: Amgueddfeydd, Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Sgwrs gyda Theatr na n'Óg

Leisa Williams a Christopher Parry, 4 Medi 2024

Mae Theatr na n'Óg wedi bod yn frwd dros adrodd straeon ers 40 mlynedd ac wedi cydweithio gyda nifer o safleoedd Amgueddfa Cymru. Gyda'i gilydd, maent wedi cydweithio ar lawer o brosiectau sydd wedi dod â hanes a diwylliant Cymru yn fyw, gan ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion ar draws llawer o weithdai a pherfformiadau. 

Mewn blynyddoedd blaenorol mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau wedi cydweithio gyda nhw ar amrywiaeth o brosiectau. Yn 2009,  sioe Alfred Russel Wallace, y ffocws oedd ymchwil Wallace ar esblygiad a wnaeth sbarduno Darwin  i gyhoeddi 'On the Origin of Species'. Yn 2022, daeth stori Elgan Jones, bachgen 14 oed a arestiwyd am potsio yn 1898, drama ystafell llys oedd hon a osododd y gynulleidfa fel rheithwyr. Nawr, yn 2024, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn gweithio gyda nhw unwaith eto ar brosiect yn archwilio hanes y bocsiwr Cuthbert Taylor, a anwyd ym Merthyr Tudful, mewn cynhyrchiad o'r enw 'The Fight.' 

Er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o Theatr na n'Óg, 'The Fight, a rôl y mae Amgueddfa Cymru yn ei chwarae yn y bartneriaeth, eisteddodd Leisa Williams, Uwch Swyddog Dysgu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na n'Óg, i gael sgwrs am brosiectau ddoe a heddiw. 

Defnyddiwch y chwaraewr cyfryngau i wrando ar y sgwrs yn llawn. 

Ynghylch ‘The Fight’ | 

Mae "The Fight' yn ddrama newydd sbon sy'n adrodd stori gwir am arwr bocsio Cymraeg. 

Yng nghymoedd difreintiedig y 1930au, roedd bocsio yn fwy na fath o chwaraeon; roedd yn ffordd allan o dlodi. Ganwyd Cuthbert Taylor yn Merthyr, gwelwyd nawr fel un o focswyr orau ei genhedlaeth, dylai fod wedi cael y cyfle i frwydro am deitl Prydeinig, ond cafodd ei wrthod oherwydd lliw ei groen. 

Gan Geinor Styles, Cyfarwyddwyd gan Kev McCurdy 

Gwirfoddoli: Dewch i Gymryd Rhan drwy gatalogio a glanhau casgliadau yn Amgueddfa Lechi Cymru

Chloe Ward, 2 Medi 2024

'Da ni wrthi'n paratoi ar gyfer y project ailddatblygu yn Amgueddfa Lechi Cymru, sydd ar ddechrau ym mis Tachwedd 2024! Ac eisiau rhoi cyfle i wirfoddolwyr fod yn rhan o'r project drwy helpu ni glanhau, catalogio a phacio'r casgliad o batrymau yn y Llofft Batrwm.

Er mwyn sicrhau bod ein casgliadau diwydiannol pwysig yn cael eu gwarchod tra bod gwaith cadwraeth ac adnewyddu hanfodol yn cael ei wneud i’r Gilfach Ddu, mae’r casgliad yn symud. Wel... rhan ohono! Mae ein Cynorthwywyr Casgliadau a Chatalogio, Mathew ac Osian, eisoes wedi bod yn brysur yn atodi labeli ac yn catalogio eitemau o’r casgliad sydd heb eu cofnodi'n mor fanwl o’r blaen. Byddant yn eu glanhau a'u pacio'n ddiogel gan ddefnyddio papur sidan.

Mae hon yn gyfle gwych i ni fel amgueddfa groesawu gwirfoddolwyr mewn ffyrdd newydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle a rhoi cyfleoedd i bobl leol cael profiadau, datblygu sgiliau a chael gwella eu hiechyd meddwl trwy wirfoddoli.

Swnio'n ddiddorol? Eisiau Cymryd Rhan? Beth am edrych ar ddisgrifiad rôl Gwirfoddolwr Casgliadau sydd ar ein wefan. Bydd modd gwirfoddoli ar ddyddiau Mawrth neu Iau, 10:00-1:00 er gallwn fod yn hyblyg i siwtio trafnidiaeth cyhoeddus. Bydd y project yma'n rhedeg rhwng 24 Medi a 31 Hydref, ond bydd projectau gwahanol gyda'r casgliadau yn cychwyn yn y flwyddyn newydd. Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â Chloe Ward, ein Cydlynydd Gwirfoddoli ac Ymgysylltu ar chloe.ward@amgueddfacymru.ac.uk.

Ŵyna a Newid Hinsawdd: Beth ydy'r Heriau yn Sain Ffagan?

Ffion Rhisiart, 20 Mawrth 2024

Ar raddfa eang, mae newid yn yr hinsawdd wedi ein gwneud ni i gyd yn ymwybodol o ba mor anrhagweladwy y gall y tywydd fod o flwyddyn i flwyddyn. Ond sut mae hyn wedi effeithio ar ŵyna yn Sain Ffagan a ffermio yng Nghymru yn gyffredinol? Wrth siarad ag Emma o dîm ffermio Sain Ffagan, dysgais sut mae newid yn yr hinsawdd wedi effeithio ar Sgrinwyna 2024.

Y newyddion da ydy bod eleni wedi bod yn haws o’i gymharu â 2023! Mae hyn o ganlyniad i fwy o law dros haf 2023 o’i gymharu â 2022, ac felly roedd digon o laswellt ar gael i fwydo’r defaid. Roedd y flwyddyn flaenorol i’r gwrthwyneb; yn ôl data’r Swyddfa Dywydd dim ond 13.0mm o law gafwyd yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2022, tra gwelodd 2023 gynnydd syfrdanol i 185.6mm o law yn yr un mis. Mae haf sych a diffyg glaswellt naturiol yn golygu bod yn rhaid i’r fferm ddibynnu mwy ar wair a bwyd wrth gefn, gan arwain at gyflwr corfforol gwael a chyfraddau geni is wedi hynny. Mae angen monitro’r defaid yn gyson yn y cyfnod cyn ac yn ystod beichiogrwydd. Mae cael lefelau mwynau a fitaminau uchel i’r defaid yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ganddynt gyfraddau ffrwythlondeb a beichiogi uchel wrth gael eu hanfon at yr hyrddod. Gall diwallu eu hanghenion maethol hefyd sicrhau nad ydynt yn defnyddio eu stôr o egni wrth gefn yn anterth eu beichiogrwydd. Yn 2023 fe welsom 342 o ŵyn yn cael eu geni yn Sain Ffagan, ac eleni mae 444 o ŵyn wedi eu geni hyd yma (hyd at 19 Mawrth). Mae hyn yn cynnwys nifer sylweddol uwch o dripledi na’r cyfartaledd, yn ogystal ag un set o cwads!

Felly, a yw mwy o law bob amser yn beth da? Ydy a nac ydy, mae amodau gwlyb a sych yn dod â’u heriau unigryw eu hunain. Mae gormod o law yn arwain at gaeau sydd dan ddŵr a’r glaswellt yn llai tebygol o dyfu’n dda. Mae’r fferm yn Sain Ffagan yn arbennig ar dir isel ac felly’n sychu’n arafach. Gall draed y defaid bydru mewn amodau gwael o dan draed, sy’n gallu effeithio ar eu chwant bwyd, bydd eu coesau yn gwanhau gan nad ydyn nhw’n bwyta, ac o ganlyniad mae’n bosibl na allant feichiogi yn ystod y tymor paru.

Fel y gallwch weld, mae llawer o waith cynnal a chadw gydag ŵyna! Gall hyd yn oed y newid lleiaf effeithio ar ŵyna bob blwyddyn, felly mae ffermwyr eisoes yn barod ar gyfer y newidiadau mawr. Yng ngeiriau Emma: “mae’n rhaid i ni fod”. Mae ffermwyr ar hyd yr oesoedd wedi gorfod dod i adnabod eu tir a deall sut mae’r tir yn newid, ac mae tywydd eithafol, tra’n dod yn fwy cyffredin, wedi bod yn digwydd erioed. Yn gryno, mae bod yn barod ar gyfer pob digwyddiad posibl yn rhan annatod o’r swydd. Er bod y ffactorau yn newid yn barhaus, mae gan y tîm yn Sain Ffagan yr agwedd ffermwr cynhenid i ddal ati.

Ar y llaw arall, mae da byw yn gallu bod yn fwy anwadal. Arweiniodd sychder 2022 at anffrwythlondeb i rai o’r hyrddod; roedd hyn yn gallu cael ei synhwyro gan y mamogiaid ac o ganlyniad fe welwyd y tymor wyna yn ymestyn. Mae’r ŵyn wrth gwrs yn agored i niwed hefyd, prinder bwyd yn ystod sychder sy’n effeithio ar eu cyfraddau twf a gallu’r fam i ofalu am ei hŵyn. Mewn rhai achosion bydd yn rhaidd iddi flaenoriaethu ei llaeth a gadael un o’i hŵyn allan. Gall hwyliau cyffredinol defaid gael ei effeithio hefyd, maen nhw’n diflasu cymaint â ni mewn glaw parhaus! Llynedd, yn ystod cyfnodau o law cyson, byddai’r defaid yn gwrthod gadael y sied hyd yn oed pan oedd y drysau lled pen ar agor.

I gloi, rydyn ni’n gwybod bod y byd yn newid o hyd, ond felly hefyd ŵyna. Mae ffermwyr wedi arfer ag addasu a gwneud y mwyaf o’r hyn sydd ganddyn nhw. Diolch yn fawr iawn i Emma am gymryd yr amser i siarad â mi, a gobeithio eich bod chi wedi mwynhau gwylio Sgrinwyna 2024!

 

Gan Lowri Couzens, Cynhyrchydd Amgueddfa Cymru

 

 

 

Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!

Cynaliadwyedd Gwlân ar gyfer Ffermio Defaid yn Gynaliadwy

Gareth Beech, 12 Mawrth 2024

Wrth i ni groesawu ein ŵyn newydd i’r byd yn fferm Llwyn-yr-eos, dwi wedi bod yn gwylio protest ffermwyr Cymru ac yn meddwl am eu dyfodol.  

Rhan arwyddocaol a dadleuol o gynigion presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol amaeth yng Nghymru ydy’r mesurau i hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol ac adfer bioamrywiaeth. Gallai hyn olygu llawer llai o ddefaid yn cael eu cadw yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’n bosibl mai ffermio defaid yn gynaliadwy gan ddefnyddio dulliau sy’n ystyried yr amgylchedd ac yn creu cynnyrch gwerth uchel fydd y ffordd ymlaen. Ond sut i greu gwerth ychwanegol fyddai’r her. 

Un agwedd ar ffermio defaid sydd wedi bod yn destun rhwystredigaeth i ffermwyr am flynyddoedd yw pris isel gwlân. ‘Dyw pris cnu yn aml ddim yn ddigon i dalu’r cneifiwr i’w gneifio. Mae rhai ffermwyr yn llosgi neu’n claddu eu gwlân yn hytrach na thalu i’w gael wedi’i gasglu o’r storfa wlân. Mae gwlân Sain Ffagan yn mynd i storfa British Wool yn Aberhonddu, sydd â’r nod o annog galw am y cynnyrch. Mae yna angen go iawn i ddod o hyd i werth ychwanegol i wlân Cymreig tu hwnt i’w ddefnydd confensiynol ar gyfer dillad a thecstilau. Mae hyn wedi arwain at ymchwil newydd i’w ddefnydd mewn cynnyrch arloesol, ac weithiau annisgwyl.  

 

Mae gwlân fel opsiwn arall ar gyfer deunydd insiwleiddio mewn tai yn dod yn fwy cyffredin, ond mae’r amrywiaeth o gynnyrch a defnyddiau newydd sy’n cael eu datblygu yn cynnwys ffitiadau mewnol ar gyfer ceir, cynhwysyn arbenigol ar gyfer cynnyrch cosmetig, a gorchuddion wedi’u hinsiwleiddio. Mae cynnyrch eraill wedi’u datblygu mewn gerddi ac ar ffermydd, fel ffordd o ddod o hyd i ddefnyddiau gwahanol ar gyfer gwlân ac incwm ychwanegol.

Mae Canolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â phroject ‘Gwnaed â Gwlân’ Menter Môn i ddatblygu syniadau newydd. Maen nhw wedi nodi pump cynnyrch gyda’r potensial i greu gwerth uchel. Y prif gynnyrch gyda’r potensial ariannol mwyaf ydy ceratin, protein edafeddog a ellir ei ddefnyddio mewn cynnyrch cosmetig, cynnyrch gwallt a meddyginiaethau. Mae ceratin o wlân yn opsiwn dichonadwy gwahanol i ffynonellau confensiynol fel gwallt pobl a phlu, sydd bellach yn cael ei gwestiynu’n foesegol, neu ddefnyddio cynnyrch petrolewm.  

Gellir defnyddio nodweddion inswleiddio gwlân a’i allu naturiol i reoli lleithder a tymheredd mewn gorchuddion ar gyfer trolïau sy’n cario cynnyrch oergell mewn archfarchnadoedd. Gallan nhw fod yn opsiwn cynaliadwy gwahanol i ddefnyddio deunydd plastig fel polyẅrethan 

Mae cwrs Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor wedi cynhyrchu prototeipiau ar gyfer handlenni offer campfa, a mowldiau ar gyfer tu mewn ceir, fel opsiynau cynaliadwy gwahanol i blastigion. Mae gwlân yn cael ei ddefnyddio gyda bio-resin a wneir o ffynonellau adnewyddadwy a phydradwy fel planhigion a mwydion coed.

Mae’r ‘Solid Wool Company’ eisoes yn defnyddio’r dull i gynhyrchu eu cadeiriau gwlân solet ‘Hembury’ gan ddefnyddio gwlân defaid mynydd Cymreig, sy’n cael ei ddisgrifio fel creu ‘effaith marmor trawiadol, sy’n arddangos haenau unigryw y gweadau a’r graddliwiau a welir yn y gwlân anhygoel hwn’.

Yng Ngwinllan Conwy, mae matiau o wlân yn cael eu gosod ar y ddaear wrth droed y gwinwydd, gan gadw plâu a chwyn i ffwrdd, a lleihau’r angen i chwistrellu cemegion. Mae’r cnuoedd hefyd yn adlewyrchu golau’r haul ar y grawnwin. Yn arwyddocaol, mae ansawdd y gwin hefyd wedi gwella.

Mewn ffordd debyg, mae matiau gwlân hefyd yn effeithiol mewn gerddi llysiau. Mae atgyweirio llwybrau troed gan ddefnyddio gwlân fel sylfaen yn cael ei beilota ar Ynys Môn. Mae’n ffordd o geisio dod o hyd i ddull mwy cynaliadwy o ddefnyddio cynnyrch sydd wedi’i greu yn lleol, yn hytrach na deunydd artiffisial.

 

Gydag ystod mor eang o ddefnyddiau newydd a chynaliadwy, dwi’n gobeithio y bydd cnu yr ŵyn rydych chi’n gweld yn cael eu geni heddiw, yn cael eu defnyddio yn y dyfodol drwy ffermio defaid yn gynaliadwy, mewn amgylchedd cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth am stori gwlân, ewch i Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin.  

Amgueddfa Wlân Cymru 

 

 

Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!

Her Ŵyna i Ysgolion: Enillwch weithdai am ddim gydag Amgueddfa Cymru!

Ffion Rhisiart, 4 Mawrth 2024

Rydym yn falch iawn i lansio Her Ŵyna i Ysgolion newydd sy’n cael ei gynnal gan Amgueddfa Cymru. Bydd yr ysgol buddugol yn gallu archebu hyd at 2 weithdy naill ai mewn person ar un o’n safleoedd neu'n rhithiol, o'r rhestr a hysbysebir ar wefan yr Amgueddfa

Credwn fod sesiynau Sgrinwyna yn hwyl ac yn addysgiadol i ddisgyblion, ond hefyd yn gyfle i feithrin eu chwilfrydedd am y byd o'u cwmpas.

Hoffen ni wybod sut rydych chi’n defnyddio Sgrinwyna yn eich ysgolion - rhannwch eich hoff brofiadau o ddefnyddio sesiynau Sgrinwyna yn y dosbarth gyda’ch disgyblion.

 

Manylion yr Her

  • Oedrannau: 5-14 mlwydd oed
  • Dyddiad: 4ydd - 22ain Mawrth 2024
  • Sut i gymryd rhan: Rhannwch luniau, fideos neu weithiau celf ar X (Twitter gynt) a pheidiwch ag anghofio ein tagio nig an ddefnyddio @Amgueddfa_Learn a #Sgrinwyna #Lambcam. Os byddwch yn cyflwyno nifer o geisiadau o’r un ysgol, cofiwch gynnwys new eich dosbarth yn y neges hefyd.
  • Gwobr: Bydd yr ysgol buddugol yn gallu archebu hyd at 2 weithdy naill ai mewn person neu yn rhithiol, gan ddewis o’r rhestr a hysbysebir ar wefan yr Amgueddfa 

 

Telerau ac Amodau

  • Cymerwch ran drwy X (Twitter gynt) yn unigrhannwch eich lluniau drwy dagio @Amgueddfa_Learn a thrwy ddefnyddio’r hashnodau #Sgrinwyna #Lambcam
  • Nid oes cyfyngiad ar y nifer o geisiadau. Gall ysgolion gymryd rhan gyda chymaint o ddosbarthiadau ag y dymunant.
  • Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap a byddant yn cael eu hysbysu erbyn dydd Mercher 10fed o Ebrill
  • Mae'r wobr yn ddilys ar gyfer unrhyw safle Amgueddfa Cymru, yn amodol ar argaeledd.
  • Ni ddylai nifer y disgyblion fod yn fwy na 60 ac mae'n gyfwerth â 2 weithdy nail ai mewn person neu’n rhithiol, o’r rhestr a hysbysebir ar wefan yr Amgueddfa.
  • Mae’r wobr yn ddilys tan ddiwedd tymor yr haf / diwedd Gorffennaf 2024.
  • Bydd dyddiadau'r gweithdy yn seiliedig ar argaeledd ar adeg trefnu taith. 

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni ar wyna@amgueddfacymru.ac.uk

 

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich ceisiadau creadigol a chraff!

 

 

 

Ydych chi’n mee-ddwl y byd o Sgrinwyna? Cyfrannwch heddiw!