: Mwyngloddio

Cyflawni'r dasg

Ceri Thompson, 19 Mehefin 2012

Yr tîm o achubwyr

Yr tîm o achubwyr

Cerdyn post yn cofnodi trychineb

Cerdyn post yn cofnodi trychineb

<em>The Flooded Colliery at Troedyrhiw</em>
The Flooded Colliery at Troedyrhiw
Y pump glöwr hachub

Y pump glöwr hachub

Ym mis Awst 2010 caewyd 33 o weithwyr 700 metr o dan wyneb y ddaear yn dilyn cwymp ym mwynglawdd copr/aur San Jose yn Chile. Wedi 69 diwrnod o dan y ddaear ac ymgyrch achub anferth, gan gynnwys cyfraniadau gan NASA a dros ddwsin o gwmnïau rhyngwladol, achubwyd pob un o'r 33 dyn dros gyfnod o 24 awr. Ar ôl codi'r gweithiwr olaf i'r wyneb, daliodd y gweithwyr achub arwydd tuag at y camerâu ag arno'r geiriau Mision cumplida Chile — Cyflawnwyd y dasg Chile. Amcangyfrifir bod dros biliwn o bobl wedi gweld y geiriau yma ar y teledu.

Trychineb Tynewydd

Dyma'r gwaith achub yn Chile yn dwyn i gof ddigwyddiad tebyg yng Nghwm Rhondda dros 130 o flynyddoedd ynghynt. Ar 11 Ebrill 1877, boddwyd Glofa Tynewydd yn y Porth gan ddŵr o hen weithfeydd gwag Hen Lofa Cymmer gerllaw. Ar y pryd, roedd pedwar glöwr ar ddeg o dan ddaear, ac aed ati i geisio eu hachub.

Cafwyd hyd i bump o'r gweithwyr ar ôl clywed sŵn curo, a bu'n rhaid i'r tîm achub dorri drwy 12 llath o lo i gyrraedd atyn nhw. Yn anffodus, dyma un o'r dynion yn cael ei ladd gan rym yr aer yn dianc drwy'r twll achub. Roedd naw dyn bellach ar goll.

Ymdrechu taer

Clywyd mwy o sŵn cnocio o lefydd gwaith o dan linell y dŵr a dyma'r tîm achub yn cymryd bod y dynion wedi goroesi mewn poced aer. Ceisiodd dau ddeifiwr o Lundain eu cyrraedd ond roedd yn dasg amhosibl gan fod cymaint o rwbel yn y twneli. Penderfynwyd taw'r unig beth amdani oedd torri twnnel achub drwy 38 llathen o lo.

Yn ystod y deg diwrnod o gloddio i gyrraedd y gweithwyr caeth, daeth y gwaith achub i glyw'r wasg ryngwladol ac anfonwyd telegram gan y Frenhines Fictoria hyd yn oed, gan ei bod yn poeni am ffawd y dynion. Cyrhaeddwyd y glowyr ar ddydd Gwener 20 Ebrill; doedd ganddyn nhw ddim bwyd ac roedden nhw wedi byw ar ddŵr brwnt y pwll am ddeg diwrnod. Gan fod y boced aer wedi datgywasgu mor gyflym wrth eu hachub, roedd y pum glöwr yn dioddef o barlys y môr (the bends) ond dyma nhw'n gwella'n llwyr wedi treulio noson yn yr ysbyty. Boddodd y pedwar glöwr arall.

Dewrder ac arwriaeth

Er taw bychan oedd y nifer a gollodd eu bywydau o gymharu â thrychinebau eraill yr oes (lladdwyd 114 o ddynion a bechgyn mewn ffrwydrad yng Nglofa Cymmer ym 1856), denodd dyfalbarhad y timau achub gryn sylw gan y wasg a'r cyhoedd. Dyfarnwyd pedair ar hugain o

Dosbarth Cyntaf ac Ail Ddosbarth a nifer o wobrwyon eraill i'r timau mewn seremoni a gynhaliwyd ar y Maen Siglo uwchlaw Pontypridd. Gwneir amcangyfrif i hyd at bedwar deg mil o bobl fynychu'r digwyddiad.

Achubwyr Tynewydd oedd y cyntaf i dderbyn Medalau Albert am ddewrder ar dir. Mae pump o'r medalau yma bellach i'w gweld yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ynghyd ag esiamplau o lestri arian ac eitemau eraill sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad.

Erthygl gan:Ceri Thompson, Curadur

Ffotograffau byllau glo John Cornwell

10 Ionawr 2012

Ffotograffydd ar ei liwt ei hun oedd John Cornwell. Yn y saithdegau a'r wythdegau cynnar, tynnodd nifer o ffotograffau o byllau glo, yn Ne Cymru a Chanolbarth Lloegr yn bennaf, a hynny ar yr wyneb a danddaear.

Perffeithiodd dechneg o dynnu ffotograffau danddaear oedd yn defnyddio goleuadau cyffredin pwll glo, gan alluogi iddo dynnu lluniau hynod eglur o dalcenni glo, twnneli, siafftiau ac offer. Yn ogystal â thynnu ffotograffau mewn pyllau gweithredol, byddai hefyd yn cofnodi gweithfeydd segur, ar yr wyneb a danddaear.

Roedd John Cornwell hefyd yn uchel ei barch ym maes archaeoleg ddiwydiannol. Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar byllau glo Cymru a Lloegr.

Mae hawlfraint ei ddelweddau o dde Cymru bellach ym meddiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Lawrlwytho'r catalog i'r Casgliad Cornwell [PDF 4.7MB]

Y Baddondai Pen Pwll

Ceri Thompson, 30 Mehefin 2011

Baddondai pen pwll Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

The pithead baths at Bit Pit: National Coal Museum

Llwch glo llethol

Cyn i faddondai pen pwll ddod yn gyfleuster cyffredin, doedd dim dewis gan y rhan fwyaf o lowyr, fyddai wedi ymlâdd ar ôl diwrnod caled o waith, ond teithio adref o'r gwaith yn llwch glo i gyd. Byddai eu dillad yn diferu o chwys yn aml gan godi'r siawns o ddal niwmonia, broncitis neu grydcymalau. Wedi cyrraedd adref, roedd yn rhaid golchi cymaint o'r baw â phosibl ymaith mewn baddon tin o flaen y tân.

Menywod y tŷ fyddai'n gyfrifol am gynhesu'r dŵr ar gyfer baddon y glöwr a golchi a sychu'i ddillad fel arfer. Roedd cadw'r tŷ yn lân rhag llwch y glo yn frwydr feunyddiol hefyd. Doedd dim diwedd ar y gwaith caled yma, a byddai blinder a straen corfforol yn arwain at broblemau iechyd difrifol yn aml, ac weithiau at enedigaethau cynamserol a cholli plentyn.

Bu'n rhaid i ddiwygwyr cymdeithasol, dan faner 'Mudiad y Baddondai Pen Pwll', lobïo'n galed cyn darbwyllo'r Llywodraeth, y meistri glo a rhai o'r glowyr a'u gwragedd hyd yn oed, bod angen am faddondai pen pwll. Bu'n frwydr hir a chaled, o'r ymgyrchu agoriadol yn y 1890au hyd sefydlu cronfa arbennig ym 1926 i adeiladu baddondai, dan nawdd Pwyllgor Lles y Glowyr.

Diwygio Cymdeithasol

Roedd baddondai pen pwll wedi cael eu defnyddio yng Ngwlad Belg, Ffrainc a'r Almaen ers y 1880au. Ym 1913 anfonwyd cynrychiolwyr i weld y baddondai Ewropeaidd yma gan David Davies, perchennog cwmni Ocean Coal ac un o eiriolwyr diwygio cymdeithasol. Arweiniodd yr ymweliad hwn at adeiladu'r baddondy cyntaf yng Nghymru ym Mhwll Deep Navigation, Treharris, ym 1916. Bu llwyddiant baddondai Deep Navigation yn allweddol yn yr ymgyrch bropaganda a drefnwyd gan y sawl oedd am weld baddondy pen pwll ym mhob pwll glo yng Nghymru.

Ym 1919 sefydlodd Llywodraeth Prydain Gomisiwn Brenhinol ('Comisiwn Sankey') i ymchwilio i amodau cymdeithasol a gwaith y meysydd glo. Sefydlwyd 'Cronfa Lles y Glowyr' o ganlyniad i hyn er mwyn '... improve the social well being, recreation, and condition of living of workers in or about coal mines'. Casglwyd arian y gronfa hon drwy godi ceiniog ar bob tunnell o lo a gloddiwyd. Defnyddiwyd y gronfa at sawl diben, yn cynnwys darparu caeau chwarae, pyllau nofio, llyfrgelloedd a sefydliadau. Codwyd tâl ychwanegol o 1926 ymlaen, i noddi rhaglen adeiladau baddondai.

Steil Bensaernïol Fodern

Yn ystod bodolaeth Cronfa Les y Glowyr, o 1921 i 1952, adeiladwyd dros 400 o faddondai pen pwll ym Mhrydain. Cynlluniodd adran bensaernïol y Pwyllgor Lles y Glowyr y ffordd fwyaf cost-effeithiol o adeiladu, darparu cyfarpar a gweithredu adeiladau'r baddondai. Roedd 'steil tŷ wedi cael ei datblygu erbyn y 1930au, wedi'i seilio ar ddylunio pensaernïol y 'Mudiad Modern Rhyngwladol'.

Byddai'r toeon fflat, y llinellau glan a'r defnydd helaeth o wydr i ddarparu golau naturiol yn sicrhau bod y baddondai yn amlwg yng nghanol adeiladau eraill y pyllau. Cafodd rhai baddondai, fel yr un yn Big Pit, eu rendro yn wyn, sy'n ei wneud yn nodwedd amlwg ar y bryn hyd heddiw. Golygai adnoddau prin Pwyllgor Lles y Glowyr na adeiladwyd baddondai yn nifer o byllau glo Cymru tan y 1950au. Wedi gwladoli'r diwydiant glo ym 1947, cyfrifoldeb y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd darparu'r baddondai pen pwll.