Y Dyn Bicer o Landaf - Bedd o'r Oes Efydd Cynnar yn Llandaf 12 Ebrill 2007 Bicer Llandaf Wrth adfer tŷ yn ardal Llandaf ym 1992, dadorchuddiwyd slab carreg anghyffredin oedd wedi'i orchuddio gan dywod afon a silt. O dan y slab roedd asgwrn hir a llestr clai. Daeth yn amlwg mai bicer oedd y llestr — llestr clai addurnedig oedd yn ffasiynol yng ngorllewin Ewrop tua 4,000 mlynedd yn ôl yn ystod 'Cyfnod y Bicer'. Mae'n bosib y byddai'r bicer wedi dal medd, cwrw neu ddiod arbennig arall yn wreiddiol. Roedd y slab cerrig yn dynodi safle bedd. Gyda chydweithrediad ac anogaeth y perchnogion, fe gynhaliodd yr Adran Archeoleg a Niwmismateg gloddfa yn nhramwyfa'r tŷ, i ail-agor y bedd a chloddio'i gynnwys. Roedd y gistfaen amgylchynol a adeiladwyd o slabiau o graig Radyr, yn anarferol gan ei bod ar ogwydd, ei maen capan yn pwyso ar ongl o 30°, yn wahanol i'r cistfeini bicer siâp bocs mwy traddodiadol. Ychydig iawn o'r sgerbwd sydd ar ôl. Y disgwyl oedd y câi'r sgerbwd ei ddarganfod ar ei gwrcwd, sy'n nodweddiadol o gyfnod y Biceri, ond dim ond darnau o'r craniwm (top y benglog) ac esgyrn y breichiau a'r coesau oedd wedi goroesi. Dadorchuddiwyd offer bedd ychwanegol, yn cynnwys mynawd efydd (offeryn pigfain ar gyfer torri tyllau mewn pren neu ledr), a naddyn flint — gwrthrychau a gladdwyd wrth ochr yr unigolyn i'w defnyddio yn y 'byd nesaf'. Cysylltir mynawydau â chladdedigaethau benywaidd fel arfer. Drwy ddadansoddi'r gwaddodion sy'n llenwi'r bedd, gallwn esbonio ffurf anarferol y gistfaen, a pham mai dim ond rhan o'r sgerbwd sydd wedi goroesi. Mae presenoldeb gwaddolion graddedig, a adawyd yn y bedd gan ddŵr, yn awgrymu bod llifogydd wedi ymyrryd ac wedi erydu'r gladdfa. Heddiw, mae'r afon Taf yn llifo heibio gerllaw, a chodwyd yr adeiladau ger man darganfod y bedd ar hen safle gorlifdir yr afon.
Y Gwyfyn Dillad - Prif bla pryfed yr Amgueddfa 5 Ebrill 2007 Webbing cloths moth - Tineola bisselliella Niwed gan wyfynod Larfaod y Gwyfyn Dillad Credir mai'r gwyfyn dillad cyffredin - Tineola bisselliella - yw'r prif bla pryfed a geir mewn Amgueddfeydd ledled y byd. Gall ddinistrio symiau anferth o ddefnydd anifeiliaid. Mae Amgueddfa Cymru'n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu dulliau newydd i reoli'r pla hwn. Adnabod eich gelyn Yn y gorffennol, roedd amgueddfeydd yn mygdarthu casgliadau'n gyson gyda llawer o bryfleiddiadau gwenwynig iawn, i roi stop ar yr ymosodiadau. Mae dulliau modern o reoli'n ceisio canfod unrhyw broblemau'n gynnar cyn bod unrhyw ddifrod yn cael ei greu - hanfod rheoli pla'n effeithiol yw adnabod eich gelyn. Y gwyfyn dillad cyffredin Pryfyn bach disglair lliw aur tua 6-8mm o hyd yw'r gwyfyn dillad cyffredin, neu'r webbing clothes moth, a welir yn aml yn rhedeg dros ddefnydd heigiannus, neu'n hedfan o amgylch ystafelloedd yn ddiamcan. Unig bwrpas y gwrywod yw cyplysu gyda'r benywod (nad ydynt yn hedfan), cyn iddynt farw. Yna mae'r benywod yn dodwy wyau bach a wthir rhwng ffibrau a blew. Y larfaod sy'n deor o'r wyau hyn sy'n achosi'r difrod. Maent yn gallu treulio ceratin, sydd mewn ffwr, gwlân, plu, gwallt, ewinedd bysedd ac ati. Gan mai diet braidd yn gyfyngedig yw hyn, mae'n well gan larfaod fwyd sy'n staenedig neu'n fudr, sy'n golygu mai dillad gwlanog budr a ymosodir arnynt fel arfer, yn ogystal ag ymylon carpedi sydd allan o gyrraedd y peiriant glanhau carpedi. Gwe sidanaidd amddiffynnol Mae'r larfaod yn amddiffyn eu hunain trwy wau tiwbiau sidanaidd, lle byddant yn byw ac yn bwyta. Y casys sidanaidd hyn sy'n rhoi'r enw webbing clothes moth iddynt. Pan mae'r larfaod wedi gorffen tyfu, maent yn chwilera y tu mewn i'r casys, cyn dod allan ymhen rhai wythnosau, fel gwyfynod. Nid yw'r oedolion yn bwyta nag yn achosi difrod eu hunain, ond maent yn cyplysu ac yn ailddechrau'r cylchdro bywyd unwaith eto. Ar wlân budr mewn awyrgylch cynnes a llaith, mae'n bosib gweld dwy neu dair cenhedlaeth mewn un flwyddyn. Gyda hinsawdd laith y DU, a'r ffaith bod storfeydd ac orielau amgueddfeydd yn cael eu gwresogi, mae'n hawdd gweld pam fod y gwyfyn dillad yn gymaint o bla. Yr arfer yn yr Amgueddfa oedd ymateb ar ôl dod o hyd i ddifrod. Bellach, y nod yw atal pryfed rhag dod i mewn i'r Amgueddfa yn y lle cyntaf, a'i wneud mor anneniadol a phosibl. Mae gan storfeydd ffenestri a drysau wedi'u selio'n dda, a systemau tymheru hidledig. Gan fod amgueddfeydd yn adeiladau cyhoeddus, mae'n anochel bod rhai gwyfynod yn cael eu cludo i mewn, yn oedolion, larfaod neu'n wyau. Cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed Mae chwilio am bryfed a difrod a achoswyd ganddynt yn rhan o waith cyson staff cadwraethol, sy'n cynnwys archwilio'n ofalus am arwyddion o ddifrod, a defnyddio trapiau. Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan flaenllaw yn natblygiad cenhedlaeth newydd o drapiau pryfed, wedi'u cynllunio i ddal rhywogaethau penodol megis y gwyfyn dillad cyffredin. Mae'r trapiau newydd yma wedi'u seilio ar bŵer rhyw. Mae'r benywod yn cynhyrchu persawr, neu fferomon - a all ddenu gwrywod dros bellter o sawl metr. Mae hyn yn effeithiol iawn ar gyfer gwyfynod mewn gofod cyfyng, megis cypyrddau ac ystafelloedd bach. Leinir y trapiau â glud a fersiwn synthetig o fferomon y gwyfyn dillad. Pryfleiddiadau fel dewis olaf Os llwydda'r gwyfynod i ymosod ar y defnydd, er gwaetha'r rhagofalon hyn, defnyddir pryfleiddiadau fel dewis olaf. Un o brif ddulliau rheoli plâu yn yr Amgueddfa yw gosod y gwrthrych mewn bag plastig a'i osod mewn rhewgell am ddau neu dri diwrnod, sy'n lladd y pryfed, yr wyau a'r larfaod, ond heb ddifrodi'r gwrthrych mewn unrhyw fodd, na gadael gwaddodion gwenwynig. Trwy gyfuniad o wyliadwriaeth, glanweithdra da ac arbenigedd, mae plâu o bryfed megis y gwyfyn dillad cyffredin yn brin y dyddiau yma, a gellir delio â hwy'n gyflym.
Portread o Sgweier Cymreig a'i blant, gan Johann Zoffany, arlunydd nodedig Siôr III 22 Chwefror 2007 Mae nifer o bortreadau o Gymry amlwg yng nghasgliadau celf Amgueddfa Cymru. Serch hynny, mae'r Amgueddfa'n casglu portreadau o bobl llai adnabyddus hefyd, oherwydd y gallant fod yn werthfawr fel gweithiau celf. Yn aml, mae astudio'r portreadau hyn yn bwrw goleuni newydd ar gyfnodau a bywydau'r sawl a gafodd ei ddarlunio, gan ychwanegu hefyd at ein dealltwriaeth o gelfyddyd y gorffennol.Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r Amgueddfa wedi caffael nifer o bortreadau nodedig o'r 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, yn cynnwys Henry Knight o Tythegston gyda'i dri o blant, a beintiwyd gan Johann Zoffany (1733-1810) tua 1770.Henry Knight of Tythegston gyda'i dri o blantgan Johann Zoffany Johann Zoffany (1733-1810) Henry Knight o Landudwg (1738-1772) gyda'i Blant. Tua 1770 - olew ar gynfas Mae'r portread yn dangos Henry Knight (1738-1772), sgweier o Sir Forgannwg, gyda'i dri o blant Henry, Robert ac Ethelreda. Bu Henry'n filwr yng nghatrawd y 15th Light Dragoons, a darlunir ei fab hynaf yn gwisgo helmed y gatrawd. Fe etifeddodd Robert Knight (1711-1765), sef tad Henry Knight, ystâd Tythegston teulu'r Lougher drwy ei fam ym 1732. Fe ysgarodd Henry ei wraig ym 1771, a oedd bryd hynny'n broses anodd a drud yr oedd angen Deddf Seneddol breifat i'w gweithredu. Mae'n bosib bod y paentiad wedi cael ei gomisiynu i ddarlunio penderfyniad Henry Knight i adael y fyddin er mwyn gofalu am ei blant. Yn y darlun mae'n gwisgo dillad bob dydd ond mae'n cydio mewn spontoon - math o bicell fer y byddai swyddogion y troedfilwyr yn ei chario - a'r llafn wedi'i wthio i'r ddaear. Mae ei feibion yn dal ei gleddyf, ei gorsied a'i helmed. Gosodir y darlun ar lan y môr, ac mae'n debygol mai cyfeiriad yw hyn at Tythegston, sydd filltir neu ddwy o'r arfordir, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl. Mae motiff y goeden, a ddefnyddir yn aml yn narluniau Zoffany o grwpiau teuluol, yn caniatáu pwysigrwydd cyfartal i bob ffigwr. Mae dangos y bechgyn yn chwarae ag arfau ac arfwisg yn perthyn i draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl i gyfnod y Dadeni.Johann ZoffanyDyma un o bortreadau teuluol mwyaf Zoffany (yn mesur 240 cm x 149 cm), ac mae'n gomisiwn rhyfeddol o uchelgeisiol ar gyfer sgweier Cymreig o gyfoeth cymedrol. Roedd Zoffany, un o arlunwyr mwyaf adnabyddus teyrnasiad Siôr III, yn enwog am ei arddull anffurfiol. Mae un o'i ddarluniau mwyaf adnabyddus, Syr Lawrence Dundas gyda'i ŵyr, yn dangos y campwaith Isalmaenig o'r 17eg ganrif The Calm gan Jan van de Cappelle, sydd hefyd yng nghasgliadau'r Amgueddfa.Ganwyd Zoffany ger Frankfurt ac fe'i hyfforddwyd yn Rhufain cyn iddo symud i Lundain ym 1760. Mae'n debyg mai'r Arglwydd Bute, prif weinidog cyntaf Siôr III, wnaeth ei gyflwyno i'r Teulu Brenhinol, a daeth i fod yn hoff arlunydd y Frenhines Charlotte. Fe'i penodwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol gan y Brenin ym 1769. Mae apêl ei waith yn deillio o'i ddawn o beintio tebygrwydd da, yn ogystal â'i sylw rhyfeddol at fanylder. Fodd bynnag, mae ei bersbectif yn wallus ar brydiau, ac yma mae'n amlwg bod yr helmed sydd ym mreichiau'r mab hynaf yn rhy fawr.Prynu'r portread ar gyfer yr AmgueddfaMae'r darlun wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig o dda. Mae archwiliadau pelydr x yn dangos bod yr arlunudd wedi gwneud newidiadau i ben Robert Knight (y mab ieuengaf mewn gwisg goch), ond dim ond ambell i newid bach arall a wnaed i'r cynllun, a phaentiwyd gweddill y cyfansoddiad yn weddol denau. Benthycwyd y paentiad i'r Amgueddfa o 1940 hyd at 1958. Pan aeth ar werth yn Sotheby's ym 1999 daeth yn flaenoriaeth i'r Amgueddfa ei brynu. Bu'n bosibl ei brynu o ganlyniad i roddion hael oddi wrth gymynrodd June Tiley, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Chronfa'r Casgliadau Celf Cenedlaethol.
Crefft y Seremoni De Japaneaidd 22 Chwefror 2007 Ym 1915 fe dderbyniodd yr Amgueddfa nifer o gratiau a oedd yn cynnwys tecstilau, lacer, printiau bloc pren a llestri ar gyfer y seremoni de Japaneaidd (chanoyu). Anfonwyd hwy o Siapan gan Bernard Leach, crochenydd y dylanwadwyd arno'n gryf drwy gydol ei yrfa gan ei brofiadau Japaneaidd. Gan na chofnodwyd yr eitemau ar y pryd fe aeth y rheswm dros eu prynu'n angof. Serch hynny, mae wedi bod yn bosib eu hadnabod yn ddiweddar. '...rhywbeth unigryw' Chaire (pot te), llestri caled Shigaraki, o ddiwedd yr 16eg ganrif mae'n debyg Pan aeth Bernard Leach i Japan am y tro cyntaf, roedd yn artist ifanc a oedd newydd ddarganfod crochenwaith Japaneaidd. Fodd bynnag, sefydlodd ei hun, mewn amser byr iawn, fel prif grochenydd Prydeinig yr 20fed ganrif. Nid oedd yn amau gwerth y casgliad a ddisgrifiwyd ganddo fel 'rhywbeth unigryw'. Dilynodd gyngor y meistri te Japaneaidd, a chasglodd eitemau o'r math oedd yn cael eu trysori fwyaf yn y traddodiad Japaneaidd chanoyu, yn seiliedig ar egwyddorion a sefydlwyd yn y 16eg ganrif. Yn ôl yr egwyddorion hyn fe ddylai'r gwrthrychau sy'n cael eu defnyddio fod yn syml ac yn ddiymhongar, gan gyfrannu at yr ymdeimlad o fyfyrdod tawel a ysbrydolir gan y seremoni. Mae'r chaire (pot te) a anfonwyd gan Leach yn arddangos y nodweddion hyn yn berffaith. Mae'n esiampl o wneuthuriad garw crochenwaith caled Shigaraki, a werthfawrogir gan arbenigwyr te ers y 15fed ganrif. Yn draddodiadol byddai gwestai yn archwilio ac yn clodfori gwrthrych o'r fath ar ôl i'r gwesteiwr orffen gweini'r te. Ail-greu chanoyu Mae Chanoyu yn gelfyddyd ac yn ffordd o fyw, ac mae'n weithred o letygarwch a chanddi nifer o ddefodau. Mae gwrthrychau'n cael eu dewis, eu gosod a'u trin yn ofalus iawn, nes bod y cyfuniad o'r gwrthrychau a'r bobl, a'r amser a'r lle'n golygu bod pob seremoni yn ddigwyddiad unigryw na ellir ei ailadrodd. Mynnodd Leach y dylid dangos yr un parch pan ddangoswyd y casgliad yn yr Amgueddfa ym 1924. Traddodiadau Japaneaidd Gwrthrychau Chanoyu a gasglwyd gan Bernard Leach Pan oedd Leach yn Japan, roedd treftadaeth y wlad mewn perygl o gael ei cholli oherwydd twf cyflym diwydiant ac effaith y gorllewin. Roedd rhai yn gweld y seremoni de fel metaffor o'r Japan draddodiadol, a gobaith Leach oedd y byddai'r caffaeliad yn medru helpu i wella'r ddealltwriaeth rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin. Yn ei henaint, defnyddiodd Leach ei brofiad i weithredu fel cyfryngwr rhwng byd diwylliannol Gorllewin Ewrop a Dwyrain Asia. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bellach bod y cylchoedd Japaneaidd yr oedd yn troi ynddynt wedi cael eu dylanwadu'n helaeth gan athroniaeth y Gorllewin, ac y dylid amau ei honiad iddo ddeall traddodiad dilys Japan. Serch hynny, mae Leach yn ffigwr nodedig yn hanes y rhyngweithio parhaol rhwng Ewrop a Dwyrain Asia. Mae'n addas felly bod yr eitemau hyn yn cael eu gwerthfawrogi, nid yn unig am eu prydferthwch a'u hynafiaeth, ond hefyd y cyswllt rhyngddynt â Leach ei hun. Darllen CefndirEdmund de Waal, Bernard Leach (London: Tate, 1999); Emmanuel Cooper, Bernard Leach: Life and Work (New Haven & London: Yale University Press, 2003); Kakuzo Okakura, The Book of Tea (New York: Dover, 1964); Paul Varley and Kumakura Isao (eds), Tea in Japan: Essays on the History of Chanoyu, (Honolulu: University of Hawaii Press, 1989)
Dwy wraig Syr Watkin Williams-Wynn 19 Chwefror 2007 Dau bortread godidog gan Syr Joshua Reynolds Syr Joshua Reynolds (1723-1792), Sir Watkin Williams-Wynne and Henrietta Somerset. Priodwyd ar 11 Ebrill 1769 a bu hi farw ar 24 Gorffennaf yr un flwyddyn. Mae Syr Joshua Reynolds (1723-1792) yn ffigwr pwysig ymysg arlunwyr Prydain. Un o'i noddwyr mwyaf brwd oedd y tirfeddiannwr cyfoethog Cymreig Syr Watkin Williams-Wynn (1749-1789). Erbyn yr 1760au hwyr roedd incwm Syr Watkin yn caniatáu iddo wario symiau anferthol ar brosiectau adeiladu a phrynu gweithiau celf. Ym 1769 priododd Syr Watkin y Fonesig Henrietta Somerset, merch 4ydd Dug Beaufort. Bu'n briodas fer gan i Henrietta farw dri mis yn ddiweddarach. Prynodd ei mam-yng-nghyfraith set ymolchi arianwaith, wedi'i wneud gan Thomas Heming ym 1768, i Henrietta yn anrheg priodas. Syr Watkin Williams-Wynn a Henrietta Somerset Mae portread cyntaf Reynolds ar gyfer Syr Watkin, Sir Watkin Williams-Wynn and Henrietta Somerset, yn ddarlun maint llawn o'r pâr mewn gwisgoedd du a phinc sy'n cyfateb â'i gilydd. Maent yn dal mygydau theatrig mewn lleoliad pensaernïol o flaen llenni a fâs anferth. Gwelir y math yma o fâs mewn nifer o bortreadau gan Reynolds. Mae wedi'i gopïo o ysgythriad o'r 17eg-ganrif gan G.B. Galestruzzi yn null Polidoro da Caravaggio. Mae'r modelau'n gwisgo gwisg a gysylltir gyda'r peintiwr portreadau Anthony Van Dyck, a oedd yn ffasiynol o'r 1740au hyd yr 1770au. Roedd gwisgoedd du i fenywod gan Van Dyck yn anghyffredin, ac roedd yn anghyffredin i bâr wisgo dillad o'r un lliw, heblaw mewn dawns fasgiau. Darlunnir Henrietta mewn osgo sy'n gyffredin ym mhortreadau Reynolds o fenywod, a ddysgodd gan ei athro, Thomas Hudson. Darlunnir Syr Watkin â golwg melancolaidd ar ei wyneb, gydag osgo sy'n gweddu i'w gorffolaeth fer, gadarn. Er i'r darlun gael ei ddechrau fel portread priodas yn ôl pob tebyg, awgryma'r wisg ddu iddo gael ei gwblhau fel portread coffaol. Charlotte Grenville gyda'i phlant Sir Joshua Reynolds (1723-1792), Charlotte Grenville gyda'i phlant yn dangos ail wraig Syr Watkin Williams-Wynn. Mae'r ail bortread, Charlotte Grenville and her children, yn dangos ail wraig Syr Watkin. Roedd Charlotte Grenville (1754-1830) yn aelod o un o brif deuluoedd llywodraethol Prydain yn y 18fed-ganrif. Hi oedd merch hynaf George Grenville (1712-70) a oedd yn Brif Weinidog ym 1763-5. Fe wnaethant briodi ym 1771, ddwy flynedd wedi marwolaeth Henrietta. Mae'r paentiad hwn yn ei dangos gyda thri o'i phlant hynaf. Awgryma oedran y plant i'r portread gael ei baentio tua 1778. Mae'r cyfansoddiad yn adleisio'r paentiadau o Rest on the Flight with St John the Baptist o Fenis ar ddechrau'r 16eg ganrif. Mae safle'r plant yn y darlun yn adleisio'r grŵp sydd ar y dde yn y darlun Vendramin Family gan Titian (Oriel Genedlaethol), yr oedd Raynolds yn gyfarwydd ag ef. Gwnaed gwisg y Fonesig Charlotte yn y ffasiwn Dwrcaidd ac mae ei hosgo'n deillio o'r portreadau pastel Ladies in Turkish dress gan Jean-Etienne Liotard. Un o bortreadau mwyaf godidog Reynolds o'r 1770au yw Charlotte Grenville and her children a baentiodd pan oedd yn ei anterth. Mae'n debygol i'r ddau bortread gostio tua £315 yr un i Syr Watkins. Paentiwyd hwy yn null y Grand Manner, ac maent yn mynegi'r rhinweddau yr oedd Reynolds yn eu hedmygu fwyaf yng Nghelfyddyd Uchel y Dadeni. Maent hefyd yn dangos uchelgeisiau diwylliannol Syr Watkin Williams-Wynn a'i wragedd. Bu'r portreadau ym meddiant y teulu Williams-Wynn am dros ddwy ganrif cyn iddynt gael eu prynu gan yr Amgueddfa ym 1998. Mae gan yr Amgueddfa gasgliad ysblennydd o weithiau o gasgliad Syr Watkin yn cynnwys paentiadau pwysig gan Batoni a Mengs, ac arianwaith a chelfi wedi'u cynllunio gan Robert Adam.