Cymry'r Antarctig 29 Hydref 2010 Stori'r Is-swyddog Edgar Evans o Rhosili yng Ngŵyr yw un o'r mwyaf teimladwy i godi o Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13. Evans, ag yntau'n un o'r tîm o bump i gyrraedd Pegwn y De gyda Scott ei hun, oedd y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn. Yma byddwn ni'n ymchwilio i gysylltiadau Cymreig eraill â'r Antarctig — daearegwr o Sain Ffagan a sŵolegydd o Saint-y-brid a benodwyd yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Sir Tannat William Edgeworth David (1858-1934) Daearegwr o Gymru ym Mhegwn Magnetig y De Ganwyd y daearegwr T.W. Edgeworth David ym 1858 yn Sain Ffagan yn fab i reithor. Astudiodd ddyddodion rhewlifol yn ne Cymru cyn symud i Awstralia ym 1882 i ymuno ag Arolwg Daearegol New South Wales. Ym 1891 cafodd ei benodi'n Athro Daeareg ym Mhrifysgol Sydney gan ddod yn un o wyddonwyr enwocaf Awstralia. Ymunodd David ag alldaith Ernest Shackleton, Nimrod, ym 1907. Ym mis Mawrth 1908 yn 50 oed, arweiniodd esgyniad cyntaf Mynydd Erebus, llosgfynydd byw ar Ynys Ross. Ef, ynghyd â Douglas Mawson ac Alistair Mackay oedd y cyntaf, ym mis Ionawr 1909, i gyrraedd rhanbarth Pegwn Magnetig y De. Cymerodd y siwrnai 2,028 cilomedr 122 o ddiwrnodau ac mae'n un o'r teithiau hiraf erioed ar sled heb gefnogaeth. Llwyddodd i berswadio llywodraeth Awstralia i gyfrannu tuag at alldaith Scott ym 1910 ac fe'i cynorthwyodd i benodi daearegwyr o blith ei fyfyrwyr. Enillodd y Polar Medal ym 1910 a derbyniodd radd anrhydedd Prifysgol Cymru ym 1921. Dilwyn John ac Ymchwil y Discovery Dychwelodd llong Antarctig gyntaf Scott, Discovery, i'r cyfandir ym 1925 ar y cyntaf o fordeithiau ymchwil gwyddonol yng Nghefnfor y De i astudio bioleg y Môr ac effaith hela morfilod yn fasnachol ar boblogaeth morfilod. Parhaodd yr ymchwil hwn, a gaiff ei adnabod fel Ymchwil y Discovery, tan 1951. Roedd David Dilwyn John (1901-95), o Saint-y-brid yn Sir Forgannwg, yn sŵolegydd fu ar dair o'r mordeithiau yma rhwng 1925 a 1935. Gweithiai'r gyntaf, ar Discovery, rhwng 1925 a 1927 yn y moroedd o amgylch De Georgia a'r Penrhyn Antarctig. Wedi hynny, treuliodd ddwy flynedd ar yr RRS William Scoresby ar alldaith marcio morfilod o amgylch De Georgia. Ym 1913-33 ef oedd Prif Wyddonydd Discovery II ar y gylchfordaith aeaf gyntaf o'r Antarctig. Ym 1935 ymunodd John â staff yr Amgueddfa Brydeinig (Hanes Natur) fel Curadur Cynorthwyol Sŵoleg. Gadawodd ym 1948 i fod yn Gyfarwyddwr Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a hynny hyd at 1968. Enillodd y Polar Medal ym 1941. Dilwyn John
Capten Scott yn hwylio o Gaerdydd David Jenkins, 9 Mehefin 2010 Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910 F.C. Bowring (blaen ar y chwith) a Daniel Radcliffe (blaen ar y dde) gyda'r Comander E.R.G.R. Evans (mewn het silc) ar fwrdd y Terra Nova yng Nghaerdydd, 17 Mehefin 1913. Y Terra Nova yn gadael Caerdydd, 15 Mehefin 1910 Robert Falcon Scott (1868-1912) oddeutu 1905 SS Terra Nova Ar 15 Mehefin 1910 gwaeddodd tyrfa fawr, gynhyrfus a swnllyd nerth eu pennau wrth i long dan bwysau llwyth trwm adael Basn y Rhath, yn nociau Caerdydd. Roedd yr SS Terra Nova yn mynd am y de — i'r Antarctig. Ar ei bwrdd roedd y Capten Robert Falcon Scott ac aelodau o'i Alldaith Brydeinig i'r Antarctig , a oedd yn anelu i fod y cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Glo Cymreig Roedd y Terra Nova wedi cyrraedd Caerdydd bum niwrnod ynghynt i baratoi ar gyfer ei thaith ac i lwytho tanwydd. Darparodd cwmnïau glo Cymru dri chan tunnell o Danwydd Patent y Goron a chan tunnell o lo stêm, ynghyd â phum can galwyn o olew peiriannau ac olew lampau — a hynny'n rhad ac am ddim. Y Cwmni Tunplat Cymreig o Lanelli ddarparodd yr holl offer coginio ar gyfer y daith, a phrynwyd sach gysgu Capten Robert Falcon Scott gydag arian a godwyd gan Ysgol y Sir yn Aberteifi. Yn ogystal â chymorth mewn da, codwyd £2,500 pellach yng Nghaerdydd, mwy nag yn unrhyw ddinas arall. Yn lleol, y noddwyr unigol mwyaf, a dau o gefnogwyr mwyaf brwd y fenter, oedd y perchnogion llong o Gaerdydd, Daniel Radcliffe a William J. Tatem . Chwaraeodd y ddau ran bwysig wrth godi arian a sicrhau arian nawdd o blith cymunedau busnes Cymru, a drwy ddarparu cyfleusterau doc ar gyfer y Terra Nova. Cymaint oedd y gefnogaeth i'r daith yng Nghymru fel y dynodwyd Caerdydd yn borthladd cartref y Terra Nova, ac i Ddoc Bute y dychwelodd ar ddiwedd yr alldaith ar 14 Mehefin 1913. Pam Caerdydd? Ym Mehefin 1909, cyfarfu William Davies, golygydd y Western Mail, a swyddog llynges ifanc, yr is-gapten E.R.G.R. Evans, a oedd yn trefnu ei alldaith ei hun i'r Antarctig. Roedd Davies yn awyddus iawn i gefnogi'r hyn a ystyriai yn Alldaith Antarctig Genedlaethol Gymreig — mae'n debygol mai brodor o Gaerdydd oedd tad-cu Davies — a chredai y byddai busnesau Caerdydd yn cefnogi menter o'r fath. Yn fuan wedi hynny, clywodd Evans am alldaith arfaethedig Scott, ac ymunodd ag ef fel dirprwy, gan ddod a chefnogaeth golygydd y Western Mail, a'r posibilrwydd o noddwyr Cymreig, gydag ef. Roedd Davies yn allweddol nid yn unig o ran ennill cefnogaeth busnesau a chyhoedd Cymru ar gyfer alldaith Scott, ond hefyd drwy ddwyn perswâd ar ei gydwladwr, Canghellor y Trysorlys, David Lloyd George, i ddarparu grant llywodraeth o £20,000. Yn wir, heb ddylanwad Davies, cefnogaeth y Western Mail, a'r perchnogion llong Cymreig, ni fyddai Capten Scott wedi gadael mewn pryd i gyrraedd y Pegwn yn 1912. Cysylltiadau Cymreig Roedd yna Evans arall yng nghriw'r Terra Nova, sef Is-swyddog Edgar Evans o Rhosili, Gŵyr. Roedd wedi bod yn yr Antarctig gyda Scott ar alldaith y Discovery yn 1901—4, ac fe'i dewiswyd gan Scott i fod yn aelod o'i fintai ar alldaith 1910—12. Evans oedd y cyntaf i farw ar yr ymdaith yn ôl o Begwn y De. Coffâd I goffáu cysylltiadau Scott â Chaerdydd codwyd goleudy ym 1915 ym Mharc y Rhath a gosodwyd plac efydd ar risiau Neuadd y Ddinas ym 1916. Ym Mehefin 2003 datgelwyd cerflun coffaol ym Mae Caerdydd.
Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar y Ffrynt y Gorllewin Edward Besly, 1 Hydref 2009 Medelau Captain Arthur Edwards Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf Y Capten Arthur Edwards o Flaenafon oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym Mawrth 1915. Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir. Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd a ffrwydron cyn eu tanio. Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn. Ymladd y rhyfel o dan y ddaear Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, gychwynnodd y cyfan. Yn Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, dan reolaeth Edwards. Ym Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau'r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn. Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli'r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i'r cyfeiriad arall, gan arwain at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear. Bathodyn Anrhydedd Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu'n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918. Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 2006.
Glowyr o Gymru'n cloddio dros Brydain ar y Ffrynt y Gorllewin Edward Besly, 1 Hydref 2009 Ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf Medelau Captain Arthur Edwards Y Capten Arthur Edwards o Flaenafon oruchwyliodd tanio ffrwydryn cyntaf Prydain ar Ffrynt y Gorllewin ym Mawrth 1915. Mae'r Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) yn enwog am y brwydro ffyrnig yn ffosydd Ffrynt y Gorllewin yn Ffrainc a Fflandrys. Wynebai byddinoedd anferth ei gilydd mewn amgylchiadau erchyll, wrth baratoi am y frwydr fawr nesaf i ennill tir. Roedd cloddio twneli a gosod ffrwydron tanddaearol yn rhan bwysig o frwydro yn y ffosydd, wrth i'r ddwy ochr geisio ennill mantais. Cloddiwyd twneli o dan yr ardaloedd "tir neb" a ffosydd y gelyn. Yna fe'u llenwyd a ffrwydron cyn eu tanio. Roedd calch sych y Somme yn arbennig o addas ar gyfer ffrwydron tanddaearol, ond roedd modd gosod ffrwydron yng nghlai gwlyb Fflandrys hefyd. Chwaraeodd profiad a medrau glowyr Cymru ran allweddol yn y gwaith o gynhyrchu'r ffrwydron hyn. Ymladd y rhyfel o dan y ddaear Y Capten Arthur Edwards, peiriannydd glofaol a wasanaethodd yn ail Fataliwn Catrawd Sir Fynwy, gychwynnodd y cyfan. Yn Rhagfyr 1914 ffurfiwyd y 4th Divisional Mining Party, dan reolaeth Edwards. Ym Mawrth 1915, wedi deufis o gloddio twneli o dan linellau'r gelyn, gwagiwyd y twneli ac fe'u llenwyd â ffrwydron cyn eu tanio. Dinistriodd y ffrwydrad adeiladau ar wyneb y tir - oherwydd cloddiwyd y twneli o dan adeiladau a ddefnyddid gan saethwyr y gelyn. Ar achlysur arall, wrth i dîm gosod ffrwydron tanddaearol yr Almaenwyr gloddio mewn un cyfeiriad, daethant ar draws twneli'r lluoedd cynghreiriol a oedd yn cloddio i'r cyfeiriad arall, gan arwain at frwydro ffyrnig wyneb yn wyneb o dan y ddaear. Bathodyn Anrhydedd Ym Mehefin 1915 enillodd y Capten Arthur Edwards y Groes Filwrol, gwobr newydd ar gyfer capteiniaid ac is-swyddogion. Cafodd hefyd ei grybwyll mewn gohebiaeth am wasanaeth dewr a neilltuol. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn cynnwys diwrnod cyntaf brwydr y Somme (1 Mehefin 1916) cyn cael ei anafu'n ddifrifol gan siel nwy ym Mehefin 1918. Cyflwynwyd ei fedalau i Amgueddfa Cymru ym 2006. Erthygl gan: Edward Besly, Niwmismatydd, Archeoleg a Niwmismateg. Amgueddfa Cymru
Cofio'r Bois Bevin yn yr Ail Rhyfel y Byd 3 Ionawr 2008 Baner goffa'r Bechgyn Bevin. Bois Bevin o de Cymru Bathodyn poced Cymdeithas y Bechgyn Bevin. Ceffyl pwll wedi ymddeol gyda dau Fachgen Bevin yn yr aduniad blynyddol yng ngerddi Trentham, Stoke-on-Trent. Bechgyn Bevin yn yr Orymdaith Goffa yn Llundain ar 14 Tachwedd 2004. Y ffrynt danddaear Dydy stori'r Bois Bevin ddim yn un cyfarwydd. Ni chafodd y dynion di-ri hynny a dreuliodd y rhyfel ar y 'ffrynt danddaear' eu cydnabod am bron i hanner canrif. Pan gyhoeddwyd y rhyfel ym 1939, ymunodd miloedd o lowyr profiadol â'r lluoedd arfog, neu drosglwyddo i'r 'diwydiannau rhyfel' oedd yn talu'n well. Erbyn canol 1943 roedd mwy na 36,000 o ddynion wedi gadael y diwydiant glo. Penderfynodd llywodraeth Prydain fod angen tua 40,000 o ddynion i gymryd eu lle. Ernest Bevin Ym mis Rhagfyr 1943, creodd Ernest Bevin, y Gweinidog dros Lafur a Gwasanaeth Gwladol, gynllun oedd yn cynnwys cynnal balot i anfon cyfran o'r dynion oedd yn cael eu galw i wasanaethu i'r pyllau glo yn lle'r lluoedd arfog. Byddai deg rhif yn mynd i'r het bob mis a dau'n cael eu tynnu. Os oedd rhif cofrestru Gwasanaeth Gwladol dyn yn gorffen gyda'r ddau rif yna, fe fyddai'n mynd i weithio yn y diwydiant glo. Dechreuodd y dynion hyn gael eu galw'n 'Bois Bevin' Yn ogystal â'r rhai a gafodd eu dewis yn y balot, roedd yna wirfoddolwyr hefyd. Roedd y dynion yma wedi gwirfoddoli i wasanaethu yn y pyllau glo yn hytrach na'r lluoedd arfog. Rhwng 1943 a 1948, cafodd 48,000 o ddynion ifanc eu galw i'r Gwasanaeth Gwladol mewn swyddi ym mhyllau glo Prydain. Yn groes i'r gred gyffredin ar y pryd, dim ond 41 ohonyn nhw oedd yn wrthwynebwyr cydwybodol. Roedd Bois Bevin yn dod o bob dosbarth cymdeithasol a phob rhan o Brydain - nid dim ond yr ardaloedd glofaol. Rhyw wybodaeth ddigon niwlog oedd gan lawer ohonyn nhw am y diwydiant glo cyn cael eu drafftio. Roedd y rhan fwyaf wedi gosod eu bryd ar yrfa yn y lluoedd arfog ac roedd yn gas ganddyn nhw gael eu hanfon i'r glofeydd. Ciab a rhaw Yn wahanol i'r glowyr cyffredin, oedd yn gwisgo'u dillad eu hunain, roedd Bois Bevin yn cael oferôl, helmed ddiogelwch ac esgidiau gwaith. Ond roedden nhw'n gorfod talu am eu hoffer eu hunain ac ambell un yn cwyno nad oedd y milwyr yn gorfod prynu eu drylliau eu hunain, felly pam ddylen nhw orfod talu am gaib a rhaw! Dim ond cyfran fach o Fois Bevin gafodd eu cyflogi i dorri glo ar y ffas, er bod rhai'n helpu'r glowyr i lenwi dramiau. Roedd y rhan fwyaf yn gwneud gwaith cynnal-a-chadw ar yr hewlydd tanddaear, yn clymu ac yn datod dramiau neu'n rheoli symudiadau'r cludiant tanddaear. Byddai nifer fach oedd wedi cael profiad o waith trydan neu waith peiriannu'n gwneud gwaith tebyg yn y glofeydd. Ym 1943, roedd un o bob pedwar glöwr yn cael ei ladd neu ei anafu, ac roedd cael eich cyflogi i gludo glo neu offer bron mor beryglus â chynhyrchu glo ar y ffas. Roedd trin a thrafod dramiau'n dal i achosi llawer o anafiadau i'r bysedd a'r dwylo ac, yn fwy difrifol, fe allai arwain at farwolaeth pe bai rhywun yn cael ei wasgu o dan y cerbydau cyflym. Glowyr anfodlon oedd y rhan fwyaf o Fois Bevin. Doedd ganddyn nhw fawr o ddiddordeb yn y gwaith, ac roedd gweddill y gweithwyr yn tueddu i gredu eu bod yn ddiwerth. Roedden nhw'n amhoblogaidd ymhlith teuluoedd glofaol lleol, oedd wedi gweld eu plant eu hunain yn cael eu drafftio i'r lluoedd arfog a gweld pobl o'r tu allan yn cymryd eu lle. At hynny, os nad oedd dynion ifanc mewn lifrai, fe allen nhw gael eu poeni gan y cyhoedd, a gallai'r heddlu amau eu bod nhw wedi dianc o'r fyddin neu eu bod nhw'n sbïo ar ran y gelyn. Does dim syndod bod llawer ohonyn nhw'n mynd yn absennol heb ganiatâd. Nifer fach iawn arhosodd yn y diwydiant glo ar ôl y rhyfel: roedd y rhan fwyaf ar dân eisiau rhoi'r gorau iddi. "Demob" Daeth y balot i ben ym mis Mai 1945 a chafodd y canolfannau hyfforddi eu cau'r mis wedyn. Ers mis Ionawr 1944 roedd Oakdale wedi hyfforddi 5,615 o ddynion, ac roedd 5,400 ohonyn nhw'n dal i weithio. O'r rhain, roedd 1,465 yn wirfoddolwyr. Cafodd yr olaf o Fois Bevin eu rhyddhau ym 1948 ond, yn wahanol i'r dynion eraill oedd wedi cael eu gorfodi i wasanaethu, doedd dim hawl ganddyn nhw i fynd nôl i'w hen swyddi. Chawson nhw ddim medal am wasanaethu, dim siwt o ddillad "demob" na hyd yn oed llythyr o ddiolch. Cafodd y cofnodion swyddogol eu dinistrio yn y 1950au, ac felly dyw Bois Bevin ddim hyd yn oed yn gallu profi eu bod wedi gwasanaethau os nad ydyn nhw wedi cadw eu dogfennau eu hunain. Cafodd aduniad swyddogol cyntaf Bois Bevin ei gynnal yn Amgueddfa Fwyngloddio Chatterley Whitfield ym 1989 ac mae mwy wedi bod yma ac acw ers hynny. Serch hynny, dim ond ym 1995, 50 mlynedd ar ôl Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhoddodd llywodraeth Prydain gydnabyddiaeth i'w gwasanaeth yn y rhyfel a chaniat´u i Fois Bevin gymryd rhan swyddogol yn y gwasanaeth ar Sul y Cofio yn Whitehall. Am fwy o wybodaeth am y Bois Bevin, Cysylltwch â: Warwick H Taylor, Vice President, Bevin Boys Association, 1 Rundlestone Court, Dorchester Dorset, DT1 3TN Mae'r erthygl hon yn ffurfio rhan o lyfryn yn y gyfres Glo a gynhyrchwyd gan Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.