Straeon Covid: “Mae fy nheimladau'n dod fel tonnau” Leri, Caerdydd, 14 Mehefin 2020 Cyfraniad Leri i broject Casglu Covid: Cymru 2020. Rydw i'n 49 ac fe ges i'r feirws… roedd popeth yn brifo. Dannedd, llygaid ac anadlu'n galed. Es i ddim i'r ysbyty, diolch byth, ond arhosodd y problemau anadlu a theimlo'n wan ac yn racs gyda fi am 8 wythnos. Rwy'n cyfri fy hunan yn ffodus iawn. Ar hyn o bryd mae dydd Llun i ddydd Gwener yn gyfuniad reit heriol o sicrhau bod fy mhlant yn dysgu adref. Mae'r ddau â gwaith i gwbwlhau mewn cyfuniad ac ymarfer eu cyrff, cael awyr iach ac ar adeg dysgu ar lein gyda'i athrawes. Rhaid darparu digonedd o fwyd a byrbrydiau a glanhau'r ty hefyd. Rydw i'n paratoi gwaith, marcio gwaith, gwneud galwadau ffôn i blant a rhieni yn fy swydd fel athrawes Blwyddyn 1. Rydw i hefyd yn dysgu mewn ysgol Hwb – dysgu plant gweithwyr allweddol. Mae fy ngwr yn gweithio o adref ac yn trefnu offer i'r NHS – gwaith holl bwysig yn ystod y cyfnod yma. Mae'r penwythnosau'n adeg i ymlacio –allan am gyfnodau hirach, gwylio ffilmiau, creu celfweithiau, cloncan a chwarae. Mae'r ddau [blentyn] yn gweld eisiau rhyddid. Rhyddid i fynd allan cyn hired â hoffant a thu hwnt i'w hardal leol. Maent yn colli ffrindiau a diffyg chymdeithasu'n anodd. Mae dysgu adre'n newid o ddydd i ddydd – ambell dro'n awyddus i ddysgu ac ar adegau'n emosiynol a rhwystredig. Ar y cyfan, maent yn agored i drafod am eu teimladau ac yn mwynhau cwtsh cynnes! Mae fy nheimladau'n dod fel tonnau. Gallai fod yn ddiolchgar, derbyn y sefyllfa a trio gweld positif yn y sefyllfa ar y mwyaf, ond reit ddagreuol dros pethau bach adeg eraill… Y cysur mwyaf yw gwbod bod fy nheulu'n ddiogel, fy rhieni, fy chwaer a'i theulu a'r teulu estynedig. Rydyn ni'n ddiolchgar ac yn meddwl am rhieni sy'n diodde.
Sied Dynion yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru Sharon Ford, 14 Mehefin 2020 Dechreuodd y Sied Dynion yn Awstralia 12 mlynedd yn ôl, lle cafodd ei datblygu gan y bwrdd iechyd i daclo problem unigedd ymysg dynion y wlad. Roeddent wedi sylwi bod gan nifer uchel o ddynion ormod o amser ar eu dwylo (o ganlyniad i ymddeoliad, diweithdra, salwch ac ati) a bod hyn yn arwain at ddiflastod, dynion yn dioddef yn dawel o broblemau iechyd meddwl ac, yn yr achosion gwaethaf, hunanladdiad. Mae mudiad y Sied Dynion yn seiliedig ar y dybiaeth fod dynion yn fwy tebygol o fynychu rhywbeth y maen nhw wedi helpu i’w sefydlu, neu y mae ganddyn nhw reolaeth drosto.Mae Men’s Sheds Cymru, gaiff ei ariannu gan y Loteri Fawr, wedi’i greu er mwyn helpu cymunedau ledled Cymru i sefydlu Siediau Dynion.Cafodd Sied Lo Big Pit ei lansio ym mis Mai 2019 – y Sied Dynion gyntaf yn Nhorfaen. Mae’r grŵp wedi dod â hen adeilad hanesyddol yn ôl yn fyw – hwn oedd hen weithdy hogi’r pwll glo, lle câi ceibiau’r glowyr eu trwsio. Mae gweithgarwch pob sied yn dibynnu’n llwyr ar sgiliau a diddordebau ei aelodau.Caiff y Sied Lo ei chefnogi gan Gyngor Tref Blaenafon ac mae wedi derbyn arian gan Western Power Distribution a’r People’s Postcode Lottery. Am fwy o wybodaeth am y Sied Lo, cysylltwch â Sharon Ford. Am fwy o wybodaeth am Siediau Dynion, ewch i www.mensshedscymru.co.uk
Ysgol Pen-Y-Bryn - Dathlu Deg William Sims, 10 Mehefin 2020 Yn wreiddiol, roeddem ni am gynnal yr arddangosfa hon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau rhwng 28 Mawrth a 28 Mehefin 2020.Rydym yn Amgueddfa Cymru yn falch iawn o’n gwaith gydag Ysgol Pen-y-Bryn, felly oherwydd y sefyllfa bresennol, rydym wedi penderfynu rhannu’r arddangosfa â chi ar-lein.Mae’r arddangosfa’n dathlu partneriaeth ddeng mlynedd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ag Ysgol Pen-y-Bryn, gan ddangos uchafbwyntiau eu projectau gwych o’r gorffennol. O sêr Cymreig y cae rygbi i fôr-ladron, mae’r arddangosfa hon yn dathlu doniau disgyblion a staff yr ysgol. Mae cyfle hefyd i weld eu gwaith arloesol diweddaraf, sef creu adnoddau cyffrous i blant mewn ysgolion yn seiliedig ar y Cwricwlwm Cymreig Newydd.Lawrlwytho Arddangosfa (PDF)
Gwen John: ‘Y naws sy’n bwysig’ Rhan 2 Neil Lebeter, 9 Mehefin 2020 Dyma ail flog sy’n cymryd cip ar waith Gwen John yng nghasgliad Amgueddfa Cymru. Yn y rhan gyntaf dyma ni’n trafod sut y daeth y casgliad mwyaf o waith Gwen i Gaerdydd ac yn cymryd cip ar ei thechneg gynnar. Newidiodd y dechneg hon yn ddramatig wedi canol y 1910au. Canolbwyntiodd Gwen bron yn gyfangwbl ar bortreadau o fenywod, gan ddefnyddio paent yn ddarbodus iawn, heb haenau uwch na farnais. Does dim ymdrech i guddio’r brwswaith ac mae’r cyfosod yn fwy gwastad ond yn llai esmwyth. Gwelwn eto ymateb cyflym Gwen i’r gwynt celfyddydol wrth i artistiaid eraill Ewrop ddechrau defnyddio technegau tebyg. Mae’n debyg bod Gwen John yn fwyaf adnabyddus am ei phortreadau. Ynddynt mae’n cyfleu rhyw naws annirnad sy’n llawn emosiwn. Yr hyn sy’n rhyfeddol am y gweithiau hyn yw cymhlethdod y cyfosod, a’r dechneg sy’n sylfaen i holl naws y gweithiau. Ffordd dda o esbonio hyn yw i edrych ar waith anorffenedig… Asstudiaeth o Ferch Noeth ar ei Heistedd (c.1920au) Olew ar gynfas 32.4 x 24.1 cm Mae arddull wastad a harmoni tonyddol portreadau Gwen John yn destun cyffredin, gyda’r gwrthrych a’r cefndir yn aml yn asio’n un arwyneb. Yr hyn sy’n rhyfeddol am dechneg Gwen yw ei bod hi’n paentio o ymylon y cynfas, yn aml heb fraslunio ymlaen llaw. Byddai’n dechrau yng nghornel y gynfas ac yn paentio am i mewn, fel y gwelwn yma. Wrth gael ei baentio’n olaf (neu ddim o gwbwl yn yr achos hwn) daw’r wyneb yn ail bron i’r cyfosodiad. Bydd unrhyw artist yn gwerthfawrogi crefft mor rhyfeddol o anodd yw hyn, a’r ymwybyddiaeth ofodol i greu cyfanwaith wrth ddechrau ar yr ymylon. Mae hyn hefyd yn dwysáu’r teimlad fod y cefndir a’r gwrthrych yn un – nid yw’r ffigwr, yn enwedig yr wyneb, yn ddim pwysicach na gweddill y paentiad. Ar gefn y gwaith hwn mae fersiwn arall o’r un portread, y tro hwn gyda’i dillad ac yn fwy cyflawn. Yma eto gwelwn taw’r wyneb yw’r rhan olaf bron i gael unrhyw sylw. Merch mewn Gwisg Las (c. 1914-15) Olew ar gynfas 41.8 x W 34.5 cm Fe ddychwelwn ni yn awr at Merch mewn Gwisg Las. Wedi 1915 dechreuodd gwaith Gwen John newid yn ddarmatig a dyma un o’r esiamplau cynharaf o’i thechneg sych. Mae hwn yn waith rhyfeddol sydd gyda’r mwyaf poblogaidd yn Amgueddfa Cymru. Yma mae Gwen yn defnyddio grwnd o galch a glud anifeiliaid, sy’n cynhyrchu swigod bychan wrth i’r calch gymysgu â’r glud cynnes, i roi arwyneb garw i’r cynfas. Mae’r grwnd hwn a’r haenau olew dilynol i gyd wedi eu taenu’n sych a thenau iawn, heb ymdrech i guddio’r brwswaith. Yn y manylyn yma gellir gweld nad yw’r paent brown wedi glynu at y grwnd gwyn ym mhob man. Mae’n ein hatgoffa o ffresco sy’n pylu, ac yn ychwanegu at gymeriad bregus y portread. Mae’r paent wedi’i daenu mor sych a chyson nes bod y cefndir a’r gwrthrych yn ymddangos fel un, ac yn toddi i’r arwyneb. Mae edrych ar y paentiad dan olau gwahanol hefyd yn datgelu gwybodaeth ddiddorol hefyd. Drwy daflu golau o’r ochr gallwn ni weld pa mor anwastad yw’r cynfas – gwahanol iawn i gynfas llyfn proffesiynol. Mae hyn bron yn sicr yn fwriadol, i ategu’r gwead cyfoethog. Mae golau is-goch yn dangos ychydig o waith braslunio, yn amlinellu prif elfennau’r cyfosodiad cyn paentio. O astudio’r gwaith dan olau uwch-fioled gwelwn fod Gwen wedi dychwelyd at y gwaith, gan wneud newidiadau gyda phaent gwyn yn cynnwys mwy o sinc sy’n ymddangos yn gliriach dan olau UV. Mae’r gwaith tacluso yma hefyd yn ysgafn iawn. Ond dyma’r darganfyddiad mwyaf syfrdanol… Drwy daflu golau o gefn y cynfas gallwn weld cyn lleied o baent sydd wedi ei ddefnyddio. Mae’n grefft ryfeddol bod Gwen wedi llwyddo i greu darlun mor deimladwy heb ddefnyddio fawr ddim paent o gwbl. Dyw’r paent braidd yno. Yr Ystafell Fechan (1926) Olew ar gynfas Cymynrodd Gaynor Cemlyn-Jones, 2003 22.2 x 27.3 cm Mae’r gwaith hwn o 1926 yn dangos ystafell yng nghartref Gwen yn un o faestrefi Paris, ac yn un o’r paentiadau a ddangoswyd yn unig arddangosfa unigol Gwen yn ystod ei bywyd. Gwelwn baled cyfyngedig, gyda gwanhaniaethau arlliw cynnil yn y cefndir a’r tebot yn ganolbwynt bychan yng nghanol y cynfas. Wedi erchyllter y Rhyfel Byd Cyntaf gwrthododd nifer o artistiaid syniadau avant-garde, gan ddychwelyd at arddulliau mwy traddodiadol. Cefnwyd er enghraifft ar Ddyfodoliaeth a Fortisiaeth gan fod y dechnoleg a’r awtomatiaeth a ddathlent cyn y rhyfel yn allweddol i’r gyflafan. Wrth ‘Ddychwelyd at y Drefn’ gwelwyd artistiaid fel Picasso a Braque yn troi o Giwbiaeth at ddulliau traddodiadol bron yn gyfangwbl. Cynyddodd poblogrwydd yr arddull Glasurol, ac o drefn a realaeth mewn paentio. Yn ei bywgraffiad o Gwen John, dywed Alicia Foster bod y gwaith yn gymhleth o’i ystyried dan faner ‘Dychwelyd at y Drefn’, ond mae Gwen yn cydgerdded â’r mudiad yn ei defnydd union a threfnus o liw, fel y gwelir yn Yr Ystafell Fechan. Disgrifiodd Gwen sut y byddai’n defnyddio disg liw hynod gymhleth oedd yn nodi pob lliw a’i berthynas ag unrhyw liw neu arlliw arall. Datblygodd system nodiadau hefyd hefyd i fraslunio a chofnodi cyfosodiadau. Mae’r ‘cod’ hwn wedi bod yn hynod anodd ei ddatrys, ac mae gan ei nodiadau naws delynegol sydd, er ei brydferthwch, yn gwneud y gwaith ditectif yn anos fyth. Er enghraifft, pa liw fyddech chi’n ei ddyfalu yw ‘Gwawr caru’n ofer Ebrill ar y traeth liw nos’ Roedd gan Gwen system rifo yn ogystal â nodiadau lliw. Byddai’n creu brasluniau cyflym o bopeth – gwrthrychau yn ei hystafell ac ar ymweliadau, teithwyr ar y trên a cynulleidfa esglwys. Roedd y system rifo a’r nodiadau lliw yn ei galluogi i gofio lliwiau ac arlliwiau’r gwrthrychau y byddai’n eu cofnodi mewn pensil a siarcol. Yn ddiweddarach byddai’n ailgreu ei darluniau mewn dyfrlliw, gouache neu olew, gan fireinio’r cyfosodiad a’r lliw. Ffigwr yn yr Eglwys Gouache ar bapur 16.7 x 12.3cm Oddeutu 1913 trodd Gwen at Babyddiaeth. Byddai ei ffydd yn dod yn bwysig iawn iddi ac fe ddisgrifiodd ei hun fel ‘Artist bach Duw’. Addolwyr yn yr eglwys yw testun nifer o’i darluniau wedi hyn, yn aml i’w gweld o’r cefn neu’r ochr. Yn Ffigwr yn yr Eglwys mae’r ffrog wedi’i lliwio â golchiad tenau o’r un lliw â’r het, ar gwallt yn gymysgedd o liw’r cefndir a’r het. Mae hyn yn allweddol i’r modd y byddai Gwen yn asio ei lliwiau. Nid yw symlrwydd o reidrwydd yn syml. Gyda diolch i gydweithwyr Amgueddfa Cymru ddoe a heddiw am eu gwaith ymchwil trylwyr, yn enwedig David Fraser Jenkins, Beth McIntyre, Kate Lowry ac Oliver Fairclough. Mae bywgraffiad byr Alicia Foster, a gyhoeddwyd gan Tate, yn rhoi crynodeb drylwyr ac yn ailystyried elfennau pwysig o yrfa Gwen John.
Straeon Covid: “Talking is important and the children do ask questions, but I think being honest is best!” Claire, Casnewydd, 8 Mehefin 2020 Cyfraniad Claire i broject Casglu Covid: Cymru 2020. We have definitely got closer as we deal with this difficult time. We have got to know neighbours we didn't even know. Every Thursday clapping for the NHS on our doorsteps has made us more of a community. My children have been face timing their friends, writing them letters and drawing them pictures as a way to keep in touch. It's been difficult not seeing family members but we have made sure they are safe and contact them. The children have been fantastic considering the situation. They have adapted well to homeschooling. Talking is important and the children do ask questions, but I think being honest is best! They miss their friends and family as much as we all do, so regular contact via facetime etc is great! They understand why we must stay at home, but missing normality and just being active and going places and visiting. We have baked more as a family and made our own made pizzas, bread, cookies, cakes because we've had more time together. It’s a very anxious time. I worry constantly for my family and friends. It's upsetting especially when can't see family and friends or visit. It can be heart breaking not being able to visit our nans, parents as they are shielding due to health reasons. I worry my children will fall behind in school and if I'm doing good with homeschooling. Emotions are like being on a rollercoaster.