Croes bren a arferai ddisgleirio gan aur 4 Medi 2007 Y groes o Gemais, Sir Fynwy Manylyn o ben ffigwr y groes. Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau wedi'i adlewyrchu. Manylyn o'r corff a'r lliain lwynau mewn golau uwch fioled. Dengys archwiliad gwyddonol o groes ganoloesol o Gemais, De Cymru, fod y gwrthrych pren a welwn heddiw wedi cael ei addurno'n wreiddiol â lliwiau llachar coeth a haenau aur godidog. Tua 1850, darganfuwyd gweddillion ffigwr pren cerfiedig o Grist yn eglwys Cemais, rai cilomedrau i'r gorllewin o Gaerllion, de Cymru. Gwrthrych o bwysigrwydd eithriadol Cyn y Diwygiad Protestannaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg (pan newidiodd Cymru a Lloegr yn swyddogol o fod yn genedl Gatholig i un Protestannaidd), roedd ffigyrau o Grist o'r math hwn yn gyffredin trwy Loegr a Chymru, a'r Crist o Gemais yw'r esiampl mwyaf cyflawn o'r ychydig ddarnau canoloesol sydd wedi goroesi ym Mhrydain, ac felly mae o bwys eithriadol. Darganfuwyd darnau o ffigwr Cemais 'gyda phenglog ac esgyrn', yng 'ngrisiau'r grog caeedig' yn ystod gwaith atgyweirio a newid yr eglwys tua 1886. Trosglwyddwyd ef i Amgueddfa Cymru ym 1930. Tybir bod y ffigwr yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond nid yw'r dadleuon sy'n cefnogi'r farn hon erioed wedi cael eu mynegi'n fanwl. Mae dyddio'r ffigwr yn dibynnu ar gymharu cerfluniau eraill, a'r gred bellach yw ei fod yn dyddio o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg. Gan fod ffigyrau sydd wedi goroesi o'r cyfnod hwn yn brin, rhaid astudio gwrthrychau o'r cyfandir am gliwiau pellach. Mae ffigyrau croes o ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg o Sweden, er enghraifft, yn rhannu nifer o nodweddion tebyg, ond mae'r Crist o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o Fochdre, Sir Ddinbych, sef yr unig ffigwr pren cyffelyb o Gymru, yn dra gwahanol. Mae'n debygol iawn bod Crist Cemais wedi cael ei wneud yn Lloegr neu yng Nghymru. Ymchwilio a dadansoddi'r groes Ychydig iawn o'r lliw a arferai orchuddio'r ffigwr pren a welir heddiw, ond arweiniodd gwaith rheolaidd Amgueddfa Cymru at ymchwiliad manwl o arwynebedd y gwrthrych ym 1999. Cymerwyd darlun pelydr-x o'r ffigwr ac edrychwyd arno o dan olau uwch-fioled (UV) a golau is-goch (IR) cyn ei archwilio o dan y microsgop. Datgelodd hyn batrwm y lliwiau gwreiddiol, a'r gwahaniaethau rhwng y corff â'r breichiau, yr ystyriwyd yn flaenorol eu bod yn ychwanegiadau diweddarach. Lliwiau cyfoethog a llachar Yn wahanol i'w gyflwr presennol, yn wreiddiol roedd Crist Cemais yn gyfoethog a llachar ei liw, yn unol â'r hyn a oedd yn boblogaidd drwy'r Oesoedd Canol. Cymerwyd gofal mawr wrth addurno'r ffigwr. Pan oedd yn newydd, byddai wedi disgleirio o dan haenau aur. Wrth archwilio'r ffigwr datgelwyd tystiolaeth sylweddol o aml-liwiogrwydd (defnyddio nifer o liwiau), a throsbeintio, fel y gwelir mewn enghreifftiau eraill o gerflunwaith canoloesol. Er nad oes llawer wedi goroesi ar y breichiau, mae'r fraich dde'n cynnwys dwy haenen, sy'n awgrymu, efallai, bod y fraich chwith wedi cael ei hailosod, naill ai yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg, neu'n gynharach hyd yn oed. Datgelwyd o leiaf tair haen o baent, ond tasg anodd oedd eu dyddio. Ymddengys bod yr ail gynllun lliwiau wedi cynnwys eurwaith ar y gwallt; aur, coch a glas ar du fewn y lliain lwynau; manylion brown tywyll a du ar yr wyneb; coron o ddrain gwyrdd; a lliwiau cnawd pinc gwelw, a choch yn pwysleisio'r clwyfau. Byddai gwaith aml-liwiog o'r math yma wedi bod yn arferol ar gerflun mor bwysig â hwn. Mae ffigwr Cemais yn cynrychioli Crist ar y groes yn glir, ac fe'i portreadir yn fyw, â'i lygaid ar agor. Mae Crist Cemais yn enghraifft anghyffredin o ffigwr defosiynol, o'r cyfnod cyn y Diwygiad, a fu unwaith yn gyffredin ar Ynysoedd Prydain. Uchder gwreiddiol y ddelwedd drawiadol o ddioddefaint Crist oedd tua 94cm, felly byddai wedi bod yn weledol iawn ac yn destun gweddi, gan chwarae rhan bwysig iawn ym mywydau pobl bob dydd.
Lluniau natur: Darluniau botanegol 20 Awst 2007 Yn yr Oesoedd Tywyll roedd clefydau ac aflendid yn rhemp ac fe ddibynnai'r bobl ar feddygon llysiau a'u meddyginiaethau. I wella byddardod: cymerwch wrin maharen, olew llysywennod, cenhinen, sudd barf yr hen ŵr ac ŵy wedi'i ferwi... Anfonwyd casglwyr proffesiynol i rannau pellennig o'r byd. Roedd darganfod planhigion newydd yn golygu archwilio gwledydd newydd - yn aml heb fapiau cywir, drwy diroedd heb heolydd, a chydag ychydig o aneddiadau. Tua 17eg ganrif, daeth llawer o blanhigion newydd egsotig i Ewrop wrth i bobl ddechrau teithio a masnachu. Cychwynnodd `Tiwlipomania' gan fod y cyfoethogion bron â thorn eu bol eisiau bod yn berchen ar y planhigion prinnaf. Yn yr Iseldiroedd, prynwyd un býlb tiwlip am 4,600 fflorin, coetsh a phâr o geffylau brithias. Ym 1737, bu'n rhaid i Elizabeth Blackwell ddechrau cynnal ei theulu pan daflwyd ei gŵr i garchar dyledwyr. Tynnodd luniau ar gyfer llysieulyfr y 'Chelsea Physic Garden' a bu el gŵr yn edrych dros y testun yn y carchar. Swynwyd dyn erioed gan flodau, gan eu harddwch, a'r posibiliadau ar gyfer iachâd a gwybodaeth. Mae Amgueddfa Cymru yn dal casgliad unigryw o dros 9,000 darlun botanegol, yn pontio pum canrif. Yn dilyn arddangosfa fechan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym 1942, cafodd y darluniau eu storio. 50 mlynedd yn ddiweddarach ail ddarganfuwyd ystod ac arwyddocâd y casgliad, a gwerthfawrogwyd eu lluniadaeth goeth yn llawn. Mae'r casgliad yn cynnwys gwaith yn amrywio o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrlliwiau amatur, ac yn cynnwys nifer o eitemau gan feistri cydnabyddedig megis Georg Dionysius Ehret a Pierre Joseph Redouté. 500 mlynedd o ddarluniau botanegol Mae'r casgliad yn dilyn datblygiad darluniau botanegol a'r berthynas rhwng celf a gwyddoniaeth o lysieulyfrau canol oesol yr Oesoedd Tywyll, pan oedd dyn yn ofni Natur, drwy'r Oleuedigaeth a'r teithiau darganfod, hyd at ddarluniau cyfoes yr 21ain Ganrif. Blodeulyfrau Erbyn 1600, ar ôl y llysieulyfrau blociau pren cynnar, arweiniodd y broses o ysgythru ar fetel at ddarluniad manach o bob manylyn bach, gan chwyldroi darluniau botanegol. Flora Londinensis (1777-87) gan William Curtis yw un o'r blodeulyfrau Prydeinig enwocaf, yn rhestru'r holl blanhigion o fewn deng milltir i Lundain. Blodeulyfr Ewropeaidd pwysig o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r Flora Danica (1763-1885) a gymrodd bron i gan mlynedd i'w chwblhau. Yn yr 17eg Ganrif, tyfwyd planhigion am eu harddwch yn ogystal â'u defnydd ymarferol a gwyddonol. Cynhyrchodd y cyfoethog flodeugerddi yn darlunio'r planhigion prin a hardd ar eu hystadau, tra bod canllawiau gwyddonol yn llawn darluniau manwl o ystod eang o blanhigion. Mae'r casgliad yn cynnwys nifer o brintiadau gwreiddiol o'r 17eg Ganrif, gan gynnwys gwaith gan Redouté, Sowerby, Fitch, a Sydenham Edwards, a anwyd yng Nghymru. Cyflwyno tacsonomeg Ym 1753 datblygodd y naturiaethwr o Sweden, Carl Linnaeus system newydd o enwi a dosbarthu pob peth byw. Cafodd popeth ddau enw yn Lladin: enw genws ac enw rhywogaeth. Cafodd hyn effaith sylweddol ar steil y darluniau botanegol. Roedd y pwyslais bellach ar organau rhywiol y planhigyn, er mawr ddychryn i'r gymdeithas foneddigaidd. Derbyniwyd y system Linnaeaidd newydd yn rhannol drwy safon uchel y darluniau a gynhyrchwyd gan G. D. Ehret ar y pryd. Mae gan yr Amgueddfa ddarluniau gan Ehret o Plantae Selectae (1750-73) a hefyd gasgliad gan J. S. Miller o Botanical Tables (1785) Bute, a gomisiynwyd gan John Stuart, 3ydd Iarll Bute. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys gwaith gan Redouté, Kirchner ac Elizabeth Blackwell. Darluniodd Backwell lysieulyfr o'r enw A Curious Herbal i ryddhau ei gwr o'i garchariad mewn carchar i ddyledwyr. Teithiau darganfod Botanegwyr ar y teithiau epig o ddarganfod yn y 18fed a'r 19eg ganrif oedd y cyntaf i gofnodi a chasglu'r planhigion egsotig a welwyd yn y tiroedd pellennig, heb eu mapio. Am y tro cyntaf, gwelodd Ewropeaid luniau o ffrwythau egsotig megis afalau pîn, paw-paws a phomgranadau. Mae esiamplau yn y casgliadau yn cynnwys Banks' Florilegium a gweithiau o Curtis's Botanical Magazine. Brwdfrydedd Fictoraidd Daeth brwdfrydedd aruthrol am wyddoniaeth yn y cyfnod Fictoraidd. Daeth ysgythriadau o blanhigion newydd yn gyffredin drwy newyddiaduron a chylchgronau poblogaidd, megis Carter's Floral Illustrations a Paxton's Floral Garden. Arweiniodd darganfyddiad Victoria regia, y lili'r dŵr enfawr o'r Amazon, at elyniaeth rhwng garddwyr tai mawr Lloegr, yn cystadlu am y cyntaf i lwyddo i'w gael i flodeuo ym Mhrydain. Joseph Paxton, garddwr Chatsworth, enillodd y ras. Dywedir mai strwythur y ddeilen enfawr ysbrydolodd ei gynllun ar gyfer Crystal Palace.
Etifeddiaeth ddiwydiannol David Davies 29 Gorffennaf 2007 David Davies (1818-1890) Mae'r llun yn ei ddangos yn gorffwys am ennyd prin. Casgliad preifat (Lord Davies) Hafn Talerddig, y dyfnaf yn y byd ar y pryd. Doc Rhif 1 ym 1913, pan oedd dociau'r Barri'n allforio 11 miliwn tunnell o lo. Mae'r ardal ym mlaen y llun ar y dde'n edrych fel arwynebedd solet a gwastad, ond dŵr y doc yw hwn mewn gwirionedd, wedi'i orchuddio â throchion a llwch glo. David Davies, Llandinam Trawsnewidiodd rhoddion a chymynroddion Gwendoline a Margaret Davies amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru'n llwyr. Y chwiorydd Davies oedd cyfranwyr mwyaf yr Amgueddfa yn ystod ei chanrif gyntaf. Roedd Gwendoline a Margaret Davies yn wyresau i David Davies, Llandinam, un o entrepreneuriaid mwyaf Cymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dechreuodd David Davies ei oes fel ffermwr tenant a llifiwr. Gwnaeth ei ffortiwn trwy adeiladu rhan helaeth o system reilffyrdd y canolbarth wrth i Gymru Oes Victoria ddiwydiannu, bu'n arloeswr y diwydiant glo yng nghwm Rhondda, ac ef oedd y grym y tu ôl i'r gwaith o adeiladu dociau'r Barri. Rheilffyrdd Dechreuodd ei yrfa ym myd y rheilffyrdd wrth iddo adeiladu Rheilffordd y Drenewydd a Llanidloes ym 1859, a bu'n allweddol wrth adeiladu nifer o reilffyrdd y canolbarth, Dyffryn Clwyd a Sir Benfro. Ei gamp fwyaf fel peiriannydd y rheilffyrdd oedd hafn fawr Talerddig ar Reilffordd y Drenewydd a Machynlleth - hon oedd hafn ddyfnaf y byd pan gwblhaodd y gwaith ym 1862. Ond ni lwyddodd pob un o fentrau Davies — ni chyrhaeddodd y rheilffordd â'r enw crand Rheilffordd Manceinion a Milffwrdd fyth y naill le na'r llall! Glo — 'Davies yr Ocean' Bu 1864 yn drobwynt yng ngyrfa David Davies pan gymerodd les fwynau arloesol yng nghymoedd y de. Fe gymerodd ddwy flynedd i'r pyllau cyntaf ddechrau cynhyrchu ar raddfa fawr ac roedd wedi agor pum glofa ychwanegol erbyn 1886. Y flwyddyn ganlynol daeth y pyllau dan enw cwmni cyfyngedig cyhoeddus newydd, yr Ocean Coal Co. Ltd. Pan fu farw Davies ym 1890, hwn oedd cwmni glo mwyaf a mwyaf proffidiol y de. O'r pwll i'r porthladd Penllanw gyrfa David Davies oedd adeiladu'r doc yn y Barri. Cyfunodd Davies a nifer o berchnogion glofeydd eraill cwm Rhondda eu hymdrechion i ddatrys problem prysurdeb Rheilffordd Cwm Taf a dociau Bute yng Nghaerdydd. Aethant ati i adeiladu rheilffordd o'r maes glo i'r dociau newydd yn y Barri, oedd yn bentrefan bach bryd hynny. Er gwaetha'r gwrthwynebiad ffyrnig o garfan Bute, agorodd y doc ym 1889. Cyfoeth ar waith Roedd David Davies yn Fethodist Calfinaidd selog. Ffydd anghydffurfiol lem oedd hon, oedd yn unigryw yng Nghymru ac yn wahanol i Fethodistiaeth Wesleaidd. Fel holl aelodau teulu Gwendoline a Margaret, bu'n Sabathydd ac yn llwyrymwrthodwr gydol ei oes. Fe wnaeth hyn feithrin ynddo ymdeimlad dwfn o ddyngarwch a gwasanaeth cyhoeddus. Roedd yn gyfrannwr hael iawn at achosion crefyddol ac addysgol. Gan iddo dderbyn addysg elfennol iawn ei hun, roedd darparu addysg prifysgol yng Nghymru yn agos at galon David Davies. Roedd yn gefnogwr brwd o'r coleg cyntaf a agorwyd yn Aberystwyth ym 1872. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Fwrdeistrefi Ceredigion rhwng 1874-86, a chafodd ei ethol i Gyngor cyntaf Sir Drefaldwyn adeg ei sefydlu ym 1889. Ar ôl David Davies Bu farw David Davies ym 1890 ac fe'i olynwyd gan ei fab Edward. Bu straen rhedeg y busnes yn ormod iddo, a bu farw gwta wyth mlynedd ar ôl ei dad. Olynwyd yntau yn ei dro gan David, brawd Gwendoline a Margaret, yn ddiweddarach Arglwydd Davies y Cyntaf. Ef fu'n gorfod dygymod â dirwasgiad hir y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel. Yn dilyn y rhyfel gwladolwyd y diwydiant glo, y dociau, a'r rheilffyrdd, ac fe gollodd y teulu eu gafael ar eu busnesau helaeth. Heddiw mae holl lofeydd Ocean a'r rhan fwyaf o'r system rheilffordd a greodd David Davies wedi cau, ac mae dociau'r Barri'n gymharol segur.
Y Chwiorydd Davies a’r Rhyfel Mawr 29 Gorffennaf 2007 Ymwelloedd Gwendoline â'r ddinas Ffrainc Verdun oedd wedi'i difrodi a bron yn wag ar 9 a 10 Mawrth 1917, ac fe gafodd y cerdyn post hwn i gofio ei hymweliad. Casgliad preifat (Lord Davies) Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf effaith fawr ar fywydau Gwendoline a Margaret Davies. Y ddwy chwaer o'r canolbarth a drawsnewidiodd amrywiaeth ac ansawdd casgliad celf cenedlaethol Cymru gyda'u rhoddion a'u cymynroddion. Lladdwyd rhai o'u perthnasau agos a bu'r ddwy'n gweithio gyda'r Groes Goch yn Ffrainc, gan weld dinistr trychinebus yno gyda'u llygaid eu hunain. Roeddynt yn ymwybodol iawn o ddioddefaint milwyr Prydain a Ffrainc, a chawsant eu synnu gan ddioddefaint y ffoaduriaid sifil. Ymroddodd eu brawd David yn llwyr i ymgyrchu dros heddwch rhyngwladol, ond gobaith y chwiorydd oedd gwella bywydau'r cyn-filwyr oedd yn dioddef trawma yn sgil y rhyfel, drwy eu haddysgu yn y crefftau a thrwy gerddoriaeth. Allan o hyn datblygodd y syniad o sefydlu Gregynog fel canolfan ar gyfer y celfyddydau, ac i drafod problemau cymdeithasol. Rhoi Lloches i Artistiaid yng Nghymru Ar 4 Awst 1914, ymosododd yr Almaen ar wlad Belg, gan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu'n rhaid i dros filiwn o drigolion gwlad Belg ffoi o'u cartrefi. Penderfynodd y teulu Davies y dylid dod ag artistiaid o wlad Belg i Gymru, lle gallent weithio'n ddiogel, ac ysbrydoli myfyrwyr celf y wlad. Teithiodd yr Uwchgapten Burdon-Evans, eu hasiant, a'u cyfaill Thomas Jones i wlad Belg lle sefydlwyd grŵp o nawdeg un o ffoaduriaid, oedd yn cynnwys y cerflunydd George Minne, yr arlunwyr Valerius de Saedeleer a Gustave van de Woestyne a'u teuluoedd. Treuliodd y tri artist weddill y rhyfel fel ffoaduriaid, gan ddibynnu'n helaeth ar gymorth y teulu Davies. Er mai effaith gyfyngedig gawsant ar y celfyddydau yng Nghymru, effeithiodd eu halltudiaeth yng Nghymru ar waith y tri. Y Chwiorydd yn Ffrainc, 1916–18 Ar y cychwyn, bu'r chwiorydd yn gwneud gwaith elusennol oedd yn gysylltiedig â'r rhyfel gartref. Roeddent yn awyddus i wneud 'mwy i helpu', ond ni lwyddodd llawer o fenywod fynd i Ffrainc. Un ffordd o wneud hyn oedd gwirfoddoli trwy Bwyllgor y Groes Goch Ffrengig yn Llundain. Ychydig iawn o ddarpariaeth oedd yn y fyddin Ffrengig ar gyfer lles y milwr cyffredin, ac anfonodd y Pwyllgor fenywod i weithredu cabanau bwyd, ysbytai a gwersylloedd tramwy. Ym mis Gorffennaf 1916 anfonwyd Gwendoline i wersyll tramwy ger Troyes. Ymunodd Margaret â'r caban bwyd yno ym Mehefin 1917, ac mae eu dyddiaduron yn rhoi cofnod o'r cyfnod hwn yn eu bywydau. Cafodd stoiciaeth y milwyr Ffrengig cyffredin, a dioddefaint y ffoaduriaid lluddedig, sâl a llwglyd effaith ddofn ar y chwiorydd. Casglu yn ystod y Rhyfel Llwyddodd y chwiorydd i ychwanegu at eu casgliad celf yn achlysurol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Er bod teithio yn Ffrainc adeg y rhyfel yn anodd, cafodd Gwendoline gyfleoedd i ymweld ag oriel Bernheim-Jeune yn sgil teithiau i Baris ar ran y Groes Goch. Prynodd luniau o waith Daumier a Carrière yno yn Ebrill 1917, a pheintiadau gan Renoir, Manet a Monet yn Rhagfyr. Yn Chwefror 1918 prynodd y tirluniau enwog gan Cézanne, Argae François Zola a Thirwedd ym Mhrofens, sydd ymysg y pwysicaf a'r mwyaf ysbrydoledig o'i phryniadau. Yn Chwefror 1916 gwariodd Gwendoline Davies £2,350 ar ddeg peintiad olew a darlun gan Augustus John. Aeth Margaret a hithau ati i gasglu mwy, ac ni chasglwyd gwaith unrhyw artist arall ar yr un raddfa ganddynt. Roedd hi'n benderfynol y dylid arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Genedlaethol, ac yn ddiweddarach rhoddodd nifer o'i weithiau ar fenthyg i'r Amgueddfa. Nodiadau ar y Lluniau Paul Cézanne (1839–1906), Tirlun ym Mhrofens, olew ar gynfas, tua 1887–8 Prynodd Gwendoline y llun yma'r un pryd â Argae François Zola o waith yr artist ym 1918, ond am hanner pris y gwaith arall, £1,250. Fe'i peintiwyd yn fwy na thebyg o gartref y teulu ger Aix-en-Provence. Mae'n tywynnu â lliwiau De Ffrainc lle'r oedd y chwiorydd wedi treulio'u gwyliau ym 1913-14. Roedd hi'n fyd hollol wahanol i amodau gaeafol Paris dan lach y rhyfel. Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2438. Paul Cézanne (1839–1906), Argae François Zola, olew ar gynfas, tua 1879 Dyma un o'r lluniau pwysicaf a brynodd Gwendoline. Fe'i prynodd ym Mharis yn Chwefror 1918 am £2,500. Roedd caban bwyd Troyes ar gau ar y pryd yn ystod gwaith trwsio. Treuliodd y cyfnod yn y ddinas, wedyn ar fusnes y Groes Goch yn sgil bomio ysbeidiol yr Almaenwyr. Mae'n bosibl iddi weld y gwaith ar ymweliad cynharach am fod Margaret wedi cyfieithu stori'r masnachwr Ambroise Vollard am hanes bywyd Cézanne o'r Ffrangeg ym mis Ionawr y flwyddyn honno. Ynghyd â Thirlun ym Mhrofens a brynodd yr un pryd, dyma un o'r lluniau cyntaf o waith Cézanne i ddod i gasgliad ym Mhrydain. Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2439. Camille Pissarro (1831–1903), Porthladd Rouen, olew ar gynfas, 1898 Prynodd Margaret sawl darn o waith Pissarro yn Orielau Leicester, Llundain, ym Mehefin 1920. Hwn oedd y drutaf a thalodd £550 amdano. Y flwyddyn flaenorol roedd hi wedi gweithio yn un o gabanau bwyd Pwyllgor Cabanau Eglwysi'r Alban yn Rouen. Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Margaret Davies, 1963) NMW A 2492.
Gregynog: Celf a Cherddoriaeth i Gymru 29 Gorffennaf 2007 Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Gwendoline a Margaret Davies yn benderfynol o helpu pobl oedd wedi dioddef oherwydd y Rhyfel, ac i wneud beth bynnag oedd yn bosibl i wella eu hamodau byw.Ym 1920 prynodd y ddwy Neuadd Gregynog a ddaeth yn gartref iddynt ym 1924. Roedd Gregynog yn encilfa dawel lle gellid croesawu ymwelwyr, ond eu gobaith oedd ei ddatblygu'n le prysur a phrydferth i'w rannu er budd eraill.Cefnogodd y chwiorydd nifer o gynlluniau cymdeithasol, economaidd, addysgol a diwylliannol yng Nghymru yn ystod y 1920au a'r 1930au. Eu gobaith oedd y byddai'r cynadleddau a gynhaliwyd yng Ngregynog yn helpu i adeiladu Cymru newydd ar ôl y Rhyfel Mawr.Ymwelwyr Gregynog George Bernard Shaw a Thomas Jones yng Ngregynog. Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies) Roedd Gregynog yn fan cyfarfod i amrywiaeth eang o sefydliadau. Daeth addysgwyr, gwleidyddion, ac ymgyrchwyr heddwch a chyfiawnder cymdeithasol, oedd yn enwog yn genedlaethol a'n rhyngwladol i'r cynadleddau hyn.Bu casgliad helaeth a thrawiadol y chwiorydd o weithiau celf yn hongian ar y waliau er mwyn i'r ymwelwyr niferus eu gweld a'u mwynhau. Wrth ysgrifennu llythyr adref ym 1938, dywedodd Mary Hackett, oedd yn ymweld o Awstralia 'A ddwedais i fod yr Ystafell Gerdd yn llawn lluniau amhrisiadwy, gweithiau Turner, Monet, Manet a sawl un arall.'Yr ymwelydd mwyaf cyson oedd Thomas Jones. Fel Dirprwy Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn adnabod nifer o gymeriadau blaenllaw o fyd gwleidyddiaeth a'r celfyddydau. Roedd y dramodydd George Bernard Shaw a'r Prif Weinidog Stanley Baldwin ymysg y bobl a gafodd wahoddiad i Gregynog ganddo.Y chwiorydd Davies a cherddoriaethRoedd cerddoriaeth yn rhan annatod o fywydau'r chwiorydd. Roedd y ddwy wedi cael addysg dda mewn cerddoriaeth ac roedd Gwendoline yn feiolinydd dawnus.Roedd darpariaeth gerddorol yn fratiog yng Nghymru, a'r capel oedd unig gysylltiad y mwyafrif o bobl â cherddoriaeth. Er bod adrannau cerddoriaeth mewn tair o'r prifysgolion, roedd yna dueddiad i fod yn ynysig ac roedd safonau cyfansoddi offerynnol yn isel.Roedd y chwiorydd yn perthyn i grŵp oedd â dymuniad i newid agweddau a mynediad at gerddoriaeth yng Nghymru. Roeddent yn gweithio o fewn grwpiau gweithgar a blaengar, fel Cymdeithas Canu Gwerin Cymru a Chlwb Cerddoriaeth y Brifysgol yn Aberystwyth.Gŵyl Gregynog Ystafell Gerdd Gregynog.Casgliad preifat (yr Arglwydd Davies) Daeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au, sef cyfnod Gŵyl Gerdd a Barddoniaeth Gregynog. Cynhaliwyd yr Ŵyl bob blwyddyn o 1933 hyd at 1938. Byddai'n para tri neu bedwar diwrnod, gyda chyngherddau yn yr Ystafell Gerdd 200 sedd. Cynhaliwyd casgliadau ar gyfer achosion lleol. Ystyriwyd bod yr elfen farddonol yr un mor bwysig â'r gerddoriaeth.Yn ystod y 1930au, byddai'r gwyliau'n denu nifer o bwysigion y cyfnod, yn cynnwys y cyfansoddwyr Ralph Vaughan Williams, Edward Elgar a Gustav Holst, yr arweinydd Adrian Boult, y bardd Lascelles Abercrombie, a'r perfformwyr Jelly d'Arányi a'r Rothschild Quartet.Diwedd cyfnodDaeth oes aur gweithgarwch cerddorol Gregynog yn y 1930au. Daeth y gwyliau i ben ym 1939 pan drodd y chwiorydd eu sylw at ymdrech y rhyfel. Cafodd marwolaeth Walford Davies ym 1941, a Gwendoline ddeng mlynedd yn ddiweddarach ym 1951, effaith ddofn ar fywyd cerddorol Gregynog. Er y soniwyd am gynlluniau i droi'r Neuadd yn ganolfan gerddoriaeth i Gymru, ni welwyd y cynlluniau hynny'n dwyn ffrwyth.Pan benodwyd Ian Parrott yn Athro Cerdd Gregynog ym Mhrifysgol Aberystwyth ym 1954, atgyfododd ysbryd cerddorol y Neuadd trwy adfywio'r Ŵyl ym 1955. Cynhaliwyd gŵyl bob blwyddyn tan 1961 gan gadw'n weddol dynn at naws rhaglenni'r 1930au. Ym 1988, adfywiwyd yr Ŵyl unwaith eto, y tro hwn gan y tenor Anthony Rolfe Johnson. Mae'n parhau heddiw o dan gyfarwyddiaeth Dr Rhian Davies. Dyma dystiolaeth bendant o etifeddiaeth gerddorol y chwiorydd i Gymru.Nodiadau ar y lluniau Pierre-Auguste Renoir (1841–1919), La Parisienne, olew ar gynfas, 1874 Yn ôl Eirene White, roedd La Parisienne o waith Renoir yn 'hongian yn y cyntedd, gyferbyn â drws yr Ystafell Gerdd'. Mae'r Arglwydd Davies cyfredol yn cofio ymweld tua 1960 a gweld Moret o waith Sisley (yr oedd Margaret wedi ei brynu'r flwyddyn honno) ac Yn Bougival o waith Berthe Morisot yn yr ystafell groeso, gyda Madame Zborowska o waith Derain uwchben y lle tân. Édouard Manet (1832–1883), Y Gwningen, olew ar gynfas, 1881 Y bwriad gwreiddiol oedd cynnwys hwn fel rhan o gylch addurnol i'w weld o bell. Ar ôl marwolaeth Manet fe'i gwerthwyd i'r masnachwr Durand-Ruel. Prynodd Gwendoline y llun o'r Bernheim-Jeune am £1,000 ym 1917. Fe'i rhoddodd i hongian yn Ystafell Gerdd Gregynog wrth ymyl Effaith Eira yn Petit-Montrouge.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMWA 2466 Claude Monet (1840–1926), Lilïau Dŵr, olew ar gynfas, 1905 Cyflogodd Monet ddyn i ofalu am y llynnoedd yn Giverny lle'r oedd lilïau dŵr yn tyfu. Byddai'n gweithio bob dydd yn clirio'r llyn fel y gallai Monet beintio'r lilïau'n adlewyrchu yn y dŵr. Prynodd Gwendoline y gwaith hwn yng Ngorffennaf 1913. Roedd y ddwy chwaer yn hoffi garddio, a chrwyd llyn lilïau yng ngerddi Gregynog lle byddai Margaret yn mwynhau mynd i beintio.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A 2484 Vincent van Gogh (1853–1890), Glaw – Auvers, olew ar gynfas, tua 1890 Ysgrifennodd van Gogh at ei frawd am 'y brain yn cylchu uwchben y caeau' oedd yn peri iddo deimlo'n drist ac yn unig. Printiau Japaneaidd ysbrydolodd y llinellau graffig trwm sy'n darlunio'r glaw. Peintiodd van Gogh y darn yma pan oedd yn aros yn Auvers ac yn cael triniaeth am iselder. Fe'i prynwyd gan Gwendoline ym 1920 am £2,020.Amgueddfa Cymru (Cymynrodd Gwendoline Davies, 1951) NMW A2463