Cregyn, Crafangau a Chanolfan Siopa
20 Awst 2014
,Mi ddechreues i sgrifennu post hir am orielau, ond beth ddois i yma i'w ddweud yw: dw i wedi mwynhau arddangosfa Mi Wela i... Natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd ar agor tan fis Ebrill 2015. Bob tro dw i wedi ymweld, mae'r lle wedi bod yn llawn teuluoedd, sgyrsiau, a phlant wedi gwisgo fel gwyddonwyr a thrychfilod, yn sboncio o un cesyn arddangos i'r llall.
Rho Mi wela i... Natur gyfle i ni weld y byd o safbwynt gwyddonydd, ystlum a phry. Yn wir, cyn belled â dy fod o dan 10, galli wisgo i fyny fel un cyn archwilio'r sbesimenau o'r casgliad trychfilod, cwrel wedi'i brintio ar argraffydd 3D, cwisiau rhyngweithiol a gweithgareddau. Mae'r sgrîn feicroscôp ryngweithiol enfawr soniodd David amdani yn ei flog yn eistedd o flaen wal wydr brydferth o sleidiau, o'r 100 mlynedd diwethaf. I'r rhai ohonoch sy'n hoffi chwarae labordy, mae yna feicroscôp gwyddonydd ar gael hefyd, gyda bwrdd troelli llawn sleidiau i'w harchwilio.
Mae'r tîm Mi Wela i... wedi bod yn teithio ar hyd Cymru gyda'u gwrthrychau hynod - er enghraifft, dyma @CardiffCurator yn gafael mewn gwrthrych anarferol iawn yn yr Eisteddfod:
Mae @CardiffCurator wedi denu lot o sylw gyda'i chragen enfawr ar stondyn @AmgueddfaCymru yn yr @eisteddfod heddi! pic.twitter.com/cxsOTVhg7r
— Gareth Bonello (@ghbonello) August 7, 2014
Bydd Fflach-Amgueddfa Mi Wela i... yn ymddangos am y tro olaf eleni, yng nghanolfan siopa Capitol yng Nghaerdydd, rhwng y 28ain a'r 30ain o Awst. Ymysg y gemwaith, y paneidiau a'r sêl-diwedd-tymor, cewch ddarganfod sgorpionau, bwystfilod bychain, ac wrth gwrs, cragen sy'n fwy na'ch pen! Galwch heibio rhwng 11am a 3pm i weld beth welwch chi!
We are here @Capitol_Cardiff with our pop up #IspyNature exhibition Come and meet our scientists @Museum_Cardiff pic.twitter.com/3YikdnBPfp
— Cardiff Curator (@CardiffCurator) July 24, 2014