Gystadleuaeth Ffotograffiaeth 2017 Penny Dacey, 10 Tachwedd 2017 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Diolch am yr holl waith yr ydych wedi gwneud ac am rannu eich lluniau! Roedd o'n hynod o galed i ddewis dim ond pum enillydd. Mae'r lluniau a ddewiswyd yn dod o ysgolion yng Nghymru sef ddim cymryd rhan yn y prosiectau estyniad Edina. Os ydych yn cymryd rhan yn y prosiectau estyniad Edina fydd eich llun hefo cyfle o ennill cystadleuaeth nhw, a bydd yr Edina yn cyhoeddi enillwyr yn fuan.Dyma'r enillwyr:Ysgol Carreg EmlynSevern Primary SchoolShirenewton PrimarySt Julians PrimaryYsgol Bro HyddgenDiolch yn fawr i bob ysgol a rannodd eu lluniau. Oedd o’n wych i weld y holl waith rydych wedi gwneud a'r hwyl gawsoch!Cadwch lan gyda'r gwaith caled Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd
Cofnodion Tywydd yn dechrau heddiw Penny Dacey, 6 Tachwedd 2017 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu gwyliau hanner tymor!Rwyf isio ddweud diolch mawr i bawb am eich gwaith caled ar y diwrnod plannu. Cafodd 17,360 o fylbiau ei blannu ar draws y wlad! Welais o’r llunia bod pawb wedi cael llawer o hwyl yn helpu!Mae Cofnodion Tywydd yn cychwyn o 6 Tachwedd. Plîs wnewch yn siŵr bod eich mesurydd glaw ai’ch thermomedr wedi ei chadw mewn lle addas wrth ymyl eich bylbiau.Mae’n syniad da i ymarfer cymryd cofnodion tywydd. Fedrwch wneud hyn wrth ychwanegu dŵr at y mesurydd glaw a chymryd mewn tro i gofnodi’r mesur. Wedyn, fedrwch gymharu i weld os mae pawb wedi cymryd yr un mesur.Mae 'na adnoddau dysgu ar y wefan i helpu paratoi am gymryd cofnodion tywydd. Rwyf wedi atodi hyn rhag ofn bod rhai heb ei gweld eto. Mae’r adnodd hyn yn helpu ymateb cwestiynau pwysig fel ‘pam mae mesur tywydd yn bwysig i’n harbrawf o’r effaith mae’r hinsawdd yn cael ar ddyddiad blodeuo bylbiau gwanwyn’!Defnyddiwch eich siart tywydd i gofnodi'r glaw a’r tymheredd pob ddiwrnod ysgol. Ar ddiwedd yr wythnos, cofnodwch mewn i’r wefan i rannu eich canfyddiadau. Fedrwch hefyd gadael sylwadau a chwestiynau i fi ymateb yn fy blog nesaf!Plîs gadewch i mi wybod sut ydych yn wneud, a rhannwch luniau trwy Twitter ac e-bost.Cadwch ymlaen a'r gwaith called Gyfeillion y Gwanwyn,Athro’r Ardd
Diwrnod plannu ar 20 Hydref! Penny Dacey, 19 Hydref 2017 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Mae'n bron diwrnod plannu! Ydych chi'n barod? Dyma rai adnoddau defnyddiol i'ch paratoi ar gyfer plannu eich bylbiau a gofalu amdanynt dros y misoedd nesaf! Mae'r rhain hefyd ar wefan Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion: https://amgueddfa.cymru/bylbiau-gwanwyn/Dylech ddarllen y dogfennau hyn:• Llythyr oddi wrth Athro'r Ardd (cyflwyniad i'r prosiect)• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)A chwblhewch y gweithgareddau hyn:• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau• Creu Labelai BylbiauMae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod pa mor ddwfn mae angen i chi blannu eich bylbiau? Neu sut i labelu fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu?Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ffotograffydd Diwrnod Plannu!Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld lluniau o ysgolion eraill: https://twitter.com/professor_plantPob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!Athro'r Ardd a Bwlb Bychan
Ysgol Tonyrefail yn archwilio natur yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru Penny Dacey, 19 Gorffennaf 2017 Bob blwyddyn mae ysgolion sy’n gwneud cyfraniad mawr yn cael eu dewis fel enillwyr Project Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion – un o bob gwlad sy’n cymryd rhan. Ymddiriedolaeth Edina sy’n trefnu gwobrau yr Alban a Lloegr (a Gogledd Iwerddon o’r flwyddyn nesaf ymlaen), gydag Amgueddfa Cymru’n trefnu gwobrau’r ysgol fuddugol yng Nghymru.Yr enillwyr eleni oedd Ysgol Gynradd Tonyrefail, a’u gwobr oedd trip i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, gyda bws a gweithdai addysgiadol am ddim. Roedd yn bleser cyfarfod â’r grŵp ac fe gawson ni amser wrth ein bodd yn astudio natur yn Sain Ffagan.Dyma fi’n croesawu’r grŵp oddi ar y bws ac yn eu harwain drwy’r Amgueddfa i Sgubor Hendre Wen. Anaml mae’r sgubor ar agor i’r cyhoedd, a dim ond yn ddiweddar mae wedi dechrau cael ei defnyddio fel gofod addysgiadol i ysgolion. Dyma oedd ein pencadlys ni am y diwrnod, ac roedd y plant yn edrych ymlaen i glywed am yr ystlumod a’r adar sydd wedi ymgartrefu yn y sgubor!Dechreuais drwy ddiolch i’r grŵp am eu gwaith caled ar y project, a gofyn sut oedden nhw’n cadw trefn ar y gwaith yn y dosbarth? Wedyn, dyma fi’n rhoi cyflwyniad byr o ganlyniadau’r project i ddangos sut mae eu gwaith wedi cyfrannu at astudiaeth hirdymor o effaith newid hinsawdd ar ddyddiadau blodeuo bylbiau’r gwanwyn. Un adborth diddorol oedd syniad clyfar y dosbarth i ddefnyddio rotor i ddangos tro pwy oedd hi i gasglu data bob wythnos, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.Dyma ni wedyn yn rhannu’n ddau grŵp. Aeth Grŵp A gyda Hywel i’r Tanerdy i astudio’r bywyd gwyllt sy’n byw yn y pyllau – roedd y pyllau’n arfer cael eu defnyddio i drin lledr, ond bellach mae nhw wedi llenwi â dŵr. Wrth chwilio dyma nhw’n canfod amryw greaduriaid sydd wedi ymgartrefu yn y pyllau, a thrafod eu cylch bywyd a’u cynefin. Cafodd y grŵp hefyd gyfle i ddal Madfall Ddŵr Balfog, oedd yn brofiad newydd sbon i’r mwyafrif!Dilynodd Grŵp B fi i’r guddfan adar, lle buon ni’n braslunio’r coed ac yn defnyddio binocwlars a thaflenni adnabod adar i adnabod trigolion y goedwig. Roedden ni’n lwcus iawn i gael gweld amrywiaeth o adar, gan gynnwys cnocell fraith fwyaf! Daeth wiwerod a llygod coed i ddweud helo hefyd, oedd bron mor gyffrous â gweld yr adar. Dyma ni’n trafod y rhywogaethau adar gwahanol, eu lliwiau, eu cylch bywyd a’u cynefin. Dyma ni hefyd yn trafod sut mae bywyd gwyllt yn elwa o’r lle bwydo a beth allwn ni ei wneud yn ein gerddi neu ar dir yr ysgol i helpu bywyd gwyllt.Ar ôl i’r grwpiau gyfnewid, fel bod pawb yn cael cyfle i archwilio’r goedwig a’r pyllau, dyma ni’n cael cinio yn y sgubor ac atebodd Hywel lawer o gwestiynau am yr Ystlumod Hirglust Brown, y rhywogaeth dan warchodaeth sy’n clwydo yn nhrawstiau’r sgubor.Ar ôl cinio dyma ni’n cael trafodaeth ehangach ar gynefin a meddwl am y trychfilod gwahanol sydd i’w gweld yn ein gerddi. Roedd y drafodaeth yn help mawr gyd thasg nesaf y plant – creu gwesty trychfilod i fynd adref gyda nhw. Dyma ni’n ailgylchu potiau planhigion, gwellt yfed a gwellt naturiol wrth adeiladu, a thrafod ble fyddai orau i osod y gwestai i ddenu gwahanol drychfilod. Dewisodd rhai o’r grŵp osod eu gwestai mewn llefydd heulog, uchel er mwyn denu gwenyn unigol, a dewisodd eraill lefydd cysgodol ar y llawr er mwyn denu pryfed sy’n hoff o amodau oerach.Dim ond ei gwneud hi’n ôl i’r bws mewn pryd wnaethon ni wrth i ni edrych am bryfed ar hyd y llwybrau. Fe ges i a Hywel diwrnod gwych ac o’r wên ar eu hwynebau a’r adborth ffafriol, cafodd Ysgol Tonyrefail amser wrth eu bodd hefyd. Diolch eto Gyfeillion y Gwanwyn! Adborth Ysgol Gynradd Tonyrefail:‘Dwi’n credu taw dyma un o’n hoff dripiau achos dwi heb weld y rhan fwyaf o beth welais i heddiw ac mae mor ddiddorol.’‘Fe ges i amser da a mwynhau gwylio adar a chwilio’r pwll. Roeddwn i’n hoffi gwylio adar achos ei fod yn ddiddorol ac roeddwn i’n gallu gysgu am rywogaethau do’n i ddim yn gwybod amdanyn nhw o’r blaen.’‘Fe wnes i fwynhau heddiw yn bennaf achos chwilio’r pyllau a’r gwylio adar.’‘Fe ges i hwyl heddiw. Roeddwn i’n hoffi’r gwylio adar achos fe welais i rai adar am y tro cynta.’‘Nes i fwynhau dal y fadfall ddŵr achos ei fod yn teimlo fel dal putty byw, ac fe wnes i hoffi gwylio’r adar achos eu bod nhw’n edrych yn bert iawn.’‘Roeddwn i’n mwynhau achos dyma’r tro cyntaf i fi ddal madfall ddŵr. Roeddwn i’n falch bod fy ngwesty trychfilod wedi troi allan yn grêt.’‘Fe ges i hwyl yn cwrdd â pawb a roen i’n dwlu gwneud gwesty trychfilod achos ei fod yn hwyl. Roedd heddiw yn hwyl.’‘Roeddwn i’n hoffi gwneud y gwesty trychfilod achos dwi’n hoffi gwneud pethau.’
Gwobrau Gwyddonwyr Gwych 2016-17 Penny Dacey, 28 Ebrill 2017 Bydd Amgueddfa Cymru yn dyfarnu tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych i ysgolion o ar draws y DU, i gydnabod eu cyfraniad i'r Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn I Ysgolion.Llongyfarchiadau anferth i bob un o’r ysgolion!Diolch i bob un o’r 5,098 disgybl a helpodd eleni! Diolch am weithio mor galed yn plannu, arsylwi a chofnodi, rydych yn wir yn Wyddonwyr Gwych! Bydd pob un ohonoch yn derbyn tystysgrif a phensel Gwyddonydd Gwych.Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth Edina am eu nawdd ac am helpu i wireddu’r prosiect.Enillwyr 2017:Lloegr: Carnforth North Road Community Primary SchoolYr Alban: Auchenlodment Primary SchoolCymru: Tonyrefail Primary School Redwyr i fyny: Lloegr:Arkholme C of E Primary SchoolBreckon Hill Primary SchoolHemlington Hall AcademyLadygrove Park Primary SchoolSt Clare's Catholic Primary SchoolSt Michael's CE Aided Primary SchoolSt Nicholas Primary SchoolSt Peter's Primary SchoolYr Alban:Biggar Primary SchoolCarnbroe Primary SchoolGavinburn Primary SchoolCymru:Broad HavenEvenlode PrimaryGlanyfferiHenllys Church in Wales PrimaryRougemont Prep SchoolSt. Robert's Catholic PrimaryTrellech Primary SchoolYsgol Borth Y GestYsgol DeganwyYsgol Gynradd Gymraeg TonyrefailYsgol PentrefoelasYsgol RhostyllenYsgol y Wern Clod uchel:Lloegr:Coppull Parish Church SchoolGarstang St ThomasHudson RoadStanford in the Vale Primary SchoolThe Blake CE Primary SchoolAbbey Primary SchoolYr Alban:Bellyeoman Primary SchoolLawhead SchoolLoch Primary SchoolOur Lady of Peace Primary SchoolSt Mary's Primary SchoolWormit Primary SchoolCymru:Ysgol Tal y BontBlaengwawr Primary SchoolLlangors Church in Wales SchoolLlanharan Primary SchoolLlanvihangel Crucorney Primary SchoolSevern Primary SchoolSt Athan PrimaryYsgol Tanygrisiau Derbyn hadau blodyn yr haulLloegr:Barmston Village Primary SchoolBarnes Junior SchoolBernard Gilpin Primary SchoolBoston West AcademyChorley St James Primary SchoolEllel St John's CE Primary SchoolFosse Way AcademyLeyland Methodist Junior SchoolOur Lady Queen of Peace RCVA Primary SchoolPeel Park Primary SchoolQuernmore Primary SchoolSaint Leonards Church of England Primary SchoolSt Leonard's RC Primary SchoolStaining C of E SchoolUsworth Colliery Primary SchoolYr Alban:Alexander Peden Primary Sch Alexander PedenBarsail Primary SchoolBent Primary SchoolCarbrain Primary SchoolDykesmains Primary SchoolEast Fulton Primary SchoolGreenburn SchoolHill of Beath Primary SchoolKelso High SchoolLanark Primary SchoolLaw Primary SchoolNew Monkland Primary SchoolNewmains Primary SchoolNewport Primary SchoolOur Lady and St Francis Primary SchoolPirnmill Primary SchoolSt Charles Primary SchoolSt Columbkilles Primary SchoolSt Mary's Primary School, LanarkSt Mary's Primary School, PaisleySt Ronan's Primary SchoolCymru:Beulah SchoolCoedpenmaen PrimaryCrymlyn primaryDarran Park PrimarySt. Paul's CIW PrimaryTrallwn PrimaryWhitestone Primary SchoolYsgol PennantYsgol Rhys Prichard Derbyn tystysgrifau a phensiliauLloegr:Alston Lane Catholic Primary SchoolBacup Thorn Primary SchoolBelmont Community Primary SchoolBolton-le-Sands Church of England SchoolConingsby St Michael's Primary SchoolGeorge Washington Primary SchoolTrinity Church of England Methodist Primary SchoolWolvercote Primary SchoolYr Alban::Abronhill Primary SchoolCalderbridge Primary SchoolGlebe Primary SchoolSt Catherine's Primary SchoolStane Primary SchoolWest Primary SchoolCymru:Betws Primary SchoolCastle SchoolMelin Junior SchoolSt Brides Major CW Primary SchoolSt. Michael's RC PrimaryYsgol AbererchYsgol BethelYsgol Betws yn RhosYsgol Bro OgwrYsgol Iau Hen GolwynYsgol PencaeYsgol San SiorYsgol TudweiliogYsgol Ty CochYsgol y Tywyn Diolch i chi am eich holl waith caled Cyfeillion y Gwanwyn,Athro'r Ardd