Cymru 1678: Ail-greu'r brasluniau cynharaf o Gymru a luniwyd yn y fan a'r lle Emily O'Reilly, 11 Chwefror 2011 Castell Benfro Dinbych-y-pysgod Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Prynodd yr Amgueddfa'r brasluniau gan ddeliwr ym 1931. Roedd y deliwr wedi'u prynu yn Sotheby's mewn arwerthiant o gasgliad Coleg Celf Patrick Allan-Fraser yn Arbroath, yr Alban. Roedd y casgliad yn cynnwys darluniau, argraffiadau, crochenwaith a'r unig lun olew hysbys, sef hunanbortread, a ddaeth i law'n uniongyrchol drwy deulu Place. Mae'r darluniau wedi'u gwneud drwy gyfuno o leiaf dwy ddalen ar wahân a'u gludo ar ddalen arall i'w dal at ei gilydd, sef papur cynnar wedi'i wehyddu mwy na thebyg, sy'n awgrymu bod y gwaith yn perthyn i ddiwedd y ddeunawfed ganrif neu ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd rhai darluniau a oedd yn ymestyn dros y dudalen wedi'u gadael yn 'rhydd', fel bod modd i'r sawl a oedd yn edrych arnynt godi'r dudalen a gweld yr ochr arall. Roedd eraill wedi'u gludo i ddalen gynnal gan guddio'r braslun 'dibwys' ar y cefn. Brasluniau cudd Yn ystod y gwaith cadwraeth, penderfynodd staff yr Amgueddfa dynnu'r holl frasluniau oddi ar y dalenni cynnal. Ar ôl tynnu'r holl frasluniau o'r llyfr, daeth i'r amlwg bod darlun ar gefn un dudalen yn perthyn i ddarlun ar gefn tudalen arall, gan greu darlun dwy dudalen newydd. Drwy wneud hyn datgelwyd brasluniau nad oeddent wedi'u gweld ers i'r llyfr braslunio gwreiddiol gael ei ddarnio o leiaf 200 mlynedd yn ôl. Roedd yn bosibl gweld trefn wreiddiol y brasluniau hefyd. Caerdydd Mae gan lawer o'r brasluniau groes neu saeth yn dangos lle mae'r olygfa banoramig yn ymestyn dros y dudalen. Mae Caerdydd yn ddau fraslun dwy dudalen sy'n uno. Mae yna groes ar dŵr yr eglwys yn y ddau fraslun, yn dangos lle mae'r ddau yn gorgyffwrdd. Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 1 Cardydd (1678) Francis Place. Braslun dros ddwy dudalen 2 Caerdydd (1678) Francis Place, wedi'u cyfuno'n ddigidol. Golygfeydd panoramig nas gwelwyd o'r blaen Gan nad oedd llawer o botensial mewn dangos y golygfeydd hanesyddol hyn o Gymru mewn oriel draddodiadol, cafodd y lluniau eu sganio a'u cyfuno drwy ddefnyddio technoleg ddigidol. Roedd modd gweld y lluniau panoramig fel delweddau cyflawn am y tro cyntaf erioed wedyn. Yn ystod y broses, dadlennwyd gwybodaeth am ddulliau Place o weithio. Wrth gyfuno'r tudalennau gwahanol, nid oedd angen newid y gorwel yn y lluniau i sicrhau ei fod yn syth — tystiolaeth o allu Place fel dyluniwr. Er nad yw technoleg wedi newid y dulliau o drin y gwrthrychau hyn, mae wedi gwella ein gwybodaeth amdanynt drwy ddatgelu llawer am ddulliau gweithio'r arlunydd. Ystumllwynarth Mae gan Ystumllwynarth ddwy groes ar yr ymyl chwith, yn dangos bod y darlun yn parhau dros y dudalen. Ar ochr arall y ddalen ceir croesau cyfatebol ar yr ymyl dde. Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 1 Ystumllwynarth (1678) Francis Place. Braslun 2 Ystumllwynarth (1678) Francis Place wedi'u cyfuno'n ddigidol Ymchwil Mae'r rhan fwyaf o waith gwreiddiol Place yn dod o arwerthiant Sotheby's ym 1931. Mae eitemau amrywiol o'r arwerthiant hwn bellach i'w gweld yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain, gan gynnwys nifer o ddarluniau wedi'u mowntio a dau lyfr braslunio. Mae'r eitemau hyn yn awgrymu bod y darluniau sydd i'w gweld yn Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn perthyn i un llyfr braslunio yn wreiddiol. Mae llyfr braslunio cyntaf Amgueddfa Victoria ac Albert yn cynnwys deunaw tudalen, yr un nifer yn union â'r un yn Amgueddfa Cymru, ac mae ganddo'r un dyfrnodau; ceir rhestr ar ddechrau'r llyfr braslunio sy'n cyfateb i'r golygfeydd ynddo, ac mae'r rhestr yn parhau gyda llefydd yng Nghymru sy'n cyfateb i'r drefn a sefydlwyd ar ôl astudio brasluniau Amgueddfa Cymru. Er nad Place a ysgrifennodd y rhestr, mae'n ymddangos yn gymharol hen. Efallai mai un o ddisgynyddion Place a wnaeth y rhestr cyn symud y brasluniau gorau i'w mowntio mewn llyfr ar wahân? Ceir mwy o dystiolaeth yn ail lyfr braslunio Amgueddfa Victoria ac Albert, sy'n cynnwys darn o bapur wedi'i ludo y tu mewn i'r clawr cefn. Mae'r ddalen hon yn cyfateb i'r braslun olaf yn y llyfr braslunio cyntaf. Yn anffodus, mae'r dudalen olaf wedi'i gludo i lawr, ond ar yr unig ddarn bach y gellir ei godi, gwelir llinell pensil glir, a allai gyfateb i un o frasluniau Amgueddfa Cymru... Dinbych-y-Pysgod Gwelir enghraifft arall o blygu drosodd ynDinbych-y-Pysgod. Mae'r plyg ar ochr chwith y darlun yn dangos yr ochr arall. Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 1 Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Braslun 2 Dinbych-y-Pysgod (1678) Francis Place. Wedi'u cyfuno'n ddigidol
Gweithgareddau am ddim: Hysbys Sain Ffagan! Sara Huws, 11 Chwefror 2011 Mae cymaint yn digwydd yfory ar safle Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, fy mod am eu casglu at ei gilydd yma i chi! Mae mynediad i'r amgueddfa'n rhad ac am ddim, a dydyn ni ddim yn codi tâl am ein gweithgareddau: bydd raid i chi chwilota am newid i dalu am y parcio, fodd bynnag (£3.50). Yn well fyth, gallwch ddilyn y llwybr beic i Dyllgoed, ac yna dilyn y rheilffordd, neu ddal bws 320 yng ngorsaf Caerdydd Canolog, fydd yn dod â chi'n syth at y drws ffrynt.Fel arfer, bydd crefftwyr yn gweithio ar y safle. Yfory, bydd y ddau 'Eraint (Geraint y Melinydd a Geraint y Clociswr) yn gweithio ar y safle, yn arddangos sgiliau traddodiadol. Gallwch brynnu bag o flawd y Felin Bompren i fynd adre gyda chi (dwi'n clywed ei fod yn neud torth cwrw-melyn flasus iawn). Mae'n Clocsiwr hefyd yn hapus i'ch mesur ar gyfer pâr o esgidiau traddodiadol - mae hydnoed yn eu cynnig mewn nifer o liwiau mwy modern, hefyd!Cewch weld y tîm amaethyddol wrthi ar y safle, yn bwydo'r moch am 3.30 yn Ffermdy Llwyn yr Eos. Yn ogystal â hyn i gyd, mae gweithgareddau arbennig ar gyfer pob math o ddiddordebau gennym ni hefyd:Dathlu Diwrnod Teilo (10-1, 2-3) yn Eglwys Teilo Sant. Fe fydda i yn storïo, yn defnyddio ein cerfiad arbennig o hanes bywyd Teilo. Gallwch weld y cerfiad o flaen llaw yma, os hoffech chi. Fe fydda i'n gwneud fy ngore i ateb eich cwestiynau am furluniau, yr adeilad, chwaraeon Tuduraidd, neu unrhywbeth arall sy'n eich diddori.Short Stories, Poems and Songs(2-3) yn Oriel 1, gyda'r awdur Paul Burston. Rydym am nodi lawnsiad Mis Hanes Hoyw, Lesbaidd, Deurywiol (LBGT) a Thrawsrywiol am y tro cyntaf yma yn Amgueddfa Cymru I ddathlu, bydd perfformiadau, darlleniadau a sgwrsio i ymchwilio a dathlu bywyd pobl LBGT yng Nghymru heddiw, a'u hanes. Bydd Dresel y Gymuned hefyd yn arddangos gwrthrychau gan y grwp cymorth Gay Ammanford.Felly, rhywbeth i blesio pawb, gobeithio. Diwrnod prysur arall ym mywyd Sain Ffagan - gobeithio y gwelwn ni chi yno!
Blodyn cyntaf Danielle Cowell, 11 Chwefror 2011 Mae fy nghrocws cyntaf wedi cyrraedd! Does dim ysgolion wedi son am rai eto, ond dwi’n disgwyl y bydd llawer o adroddiadau’n cyrraedd yr wythnos yma.Cyn hir, bydd llawer o flodau yn ymddangos ar y map – yna gallwch chi weld yn union ble mae’r blodau yn agor gyntaf.Cofiwch, mae blodau crocws yn agor tua chanol y bore, ac yn cau erbyn diwedd y dydd. Lawrlwythwch fy syniadau ymchwilio i brofi’r theori gyda’ch blodau crocws chi.Peidiwch â cholli’ch blodau! Os na fydd eich crocws wedi agor erbyn diwedd yr wythnos, ewch â’ch pot adre gyda chi dros wyliau’r hanner tymor. Yna, gallwch chi fwynhau eich blodau a dangos i’r teulu beth rydych chi wedi bod yn ei dyfu.Dydw i ddim wedi derbyn unrhyw gwestiynau’r wythnos hon, ond rydw i wedi cael adroddiadau o flagur gan Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ac Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff.Anfonwch luniau o’ch dosbarth chi a’ch blodau ata i!Athro’r Ardd
Francis Place (1647-1728) Emily O'Reilly, 10 Chwefror 2011 Mae gan Amgueddfa Cymru frasluniau o bymtheg golygfa o Gymru a luniwyd gan Francis Place (1647-1728). Mae deg o'r rhain mewn un llyfr braslunio. Tynnwyd y deg braslun ym 1678, a dyma'r lluniau cynharaf o Gymru a dynnwyd 'yn y fan a'r lle'. Ond pwy oedd Francis Place? Brodor o Swydd Efrog oedd Francis Place, ac fe'i ganwyd i deulu cyfoethog ym 1647, yr olaf o ddeg o blant. Penderfynodd ei dad y dylai Francis ddilyn ei ôl troed ef fel cyfreithiwr, a phan oedd yn ddwy ar bymtheg neu'n ddeunaw oed aeth Francis i Gray's Inn yn Llundain i astudio'r Gyfraith. Fodd bynnag, nid oedd y gyfraith yn apelio at Francis, a chafodd esgus i roi'r gorau i astudio a dychwelyd adref yn sgil y Pla Mawr ym 1665. Dychwelodd i Lundain yn fuan wedyn i weithio gyda Wenceslaus Hollar, a'i cyflwynodd i'r gwaith o wneud a gwerthu argraffiadau. Mae'n bosibl bod Place wedi derbyn ei holl etifeddiaeth, neu gyfran ohoni, cyn marwolaeth ei dad ym 1681, a byddai hyn wedi ei alluogi i ddilyn ei ddiddordeb mewn celf a physgota. Brenhiniaeth a'r oes Virtuosi Oes y Virtuosi oedd yr ail ganrif ar bymtheg — cyfnod pan oedd dynion cyfoethog ag amser ar eu dwylo rhannu diddordeb mewn celf, gwyddoniaeth ac athroniaeth. Aeth llawer ohonynt ymlaen i sefydlu'r Gymdeithas Frenhinol ym 1660. Yn ystod hanner cyntaf y ganrif, dim ond aelodau o'r teulu brenhinol a'r rhai oedd â chysylltiad agos â nhw oedd yn dysgu sut i ddarlunio a pheintio. Tua diwedd y ganrif daeth celf yn boblogaidd ymhlith tirfeddianwyr cefnog a'u meibion a'u merched. Aethant ati i astudio er mwyn ennill gwybodaeth, a oedd yn wahanol iawn i'r rhai oedd yn dibynnu ar ddarlunio fel bywoliaeth. Er mai amatur oedd Place yn y bôn, ceir tystiolaeth iddo dderbyn arian am ei waith, yn enwedig yn y dyddiau cynnar. Felly roedd Place yn debyg iawn i wŷr bonheddig eraill y cyfnod; roedd ganddo ddigon o amser ac arian, a dengys yr hyn sydd wedi goroesi o'i waith iddo arbrofi gyda sawl cyfrwng, gan gynnwys porslen. Roedd yn aelod o Virtuosi Efrog a oedd yn cynnwys Martin Lister, Henry Gyles, Thomas Kirke FRS a William Lodge. Mae'n bosibl iddo ennill comisiynau yn sgil ei aelodaeth o'r grŵp hwn. Diolch i arian ei dad, teithiodd Place yn helaeth o gwmpas y DU i fraslunio a physgota. Dengys ohebiaeth o'r cyfnod bod y brasluniau sydd gan Amgueddfa Cymru wedi'u gwneud yn ystod taith Place yng Nghymru a Gorllewin Lloegr ym 1678. Ri gyfaill William Lodge oedd ei gydymaith ar y daith, oedd hefyd yn aelod o Virtuosi Efrog. Roedd teithio yn ystod y cyfnod hwn yn gallu bod yn beryglus. Roedd sawl cynllwyn Pabaidd ar waith ar y pryd, a gwyddom i'r ddau ddyn dreulio noson yn y carchar yng Nghymru yn sgil amheuaeth eu bod yn ysbiwyr Jeswitaidd. Dinbych y Pysgod Braslun gwreiddiol Dinbych y Pysgod Dinbych y Pysgod wedi'u cyfuno'n ddigidol:
Dacw Dazu'n dwad: blinder a chyffro y daith i Tsieina John Rowlands, 10 Chwefror 2011 Wedi sicrhau bod arddangosfa Dazu yn dod i Gymru - y tro cyntaf erioed iddi fentro i’r Gorllewin – anfonodd yr Amgueddfa fi i Tsieina fel hwylusydd, wyneb cyfeillgar i gyfarfod â’r bobl ac adrodd ar y gofynion logistaidd llawn o gludo’r gwrthrychau sanctaidd yma yr holl ffordd i Gaerdydd.Dyma ddyddiadur o atgofion y trip:Po bellaf y teithiwch, y lleiaf y gwyddoch. Mae’r llinell honno o ddysgeidiaeth Tao yn fy atgoffa i anghofio unrhyw ragdybiaethau.Rwy’n cyrraedd Dazu yn hwyr min nos ac wedi diwrnod cyfan o deithio mewn amrywiol seddi bychan anghyfforddus, rwy’n ddiolchgar i orffen fy nhaith o’r diwedd. Mae fy ngwesteiwyr wedi cyffroi fy mod wedi cyrraedd ac wedi paratoi swper croeso yn garedig iawn. Platiau mawr egsotig a lliwgar yw’r bwyd, prydau crefftus â garnais arbennig.Platiau di-ri i Susan ddiog, cylch hud o aroglau a blasau anghyffredin sy’n gwneud i mi ddyheu am ollyngdod llwyr. Rwy’n cael fy helpu drwy bob cwrs gyda disgrifiadau manwl. Pryfed sidan, deintgig moch a chynffon rhywbeth! Mwynheais yn barchus fod yn destun digrifwch y noson, gwestai anrhydeddus y wledd gywrain.Drannoeth dyma fi’n sefyll wrth droed y mynydd â’m gwadnau lledr ar risiau hynafol sydd wedi gweld sawl gwadn dros y canrifoedd. Mae llystyfiant trwchus yn gorchuddio’r copa sy’n gudd mewn mantell o niwl chwareus.Yn Beishan mae pinacl cerfiadau carreg Tseineiadd, ac mae’r delweddau cyfarwydd o lyfrau bellach yn ddelweddau real artistig ac ysbrydol. Mae mawredd y cerfluniau rhagorol yma a’u hawdurdod cain yn neidio o’r waliau sy’n 10 metr o uchder, gyda phob cilfach yn gartref i olygfeydd gosgeiddig sy’n wych yn eu tywodfaen rhudd. Diwrnod i’w gofio heb os!Mae’n bryd cwrdd â’r cyfryngau lleol y bore wedyn. Mae arogl gwniadur o wirod gwyn yn dweud cyfrolau am ei flas. Rwy’n gwybod bod yn rhaid i mi ei yfed ar ei ben. Fi yw’r atyniad pennaf heddiw ac mae pawb am gael gair â mi.Ffilmio ar gyfer teledu Chongqing yw’r dasg gyntaf ac mae erthygl ar dudalen flaen papur lleol Dazu hefyd. Mae’n anodd cofio’r cyfweliadau, profiad swrreal braidd o ryddiaith Saesneg fratiog, drosgynnol wedi’i ddatgan gyda chyffro a syndod. Mae’n rhaid ei bod hi wedi mynd yn iawn a mod i wedi meithrin cyfeillgarwch wrth i giw trefnus ffurfio i rannu gwydryn arall o’r tân gwyn!Heno yw fy noson olaf yn Tsieina yn anffodus. Rwy’n syllu drwy’r niwl parhaol ar nenlin tyrrau Chongqing sy’n taflu enfys neon dros afon Yangzi. Rwy’n gadael prysurdeb y strydoedd ac arogl huddygl a tofu’n ffrio, ac yn gweld y ddinas yn ei gogoniant o gwch pleser gorlawn.Mae’r newidiadau creadigol a masnachol anferth sydd ar droed yn Tsieina yn adrodd hanes y newid o wleidyddiaeth rymus i economeg ymarferol. Gall Tsieina a gweddill y byd ddysgu llawer o ddidwylledd China. Rwy’n gadael â lle yn fy nghalon i’r wlad a’i phobl.Lee Jones, Uwch Dechnegydd, Amgueddfa Genedlaethol CaerdyddParcha’r byd fel dy hunGall y byd fod yn hafan itCar y byd fel dy hunGall y byd fod yn ymddiriedaeth it.Gwelwch mwy o luniau Dazu ar Flickr, cewch y newyddion diweddaraf am Dazu ar Facebook a dilynwch @museum_cardiff ar Twitter #dazucymru