Half term art cart

Sian Lile-Pastore, 18 Chwefror 2011

Art Cart starts tomorrow and the theme is love....

We will be looking at lovespoons, stay busks and tie on pockets and the kinds of symbols and patterns that are found on them. I have lots of A4 sheets for decorating and colouring, but i have also made four really large lovespoons that I need some fantastic art work for. Below is a picture of the sad white lovespoons - please help!!

Ardal Natur Newydd yn Oriel 1!

Hywel Couch, 14 Chwefror 2011

Ar ddiwedd wythnos diwetha, dechreuodd gwaith i ail-wneud yr ardal nature yn Oriel 1 yma yn Sain Ffagan. Mae hyn yn rhan cyffroes o prosiect Archwilio Natur yma yn yr amgueddfa, bled a ni’n tynnu sylw at y wledd or bywyd gwyllt sy’n by war y safle. 

Y cam cynta o’dd i addurno’r lle. Lliwiau thema’r goedwig dewisom gyda paneli mawr lliwgar sy’n dangos rhai o’r anifeiliaid sy’n byw o fewn yr amgueddfa. Mae’r paneli nawr i gyd yn ei le, fel gallwch gweld o’r lluniau. Gobeithio mae’r rhain wedi neud yr ardal yn deniadol ond hefyd yn ffordd hwyl i ddysgu am ein bywyd gwyllt. 

Rydym yn gweld yr ‘ardal natur’ hefyd fel ardal gweithgareddau ble gall nifer o weithgareddau batur cymryd lle. Ma ‘na silffoedd newydd wedi ei osod yma, bydd yn cael ei ddefnyddio er mwyn dangos samplau, cadw gemau ac ati ac wrth gwrs fel silff lyfrau yn dal amryw o lyfrau nature a bywyd gwyllt. Mae hyd yn oed gennym ardal i arddangos eich gwaith celf, felly dewch draw i arlunio campwaith! 

Wythnos ‘ma bydd y rhannau technolegol yn cael ei gosod, rhywbeth ‘da ni’n edrych ymlaen at yn fawr iawn! Ar hyd y wall hir (rhwng y deryn du a’r ystlum) bydd teledu mawr. Bydd y teledu yn dangos lluniau byw o’n bwydo adar-gam, felly byddwch yn gallu gwylio’r holl adar yn bwydo. Bydd hefyd modd i wylio lluniau o’n gwylltgamerau eraill, o’r camera ystlum a’n camera dan dwr. 

Ynghyd a ffilmiau o’n gwylltgamerau, mae hefyd gennym dogfennau bywyd gwyllt Sain Ffagan. Bydd rhain ar gael i wylio ar y sgrin fawr, o cysur y sofa os dymunwch. Mae’r ddogfen cyntaf yn dangos y wledd o bywyd gwyllt sy’n byw yn yr amgueddfa, tra bod yr ail ddogfen yn canolbwyntio or yr Ystlumod  Trwyn Pedol sy’n clwydo yn y Tanerdy yma.

Rydym yn hapus iawn gyda sut mae’r ardal nature newydd yn edrych, ac yn gobeithio cael popeth yn ei le ac yn gweithio erbyn hanner tymor, sef wythnos nesaf! Dewch draw i’r amgueddfa yn ystod wyliau hanner tymor, bwrwch golwg a rhowch wybod i ni be da chi’n feddwl! 

Os ni allwch ymweld wythnos nesaf, byddwch yn siwr i ymuno a ni am lawnsiad y prosiect Archwilio Natur, sy’n cymryd lle ar ddydd Sadwrn Ebrill 2ail! Am fwy o wybodaeth pwyswch yma.

Dathlu Hanner Tymor Pluog

Gareth Bonello, 14 Chwefror 2011

Mae hi'n National Nest Box Week yr wythnos hon ac mae hi'n Hanner Tymor yr wythnos nesaf felly 'da ni wedi penderfynu cyfuno'r ddau i gael gweithgareddau ar them adar yn y T? Gwyrdd dros y penwythnos yma ac o ddydd Llun i ddydd Gwener yr wythnos nesaf. Mi fyddwn yn gwneud bwytai a bocsys nythu i'r adar ac mi fydd yna becyn gwybodaeth am ddim i'ch helpu i ddenu adar i'ch gardd.

Mae'r gwanwyn ar y ffordd felly mae'n amser codi'r bocsys nythu cyn i'r tymor cenhedlu ddechrau. Mae'r gwanwyn a'r haf yn gyfnod hynod o frysur i'r adar wrth iddynt geisio ffeindio digon o fwyd i'r holl gywion yn ogystal i â nhw eu hunain. Dwi'n siwr y byddant yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth gennym ni!

Gweithgareddau am ddim: Hysbys Sain Ffagan!

Sara Huws, 11 Chwefror 2011

Church

Mae cymaint yn digwydd yfory ar safle Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, fy mod am eu casglu at ei gilydd yma i chi! Mae mynediad i'r amgueddfa'n rhad ac am ddim, a dydyn ni ddim yn codi tâl am ein gweithgareddau: bydd raid i chi chwilota am newid i dalu am y parcio, fodd bynnag (£3.50). Yn well fyth, gallwch ddilyn y llwybr beic i Dyllgoed, ac yna dilyn y rheilffordd, neu ddal bws 320 yng ngorsaf Caerdydd Canolog, fydd yn dod â chi'n syth at y drws ffrynt.

Fel arfer, bydd crefftwyr yn gweithio ar y safle. Yfory, bydd y ddau 'Eraint (Geraint y Melinydd a Geraint y Clociswr) yn gweithio ar y safle, yn arddangos sgiliau traddodiadol. Gallwch brynnu bag o flawd y Felin Bompren i fynd adre gyda chi (dwi'n clywed ei fod yn neud torth cwrw-melyn flasus iawn). Mae'n Clocsiwr hefyd yn hapus i'ch mesur ar gyfer pâr o esgidiau traddodiadol - mae hydnoed yn eu cynnig mewn nifer o liwiau mwy modern, hefyd!

Cewch weld y tîm amaethyddol wrthi ar y safle, yn bwydo'r moch am 3.30 yn Ffermdy Llwyn yr Eos. Yn ogystal â hyn i gyd, mae gweithgareddau arbennig ar gyfer pob math o ddiddordebau gennym ni hefyd:

Dathlu Diwrnod Teilo (10-1, 2-3) yn Eglwys Teilo Sant. Fe fydda i yn storïo, yn defnyddio ein cerfiad arbennig o hanes bywyd Teilo. Gallwch weld y cerfiad o flaen llaw yma, os hoffech chi. Fe fydda i'n gwneud fy ngore i ateb eich cwestiynau am furluniau, yr adeilad, chwaraeon Tuduraidd, neu unrhywbeth arall sy'n eich diddori.

Short Stories, Poems and Songs(2-3) yn Oriel 1, gyda'r awdur Paul Burston. Rydym am nodi lawnsiad Mis Hanes Hoyw, Lesbaidd, Deurywiol (LBGT) a Thrawsrywiol am y tro cyntaf yma yn Amgueddfa Cymru I ddathlu, bydd perfformiadau, darlleniadau a sgwrsio i ymchwilio a dathlu bywyd pobl LBGT yng Nghymru heddiw, a'u hanes. Bydd Dresel y Gymuned hefyd yn arddangos gwrthrychau gan y grwp cymorth Gay Ammanford.

Felly, rhywbeth i blesio pawb, gobeithio. Diwrnod prysur arall ym mywyd Sain Ffagan - gobeithio y gwelwn ni chi yno!

Blodyn cyntaf

Danielle Cowell, 11 Chwefror 2011

Mae fy nghrocws cyntaf wedi cyrraedd! Does dim ysgolion wedi son am rai eto, ond dwi’n disgwyl y bydd llawer o adroddiadau’n cyrraedd yr wythnos yma.

Cyn hir, bydd llawer o flodau yn ymddangos ar y map – yna gallwch chi weld yn union ble mae’r blodau yn agor gyntaf.

Cofiwch, mae blodau crocws yn agor tua chanol y bore, ac yn cau erbyn diwedd y dydd. Lawrlwythwch fy syniadau ymchwilio i brofi’r theori gyda’ch blodau crocws chi.

Peidiwch â cholli’ch blodau! Os na fydd eich crocws wedi agor erbyn diwedd yr wythnos, ewch â’ch pot adre gyda chi dros wyliau’r hanner tymor. Yna, gallwch chi fwynhau eich blodau a dangos i’r teulu beth rydych chi wedi bod yn ei dyfu.

Dydw i ddim wedi derbyn unrhyw gwestiynau’r wythnos hon, ond rydw i wedi cael adroddiadau o flagur gan Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff.

Anfonwch luniau o’ch dosbarth chi a’ch blodau ata i!

Athro’r Ardd