Oriel 1 Chris Owen, 4 Hydref 2007 Cyfarchion o Oriel 1!Yr wythnos hon fe ges i gyfle i arbrofi gyda sesiwn i blant ysgolion cynradd r'yn ni wedi ei galw'n 'gemau dyfalu'. Dwi ddim yn siwr os yw hyn yn beth da neu'n beth drwg ond roedd yr Oriel fel syrcas am yr awr a finne ar fy nglinie am weddill y diwrnod! Bydd rhaid cael stamina gwell na hyn o rywle! Roedd ymateb y plant yn ddiddorol a'u gallu i gyffroi dros gynnwys yr Oriel yn wych!Mae llawer o ymwelwyr wedi dangos brwdrydedd dros gynnwys yr Oriel newydd a gyda'r sylwadau cliriaf i aros yn fy nghof yw gwraig ganol oed yn dweud wrtha i, "This really is wonderful, but mind you, the old gallery was like a museum". Dwi ddim yn siwr os mai mynegi siom oedd hi neu beidio, efallai nad oedd hi'n gwybod yn iawn. Fodd bynnag mae'n sicr yn yr achos hwn, nad oedd cynnwys yr Oriel yn cydymffurfio i'r hyn yr oedd yr ymwelydd yn disgwyl ei weld yn yr amgueddfa. Gellir dadlau mai dyma enghraifft glir o'r Oriel yn deffro'r ymwelydd i'w amgylchedd gan ei atgoffa mai nid ymweld a'r amgueddfa er mwyn cael golwg ar y gorffennol a wna.Dyma un sylwad a nodwyd ar gerdyn sylwadau am arddangosfa gyntaf yr Oriel, 'Perthyn', 'Hmmm, not sure what this is all about - Belonging - where?' A dddylai cynnwys yr Oriel gynnig atebion? Dyma sylwad arall sy'n treiddio i'r cwestiynau sylfaenol ynglyn a beth yw oriel ac amgueddfa.Dewch draw i rhoi eich barn, neu rhowch sylwad yma os ydych chi wedi ymweld! Rwy ar ruthur braidd yn anffodus...ond wedi cael blas ar y blogio 'ma tro 'ma...felly mi fydda i nol ma arna i ofn!
Ysbryd y mwynwyr 1 Hydref 2007 Dyw Sir Ceredigion ddim yn uniongyrchol a chysylltiad a hanes mwyngloddio. Ond fel y teithiwch tuag at Aberystwyth ar yr arfordir, gan ddilyn dyffrynnoedd mewndirol afonydd Ystwyth, Rheidol a Mynach, byddech yn camgymryd wrth gredu mai amaethyddiaeth fu economi Ceredigion ar hyd yr amser. Mae mwyngloddio am gopor, plwm, zinc ac arian wedi bod yn rhan bwysig o economi'r sir ers 4,000 o flynyddoedd. Edrychwch yn fanylach ar natur a wyneb y tirlun sy'n newid wrth i chi deithio i'r bryniau, a bydd stori arall dod i'r amlwg. Wrth deithio o un pentref i'r llall, mae'r tirwedd hynafol yn cuddio nifer o storïau, traddodiadau a cynllwynio a fu'n amlwg yn ystod y blynyddoedd gynt. Mae'r gwasgariad o gymunedau sy'n cynnwys Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Cwmystwyth, Ysbyty Ystwyth, Goginan, Ystumtuen, Pontrhydygroes, Cwmsymlog, Taliesin a Thalybont heb unrhyw beth yn eu cysylltu yn ôl pob golwg. Ond maent yn cynnwys un thema sy'n berthnasol iddynt oll - diwylliant hanesyddol cloddio. Mae'r gwybodaeth hon yn rhan o'r wefan 'Ysbryd y Mwynwyr' - project adfywio cymunedol i geisio creu hunaniaeth i ogledd Ceredigion trwy fanteisio ar yr etifeddiaeth mwyngloddio metel fel thema. x
Moving the Bryn Celli Ddu stone Pip Diment, 27 Medi 2007 Moving the Bryn Celli Ddu stone from upper archaeology into its new home in the Origins exhibition.Having moved most of the Early Christian Monuments to new homes already, we looked into the final stone – the Bryn Celli Ddu stone. This stone is from the Bryn Celli Ddu tomb (Anglesey) which is one of the best preserved passage tombs in Wales (for more information see this Rhagor article ). We thought it was quite small, and shouldn't be too big a problem - we were wrong! It went right down to the floor, and was encased in a concrete block. We needed help. We called on Nigel Brake from Penybryn Engineering who had already helped us with the ECMs and has helped us many times with other specialised lifting, moving and metal work around the National Museum Cardiff.Over the course of 10 days, we made a plan to remove the stone upwards out of its casing and onto a pallet for moving to the new gallery. In order to do that we needed to remove some ceiling tiles to create enough space above the stone. The lifting gear was brought in, curators and conservators watched anxiously as the stone was secured to the lifting gear and then removed from the concrete support. It was lifted clear and then carefully laid on a pallet. Jackie Chadwick, Archaeology Illustrator, took the opportunity to photograph and draw the stone in detail as it hadn't been seen in its entirety since 1979. Interestingly we made our own archaeological discovery: as the stone was removed we found evidence of a very different attitude to conservation – cigarette butts in the base of the stone meaning it most have been ok to smoke in the galleries then – unlike today!Finally it was time to install the Bryn Celli Ddu stone in it's new support in the Origins Gallery. You'll be able to see it in all its glory when the exhibition opens in December.
Ymchwilio ein Coedwigoedd Gareth Bonello, 26 Medi 2007 Coed Ffawydd, dechrau hydref Helo bawb! Dw’i wedi penderfynu dechrau blog i sôn am brosiect diweddara (ac yn fy marn i, prosiect gorau) Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae’r amgueddfa wedi apwyntio fi i fod yn ‘ddehonglydd coedwigoedd’ a dwi’n bwriadu dehongli’r goedwig i’r eithaf.I ddechrau, ychydig amdana’ i. Fy enw i yw Gareth Bonello ac rwy’n 26 mlwydd oed. Dwi’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ond serch hynny datblygais ddiddordeb mawr mewn byd natur ac fe es i Brifysgol Bryste i astudio S?oleg. Ar ôl graddio yn 2002 roeddwn i’n gweithio i’r BTO (British Trust for Ornithology) yn cyfri niferoedd yr adar oedd yn bridio yng ngogledd-orllewin Lloegr. Dychwelais i Gaerdydd yn 2003 lle gweithiais fel dehonglydd hanes natur i Amgueddfa Cymru ym Mharc Cathays am dair blynedd a hanner.Dechreuais y swydd newydd yn Sain Ffagan ym mis Mai 2007. Mae hefyd gennyf ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a ffilm a dw’i ar fin cwpla MA mewn Ffilm o brifysgol Casnewydd. Os oes byth gennyf unrhyw amser sbâr dwi’n hoff iawn o chware’r gitâr, bwyta a chysgu! Y Prosiect Digon amdana’ i, beth am y prosiect? Wel, mae ganddi dair prif ran:Addysg Llwybr Natur Y We Yn gyntaf, mae’r prosiect yn un addysgiadol sy’n anelu at ddysgu pobl am natur y goedwig, cynaladwyedd a llawer mwy. Yn ystod y tymor ysgol mi fyddaf yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer ysgolion yn y goedwig yma yn Sain Ffagan. Mi fydd y gweithgareddau yn cynnwys sesiynau ar adnabod trychfilod, bioleg y coed, ymarfer corff a chelf. Yn ystod y gwyliau ysgol mi fyddaf yn rhedeg gweithgareddau am goedwigoedd ar gyfer teuluoedd.Yn ail, maer’ prosiect mynd i osod llwybr natur newydd yn Sain Ffagan. Mi fydd y llwybr yn rhedeg trwy'r goedwig ffawydd tu ôl i’r Pentref Celtaidd, lle fydd mynedfa newydd yn ei lle. Ar hyd y llwybr fydd paneli gyda gwybodaeth am natur y goedwig ffawydd ac am y defnydd mae pobl wedi ’neud o goedwigoedd trwy gydol eu hanes. Dwi’n gobeithio defnyddio cerflunydd llif-gadwyn i wneud cerfluniau diddorol o amgylch y goedwig ac mae Ian Daniel, dehonglydd newydd y Pentref Celtaidd yn mynd i wneud cerfluniau o ffigyrau o chwedlau'r Celtiaid.Yn olaf, mi fydd y prosiect yn mynd ar y we. Mae arbenigwyr camerâu natur Eco-Watch (sy’n gwneud BBC Springwatch) mynd i fy helpu i roi camerâu mewn bocsys nythu adar, ar fwrdd bwydo adar ac o dan y d?r erbyn y gwanwyn. Yn ogystal â hyn mi fyddaf yn ffilmio ac yn cymryd lluniau o amgylch y maes ac yn eu rhoi nhw i fyny ar y we fel y byddwch chi’n gallu dilyn digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn.Mae’r bywyd gwyllt yma’n ddiddorol iawn gyda Ystulmod yn y Sguboriau, Madfallod d?r yn y pyllau a channoedd o amrywion o bryfed ac adar – mae gen i lot o waith i wneud! Mi fydd y wefan hefyd yn cynnwys gemau addysgiadol ac adnoddau ar gyfer athrawon yn ogystal â linciau i’r blog yma ac i wefannau eraill am fywyd y coedwigoedd.Dw’i mynd i sgwennu’r blog yma unwaith y mis, ond wna’i ychwanegu darnau diddorol wrth iddyn nhw ddigwydd. Yn y cyfamser ewch draw i’r gwefannau isod i ddarganfod mwy am goedwigoedd a’r anifeiliaid sy’n byw ynddynt:BBC Autumnwatch BBC Springwatch The Woodland Trust Nature Detectives RSPBDyma casgliad o luniau dw'i wedi cymryd yn ddiweddar: Mae Prosiect Ymchwilio Ein Coedwigoedd yn rhedeg gyda cymorth Legal & General ac Cyngor Caerdydd trwy Cardiff Council Communities Landfill Trust;
Pysgota traddodiadol ar yr Afon Hafren 25 Medi 2007 Y rhwyd lâf. Pysgotwyr Rhwydi Lâf Y Garrreg Ddu, gerllaw'r ail bont ar draws afon Hafren. O'r chwith i'r dde: Bob Leonard, Richard Morgan a Martin Morgan. Mae'r dull hynafol hwn o bysgota yn parhau ar hyd glannau afon Hafren. Mae dyfroedd Môr Hafren gyda'r peryclaf yng Nghymru ond nid yw hyn wedi rhwystro cenedlaethau o bysgotwyr rhag pysgota am eogiaid yn ei dyfroedd cyforiog o bysgod. Mae'r dulliau Cymreig traddodiadol o ddal y pysgod yn dal i fod yn fyw iawn yn yr ardal. O fewn cof, defnyddid amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys rhesi o drapiau ar ffurf cewyll (putchers), cychod aros, putts, rhwydi drifft a rhwydi lâf. Gwaetha'r modd, dim ond y dull olaf sydd wedi goroesi hyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae nifer y pysgotwyr lâf wedi lleihau dros y blynyddoedd ac erbyn hyn dim ond yng nghyffiniau'r ail bont dros afon Hafren, heb fod yn bell o bentrefi Sudbrook a Phorth Sgiwed (Sir Fynwy), y mae modd dod ar eu traws. Mae'r dynion hyn, aelodau o Gymdeithas Pysgotwyr Rhwydi Lâf y Garreg Ddu, yn cadw'n fyw draddodiad ac iddo arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol unigryw. Mae cadeirydd y Gymdeithas, Bob Leonard, wedi bod yn rhwydwr lâf ers 57 mlynedd ac mae'n egluro ei bod hi'n holl-bwysig eich bod yn pysgota dyfroedd y foryd "yng nghwmni dyn sy'n gyfarwydd â'r afon neu fel arall byddwch mewn sefyllfa beryglus iawn". Caiff y pysgod eu dal yn ystod llanw isel, gan ddefnyddio rhwyd a ddelir yn y llaw. Ar un adeg, caniateid pysgotwyr i bysgota o Chwefror i Awst ond ers hynny mae'r tymor wedi'i gyfyngu i'r cyfnod o Fehefin i Awst. Ar y mwyaf, gallant bysgota am awr a hanner ar y tro, yn dibynnu ar y tywydd. Mae'r pysgota'n dechrau, yn ôl yr arfer, wedi i'r pysgotwyr ymlwybro tua'r lan ger y Garreg Ddu. Yn aml, saif y pysgotwyr yn y mannau hynny lle yr arferai eu tadau a'u teidiau sefyll. Mae techneg sylfaenol pysgota â rhwyd lâf yn syml: mae'r pysgotwr yn dal coes y rhwyd ag un llaw a phen yr astell â'r llaw arall, tra bod y bysedd sy'n cydio'n sownd yng ngwaelod y rhwyd yn teimlo am y pysgod. Caiff y rhwyd ei gosod o flaen y pysgotwr, i wynebu llif y dŵr. Rhaid ystyried cyfeiriad y gwynt ac uchder y llanw, ac mae'r amodau ar eu gorau pan fo'r môr fel llyn llefrith. Nid yw glaw o anghenraid yn eu poeni. Fel yr eglura Bob Leonard, unwaith y maent yn eu lle, maent "yn craffu ar y dŵr am arwyddion diamau o bysgod". Maent yn synhwyro cryfder llif y dŵr a chaiff eu gobeithion eu codi gan symudiad sydyn yn y rhwyd. Pan synhwyrir symudiad pysgodyn mae'r pysgotwr yn camu'n ôl ac yn codi coes y rhwyd allan o'r dŵr. Unwaith y mae'r pysgodyn wedi'i ddal, caiff ei ladd â phastwn (neu'r priest yn Saesneg, gan mai offeiriad sy'n gyfrifol am yr eneiniad olaf!) a chaiff ei osod yn y cwch. Eir â'r eog tua'r lan ac yno caiff ei rannu'n gyfartal rhwng y rhwydwyr p'un ai a fuont yn pysgota neu beidio. Ar un adeg, nid oedd angen rhannu'r ddalfa oherwydd fod digon o eogiaid i bawb. Ond daeth tro ar fyd ac nid yw pysgota masnachol â'r rhwydi lâf wedi bod yn bosibl ers cyn yr Ail Ryfel Byd. Cyn 1939 cai'r pysgod eu hanfon i farchnad Billingsgate yn Llundain. Mae'r rhwydwyr lâf yr un mor fedrus â'u cyndeidiau ond o ganlyniad i'r lleihad yn nifer y pysgod maent yn fwy na hapus os llwyddant i ddal mwy na deg yn ystod y tymor. Maent yn pysgota er mwyn cadw eu crefft hynafol yn fyw, fel yr esbonia Martin Morgan, Ysgrifennydd y Gymdeithas, "Mae pysgota â rhwydi lâf yn draddodiad y gellir ei olrhain yn ôl dros fil o flynyddoedd yng Nghymru. Roedd fy hen dad-cu yn bysgotwr a throsglwyddodd ei sgiliau i'w ddisgynyddion". Darllen Cefndir Severn Tide gan Brian Waters. Cyhoeddwyd gan J.M. a'i Feibion Cyf. (1947). Nets and Coracles gan J. Geraint Jenkins. Cyhoeddwyd gan David and Charles (1974).