: Ymgysylltu â'r Gymuned

Dyddiadur Kate: Brenshach y bratie! Atgofion wyr am ei nain

Elen Phillips, 9 Medi 2016

Os ydych yn un o ddilynwyr selog @DyddiadurKate, ’da chi’n siŵr o fod wedi sylwi nad oedd Mrs Rowlands mor gyson â’i chofnodion yn 1946. Pam? Gallwn ond ddyfalu. Gofynion teuluol, dim awydd … pwy a ŵyr. Gan fod mis o dawelwch o’n blaenau  — does dim cofnod tan 10 Hydref! — dyma gyfle i ni lenwi’r bwlch gyda rhagor o hanes Kate Rowlands y Sarnau.

Yn gynharach eleni, daeth pecyn drwy’r post i ni yma yn Sain Ffagan gan Eilir Rowlands, un o wyrion Kate. Ynddo roedd toriadau papur newydd, hen luniau, coeden deulu a llythyr yn llawn atgofion amdani. Felly, dyma i chi grynodeb o'r llythyr arbennig hwnnw yng ngeiriau Eilir Rowlands: 

Fy ofynwyd be fyddai fy nain yn feddwl o hyn i gyd – syndod mawr mi dybiaf, gyda’r ebychiad lleol ‘brenshiach y bratie!’ Ond dw i’n siwr y byddai yn hynod falch bod ardal cefn gwlad y Sarnau a Chefnddwysarn yn cael gymaint o sylw yn genedlaethol ac yn fyd eang, a bod y pwyslais ar gymdogaeth glos gyda gwaith dyddiol yn cael y sylw haeddiannol.

Fe sonir am y dyddiadur mewn sgyrsiau yn yr ardal a mae’r enw KATE yn ddiarth i bawb. Fel KITTY TY HÊN y byddai pawb yn ei chyfarch a'i hadnabod… Ni wyddwn fy hun tan yn ddiweddar ei bod yn cael ei galw yn KATE pan yn ifanc!! KITTY ROWLANDS sydd ar ei charreg fedd yng Nghefnddwysarn gyda’r cwpled:

’Rhoes i eraill drysori

Ei chyngor a’i hiwmor hi

Mae'n amlwg oddi wrth dyddiadur 1946 fod cymaint o fynd a dod ag yn 1915 a'r gymdogaeth yr un mor glos. Y gwahaniaeth mwyaf mi dybiaf oedd fod ceir a bwsiau a'r ffordd o drafeilio wedi datblygu oedd yn golygu fod pobl yn mynd ymhellach i ymweld â'i gilydd. Hefyd roedd tripiau wedi dod yn ffasiynol yng nghefn gwlad.

Ganwyd fi yn 1950 felly cof plentyn sydd gennyf am nain a taid yn byw yn Ty Hên, ond yn cofio’n dda am ddiwrnod dyrnu, cneifio a hel gwair. Ty hynod fach oedd Ty Hên, ond clud a chysurus. Bob tro yr oeddwn yn cerdded y milltir o’r Hendre i Ty Hên roedd nain bron yn ddieithriad yn crosio sgwariau ar gyfer gwneud cwilt i hwn a llall. Llygaid eitha gwantan oedd gan nain erioed ond roedd pob sgwar bach yn berffaith. Wrth roi proc i'r tân glo hen ffasiwn ei dywediad fydde 'fyddai'n mynd â hwn efo fi sdi' gan chwerthin!

Roedd safle Ty Hên mewn lle hynod o brydferth. Mae'n edrych dros bentre Sarnau a mynydd y Berwyn yn y pellter. Mae'n cael haul peth cynta yn y bore. Ffordd ddifrifol o wael oedd i Ty Hên ers talwm, rhan ohoni ar hyd ffos lydan a elwid yn 'ffordd ddŵr' ac yn arwain i allt serth a chreigiog. Mi glywais nain yn dweud sawl tro am yr adegau y byddai fy nhaid wedi mynd i nôl nwyddau gyda cheffyl a throl ac yn dod adre i fyny'r allt byddai'n gweiddi ar fy nain (a oedd yn disgwyl amdano ac yn ei wylio wrth ddrws y tŷ) 'SGOTSHEN'. Beth oedd hyn yn ei feddwl oedd os oedd fy nhaid wedi gor-lwytho'r drol ac yn rhy drwm i'r ceffyl ei thynnu fyny'r allt a'r drol yn cychwyn ar yn ôl, byddai'n rhaid cael 'sgotshen' (wejen o bren) tu ôl i'r olwyn i arbed damwain a thamchwa. Byddai nain yn disgwyl am y waedd ac yn gorfod rhedeg yn syth gyda'r 'sgotshen' yn ei llaw a'i gosod tu ôl yr olwyn.

Mae Ty Hên erbyn heddiw yn hollol wahanol o ran edrychiad oherwydd fe unwyd y tŷ gyda’r beudy a’r stabl ac mae yn awr yn un tŷ hir. Perchnogion y tŷ yw par ifanc o Loegr sydd â chysylltiadau Cymreig ac maent wedi dysgu Cymraeg. Maent wedi addasu yr adeilad allanol ar gyfer beicwyr sy’n dod ar wyliau. Medraf glywed fy nain yn dweud ‘brenshach y bratie’ pe byddai yn gweld Ty Hên heddiw ac eto yn falch bod bwrlwm a bywyd yn dal yn yr hen gartre.

Gyda diolch i Eilir Rowlands, Cefnddwysarn.

Paratoi i ‘ail agor’ siop draper Emlyn Davies - Rhan 1: Siwtcês o storiau a script?

Orinda Roberts, 7 Medi 2016

Yr Oriel yn Siarad

Wrth i mi sefyll a myfyrio yng nghanol yr arddangosfa, tybiais i mi weld ffigwr yn sefyll tu ôl i’r cownter pren……yna wrth edrych ar y bolltiau a’r crysau gwlanen ar y silffoedd…bron â chlywn i leisiau dynion…gydag acenion amrywiol…teimlais fy hun fel pe bawn yn llithro’n llythrennol i’r gorffennol….mae’n wir mae distaw oedd y presennol…ond deuai bwrlwm siop brysur o’r gorffennol yn fyw i’m meddwl i……yn sydyn dychmygais gyda gwên ddrygionus bod siwtcês David Lewis yn neidio allan o’r casyn gwydr ac yn mynnu dweud ei stori am ei anturieithau cyffrous…….

Yn wir roedd fel petai congl arall o’r amgueddfa yn galw am y cyfle i fynegi ei hun a dweud ei stori mewn modd bywiog a dramatig.

Dyma stori siop draper Emlyn Davies!

Pwy oedd Emlyn Davies?

Dyn lleol o Gastell Newydd Emlyn a symudodd i Ddowlais, Merthyr Tydfil i weithio fel cynorthwy-ydd yn siop J.S.Davies Drapers. Ym 1898 agorodd ei siop ddefnydd ei hun.

Gwerthu gwlanen fyddai yn bennaf, a prynai’r mwyafrif o’i stoc o Felin Cambrian yn Drefach Felindre (sydd nawr yn gartref i’r Amgueddfa Wlân). Byddai David Lewis, perchennog y felin, yn teithio i’r cymoedd i gasglu archebion am wlanen, a’r defnydd yn cael ei gludo ar y tren i Ddowlais o stesion Henllan. Byddai’r gwlanen yn cael ei droi’n grysau a dillad isaf i weithwyr y pyllau glo a’r gweithfeydd haearn lleol.

Creu Sesiwn i Blant

Ychydig o fisoedd nôl, fe ddechreuais i weithio ar y syniad o greu sesiwn a gweithdy i blant ysgol yn yr amgueddfa wlân wedi selio ar yr hanes uchod, ac atgyfodi’r siop a chafodd ei ail greu yn yr amgueddfa yn 2013.

Mae’n hanfodol, i ddechre, i unrhyw hwylusydd neu actor mewn amgueddfa pan yn ceisio bywiogi darn o hanes i wneud ei waith ymchwil ei hun. Rhaid darllen y ffeithiau wrth gwrs, gwrando ar unrhyw dystiolaeth sydd ar gael yn yr archif, a chael gweld gwrthrychau priodol o’r casgliad - ond hefyd yn ychwanegol i hyn oll mae’n rhaid ymgolli eich hun yn llwyr yng nghefndir a chyfnod yr hanes yn gyffredinol.

Mae’n bwysig i ffurfio perthynas dda gyda’r curaduron, ac unrhyw arbennigwyr arall sydd yn gweithio I’r sefydliad, a thrwy’r unigolion hynny cael mynediad i lu o adnoddau defnyddiol arall i sicrhau bod y sesiwn neu weithdy yn un a sail hanesyddol gywir iddo.

Gweithio Gydag Atgofion

Y stop gyntaf i mi wrth droedio nol i orffennol y siop oedd i gysylltu a Mark Lucas, Curadur y Diwydiant Gwlân, a fi’n gyfrifol am gasglu’r hanes at ei gilydd.

Fe rhoddodd bentwr o ffeil i mi i ddechrau, yn cynnwys copi o fywgraffiad bywyd a hanes teulu Emlyn Davies a ysgrifennwyd gan ei wŷr Alan Owen: Emlyn Davies: The Life & Times Of a Dowlais Draper in the first Half Of The Twentieth Century.

Un o’r profiadau mwyaf cyffrous i mi yn y broses yma o adfywio hanes yw i gael cyfarfod mewn person a phobol sydd ynghlwm yn uniongyrchol â’r hanes. Diddorol oedd nodi bod Mark Lucas mewn cysylltiad rheolaidd a Alan Owen, a bod cyfle i mi gyfarfod ag ef i holi cwestiunau - mwy am hyn yn y blog nesa!

 

Amynedd y milwr - clytwaith Richard Evans, 1883

Elan Llwyd - Fforwm Ieuenctid Sain Ffagan, 7 Medi 2016

Wrth wneud gwaith gyda’r Fforwm Ieuenctid, darganfyddais fod yna glytwaith i orchuddio cist o ddroriau (‘patchwork chest of drawers cover’) yng nghasgliad Sain Ffagan a gafodd ei greu gan fy hen hen ewythr, Richard Evans o Lanbrynmair, yn ystod ei amser yn gwasanaethu fel milwr yn India. Mae wedi ei greu o ddefnydd gwlanog trwchus coch a du ac felly tybiwyd ei fod wedi ei bwytho o ddillad milwr, ac yn ôl yr hyn sydd wedi ei arysgrifio ar ei gefn, roedd yn ‘Rhodd i fy Mam Sarah Evans 1883.’ Fe wnaeth y rhoddwr (Miss Ceridwen E Lloyd), sef nith i Richard Evans, ysgrifennu llythyr gyda’r gwrthrych a ymunodd â’r casgliad yn 1962, yn nodi “roedd ganddo fwy o amynedd na llawer ohonom heddiw.” 

Roedd yr amynedd angenrheidiol i wneud gwniadwaith yn un o’r rhesymau pam ddaeth y grefft yn rhan o fywyd i rai mewn gwersylloedd milwrol. Yn ogystal â bod yn sgil ymarferol er mwyn gallu trwsio eu lifrau, roedd milwyr yn cael eu hannog i ddechrau gwnïo fel ffordd o ymlacio. Cefnogwyd y syniad gan fudiadau dirwest yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth iddynt weld gwnïo fel ffordd o gadw’r milwyr rhag demtasiynau yfed a gamblo, yn enwedig yng ngwres India. Roedd y grefft hefyd yn cael ei hybu fel rhan o therapi milwr mewn ysbyty er mwyn lleddfu diflastod. Mae yna enghraifft o waith tebyg yn y casgliad yn Sain Ffagan – gemwaith a gafodd ei greu gan y Corporal Walter Stinson pan roedd yn glaf yn Ysbyty VAD Sain Ffagan yn 1917-18.

Roedd gogwydd fwy emosiynol ar y math yma o waith hefyd. Weithiau, crewyd cwiltiau allan o lifrau cyd-filwyr a fu farw ar faes y gad i ddangos ffyddlondeb a gwladgarwch. Roedd gan y grefft bwrpas tu hwnt i’r cyfnod o ryfela hefyd, gan fod dysgu i wnïo yn gallu cael ei gysylltu ag ennill arian ar ôl gadael y fyddin. Yn y casgliad, mae yna ddarlun gwlân a oedd wedi ei brynu gan hen dad-cu y rhoddwr gan gyn-filwr oedd wedi colli ei goes wrth ymladd.

Mae llu o resymau felly i esbonio pam ddaeth gwniadwaith yn grefft fwy poblogaidd i filwyr. Daeth buddion y grefft i ddisgyblaeth a gwellhad milwyr â’r grefft oedd wedi ei hystyried yn un fenywaidd ar hyd y blynyddoedd yn rhan o hunaniaeth milwyr yn ystod y cyfnod hwn – ac ysbrydoli fy hen hen ewythr, yn bictiwr o wrywdod milwr gyda’i getyn a’i fwstash (trydydd o’r chwith yn y rhes gefn) i greu clytwaith fel anrheg i’w fam.

Apêl #Ryseitiau a Lluniau – Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Mared McAleavey, 24 Awst 2016

Mae’n anodd credu bod Gŵyl Fwyd Sain Ffagan ar y gorwel unwaith eto. Y llynedd, gofynnom i chi drydar eich hoff ryseitiau teuluol atom. Cawsom ymateb gwych gennych, diolch eto i bawb a gymerodd ran, gan ein galluogi greu arddangosfa hyfryd yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale dros yr Ŵyl.

Fel rhan o’r Ŵyl eleni, rydym yn lansio fersiwn digidol o gyfrol Amser Bwyd, a’r fersiwn Saesneg Welsh Fare, sef casgliad o ryseitiau traddodiadol a gasglwyd gan Minwel Tibbott. Pan gychwynnodd Minwel yn yr Amgueddfa ym 1969, maes hollol newydd oedd astudio bwydydd traddodiadol. Sylweddolodd yn fuan nad trwy lyfrau oedd cael y wybodaeth, a theithiodd ar hyd a lled Cymru yn holi, recordio a ffilmio’r to hynaf o wragedd. Roedd eu hatgofion o’r prydau a ddysgont gan eu mamau yn aml yn dyddio nôl i ddiwedd y 1800au.

Bydd modd nid yn unig darllen y ryseitiau hyn, ond i glywed rhai o’r gwragedd yn disgrifio’r prosesau a’u gweld yn paratoi’r prydau.  Rydym ninnau yn awyddus i ychwanegu at y casgliad hwn, ac yn gofyn yn garedig, wrth i ferw’r Great British Bake Off afael ynom unwaith eto, i rannu eich hoff ryseitiau teuluol gyda ni. Hoffem hefyd ychwanegu at ein casgliad o luniau o bobl yn cyd-fwyta a dathlu – boed hynny’n bobl yn mwynhau eich creadigaethau, yn ddathliad teuluol neu ffrindiau yn dod yn hyd.

Gallwch drydar eich ryseitiau a’ch delweddau a’r manylion i @archifSFarchive neu ar dudalen Facebook Sain Ffagan gan ddefnyddio’r hashnod #Ryseitiau #GwylFwyd. Fel arall, dowch â nhw i’r Ŵyl Fwyd, ac mi nawn ni eu sganio yn Sefydliad y Gweithwyr. Bydd y cyfan – yn ogystal â ryseitiau'r llynedd i’w gweld ar Gasgliad y Werin Cymru.

Cadwch lygaid ar y prosiect hwn drwy ddilyn cyfrifon trydar @archifSFarchive ac @SF_Ystafelloedd a’r hashnodau #GwylFwyd #Ryseitiau #AmserBwyd.

Community Family Learning at St Fagans, Update

Loveday Williams, 18 Awst 2016

Since the last post the local families coming to the Museum from Ely and Caerau have been enjoying taking part in a variety of exciting sessions, including:

  • experiencing what it was like to go to school in Victoria Wales
  • learning to handle a newt found during pond dipping in the Tannery ponds
  • making clay coil pots to take home.

So far 102 people have taken part in this programme of activities at St Fagans and the feedback from everyone has been overwhelmingly positive.

“I enjoyed the experience of going to a Victorian school because I learnt new things and how they learnt back then.”

“I had a good time holding a newt and looking at all the pond bugs.”

“Brill, we had lots of fun, will be coming back!”

“I liked pottery because you can get messy and it is crafty.”

“Calming session.”

The children are learning a lot, so are the parents, and so are we. We’re finding out just how much families love to learn together and the families are discovering all that the Museum has to offer them. Many of these families had not visited St Fagans until coming along to one of these sessions, and now they are thinking of coming back again. This is why we value our partnership with ACE Action Ely Caerau so much, as they are able to help us meet and work with these lovely groups to show them just how relevant the Museum on their doorstep can be to their lives.

With one more week to go we are looking forward to welcoming more families to Bryn Eryr, the Iron Aged farmstead, to help us with an authentic Iron Age smelt, and a very enthusiastic group who will be coming in to take part in a traditional weaving workshop.

Keep following this blog for more updates.

If you are interested in taking part in fun family activities and events at St Fagans over the summer there are lots of opportunities to get involved, just check our What’s On for more information.