Dyn o Oes y Cerrig ar Burry Holms, Penrhyn Gŵyr 17 Ebrill 2007 Wrth i'r haen iâ olaf encilio o Gymru 12,000 mlynedd yn ôl, dechreuodd planhigion, coed, anifeiliaid a phobl ddychwelyd yn raddol. Erbyn dechrau'r cyfnod Mesolithig, neu ganol Oes y Cerrig, 10,000 mlynedd yn ôl, roedd y coetiroedd yn dechrau ail sefydlu, ac roedd cymunedau hela a chasglu wedi symud i'r ardal Burry Holmes, Gower. Archeoleg Burry Holms Heddiw, ynys llanw ar ochr ogleddol Bae Rhossili, penrhyn Gŵyr yw Burry Holms. Mae llawer o archeoleg ynghlwm â'r safle, yn cynnwys safle Mesolithig, beddrodau o'r Oes Efydd, caer o Oes yr Haearn gyda ffos ddofn a chlawdd i'w amddiffyn, a gweddillion anheddiad a sefydlwyd yn yr 11eg ganrif ac a adawyd yn ystod yr 17eg ganrif. Penderfynodd Amgueddfa Cymru wneud ymchwil pellach ar Burry Holms gan fod gennym gasgliad o offer cerrig, o gefndir annelwig, a gasglwyd wrth wneud gwaith ar yr ynys yn y 1920au. Darganfyddiadau Mesolithig Cyflawnwyd arolwg gwyddonol a chloddfa yn y rhan o'r ynys lle credir i'r gwrthrychau Mesolithig gael eu darganfod. Roedd gweithio ar ynys llanw yn her, gan na ellid gweithio am fwy na phump awr ar y tro ar yr ynys. Fodd bynnag, roedd hyn yn golygu bod amser ar gael i brosesu'r holl ddarganfyddiadau a'r samplau wrth iddynt gael eu casglu. Darganfuwyd nifer o eitemau cerrig a olchwyd i lawr o rannau uchaf yr ynys, mewn un ardal o dywod a adawyd yno gan wynt yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'n anodd iawn dyddio darganfyddiadau o'r math yma, ond mae rhai gleiniau gwydr melyn wedi cael eu dyddio i Oes yr Haearn, ac felly'n cyfateb â'r gaer o Oes yr Haearn sydd ar yr ynys. Offer o Oes y Cerrig Roedd haenen o bridd claddedig o dan y tywod oedd yn cynnwys tystiolaeth o offer cerrig a gwaywffyn o'r cyfnod Mesolithig. Tynnwyd colofn o waddod o'r gyfres gyfan o dyddodion, i'w brofi am ronynnau paill, a fydd yn rhoi tystiolaeth amgylcheddol o'r dirwedd yn ystod y cyfnod Mesolithig a chyfnodau diweddarach. Hefyd, anfonwyd darnau mawr o siarcol o'r haen Fesolithig i gael eu dadansoddi er mwyn canfod rhywogaeth y goeden a dyddio gan ddefnyddio dulliau radio carbon. Bywyd ar Burry Holms yn Oes y Cerrig Drwy astudio'r dystiolaeth a ddarganfuwyd gyda chasgliadau'r Amgueddfa, gellir cynnig dehongliad o'r safle Mesolithig ar Burry Holms. Gwyddwn mai microlithau yw'r ddau ddeg dau o waywffyn bach a ddarganfuwyd ar y safle. Pwyntiau bach cerrig yw microlithau, sy'n perthyn i'r cyfnod Mesolithig yn unig; clymwyd hwy at ddolenni, a defnyddiwyd hwy fel gwaywffyn i hela a physgota. Mae gan un o'r microlithau hollt ar ei flaen a achoswyd gan drawiad, sy'n awgrymu iddo gael ei dorri wrth gael ei ddefnyddio. Mae'n bosibl bod ei berchennog Mesolithig wedi mynd ag ef i Burry Holms lle cafodd wared ohono a gwneud un newydd ar gyfer ei waywffon, cyn mynd eto i hela neu bysgota. Mae cyflenwad da o fflint a cherrig yn yr ardal, sy'n ddelfrydol ar gyfer creu offer miniog. Dengys amrywiaeth y gwrthrychau a ddarganfuwyd bod offer cerrig wedi cael eu cynhyrchu ar y safle. Mae'r rhan fwyaf o'r microlithiau a ddarganfuwyd yn dod o'r cyfnod Mesolithig Cynnar, ond mae'n ymddangos bod gan dri ohonynt nodweddion o'r cyfnod Mesolithig Hwyr. Yn ystod y cyfnod Mesolithig Cynnar roedd lefel y môr llawer yn is na heddiw, sy'n golygu nad ynys oedd Burry Holms ar y pryd ond bryn mewndirol amlwg. Mewn sawl ffordd, byddai'r safle hwn wedi bod yn lle delfrydol i bobl Mesolithig sefydlu gwersyll neu anheddiad. Byddai'r cysgod rhag y gwyntoedd ar ben y bryn, a'i safle amlwg wedi bod yn ddelfrydol i weld ysglyfaeth i'w hela ar y tir amgylchynol, ac roedd yr afon Llwchwr gerllaw yn ffynhonnell da o bysgod. Yn anffodus, oherwydd natur asidig y pridd, nid oes esgyrn wedi goroesi ar y safle, felly ni fyddai gweddillion eu prydau bwyd, gweddillion y bobl eu hunain, na'u hoffer o asgwrn a phren, wedi goroesi.
Y Dyn Bicer o Landaf - Bedd o'r Oes Efydd Cynnar yn Llandaf 12 Ebrill 2007 Bicer Llandaf Wrth adfer tŷ yn ardal Llandaf ym 1992, dadorchuddiwyd slab carreg anghyffredin oedd wedi'i orchuddio gan dywod afon a silt. O dan y slab roedd asgwrn hir a llestr clai. Daeth yn amlwg mai bicer oedd y llestr — llestr clai addurnedig oedd yn ffasiynol yng ngorllewin Ewrop tua 4,000 mlynedd yn ôl yn ystod 'Cyfnod y Bicer'. Mae'n bosib y byddai'r bicer wedi dal medd, cwrw neu ddiod arbennig arall yn wreiddiol. Roedd y slab cerrig yn dynodi safle bedd. Gyda chydweithrediad ac anogaeth y perchnogion, fe gynhaliodd yr Adran Archeoleg a Niwmismateg gloddfa yn nhramwyfa'r tŷ, i ail-agor y bedd a chloddio'i gynnwys. Roedd y gistfaen amgylchynol a adeiladwyd o slabiau o graig Radyr, yn anarferol gan ei bod ar ogwydd, ei maen capan yn pwyso ar ongl o 30°, yn wahanol i'r cistfeini bicer siâp bocs mwy traddodiadol. Ychydig iawn o'r sgerbwd sydd ar ôl. Y disgwyl oedd y câi'r sgerbwd ei ddarganfod ar ei gwrcwd, sy'n nodweddiadol o gyfnod y Biceri, ond dim ond darnau o'r craniwm (top y benglog) ac esgyrn y breichiau a'r coesau oedd wedi goroesi. Dadorchuddiwyd offer bedd ychwanegol, yn cynnwys mynawd efydd (offeryn pigfain ar gyfer torri tyllau mewn pren neu ledr), a naddyn flint — gwrthrychau a gladdwyd wrth ochr yr unigolyn i'w defnyddio yn y 'byd nesaf'. Cysylltir mynawydau â chladdedigaethau benywaidd fel arfer. Drwy ddadansoddi'r gwaddodion sy'n llenwi'r bedd, gallwn esbonio ffurf anarferol y gistfaen, a pham mai dim ond rhan o'r sgerbwd sydd wedi goroesi. Mae presenoldeb gwaddolion graddedig, a adawyd yn y bedd gan ddŵr, yn awgrymu bod llifogydd wedi ymyrryd ac wedi erydu'r gladdfa. Heddiw, mae'r afon Taf yn llifo heibio gerllaw, a chodwyd yr adeiladau ger man darganfod y bedd ar hen safle gorlifdir yr afon.
Arch Rhufeinig Gwndy 5 Ebrill 2007 Arch Gwndy wrth iddi gael ei datgloddio gan archaeolegwyr Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ym 1996. Rhoddodd David Mclean Homes Cyf. yr arch i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Codi arch Gwndy cyn ei chludo i ffwrdd. Mae olion offer yn dangos y gwnaeth y saer maen Rhufeinig ddefnydd o forthwyl neddyf i drin ochr allanol yr arch. Llun © G. Lock. Arch Gwndy. Yn y drydedd neu'r bedwaredd ganrif OC cafodd gwraig ifanc ei chladdu mewn arch garreg yng Ngwndy, Sir Fynwy. 1600 o flynyddoedd yn ddiweddarach ffeindiodd gweithwyr ei bedd. Cafodd arch ei datgladdu gan weithwyr oedd yn cloddio sylfeini tai newydd yng Ngwndy, Sir Fynwy ym 1996. Cafodd y safle ei archwilio gan archaeolegwyr yn dilyn y darganfyddiad, ond hyd heddiw ni wyddom ai bedd unigol oedd hwn neu a oedd yn rhan o fynwent fach. Roedd yr arch yn cynnwys sgerbwd oedolyn ifanc, llaw dde, gwraig 25 a 34 mlwydd oed yn ôl pob tebyg rhwng. Ni wyddom beth oedd achos ei marwolaeth ond ar sail dyddiad radiocarbon fe wyddom iddi gael ei chladdu tua diwedd y drydedd neu'r bedwaredd ganrif OC, pan oedd Cymru dan reolaeth y Rhufeiniaid. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd claddedigaethau weithiau'n cynnwys nwyddau claddu, megis dysgl, jar neu botel bersawr. Yn llai aml, câi darnau arian, sef "ffi'r fferïwr" a fyddai'n talu i'r ymadawedig fynd i'r isfyd. Nid oedd y gladdedigaeth yng Ngwndy yn cynnwys unrhyw un o'r pethau hyn. Er hynny, mae'r gladdedigaeth yn awgrymu ei bod hi'n wraig gymharol gyfoethog a allai fforddio arch garreg a chladdedigaeth barchus. Ni fu'r dull yma o gladdu'n arferol drwy gydol y cyfnod Rhufeinig. Hyd ddiwedd yr ail ganrif OC câi'r rhan fwyaf o bobl eu corfflosgi cyn rhoi eu llwch mewn llestr gwydr neu briddlestr. Fodd bynnag, o ddiwedd yr ail ganrif ymlaen dechreuodd arferion claddu newid. Roedd syniadau newydd am byd a ddaw'n golygu bod rhaid claddu'r corff cyfan. Priodolwyd y syniadau hyn yn rhannol i ddylanwadau o rannau dwyreiniol yr Ymerodraeth Rufeinig a lledaeniad Cristnogaeth a'r gred am atgyfodiad y corff. Nodwedd ddewisol oedd yr arch. Câi'r tlodion eu claddu mewn bedd heb arch o bosibl. Câi'r eirch eu gwneud o sawl gwahanol fath o ddefnydd, gan gynnwys pren, plwm a charreg. Er mwyn diwallu'r galw, mae'n bosibl y câi rhai eu cynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol. Gwnaed arch Gwndy o Garreg Caerfaddon, calchfaen melyn golau sy'n gymharol feddal ac yn hawdd i'w drin yn syth o'r chwarel, ond mae'n caledu pan ddaw i gysylltiad â'r awyr. Daw'r garreg hon o gyffiniau tref ffynhonnau Caerfaddon yn Lloegr (tref a adwaenid fel Aquae Sulis, sef "Dyfroedd Sulis", gan y Rhufeiniaid). Mae'r ardal hon tua 35km (20 milltir) i'r de-ddwyrain o Wndy. Defnyddiodd y seiri maen Rhufeinig a'i lluniodd offer tebyg i'r rhai a ddefnyddir gan seiri maen heddiw. Ar wynebau arch Gwndy gwelir olion yr offer hyn, gan gynnwys y rhai a wnaed gan forthwylion neddyf, cynion, ceibiau ac offer pigfain. Dengys cyfeiriadau'r olion fod y saer maen yn weithiwr llawchwith. Darllen Cefndir "Tools and Techniques of the Roman Stonemason in Britain" gan T. F. C. Blagg. Yn Brittania, cyf. 7, tt. 152-72 (1976). "Stone Coffins of Gloucestershire" gan R. N. Willmore. Yn Transactions of the Bristol and Gloucester Archaeological Society, cyf. 61, tt. 135-77 (1939).
Pan Ymosododd y Llychlynwyr ar Ogledd Cymru 2 Ebrill 2007 Mae cofnodion hanesyddol yn sôn am gyfres o ymosodiadau brawychus gan oresgynwyr Llychlynnaidd ar arfordiroedd Prydain, Ffrainc a'r Iwerddon yn negawd olaf yr 8fed ganrif. Digwyddodd y cyrch cyntaf ar Gymru i gael ei gofnodi yn 852, a gwyddwn i'r Llychlynwyr ymosod ar Ynys Môn a Gwynedd o 854 ymlaen. Rhodri Mawr, Brenin Gwynedd (844-78) oedd arweinydd y gwrthsafiad i'r ymosodiadau hyn, ac fe laddodd bennaeth y Daniaid, Gorm, yn 855. Yn 903 daeth y Llychlynwyr i Ynys Môn wedi iddynt gael eu herlid o Ddulyn. Yn ôl cofnodion y Gwyddelod a'r Cymry, methiant fu eu hymdrechion i sefydlu troedle yng Nghymru, a bu'n rhaid iddynt hwylio ymlaen i Gaer. Anrheithiwyd Ynys Môn gan y Llychlynwyr eto yn 918. Bu ymosodiadau cyson ar yr ynys yn ystod ail hanner y 10fed ganrif; adeiladodd Olaf o Ddulyn gastell o'r enw 'Castell Olaf' neu 'Castell Bon y Dom' tua'r flwyddyn 1000. Bellach, mae'r darlun hanesyddol unochrog hwn o'r Llychlynwyr yn brawychu'r wlad wedi cael ei drawsnewid gan archeoleg. Roedd y Llychlynwyr yn sicr yn elyniaethus a threisgar ar brydiau, ond gweld eu cyfle a wnaent yn aml. Mewn rhai ardaloedd, ymsefydlodd y Llychlynwyr yn amaethwyr heddychlon, a dengys tystiolaeth archeolegol eu bod yn wladychwyr, masnachwyr, a chrefftwyr medrus. Hyd heddiw, natur ymsefydliad y Llychlynwyr yng Nghymru, ac ar Ynys Môn yn enwedig, yw un o ddirgelion mwyaf archeoleg yr Oesoedd Canol cynnar. Amlygir hyn wrth blotio'r mesuriad Llychlynnaidd - 'un diwrnod o hwylio' o Ynys Manaw, Dulyn, Caer a Chilgwri, gan eu bod i gyd yn cyfarfod yn nyfroedd Ynys Môn. Darnau o ingotau arian a breichdorchau o'r 10fed ganrif Y Llychlynwyr yn enwi Ynys Môn Mae'r dystiolaeth ffisegol am y Llychlynwyr yng Nghymru'n llai pendant, hyd yn oed. Gwyddom fod y Llychlynwyr yn gyfarwydd ag Ynys Môn oherwydd rhoddwyd enwau o darddiad Sgandinafaidd i'r nodweddion arfordirol amlwg a ddefnyddiwyd ganddynt fel cymorth wrth fordwyo: Onguls-ey ei hun, sy'n ymgorffori enw personol yn ôl y traddodiad - arweinydd Llychlynnaidd mae'n debyg, The Skerries (Ynysoedd y Moelrhoniaid), Piscar, Priestholm (prestaholmr) ac Osmond's Air ger Biwmares, sy'n tarddu o'r enw Asmundr & eyrr, traethell raean ger y môr. Dadorchuddio tystiolaeth o'r Llychlynwyr yng Nghymru Am ddarlun mwy gwirioneddol o'r Llychlynwyr yng Nghymru, rhaid troi at archeoleg. Darganfuwyd y rhan fwyaf o'r darnau arian Llychlynnaidd a ganfuwyd yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol. Canfuwyd dau gelc ym mynachlog Sant Deiniol, Bangor, un yn dyddio o tua 925, a grŵp bach o geiniogau a osodwyd yno tua 970. Gosodwyd celc ceiniogau Bryn Maelgwn , ger Llandudno yn y 1020au canol, ac fe allai fod yn ysbail Lychlynnaidd yn hytrach na chynilion lleol; ac fe ganfuwyd celc hynod o bum breichdorch arian cyflawn yn y 19eg ganrif ar Draeth Coch, Ynys Môn. Anheddiad Oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch Un o'r safleoedd archeolegol mwyaf diddorol o gyfnod y Llychlynwyr yw Llanbedrgoch , ar Ynys Môn, ac mae gwaith ymchwil gan Amgueddfa Cymru wedi cyfrannu tuag at ddatgelu natur bywyd yn Oes y Llychlynwyr, sydd wedi bod yn ddirgelwch i ysgolheigion ers degawdau.