Crefft yn blodeuo: darlunio botanegol gan artistiaid o ferched 16 Mehefin 2007 Maria Sibylla Merian'Raupenbucher' (Book of Caterpillars) - 1679 Cerasus Major Elizabeth Blackwell'The Curious Herbal' 1737-39 Prunus Amygdalus Boneddiges Arabella RoupellProtea Berthe Hoola van NootenCarica Papaya Miss Sarah Anne DrakeCrateagus Macrantha Jane Webb LoudonRomulea Mae casgliad yr Amgueddfa o ddarluniau botanegol yn cynnwys dros 9,000 o brintiadau a lluniau. Mae straeon difyr a dewr y tu ôl i lawer o'r lluniau yn y casgliad, yn enwedig straeon yr arlunwyr benywaidd a oedd yn chwarae rhan yn y darganfyddiadau gwyddonol. Bu tuedd i anwybyddu arlunwyr botanegol benywaidd a'u gwthio i gyrion byd gwyddonol ac academaidd llysieueg. Roedd hyn yn tanseilio'u camp a'u cyfraniad i wyddor a chelfyddyd darlunio botanegol. Rhan merched yn darlunio planhigion Barn rhai oedd mai ffordd barchus i foneddigesau basio'r amser, gan wneud tipyn bach o baentio cyn te, oedd darlunio botanegol! Roedd hyn yn wir yn achos rhai merched ond nid pawb ohonynt. Enillodd nifer o ferched penderfynol ac annibynnol eu plwyf fel darlunwyr botanegol crefftus a dawnus. Yr 17eg ganrif Maria Sibylla Merian (1647-1717) oedd un o arlunwyr botanegol gorau ei chyfnod. Bu gan Maria ddiddordeb mewn trychfilod a lindysod a'r planhigion oedd yn fwyd iddynt er pan oedd yn ifanc. Credir bod gan ei hewythr ffatri sidan a bod hyn wedi arwain at ei diddordeb hi yng nghylch bywyd y pryf sidan. Ym 1679, cyhoeddwyd y gyntaf o'i thair cyfrol ar bryfetach Ewrop, wedi'u darlunio â'i hysgythriadau hi ei hunan. Roedd ei lluniau gofalus a manwl o bryfetach a'r planhigion yr oeddent yn byw arnynt yn gynsail ar gyfer llenyddiaeth wyddonol wedi hynny. Ar ôl bod yn briod am 17 flynedd, gadawodd Maria ei gŵr ac ymuno â sect ddethol o'r enw'r Labadistiaid mewn castell yn yr Iseldiroedd. Ym 1698, gwerthodd Maria ei chasgliad i dalu am daith i astudio a disgrifio pryfetach yn eu cynefin. Am ddwy flynedd, treuliodd ei holl amser yn chwilio am blanhigion a phryfetach newydd ac yn eu darlunio. Yn y pen draw, dychwelodd i Ewrop oherwydd afiechyd ac roedd yn gweithio ar nifer o luniau pan fu farw o strôc yn 70 oed. Y 18fed ganrif Anfonwyd gŵr Elizabeth Blackwell (1700-1758) i garchar dyledwyr am ddwy flynedd ar ôl iddo agor siop brintiau yn Llundain heb y brentisiaeth angenrheidiol. Roedd yn rhaid i Elizabeth feddwl am ffordd o'u harbed rhag eu trafferethion ariannol a, gan ei bod yn arlunydd dawnus, cafodd ei hannog gan Syr Hans Sloane, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol, i lunio llysieulyfr awdurdodol o blanhigion meddyginiaethol. Cychwynnodd Elizabeth ar y dasg fawr hon gan ysgythru ei lluniau ei hunan ar blatiau copr a lliwio'r printiau â llaw. Roedd hon yn dasg enfawr a theitl y gwaith gorffenedig oedd A Curious Herbal. Cyhoeddwyd y gyfrol gyntaf, a oedd yn cynnwys 500 o blatiau, ym 1738. Er nad yw safon ei darluniau yn eithriadol, roedd hwn yn gofnod ardderchog yn ei gyfnod ac roedd yn gymaint o lwyddiant am iddo lenwi bwlch ym maes adnabod planhigion. Y 19eg ganrif Roedd Oes Fictoria yn gyfnod o ddatblygiadau mawr. Wrth i'r Ymerodraeth Brydeinig ehangu, roedd llawer o blanhigion newydd ac egsotig yn cael eu hanfon i Brydain. Yn aml, roedd gwragedd bonheddig yn cyhoeddi llyfrau'n ddi-enw gan ei fod yn cael ei ystyried yn beth coman i gysylltu enw menyw â menter fasnachol. Engraifft dda o hyn yw llyfr o'r enw Specimens of the Flora of South Africa by a Lady (1849). Roedd y 'Foneddiges' hon yn ymweld â De Affrica gyda'i gŵr ac, er mwyn pasio'r amser, bu'n paentio lluniau o blanhigion egsotig yr ardal. Cyhoeddodd y gyfrol yn ddi-enw ond, maes o law, daeth yn hysbys mai Lady Arabella Roupell oedd yr awdur. Bu farw gŵr Berthe Hoola van Nooten (yn ei bri tua diwedd y 1800au) pan oeddent yn teithio yn Java, a gadawyd hi i fagu dwy ferch ar ei phen ei hunan. A hithau mewn angen mawr, cyhoeddodd The fruits and flowers of Java (1863), sy'n cynnwys darluniau lliwgar a chryf. Yn unol â thraddodiadau cymdeithasol yr oes, ysgrifennodd Berthe ryw fath o ymddiheuriad yn y cyflwyniad i'r llyfr yn esbonio ei bod wedi'i gorfodi i ddefnyddio'i doniau fel arlunydd botanegol i'w chadw rhag tlodi ac fel encilfa yn ei galar. Mae hyn yn rhoi syniad da i ni o ddisgwyliadau a statws merched yn y 19eg ganrif. Daeth Miss Sarah Anne Drake (1803-1857) yn arlunydd botanegol o fri a chynhyrchodd lawer iawn o waith. Arbenigau mewn tegeirianau a chyfrannodd blatiau eithriadol at yr Orchidaceae of Mexico and Guatemala gan Bateman — un o'r llyfrau enwocaf a gyhoeddwyd erioed am degeirianau. Efallai mai ei chynnyrch gorau oedd y 1,100 o blatiau ardderchog a luniodd ar gyfer y Botanical Register gan Sydenham Edwards. Enwyd y tegeirian 'Drakea' o Awstralia ar ei hôl. Gadawyd Jane Webb Loudon (1807—1858) yn amddifad yn 17 oed. Ysgrifennodd nofel wedi'i gosod yn yr 21ain ganrif o'r enw The Mummy i'w chynnal ei hunan. Daeth y nofel i sylw John Loudon, tirluniwr uchel ei barch, ac fe gyfarfu'r ddau a phriodi maes o law. Credai Jane fod llawer o lyfrau garddio ei gŵr yn rhy dechnegol ac felly ysgrifennodd Instructions in Gardening for Ladies (1840) mewn iaith glir a syml. Roedd y llyfr yn eithriadol o boblogaidd a gwerthwyd dros 20,000 o gopïau ohono. Aeth Jane ymlaen i ysgrifennu The Ladies Flower-Garden ym 1840 a Botany for Ladies ym 1842. Gwaith pwysicaf Anna Maria Hussey (1805—1877) oedd Illustrations of British Mycology, a gyhoeddwyd ym 1847-9 mewn dwy gyfrol. Mae'r llyfr yn cynnwys cyfres o blatiau lliw, gwybodaeth fiolegol a sylwadau cyffredinol sy'n cyfuno gwyddoniaeth, anectodau a chyfeiriadau llenyddol. Cafodd y goden fwg Husseia ei henwi ar ei hôl.
Mieri, mwyar, jam a jargon 12 Mehefin 2007 Drysfa Fieri — botanegwyr yn didoli'r casgliad yn ystod yr ad-drefnu. Sbesimenau o fieri wedi'u gosod ar hyd Prif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd Mae'r casgliad o fieri a gedwir yn Amgueddfa Cymru'n cael ei gydnabod fel adnodd cyfeirio gwyddonol o bwys ar gyfer y gwaith o astudio ac enwi planhigion ym mhedwar ban byd. Mae'r casgliad Mieri, Mwyar neu Rubus yn llysieufa'r Amgueddfa yn un o brif gasgliadau cyfeirio Prydain ar gyfer enwi planhigion. Yn y casgliad, ceir 15,000 o sbesimenau, yn cynnwys pob un o'r 325 o rywogaethau y gwyddom amdanynt ym Mhrydain ac Iwerddon. Gan fod gwaith dosbarthu mieri'n cael ei adolygu'n barhaus, mae'n hollbwysig bod y casgliad hwn yn cael ei reoli, ei warchod a'i ddefnyddio. Mae'n anodd gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o fieri gan eu bod yn aml yn debyg iawn i'w gilydd a bod llwyni o wahanol rywogathau'n aml yn gwau trwy'i gilydd gan ei gwneud yn anodd casglu un rywogaeth. Gan fod cynifer o rywogaethau o fieri ym Mhrydain, mae llawer o sbesimenau yn y casgliad yn dal heb eu henwi. Pan ddarganfyddir math newydd, gelwir y sbesimen a ddefnyddir i adnabod y rhywogaeth y mae'n perthyn iddi yn deipsbesimen. Mae teipsbesimenau yn bwysig iawn er mwyn datrys problemau wrth adnabod rhywogaethau ac mae teipsbesimenau o 100 o rywogaethau o leiaf yng nghasgliad yr amgueddfa.,/p> Mae elfen hanesyddol bwysig i'r casgliad gan ei fod yn cynnwys casgliadau personol nifer o gasglwyr o bwys o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed. Mae sbesimenau Ewropeaidd yn werthfawr hefyd a, thrwy'r rhain, canfuwyd bod nifer o rywogaethau o fieri o Ffrainc a'r Almaen ym Mhrydain ond eu bod heb eu canfod tan yn ddiweddar. Gobeithio y gellir defnyddio'r sbesimenau Ewropeaidd i gysylltu rhai o'r sbesimenau yn y llysieufa sydd heb eu henwi i'r rhywogaethau cyfandirol.
Un casgliad - 786,000 o gregyn - Catalogio a churadu Casgliad Cregyn Melvill-Tomlin 12 Mehefin 2007 James Cosmo Melvill. John Read le Brockton Tomlin. Un o sbesimenau pwysicaf Melvill, Conus gloriamaris. Placostylws o Layard Pan dderbyniodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gasgliad Melvill-Tomlin o folysgiaid ym 1955, dim ond un casgliad mwy o'i fath yn y byd oedd mewn dwylo preifat. Cychwynnwyd y casgliad gan James Melvill ym 1853 a'i drosglwyddo i John Tomlin ym 1919. Roedd ynddo sbesimenau o bob rhan o'r byd ac roedd yn cynnwys bron hanner yr holl rywogaethau o folysgiaid y gwyddai dyn amdanynt. Cafodd dros fil o rywogaethau a oedd yn newydd i fyd gwyddoniaeth eu disgrifio a'u henwi gan Melvill. Daliodd Tomlin ati i ychwanegu sbesimenau newydd o bedwar ban byd tan ddiwedd ei oes ym 1954. Pan fu farw Tomlin ym 1954, derbyniodd yr Amgueddfa y casgliad cyfan ynghyd â'i lyfrgell a'i bapurau. Lle i gadw'r casgliad Cyrhaeddodd y casgliad mewn cabinetau mahogani ond erbyn heddiw fe'i cedwir mewn system raciau symudol, mewn trefn safonol, systematig sy'n hwylus ar gyfer ymchwilwyr tacsonomig sy'n gweithio arno. Gwaith dogfennu araf a maith Erbyn heddiw, caiff sbesimenau eu dogfennu trwy roi manylion mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ond, yn y gorffennol, roedd y wybodaeth yn cael ei hysgrifennu â llaw mewn cofrestrau mawr. Rhwng 1978 a 1994, bu staff yr amgueddfa a gwirfoddolwyr yn dilysu a labelu sbesimenau'r casgliad ac yn eu rhoi yn eu lle. Yna, roedd y wybodaeth am y casgliadau'n cael ei chyhoeddi i dacsonomegwyr ym mhob rhan o'r byd fel y gallent hwy wneud rhagor o waith astudio. Pe bai'r broses wedi parhau fel hyn, byddai wedi cymryd 30 mlynedd arall i ddogfennu'r casgliad yn llawn. Cronfa ddata gyfrifiadurol yn cwblhau'r rhestr 'gyntaf' Ym 1995, prynwyd cronfa ddata gyfrifiadurol oedd yn golygu y gallai llawer o bobl gofnodi data ar yr un pryd. Ers hynny, bu dros ugain o staff a gwirfoddolwyr yn cofnodi'r casgliad. Mae'r gwaith o restru'r casgliad, a gychwynnwyd ym 1978, wedi'i gwblhau erbyn hyn a gellir ateb unrhyw ymholiadau mewn munudau yn hytrach na mewn dyddiau neu wythnosau. Dros ddwy flynedd ar hugain, ychwanegwyd dros 786,000 o gregyn i'r gronfa ddata. Newydd i wyddoniaeth Yn y casgliad hwn, ceir miloedd o sbesimenau pwysig iawn a elwir yn 'deipiau'. Roedd y sbesimenau hyn yn ddarganfyddiadau gwyddonol newydd pan gawsant eu casglu ac, fel rheol, cawsant eu disgrifio, eu darlunio a'u henwi gan y casglwr. Yn achos llawer o hen gasgliadau, dim ond gwaith ditectif gan guraduron amgueddfeydd a thacsonomegwyr ym mhedwar ban byd a all helpu i ddilysu'r wybodaeth hon. Mae rhestr eiddo electronig yn gwneud y dasg yn haws o lawer oherwydd gall cronfa ddata gyfan fod ar gael i dacsonomegwyr ble bynnag y maent.
Peli Camffor ac Arsenig, Llau Llyfrau a Phryfed Arian - Peryglon Llysieufa'r Amgueddfa 12 Mehefin 2007 Sbesimen wedi'i ddifrodi gan chwilen bisgedi Gwneud profion i ganfod lefelau anwedd arian byw yng nghypyrddau'r llysieufa Enghraifft o afliwio a achoswyd gan blaleiddiaid. Dangosodd gwaith ymchwil bod y sbesimen hwn wedi'i drin ag arsenig, arian byw a bariwm — sy'n niweidiol i'r sbesimen ac i iechyd Mae dros 250,000 o sbesimenau o blanhigion wedi'u sychu o bedwar ban byd yn Amgueddfa Cymru, rhai ohonynt yn dyddio 'nôl i'r 18fed ganrif. Gall plaleiddiaid tocsig a ddefnyddiwyd ar y sbesimenau hyn dros y blynyddoedd wneud drwg iddynt a pheryglu iechyd y rhai sy'n gweithio arnynt. Rhoddir plaleiddiaid ar y sbesimenau i wrthsefyll plâu fel llau llyfrau, chwilod bisgedi a phryfed arian. Mae plâu wedi bod yn fygythiad i sbesimenau o fyd natur erioed a gallant gael effaith ddinistriol ar gasgliad botanegol gan ddifa manylion pwysig neu hyd yn oed sbesimenau cyfan. Erbyn hyn, gwyddom fod rhai mathau o blaleiddiaid a ddefnyddiwyd yn y gorffennol yn niweidiol ac yn wenwynig. Gallai pobl sy'n trafod y casgliadau beryglu eu hiechyd, yn enwedig gan na wyddom faint o gemegau a pha fath o gemegau a ddefnyddid yn y plaleiddiaid. Cafodd samplau bychan o ddalenni o lysieufa'r Amgueddfa eu dadansoddi i weld pa gemegau oedd mewn un sampl. Er enghrafft, pe bai arian byw ac arsenig wedi'u defnyddio ar ddalen yn y llysieufa, byddai un prawf yn canfod y ddau fetal. Gwelwyd mai'r cemegau a ddefnyddid amlaf oedd carbon deusylffid, clorid mercwrig, methyl bromid, naphthalin, paradiclorobensen a pyrethroidau. Arian Byw Canfuwyd llawer o arian byw yn y samplau papur a chymerwyd camau ar unwaith i ddiogelu pobl oedd yn trafod sbesimenau. Gall arian byw gael ei gymryd i'r corff trwy ei anadlu, ei amsugno a'i lyncu a gall ei effeithiau amharu ar ffrwythlondeb, gall achosi mwtadu genynnol, cryndod, nam ar y golwg, newidiadau difrifol i'r bersonoliaeth a hyd yn oed ddifrod i'r ymennydd. Mesurwyd faint o anwedd arian byw oedd yn y llysieufa ac roedd y darlleniadau ym mhob safle lle cymerwyd darlleniadau ymhell islaw y safon iechyd a diogelwch a argymhellir. Rhoddwyd offer monitro ar ddillad unigolion. Peli Camffor ac Arsenig Er ei bod yn anodd mesur arsenig yn fanwl, canfuwyd peth ohono ar y rhan fwyaf o'r sbesimenau y cynhaliwyd profion arnynt. Canfuwyd naphthalin ar yr holl samplau, yn ôl y disgwyl. Defnyddiwyd peli camffor, a wnaed o naphthalin, yng nghypyrddau'r llysieufa tan y 1980au. Llwyddodd y prosiect i ganfod y cemegau a'r metalau peryglus a oedd yn olion y plaleiddiaid a bwriedir parhau i fonitro ansawdd yr aer a'r staff fel y gellir parhau i weithio yn y llysieufa heb berygl. Ar ôl gwneud y profion, lluniwyd cronfa ddata yn nodi'r sbesimenau, y plaleiddiaid, y llygryddion a'r peryglon i iechyd ac i'r sbesimenau. Defnyddiwyd y gronfa hon i helpu i ganfod peryglon yn llysieufeydd sefydliadau botanegol eraill.
Coedwigoedd glaw trofannol Cymru 12 Mehefin 2007 Model cŵyr o côn o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar. Model cŵyr o darn o foncyff o gnwpfwsoglau enfawr y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar. Golygfa dros fforestydd glo'r Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, yn dangos cnwpfwsoglau enfawr y corstir, a'r rhedyn bychain yn tyfu ger y dŵr Ffosil Lepidodentron aculaetum Heddiw, mae coedwigoedd glaw yn gorchuddio rhan helaeth o'r trofannau a cheir capanau rhew mawr yn y pegynau. Dyma fel y bu, fwy neu lai, ers 3-4 miliwm o flynyddoedd ond ymhell, bell yn ôl, roedd pethau'n wahanol iawn. Efallai bod 3-4 miliwn o flynyddoedd yn ymddangos yn amser hir i ni ond, o gofio bod hanes y Ddaear yn mynd yn ôl 4,700 miliwn o flynyddoedd, cyfnod cymharol fyr ydyw. Os awn yn ôl i gyfnodau daearegol pellach, er enghraifft pan oedd deinosoriaid yn crwydro'r Ddaear, roedd y sefyllfa'n wahanol iawn i'r hyn a welwn heddiw. Dim ond mewn un cyfnod arall yn ein gorffennol daearegol y bu'r sefyllfa'n debyg i'r hyn a gawn heddiw, gyda rhew dros ardaloedd eang yn y pegynau a fforestydd glaw yn y trofannau — yn y cyfnod y mae daearegwyr yn ei alw'n Gyfnod Carbonifferaidd Diweddar, 300,000,000 o flynyddoedd yn ôl. Wrth gwrs, dydyn ni ddim yn y trofannau bellach gan ein bod wedi symud tua'r gogledd i ran fwy tymherus o'r byd. Ond 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru ar y cyhydedd ac roedd gwern-goedwigoedd trofannol iseldirol yn gorchuddio rhan fawr o'r tir. Prif blanhigion y corstiroedd hynafol hyn oedd cnwpfwsoglau enfawr. Ceir cnwpfwsoglau heddiw ond rhai bychan iawn ydynt (a dyna pam y ceir 'mwsogl' yn eu henw), ond roedd y mathau hynafol hyn yn mesur hyd at 40 metr o daldra. Er eu bod mor fawr, nid coed oeddent, oherwydd roedd eu bôn wedi'i wneud o stwff meddal, tebyg i gorc, nid pren. Roedd hyn yn golygu bod y planhigion yn gallu tyfu'n eithriadol o gyflym, gan gyrraedd eu llawn maint mewn cyn lleied â deng mlynedd. Nid oedd y cnwpfwsoglau'n byw yn hir: byddent yn cyrraedd eu llawn maint, yn atgynhyrchu (â sborau, nid â hadau fel y rhan fwyaf o goed heddiw) ac yna'n marw. Gan fod cymaint o olion planhigion marw ar y llawr, roedd y llaid a'r silt yr oeddent yn tyfu ynddo yn mynd yn asidig iawn gan olygu nad oedd y planhigion marw'n pydru mor gyflym. Felly, roedd haenen drwchus o fawn yn ffurfio a honno'n troi mewn amser yn lo — a hwnnw fu'n cael ei gloddio ym meysydd glo de a gogledd Cymru. Y coedwigoedd trofannol Carbonifferaidd oedd un o'r 'sbyngau' cryfaf yn hanes y Ddaear o ran tynnu carbon o'r atmosffer a'i gladdu o dan y ddaear. Trwy edrych ar y newid a fu ym maint y fforestydd hyn (ac felly faint o garbon yr oeddent yn ei dynnu o'r atmosffer) a'i gymharu â newidiadau ym maint y capanau rhew yn y pegynau, cawn syniad gwell o lawer o'r cysylltiad rhwng faint o garbon sydd yn yr atmosffer a thymheredd y byd. Gwyddom am un cyfnod yn benodol pan welwyd y fforestydd a'r capan iâ yn crebachu tua'r un pryd. Er mwyn deall y newidiadau hyn i'r byd yn iawn, mae'n bwysig ein bod yn deall pam a phryd y cafwyd newidiadau yn y fforestydd. I wneud hyn, mae angen edrych yn ofalus ar y newidiadau yn y llystyfiant fel y'i gwelir yn y cofnod ffosilau a'r newidiadau ym maint y fforestydd. Y daearegwr arloesol o'r 19eg ganrif, Charles Lyell, a fathodd yr ymadrodd, 'y presennol yw'r allwedd i'r gorffennol'. Fodd bynnag, y neges a gawn o gofnod daearegol y Cyfnod Carbonifferaidd Diweddar yw mai'r gorffennol, o bosib, yw'r allwedd i ddeall y presennol.