Yr Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company
Sefydlwyd yr Ebbw Vale Steel, Iron and Coal Company yn y De ym 1790, ac roedd y cwmni yn cynhyrchu mwy o dunplat nag unrhyw le arall yn y wlad nes iddo gau yn 2002.
Roedd yn cyflogi 34,000 o ddynion yn y cyfnod Edwardaidd, ac erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd ar flaen y gad ym maes datblygiadau technolegol, yn enwedig yn y newid o haearn i ddur. Goroesodd holl weithfeydd haearn a dur eraill Blaenau'r Cymoedd a thorrodd dir newydd ym Mhrydain sawl gwaith o ran technoleg ar ôl iddo gael ei ailadeiladu'n llwyr ym 1936-38.
Dechrau'r Daith
Roedd Gwaith Haearn Glynebwy yn un o gyfres o weithfeydd a sefydlwyd ar hyd ymyl ogleddol maes glo'r De lle roedd modd cloddio'r holl ddeunyddiau crai ar gyfer gwneud haearn - mwyn haearn, glo a charreg galch.
Fe'i sefydlwyd ym 1790 gan bartneriaeth dan arweiniad Jeremiah Homfray, perchennog Gwaith Haearn Penydarren ym Merthyr Tudful. Ym 1796 gwerthodd y gwaith i deulu Harford, a nhw fu wrth y llyw am yr hanner can mlynedd nesaf. Adeiladwyd tair ffwrnais chwyth arall, ffwrneisi pwdlo i gynhyrchu haearn gyr a melinau rholio i wneud rheiliau yn y cyfnod hwn. Er mwyn cael rhagor o haearn gyr ar gyfer y ffwrneisi a'r melinau prynodd y teulu dair ffwrnais chwyth yn Sirhywi ym 1818.
Ehangu
Aeth teulu Harford yn fethdalwyr ym 1842 pan fethodd eu buddsoddiadau tramor. Ymddiriedolwyr aeth ati i gynnal y gweithfeydd ac ym 1844 sefydlwyd Cwmni Glynebwy gan Abraham Darby IV, meistr haearn o Coalbrookdale a oedd wedi hanner ymddeol. Ehangodd y cwmni'n gyflym gan brynu Gwaith Haearn Victoria gerllaw ym 1848, Gwaith Haearn Abersychan ym 1852, Gwaith Haearn Pentwyn ym 1858 a Gwaith Haearn Pont-y-pŵl ym 1872. Roedd y mwynau haearn lleol wedi'u disbyddu felly prynodd y cwmni gloddfeydd haearn yng Ngwlad yr Haf, Swydd Gaerloyw a Sbaen yn ystod y 1850au. Rhwng 1854-55 bu George Parry, cemegydd y gwaith, yn arbrofi gyda gwneud dur and ni chynhyrchwyd dur yn rheolaidd nes i'r cwmni sefydlu gwaith Bessemer ym 1868.
Dirywio
Ailffurfiwyd y cwmni fel yr Ebbw Vale Steel, Iron&Coal Company Limited ym 1868. Roedd yr ehangu parhaus ar ddechrau'r 1870au wedi costio'n ddrud i'r cwmni pan ddaeth y dirwasgiad ar ddiwedd y degawd. Daeth dur i gymryd lle haearn a dirywiodd y fasnach haearn - yn ffodus roedd Cwmni Glynebwy wedi bod ar flaen y gad yn cynhyrchu dur.
O 1873, cyllidwyr o Fanceinion, nad oedd yn deall y farchnad haearn a dur i bob golwg, oedd wrth y llyw. Dirywiodd y gweithfeydd; caeodd Pentwyn ym 1868, Sirhywi ac Abersychan ym 1882-83, Pont-y-pŵl ym 1890, ac erbyn 1892 roedd y cwmni mewn dyfroedd dyfnion, gyda'r gwaith yn segur a'r peiriannau mewn cyflwr gwael.
Newid cyfeiriad – y galw di-ben-draw am lo o Gymru
O'r 1870au ymlaen, nid haearn a dur oedd i gyfrif am lewyrch y cwmni, ond glo. Erbyn 1873 ef oedd cynhyrchwr glo mwyaf y De, ond roedd y rhan fwyaf o'i lo yn cael ei ddefnyddio mewn ffwrneisi golosg a pheiriannau ager y gweithfeydd haearn. Yn y 1870au a'r 1880au arallgyfeiriodd y cwmni i fanteisio ar y galw cynyddol am lo rhydd Cymru i yrru llongau, trenau a pheiriannau ager y byd. Wrth i lofeydd hynaf ardal Glynebwy gau, suddwyd dau bwll newydd - Waunlwyd (1874-77) a Glofa Marine yng Nghwm (1889-91). Cyn bo hir roedd glo Glynebwy i'w weld ledled y byd.
Gan fod galw di-ben-draw am lo rhydd Cymru yn ystod ugain mlynedd gyntaf yr ugeinfed ganrif, roedd modd i'r cwmni ehangu'n gyflym a moderneiddio ei lofeydd. Caewyd rhai o'r hen lofeydd a dyblwyd y gwaith yn Waunlwyd a'r Marine.
Mewn ugain mlynedd dyblwyd cynnyrch y cwmni i 2 filiwn o dunelli. Golygai rhagor o lo ragor o lowyr a chododd nifer y glowyr yn y cwmni bron i 6,000. Codi'n ddramatig fu hanes yr elw hefyd.