giorgio Maggiore gan y pensaer Palladio fel silwét porffor yn y gwyll. Talodd Gwendoline £1,000 amdano ym mis Tachwedd 1912.

Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2485.

Teils llawr addurnedig o Gastell Rhaglan

6 Medi 2007

Castell Rhaglan.

Castell Rhaglan. Sefydlwyd amddiffynfeydd y castell, gan gynnwys y Tŷr Mawr a welir yng nghanol y llun, yn y bymthegfed ganrif. [Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron)].

Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif

Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex.

Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan.

Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan.

Teilsen faiolica

Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg.

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan

Adluniad o fywyd yng Nghastell Rhaglan yn yr unfed ganrif ar bymtheg, yn ystod cyfnod Trydydd Iarll Caerwrangon. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Gellir gweld tair canrif o ffasiwn a dylunwaith mewn casgliad o deils llawr addurnedig a ddarganfuwyd yn ystod gwaith adeiladu ar safle Castell Rhaglan ym 1947.

Ym 1549 olynodd William Somerset (1526-1589) ei dad gan ddod yn drydydd Iarll Caerwrangon a pherchennog Castell Rhaglan. O'i ganolfan yn ne-ddwyrain Cymru dechreuodd ar yrfa a sicrhaodd lwyddiant iddo yn llysoedd Edward VI (1547-53), Mari (1553-58) ac Elisabeth I (1558-1603). Fe'i claddwyd yn eglwys y plwyf yn Rhaglan.

Nid yw'n syndod fod y fath gymeriad amlwg wedi ceisio ffordd o fyw oedd yn gydnaws â'i statws cymdeithasol uchel, ac arwydd o'r uchelgais hwn oedd y gwaith ailadeiladu helaeth a wnaed ganddo ar y gaer-blasty roedd wedi ei hetifeddu.

Aeth ati i weddnewid y castell drwy fabwysiadu rhaglen foderneiddio gynhwysfawr oedd yn effeithio ar bob rhan o'r adeilad a'r tir: cafodd y neuadd a'r llety, y gegin a'r ystafelloedd gwasanaeth eu gwella, ychwanegwyd oriel hir a chrëwyd gardd yn null y Dadeni.

Cafodd celfi'r castell eu gwella hefyd drwy ychwanegu eitemau oedd yn adlewyrchu ffasiwn Ewropeaidd y dydd. Mae'r thema hon i'w gweld yn glir yng nghapel y castell.

Mae'r capel yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, pan roedd ganddo lawr deils priddwaith coch trwchus ag addurn wedi'i fewnosod ar eu hwynebau mewn lliw gwahanol. Yn aml, roedd gan deils deuliw o'r fath gynlluniau wedi'u mewnosod â chlai gwyn - yn achos Rhaglan, tarianau a monogramau yn bennaf - a byddai gwydredd clir yn cael roi drostynt cyn eu tanio. Y teils hyn oedd y ffasiwn diweddaraf yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a cheir hyd i enghreifftiau nodedig ym Mhalas Clarendon yn Wiltshire ac, yn fwy lleol, yn Abaty Tyndyrn.

Tua 1460 disodlwyd y rhain gan deils deuliw ac arnynt gynlluniau nodweddiadol o un o ddiwydiannau cynhyrchu teils Dyffryn Hafren - ac un o'r rhai sydd wedi'i ddyddio orau - ym Malvern, Swydd Caerwrangon. Mae'n rhaid bod y lliwiau melyn llachar a brown euraid wedi creu cefndir cyfoethog ar gyfer trysorau'r capel.

Nid oedd yr Iarll William yn hoff o'r fath gynlluniau. Gan dynnu ar ei brofiad o ffasiynau'r cyfandir, cafodd ei ysbrydoli gan gynnyrch yr Iseldiroedd Sbaenaidd a manteisiodd ar ei gyfoeth sylweddol i brynu teils priddwaith wedi'u gwydro ag alcam a'u peintio mewn dull unlliw a oedd yn boblogaidd yn ystod cyfnod y Dadeni.

Y canlyniad oedd trawsffurfio'r capel mewn modd dramatig, gan oleuo'r tu mewn ac ychwanegu cywreinrwydd i'w addurnwaith.

Gwaetha'r modd, ar ôl i Raglan gael ei adael yn wag yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr, ychydig iawn o newidiadau eraill yr Iarll i gelfi'r castell a phryd a gwedd ei ystafelloedd, sydd wedi goroesi. Yn hytrach, dyfalu'n unig a fedrwn ynglŷn â'r moethusrwydd y bu'n gyfrifol amdano, a myfyrio ar natur fyrhoedlog y cyfoeth hwnnw, sydd wedi goroesi ar ffurf casgliad bach o deils llawr peintiedig a llond dwrn o eitemau eraill.

Manylion am y Teils

  • Teilsen yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg o gapel Castell Rhaglan; fe'i cynhyrchwyd gan Ysgol Wessex. Mae'n portreadu dau aderyn yn bwydo o goeden ganolog. Defnyddiwyd teils ac arnynt yr un cynllun yn Abaty Tyndyrn a Chastell Gwyn gerllaw.
  • Teilsen Ysgol Malvern, o'r bymthegfed ganrif, a ddefnyddiwyd yn Rhaglan. Dyma a ddywed y testun Lladin: 'Bydded i heddwch Christ drigo yn eich plith hyd byth. Amen'.
  • Teilsen faiolica, yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg, o lawr y capel a osodwyd gan yr Iarll William, cyn 1572 yn ôl pob tebyg. Yn ôl pob tebyg, mewnforiwyd y teils hyn o'r Iseldiroedd Sbaenaidd, Antwerp efallai, lle sefydlwyd diwydiant cynhyrchu teils maiolica yn gynnar yn yr unfed ganrif ar bymtheg.

Darllen Cefndir

Raglan Castle gan J. R. Kenyon. Cadw: Cofadeiliau Hanesyddol Cymru (2003).

'The chapel at Raglan Castle and its paving tiles' gan J. M. Lewis. Yn Castles in Wales and the Marches gan J. R. Kenyon a R. Avent, tt143-60. Gwasg Prifysgol Cymru (1987).

The medieval tiles of Wales gan J. M. Lewis. Amgueddfa Cymru (1999).