Gwared ni rhag drwg: Dillad cuddiedig Elen Phillips, 9 Awst 2011 O dan y lloriau Esgid chwith oedolyn. Mae naw twll botwm ar hyd yr ochr. Fe'i claddwyd dan loriau Hen Wernyfed, Felindre, Aberhonddu er mwyn dod â lwc i'r tŷ. Wrthi'n adnewyddu hen dŷ? Byddwch yn wyliadwrus! Pwy a ŵyr beth sydd o dan y lloriau neu'r tu ôl i'r waliau? Efallai dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio'n fwriadol gan gyn-drigolion y tŷ er mwyn dod â lwc a ffrwythlondeb i'r cartref. 'Caches' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r cuddiadau bwriadol hyn, enw a ddaw o'r gair Ffrangeg am guddio. Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wedi casglu nifer ohonynt dros y blynyddoedd. Mae pob darganfyddiad newydd yn rhoi cipolwg gwerthfawr inni ar y traddodiad gwerin diddorol hwn. Esgidiau cuddiedig Esgidiau sy'n cael eu darganfod amlaf. Ceir hyd iddynt fel arfer yn agos i simneiau neu lefydd tân, ond anaml y'u darganfyddir fesul pâr. Esgidiau plant ydynt fel arfer. Cafwyd hyd i'r esgid ledr uchod o'r 19eg ganrif y tu ôl i le tân tŷ yn Llanfachreth ym 1994. Fe ddaeth y perchnogion ar draws pedair esgid arall yn yr un man, pob un ohonynt wedi mewn cyflwr treuliedig. Mwy na thebyg roeddent yn perthyn i uned deuluol o ddau riant a thri o blant. Roedd simneiau a llefydd tân yn fannau poblogaidd i guddio pethau oherwydd mai'r aelwyd oedd canolbwynt y cartref. Dyma oedd ffynhonnell gwres a chysur y cartref a lle i'r teulu ymgynnull. Weithiau byddai esgidiau yn cael eu cuddio o dan y lloriau, o gwmpas drysau ac o dan y grisiau. Credai rhai mai'r llefydd hyn oedd y mannau gwannaf mewn adeilad, ac felly gallai ysbrydion drwg neu wrachod gael mynedfa trwyddynt. Gosodid esgidiau yn y llefydd hyn er mwyn dal neu gornelu unrhyw ddrwg. Staes y tu ôl i'r wal! Nid esgidiau yw'r unig bethau sy'n cael eu darganfod. Cafwyd hyd i hetiau, siacedi a chlos penglin hefyd. Daeth y darn yma o staes o dŷ to gwellt yn Heol Cae Cerrig, Pontarddulais, o'r tu ôl i wal drwchus ar un ochr i'r aelwyd. Mae'n dyddio o ganol y 18fed ganrif ac wedi ei wneud o dair haen o ddefnydd: haen allanol o wlân, stribedi o esgyrn morfil a leinin o liain. Mae olion pwythau sidan mewn mannau. Y darn hwn fyddai panel blaen y staes yn wreiddiol, yn gorchuddio'r frest a'r stumog.Beth os dewch chi ar draws dilledyn wedi ei guddio? Os yn bosibl, ceisiwch osgoi ei drafod yn ormodol a chysylltwch â'ch amgueddfa leol am gyngor pellach. Cofiwch gymryd digon o luniau o'r dilledyn yn ei safle gwreiddiol cyn ei symud. Yn anad dim, cadwch eich llygaid ar agor; efallai mai darn o hanes yr adeilad yw'r hen recsyn yna dan y cerrig!
Tafodiaith Treforys, Gorllewin Morgannwg 29 Mawrth 2011 Nodweddion cyffredinol I lawer o bobl, gan gynnwys brodorion Cwm Tawe eu hunain, un o nodweddion hynotaf tafodiaith y cwm yw Calediad, sef, e.e., ddweud catw ac eclws yn hytrach na cadw ac eglws. Mewn gwirionedd, fodd bynnag, ar gyrion tiriogaeth Calediad y mae’r cwm: mae’n nodwedd ar yr holl ardal i’r dwyrain iddo. Fel y tystia’r nodweddion canlynol, yr hyn sydd yn hynodi’r dafodiaith hon yw mai dolen gyswllt, drawsnewidiol, ydyw rhwng ‘iaith Shir Gâr’ a’r ‘Wenhwyseg’. I Cysylltir yr acen â’r gorllewin gan: i e sydd yn sillaf olaf geiriau fel tafarne, ac emyne; ii a, nid , ae glywir mewn geiriau fel blân ‘blaen’, cal ‘cael’, can, a mâs ‘maes’. 2 Nodweddion sydd yn clymu’r iaith â’r dwyrain yw: i Calediad, sydd yn gyffredin, e.e. catw, Satwn, gwpod, ond heb fod yn gyson: dodi, gwbod, gyda; ii absenoldeb h a chw, e.e. efyd, onna, wsu ‘chwysu’. 3 Arbennig i orllewin Morgannwg a dwyrain Dyfed yw’r ffurf negyddol a geir yn Nagw dirwest eriôd wedi bod... Y Recordiad Enghraifft o dafodiaith Cwm Tawe yng Ngorllewin Morgannwg. Ganed Cecil Lewis yn Nhreforys ym 1913. Fe'i recordiwyd gan Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Odd rai’n myn’ i ifed ar y slei, of cwrs, on’ och chi ddim fod i fyn’ i dafarne i ganu. Ŷch chi’n ‘bod yr Annibenwyr, p’un e chi ‘di gwbod o’r blân, fe dorrodd yr Annibenwyr Cwm Rondda mâs o’r llifer emyne. /Do fe?/ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yntafarne, dorrws yr Annibenwyr... dyw e’m yn llifer emyne ni nawrl Tôn y botel na Cwm Rondda. Ŷn ni’n canu C’wm Rondda acha... ma man ‘yn nawr, mae man ‘yn ‘da fi nawr. Dere ‘ma gw’ boi bach. Edrychwch chi trw’r llyfyr emyne ‘na. Sdim Cwm Rondda ‘na /Cwm Rondda ‘na/. Na Tôn y botel. Ôn nw’n strict â’r pethe ‘ma slawer dydd, ôn nw? O, y ni odd y gwitha wi’n credu. Annibenwyr. Ôn i’n meddwl taw’r Methodistied odd... Methodists, ôn nw’n câl y bai ‘efyd. Shwrne dethon nw i ganu Cwm Rondda a Tôn y botel yn y tafarne... Blaen-wern, odd dim lot o Blaen-wern ‘ma, chwel’ ‘chos on nw’n can... Ethon i ganu e i tafarne, chwel’. Odd, os och chi’n ifed, ‘na’ch Waterloo chi. /Ife?/ ‘Na’ch diwedd chi. O ie. O, och chi ddim fod i ganu... Wel ŷn ni’n canu Cwm Rondda, ma gire Cwm Rondda gyda ni yn y manna, ond dim a’r tôn... O Duw annwl! On nw... Shwrne odd e’n myn’ yn gân tafarne /ie/, ddim ishe ‘wnna. On nw... Odd rai’n myn’ i ifed, though, yn’d odd e? Wel, ôon nw’n ifed, ond ôn nw ddim yn openly chimod. On nw’n gwpod bo’ nw’n ifed. Wel, alle gwŷr y meline byth wedi gwitho yn y meline oni bai bo’ nw... i gadw i... Wel, ôn nw... meddylwch chi bo’ chi’n wsu, bod cryse’n do’ mâs fel ‘san nw’n dod o’r dŵr. Wel och chi’n colli nerth ofnadw o’ch corff, w. Wel, mae’n marvellous bo’ nw wedi byw! /‘Ti, ‘ti./ Duw! So ôn nw’n ifed i neud lan y dŵr? Wel ôn. Ôn nw yn. A dodi halen ‘nôl yn y corff, ys wedôn nw, chwel. Wel odd e yn ffaith ‘efyd. Odd jest neb odd yn gwitho’n y meline yn deetotallers. /Na./ Braidd. Nagw, nagw dirwest eriôd wedi bod yn werth yn Dreforys. Bach iawn o Band of Hopes sy ‘di bod ‘ma eriôd. Dim on’ y plant odd yn y 30 Band of ‘Ope. Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed, ôn nw’n ifed. ‘Na beth odd amcan y Band of ‘Opes, ‘te, odd dirwest, ife? le. Teetotallers, Band of ‘Ope. O Duw annwl. On’ bach iawn o rina odd i gâl. Ôn nw’n ifed i... Wel, a ôn nw mâs nos Satwn, ôn nw? Cwrdda, cwrdda yn y tafan /ie/. Wel odd ddim pictures i gâl amser ‘ny. A’r unig man odd ‘da nw i gwrdda odd y tafan. Wel, och chi’n myn’ i dafan, och chi’n ifedl Odd y merched yn myn’ i dai tafarne? Na, na byth. Odd ddim merch câl myn’ i dafan. Beth... ôn nw’n ‘ala ‘i mâs, ôn nw? Dele ‘i ddim miwn. Cele ‘i ddim myn’ miwn. A odd snug— gwelsoch chi’r snug eriôd? Ma ryw gof ‘da fi amdanyn nw! Wel, ‘na fe, dim on’ i’r snug ôn nw’n cal mynd. Ife? /Ie./ Beth odd yn ots? Beth odd... Och chi ddim fod i gymisgu. Dinon a menŵod mewn tafan. Catw’r menŵod fel’a, cadw’r dinon a... ‘Cer di o fanna.’ Pwy fenŵod odd yn myn’ i dai tafarne ‘te? Y rough lot. Ife? Pwy ôn nw weti ‘ny, ‘te? O Duw, Duw! O’ son amdanoch chi. Câl menyw’n myn’ i dafan, och chi’n gomon ofnadw. W, dim o’ch ishe chi! Out! Odd ddim capel i chi, och chi out. On’ ‘na beth od, ma dyn... ôn nw’n gweud bod dyn yn ifed, odd menyw yn llemitan. ‘Na’r gair. ‘Oti JohnJones...?’ ‘O, mae e’n ifed, oti. A ma’i wraig e’n llymitan ‘efyd.’ Wel, ‘na’r hall mark wedi ‘ny. Os odd ‘i’n llymitan, walle dele ‘i ddim... dele ‘i ddim... odd ‘i ddim câl dod. Os odd ‘i’n dod i’r tafan, dim on’ i’r snug odd‘i’n câl dod.Jyst tu fiwn y drws. Rŵm bach, ŷch chi’m ‘bod, a mâs. Odd ‘i ddim câl myn’ miwn i’r bar a cymisgu â dinon. O Duw, Duw! Out! Odd rai menywod yn ifed yn tŷ? Wel, dim trw wpod i ni. Na, on nw’n myn’ i... On’ och chi ddim cymisgu â rina, chwel’. Ôn ni’n ‘bod dim amdenyn nw! Duw! Bydde Mam ‘di’n lladd ni ‘tân ni’n myn’ i dŷ menyw odd yn ifed! ‘O d... paid di â neud ‘na ‘to, cofia! Paid di â myn’ ‘da’r fenyw ‘na, ma ‘onna’n ifed, cofia!’ O, odd ‘i’n dread. Dread thing. Llymitan odd fenyw, ifed odd y dyn. ‘Na od, ife! Nodiadau mâs nos Satwn Annibenwyr ‘Annibynwyr’ Ffurf annisgwyl braidd, ac adlais efallai o’r rhigwm am yr enwadau. Ceir sawl fersiwn ac amrywiad ar y geiriau, ond un o’r rhai mwyaf poblogaidd yw: Annibynwyr, annibendod, Mynd i’r capel heb ddim adnod; Methodistiaid creulon cas, Mynd i’r capel heb ddim gras; Hen eglwyswyr eitha soft, Codi capel heb un loft; A’r Sosiniaid, o mor drist, Yn gwadu Duwdod lesu Grist. A rhag i’r Bedyddwyr gael cam, dyma bedair llinell o fawl a ddyfynnir gan W H Roberts yn ei gyfrol Aroglau Gwair Batis y dŵr Sy’n meddwl yn siŵr Na chân nhw ddim mynd i’r nefoedd Heb fynd trwy’r dŵr Cwm Rondda Tôn John Hughes y cenir geiriau Ann Griffiths, ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ arni yn aml. shwrne ‘unwaith, cyn gynted’ Shwrne dethôn nw i ganu Cwm Rondda... Shwrne ôn nw’n dod digon ‘en i ifed... Tôn y botel Tôn a gyfansoddwyd gan T.G. Williams (enw arall arni yw Ebenezer), ac y cenir emyn Dafydd William, ‘Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau’ ami. acha ‘ar’ Ffurf gyffredin yn y De-ddwyrain, ac sydd yn tarddu o ar uchaf. Ystyr amhendant sydd i acha a’r un berthynas sydd rhyngddo ac ar ag a geir rhwng mewn ac yn. Cf. Mae e acha bord ‘Y mae ar fwrdd’, ond Mae e ar y ford ‘Y mae ar y bwrdd’. Blaen-wern Tôn W.P. Rowiands, a gysylltir a nifer o emynau fel ‘Tyred, lesu, i’r anialwch’ ac ‘Atat, Arglwydd, trof fy wyneb’ (Pantycelyn). ‘Na’ch Waterloo chi Dywediad sydd yn cyfeirio at drechu terfynol Napoleon gan Wellington a Blücher yn 1815. Och chi’n colhi nerth ofnadw o’ch corff, w Ffurf ar ŵr ‘gŵr’ yw’r ŵ ar ddiwedd y frawddeg hon; ond — fel y prawf y darn hwn (lie y mae Mr Lewis yn siarad â merch) — nid ar gyfer cyfarch dynion yn unig y’i defnyddir. Mewn rhannau o’r De-orllewin clywir y ffurf lawn, ŵr; tebyg yw’r modd yr arferir man yn Saesneg brodorol De-ddwyrain Cymru. yn Dreforus ‘yn Nhreforus’ Cyffredin yn y tafodieithoedd yw treiglo enwau lleoedd yn feddal yn hytrach nag yn drwynol ar ôl yr arddodiad yn; cf. yn Gonwy, yn Gardydd. Band of Hope Cymdeithasau dirwest i blant a sefydlwyd yn wreiddiol tua 1847. cwrdda ‘cyfarfod’ Y ffurf wreiddiol ar y berfenw hwn yw cwrdd, a ddilynir yn aml gan yrarddodiad â. Yn sgil mynych gysyiitu’r berfenw a’r arddodiad ymdoddodd y ddau air yn un, hynny yw, troes cwrdd â yn cwrdda. yr unig man Nid yw tafodieithoedd y De-ddwyrain yn treiglo enw yn dilyn unig. miwn Ffurf gyffredin y De ar ‘mewn’. Yn y Gogledd ceir mewn, miewn, a miawn. walle ‘efallai’ fenyw ‘menyw’
Traddodiadau'r Nadolig: Bwyd 10 Mai 2010 Dathlwch y Nadolig hwn drwy archwilio ryseitiau sydd wedi dod â chenedlaethau o deuluoedd a chymunedau ynghyd. Bydd ein dewis yn llenwi'ch tymor â chynhesrwydd traddodiad, un rysáit ar y tro.Yr Ŵydd Cadw gwyddau ar ffarm ger y Bont-faen Bu'r ŵydd yn ganolog i'r wledd Nadolig yng Nghymru tan yn ddiweddar iawn. Ers yr Oesoedd Canol 'roedd gan y ffermwyr mawr ŵydd ar y bwrdd i Ginio Nadolig. 'Roedd gwyddau yn hawdd i'w magu a chawsent bori a lloffa ar y caeau ŷd ar ôl y cynhaeaf. Bu'n arfer gan y ffermwyr i roi gŵydd yn rhodd i'w tenantiaid a'u gweithwyr adeg Gŵyl Mihangel, ond gofalent am gadw nifer dda i'w tewhau ar gyfer y farchnad Nadolig. Yn gyffredinol, ni welwyd y twrci ar fwrdd Nadolig y Cymro tan ail hanner yr ugeinfed ganrif.Cacen Waed GwyddauYng nghanolbarth Cymru, roedd hi'n arfer i wneud cacen waed gwyddau pan fyddai'r ffermwyr yn lladd nifer fawr o wyddau ar gyfer Nadolig. Mae cof am ei gwneud yn ardal Trefeglwys a'r cylch, ac yn ardaloedd Staylittle, Llanbryn-Mair a Llangurig. Fe'i cyfrifid yn foethyn a gysylltid â'r Nadolig yn unig. Byddent yn tywallt gwaed tua tair o wyddau mewn basin pridd, a'i roi mewn sosbennaid o ddŵr a'i ferwi. Yna byddent yn gadael i'r gwaed oeri a chaledu cyn ei falu'n fân â llaw. Yna byddent yn rhoi'r 'gwaed' mewn dysgl bridd ac yn ei gymysgu â chyrens, blawd gwyn, siwet mâl, halen, sbeis a thriogl melyn. Cymysgu'r cyfan yn dda â llwy bren. Byddai'r cymysgedd yn cael ei grasu rhwng dwy haen o grwst brau ar blât yn y popty. Cyfuniad rhyfedd, meddech chi, ond cofiwch fod y mincemeat a geir mewn mins peis yn cynnwys cig yn wreiddiol! Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn Y Rysáit Pwdin Berwi Y mae'r pwdin berwi, yn llawn ffrwythau a sbeis, wedi ei gysylltu â'r Nadolig ers y ddeunawfed ganrif. Yr hen drefn oedd berwi'r cymysgedd yn un lwmp mawr mewn cŵd lliain - yr arfer a roddodd iddo'r enwau pwdin lwmp, pwdin clwt neu pwdin cŵd. Byddid yn rhwymo gwddf y cŵd a llinyn a'i grogi wrth ddarn o bren a roid ar draws y crochan fel bod y pwdin yn hongian i mewn yn y dŵr berw. Ar ddydd Nadolig byddid yn gwneud 'menyn melys' i dywallt drosto.Byddai pob aelod o'r teulu yn cymryd ei dro i droi a chymysgu'r pwdin ac yn gwneud dymuniad 'cudd' ar yr un pryd. Yr oedd hi'n arfer i guddio darnau bach o arian yn y pwdin - yr hen ddarnau tair ceiniog neu chwe-cheiniog - a mawr oedd y chwilio amdanynt yn y dysglau pwdin ar ddydd Nadolig.Noson Gyflaith Rhoi siwgr ar y darnau cyflaith i'w rhwystro rhag glynu wrth ei gilydd ‘Roedd cynnal ‘Noson Gyflaith’ gynt yn arfer draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru i ddathlu’r Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd. Yn eu tro, byddai teuluoedd yn gwahodd eu ffrindiau i’w cartrefi fin nos. Paratoent swper mawr ar eu cyfer, yn cynnwys gŵydd a phwdin Nadolig, fel rheol, ac yna byddai’r cwmni’n ymuno mewn chwaraeon, yn adrodd straeon ac yn tynnu cyflaith. Ar ôl berwi’r defnyddiau angenrheidiol i ryw ansawdd arbennig, tywelltid y cyflaith allan ar lechen neu garreg fawr wedi’i hiro ag ymenyn. Byddid yn glanhau carreg yr aelwyd a’i hiro ar gyfer yr achlysur hwn weithiau. Yna byddai pob aelod o’r cwmni yn iro’i ddwylo ag ymenyn ac yn cymryd darn o’r cyflaith i’w dynnu tra byddai’n gynnes. ‘Roedd hon yn grefft arbennig ac anelid at dynnu’r cyflaith hyd nes y deuai’n rhaffau melyngoch. Byddai’r dibrofiad yn edmygu medrusrwydd y profiadol ond ‘roedd aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb. ‘Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Hyd y gwyddom ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yno, ond ‘roedd yn arfer gan wragedd i’w werthu o’u cartrefi neu yn y farchnad leol. ‘Roedd ‘dant’ a ‘ffani’ ymhlith yr enwau a roid arno, ac weithiau rhoid enw’r gwneuthurwr arno, er enghraifft, ‘losin Magws’ neu ‘losin Ansin bach’. Gwerthid ef yn ddarnau bach, tua dwy owns am geiniog.Y Rysáit Teisen Dorth Y deisen dorth a wnaed ar gyfer y Nadolig yn siroedd de Cymru Gwneid teisen dorth yn arbennig ar gyfer y Nadolig yng nghymoedd diwydiannol de Cymru ac yn yr ardaloedd cyfagos. Bryd hynny, byddai gwragedd y pentref yn gwneud dwy neu dair teisen ar y tro ac yn eu cario i'r bacws lleol i'w crasu.'Roedd hi'n arfer i'r cymdogion 'brofi' teisennau ei gilydd yn ystod gwyliau'r Nadolig a cheir tystiolaeth (yn ardal Margam ger Port Talbot) am yr hen goel: os profai merch ifanc dair teisen ar ddeg o gwmpas un Nadolig y byddai'n siŵr o ennill gŵr cyn y Nadolig canlynol!Y Rysáit Cerdyn Nadolig o'r casgliad
Bando - Gêm y ffon gam 8 Chwefror 2010 Gêm y ffon gam Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69b8ae3d00601" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu bando yn gêm tîm boblogaidd trwy Gymru, ac yn arbennig felly yn Sir Forgannwg. Yn wir ym 1797 fe nododd un teithiwr rhwng y Bont-faen a’r Pîl mor brin oedd coed ynn a choed llwyfen yno, a hynny oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i wneud ffyn bando. Roedd John Elias (1774-1841), un o bregethwyr enwog y Methodistiaid Calfinaidd o Bwllheli, Sir Gaernarfon, a’r gwleidydd David Lloyd George (1863-1945), a fagwyd yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, ill dau yn chwaraewyr brwd yn wŷr ifainc. Roedd bando yn debyg i ryw ffurf gynnar ar hoci, gan mai nod y gêm oedd taro pêl gyda ffon grom o’r enw ‘bando’ ar draws maes y chwarae cyn ceisio ei gyrru i gôl y gwrthwynebwyr. Daw’r term ‘bando’ o’r gair Ffrangeg bande, sy’n golygu ‘ffon gam’. Gwnaed y ffyn yma o wahanol fathau o bren caled lleol, a byddai’r bêl, a oedd yn debyg o ran ei maint i bêl hoci heddiw, yn aml yn cael ei naddu o bren celyn neu focs. Medd-dod, trais a thranc y gêm Margam Bando Boys". Tua 1845 " loading="lazy" data-lightbox="js-69b8ae3d00601" /> Pren Bando Thomas Thomas, aelod o'r "Margam Bando Boys". Tua 1845 Yn draddodiadol byddai’r gornestau hyn yn cael eu cynnal rhwng gwahanol blwyfi. Byddai’r chwaraewyr yn cymryd y rhain gymaint o ddifrif nes eu bod, weithiau, hyd yn oed yn hyfforddi o flaen llaw. Er mai dynion a fyddai’n chwarae bando fel arfer, byddai merched yn gwylio’r gêm yn frwd. Yn wir, ceir tystiolaeth am un ornest fando a chwaraewyd ym Mro Morgannwg lle cuddiodd gwraig un o’r chwaraewyr y bêl o dan ei phais nes i’w gŵr ddod heibio i’w nôl. Bydda’r gemau’n amrywio yn ôl yr ardal, oherwydd nid oedd unrhyw reolau safonol, dim cyfnod penodol i’r chwarae na chyfyngiadau ar y nifer oedd i gymryd rhan. Roedd trais yn gyffredin, a hyd yn oed os oedd dyfarnwr yn bresennol nid oedd y chwaraewyr yn brin o daro eu gwrthwynebwyr gyda’u ffyn. Yn aml byddai’r gwylwyr yn gosod betiau ar y sgôr derfynol, a byddai’r tafarnwyr lleol yn sicrhau’n ddi-os bod digon o ddiod feddwol ar gael. Y cyfuniad peryglus hwn o gamblo, y ddiod ac ymddygiad aflywodraethus ar y cae ac oddi arno fu’n gyfrifol yn y pen draw am dranc y gêm. Bois Bando Margam Ffurfiwyd The First Glamorgan Rifle Volunteers ym Margam, Port Talbot yn 1859. Mabwysiadwyd y bathodyn hwn, sy'n dangos dwy ffon bando, ganddynt yn 1875. Yn ôl Edward Matthews (1813-92) o Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr, roedd y gêm mor boblogaidd ym Margam, gorllewin Morgannwg fel na fyddai neb dros ei flwydd oed yn fodlon cael ei weld heb ffon fando, ac ar adegau byddai cymaint â 3,000 o wylwyr yn mynychu’r gemau. Yn wir, erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bando’n bennaf gysylltiedig â Sir Forgannwg ac yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ysbrydolodd amlygrwydd y gêm ym Margam faled o’r enw ‘The Margam Bando Boys’ a ddathlai fedrusrwydd y tîm hyglod hwn. Yn ôl y faled, roedd gemau tîm eraill yn ddim o’u cymharu â bando: Due praises I'll bestow And all the world shall know That Margam valour shall keep its colour When Kenfig's waters flow Our master, straight and tall Is foremost with the ball; He is, we know it, and must allow it, The fastest man of all Let cricket players blame, And seek to slight our fame, Their bat and wicket can never lick it, This ancient manly game Our fame shall always stand Throughout Britannia's land; What men can beat us? Who dare meet us? Upon old Kenfig's sand? Should Frenchmen raise a voice To crush our peaceful joys, They'll get by storming a precious warming From Margam bando boys Like lions we'll advance To charge the sons of France; The Straits of Dover we'll ferry over And make the traitors dance Napoleon shall repent, If war is his intent; He'll sadly rue it if he'll pursue it; Proud Paris shall lament Bold Britons rule the main, And every hill and plain, From every nation throughout creation Our rights we will maintain Chwaraewyd bando yn ardal Aberafan hyd chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1876 bu farw Theodore Talbot, capten y Margam Bando Boys a’r etifedd i ystâd Margam, tua’r un adeg ag y sefydlwyd gweithiau tun Mansel, Avon Vale, a Thai-bach. Disodlwyd bando mewn byr o dro, wrth i’r gweithwyr tun droi at y gêm newydd honno, rygbi. Datblygodd y syniad o faes chwarae penodol yn ystod y 1870au, ac wrth i glybiau pwrpasol gael eu sefydlu crewyd caeau chwarae ar gyfer y timau a’u cefnogwyr. Roedd sefydlu cyrff i reoli gwahanol chwaraeon, megis Cymdeithas Bêl-droed Cymru (Football Association of Wales) ym 1876 ac Undeb Rygbi Cymru (Welsh Rugby Union) ym 1881, yn arwydd o oes newydd lle'r oedd chwaraeon o dan reolaeth ganolog, ac felly fe gollwyd unrhyw amrywiadau rhanbarthol.
Cyfenwau Cymraeg: Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru? 8 Chwefror 2010 Pam mae cymaint o Jonesiaid yng Nghymru? Os ydych wedi treulio amser yn hel achau, yna mae'r nifer gyfyngedig o gyfenwau sydd gan y Cymry wedi creu rhwystredigaeth ichi. Pam mae cyn lleied? Dyma ateb yr Athro Prys Morgan... Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry? Pa fath o enwau oedd gan yr hen Gymry? Fe ddechreuodd y Cymry gael cyfenwau parhaol tua phum can mlynedd yn ôl. Cyn hynny, 'doedd y Cymry ddim yn defnyddio cyfenwau parhaol. Beth on nhw'n defnyddio fel enwau? Wel beth on nhw'n defnyddio fel enwau oedd eu henw bedyddiol eu hunain, dwedwch fel Siôn neu rywbeth fel yna. Ac os oedd pobl yn gofyn 'Wel, ie, pa Siôn ych chi, achos mae 'na nifer o bobl â'r enw Siôn?', fydden nhw'n dweud, 'Wel fi yw Siôn ap Gruffydd ap Llywelyn ap Meilyr,' ac odd yr ap yma yn golygu mab rhywun. Ac och chi'n dweud Siôn ap Gruffydd ap Meilyr ap Gruffydd ap Rhys, ac och chi'n mynd yn ôl gyda'r ap yma, yn ôl tua naw cenhedlaeth. A'r rheswm am hynny oedd nad och chi ddim yn meddwl am eich hunan fel unigolyn o gwbl yng Nghymru. Yn ôl cyfraith Hywel Dda, a dyna oedd cyfraith y rhan fwya o bobol yn byw yng Nghymru hyd at bum can mlynedd yn ôl, 'doedd yr unigolyn ddim yn cyfrif fel unigolyn. Beth oedd yn bwysig oedd bod chi'n rhan o dylwyth. Pryd newidiodd y drefn? Pryd newidiodd hynny? Fe newidiodd y system gyda'r Ddeddf Uno. Tua phum can mlynedd yn ôl, fe ddaeth y Saeson i Gymru a mynnu bod y Cymry yn derbyn y cyfenwau parhaol, yr un fath â'r Saeson. Felly pan ofynnwyd i'r Cymry dderbyn rhywbeth oedd yn mynd i ddangos beth oedden nhw, ffordd oen nhw'n wahanol i bobl eraill, fe ddwedodd y Cymry, 'Wel, beth sy'n bwysig amdanon ni yw enwau'n tadau ni. Felly dw i yn Siôn, a mae 'nhad yn Siôn. A mae 'nhaid yn Gruffydd.' O wel, byddai'r clerc yn dweud, 'Gewch chi fod yn John son of John, a'r ffordd symlaf o'i ysgrifennu fe lawr yn Saesneg yw John Jones. Ond pam cymaint o Jonesiaid? Yn yr un cyfnod ag y gorfodwyd y Cymry i gael enwau parhaol — a dyma'r peth mwya' pwysig i gofio — yr oedd 'na broses o symleiddio yr enwau bedydd, enwau cyntaf plant. Yn lle bo' chi'n cael amrywiaeth aruthrol o enwau hyfryd fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Llywarch a Gwalchmai, yn dod o gyfnod cynnar iawn neu o gyfnod Catholig, roedd rhain yn cael eu hystyried yn enwau peryglus. On nhw'n enwau o bosibl yn baganaidd, ac odd lot ohonyn nhw yn enwau Catholig, fel Gwasmeir a Gwasmihangel a Gwasteilo, Gwasdewi. On nhw'n enwau Catholig, felly on nhw'n hollol waharddedig. Felly odd yr eglwys yn dweud bod rhaid i bawb cael enwau o gatalog syml iawn. Enwau saff iawn, fel John a David a Tomos ac ambell i enw brenin saff fel William ac Edward a Henry, ac yn y blaen. Dyna'r unig enwau saff. Ac felly, yn lle cael amrywiaeth o ryw gant a hanner o enwau oedd yn gyffredin trwy Gymru, fe symleiddiwyd rhain yn yr un cyfnod i ryw wyth neu naw neu ddeg o enwau! Felly Tomos, Davies, Jones ac yn arbennig felly Jones. Yn arbennig yn y gogledd, rych chi'n cael cannoedd ar gannoedd o bobl yn cael yr enw Jones yn cael ei orfodi arnyn nhw.