David Jones (1895-1974) Oliver Fairclough, 4 Ebrill 2013 Y Cyfarchiad i Fair, dyfrlliw o tua 1963, wedi'i leoli ar lechwedd yng Nghymru, gan gysylltu Gŵyl Fair ag un o'r mythau Celtaidd, sef gwaredigaeth. Wyneblun 'In Parenthesis', 1937, dyn cyffredin yn ymdebygu i Grist, ynghanol helyntion rhyfel. Capel-y-ffin, dyfrlliw o 1926-7, a roddwyd i Eric Gill gan David Jones Trystan ac Esyllt, dyfrlliw cymhleth iawn a gwblhawyd ym 1963, yn dangos cariadon y chwedl Arthuraidd yn wyneb eu tranc. Cafodd tirlun, iaith a mythau Cymru fwy o ddylanwad ar David Jones drwy gydol ei fywyd nag a gawsant ar unrhyw un o'i gyfoedion. Ac yntau'n ddyn rhyfeddol ac amryddawn, mae ganddo le unigryw ym myd celf Prydain yr ugeinfed ganrif, a chyfeirir ato'n aml fel y bardd-arlunydd mwyaf ers William Blake. Ganwyd David Jones yn Llundain. Bu'n ymweld yn rheolaidd â Chymru am ychydig dros bedair blynedd rhwng 1924 a 1928 ac ni ymgartrefodd yma erioed. Ymddengys hyn yn dipyn o baradocs, ond tan y 1950au roedd yn rhaid i bron bob artist Cymreig ddilyn ei yrfa tu allan i Gymru i raddau helaeth. Roedd tad Jones yn hanu o Dreffynnon yn Sir y Fflint, a throsglwyddodd ymdeimlad dwfn o'i hunaniaeth Gymreig i'w fab, a gysegrodd ei fywyd i astudio diwylliant Cymreig yr oedd yn teimlo ei fod wedi'i golli. Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, roedd yn benderfynol o ymuno â chatrawd Gymreig. Fe'i anafwyd yn y Somme ym mrwydr Gymreig enwog Coed Mametz. Ar ôl treulio tair blynedd yn Ysgol Gelf San Steffan, ymunodd â chymuned o grefftwyr Catholig yn Ditchling, Sussex. Un o arweinwyr y gymuned oedd y cerflunydd, y teipograffydd a'r engrafwr Eric Gill, a gafodd ddylanwad cryf ar y ffordd yr oedd yn meddwl am gelf. Dyweddïodd â merch Gill, Petra, am gyfnod, ac aeth gydag ef pan symudodd ei deulu o Ditchling i Gapel-y-ffin yn y Mynyddoedd Du. Yno canfu Jones ei ddawn fel arlunydd gan greu gwaith dyfrlliw yn bennaf. Datblygodd weledigaeth bersonol a modernaidd o dirlun Brycheiniog sydd â'i gwreiddiau yng ngwaith celf Cézanne a Van Gogh. Yn ystod y blynyddoedd hyn (1924-1928) treuliodd Jones amser gyda'i rieni hefyd ym maestref Brockley yn Llundain, ac yn y mynachdy Benedictaidd ar Ynys Bŷr. Ym 1927 fe'i comisiynwyd i wneud cyfres o engrafiadau copr i ddarlunio'r gerdd Rime of the Ancient Mariner gan Coleridge, a'r flwyddyn ganlynol cafodd ei ailethol yn aelod o grŵp arddangos y modernwyr, y Gymdeithas 7 a 5. Tua diwedd 1932 pan oedd bron â chwblhau ei naratif barddonol cywrain o'i brofiad o'r Rhyfel Byd Cyntaf, In Parenthesis, chwalodd ei nerfau, ac roedd yn gynyddol anodd iddo arlunio. Trodd ei gefn hefyd ar y byd celf modernaidd wrth iddo symud i gyfeiriad yr haniaethol, a threuliodd y rhan fwyaf o'r tridegau mewn gwesty bach yn Sidmouth. Cyhoeddwyd In Parenthesis ym 1937, ac mae bellach yn cael ei ystyried yn un o lwyddiannau mawr moderniaeth lenyddol Prydain, ochr yn ochr â gwaith James Joyce, T. S. Eliot a D. H. Lawrence. Wedi hynny, cyfansoddodd ragor o farddoniaeth, ac roedd hefyd yn paentio mwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd ei waith yn cynnwys darnau dyfrlliw mawr – cywrain, manwl, ysgolheigaidd a chynrychioliadol – a oedd yn aml yn cymryd misoedd i'w cwblhau. Ym 1945 dechreuodd weithio ar lythrennu a phaentio arysgrifau gan ddefnyddio darnau o weithiau llenyddol mewn cymysgedd o Ladin, Cymraeg a Hen Saesneg. Cafodd chwalfa arall ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac o 1948 ymlaen aeth i fyw mewn un ystafell mewn llety yn Harrow. Ei ysbrydoliaeth, o ran ei ddarluniau a'i farddoniaeth, oedd ei Babyddiaeth, ac yn benodol dirgelwch canolog yr Offeren, Chwedlau'r Brenin Arthur a hanes Prydain ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae ei baentiadau diweddarach yn unigryw o bersonol, yn gyfoethog ac yn llawn cyfeiriadau at ddiwinyddiaeth, hanes a chwedloniaeth. Cyhoeddwyd ei fyfyrdod The Anathemata, un o gerddi hir gwychaf yr ugeinfed ganrif, ym 1951. Mae dau o'i baentiadau mawr olaf yn crynhoi ei lwyddiant wedi'r rhyfel, Y Cyfarchiad i Fair a Trystan ac Esyllt ac yn dyddio o 1963. Yn y cyntaf, mae'r angel Gabriel yn ymddangos i'r Forwyn Fair sy'n eistedd mewn gardd sy'n seiliedig ar dirlun yn ardal Capel-y-ffin. Mae'r ail, y bu'n llafurio wrtho am dair blynedd, yn darlunio drama ganolog chwedl Trystan ac Esyllt, pan fydd marchog y Brenin March a phriod ei feistr yn yfed diod sy'n peri iddynt syrthio mewn cariad ar eu taith o Iwerddon i Gernyw, ac mae'n llawn manylion eiconograffig cymhleth a chyfoethog. Pam, felly, mai'r gŵr rhyfedd, swil ac unig hwn oedd un o artistiaid Cymreig mwyaf yr ugeinfed ganrif, a'r mwyaf dylanwadol? Credaf mai'r rheswm yw oherwydd iddo uniaethu mor angerddol â'r syniad o Gymru, a phwysigrwydd ei hiaith a'i diwylliant i brofiad cyffredin Prydain dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf. Roedd Jones yn rhan o ymwybyddiaeth wleidyddol a diwylliannol Cymru yn ystod y '50au a'r '60au (roedd Saunders Lewis, un o gyd-sylfaenwyr Plaid Cymru yn gyfaill ac yn ohebydd iddo). Gwelwyd ei waith yma, er enghraifft, mewn arddangosfa deithiol fawr a drefnwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ym 1954, a rhoddwyd medal aur iddo gan yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1964. Dengys sut y gall artist ddatblygu llais Cymreig ymhell tu hwnt i gynrychioli lle.
Syr Thomas Mansel o Fargam a'i wraig, Jane 5 Hydref 2012 Yr Ysgol Brydeinig (17eg ganrif)Syr Thomas Mansel (1556–1631) a'i wraig, Jane, y Fonesig ManselOlew ar gynfas, 121 × 125 cmAmgueddfa Genedlaethol Caerdydd Dyma bortread dwbl, gyda llun tri-chwarter o Syr Thomas Mansel o Fargam, aelod o un o deuluoedd mwyaf cefnog y de ar y pryd.Fe wnaeth teulu'r Mansel o Oxwich ei ffortiwn ar ôl buddsoddi mewn tiroedd mynachaidd yn sgil Deddf Diddymu'r Mynachlogydd Harri VIII. Roedd Syr Thomas yn Aelod Seneddol dros Forgannwg. Etifeddodd gartref y teulu ym 1595, a adeiladwyd ar safle Abaty Margam, ger Castell-nedd.Yn ystod dau ddegawd cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe wnaeth y genhedlaeth hon o'r teulu gomisiynu sawl portread yn y ffurf herodrol ffurfiol, fel y portread hwn. Nid cyfleu personoliaeth yr unigolyn oedd nod portreadau fel hyn, ond arddangos cyfoeth a statws cymdeithasol y teulu yn gyhoeddus. Thomas Mansel - archwilio'r baentiad Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y llun Dwylo Thomas Mansel Gwisg Barf Jane Gwisg Jayne Melyn Mair Dwylo Roedd portreadau dwbl yn boblogaidd yn y cyfnod ond byddent yn cael eu paentio'n aml i ddathlu cynyddu cyfoeth, statws a ph?er teulu trwy briodas, nid i ddathlu cariad. Peth anghyffredin oedd portreadu ystum cariadus, fel dal dwylo. Thomas Mansel Caiff Syr Thomas Mansel ei bortreadu fel g?r hyderus a nodedig. Erbyn hyn roedd yn un o ddynion cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol De Cymru. Yn ogystal â gwasanaethu Morgannwg fel aelod seneddol a Siryf ar sawl achlysur, cafodd ei urddo hefyd yn farchog, ac ym 1611 ef oedd un o'r cyntaf erioed i dderbyn y teitl Barwnig. Gwisg Mae Syr Thomas yn gwisgo dwbled wen gyda choleri a chyffiau o les cain, a thiwnig dywyll ag arni frodwaith aur. Dim dyma'i ddillad bob dydd – cawsant eu dewis yn arbennig ar gyfer y portread, er mwyn dangos ei chwaeth a'i gyfoeth. Barf Cai barf ei ystyried yn brawf o wrywdod ac roeddent yn ffordd bwysig i ddynion arddangos eu ffasiwn. Gwisgai Thomas Mansel ei farf yn hir ac yn sgwâr. Jane Wrth i Jane Pole briodi Syr Thomas Mansel, daeth yn rhan o un o deuluoedd mwyaf pwerus De Cymru. Nid dyma'i thro cyntaf fodd bynnag – roedd hi wedi bod yn briod ddwywaith o'r blaen! Roedd priodi sawl gwaith yn gyffredin yn y 17eg ganrif gyda disgwyliad oes isel yn golygu taw byr fyddai sawl undeb Gwisg Jayne Mae'r Fonesig Jane yn gwisgo gwisg dywyll ag arni frodwaith aur, coler a phenwisg les gymhleth, a mwclis perlau tri llinyn yn ategu'r cyfan. Oes oedd hon pan cai ffasiwn newydd a deunyddiau moethus fel les eu mewnforio. Nid yw ei gwisg yn y ffasiwn ddiweddaraf, sy'n awgrymu chwaeth cenhedlaeth h?n. Melyn Mair Mae'r Fonesig Jane yn dal Melyn Mair. Gall hyn fod yn gyfeiriad at Mary eu merch sydd yn ymddangos gyda'i rhieni mewn portread arall sydd bron yn union yr un peth. Cai Melyn Mair ei ddefnyddio'n aml fel symbol o alar neu gysur, felly gallai fod yn gyfeiriad at farwolaeth ail ?r Jane.
Graham Sutherland: Adnabod yr Artist 14 Mai 2012 Graham Sutherland c.1940 © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Pastoral, 1930 (NWM A 4042) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Welsh Landscape, 1936 (NWM A 4403) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Feeding a Furnace, 1942 (NWM A 4628) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Di-deitl, Ffurf fel Ton, 1976 (NMW A 2271) © Ystad Graham Sutherland SUTHERLAND, Graham Study of a Palm Frond, 1947(NWM A 4101) Disgrifiwyd Graham Sutherland fel 'arlunydd gorau ei genhedlaeth'. Cafodd y llefydd lle bu Sutherland yn gweithio ddylanwad mawr ar ei waith: o dirwedd wledig Caint i fryniau a chymoedd gorllewin Cymru a gwres a golau de-ddwyrain Ffrainc. Sutherland fel printiwr yn Goldsmiths yng nghanol y 1920au. Mae coed a choedwigoedd yn thema gyson yng ngwaith Sutherland, o'r golygfeydd cefn gwlad hiraethus yn ei waith cynnar, i'r coed moel ac afluniaidd yn ei luniau diweddarach. Mae coed yn ymdebygu i greaduriaid yn aml, a gallant fynegi emosiwn a theimlad corfforol. Sutherland yn Sir Benfro Ymwelodd â Sir Benfro am y tro cyntaf ym 1934, gan ddweud wedyn mai yno 'y dechreuodd ddysgu paentio'. Roedd yn cofio cael ei gyfareddu gan 'eithin cam ar ymyl clogwyn... y blodau a'r pantiau llaith... y cymoedd gwyrdd dwfn a'r bryniau crwn a'r holl ffurfiant syml a chymhleth'. Yn Sir Benfro, darganfu Sutherland dirwedd yn llawn 'hynodrwydd bendigedig' ond teimlai hefyd ei fod ef yn 'rhan annatod o'r ddaear' fel yr oedd ei nodweddion yn rhan ohono ef. Ymwelodd Sutherland â gweithiau dur yng Nghaerdydd ac Abertawe ym 1941 a 1942. Fel sy'n wir am ei luniau cynharach o goed a thirluniau, roedd Sutherland yn cyffelybu gwaith y ffowndri i greaduriaid byw. Ysgrifennodd: 'fel y mae'r llaw yn bwydo'r geg, felly plymiai rhofiau hir i mewn i agoriad y ffwrnais i'w bwydo, ac wrth dywallt haearn tawdd i mewn i'r lletwadau mawr, roedd y cynhwysyddion metel yn ymddangos fel petai ganddynt gegau mawr cramennog.' Wrth ddisgrifio ei brofiad cyntaf o dde Ffrainc ym 1947, dywedodd Sutherland: 'Fe ddes i adnabod Cézanne go iawn ar ôl gweld Provence am y tro cyntaf, ac yn sydyn iawn roedd paentiad van Gogh yn fy nghyffroi o'r newydd'. Cafodd ei annog i ymweld â'r ardal yn wreiddiol gan ffrindiau fel Francis Bacon . Roedd Sutherland wrth ei fodd ar unwaith gyda'r hinsawdd heulog a phlanhigion ac anifeiliaid diddorol yr ardal. Ym 1956 prynodd ef a'i wraig villa modernaidd a gynlluniwyd gan y pensaer o Iwerddon, Eileen Gray. Treuliodd Sutherland lawer o'r flwyddyn yn byw yn y tŷ hwn, ar ochr bryn ger tref arfordirol Menton, weddill ei oes. Yn Ffrainc, darganfu Sutherland amrywiaeth o ffurfiau newydd i'w ysbrydoli. Aeth ati i astudio, dadansoddi ac aildrefnu ffurfiau palmwydd, gowrd, indrawn a gwreiddiau. Câi'r pethau hyn eu portreadu fwyfwy fel creaduriaid neu ffigyrau wedi'u dal mewn proses o fetamorffosis. Mae dail palmwydd yn awgrymu haul, gwres a natur estron de Ffrainc. Ar ôl caledi a thristwch blynyddoedd y rhyfel, mae'n rhaid eu bod wedi ymddangos yn egsotig. Fodd bynnag, y mae mwy iddynt na dim ond cyrchfan gwyliau. Mae ymylon llym iawn y dail yn atgoffa rhywun o natur bigog astudiaethau drain cynharach Sutherland. Maent yn awgrymu'r posibilrwydd bod pleser a phoen yn cyd-fodoli. Ym 1967 dychwelodd Sutherland i orllewin Cymru am y tro cyntaf ers dros 30 o flynyddoedd. Ddegawd bron yn ddiweddarach, ac yntau wedi bod yn gweithio'n rheolaidd yn yr ardal unwaith eto, eglurodd ei fod wedi gwneud 'camgymeriad mawr' am iddo gredu na allai'r lle gynnig rhagor o ysbrydoliaeth iddo. Yn groes i'w ddisgwyliadau roedd eto wedi ymgolli yn yr awyrgylch rhyfeddol — sy'n dawel ac eto'n llawn cyffro hefyd. Roedd Sutherland yn awyddus i adael casgliad i Gymru am iddo 'dderbyn cymaint gan y wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl'. Ym 1976 sefydlodd Oriel Graham Sutherland yng Nghastell Picton a oedd yn gartref i'r rhan fwyaf o'r casgliad hwn nes iddo gael ei drosglwyddo Amgueddfa Cymru ym 1995. Trefnwyd yr erthygl hon gan Rachel Flynn fel rhan o Ddyfarniad Doethuriaeth ar y cyd gan Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Bryste a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Gweld rhestr o weithiau Graham Sutherland ar Celf Arlein. Cysylltiadau Oriel y Parc
John Piper: Taith drwy Eryri Melissa Munro, 27 Ebrill 2012 John PiperJagged rocks under Tryfan Copyright John Piper Estate John PiperRock formations Copyright John Piper Estate Rhwng 1943 a 1950 aeth John Piper ar siwrnai artistig ddwys drwy fynyddoedd gogledd Cymru, gan gyfleu angerdd a gweledigaeth nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae afiaith a disgleirdeb yn y donyddiaeth a'r arlliwiau a drama pur ym mhob un o'r gweithiau. John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw. Aeth diddordeb Piper mewn tirluniau a phensaernïaeth ag ef i bob cwr o Brydain ond cafodd ei gysylltiad arwyddocaol cyntaf â gogledd Cymru tra'n gweithio fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Chwarel Manod Mawr: storfa trysorau'r genedl yn ystod y Blitz Ym 1943, derbyniodd Piper gomisiwn gan y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel i gofnodi crombil chwarel Manod Mawr. Roedd ar y pryd yn storfa i gasgliadau Oriel Genedlaethol Llundain a'r Casgliadau Brenhinol i'w gwarchod rhag dinistr bomio'r Blitz. Roedd hi'n amhosibl tynnu lluniau na pheintio yng nghrombil yr ogof dywyll a rhoddwyd y gorau i'r comisiwn yn fuan wedyn. Er hynny, bachodd Piper ar y cyfle i grwydro'r Gogledd ymhellach. Bu hyn yn sbardun i gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru. Ysbrydoliaeth Turner a Wilson Gan ddefnyddio copi o lyfr A.C. Ramsay Old Glaciers of Switzerland and North Wales (1860) fel canllaw, teithiodd Piper drwy'r ardal yn cofnodi'r mynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod yng ngogledd Cymru, byddai'n aml yn defnyddio cyfeirlyfrau neu lyfrau daearegol o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edmygai'r darluniau wedi'u hengrafu ynddynt, ac roeddent hefyd yn linyn cyswllt rhyngddo â'i hoff artistiaid o'r cyfnod, Richard Wilson (1714-1782) a J.M.W. Turner (1775-1851). Nid yn Eryri na'r Gogledd y dechreuodd teithiau peintio Piper i Gymru fodd bynnag, ond yn Sir Benfro a Sir Geredigion ym 1936. Y Flwyddyn ganlynol cynhyrchodd Pum Capel, 1937, cyfrwng cymysg ar bapur (casgliad AC-NMW). Pensaernïaeth eglwysi o orllewin Cymru Portreadir pum capel: Emmaus, Llanon, Rhos-goch, Rhydygwyn a Tyrhos. Cynhyrchwyd y pum collage yma drwy ddarlunio ar bapur wedi'i dorri a'i rwygo cyn ei ailadeiladu. Mae'n dangos ei ddiddordeb cynnar mewn pensaernïaeth eglwysi yn enwedig pensaernïaeth syml ond neo-glasurol capeli annibynnol Cymru. Piper yng ngogledd Cymru Yn ystod comisiwn aflwyddiannus Manod Mawr, dechreuodd Piper archwilio gogledd Cymru a darganfod lleoliadau fel Cader Idris a baentiwyd gan Wilson a Turner. Daeth y daith hon ag ef yn agos hefyd at Aran Fawddwy, testun ei waith olew trawiadol, Tarddle'r Ddyfi, 1943-44. Mae teitl y paentiad hwn yn cyfeirio at Greiglyn Dyfi, y llyn yn y blaendir a tharddle Afon Dyfi. Peintiodd Turner olygfa ychydig yn wahanol o Aran Fawddwy mewn llun dyfrlliw yn dwyn y teitl A bridge over the Dyfi near Dinas Mawddwy, with Aran Fawddwy beyond (casgliad yr Amgueddfa Brydeinig). Mae'r arddull haniaethol bron, y naws dywyll fygythiol a'r arlliwiau aur, melyn, glas a choch llachar yn y gwaith hwn yn debyg iawn i arddull Turner. Taenwyd haen o geso ar y gynfas a pheintio drosto ag olew. Mae hyn yn rhoi gwead garw iawn i'r gwaith, sy'n ein hatgoffa o erwinder y creigiau a'r tywydd. Ym 1945 dyma Piper a'i deulu yn llogi bwthyn o'r enw Pentre ac mae golygfa o'r tŷ o'r ffordd i'w weld mewn paentiad yn dwyn yr enw Nant Ffrancon Farm, 1950. Tŷ yng nghwm Nant Ffrancon ydyw, gyda bryn serth yn codi y tu ôl iddo a bu'r Pipers yn ei logi am £35 y flwyddyn. Dim ond llwybr mwdlyd oedd yn arwain at y tŷ bryd hynny, yn hytrach na'r ffordd goncrid a welir heddiw, a byddai bron yn amhosibl ei gyrraedd mewn tywydd gaeafol garw. Yn goron ar y cyfan, gan fod y tŷ wrth droed rhiw serth byddai glaw trwm yn achosi llifogydd. I felt then that I was seeing the mountains for the first time and seeing them as nobody had seen them before. John Piper quoted in Richard Ingrams and John Piper, Piper's Places, London, 1986 John PiperThe Rise of the Dovey Copyright John Piper Estate Stormydd a gaeafau Eryri Bu trafferthion a chaledi byw yno, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn sbardun i'r teulu Piper symud i dy rhent arall o'r enw Bodesi tua 1947. Mae Bodesi wedi'i leoli ar draws y ffordd i Tryfan yn wynebu'r mynydd a Llyn Ogwen. Hwn oedd hafod, neu dŷ haf y perchennog, felly gallai'r teulu Piper ei ddefnyddio weddill y flwyddyn. Dyma pam fod y rhan fwyaf o baentiadau Piper o Eryri yn stormus a gaeafol. Roedd Bodesi yn leoliad da a cynhyrchwyd llu o baentiadau a darluniau o Tryfan. Mae Creigiau Garw dan fynydd Tryfan, 1949-50, yn esiampl wych o fanylder Piper yn dewis ffurfiau creigiau penodol ar Tryfan ac yn y cyffiniau. Tryfan Bach a welir yma, sydd wrth droed y mynydd ac i'r gorllewin ac mae ei ffurf ddanheddog yn debyg i'r Tryfan mwy. Mwy na thebyg taw patrymau wedi'u gadael ar y cerrig gan gen sydd wedi hen ddiflannu yw'r ffurfiau cylchog gwyn mewn gouache. Gwelir fflachiadau coch a melyn yn y blaendir ar waelod y paentiad. Weithiau maent yn pwysleisio ffurfiau'r creigiau ac weithiau yn dynodi'r cen 'melyn crôm ac oren crôm' fel y disgrifiodd Piper hwy yn ei nodiadau. Bu dylanwad y llyfrau canllaw o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn sbardun i Piper ysgrifennu ei ganllaw ei hun i'r ardal, ond yn anffodus wnaeth y syniad fyth adael ei lyfr nodiadau, a gellir ei weld bellach yn archifau Tate Britain. Er na lwyddodd Piper i wireddu'i freuddwyd o gyhoeddi canllaw i Eryri, mae'n deg dweud iddo adael canllaw hudolus i ni yn ei baentiadau a'i ddarluniau. Caiff y gyfres hon ei hystyried ymysg goreuon ei holl waith. Yn y 1960au prynodd y teulu Piper dŷ o'r enw Garn Fawr yn Sir Benfro, ac mae ei waith Cymreig wedi hynny yn canolbwyntio ar Sir Benfro a de Cymru. Ni chafodd gyfnod mor ddwys o weithio yng ngogledd Cymru wedi hyn. Cysylltiadau Tate Britain Barc Cenedlaethol Eryri
Breuddwydion Chwyldroadol: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste 22 Mawrth 2012 Cerbyd Trydydd-dosbarth Honore Daumier (1808 - 1879) Gweithwyr ar y Stryd, 1838-40 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Chwa o Wynt Jean-François Millet (1814 - 1875) Yr Enciliad Louis Eugène Benassit (1833 - 1904) Mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU. Yma gwelwn golwg or newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau'r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.Canrif y ChwyldroPenderfynodd arlunwyr gofnodi hanes cymdeithasol a gwleidyddol cythryblus Ffrainc ar gynfas, yn enwedig y newidiadau mewn bywyd bob dydd ac yn nisgwyliadau pobl. Esgorodd Chwyldro 1789, pan sefydlwyd y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, ar ganrif o wrthdaro ac ansicrwydd i'r boblogaeth. Er bod ambell artist yn ceisio portreadu digwyddiadau'r dydd, roedd eraill yn ceisio ail-gyfl eu'r hen draddodiadau coll.Chwyldro a RealaiddAcademi Celfyddyd Gain y wladwriaeth a'i harddangosfa swyddogol, y Salon, oedd yn llywio cyfeiriad celf Ffrengig o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, dechreuodd llawer o arlunwyr herio'r Academi a'r Salon. Mae llawer o'r paentiadau yn dangos eu bod yn torri'r traddodiad ac yn dechrau mabwysiadu arddull fodern newydd. Dechreuodd mwy a mwy o arlunwyr gefnu ar y ffi gyrau Beiblaidd a'r arwyr Rhufeinig a oedd yn rhemp ar waliau'r Salon.Yn Cerbyd Trydydd-dosbarth, mae Honoré Daumier yn cyfeirio at ddyfais allweddol y ganrif, sef trên stêm. Ar y llaw arall, mae Y Teulu Gwerinol gan Jean-François Millet yn cyfl wyno portread o ffermwyr a delfryd o gefn gwlad Ffrainc. Er eu bod nhw'n baentiadau tra gwahanol, mae thema gyffredin iddynt, sef portreadu bywyd cyfoes a dirodres bob dydd.Dyma pryd y dechreuodd artistiaid Ffrengig beintio fel hyn; dull y cyfeirir ato'n aml fel peintio 'Realaidd'. Y newidiadau yng nghynnwys lluniau fraenarodd y tir ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn Gelf Fodern heddiw.Ansicrwydd GwleidyddolAr ôl i'r Brenin Siarl X gael ei ddiorseddu gan Chwyldro Gorffennaf 1830, daeth Louis-Phillippe yn frenin tan iddo yntau gael ei ddisodli gan Chwyldro mis Chwefror 1848. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Ail Weriniaeth gan roi'r hawl i ddynion bleidleisio ac addewid o ddemocratiaeth. Er hynny, mae'r modd y ffrwynwyd gwrthryfel y gweithwyr yn chwyrn ym mis Mehefi n y fl wyddyn honno, les journées de Juin, yn dangos fod yr hen rwystredigaeth yno o hyd. Mae Gweithwyr ar y Stryd Daumier yn cyfl eu'r tensiynau hyn ac fel petai'n rhagweld y digwyddiadau hyn. Roedd ei luniau'n beirniadu'r gwahaniaethau parhaus rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.Mae llun diweddarach Millet, Yr Heuwr, yn pwysleisio'r bywyd gwerinol a llafurio ar y tir. Roedd amaethyddiaeth yn rhan ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol Ffrengig, ac roedd Millet yn tristau'n fawr o weld cymaint yn symud o gefn gwlad i'r dinasoedd.Ym 1870, dechreuodd Ffrainc ryfela yn erbyn Prwsia gyda goblygiadau trychinebus. Ffodd llawer o arlunwyr i ddiogelwch cefn gwlad yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Millet a adawodd Barbizon i chwilio am loches ar arfordir Normandi. Ar ôl dychwelyd, aeth ati i beintio Y Chwa o Wynt; portread o nerth a grym dychrynllyd y storm sy'n cyfl eu newid a dinistr rhyfel. Mae Yr Enciliad gan Louis Eugene Benassit yn dangos ymateb mwy uniongyrchol. Y Teulu Gwerinol (1871-2) Jean-François Millet (1814 - 1875) Olew ar gynfas Casgliad y Chwiorydd Davies Yr Heuwr, 1847-8 MILLET, Jean-François (1814 - 1875) Cinio yn y Wlad, 1868 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Traeth yn Trouville, 1890 Louis Eugéne Boudin (1824 - 1898) Y Baich Trwm Honore Daumier (1808 - 1879) HamddenYn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth y dosbarth canol neu'r bourgeoisie yn gyfoethocach diolch i'r newidiadau yn strwythur y dosbarthiadau cymdeithasol yn Ffrainc.Dechreuasant awchu am nwyddau moeth amrywiol, o'r rhad i'r technolegol. Yn fwy na dim, roeddynt yn hoffi paentiadau a oedd yn eu dangos yn hamddena ac yn pwysleisio'u statws newydd mewn cymdeithas. Dechreuodd arlunwyr ymateb trwy wneud paentiadau a oedd at ddant y gynulleidfa gynyddol newydd hon.Dyfeisiwyd y trên stêm ym 1804, ac o fewn hanner can mlynedd, roedd rheilffyrdd yn cael eu gosod ar hyd a lled Ffrainc. Mae Cinio yn y Wlad gan Daumier ac Y Traeth yn Trouville gan Boudin yn portreadu'r ymwelwyr dosbarth canol.Yn ogystal ag adlewyrchu'r datblygiadau chwyldroadol ym myd trafnidiaeth a thwristiaeth, dechreuodd arlunwyr frwsio'n rhydd gyda lliwiau llachar i gyfl eu awyrgylch o fwyniant a phleser pur. Cafodd y defnydd chwyldroadol hwn o olau a brwsio rhydd ddylanwad aruthrol ar arddull newydd maes o law — Argraffi adaeth.Mewnod a'r AelwydMae golygfeydd o fenywod yn rhan amlwg iawn o'n casgliad o baentiadau Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hynny, mae'n ddiddorol nodi mai artistiaid gwrywaidd beintiodd yr holl luniau hyn, felly rydym yn edrych arnynt o safbwynt dynion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, gallwn ddechrau deall rôl y fenyw mewn cymdeithas.Mae Y Baich Trwm gan Daumier yn dangos gweithgareddau'r ferch dosbarth gweithiol, tra bod paentiadau eraill yn portreadu merched hardd a ffasiynol o ddosbarth uwch. Dengys hyn bod rhaniadau rhwng y rhywiau a dosbarth cymdeithasol yn dal mewn grym ar ôl y Chwyldro.Boed yn brysur wrth eu gwaith neu ar eu heistedd yn oddefol, gellir dehongli'r lluniau hyn fel drych o'u sefyllfa mewn cymdeithas.Research and RevealHere we present four essays, giving a fresh look at the Museum's collection of pre-Impressionist French paintings, researched and interpreted by postgraduate students from the University of Bristol:Personalities in Paintings, by Matthew Howles Landscape Fakes, by Jessica Hoare The Landscapes of Millet, by Jessica Hoare The Paintings of Charles Bargue, by Rhian Addison CysylltiadauBrifysgol BrysteGymdeithas yr Haneswyr Celf