Tai Crwn Bryn Eryr o Oes yr Haearn

Roedd Bryn Eryr yn fferm fechan o’r Oes Haearn yn nwyrain Ynys Môn, ger Llansadwrn. Ym Mhrydain yn ystod y cyfnod, tai crwn oedd y math mwyaf cyffredin o gartref. Mae’r tai yma wedi eu ailgreu ar sail gwaith cloddio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd rhwng 1985 a 1987. Datgelwyd tri thŷ crwn yno. Cafodd y cyntaf ei adeiladu tua chanol yr Oes Haearn ac roedd wedi’i amgáu gan ffens bren. Adeiladwyd yr ail dŷ yn fuan cyn cyfnod y Rhufeiniaid ac yn agos iawn ir tŷ cyntaf. Amgeuwyd y ddau gan glawdd a ffos fwy parhaol ar siâp petryal. Yn ystod y mileniwm cyntaf OC, cafodd trydydd tŷ ei adeiladu ar sylfaen carreg, wrth i’r clawdd erydu a’r ffos lenwi â mwd.

Mae Bryn Eryr yn ail-greuad arbrofol o’r ddau dŷ cynharaf, a gan eu bod mor agos at eu gilydd mae’n debygol fod y ddau dŷ wedi rhannu to, ac i bob pwrpas yn un adeilad gyda dwy ystafell. Gan mai ond yn ddiweddar y cafodd tai crwn cyswllt fel y rhain ei adnabod, nifer fach o ail-greuadau sydd yn bodoli. Yn ogystal a hyn, roedd gan y ddau dŷ waliau clai 1.8m o drwch, ac ein ail-greuad ni ywr unig un i drio y fath dechneg.

Roedd dehongli ac ail-greu archaeoleg Bryn Eryr yn hynod gymleth. Er enghraifft, a oedd gan yr adeilad hwn ddau do siap côn – un i bob ystafell – neu a oedd un to yn gorchuddio’r adeilad cyfan? Wedi llawer o bendroni, adeiladwyd to dau gôn a gysylltwyd gan rhodfa. Defnyddiom dechneg arbrofol arall i doi yr adeilad – sef dull toi a elwir yn ‘toi gwthio’. Cafodd haen o eithin ei osod ar fframwaith y to ac yna gwthiwyd haen o wellt i mewn i’r haenen eithin - sydd yn esbonio’r enw. Mi wnaeth 1500 o wirfoddolwyr helpu i adeiladu Bryn Eryr.

Ffeithiau Adeilad:

  • Sail yr ailgreuad: Gwaith cloddio archaeolegol yn Bryn Eryr, Ynys Môn
  • Dyddiad yr adeiladau gwreiddiol: tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl
  • Gwybodaeth ymweld