: Arwyr a trychinebau

Sgiau o Alldaith Antarctig Brydeinig Scott (Terra Nova) 1910-13

19 Ebrill 2012

Y sgïau hir, pren a ddefnyddiwyd gan Raymond Priestley ar alldaith olaf Scott.

Y sgïau hir, pren a ddefnyddiwyd gan Raymond Priestley ar alldaith olaf Scott.

Marc L.H. Hagen&Co., Christiania, ar waelod pob sgi.

Marc L.H. Hagen&Co., Christiania, ar waelod pob sgi.

Llythrennau Raymond Edward Priestley wedi'u cerfio i bob sgi.

Llythrennau Raymond Edward Priestley wedi'u cerfio i bob sgi.

Y rhwymiad lledr a ddefnyddiwyd ar y sgïau.

Y rhwymiad lledr a ddefnyddiwyd ar y sgïau.

Mae pâr o sgïau pren, hir yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru. Mae gan y ddwy farc "L.H. Hagen&Co Christiania" ar y gwaelod a'r llythrennau "R.E.P" wedi'u cerfio ar y top. Ramond Edward Priestley (1886-1974), daearegwr ar Alldaith Antarctig Brydeinig Scott a ddefnyddiodd y sgïau yma.

Tra'n paratoi ar gyfer ei ail alldaith i'r Antarctig, ymwelodd Capten Robert Falcon Scott â Norwy ym Mawrth 1910 i weld slediau modur yn cael eu profi. Yn Olso (a elwid yn Christiania bryd hynny) prynodd Scott hanner can pâr o sgïau gan L.H. Hagen&Co a chael ei gyflwyno i arbenigwr sgïau ifanc o'r enw Tryggve Gran gan y fforiwr Arctig enwog Fridtjof Nansen. Yn y treialon slediau modur yn Fefor, cyrchfan sgio i'r gogledd o Oslo, gwnaeth sgiliau sgïo Gran gryn argraff ar Scott, a wahoddodd y gŵr ifanc i ymuno â'r alldaith fel hyfforddwr sgïo.

Mae lliw a graen y pren yn awgrymu taw o goed collen Ffrengig y cafodd y sgïau eu gwneud. Mae pob sgi wedi'i wneud o un darn o bren a'i blygu i siâp gyda stêm, cyn cerfio'r pen â llaw. Defnyddiodd aelodau o alldaith Scott sawl math gwahanol o sgïau a dulliau rhwymo.

Dull rhwymo carai lledr syml gafodd ei ddefnyddio ar sgïau Priestley. Mae darn troed y rhwymiad wedi'i wneud o groen carw Llychlyn, ac mae peth o'r blew yn dal yn weladwy. Darn hirsgwar o ffwr oedd y darn troed hwn yn wreiddiol, sydd bellach wedi crebachu a chael ei anffurfio i'r hyn a welwn ni heddiw.

Byddai'r amgylchedd hallt a brofodd y sgïau yn ystod yr alltaith; fel y fordaith o Norwy i Gaerdydd a'r Antarctig ac yn ôl; wedi cynyddu cyfraddau crebachu a dysychiad y lledr a'r ffwr. Maen ddigon posibl hefyd y byddai'r lledr wedi amsugno halen wedi toddi yn iâ'r Antarctig hefyd.

Mae ôl du ar waelod pob sgi. Dyma weddillion y cwyr fyddai'n cael ei daenu ar y sgïau er mwyn iddynt lithro'n haws dros yr eira. Roedd defnyddio cwyr ar y sgïau yn dechneg a gyflwynodd Gran, ac mae'n bosibl bod hwn yn un rheswm pam y cawsant fwy o lwyddiant yn defnyddio sgïau nag ar alldaith flaenorol Scott, y Discovery.

Erthygl gan: Tom Sharpe a Megan deSilva

Diolchiadau: Heather Lane, Athrofa Ymchwil Begynol Scott, Prifysgol Caergrawnt; Lizzie Meek, Ymddiriedolaeth Treftadaeth yr Antarctig.

Llais i'r ddoli glwt

Andrew Deathe, 23 Mai 2011

Y frwydr dros y bleidlais

Dol fwdw gwrth-swffragetaidd

Mae'r ddol fwdw gwrth-swffragetaidd hon yn wawdlun creulon o ferch sy'n ymgyrchu dros yr hawl i bleidleisio. Defnyddiai'r mudiad gwrth-swffragetiaid ddelweddau fel hyn mewn cartwnau a phosteri i fychanu merched oedd yn mynnu'r bleidlais.

Fel llawer o fenywod eraill ym mhedwar ban y byd, bu angen i fenywod Prydain frwydro dros yr hawl i bleidleisio. Er ein bod ni'n cymryd y fraint yma’n ganiataol heddiw, nid fel yna fuodd pethau erioed.

Ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, bu mudiad swffragetaidd y merched yn brwydro dros hawl menywod i bleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol.

Menywod oedd y rhan fwyaf o'r ymgyrchwyr ac fe'u galwyd yn Swffragetiaid. Ysgrifennwyd nifer fawr o lyfrau amdanynt. Ond peth sydd wedi denu llai o sylw yw'r mudiad gwrth-swffragetaidd, oedd yn ceisio atal menywod rhag cael y bleidlais.

Bu'r gwrthwynebwyr hyn yn ceisio argyhoeddi pobl nad oedd modd i feddwl menyw deall gwleidyddiaeth. A phan fethodd hyn, troesant at dactegau fel anfon y 'ddoli fwdw' yma. Aeth rhai ohonynt mor bell ag ymosod ar yr ymgyrchwyr a phoeri arnynt yn y stryd.

Gwawdlun cas a grotesg o Swffraget yw'r ddoli. Byddai'r mudiad gwrth-swffragetaidd yn defnyddio delweddau fel yr un yma mewn cartwnau a phosteri. Roedden nhw’n gwawdio ac yn sarhau menywod oedd am gael yr hawl i bleidleisio.

Bu'r safbwyntiau hyn yn estyniad o'r syniad taw'r 'cartref yw'r lle i'r ferch'. Câi menywod eu portreadu'n aml fel pobl oedd angen eu hamddiffyn rhag ‘byd y dynion’ sef byd o waith a gwleidyddiaeth. Eu rôl oedd edrych ar ôl eu gwŷr, eu cartrefi a’u plant.

Newidiodd rôl menywod yn y gymdeithas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra bod y dynion i ffwrdd yn ymladd, y menywod oedd yn gwneud llawer o’u swyddi. Rhoddodd hyn gyfle iddynt wrthbrofi’r ystrydeb mai nhw oedd y rhyw gwannaf, a phrofi eu bod yn gyfartal â'r dynion. Rhoddodd hyn ddadl gref arall dros roi’r bleidlais iddynt.

Er gwaethaf cadernid y gwrthwynebiad a ddangosir trwy'r ddoli yma, yn y pen-draw enillodd cannoedd o filoedd o fenywod yng Nghymru'r pŵer i fynegi eu barn gwleidyddol trwy'r blwch pleidleisio. Diolch i ymroddiad y mudiad swffragetaidd, mae gan bob oedolyn ym Mhrydain heddiw yr hawl i fwrw pleidlais mewn etholiadau.

Gweld y ddol yn 3D ar Casgliad y Werin Cymru

Gwarcheidwad y Cymoedd

20 Mai 2011

Guardian of the Valleys

Six Bells ger Abertyleri

Yn haf 1960, profodd cymuned Six Bells ger Abertyleri, drychineb fyddai'n aros gyda nhw am weddill eu dyddiau.

Ar 28 Fehefin achosodd ffrwydrad danddaear ym mhwll glo 'Arrael Griffin' farwolaeth 45 o lowyr, pob un yn ŵyr lleol - tadau, meibion, gwŷr a brodyr.

Hanner can mlynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach, wedi gwaith diflino gan y gymuned a sefydliadau lleol, codwyd cerflun dur dros 60tr o daldra gan Sebastien Boyesen, er cof am y sawl fu farw. Mae enw pob un o'r 45 wedi'i naddu ar y gwaelod. Oherwydd pryderon diogelwch, doedd y breichiau wedi'u lledu heb eu gosod ar gyfer y seremoni agoriadol, ond cwblhawyd y cerflun erbyn 28 Gorffennaf.

Gwarcheidwad y Cymoedd

Mae'r ffilm fer hon gan Alun Jones ac Ian Smith yn cofnodi'r digwyddiad coffa a chyflwyno 'Gwarcheidwad y Cymoedd' a saif yn falch er cof am lowyr Six Bells a glowyr ym mhobman.

Plant mewn Pyllau Glo

11 Ebrill 2011

Plant mewn Pyllau Glo

Yn unig yn y tywyllwch

Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: "Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth."

Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: "Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto."

Mewn perygl

Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear.

"Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis."

Phillip Phillips, 9 oed, Pyllau glo Plymouth, Merthyr

"Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo..."

William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn

"..cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau."

John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed

Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau

Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas:

"Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor." John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr

Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen:

"Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr." Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda

Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder.

"Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml."

Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel

Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn.

Y Tair Chwaer

Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo:

"Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi."

Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr.

Yn Dilyn y Deddfu

Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain.

Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed.

Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.

Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910

12 Tachwedd 2010

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Y Terra Nova yn nociau Bute East, Caerdydd, 15 Mehefin 1910

Alldaith Antarctig Brydeinig Scott

Roedd Alldaith Antarctig Brydeinig Scott ym 1910-13 wedi dal dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, yn enwedig wedi i long Scott, y Terra Nova, ddychwelyd i Gaerdydd o'r Pegwn heb Scott a phedwar o'i gymdeithion. Roedd galw mawr am lofnodion aelodau'r alldaith.

Mae tair eitem yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru sydd, gyda'u gilydd yn cynnwys llofnodion 27 o swyddogion, gwyddonwyr a chriw alldaith Scott; dau wedi'u dyddio o ddechrau'r alldaith ac un o'i diwedd. Yn eu plith mae llofnodion Scott, Wilson, Bowers ac Oates fu farw ar y daith yn ôl o Begwn y De. Mae'n nodedig nad yw llofnod y Cymro Edgar Evans o Rossili yng Ngŵyr, y cyntaf i farw ar y daith yn ôl o'r Pegwn, i'w weld ar y dogfennau o ddechrau'r alldaith; Is-swyddog yn unig ydoedd.

Dechrau o Gaerdydd

Mae llofnodion y canlynol yn ategu ffotograff o'r Terra Nova, swyddogion y llong a swyddogion eraill:

E. L. Atkinson
Y llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Prif Lawfeddyg y Parti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

W. W. Archer
W.W. Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan.

G. Murray Levick
Y llawfeddyg George Murray Levick, RN (1877-1956). Llawfeddyg Parti'r Gogledd ar yr alldaith a oroesodd am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia. Astudiodd gytref Pengwiniaid Adélie ym Mhenrhyn Adare ac ysgrifennodd lyfr ar bengwiniaid yr Antarctig yn ddiweddarach.

L. E. G. Oates
Captain Lawrence Edward Grace Oates (1880-1912), 6ed Dragŵniaid Inniskilling. Yn dioddef yn enbyd gan effaith ewinrhew ar ei draed, bu farw Oates ar y daith yn ôl o Begwn y De ar 16 Mawrth 1912. Ef sy'n enwog am ddweud wrth ei gymdeithion, Scott, Wilson a Bowers, "I am just going outside and may be some time" wrth adael y babell a diflannu i'r storm eira.

E. R. G. R. Evans
Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Roedd Evans yn allweddol yn ennill cefnogaeth a nawdd Cymreig ar gyfer yr alldaith gan gymryd yr awenau wedi i Scott farw.

R. Scott
Capten Robert Falcon Scott, CVO, RN (1868-1912). Arweinydd yr Alldaith. Scott fu'n arwain Alldaith Discovery 1901-04 y a dychwelodd i arwain Alldaith y Terra Nova. Cyrrhaeddodd Begwn y Gogledd ar 16 Ionawr 1912 gyda Wilson, Bowers, Oates ac Edgar Evans. Bu farw'r pump ar y daith yn ôl.

Y Terra Nova yn Hwylio tua'r Antarctig

Llythyr wedi'i ddyddio 17 Mehefin 1910, Ar y Môr, oddi wrth Teddy Evans at P. Lowry Rusden o'r Mercantile Pontoon Co Cyf, Doc y Rhath, Caerdydd ar bapur gyda phennawd yr Alldaith Antarctig Brydeinig:

".. Daliasom awel deg yn gynnar bore ddoe ac rydym wedi bod yn hwylio ar gyflymder o fwy nag 8 not byth er hynny. Credaf na fydd yr un ohonom yn anghofio Caerdydd.

Llofnodion

Edward R. G. R. Evans
Is-gapten Edward (Teddy) Ratcliffe Garth Russell Evans, RN (1881-1957). Dirprwy Bennaeth yr alldaith. Bu Evans yn cynllunio ei Alldaith Antarctig ei hun gyda chefnogaeth a nawdd Cymreig, pan glywodd am gynlluniau Scott. Cafodd yrfa forwrol enwog yn ddiweddarach gan gael ei urddo'n Arglwydd Mountevens ym 1946.

D. G. Lillie
Dennis G. Lillie MA. Biolegydd Parti'r Llong

Victor Campbell
Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd oedd wedi'i sefydlu i ddechrau ym Mhenrhyn Adare yng Ngwlad Victoria. Aeth chwe gŵr y parti Gogleddol i drafferthion i'r de ar yr arfordir gan oroesi am saith mis drwy'r gaeaf mewn ogof ia heb lawer o fwyd ac yn eu dillad haf.

Apsley Cherry-Garrard
Apsley George Benet Cherry-Garrard BA (1886-1959). Sŵolegydd Cynorthwyol. Talodd Cherry-Garrard £1000 i ymuno â'r Alldaith. Aeth yntau gyda Wilson a Bowers ar siwrnai yn y gaeaf i gasglu wyau Pengwiniaid Ymerodrol a ddisgrifiodd yn ddiweddarach yn ei lyfr, The worst journey in the world. Roedd yn rhan o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H.Rennick
Is-gapten Henry E. de P. Rennick, RN. Prif Swyddog ar y Terra Nova.

E. W. Nelson
Edward W Nelson (1883-1923). Biolegydd, Parti'r Lan.

Edward A. Wilson
Dr Edward Adrian Wilson (1872-1912). Prif Wyddonydd a Sŵolegydd, Parti'r Lan. Bu Wilson gyda Scott ar Alldaith y Discovery 1901-4. Roedd yn artist a sŵolegydd medrus a thalentog ac yn ffrind agos i Scott. Bu farw gyda Scott a Bowers yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912.

E. L. Atkinson
Y Llawfeddyg Edward Leicester Atkinson, RN (1881-1929). Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd. Atkinson arweiniodd y daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H. R. Bowers
Is-gapten Henry Robertson Bowers, Royal Indian Marines (1883-1912). Cafodd Bowers ei roi yn ngofal y storfeydd gan Scott. Roedd yn aelod o'r Parti Pegynol olaf a bu farw gyda Scott a Wilson yn eu pabell ar Silff Ia Ross wrth ddychwelyd o Begwn y Gogledd ym Mawrth 1912.

Dychwelyd i Gaerdydd

Llofnodion swyddogion a chriw RYS Terra Nova ar eu dychweliad i Gaerdydd Mehefin 14/13 (Sadwrn). Stamp Un Geiniog Seland Newydd, "Victoria Land" wedi'i brintio drosto ac wedi ei ffrancio â "British Antarctic Expedition Ja 18 [19]13".

Mae'r llofnodion ar y ddalen hon yn ddiddorol gan taw llofnodion y criw ydynt, ar wahân i bedwar swyddog a gwyddonydd, sy'n awgrymu y cai'r criw eu cyfri'n enwog ar ddychweliad yr alldaith.

W. W. Archer
W Archer, RN (Wedi ymddeol). Prif Stiward, Parti'r Lan.

A. Cherry-Garrard
Apsley Cherry-Garrard. Sŵolegydd Cynorthwyol.

E. W. Nelson
Edward W Nelson. Biolegydd.

E. L. Atkinson
Y Llawfeddyg Edward L Atkinson RN. Llawfeddyg y Prif Barti a pharasitolegydd.

Wm W. Williams
C.E.R.A. 2il Ddosbarth William W. Williams, RN. Prif Beiriannydd, Parti'r Llong.

W. A. Horton
E.R.A. 3ydd Dosbarth William A. Horton, RN. Is Beiriannydd, Parti'r Llong.

T. S. Williamson
Is-swyddog Dosbarth 1af Thomas S. Williamson, RN. Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912.

H. Dickason
Llongwr Abl Harry Dickason, RN. Parti'r Gogledd.

A. Balson
Prif Longwr Albert Balson, R.N. Parti'r Llong.

W. H. Neale
Stiward W.H. Neale. Parti'r Llong.

F. Parsons
Is-swyddog Dosbarth 1af Frederick Parsons, RN. Parti'r Llong.

Victor Campbell
Is-gapten Victor Lindsey Arbuthnot Campbell, RN (1875-1956). Arweinydd Parti'r Gogledd

Mortimer McCarthy
Llongwr Mortimer McCarthy. Parti'r Llong.

Wm L. Heald
Is-swyddog Dosbarth 1af William L. Heald, RN (Wedi ymddeol). Parti'r Llong. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4.

W. Lashly
Prif Daniwr William Lashly, RN (1867-1940). Parti'r Lan. Gwasanaethodd gyda Scott ar Alldaith Discovery 1901-4. Roedd yn aelod o'r daith chwilio a ganfu gyrff Scott, Wilson a Bowers yn Nhachwedd 1912. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ymgartrefodd Lashly yng Nghaerdydd, gan weithio fel swyddog tollau tan iddo ymddeol i Hampshire ym 1932.

H. Pennell
Is-gapten Harry Lewin Lee Pennell, RN (1882-1916). Parti'r Llong, Mordwywr.

F. E. Davies
Prif Saer Llongau Francis E.C. Davies, RN. Saer, Parti'r Llong.

A. S. Bailey
Is-swyddog 2il Ddosbarth Arthur S. Bailey, RN. Parti'r Llong.

J. Lees
Llongwr Abl Joseph Lees, RN. Parti'r Llong.