Santes Catherine a'r Olwyn 1 Tachwedd 2007 Murlun canoloesol o Eglwys Sant Teilo, sy'n dyddio o tua 1400. Ym 1998 dechreuodd Sain Ffagan ar yr her o symud, ailgodi ac adfer eglwys ganoloesol o waith maen — un o'r projectau cyntaf o'i fath yn Ewrop. Yn ystod y broses ddatgymalu, dadorchuddiwyd nifer o furluniau prin o dan y waliau gwyngalch. Santes Catherine. Mae un o'r peintiadau hynaf a ddadorchuddiwyd yn dyddio o tua 1400-1430, ac mae'n cynrychioli'r Santes Catherine o Alexandria. Roedd wedi bod ynghudd am ganrifoedd dan haenau o wyngalch, a bu'n rhaid ei dynnu gan ddefnyddio cyllyll llawfeddygol. Ar ôl dadorchuddio'r darlun cyfan, a thynnu'r haenau niferus o wyngalch yn ofalus, datgelwyd y Santes Catherine mewn gwisg o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'n sefyll ger olwyn bigog, yn dal cleddyf. Olwyn arteithio a chleddyf Yr olwyn bigog wrth ei hochr yn y darlun yw'r offeryn arteithio a ddefnyddiwyd pan dedfrydwyd Catherine i farwolaeth am ei daliadau Cristnogol gan yr Ymerawdwr Rhufeinig Maxentius (306-312). Yn ôl y chwedl, chwalodd yr olwyn pan gyffwrddodd Catherine â hi, felly torrwyd ei phen gan y cleddyf sydd yn ei llaw yn y darlun. 'Olwyn Gatrin' Yr olwyn arteithio a gysylltir â'r Santes Catherine yw tarddiad yr enw 'Olwyn Gatrin' (Catherine Wheel) am yr olwyn dân gyffredin. Gellir gweld yr eglwys orffenedig yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, lle mae'r murluniau wedi'u hatgynhyrchu'n fanwl a chelfydd i edrych fel y byddent wedi gwneud tua 1530. Gan fod y peintiad o'r Santes Catherine yn dyddio o tua 1400, nid oes cynrychioliad ohono yn yr adeilad a ailgodwyd gan y byddai wedi'i orchuddio'n llwyr erbyn 1530. Mae'r peintiad gwreiddiol o Santes Catherine yn cael ei storio yn yr amgueddfa a gellir ei weld drwy wneud cais ymlaen llaw.
'Jeffrey', our recreated medieval Archer Pip Diment, 24 Hydref 2007 Lots more things installed now. It's seems tidier and it's possible to see much better how the exhibition is going to look. We have some of the audio visual aspects being tested and lights are sparkling in the empty cases. You can see the Bryn Celli Ddu stone already in place and covered in bubble wrap to protect it from all the work going on around it. Our recreated medieval Archer, who we affectionately call 'Jeffrey', was first created for our Re:Creations exhibition in 2002. The level of detail on his hands where he holds the string to his bow is amazing - it looks real. He is currently covered in bubble wrap to protect him from all the activity around him. He does look a bit like a mummy - but that's a whole different exhibition!There are a lot more stones you can see in place covered to protect them and their plinths are nearly complete.We're waiting for more mounts and the insides of cases to allow us to start installing our objects. As soon as they arrive the gallery will become a hive of activity with curators and conservators checking and installing large and small, delicate and robust, beautiful and functional objects that together will tell some of the story of the early people of Wales.
Cofnodion hanesyddol o gyfnod angof 23 Hydref 2007 Dysgl porslen Nantgarw gyda darlun Pen-y-Rhos, 1821-3 Cwpan tsieni asgwrn gyda darlun gwaith haearn Pentwyn, tua 1835 Defnyddiwyd golygfeydd o dirluniau i addurno cwpanau, soseri, platiau, bowlenni a jygiau ers blynyddoedd. Roedd rhai yn olygfeydd o ddychymyg yr arlunydd; eraill yn olygfeydd o lefydd go iawn. Mae enghreifftiau a arddangosir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys golygfeydd o Ddolgellau a Glyn Nedd ar borslen Nantgarw a pheintiad o Castel Gandolfo yn Rhufain ar ddysgl o ddechrau'r 19eg ganrif a wnaed yn y Ffatri Borslen Imperialaidd yn St. Petersburg, Rwsia. Gweithiai'r peintiwr porslen o ysgythriad fel rheol, ond roedd modd iddynt hefyd weithio o'u cof neu ddilyn delwedd nad yw wedi goroesi, gan wneud y darn addurnedig ei hun yn gofnod gwerthfawr a manwl o le a fyddai, fel arall, yn angof. Buarth Pen-Y-Rhos, Nantgarw Un darn pwysig o'r fath yw dysgl fawr o borslen yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Ar flaen y ddysgl, mewn ffrâm siâp hirgrwn mae delwedd o dŷ ac ysguboriau yng nghysgod coed, o flaen bryn. Arno mae'r arysgrif 'Pen-y-Rhos'. Ar gefn y ddysgl mae delwedd o fuarth gyda gwartheg ac ieir yn y blaen. Er nad oes nodau ar y ddysgl, mae'r past, y crochenwaith trwm a'r addurniadau i gyd yn nodweddiadol o waith Nantgarw. Mae darnau eraill o dystiolaeth yn cynnwys darn o ddysgl union yr un fath a ddarganfuwyd ar safle ffatri Nantgarw. Mae'n debyg mai Thomas Pardoe oedd y peintiwr, a weithiodd yn Nantgarw o 1821 hyd at ei farwolaeth ym 1823. Mae fferm Pen-y-Rhos un filltir o Nantgarw, ar gyrion Caerffili. Ar ddechrau'r 19eg ganrif roedd yn gartref i Edward Edmunds. Ym 1814 tanosododd safle'r ffatri, bwthyn a thir ger Camlas Sir Forgannwg i William Billingsley a Samuel Walker. Ym 1820 cafodd ei danosod eto, y tro hwn i William Weston Young. Credir i dair set gyflawn o ddysglau gael eu gwneud yn y ffatri ar gyfer Edmunds a'i deulu. Nid oes un o'r setiau hyn wedi goroesi yn gyfan ond credir eu bod yn dyddio o berchnogaeth Billingsley o'r crochendy ym 1817-19. Nid oedd dysgl Pen-y-Rhos yn rhan o'r setiau hyn, ond roedd yn dod o ddyddiad diweddarach. Efallai ei fod yn rhodd gan Young neu Pardoe i Edmunds. Felly yn ogystal â bod yn ddarn dogfennol allweddol o borslen Nantgarw, mae'r ddysgl yn dangos golygfa brin o ffermdy ym Morgannwg yn y 1820au. Gweithfeydd Haearn Pentwyn, y cymoedd Os yw dysgl Pen-y-Rhos yn datgelu golygfa amaethyddol angof, yna mae'r ddysgl neu gwpan tsieni asgwrn Swydd Stafford, gyda dwy ddolen, yn datgelu tirwedd ddiwydiannol angof. Yn dyddio o tua 1835, mae'r darn hwn wedi ei addurno ar y blaen gyda golygfa o Weithiau Haearn Pentwyn o fewn ffrâm oreurog. Ar y cefn mae'r enw I Hunt Esq. (roedd 'Esq.', neu 'Esquire', yn cael ei ddefnyddio weithiau yn lle 'Mr'). Roedd Gweithfeydd Haearn Pentwyn ar ochr orllewinol Abersychan, tair milltir o Bont-y-pŵl yng nghymoedd de Cymru. Sefydlwyd y gweithfeydd haearn ym 1825 ac roedd yn cynnwys y tair ffwrnais chwythu a adeiladwyd gan deulu Hunt. Erbyn 1839 roedd y gweithfeydd yn eiddo i Gwmni Pentwyn, ond nid yw'n hysbys a oedd teulu Hunt yn parhau i fod yn gysylltiedig. Cyn 1848 pasiwyd Cwmni Pentwyn i gwmni Williams & Co. ac fe ddymchwelwyd yr holl adeiladau. Y ddelwedd ar y darn hwn, y mae'n rhaid ei fod wedi ei gomisiynu ar gyfer neu gan aelod o deulu Hunt, yw'r unig olygfa hysbys o'r safle diwydiannol hon yn y cyfnod hwnnw.
Ha bach Mihangel... Gareth Bonello, 17 Hydref 2007 Newydd sgwennu llith yn ateb ymholiad pbhj ar gyfer fersiwn Saesneg y blog yma. Dwi ddim am ei ailadrodd i gyd yma - roedd yn gwestiwn gan berson unieithog yn amlwg. Roedd yn gofyn beth oedd y tebygrwydd rhwng Cymraeg a British Sign Language (gweler y blog diwethaf). Os oes diddordeb, cliciwch ar English ar top y ddalen. Daeth cwestiwn lot neisiach gan Sabrina Rochemont yn gofyn sut allai fy helpu. Wel, os oes gan rywun farn ar sut mae casglu'r 'Cyfoes', buaswn yn falch iawn cael clywed gennych. A ddylai amgueddfeydd gasglu pob teclyn electroneg dan haul, neu dim ond y rhai sydd a stori ddiddorol? Er enghraifft, rhoddodd rhywun ZX Spectrum, yn ei focs, bron fel newydd i mi y diwrnod o'r blaen. Mae hyn yn anarferol iawn, gan fod llawer o wrthrychau'n cael eu gwerthu ar e-bay y dyddiau yma. Ond oes cysylltiad â Chymru? Oes. Oes stori ddiddorol? Oes. Ydyn ni'n debygol o'i arddangos? Ydyn. Ac yn y blaen - mae'n rhaid cyfiawnhau casglu ar sawl lefel wahanol, yn bennaf oherwydd diffyg lle. Agwedd arall o'r swydd yw delio â chymunedau - mae holl ethos amgueddfeydd yn nnewid - dim adeilad i arddangos trysorau a ddygwyd ydyn nhw bellach, ond canolfannau addysg a hwyl i'r gymdeithas ehangach. Ond wrth gydweithio, oes peryg bod yn nawddoglyd neu docenistic? Reit, i orffen, dyma, yn fras, beth ydw i wedi bod yn ei wneud dros y mis diwethaf: wedi cael cyfarfodydd blaenorol i drefnu'r Arddangosfa Bop yn 2009; bues mewn cyfarfod yn y Trallwng i geisio ffurfio polisi Casglu Cyfoes ar gyfer holl amgueddfeydd Cymru; mynychais fy ail weithdy Straeon Digidol er mwyn dysgu mwy am sut i weithio gyda chymunedau; casglais y gwrthrychau ar gyfer yr ail Ddresel Gymunedol o Johnstown, ger Wrecsam (mae gwybodaeth am y ddresel gyntaf ar 'Rhagor' ar y wefan yma); ymwelais a dau amgueddfa'n Abertawe; a cychwynais fy nghwrs MA Astudiaethau Amgueddfeydd. Whiw! Erbyn i fi sgrifennu mis nesaf, byddaf wedi bod yn Sweden ar gyfer cynhadledd SAMDOK, sef y grŵp casglu cyfoes mwya blaenllaw yn y byd. Wela i chi wap.
Marwolaeth Tewdrig, 1848-56 11 Hydref 2007 Mae’r cerflun hwn yn darlunio marwolaeth Tewdrig Mawr, sant a Brenin Gwent a Morgannwg, a bu farw ar yr union adeg y curwyd y Sacsoniaid ym Merthyr Tewdrig tua 630OC. Yn wreiddiol, cerflun plastr oedd hwn a ddangoswyd yn Eisteddfod y Fenni ym 1848, lle’r enillodd 70 gini mewn cystadleuaeth am gerflun gan gerflunydd Cymreig i ddarlunio hanes Cymreig-Brydeinig. Dangoswyd ef wedyn yn yr Academi Frenhinol ym 1849. Dangoswyd electroteip efydd ohono gan Elkington, Mason & Co. yn Arddangosfa Fawr 1851. Gwyddom heddiw am ddau gast, y ddau wedi’u gwneud gan Elkington’s. Mae’r llall i’w weld yn Amgueddfa Brycheiniog. Rhoddwyd hwn, ac arno’r dyddiad 1856, gan grŵp o danysgrifwyr i Morris C. Jones, golygydd y Montgomery Collections, ym 1876. Mae arno blât efydd ac arno’r geiriau: ‘This bronze group represents the death of Tewdric Mawr, King of Gwent and Morganwg 610 AD. Tewdric Mawr, in his old age, was induced to appear in defense of his country against the Saxons whom he thoroughly vanquished near the junction of the Severn and the Wye. The Welsh King, though mortally wounded, urged his brave followers to pursue the fleeing Saxons. In his dying moments he was comforted by his daughter Marchell, mother of Brychan, while an aged Bard proclaimed to him by harp and song, the victory. The group was designed, from suggestions by Lady Llanover, by the late John Evan Thomas F.S.A. and modelled by his brother W. Meredyth Thomas Medal Student RA. Elkington & Co. fect, Liverpool.’ Ganed y cerflunydd, John Evan Thomas, yn Aberhonddu ym 1810. Bu'n astudio o dan Syr Francis Chantrey ac ar y Cyfandir. Lluniodd y cyntaf o lawer o eitemau ar gyfer eglwysi ym 1831, a dechreuodd weithio fel cerflunydd portreadau yn Llundain ym 1834. Agorodd stiwdio yn 7 Lower Belgrave Place, a byddai’n aml yn arddangos penddelwau a wnâi yno yn yr Academi Frenhinol hyd at 1862. Cadwodd Thomas mewn cysylltiad clos â boneddigion Aberhonddu ac â phrif dirfeddianwyr Cymru a gwnaeth gerfluniau o lawer ohonynt. Felly, ef oedd y cerflunydd Cymreig cyntaf i wneud gyrfa lwyddiannus ac i feithrin enw da iddo’i hun yn bennaf trwy nawdd y Cymry. Prif weithiau Thomas yw cerflun o Ail Ardalydd Londonderry (Abaty Westminster), cerflun o Ail Ardalydd Bute (a ddangoswyd hefyd yn yr Arddangosfa Fawr, a gastiwyd mewn efydd ym 1853 ac sydd erbyn hyn yng nghanol dinas Caerdydd), Syr Charles Morgan (Casnewydd), cerflun coffa i Ddug Cyntaf Wellington (Aberhonddu), John Henry Vivian (Abertawe) a cherflun o'r Tywysog Cydweddog a godwyd ar Castle Heights, Dinbych-y-pysgod, ym 1865. Er mai cerflunydd portreadau ydoedd yn bennaf, cyfrannodd gerfluniau yn null y canoloesoedd o Henri de Londres, Archesgob Dulyn, ac o William, Iarll Penfro, yn 1848 at gynllun Pugin ar gyfer Tŷ’r Arglwyddi a oedd yn cael ei ailadeiladu. Disgrifiodd Benedict Read Marwolaeth Tewdrig fel ‘the only unqualified example of ideal sculpture with history as a subject matter’, ac mae‘n waith o bwys yn hanes celfyddyd canol Oes Fictoria. Mae’n bwysig iawn hefyd yng nghyd-destun adfywiad cenedlaethol y Cymry yn y 1830au a’r 1840au, gan mai hwn yw’r prif ddarn o gelfyddyd i ddeillio o eisteddfodau teirblynyddol y Fenni a gynhaliwyd o dan nawdd Arglwyddes Llanofer. Yn ôl Peter Lord, hon yw’r enghraifft fwyaf nodedig o gelfyddyd academaidd genedlaethol yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymddengys hefyd mai Marwolaeth Tewdrig yw’r gwaith mwyaf a arddangoswyd gan Elkington, Mason & Co. yn Arddangosfa Fawr 1851. Defnyddiodd y cwmni’r broses electroteip yr oeddent newydd ei dyfeisio i'w wneud. Gwnaed y bardd (a seiliwyd ar brint adnabyddus de Loutherbourg a wnaed ym 1784) a’i delyn ar wahân a’u bolltio i’r sylfaen. Marwolaeth Tewdrig, 1848–56 gan John Evan Thomas (1810–1873) a William Meredyth Thomas (1819–1877). Efydd, uchder 167 cm (65 modfedd), hyd 127 cm (50 modfedd), lled 63 cm (25 modfedd) Llofnodwyd: I EVAN THOMAS Sc and Elkington Mason & Co fect 1856 Efydd, castiwyd gan Elkington & Co, Birmingham and Liverpool