Portread mawreddog ar gyfer priodas ym 1777 25 Gorffennaf 2007 Mae gan Amgueddfa Cymru grŵp nodedig o bortreadau hyd llawn o'r 1770au. Yn eu plith mae darn a helpodd i ddod â bri i'r arlunydd George Romney ar ôl dychwelyd o ymweliad i geisio gwneud enw iddo'i hun yn yr Eidal. Bu'r darn hwn o gymorth iddo gystadlu â Reynolds a Gainsborough. George Romney (1734-1802), Elizabeth Harriet Warren (Is-iarlles Bulkeley) fel Hebe, tua 1776 Olew ar ganfas, 238.5 cm x 148 cm Symudodd Romney i Lundain o Kendal ym 1762 i geisio llwyddiant ac enwogrwydd. Un o'r lluniau a ddechreuodd wneud enw iddo oedd portread mawr o'r teulu Warren o Poyton, Swydd Gaer, a orffennwyd ym 1769. Rhwng 1773 a 1775, bu Romney'n teithio yn yr Eidal, i weld darnau celfyddyd clasurol a rhai o gyfnod y dadeni drosto'i hunan ac i feithrin hygrededd ymhlith noddwyr. Pan ddychwelodd i Lundain, cafodd bod bron bawb wedi anghofio amdano. Fodd bynnag, cymerodd brydles ar dŷ mawr yn Sgwar Cavendish, a daeth rhai o'i hen gefnogwyr ato â chomisiynau newydd. Syr George Warren oedd un o'r rhai cyntaf. Archebodd bortread o'i ferch Elizabeth, i ddathlu ei phriodas ym mis Ebrill 1777, â Thomas, 7fed Is-iarll Bulkeley o Fiwmares (1752-1822). Ef oedd prif dirfeddiannwr Ynys Môn ac roedd ganddo gysylltiad â Syr Watkin Williams-Wynn. Bu'n Aelod Seneddol dros y sir rhwng 1774 a 1784 pan wnaed ef yn Arglwydd. Bu Elizabeth yn eistedd ar gyfer Romney bum gwaith ym mis Mai 1776. Yna aeth yr arlunydd yn sâl, a bu'r eisteddiad olaf ym mis Rhagfyr. Aeth llawer o feddwl i'r darlun ac mae brasluniau ar ei gyfer mewn sawl casgliad. Ers amser, bu Romney'n awyddus i ennill ei blwyf fel darlunydd gweithiau ac iddynt neges lenyddol a moesol ac fe ddarlunir Elizabeth fel Hebe, cludwraig cwpanau'r duwiau a duwies harddwch ieuenctid. Fel rheol, mewn lluniau o Hebe byddai ganddi gwpan neu stên a byddai eryr yn y llun i gynrychioli ei thad Sews. Roedd yn bersona alegorïaidd poblogaidd ar gyfer portreadau o ferched ifanc yn y 18fed ganrif. Mae'r gwaith hwn yn enghraifft o'r "aruchel a'r arswydus" yn arddull Romney. Mae lliwiau'r rhaeadr fynyddig yn llym, bron fel monocrom. Bwriad yr arlunydd oedd atgoffa'r gwyliwr o gerflun clasurol. Roedd yn un o nifer o ddarnau neo-glasurol a ddaeth â bri iddo ym 1776 gan arwain at ugain mlynedd fel paentiwr portreadau prusuraf a mwyaf ffasiynol Llundain. Ni chafodd Elizabeth a Thomas Bulkeley blant ac, yn y pen draw, hanner brawd Thomas a etifeddodd y portread a fu'n hongian ym mharlwr eu cartref, Baron Hill, ar Ynys Môn. Pasiwyd ef ymlaen yn nheulu Williams-Bulkeley tan iddo gael ei brynu gan yr Amgueddfa (lle bu ar fenthyg ers 1948) gyda chymorth y Gronfa Glef yn 2000. Cyhoeddiadau cysylltiedigï: Fritz Saxl & Rudolph Wittkower, British Art and the Mediterranean, Oxford 1948, repr.63(4); John Steegman, A Survey of Portraits in Welsh Houses, vol. 1, Houses in North Wales, National Museum of Wales, Cardiff 1957, p.25; David Irwin, English Neoclassical Art, London 1966, p.152
Dewis o ddarluniau botanegol godidog o gasgliadau Amgueddfa Cymru 12 Gorffennaf 2007 Mae darluniau botanegol yn cyfuno gwyddoniaeth a chelfyddyd. Eu bwriad gwreiddiol oedd hybu dealltwriaeth wyddonol ac maent yn cynnwys llawer o luniau eithriadol o hardd. Dewiswyd y lluniau isod o blith dros 7,000 o brintiau a lluniau a gedwir yn Amgueddfa Cymru. Darluniau Botanegol Pawpaw Carica papaya o The fruits and flowers of Java 1863 gan Berthe Hoola Van Nooten. Rhwng canol yr ail ganrif ar bymtheg a chanol y deunawfed ganrif gwelwyd Oes Aur darluniau gwyddonol. Yn yr oes hon o gywreinrwydd, archwilio ac arbrofi, roedd yr artist yn ategu'r broses wyddonol. Georg Dionysius Ehret (1708-1770) oedd un o artistiaid mwyaf talentog y cyfnod hwn. Mae'r ddelwedd hon yn dangos Magnolia o Plantae Selectae Ehret ym 1772. Roedd Magnolias yn ffefryn i Ehret a dywedwyd ei fod yn mynd am dro yn ddyddiol i weld cynnydd y Magnolia grandiflora. Crëwyd cynnwrf gan y lili'r dŵr enfawr hon, Victoria regia, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Victoria amazonica , pan gyrhaeddodd Brydain am y tro cyntaf ym 1849. Mae'r lithograff hwn wedi'i gymryd o Victoria regia 1854, llyfr ffolio trawiadol wedi'i gomisiynu yn arbennig i ddathlu blodeuo cyntaf y planhigyn yn Kew. Teithiodd degau o filoedd o bobl i'r gerddi yn arbennig i weld y blodyn yn agor ac yn newid lliw; digwyddodd hyn yn rheolaidd dros gyfnod o wyth awr. Victoria regia, lili'r dŵr a enwyd er anrhydedd y Frenhines Fictoria, ac a ddarganfuwyd yn Ne America ym 1837, blwyddyn ei hesgyniad i'r orsedd. Roedd y dail yn 2 fetr syfrdanol o led. Llwyddodd merch Joseph Paxton, Prif Arddwr Chatsworth, lle blodeuodd y lili'r dŵr cyntaf ym Mhrydain, i sefyll ar un ddeilen heb iddi suddo. Ysbrydolodd strwythur y planhigyn gynllun Joseph Paxton ar gyfer Crystal Palace, a adeiladwyd i gynnal y Great Exhibition yn Hyde Park ym 1851. Daw'r lithograff manwl iawn hwn o'r llyfr ffolio Victoria regia 1854 gan Walter Hood Fitch, ac mae'n darlunio strwythur cywrain gwahanol rannau o'r planhigyn. Tulipa Lutea Lituris Aureis o Hortus Eystettensis (1613) a grëwyd gan Basilius Besler (1561-1629) Yn gynnar yn y 17eg ganrif, daeth teithio a masnach â nifer o blanhigion newydd ac egsotig i Ewrop, a thyfwyd blodau am eu harddwch yn ogystal â'u defnydd ymarferol. Cododd 'Tulipomania' , fel y'i gelwid, o awydd angerddol y cyfoethog i berchnogi'r planhigion prinnaf. Yn yr Iseldiroedd, prynwyd un bwlb tiwlip am 4,600 fflorin, a choets a phâr o geffylau brith. Ym 1665 cyhoeddodd Robert Hooke lyfr chwyldroadol o'r enw Micrographia lle gwelwyd manylion manwl, megis meingefn pigog y ddanhadlen hon, am y tro cyntaf. Hyd at ddatblygiad microsgopeg nid oedd gan bobl wybodaeth am fodolaeth strwythurau cymhleth planhigion. Gyda microsgopau cynyddol soffistigedig, galluogwyd ymchwilio i strwythur celloedd a phlanhigion bychain. Papaya Carica papaya, o Plantae Selectae 1772 gan Georg Dionysius Ehret (1708-1770). Cactws Nosflodeuog Cereus grandiflorus a gomisiynwyd gan Robert John Thornton (1768 - 1837) yn Temple of Flora. Enwyd y planhigyn hwn hefyd yn Gactws y Lleuad ac Ysgallen Gwyr, gan ei fod yn blodeuo gyda'r nos yn unig. Mae'n trigo mewn gwledydd poeth, sych, lle mae peillwyr yn fwy gweithgar gyda'r nos. Dywedir bod y blodau mawr gydag arogl fanila ymysg y blodau harddaf sy'n bod. Mae'r blodau'n pylu ac yn marw cyn y wawr. Cactws Nosflodeuol Cereus grandiflorus, o Plantae Selectae gan G.D. Ehret, 1772. Arum maculatum (Pidyn y Gog) o Flora Londinensis (1777-1787) a gyhoeddwyd gan William Curtis. Roedd Flora Londinensis yn cynnwys yr holl flodau gwyllt a dyfai o fewn deng milltir i Lundain, a oedd bryd hynny wedi'i amgylchynu gan gaeau a thir corsiog heb ei ddraenio. Mae'r darluniau a liwiwyd gyda llaw yn arbennig o gain a manwl, felly mae'n syndod na lwyddodd i ddenu nifer o danysgrifwyr. Ar öl deng mlynedd, roedd yn rhaid i Curtis dderbyn methiant ariannol ac ym 1787, cynhyrchodd y Botanical Magazine llai, sydd yn parhau i gael ei gyhoeddi heddiw, dros 200 mlynedd yn ddiweddarach. Tulipa gesneriana, o Temple of Flora, 1799 a gyhoeddwyd gan Robert Thornton. Tyngodd Thornton y byddai ei lyfr, Temple of Flora y cyhoeddiad botanegol mwyaf godidog erioed. Darluniwyd planhigion egsotig mewn tirweddau dramatig gan artistiaid gorau'r dydd. Arweiniodd costau afradlon cyhoeddi'r llyfr moethus hwn at ddinistr ariannol i Thornton.
Darlun gan Sisley o arfordir de Cymru. 6 Gorffennaf 2007 La falaise a Penarth, le soir, marée basse gan Alfred Sisley Yr olygfa o'r un man heddiw Arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr Ganed Alfred Sisley ym Mharis ym 1839 i rieni o Brydain a daeth yn un o brif aelodau'r cylch o arlunwyr ifanc a oedd yn gwrthwynebu'r gelfyddyd draddodiadol oedd yn cael ei dysgu yn yr Académie Ffrengig. Ym 1874, cynhaliodd y grŵp hwn y sioe sydd wedi cael yr enw o fod yn 'Arddangosfa gyntaf yr Argraffiadwyr'. Roedd gan Sisley luniau mewn tair o'r saith sioe nesaf a drefnwyd gan yr Argraffiadwyr rhwng 1876 a 1886. Ni chafodd gymaint o lwyddiant â'i gyfeillion Monet, Renoir a Pissarro ac, ym 1882, enciliodd i dref fechan Moret-sur-Loing ger Fontainebleau, lle bu'n gweithio am weddill ei yrfa. Bu farw yno ym 1899. Lluniau Sisley o dde Cymru Yn yr haf 1897, daeth Sisley ar ymweliad â de Cymru, gan aros yn 4 Clive Place, Penarth. Ar 5 Awst, priodwyd ef ag Eugenié Lescouezec yn Neuadd y Dref, Caerdydd. Roedd Sisley wrth ei fodd ym Mhenarth. Ar 16 Gorffennaf ysgrifennodd [cyfieithiad] "Rwy wedi bod yma ers wythnos ... Mae'r wlad yn bert iawn ac mae gweld y llongau mawr yn hwylio yn ôl a blaen i Gaerdydd yn wych ... Wn i ddim am ba hyd yr arhosaf ym Mhenarth. Rwy'n gysurus iawn yma, mewn 'tŷ lodjin' gyda phobl ddymunol iawn. Mae'r hinsawdd yn fwyn iawn ac, yn wir, bu'n rhy dwym dros y dyddiau diwethaf, yn enwedig nawr wrth i mi ysgrifennu hwn. Rwy'n gobeithio gwneud defnydd da o'r hyn a welaf o'm cwmpas a mynd yn ôl i Moret tua mis Hydref". Tynnodd Sisley rhyw 19 o ddarluniau olew o Benarth a Bae Langland ger Abertawe (lle'r arhosodd o 15 Awst tan nes iddo fynd yn ôl i Moret ar 1 Hydref). Y rhain oedd ei unig forluniau ac maent yn cyfleu ynni a chyffro darganfyddiad newydd. Mae morluniau Penarth yn fwy atmosfferig na lluniau Langland sy'n dal gwres mawr a golau Penrhyn Gŵyr yn effeithiol iawn. Gwyddom o ble y tynnwyd chwech o luniau Penarth. Mae un yn dangos coeden ar ymyl y clogwyn a llongau a phier Penarth yn y cefndir. Mae dau'n dangos yr olygfa tua'r gogledd i fyny Môr Hafren ac mae tri'n dangos yr olygfa tua'r de yn edrych ar hyd ymyl y clogwyn i gyfeiriad Larnog. Un o'r golygfeydd hyn tua'r de yw La falaise a Penarth. Mae goleuni'r hwyr yn dod i mewn ar ogwydd llym o'r gorllewin gan daflu cysgod porffor golau o'r clogwyn serth dros y traeth oddi isod. Mae'r môr ar drai ac mae creigiau Trwyn Ranny a Thrwyn Larnog i'w gweld yn glir. Ar 4 Hydref 1897, dyma a ddywedwyd mewn erthygl ym mhapur Ffrangegr Le Journal [cyfieithiad]: "Daeth y meistr Argraffiadol â chyfres o forluniau penigamp o Benarth a Bae Langland. Ynddynt, mae awyrgylch rhyfedd y dirwedd honno, sy'n ardal ddieithr i arlunwyr, yn cael ei gyfleu â chelfyddyd sydd mor hudolus ag ydyw o bersonol." Mae gweledigaeth Sisley'n arwydd o newid sylfaenol yn y ffordd o ddehongli tirwedd Cymru ac mae'r ffordd newydd hon yn disodli dull Rhamantaidd Turner a'i olynwyr. Agorodd Sisley a'i gyd-Argraffiadwyr ffordd newydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf, a arweiniwyd gan yr arlunwyr o Gymry, Augustus John a James Dickson Innes.
Tirlun Rhamantaidd trawiadol 6 Gorffennaf 2007 Mae Samuel Palmer yn un o arlunwyr tirluniau pwysicaf Prydain o’r Cyfnod Rhamantaidd. Tirlun o’r enw Codiad yr Ehedydd [‘The Rising of the Lark’] yw’r cyntaf o ddarluniau Palmer i gyrraedd casgliadau Amgueddfa Cymru. Codiad yr Ehedydd gan Samuel Palmer Derbyniwyd 1990; Rhodd; Sidney Leigh trwy Gronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd Samuel Palmer (1805–51) Mab llyfrwerthwr o Lundain oedd Samuel Palmer. Cyfarfu Palmer â William Blake (1757–1827) ym 1824 a chafodd y bardd a’r arlunydd arbennig hwn ddylanwad mawr ar ei waith. Ymgartrefodd Palmer ym mhentref Shoreham yng Nghaint. Aeth ati i greu iaith symbolaidd, gan ddefnyddio’i luniau i ddathlu ffrwythlondeb a symlrwydd gwledig y byd cyn y chwyldro diwydiannol. Roedd gwaith diweddarach Palmer yn fwy confensiynol a naturiolaidd. Teithiodd i Gymru a rhannau eraill o Brydain tua dechrau’r 1830au, ond ni chafodd ei ysbrydoli gymaint yn unman ag yn Shoreham. Ar ôl priodi â Hannah, merch yr arlunydd John Linnell (1792–1882), roedd yn tueddu i dynnu lluniau i geisio bodloni gofynion y farchnad. Cerdd yn ysbrydoli Ysbrydolwyd Codiad yr Ehedydd gan linellau o L’Allegro gan y bardd John Milton (1608–1674), un o ffefrynnau’r arlunydd: ‘To hear the lark begin his flight, And, singing, startle the dull night, From his watch-tower in the skies, Till the dappled dawn doth rise’ Trwy ddarlunio’r wawr yn torri a chân lawen yr ehedydd, mae Palmer yn awgrymu cychwyn newydd. Mae’n bosib bod y bugail sy’n agor y giât i’r oen fynd trwyddi i’r tiroedd eang y tu hwnt yn symbol o gychwyn bywyd newydd. Seiliodd Palmer y darlun olew hwn ar ddyluniad manwl a dynnodd tua diwedd ei gyfnod yn Shoreham. Ysgrifennodd ei fab Alfred Herbert Palmer am y llun yn ei fywgraffiad, The Life of Samuel Palmer. Awgrymodd fod ei dad wedi’i baentio yn fuan ar ôl dychwelyd o’r Eidal ym 1839. Y Cyfnod Rhamantaidd Mae’r llun hwn yn perthyn i’r Cyfnod Rhamantaidd. Yn y cyfnod hwn, roedd llawer o arlunwyr, cerddorion ac awduron yn ceisio ail-greu ffordd wledig o fyw a oedd, yn eu barn nhw, yn cael ei cholli oherwydd dyfodiad diwydiant.
Crochenwaith unigryw o Abertawe yn hwb i gasgliad yr Amgueddfa 5 Gorffennaf 2007 Ym 1994, rhoddwyd deugain darn o grochenwaith a phorslen i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn rhodd gan W. J. Grant-Davidson, arbenigwr yn hanes crochendai Cymru. Roedd y casgliad yn cynnwys nifer o eitemau unigryw a phwysig a wnaed yn Abertawe tua dechrau'r 19eg ganrif. Tancard priddwaith o Abertawe gan William Weston Young. Rhoddion hael Un o'r darnau mwyaf diddorol yw tancard mawr priddwaith. Fe'i gwnaed yng Nghrochendy Cambrian, Abertawe, ym mlynyddoedd cyntaf y 19eg ganrif. Fe'i haddurnwyd â phen ac ysgwyddau derwydd. Dywed yr arysgrif iddo gael ei baentio gan William Weston Young (1776-1847). Mae'r addurn yn unigryw, er bod Weston Young wedi paentio llun derwydd yn torri uchelwydd ar blac hefyd (mae hwnnw yn Amgueddfa Fictoria ac Albert, Llundain erbyn hyn). William Weston Young Bu William Weston Young yn gweithio yn y crochendy rhwng 1803 a 1806 fel paentiwr a chynorthwyydd i'r perchennog, Lewis Weston Dillwyn. Syrfëwr tir oedd Weston Young wrth ei broffesiwn ac, yn ddiweddarach, bu'n bartner yn y 'Nantgarw China Works'. Pos ar ffurf llun Ymhlith yr eitemau eraill sydd yn y casgliad, mae sosban laeth, cwpanau wy a jwg ac arni'r arysgrif 'John Jinken 1793'. Ceir powlen bwnsh ac arni lun alarch a phenhwyad (sef 'pike' yn Saesneg). Efallai bod hon wedi'i gwneud yn arbennig ar gyfer y teulu Pike o Abertawe. Crochenydd arloesol Roedd gan Mr Grant-Davidson ddiddordeb mewn crochenwaith Lloegr hefyd. Ceir deg enghraifft o ganol y 18fed ganrif yn y casgliad a roddodd i'r amgueddfa. Yn ogystal â thri thebot braf o grochenwaith caled Swydd Stafford, ceir dau ddarn dogfennol o hufenwaith Josiah Wedgwood. Mae'r casgliad yn cynnwys un o'r pedwar darn y gwyddom amdanynt o hufenwaith wedi'u haddurno, a wnaed gan y crochenydd Enoch Booth. Gwnaed y darnau hyn yn hanner cyntaf y 1740au ac mae'n bosib mai dyma'r enghreifftiau cynharaf o gorff o briddwaith sy'n un o brif gyfraniadau Prydain at hanes crochenwaith. Hanesydd a chasglwr Roedd W.J. Grant-Davidson yn arbenigwr ar hanes crochendai Cymru. Casglai grochenwaith Prydeinig o'r cyfnod rhwng diwedd y Canoloesoedd i ddechrau'r 20fed ganrif. Ei gyhoeddiad mwyaf adnabyddus yw 'Early Swansea Pottery, 1764 - 1810', ac mae sawl darn o'i gasgliad ef i'w gweld yn y llyfr.